Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022

4. Iechyd a lles

4.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar iechyd cyffredinol y boblogaeth ym Mro Morgannwg, yn ogystal â mynediad i fannau agored a chyfleusterau chwarae, cyfleusterau gofal iechyd a theithio llesol. Mae hefyd yn cyfeirio at gelfyddyd gyhoeddus gan y profwyd bod y celfyddydau'n cyfrannu'n fawr at iechyd a lles pobl yn feddyliol ac yn gorfforol.

Cyd-destun polisi

4.2 Mae Tabl 4.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 4.1 Cyd-destun polisi

4.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:

  • Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir yng Nghymru, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith / twf newydd. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod Bro Morgannwg o fewn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, y lleiaf o'r pedwar rhanbarth yn ôl arwynebedd, sy'n cynnwys dinasoedd arfordirol Caerdydd a Chasnewydd a chyn-gadarnleoedd diwydiannol cymoedd De Cymru. Mae Cymru'r Dyfodol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiadau'r rhanbarth â rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Cymru a rhanbarth Gorllewin Lloegr. Bydd hyrwyddo hygyrchedd a rhyng-gysylltiadau (h.y. trafnidiaeth gynaliadwy a chyflogaeth) ar draws y rhanbarthau, ynghyd â darparu'r seilwaith digidol angenrheidiol, o fudd i iechyd corfforol a meddyliol y boblogaeth. Yn ogystal, bydd cefnogi Bro Morgannwg fel ardal gyda gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol ynghyd â seilwaith digidol a gwyrdd yn cael effaith fuddiol ar les cyffredinol y trigolion.
  • Bydd angen i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â PCC sy'n ceisio sicrhau'n bennaf bod penderfyniadau cynllunio yn cefnogi pob agwedd ar les. Mae PCC yn gosod y cysyniad o wneud lleoedd wrth wraidd polisi cynllunio cenedlaethol i gyflwyno datblygiad newydd sy'n gynaliadwy ac yn darparu ar gyfer anghenion pob person.
  • Ategir PCC gan NCTau, sy'n gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy o fewn y system gynllunio a darparu polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas ag iechyd. Yn benodol bydd angen i'r CDLlN:
    ─ Gyfrannu at y gwaith o ddiogelu a, lle bo modd, wella iechyd a lles pobl fel elfen graidd cyflawni'r nodau lles ac ymateb i'r newid yn yr hinsawdd.
    ─ Bydd ystyried effeithiau posibl datblygu – y rhai cadarnhaol a/neu negyddol – ar iechyd pobl ar gam cynnar yn helpu i egluro perthnasedd iechyd a'r graddau y mae angen ei ystyried.
    ─ Dylid cynllunio polisïau cynlluniau datblygu i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod datblygiadau sy'n sensitif i sŵn, fel ysbytai, ysgolion, a thai, sydd angen cael eu lleoli yn agos at y seilwaith trafnidiaeth presennol i hwyluso mynediad, wedi'u cynllunio mewn modd sy'n cyfyngu ar lefelau sŵn o fewn ac o amgylch y datblygiadau hynny; a
    ─ Dylai polisïau cynlluniau datblygu a phenderfyniadau o ran ceisiadau cynllunio ystyried amcanion ansawdd aer cenedlaethol, gan gydnabod eu bod yn cynrychioli trothwy pragmatig y mae'r llywodraeth, os yw'r lefel yn uwch na hwn, yn ystyried bod y risgiau i iechyd yn gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol.
  • Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu canllawiau ar effeithiau iechyd sŵn a dangosyddion cenedlaethol a bennwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ynghyd â gwybodaeth o adroddiadau ansawdd aer blynyddol yr awdurdod lleol, mapiau sŵn cenedlaethol ac unrhyw ddatganiadau ardal a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Mae'r adroddiad Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Ymgorffori Templed ar gyfer Polisi Cynllunio yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol bras sy'n effeithio ar iechyd, lles ac anghydraddoldeb, ac yn rhoi canllawiau ar gyfer sut y gall polisïau a chynlluniau ymateb i'r materion hyn.
  • Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru yn datblygu'r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'r nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Mae'r siarter yn amlinellu'r chwe egwyddor creu lleoedd canlynol sy'n ymdrin â'r amrywiaeth o ystyriaethau sy'n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da:
    ─ Pobl a'r gymuned.
    ─ Symudiad.
    ─ Lleoliad.
    ─ Tir cyhoeddus.
    ─ Cymysgedd o ddefnyddiau; a
    ─ Hunaniaeth.
  • Mae Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn[69] yn nodi 'Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill'. Roedd adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, Symud Ymlaen: Symud Mwy, Symud yn Amlach (2018) yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae'n actif i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae bod â lleoedd croesawgar, digon o amser a chwmni pobl eraill i chwarae bob dydd yn bwysig iawn i bob plentyn a'r rhai yn eu harddegau.
  • Ym mis Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cynlluniau teithio llesol yn cael hwb ariannol o fwy na £53 miliwn fel rhan o ymdrechion y Llywodraeth i annog teithio iach. Yn ogystal, bydd disgyblion yn cael cymorth i gyrraedd yr ysgol trwy'r grant 'Llwybrau Diogel mewn Cymunedau', gan gefnogi cynlluniau ledled Cymru. Bydd hyn yn cyfrannu at gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd ac a gytunwyd arnynt trwy'r gwahanol strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles a nodwyd yn Nhabl 4.1 uchod.
  • Yn 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws[70], sy'n nodi effeithiau cymdeithasol, economaidd a lles y pandemig ar gymunedau ac yn gosod ei flaenoriaethau allweddol. Mae hyn yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Fro 2020-2025. Yn benodol, mae amcanion yn cynnwys 'gweithio mewn partneriaeth i wneud y gorau o les corfforol a meddyliol pobl' a 'deall sut mae ein hamgylchedd yn cyfrannu at les unigol, cymunedol a byd-eang.'
  • Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg wrthi'n gwneud cais am statws Sy'n Dda i Bobl Hŷn gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn y Fro. Bydd y statws hwn yn gydnabyddiaeth bod y Fro yn ardal lle mae pobl o bob oed yn gallu byw yn hapus ac yn iach, yn enwedig wrth iddyn nhw dyfu'n hŷn. Roedd adroddiad 2019 Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, Ail-ddychmygu Heneiddio i'r Dyfodol, yn pwysleisio effeithiau allweddol yr amgylchedd adeiledig a naturiol ar iechyd a lles pobl hŷn.

Crynodeb sylfaenol

Iechyd cyffredinol

4.4 Mae'r tueddiadau canlynol wedi'u nodi o ran iechyd cyffredinol ym Mro Morgannwg:[71],[72]

  • Mae oedolion ym Mro Morgannwg yn cofnodi iechyd da yn gyffredinol o'u cymharu â chyfoedion mewn rhannau eraill o Gymru.
  • Ar gyfer menywod a dynion, mae Bro Morgannwg yn cofnodi un o'r disgwyliadau oes cyfartalog uchaf adeg eu geni.
  • Mae cyfradd marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy ymhlith yr isaf yng Nghymru, a'r gyfradd marwolaethau y gellir eu hosgoi yw'r ail isaf yng Nghymru.
  • Mae annhegwch clir o ran iechyd rhwng y rhai sy'n byw yn ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig Bro Morgannwg. Nid yn unig y disgwylir i'r rhai o ardaloedd mwy difreintiedig fyw am lai o flynyddoedd, ond yn ystod eu bywydau maent mewn mwy o berygl o ddioddef cyflyrau cronig, salwch hirdymor cyfyngol, cyflyrau iechyd meddwl ac, o ganlyniad, marwolaeth gynamserol.
  • Yn gyffredinol, mae oedolion ym Mro Morgannwg yn cofnodi eu bod yn ymgymryd ag ymddygiadau iach uwchben cyfartaledd cenedlaethol Cymru. Ond mae yfed alcohol uwchben y canllawiau yn parhau'n bryder ym Mro Morgannwg, yn enwedig yng Ngorllewin y Fro.
  • Mae gwahaniaethau o ran ymgymryd ag ymddygiad iach rhwng yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf a mwyaf, gyda'r rhai yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yn llai tebygol o ymgymryd ag ymddygiadau iach ac yn fwyaf tebygol o brofi canlyniadau iechyd gwael o ganlyniad.
  • O ran lles, mae ychydig mwy o bobl ym Mro Morgannwg yn dweud eu bod yn fodlon ar le maent yn byw na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.
  • Erbyn 2035, amcangyfrifir y bydd dementia gan 3,311 o boblogaeth y Fro sy'n 65 oed ac yn hŷn.
  • Bro Morgannwg sydd â'r raddfa isaf o ordewdra ymysg plant yng Nghymru, sef 7.1% yn ôl y Rhaglen Mesur Plentyndod. Mae'r cyfraddau uchaf yn yr ardaloedd â lefelau uwch o amddifadedd.
  • Bro Morgannwg sydd â'r ganran uchaf o oedolion (16+) sy'n yfed dros y canllawiau cenedlaethol yng Nghymru. Credir bod 25.5% o oedolion yn y Fro yn yfed mwy na'r canllawiau cenedlaethol o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19.1%.

Mannau agored a chyfleusterau chwarae

Mannau agored

4.5 Gall mynediad i fannau agored fod â buddion sy'n feddyliol ac yn gorfforol. Felly, gall ardaloedd lle mae diffyg arwain at boblogaeth nad yw'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol anffurfiol, ynghyd ag effeithiau eraill sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb amgylcheddol. Yn hyn o beth, mae'r CDLl mabwysiedig yn dyrannu sawl man agored cyhoeddus gan gynnwys Glannau'r Barri, Parciau Gwledig dynodedig, caeau, a thir fferm. Dangosir mannau gwyrdd y Fro yn Ffigur 4.1 drosodd, gyda Pharciau Gwledig a Thir Comin wedi'u nodi ar wahân.

4.6 Fel y dangosir yn Ffigur 4.1, mae mannau gwyrdd dynodedig yn gymharol ysbeidiol ar draws y Fro, gydag ardaloedd sylweddol o Dir Comin i'r dwyrain o'r Bont-faen ac o fewn Saint-y-brid yng ngogledd-orllewin y Fro.

4.7 Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod dau Barc Gwledig y Fro yn sylweddol o ran maint, sef Llynnoedd Cosmeston a Phorthceri, sydd yn ne-orllewin yr awdurdod.

4.8 Yn benodol, mae Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, a ddynodwyd yn Barc Gwledig ym 1978, yn cwmpasu ardal o fwy na 100 hectar.[73] Mae'r Parc yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hamdden anffurfiol yn agos i nifer fawr o drigolion Bro Morgannwg. O gwmpas dwy chwarel wedi'u boddi, mae'r parc gwledig yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn darparu amrywiaeth eang o gynefinoedd naturiol a rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid.

4.9 Mae 597 hectar o dir mynediad ar draws y Fro (lle gall pobl gerdded i unrhyw le, yn lle gorfod cadw at lwybrau llinellol), gyda 91 hectar o hyn yn goetir a reolir gan CNC. Mae cyfanswm o 2% o arwynebedd Bro Morgannwg yn dir mynediad.[74]

4.10 Mae gan y Fro hygyrchedd da i arfordir Cymru, gan gynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Llwybr Arfordir Cymru Gyfan, y mae mynediad iddo'n cefnogi iechyd a lles.

4.11 Mae gan y celfyddydau nifer o fanteision sy'n cynnwys cyfrannu at iechyd a lles pobl yn feddyliol ac yn gorfforol. Gall celf gyhoeddus ychwanegu at ansawdd yr amgylchedd adeiledig gan wella ble a sut mae pobl yn byw. Gall mannau agored cyhoeddus ddarparu cyfleoedd i integreiddio celf gyhoeddus newydd ac mae nifer o enghreifftiau da o hyn yn y Fro.

Ffigur 4.1 Mannau gwyrdd ac agored

Map yn dangos lleoliad mannau gwyrdd dynodedig a Thir Comin ym Mro Morgannwg. Mae mannau gwyrdd dynodedig i’w cael hwnt ac yma ar hyd y Fro, ond y mae nifer sylweddol yn y de-orllewin, o gwmpas Y Barri, Dinas Powys a Phenarth. Ceir hefyd gryn dipyn o fannau gwyrdd dynodedig rhwng Tresimwn a Sain Nicolas, rhwng Ystradowen a Phendeulwyn ac yn Ogwr. Mae’r map hwn hefyd yn nodi lleoliad Parc Gwledig Porthceri a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, ill dau yn rhan dde-orllewinol yr awdurdod. Mae darnau o Dir Comin hefyd i’w cael yma a thraw ledled y Fro, gydag ardaloedd sylweddol i’r dwyrain o’r Bontfaen ac yn Saint-y-brid yng ngogledd-orllewin y Fro.

Cyfleusterau chwarae

4.12 Gall cael mynediad i fannau chwarae hamdden megis parciau a meysydd chwarae wella lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc a gall leihau'r risg o ordewdra. Gall mannau chwarae fod yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a dylai fod yn hawdd cael mynediad iddynt.

4.13 Yn Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae Bro Morgannwg (2019) tynnwyd sylw at y ffaith fod rhai plant a phobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael trafferth cael mynediad i gyfleoedd chwarae oherwydd heriau fel teithio i'r cyfleuster. Fodd bynnag, nodwyd hefyd bod rhai plant a phobl ifanc o ardaloedd nad oeddent yng nghefn gwlad hefyd yn cael anawsterau wrth geisio manteisio ar gyfleoedd chwarae awyr agored ynglŷn â'u gallu i deithio i'r lleoliadau o'u dewis. Mae tynnu sylw at bwysigrwydd cael mynediad i wasanaethau trafnidiaeth dda yn gallu cael effaith uniongyrchol ar eu lles. Mae'r Asesiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod llawer o blant mewn aneddiadau gwledig a threfol o'r farn bod cyflwr offer chwarae yn wael.[75]

Tyfu bwyd

4.14 Mae cael mynediad i amgylchedd bwyd sy'n hyrwyddo dewisiadau bwyd iach yn elfen hanfodol o fynd i'r afael â materion iechyd fel gordewdra, bod dros bwysau a chyflyrau cronig hirdymor. Gall amgylcheddau tyfu bwyd fod yn erddi preifat, yn rhandiroedd neu'n lleoedd tyfu bwyd y tu allan i adeiladau cymunedol.

4.15 Nodir bod y Cyngor hefyd yn cynnal deg safle rhandiroedd ledled y Fro. Mae wyth yn y Barri a dau yng Ngorllewin y Fro.

Cyfleusterau gofal iechyd

4.16 Fel y dangosir yn Ffigur 4.2 drosodd, mae cyfanswm o 28 fferyllfa, 21 meddygfa (13 practis ac 8 meddygfa gangen), 20 deintyddfa ac 20 siop optegydd yn y Fro. Mae cyfleusterau iechyd wedi'u lleoli'n bennaf o amgylch canol y Barri, y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr.

4.17 Mae Ffigur 4.2 yn dangos bod dau ysbyty ym Mro Morgannwg hefyd, sef yn y Barri ac yn Llandochau.

Ffigur 4.2 Cyfleusterau gofal iechyd

Map yn dangos lleoliad fferyllfeydd, deintyddion, meddygfeydd meddygon teulu, ysbytai ac optegwyr ar draws Bro Morgannwg. Mae’n bwysig nodi bod rhai gwasanaethau megis optegwyr, fferyllfeydd etc. yn y canolfannau meddygol a fapiwyd yn Ffigur 4.2 fel meddygfeydd meddygon teulu. Mae cyfleusterau gofal iechyd wedi eu dosbarthu ar draws y Fro fel a ganlyn:

Cyfleusterau Gofal Iechyd
Meddygfeydd Meddygon Teulu Y Barri
Y Bontfaen 
Dinas Powys 
Llanilltud Fawr
Penarth
Y Rhŵs 
Sain Tathan
Sili
Deintyddion Y Barri
Y Bontfaen 
Dinas Powys
Llanilltud Fawr
Penarth
Y Rhŵs
Ysbytai Y Barri 
Llandochau (Penarth) 
Optegwyr Y Barri 
Y Bontfaen 
Croes Cwrlwys
Llanilltud Fawr
Penarth
Y Rhŵs
Fferyllfeydd Y Barri
Y Bontfaen
Croes Cwrlwys
Dinas Powys 
Llanilltud Fawr
Penarth
Y Rhŵs 
Sain Tathan 
Sili 

 

Teithio llesol

4.18 Ystyr teithio llesol yw cerdded a beicio (gan gynnwys defnyddio sgwteri symudedd) ar gyfer teithiau pob dydd. Mae hyn yn cynnwys teithiau i'r ysgol, i'r gwaith, i'r siopau neu i gael mynediad i wasanaethau e.e. canolfannau iechyd neu hamdden.[76]

4.19 Mae darpariaeth seilwaith teithio llesol ym Mro Morgannwg ar gynnydd, ac yn gyffredinol mae lefelau perchnogaeth ceir yn gostwng. Fodd bynnag, defnydd ceir preifat yw'r dull pennaf o deithio yn yr awdurdod o hyd.[77] Gall gostyngiad yn y defnydd o geir a mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio llesol (cerdded a beicio) wella iechyd a lles, lleihau'r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd y gall teithio mewn ceir eu hachosi, cynnig gwell mynediad i wasanaethau a chyfleusterau a all, yn ei dro, gynnig cyfleoedd economaidd gwell a lleihau'r potensial ar gyfer damweiniau traffig.

4.20 Mae Cynllun Gweithredu Teithio Llesol Cymru Llywodraeth Cymru (2016)[78] yn nodi'r weledigaeth: "I bobl yng Nghymru, rydyn ni eisiau i gerdded a beicio fod y ffordd a ffefrir o deithio pellterau byrrach."

4.21 Mae Ffigur 4.3 drosodd yn dangos helaethrwydd llwybrau cerdded a beicio ledled y Fro. Mae llwybrau teithio llesol yn seiliedig ar brif aneddiadau'r Fro, gan ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy i gymunedau ar gyfer mynediad i ganolfannau lleol, gan hwyluso teithiau o ddydd i ddydd. Mae 544 cilometr o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yn ymestyn ar draws y Fro, gan gysylltu cymunedau a chefnogi lleoedd iach. Nodir bod 61 km o'r cyfanswm hwn yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, a ddefnyddir yn arbennig ar gyfer hamdden a rhesymau cymdeithasol yn ogystal â theithio at ddibenion pob dydd.[79]

4.22 Fel y dangosir yn Ffigur 4.3, gyda 53 cilometr o arfordir, mae Bro Morgannwg yn ffurfio rhan annatod o Lwybr yr Arfordir sy'n ymestyn o Fae Caerdydd / Aber Elái yn y dwyrain i Afon Ogwr yn y gorllewin. Gan gydnabod y gwerth hamdden, ers 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwella mynediad cyhoeddus i arfordir Cymru trwy ei Rhaglen Gwella Mynediad i'r Arfordir (RhGMA).[80] Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol ar 5 Mai 2012, ac ers hynny mae'r cynllun wedi parhau i wella hygyrchedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr trwy wella llwybrau presennol a datblygu llwybrau newydd. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r rhaglen wedi creu llwybr cerdded a beicio o ansawdd uchel o amgylch arfordir Cymru.

4.23 Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n ymestyn trwy orllewin a chanol y Fro, gan gysylltu â'r Barri yn y de, drwodd i Benarth. (Ymdrinnir ymhellach â hyn ym Mhennod 7.) Mae hyn yn cefnogi teithio llesol rhwng aneddiadau ymhellach. Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi gosod gorsafoedd E-feiciau ar draws Bro Morgannwg i annog y defnydd o deithio llesol.

4.24 Mae'r Ffigur 4.4 drosodd yn dangos mannau gwyrdd mewn perthynas â llwybrau teithio llesol, gan nodi hygyrchedd i'r mannau hyn trwy'r modd trafnidiaeth hwn.

4.25 Ymdrinnir ymhellach â seilwaith / darpariaeth trafnidiaeth gynaliadwy y Fro ym Mhennod 7 yr adroddiad hwn.

Ffigur 4.3 Darpariaeth Teithio Llesol bresennol a darpariaeth cerdded a beicio

Mae’r map hwn yn nodi llwybr arfordir y Fro ar hyd arfordir deheuol yr awdurdod o Ogwr i Benarth. Hefyd, mae’n dangos y llwybrau teithio llesol lleol a’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n rhedeg trwy’r Fro; mae rhan fawr o’r awdurdod yn hygyrch trwy Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Hefyd, mae nifer o lwybrau teithio llesol ar gael: yn Y Bontfaen, Y Barri, Dinas Powys a Phenarth. Mae teithio llesol hefyd yn cael ei hwyluso o ogledd-orllewin y Fro i lawr tuag at Lanilltud Fawr ac yna rhwng nifer o aneddfannau mwy gwledig megis Trefflemin a Llancarfan ac yna tuag at Y Rhŵs a Phorthceri oherwydd bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yno. Mae nifer o’r llwybrau teithio llesol lleol mewn mannau fel Llanilltud Fawr a’r Barri yn dueddol o ymgorffori’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol hefyd.

Ffigur 4.4 Mannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol

Mae’r map hwn yn darlunio’r Parciau Gwledig, darnau o Dir Comin a mannau gwyrdd dynodedig a ddangoswyd yn Ffigur 4.1. Fodd bynnag mae’r map hwn hefyd yn nodi llwybr arfordir y Fro ar hyd arfordir deheuol yr awdurdod o Ogwr i Benarth. Hefyd, mae’n dangos y llwybrau teithio llesol lleol a’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n rhedeg trwy’r Fro; mae rhan fawr o’r awdurdod yn hygyrch trwy Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Hefyd, mae nifer o lwybrau teithio llesol ar gael: yn Y Bontfaen, Y Barri, Dinas Powys a Phenarth. Mae teithio llesol hefyd yn cael ei hwyluso o ogledd-orllewin y Fro i lawr tuag at Lanilltud Fawr ac yna rhwng nifer o aneddfannau mwy gwledig megis Trefflemin a Llancarfan ac yna tuag at Y Rhŵs a Phorthceri oherwydd bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yno. Mae nifer o’r llwybrau teithio llesol lleol mewn mannau fel Llanilltud Fawr a’r Barri yn dueddol o ymgorffori llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol y Fro (a ddangosir yn Ffigur 4.3).

Llinell sylfaen y dyfodol

4.26 Ceir anghydraddoldeb iechyd yn y Fro, nid dim ond o ran ffyrdd iach o fyw ond ar draws ystod eang o ddangosyddion sy'n cael effaith ar les unigolyn. Er enghraifft, mae sawl ardal yn rhan ddwyreiniol fwy difreintiedig y Barri lle mae cyrhaeddiad addysgol yn is, gan gysylltu â lefelau cyflogaeth is. Mae lefelau uchel o orboblogi ac mae niferoedd uchel o bobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae mynediad i amgylcheddau iach, gan gynnwys seilwaith gwyrdd a mannau gwyrdd, yn dod yn fwyfwy pwysig, yn enwedig ers dechrau pandemig Covid-19, a arweiniodd at nifer uwch o bobl yn chwilio am fannau gwyrdd ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol.

4.27 Felly, dylai'r CDLlN ganolbwyntio ar wella mynediad i fannau gwyrdd a chysylltedd â mannau gwyrdd sy'n cynnal a gwella rhwydweithiau teithio llesol a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd, a diwallu anghenion seilwaith cymunedol ac ati ledled y Fro. Mae hyn yn debygol o gefnogi gwelliannau hirdymor mewn pocedi o amddifadedd lle maen nhw'n bodoli, gan wella iechyd a lles cyffredinol y trigolion. Mae cydraddoldeb o ran mynediad i gyfleusterau, gwasanaethau, mannau gwyrdd, manwerthu a hamdden yn hanfodol i alluogi pobl i wella a chynnal iechyd a lles da.

4.28 Er yr ymddengys fod asedau gofal iechyd mewn lleoliadau cymharol dda yn ardal y cynllun, dylid ceisio galluogi mwy o hygyrchedd i'r rhai sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef canlyniadau iechyd gwael, yn enwedig yn yr ardaloedd o amddifadedd uwch, fel yr ymdrinnir ag ef ym Mhennod 5.

Prif faterion

4.29 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • Mae iechyd cyffredinol trigolion Bro Morgannwg yn dda. Mae oedolion yn cofnodi iechyd da o gymharu â gwahanol ardaloedd yng Nghymru, ac ar gyfer merched a dynion, mae Bro Morgannwg yn cofnodi un o'r disgwyliadau oes cyfartalog uchaf adeg eu geni.
  • Ceir mannau agored hygyrch i'r cyhoedd ledled y Fro gyda'r ddarpariaeth fwyaf yn y de-ddwyrain, oherwydd y ddau Barc Gwledig mawr sydd yno. Ond mae mannau agored yn yr ardaloedd trefol yn dameidiog gyda diffyg cysylltedd. Mae llawer o dir comin a mannau gwyrdd hefyd yng ngogledd-orllewin y Fro ger Saint-y-brid.
  • Mae Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae'r Cyngor yn tynnu sylw at y ffaith fod rhai plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i gyfleoedd chwarae oherwydd eu gallu cyfyngedig i deithio i'r lleoliadau o'u dewis, a bod llawer o blant mewn aneddiadau gwledig a threfol o'r farn bod cyflwr yr offer chwarae yn wael.
  • Mae rhwydweithiau teithio llesol yn dda, yn benodol mae'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ymestyn ledled y Fro, gyda llwybrau teithio llesol lleol wedi'u seilio'n bennaf ar y prif aneddiadau. Mae'r ddarpariaeth hon yn cysylltu pobl a lleoedd, gan arwain at welliannau iechyd trwy newid moddol, yn enwedig ar gyfer teithiau byrrach. Mae'r Cyngor yn parhau i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol o fewn yr awdurdod trwy grant Llywodraeth Cymru a thrwy arian adran 106 a sicrhawyd gan y Cyngor fel rhan o ddatblygiadau newydd.
  • Mae darpariaeth fawr o gyfleusterau gofal iechyd ym Mro Morgannwg. Mae cyfleusterau iechyd wedi'u lleoli'n bennaf o amgylch canol y Barri, y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr.
  • Erbyn 2035, amcangyfrifir y bydd dementia gan 3,311 o boblogaeth y Fro sy'n 65 oed neu'n hŷn. Bydd y CDLl yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, yn enwedig trwy dai a chyfleusterau priodol i bobl sy'n perthyn i'r categori hwn.

Amcanion ACI

4.30 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu – a fydd y cynllun / polisi yn helpu i:

Wella iechyd a lles trigolion Bro Morgannwg, trwy hyrwyddo lleoedd iach a chynaliadwy.

  • Annog ffyrdd iach o fyw a lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy ddarparu mannau agored, mannau chwarae a mannau tyfu bwyd a chymunedol?
  • Hyrwyddo mynediad da i gyfleusterau gofal iechyd, cymdeithasol a hamdden ar gyfer pob sector o'r gymuned?
  • Gwella cysylltedd a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd amlswyddogaeth ledled ardal y cynllun?
  • Darparu a gwella'r ddarpariaeth o ran mynediad cymunedol i fannau gwyrdd?
  • Gwella mynediad i fannau agored, cefn gwlad a chyfleusterau hamdden?
  • Cefnogi amgylcheddau iach/actif a chynhwysol?
  • Cefnogi'r gwaith o greu cymunedau cydlynus, cysylltiedig?
  • Darparu mannau chwarae ffurfiol ac anffurfiol a naturiol i blant sy'n ddiogel ac yn hawdd cael mynediad iddynt?
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y sir?
  • Cefnogi teithio llesol a gwelliannau i ansawdd aer?

 


[69] Unicef (dim dyddiad): 'Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[70]Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[71]Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Cynllun Corfforaethol'

[72]BGC Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles Bro Morgannwg – Adroddiad Iechyd a Chymunedau'

[73]Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Parc Gwledig Llynoedd a Phentref Canoloesol Cosmeston', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[74] Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad): 'Amgylchedd Bro Morgannwg, ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[75] Ibid

[76] Cyngor Bro Morgannwg (dyddiad anhysbys) Hafan > Byw > Teithio Llesol ar gael [ar-lein] yn: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/Transportation/Active-Travel.aspx

[77]3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cyngor Gorllewin Morgannwg (2021)

[78]Llywodraeth Cymru (2016): 'Cynllun Gweithredu Teithio Llesol i Gymru', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[79] Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad): 'Amgylchedd Bro Morgannwg, ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[80] Cyngor Bro Morgannwg (2016); 'Cefndir a Diweddariad y Rhaglen Gwella Mynediad i'r Arfordir', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig