Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Appendix A Fframwaith ACI

Mae'r atodiad hwn yn cyflwyno'r pynciau, yr amcanion a'r cwestiynau asesu cynaliadwyedd sy'n ffurfio fframwaith yr ACI.

Mae'r fframwaith ACI yn dwyn ynghyd amcanion yr ACI a nodwyd o dan bob thema drwy gwmpasu, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd ar gyfer pob thema. Gyda'i gilydd, mae amcanion yr ACI yn ffurfio fframwaith methodolegol sy'n llywio'r asesiad dilynol.

Cwestiwn 4: es gennych chi unrhyw sylwadau ar yr amcanion aci a'r cwestiynau asesu sydd wedi'u sefydlu i fynd i'r afael â'r materion allweddol?  

Tabl A.1: Amcanion ACI ar gyfer y CDLlN

Thema

Amcan ACI

Cwestiynau asesu - a fydd y cynllun/polisi yn helpu i:

Nodau lles perthnasol

Economi a chyflogaeth

Cefnogi economi gref, amrywiol, gynaliadwy a gwydn, gydag ymatebion arloesol i amodau newidiol a chymorth i weithlu cryf yn y dyfodol.

  • Ddarparu digon o dir i fusnesau dyfu a sicrhau cydweddiad â thai / seilwaith?
  • Cefnogi'r gwaith o greu swyddi newydd hygyrch a hwyluso gweithio o gartref a gweithio o bell?
  • Cefnogi Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, gan adlewyrchu ei phwysigrwydd rhanbarthol o ran denu mewnfuddsoddiad?
  • Sicrhau bod canol trefi yn cael eu hystyried yn gyntaf ar gyfer cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd?
  • Sicrhau bod cyfleusterau addysgol yn gyson â thwf y boblogaeth?
  • Gwella bywiogrwydd a gwydnwch canol trefi a chanolfannau manwerthu, gan gefnogi arallgyfeirio yn unol ag anghenion sy'n newid?
  • Diogelu ardaloedd cyflogaeth presennol?
  • Creu cyrchfan ddeniadol i dwristiaid?
  • Annog datblygu cynaliadwy a chyfleusterau o safon i gyfoethogi'r profiad i ymwelwyr a thrigolion?
  • Hyrwyddo economi werdd a datgarboneiddio?
  • Sicrhau bod yr economi'n tyfu mewn modd cynaliadwy?
  • Hyrwyddo Cymru lewyrchus?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Poblogaeth a chymunedau

Darparu digon o dai marchnad a thai fforddiadwy o ansawdd da, a seilwaith cymunedol, mewn lleoliadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion a nodwyd?

  • Diwallu'r anghenion tai a nodwyd, gan gynnwys anghenion tai fforddiadwy, pobl hŷn ac anghenion llety'r gymuned sipsiwn/teithwyr?
  • Sicrhau cymysgedd priodol o feintiau, mathau a deiliadaethau anheddau i ddiwallu anghenion pob sector o'r gymuned, yn benodol y boblogaeth hŷn sy'n prysur cynyddu?
  • Darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy sy'n galluogi mynediad hawdd i amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol?
  • Hyrwyddo datblygiad sy'n canolbwyntio ar dramwyo fel y gymdogaeth 20 munud?
  • Hyrwyddo datblygiad amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol hygyrch o ansawdd uchel, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol?
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu

Gwella ansawdd dylunio er mwyn creu lleoedd prydferth naturiol i bobl sy'n cynnal ac yn gwella hunaniaeth cymuned ac anheddiad.

  • Gwella cysylltedd rhwng cymunedau a hwyluso rhyngweithio cymdeithasol?
  • Hyrwyddo datblygiad amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol hygyrch o ansawdd uchel, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol?
  • Diogelu a gwella hunaniaeth gymunedol a natur unigryw a chefnogi cyfleoedd ar gyfer hamdden a thwristiaeth?
  • Atal aneddiadau rhag ymdoddi i'w gilydd a chadw natur agored tir, seilwaith gwyrdd a chysylltedd cynefinoedd?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu

Iechyd a lles

Gwella iechyd a lles trigolion Bro Morgannwg, trwy hyrwyddo lleoedd iach a chynaliadwy.

  • Annog ffyrdd iach o fyw a lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy ddarparu mannau agored, mannau chwarae a mannau tyfu bwyd a chymunedol?
  • Hyrwyddo mynediad da i gyfleusterau gofal iechyd, cymdeithasol a hamdden ar gyfer pob sector o'r gymuned?
  • Gwella cysylltedd a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd amlswyddogaeth ledled ardal y cynllun?
  • Darparu a gwella'r ddarpariaeth o ran mynediad cymunedol i fannau gwyrdd?
  • Gwella mynediad i fannau agored, cefn gwlad a chyfleusterau hamdden?
  • Cefnogi amgylcheddau iach/actif a chynhwysol?
  • Cefnogi'r gwaith o greu cymunedau cydlynus, cysylltiedig?
  • Darparu mannau chwarae ffurfiol ac anffurfiol a naturiol i blant sy'n ddiogel ac yn hawdd cael mynediad iddynt?
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y sir?
  • Cefnogi teithio llesol a gwelliannau i ansawdd aer?
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Leihau tlodi ac anghydraddoldeb; mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol

  • Lleihau anghydraddoldebau ac amddifadedd ar draws Bro Morgannwg, yn enwedig yn y wardiau â'r amddifadedd mwyaf a'r ardaloedd o amddifadedd cudd?
  • Gwella cyfle cyfartal ymhlith y grwpiau cymdeithasol hynny sydd â'r angen mwyaf?
  • Cyfrannu at leihad mewn troseddu, anhrefn gymdeithasol ac ofn troseddu, gan hyrwyddo cymdogaethau mwy diogel?
  • Hyrwyddo, cryfhau a gwella creu lleoedd?
  • Diogelu a darparu gwell cyfleusterau lleol, cymdeithasol a hamdden a mynediad i'r amgylchedd naturiol ar gyfer pob sector o'r gymuned, a gwella mynediad iddynt er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol a lles cymdeithasol?
  • Sicrhau cymysgedd priodol o feintiau, mathau a deiliadaethau anheddau i ddiwallu anghenion pob sector o'r gymuned?
  • Darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy sy'n galluogi mynediad hawdd i amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol?
  • Hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog y Fro a chynyddu datblygiad a defnydd o'r Gymraeg ym Mro Morgannwg?
  • Cefnogi'r boblogaeth sy'n heneiddio i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hallgáu'n gymdeithasol?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Newid yn yr hinsawdd

Cefnogi gwydnwch Bro Morgannwg i effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys llifogydd o ffynonellau afonol, arfordirol a dŵr wyneb.

  • Osgoi datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, gan ystyried effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol?
  • Cynyddu gwydnwch yr amgylchedd adeiledig a naturiol i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, yn enwedig mewn ardaloedd lle nodir llifogydd arfordirol ac afonol?
  • Sicrhau bod y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn cael eu hystyried mewn datblygiadau newydd yn ardal y cynllun?
  • Diogelu, gwella ac estyn rhwydweithiau seilwaith gwyrdd yn ardal y cynllun i gefnogi addasu i'r newid yn yr hinsawdd?
  • Defnyddio seilwaith gwyrdd i reoli dŵr ffo yn gynaliadwy, gan leihau dŵr ffo a dŵr wyneb, wrth greu cyfleoedd i sefydlu cynefinoedd, plannu coed a chreu mannau agored?
  • Lleihau'r perygl o lifogydd i seilwaith allweddol, megis trafnidiaeth a phŵer?
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Lleihau cyfraniad Bro Morgannwg at y newid yn yr hinsawdd yn sgil gweithgareddau sy'n arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyfrannu at ddiwallu targed sero net y Cyngor.

  • Cynyddu nifer y datblygiadau newydd sy'n bodloni neu'n rhagori ar feini prawf dylunio cynaliadwy?
  • Lleihau'r defnydd o ynni o ffynonellau anadnewyddadwy?
  • Cynhyrchu ynni o ffynonellau carbon isel neu ddi-garbon?
  • Lleihau'r angen i deithio neu nifer y teithiau a wneir?
  • Blaenoriaethu moddau trafnidiaeth cynaliadwy drwy annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded?
  • Sicrhau nad yw datblygu gwledig yn cyfrannu at gynnydd pellach yn y defnydd uchel o ynni a theithio anghynaladwy?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Trafnidiaeth a symud

Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy a lleihau'r angen i deithio.

  • Lleihau'r angen i deithio a hynny drwy batrymau cynaliadwy o ddefnyddio a datblygu tir?
  • Creu cyfleoedd i wella amlder ac argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig?
  • Annog newid moddol i ddulliau teithio mwy cynaliadwy a llesol, fel cerdded a beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
  • Cefnogi cyfleoedd ar gyfer newid moddol fel y nodir ym Mhrosiect Metro De Cymru?
  • Blaenoriaethu opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy o ran defnyddio ceir lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys darparu digon o opsiynau parcio a storio beiciau?
  • Galluogi gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth?
  • Darparu rhwydweithiau teithio llesol a'u gwella lle bo angen?
  • Cefnogi'r defnydd o drafnidiaeth carbon isel fel e-feiciau a bysus trydan?
  • Cyfrannu at y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan?
  • Hwyluso gweithio gartref a gweithio o bell?
  • Darparu gwelliannau i'r rhwydwaith priffyrdd presennol a/neu leihau tagfeydd ar y priffyrdd?
  • Cyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Adnoddau naturiol

Nodi a mynd ar drywydd unrhyw gyfleoedd i leihau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer cymaint â phosib.

  • Lleihau'r angen i deithio?
  • Annog teithiau i gael eu gwneud trwy ddulliau cynaliadwy (teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus)?
  • Osgoi unrhyw effeithiau andwyol ar ansawdd aer ac ar gyfer pobl sy'n agored i ansawdd aer gwael?
  • Gwella ansawdd aer mewn meysydd a nodwyd fel rhai sy'n peri pryder?
  • Hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o gerbydau trydan?
  • Hyrwyddo dylunio da er mwyn osgoi effeithiau ar ansawdd aer a lleihau sŵn a diogelu, ymgorffori a gwella rhwydweithiau seilwaith gwyrdd er mwyn hwyluso mwy o amsugno a gwasgaru NA2 a llygryddion eraill?
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd o'r blaen ac adeiladau sy'n bodoli eisoes i leihau'r pwysau ar gyfer datblygu meysydd glas a diogelu tir amaethyddol gradd uwch, lle y bo'n bosibl.

  • Lleihau colli tir amaethyddol o safon uchel bosibl i ddatblygiadau?
  • Diogelu a lleihau colli'r adnodd pridd ac annog rheolaeth briodol i wella ei swyddogaethau storio carbon a rheoli dŵr?
  • Annog y defnydd o dir a ddatblygwyd o'r blaen?
  • Annog gwaith adfer sy'n gysylltiedig â datblygu a allai leihau presenoldeb tir halogedig ym Mro Morgannwg?
  • Cymru Wydn
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Diogelu adnoddau mwynau a chefnogi'r gwaith o reoli gwastraff.

  • Mynd i'r afael â gwastraff trwy leihau gwastraff fel blaenoriaeth?
  • Rheoli gwastraff yn unol â'r hierarchaeth gwastraff ac yng nghyd-destun 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'?
  • Osgoi sterileiddio adnoddau mwynau lle bo hynny'n bosibl?
  • Cymru Wydn
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Gwarchod, diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr, ansawdd y dŵr ac adnoddau dŵr.

  • Lleihau'r defnydd o ddŵr?
  • Sicrhau y gellir darparu cyflenwad digonol o ddŵr i gynnal y datblygiad gan ystyried amcanestyniadau presennol ac yn y dyfodol o argaeledd dŵr a defnydd dŵr?
  • Lleihau'r potensial ar gyfer halogi cyrff dŵr a chyrsiau dŵr?
  • Lleihau'r potensial i arferion amaethyddol gyfrannu at lygru sy'n seiliedig ar nitradau ar grynofeydd a chyrsiau dŵr ?
  • Cymru Wydn
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Bioamrywiaeth a geoamrywiaeth

Diogelu a gwella bioamrywiaeth o fewn Bro Morgannwg a'r cyffiniau.

  • Lleihau'r effeithiau ar fioamrywiaeth ddynodedig a phwysig a darparu buddion net lle bo hynny'n bosibl?
  • Diogelu a gwella rhwydweithiau ecolegol, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffiniau gweinyddol?
  • Cefnogi cyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd, sydd â buddion canlyniadol i fywyd gwyllt, gan gysylltu cynefinoedd ac osgoi darnio cynefinoedd?
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Amgylchedd hanesyddol:

Cadw a gwella adnodd treftadaeth Bro Morgannwg, gan gynnwys ei hamgylchedd hanesyddol a'i hasedau archeolegol.

  • Gwarchod a gwella arwyddocâd adeiladau ac adeileddau o ddiddordeb pensaernïol a/neu hanesyddol, y rhai dynodedig a heb eu dynodi fel ei gilydd, a'u lleoliad?
  • Gwarchod a gwella diddordeb, cymeriad a golwg arbennig ardaloedd cadwraeth a'u lleoliadau?
  • Gwarchod a gwella olion archeolegol, ac ardaloedd sy'n sensitif yn archeolegol, a chefnogi'r gwaith o gynnal ymchwiliadau archeolegol a, lle y bo'n briodol, argymell strategaethau lliniaru?
  • Cefnogi mynediad i'r amgylchedd hanesyddol a diwylliannol, ei ddehongli a'i ddeall, gan gynnwys y Gymraeg?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Bro Morgannwg.

  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Y Dirwedd

Diogelu a gwella ansawdd a chymeriad tirwedd, morwedd a threflun Bro Morgannwg.

  • Sicrhau bod tirweddau, trefluniau a morweddau mwyaf gwerthfawr Bro Morgannwg yn cael eu diogelu a'u gwella?
  • Defnyddio nodweddion tirwedd naturiol newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli i liniaru unrhyw effeithiau posibl o ran dehongliadau cyfagos ac o bell ar ei thirweddau?
  • Darparu cyfleoedd i gysylltu coetiroedd tameidiog presennol, cyflwyno coetiroedd newydd, a gwella'r broses o reoli coetiroedd a gwrychoedd
  • Gwarchod a gwella diddordeb, cymeriad a golwg arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg a'i leoliad?
  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Wydn
  • Cymru Iachach
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig