Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022

6. Newid yn yr hinsawdd (lliniaru ac addasu)

6.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar weithgareddau yn ardal y CDLlN sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys risg llifogydd, ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd.

Cyd-destun polisi

6.2 Mae Tabl 6.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 6.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygwyd mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd

Teitl y ddogfen

Blwyddyn gyhoeddi

Deddf Newid yn yr Hinsawdd y DU

2008

Rhaglen Addasu Genedlaethol y DU (ail fersiwn) 2018 i 2023

2018

Deddf Cynllunio Cymru

2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

2015

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

2016

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol)

2021

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11)

2021

Canllawiau Statudol Cynlluniau Draenio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (SUDS)

2019

Datganiad Ardal Canol De Cymru

2017

Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 12: Dylunio

2016

Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol

2021

Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

2021

Asesiad o Risgiau Newid yn yr Hinsawdd y DU

2022

Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy

2014

Lleihau allyriadau carbon yng Nghymru

2020

Y Srategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

2020

Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel

2019

Canllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net

2021

Siarter Creu Lleoedd Cymru

2020

Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

2020

Ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (AaSAN)

2020

Tuag at Ddyfodol Diwastraff

2019

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Ardal Basn Afon Hafren

2016

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Basn Afon Gorllewin Cymru

2015

Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

2013

Cynllun Rheoli Carbon Bro Morgannwg

2018

Cynllun Her Prosiect Sero

2021

Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg

2017

Siarter Argyfwng Hinsawdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg

2021

CCA Ynni Adnewyddadwy Bro Morgannwg

2019

Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Bro Morgannwg

2021

6.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:

  • Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn darparu fframwaith ar lefel y DU o ran yr angen i liniaru ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn gosod targed sy'n gyfreithiol rwymol i leihau allyriadau Nwyon Tŷ Gwyrdd (NTG) y DU o 80% erbyn 2050 o'u cymharu â 1990 ac mae angen pennu rhaglen dreigl o gyllidebau carbon i gyflawni hyn. Dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion i leihau effeithiau amgylcheddol o ddatblygiad newydd a hyrwyddo defnydd o dechnolegau adnewyddadwy a charbon isel a lleihau allyriadau NTG.
  • Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir yng Nghymru, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith / twf newydd. Mae Cymru'r Dyfodol yn darparu fframwaith ar lefel Cymru i ymateb i'r angen i liniaru ac addasu i effaith y newid yn yr hinsawdd, gan gydnabod rôl y system gynllunio wrth arwain y ffordd o hyrwyddo a darparu cymdeithas gystadleuol, gynaliadwy, wedi'i datgarboneiddio. Felly, mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar geisio datgarboneiddio sectorau economaidd allweddol, annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a gwella gwydnwch yr amgylchedd naturiol. Bydd y CDS ar gyfer De-ddwyrain Cymru hefyd yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol, gan gydnabod y potensial ar gyfer cynllunio i lunio lleoedd mewn ffyrdd sy'n cyfrannu at ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, a darparu gwydnwch hirdymor; gan gynnwys trwy ailddefnyddio, adfywio a thrawsnewid.
  • Nodir polisi cynllunio cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru sy'n cydnabod bod gan y system gynllunio rôl hanfodol i'w chwarae wrth wneud datblygiad yn wydn i'r newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio'r gymdeithas a datblygu economi gylchol er budd yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Ategir PCC gan NCTau, sydd gyda'i gilydd yn darparu polisi a chyngor cynllunio manwl. Yn benodol mewn perthynas â llifogydd, dull cyffredinol PCC, a gefnogir gan yr NCT (NCT15 – Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol), yw cynghori pwyll o ran datblygiadau newydd mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd, trwy osod fframwaith rhagofalus i lywio penderfyniadau cynllunio. Nod cyffredinol y fframwaith hwn yw cyfeirio datblygiadau newydd oddi wrth yr ardaloedd lle mae perygl mawr o lifogydd.
  • Bydd fersiwn ddiwygiedig NCT15, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2021, yn dod i rym bellach yn 2023. Lle bydd unrhyw awdurdod lleol yn ymgymryd ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol (ACLlS) newydd, rhaid i ACLlSau diwygiedig fod ar waith erbyn diwedd mis Tachwedd 2022, a'r rhain fydd y brif ffynhonnell dystiolaeth i lywio strategaethau aneddiadau a dyraniadau safleoedd cynlluniau datblygu mewn perthynas â risg llifogydd, yn ogystal â pholisïau risg llifogydd sy'n benodol i ardaloedd lleol.
  • Yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010), mae Llywodraeth Cymru wedi llunio ei hail strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (RhPLlEA) (Hydref 2020). Mae'r strategaeth yn nodi sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu rheoli'r risg ac yn gosod amcanion a mesurau'r holl bartneriaid am y deng mlynedd nesaf. Bydd angen i CDLlau yn y dyfodol gydnabod y risg a darparu fframwaith polisi sy'n ceisio atal amlygiad i risg a fydd yn cael ei lywio gan Fap Llifogydd arfaethedig Cymru.
  • Wrth baratoi'r CDLlN, dylai'r Cyngor ymgynghori ag awdurdodau cyfagos a Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau nad yw'r datblygiad, yn ogystal â pheidio â bod mewn perygl ei hun, yn cynyddu'r risg o lifogydd mewn mannau eraill.
  • Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019): Mae'r Cynllun hwn yn nodi dull Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd mewn ffordd sy'n sicrhau'r manteision ehangach mwyaf posibl i Gymru, gan sicrhau cymdeithas decach ac iachach. Mae'n nodi polisïau a chynigion sy'n ceisio lleihau allyriadau'n uniongyrchol a chefnogi twf yr economi carbon isel. Yn berthnasol i gynllunio mae targedau a pholisïau a gyflwynir mewn perthynas ag:
    - Ynni.
    - Trafnidiaeth.
    - Adeiladau.
    - Diwydiant.
    - Defnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth.
    - Amaethyddiaeth; a
    - Rheoli Gwastraff.
  • Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ei adroddiad cynnydd "Lleihau Allyriadau Carbon yng Nghymru". Dyma'r adroddiad cyntaf am gynnydd Cymru tuag at gyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 45 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad mis Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050 trwy gyhoeddi Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021, a ddaeth i rym ar 19 Mawrth 2021. Mae'r Rheoliadau'n sefydlu'r ymrwymiad cyfreithiol i allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
  • Mae'r Rheoliadau newydd yn rhan o'r fframwaith statudol ehangach ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru, a nodir yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn diwygio'r targedau blaenorol a bennwyd ar gyfer 2030 a 2040 o 45% a 67% i 63% ac 89% yn y drefn honno.
  • Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cysylltiedig a chynaliadwy ledled y rhanbarth, gan gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â seilwaith a'r newid yn yr hinsawdd. Nod y fargen yw annog buddsoddi, addasu ac arloesi o fewn y deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Bydd polisïau a chynlluniau lleol eraill yn cyfrannu'n gadarnhaol at fynd i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd a'r angen i ddelio â chanlyniadau'r newid yn yr hinsawdd.
  • Mae Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd[104] wedi'i ddatblygu gyda chymorth gan randdeiliaid rhanbarthol, gan gynnwys awdurdodau lleol. Yr amcan cyffredinol yw datblygu llwybr sy'n nodi ymyriadau allweddol i gyflawni uchelgeisiau'r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio ei system ynni.
  • Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) wedi prynu Gorsaf Bŵer Aberddawan, er mwyn datblygu a'i hailosod fel esiampl i gynhyrchu ynni gwyrdd yn y rhanbarth. Mae prif gynllun ar gyfer y safle yn cael ei baratoi ar hyn o bryd a fydd yn ceisio cefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r safle i gyflawni amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy a gwyrdd fel storio batris, clwstwr gweithgynhyrchu di-garbon, cyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd a chanolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesi, twf, gwybodaeth a rhyngweithio cymunedol gyda dyfodol di-garbon Cymru.
  • Cynllun Her Prosiect Sero (2021) yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero-net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at rôl y CDLl newydd wrth gyfrannu at yr ymrwymiad newid yn yr hinsawdd; er enghraifft, sicrhau cyfraniadau cynllunio at gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy a thrwy weithredu polisïau sy'n annog ynni adnewyddadwy. Mae Adroddiad Ynni Adnewyddadwy'r Cyngor wedi nodi cyfleoedd ym Mro Morgannwg ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau ynni adnewyddadwy, yn enwedig o ddatblygiadau ffotofoltäig solar ar wahân, clystyrau bach o botensial ynni gwynt, biomas a microgynhyrchu gan gynnwys Adeiladu Ynni Adnewyddadwy Integredig [AYAI].
  • Yn benodol, mae CCS Ynni Adnewyddadwy Bro Morgannwg wedi'i lunio er mwyn ategu'r CDLl mabwysiedig ac ychwanegu manylion ato. Y bwriad yw darparu canllawiau clir a manwl gywir i gynorthwyo perchnogion tai, tirfeddianwyr, datblygwyr ac eraill sydd â diddordeb sy'n ymwneud â'r broses gynllunio am sut i ystyried ynni adnewyddadwy yn llawn mewn cynigion datblygu. Yn ogystal, mae'r canllaw'n ceisio sicrhau bod buddion datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi'u cydbwyso yn erbyn effeithiau economaidd, cymdeithasol ac o ran amwynderau ar gymunedau ynghyd ag effeithiau amgylcheddol a fydd yn cynnwys bioamrywiaeth a chadw'r dirwedd weledol i 10MW.

Crynodeb sylfaenol

Argyfwng hinsawdd

6.4 Ym mis Gorffennaf 2019, ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd byd-eang. Ymrwymodd y Cyngor i:[105]

  • Leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net cyn targed Llywodraeth Cymru o 2030 a chefnogi'r gwaith o weithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru.
  • Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraeth Cymru a'r DU, fel y bo'n briodol, i ddarparu'r pwerau, adnoddau a chymorth technegol mae eu hangen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i gyflawni targed 2030 yn llwyddiannus.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu strategaeth yn unol â'r targed o allyriadau sero net erbyn 2030 ac edrych ar ffyrdd o sicrhau'r buddion lleol gorau posibl o ganlyniad i'r camau hyn mewn sectorau eraill megis cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.

Lliniaru

6.5 Er mai prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ar lefel awdurdod lleol am allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae'r crynodeb ystadegol diweddaraf gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (2019) (ar sail data hyd at 2017), yn dangos bod allyriadau CO2 y pen yng Nghymru yn gyffredinol uwch na gweddill rhanbarthau'r DU, sef 7.9 tunnell o CO2 y pen. Y rheswm am hyn yw mai Cymru sydd â'r allyriadau CO2 uchaf y pen o'r sector Diwydiannol a Masnachol (4.4t) sy'n adlewyrchu ei lefel uwch o weithfeydd diwydiannol. Ar draws y DU, mae cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 2% arall rhwng 2017 a 2018, sy'n golygu cyfanswm gostyngiad ers 1990 o 43%.[106]

6.6 I raddau helaeth, mae allyriadau Bro Morgannwg yn adlewyrchu presenoldeb sylweddol diwydiant, amaethyddiaeth a'r maes awyr. Mae'r graff drosodd yn dangos yr allyriadau CO2 ar gyfer Bro Morgannwg 2004-2018 fel y'u mesurir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.[107] Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod y sector diwydiant yn y gorffennol wedi bod y sector sydd wedi cynhyrchu'r carbon deuocsid mwyaf, ac mae'n parhau felly. Mae hefyd yn dangos y bu gostyngiad sylweddol mewn allyriadau ym mhob sector ers 2004, er ei bod yn ymddangos bod ffigurau'n lefelu rhwng 2016 a 2018.

6.7 Yn benodol, mae disgwyl i Orsaf Bŵer Aberddawan a ddatgomisiynwyd gael ei throi'n ganolfan ynni gwyrdd ar ôl cael ei phrynu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC)[108]. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd allyriadau CO2 o ddiwydiant yn gostwng yn y dyfodol.

6.8 Mae'n werth nodi hefyd ei bod yn debygol bod Maes Awyr Caerdydd yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau trafnidiaeth yn y Fro.

Ffigur 6.1 Allyriadau carbon deuocsid Bro Morgannwg fesul blwyddyn[109]

Graff yn darlunio allyriadau carbon deuocsid blynyddol ym Mro Morgannwg rhwng 2005 a 2018. Mae’r graff hwn yn cynrychioli cyfanswm cyfradd yr allyriadau, yn ogystal â syniad o sut y newidiodd cyfradd yr allyriadau domestig, allyriadau trafnidiaeth ac allyriadau diwydiant/masnachol trwy gydol y cyfnod hwn. Yn gyffredinol, gostwng wnaeth allyriadau ym mhob sector a thrwy hynny gyfanswm yr allyriadau yn yr awdurdod. Fodd bynnag, allyriadau diwydiannol  a masnachol a gyfrannodd yn gyson uchaf i’r cyfanswm bob blwyddyn; yr oedd y cyfraddau hyn yn sylweddol uwch na’r cyfanswm domestig a’r cyfanswm trafnidiaeth. Er y cafwyd mymryn o ostyngiad yn gyffredinol a’u bod ychydig yn uwch na’r allyriadau domestig rhwng 2014 a 2018, arhosodd cyfran yr allyriadau trafnidiaeth a gynhyrchwyd yn weddol gyson trwy gydol y cyfnod hwn.

Ynni adnewyddadwy

6.9 Er gwaethaf lefelau allyriadau a ddangosir yn Ffigur 6.1 uchod, mae data'n dangos bod y targed CDLl o roi caniatâd cynllunio digonol i ateb 10.6% (56.68 GWh) o'r galw am drydan a ragwelir trwy ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2020 wedi'i fwrw.[110]

6.10 Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithredu amrywiaeth o brosiectau sydd o fudd i'r amgylchedd ac yn lleihau allyriadau carbon (gweler Cynllun Her Prosiect Sero). Mae ymrwymiadau parhaus i leihau allyriadau'n cynnwys:[111]

  • Mae'r Cyngor yn prynu 100% o'i drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac mae wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer nifer o ffermydd solar.
  • Mae'r Cyngor wedi ymgymryd â thros 100 o brosiectau arbed ynni ar draws adeiladau'r Cyngor gan gynnwys newid hen oleuadau aneffeithlon i oleuadau LED a chyflwyno gwell dulliau rheoli ynni.
  • Mae'r Cyngor wedi dechrau newid ei systemau gwresogi o nwy i drydan trwy osod pwmp Gwres o'r Ddaear yn Nhŷ Tregatwg yn y Barri a Phwmp Gwres Ffynhonnell Aer yn BSC2 (yr Ystafell Beiriannau) yn y Barri. Cafwyd gwelliannau sylweddol ar y safleoedd hyn yn y defnydd o ynni ac mae cynlluniau ar y gweill i osod rhagor ohonynt.
  • Rydym wedi gosod paneli Solar ar 14 o adeiladau gyda'r modd cyfunol i gynhyrchu 480 KW. Mae maint pob system yn briodol i ateb y galw yn yr adeiladau y mae wedi'i gosod ynddynt.
  • Mae 68% o oleuadau stryd y Cyngor wedi'u newid i oleuadau LED ac mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu hyn i 92%.

6.11 Fel y soniwyd uchod, mae disgwyl i Orsaf Bŵer Aberddawan a ddatgomisiynwyd gael ei haddasu'n ganolfan ynni gwyrdd hefyd.

6.12 Mae Ffigur 6.2 drosodd yn nodi'r holl gynlluniau ynni adnewyddadwy a charbon isel hysbys sydd naill ai â chaniatâd cynllunio neu sydd wedi bod ar waith ers 2019 ym Mro Morgannwg.[112] Fel sy'n ddisgwyliedig, cynlluniau solar domestig yw'r rhai mwyaf cyffredin, gyda chynlluniau ledled y Fro; mae cynlluniau ynni gwynt ychydig yn llai, ac maent wedi'u lleoli'n bennaf yng ngogledd yr awdurdod.

Ffigur 6.2 Cynlluniau Ynni Carbon Isel a Charbon Sero Cyfredol ac Arfaethedig[113]

Mae’r map hwn yn amlygu’r ffaith mai Datblygiadau Ynni Solar Domestig yw’r cynlluniau ynni adnewyddol sydd amlycaf a weithredwyd ar draws yr awdurdod. Yn y cyfamser, mae llai o Ddatblygiadau Ynni Gwynt Domestig, sydd yn bennaf yng ngogledd y Fro. Mae Ffigur 6.2 hefyd yn nodi Cynlluniau Ynni Solar ar Raddfa Fawr (boed Wedi Rhoi’r Gorau Iddynt, yn Weithredol neu rai lle Gwrthodwyd/Rhoddwyd Caniatâd Cynllunio) a Chynllunio Biomás ar Raddfa Fawr (boed Wedi Rhoi’r Gorau Iddynt, Gweithredol neu mewn achosion lle tynnwyd y Cais Cynllunio yn ôl). Mewn rhai achosion, yr oedd Cynlluniau Ynni Solar ar Raddfa Fawr yn dod gyda gweithredu cynlluniau Gwres a Phŵer cyfun; mae datblygiadau o’r fath mewn gwahanol fannau ledled y Fro, gyda’r nifer uchaf o gwmpas Y Barri.

Cerbydau trydan

6.13 Mae gan gerbydau trydan rôl sylweddol i'w chwarae wrth sicrhau dyfodol gwyrddach ar y ffyrdd. Mae'r sector trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, a dim ond 0.17% o'r cerbydau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru sy'n drydanol.[114]

6.14 Yn unol ag ymrwymiadau cenedlaethol, mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu isadeiledd cerbydau trydan ac yn cefnogi'r newid o ddefnyddio cerbydau diesel trwy'r awdurdod. Yn benodol:

  • Mae CCS Safonau Parcio'r Cyngor (2019) yn annog darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac, o fewn datblygiadau dibreswyl, geisio sicrhau 10% o'r holl leoedd parcio gofynnol i ddarparu seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan, wrth annog darpariaeth debyg o fewn datblygiadau preswyl hefyd.
  • Mae gorsafoedd gwefru cerbydau trydan wedi'u gosod ar safleoedd ysgol penodol.
  • Ers mis Mawrth 2019 mae'n ofynnol i o leiaf 10% o leoedd parcio ar ddatblygiadau dibreswyl gynnwys seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
  • Mae'r Cyngor yn datblygu rhwydwaith o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan ac yn cynnal astudiaeth dichonoldeb i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer darparu modd diogel a hygyrch i wefru cerbydau trydan mewn eiddo preswyl ar strydoedd ac oddi arnynt ym Mro Morgannwg.
  • Mae'r Cyngor yn cefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cerbydau sy'n defnyddio tanwydd amgen; ac
  • Mae'r Cyngor wedi dechrau newid ei fflyd bresennol o geir cronfa diesel am gerbydau trydan.

Addasu

6.15 Rhagwelir y bydd y newid yn yr hinsawdd yn achosi newidiadau byrdymor i batrymau tywydd yn ogystal â newidiadau tymor hwy mewn tueddiadau hinsoddol. Rhagwelir y bydd cynnydd mewn digwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys glawiad a gwresogi dwys, sychder a sbeliau o dywydd oer. Mae newidiadau i'r hinsawdd yn debygol o achosi gostyngiad mewn glawiad ynghyd â chynnydd mewn tymheredd. Mae'n bwysig hefyd ystyried natur dymhorol y newidiadau hyn, gyda gaeafau yn y DU yn debygol o fod yn gynhesach ac yn wlypach a disgwylir i hafau fod yn gynhesach ac yn fwy sych. Canlyniad arall i'r newid yn yr hinsawdd yw cynnydd o ran lefel y môr, problem sy'n cael ei gwaethygu gan ymchwyddiadau stormydd sy'n gallu arwain at lifogydd ac erydiad arfordirol. Mae addasu i'r newid yn yr hinsawdd yn cyfeirio at y camau a gymerir i reoli effeithiau'r newid yn yr hinsawdd trwy leihau bod yn agored i'w effeithiau niweidiol, yn ogystal â manteisio ar unrhyw fuddion posibl.

Perygl llifogydd

6.16 Mae Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (SLRhPLl) Bro Morgannwg (2013) yn canolbwyntio ar 'berygl llifogydd lleol', a ddiffinnir fel llifogydd a achosir gan ddŵr ffo arwyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin (nentydd, ffosydd ayb).[115] Y math hwn o lifogydd oedd achos y rhan fwyaf o ddifrod a achosir gan y llifogydd lleol yn 1998, 2000 a 2007 ac mae angen eu cymryd mor ddifrifol â llifogydd o'r prif afonydd neu'r arfordir. Ers 2007 mae Bro Morgannwg wedi dioddef rhagor o lifogydd a thywydd eithafol, gan effeithio ar y rhan fwyaf o'r awdurdod oherwydd natur eang a hyd y digwyddiadau.[116] Yn fwy diweddar, ym mis Rhagfyr 2020, cafwyd llifogydd sylweddol yn Ninas Powys a Sili. Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Cyngor ymchwiliadau llifogydd Adran 19 ffurfiol mewn perthynas â'r llifogydd hwn ac mae'r adroddiadau perthnasol ar gael ar wefan y Cyngor drwy'r dolen hon.

6.17 Llifogydd o brif afonydd yw'r mwyafrif o'r holl ddigwyddiadau llifogydd a gofnodir ym Mro Morgannwg. Fel y dangosir yn Ffigur 6.3 drosodd, mae risg llifogydd afonol yn ymestyn ledled y Fro, ar hyd coridorau'r afonydd yn bennaf, ac yn gorgyffwrdd ag aneddiadau i ryw raddau. Y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf o lifogydd yw'r Bont-faen, Dinas Powys a rhannau o'r Barri, gan gynnwys Dociau'r Barri ac Ystâd Fasnachu'r Iwerydd. Mae Llanilltud Fawr hefyd mewn perygl.

6.18 Mae'r SLRhPLl yn tynnu sylw at y ffaith fod llifogydd dŵr wyneb yn llawer anoddach i'w mesur, yn enwedig o ystyried bod llawer o ddigwyddiadau yn aml yn cael eu cuddio gan effaith llifogydd y prif afonydd, neu'n mynd heb eu cofnodi.[117] Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd a gwell cofnodi o ddigwyddiadau diweddar, credir bod llifogydd dŵr wyneb yn digwydd yn weddol aml ym Mro Morgannwg. Mae Ffigur 6.4 yn dangos bod perygl o lifogydd dŵr wyneb yn bodoli ledled ardal ehangach y CDLlN, sy'n ymestyn trwy'r Bont-faen, Llyswyrni, ac i'r gogledd o Bendeulwyn. Ymddengys fod yr ardaloedd sydd â'r perygl mwyaf o lifogydd dŵr wyneb ar draws y Fro mewn clwstwr ar draws y de-ddwyrain, gan gynnwys rhannau o'r Barri a Phenarth.

6.19 Mae'r SLRhPLl hefyd yn nodi yr adroddir bod llifogydd dŵr daear lleol wedi digwydd ym Mhentref Ewenni, Saint-y-brid, East Monkton, y Rhws a'r Barri.[118]

Ffigur 6.3 Risg o afonydd yn gorlifo

Map yn dangos y bygythiad o risg y byddai afonydd yn gorlifo ym Mro Morgannwg oherwydd i’r môr a’r afonydd orlifo. Mae’r risg yn ymestyn ar draws yr awdurdod, sy’n cyd-fynd yn bennaf â choridorau’r afonydd isod: i. Afon Col-huw, ii. Afon Alun, iii. Afon Tregatwg, iv. Afon Elai, v. Afon Ewenni, vi.	Afon Ogwr, vii.	Afon Hafren, viii. Afon Ddawan.  Yn y mannau hyn, rhoddwyd y tir sydd mewn perygl o orlif afonydd wedi ei roi yng nghategori ardal llifogydd ‘Parth 3’ gan y ‘Map llifogydd ar gyfer cynllunio’.   Y cymunedau sy’n wynebu’r risg uchaf o lifogydd yw’r Bontfaen, Dinas Powys a rhannau o’r Barri, gan gynnwys Dociau’r Barri a Stad Fasnachol yr Iwerydd. Mae bygythiad hefyd i Lanilltud Fawr.

Ffigur 6.4 Risg o lifogydd dŵr wyneb

Mae’r map hwn yn cofnodi’r risg o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain ar hyd a lled Bro Morgannwg. Mae’r bygythiad yn ymestyn ar hyd llwybr yr afonydd sy’n llifo trwy’r awdurdod, gan ymestyn trwy’r Bontfaen, Llyswyrny, ac i’r gogledd o Bendeulwyn. Fodd bynnag, ymddengys bod yr ardaloedd sydd mewn mwyaf o berygl o lifogydd dŵr wyneb yn y Fro wedi eu canoli o gwmpas y de-ddwyrain, gan gynnwys rhannau o’r Barri a Phenarth; yn yr ardaloedd hyn, rhoddwyd peth o’r tir sydd dan fwyaf o fygythiad yng nghategori ‘Parth Llifogydd 3’.

Ardaloedd rhybudd llifogydd ac amddiffynfeydd llifogydd

6.20 Mae Ffigur 6.5 drosodd yn dangos ardaloedd yn y Fro sy'n elwa o amddiffynfeydd llifogydd sy'n eu hamddiffyn rhag llifogydd o Afonydd a'r Môr. Lleolir y rhain yn y Bont-faen ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri, gan gyd-fynd ag ardaloedd rhybudd llifogydd. Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd (CLlLL) wedi lleihau lefel y perygl o lifogydd ym mhrif aneddiadau trefol y Bont-faen a Llanfleiddan. Mewn mannau eraill, mae amddiffynfeydd anffurfiol yn rhoi amddiffyniad lle mae eiddo unigol mewn perygl.[119]

6.21 Mae'r ardaloedd a ddangosir yn elwa o wahanol lefelau o amddiffyn rhag llifogydd, ac mae hyn yn cael ei gydnabod yn y dosbarthiad risg sydd wedi'i ddangos ym map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (APLlC).[120] Nodir nad yw hyn yn benodol i eiddo ond ei fod yn dangos y budd ar gyfer ardal gyffredinol. Fodd bynnag, mae Ffigur 6.5 hefyd yn dangos amddiffynfeydd llifogydd penodol sydd wedi cael eu hadeiladu, sy'n cyd-fynd ag ardaloedd atal llifogydd ac yn cael eu lleoli ar hyd ffin ardal ddwyreiniol a de'r CDLlN.

6.22 Mae cynlluniau nodedig diweddar Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (RhPLlEA) yn cynnwys gwaith lliniaru llifogydd yn Nhrebefered, Coldbrook a Llan-faes[121].

Seilwaith gwyrdd

6.23 Gall datrysiadau naturiol i leihau'r perygl o lifogydd gynnwys seilwaith gwyrdd, megis gorchudd coed. Mae arwynebau athraidd a ddarperir gan fannau gwyrdd yn helpu i leihau dŵr ffo a dŵr wyneb, sydd yn ei dro yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd. Mae coed yn gweithredu fel rhwystrau, gan leihau maint y dŵr sy'n cyrraedd y ddaear yn ystod digwyddiadau glaw, gan helpu i leihau'r perygl o lifogydd. Yn yr ystyr hon, mae'n bwysig edrych ar lefelau seilwaith gwyrdd a'i reolaeth o fewn ardaloedd trefol, gan gynnwys yr adnodd pridd, rhwydweithiau llwybrau, coetiroedd trefol a seilwaith gwyrdd eraill sydd â'r nod o wella ansawdd a hygyrchedd yr amgylchedd lleol. Sylwer bod ardaloedd gwledig ar y cyfan yn gefn gwlad agored sy'n llai tebygol o gael problemau ynglŷn â dŵr ffo a dŵr wyneb.

6.24 Mae mannau gwyrdd ac agored yn helaeth ledled y Fro, fel y dangosir yn Ffigur 4.1 ac yr ymdrinnir â nhw ym Mhennod 4 uchod. Fodd bynnag, canran fach yw'r mannau gwyrdd ac agored sy'n cael eu rheoli'n uniongyrchol gan y Cyngor, sy'n tynnu sylw at rôl bwysig tirfeddianwyr preifat wrth gyfrannu at liniaru'r newid yn yr hinsawdd a rheoli seilwaith gwyrdd yn gynaliadwy.

6.25 Er gwaethaf yr uchod, gall y Cyngor barhau i weithredu mesurau effeithiol, sydd wedi'i brofi gan gynlluniau plannu coed diweddar fel yr un sydd ar fin cael ei weithredu yn y Barri. Yn benodol, mae'r cynllun hwn yn bwriadu atal llifogydd yn y Barri trwy blannu mwy o goed a lleihau maint y palmentydd concrit[122].

6.26 O ran cyfleoedd lliniaru perthnasol yr ymgymerir â nhw gan y Cyngor, mae monitro wedi dangos bod y Fro, ers mis Gorffennaf 2018, wedi sicrhau cymhareb ailblannu o 2:1 ar gyfer symud coed gyda gorchymyn diogelu (GDC) neu goed mewn ardal gadwraeth (CAG). Mae hyn yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol Coed, Coetiroedd, Gwrychoedd a Datblygu.[123]

Ffigur 6.5 Ardaloedd rhybudd llifogydd ac amddiffynfeydd llifogydd

Map yn dangos ardaloedd rhybudd llifogydd Bro Morgannwg, fel y’u darlunnir yn Ffigur 6.3 a Ffigur 6.4, a lleoliad amddiffynfeydd llifogydd yn yr awdurdod. Mae Ffigur 6.5 hefyd yn nodi ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd llifogydd sy’n gwarchod rhag gorlifo o’r môr ac o afonydd. Mae’r ardaloedd hyn yn Y Bontfaen ac i’r gogledd-ddwyrain o’r Barri, sy’n cyd-fynd â pharthau rhybudd llifogydd. Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd (CLlLl) wedi gostwng lefel y risg o lifogydd ym mhrif aneddfannau trefol y Bontfaen a Llanblethian. Rhoddwyd cynlluniau amddiffynfeydd llifogydd ar waith hefyd yn y mannau canlynol: ar y ffin â Phen-y-bont, i’r gogledd o Ogwr; ger yr arfordir i’r de o Ddwyrain Aberddawan; Penarth; Y Barri a 2 gynllun i’r gogledd-ddwyrain o’r Barri rhwng y dref ac anheddfan gyfagos Dinas Powys.

Llinell sylfaen y dyfodol

6.27 Gallai datblygiadau newydd gynyddu'r perygl o lifogydd trwy ffactorau fel newid llif dŵr wyneb a dŵr daear, colli llystyfiant aeddfed, difrodi priddoedd, gorlwytho mewnbynnau presennol i'r rhwydweithiau draenio a dŵr gwastraff neu gynyddu nifer y preswylwyr sy'n agored i ardaloedd lle mae perygl llifogydd ar hyn o bryd a pheryglon llifogydd uwch posibl yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddai'r broses cymeradwyo Draenio Cynaliadwy yn lliniaru'r perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig â dŵr wyneb.

6.28 Mae newidiadau patrwm hinsoddol a thywydd tuag at dymheredd cymedrig uwch a digwyddiadau gwresogi eithafol yn debygol o gael eu gweld yn y dyfodol, gellir disgwyl i hyn gael effeithiau mwy amlwg ar ardaloedd trefol ac yn benodol poblogaethau bregus o fewn yr ardaloedd hyn. Mae hyn yn debygol o olygu bod angen ceisio cyfleoedd i ddylunio atebion oeri mewn datblygiadau, fel cysgodi trwy gadw a phlannu coed a mwy o seilwaith gwyrdd ac awyru.

6.29 Mae polisi a chytundebau cenedlaethol a rhyngwladol wedi dechrau dangos agwedd fwy brys mewn perthynas â dulliau sydd wedi'u dylunio i fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt. Os parheir ar hyd y trywydd hwn, mae'n debygol y gallai fod mwy o gyllid yn cael ei ryddhau i gynlluniau lleol addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

6.30 Mae'r cytundebau polisi ynglŷn â'r newid yn yr hinsawdd a'r sylw brys sy'n cael ei roi i'r mater yn debygol o gynyddu dros amser. Bydd disgwyl i hyn arwain at bolisïau sy'n cyfyngu ar y defnydd o weithgareddau allyrru tanwydd ffosil a chefnogi mesurau effeithlonrwydd ynni, gan helpu i leihau allyriadau CO2.

6.31 Ystyrir y bydd cyfleoedd adnewyddadwy a chynhyrchu ynni isel yn cynyddu ymhellach dros amser. Rhagwelir y bydd hyn ar draws ystod o ffynonellau, yn ogystal ag o ffynonellau a alluogir trwy ddatblygu technolegau newydd. Fel y'i trafodwyd uchod, manteisir ar hyn ledled y Fro ar hyn o bryd, er enghraifft gyda llawer o gynlluniau ynni mawr ar waith.

Prif faterion

6.32 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • I gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei Gynllun Cyflawni Carbon Isel newydd, mae angen datgarboneiddio ar draws pob sector o'r gymdeithas (gan gynnwys yr economi, ynni, seilwaith a ffyrdd o fyw), gydag angen pellach i gymryd camau i leihau lefelau carbon yn yr atmosffer. Mae mesurau lleihau ac effeithlonrwydd ynni yn cael eu harchwilio/gweithredu ledled y Fro yn unol â Chynllun Her Prosiect Sero, gyda llawer o gynlluniau ynni graddfa fawr ar waith.
  • Mae angen sicrhau bod adnoddau naturiol presennol yn cael eu rheoli a'u diogelu i gydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt o ran darparu atebion naturiol ar gyfer lliniaru effaith y newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chefnogi cyfoeth o fioamrywiaeth a gwella lles.
  • Rhaid i gynllunio chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cymunedau a seilwaith yn gallu gwrthsefyll effeithiau andwyol y newid yn yr hinsawdd, trwy osgoi risg yn y lle cyntaf a cheisio lliniaru risg os na ellir osgoi opsiynau (e.e. trwy ddefnyddio seilwaith gwyrdd). O ran hyn, cydnabyddir bod targed y CDLl mabwysiedig i roi caniatâd cynllunio digonol i fodloni 10.6% (56.68 GWh) o'r galw rhagamcanol am drydan trwy ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2020 wedi'i fwrw.[124]
  • Prif achosion perygl llifogydd yn y Fro yw dŵr wyneb ac afonydd, gyda'r olaf yn bennaf ar hyd coridorau afonydd sy'n peri perygl i rai aneddiadau. Mae llifogydd arfordirol hefyd yn berygl i rai ardaloedd preswyl a chyflogaeth presennol, yn benodol rhannau o Ddociau'r Barri ac Ystâd Fasnachu'r Iwerydd o fewn ardaloedd lle ceir perygl uchel o lifogydd.
  • Er bod allyriadau cyffredinol yn y Fro wedi gostwng dros amser, ymddengys o'r data ar gyfer 2016-2018 fod allyriadau CO2 yn lefelu ar gyfer pob ffynhonnell allyriadau. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai'r sefyllfa fod wedi newid ers 2018, yn enwedig o ystyried ymrwymiad y Cyngor i sero net erbyn 2030 a bod strategaethau, prosiectau ac ati wedi'u gweithredu i helpu i fynd i'r afael â'r targed hwn. Yn benodol, mae'r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ganlyniadol ar fioamrywiaeth, sy'n hynod sensitif i newidiadau yn yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys tymheredd, glaw, lleithder a chyflymder y gwynt. Yn hyn o beth, bydd yn bwysig tynnu sylw at y berthynas rhwng y ddau bwnc Asesiad Amgylcheddol Strategol hyn, yn enwedig mewn perthynas â hinsawdd / bioamrywiaeth yn y Fro.

Amcanion ACI

6.33 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu - a fydd y cynllun/polisi yn helpu i:

Gefnogi gwydnwch Bro Morgannwg i effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys llifogydd o ffynonellau afonol, arfordirol a dŵr wyneb.

  • Osgoi datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, gan ystyried effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol?
  • Cynyddu gwydnwch yr amgylchedd adeiledig a naturiol i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, yn enwedig mewn ardaloedd lle nodir llifogydd arfordirol ac afonol?
  • Sicrhau bod y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn cael eu hystyried mewn datblygiadau newydd yn ardal y cynllun?
  • Gwella ac estyn rhwydweithiau seilwaith gwyrdd yn ardal y cynllun i gefnogi addasu i'r newid yn yr hinsawdd?
  • Defnyddio seilwaith gwyrdd i reoli dŵr ffo yn gynaliadwy, gan leihau dŵr ffo a dŵr wyneb, wrth greu cyfleoedd i sefydlu cynefinoedd, plannu coed a chreu mannau agored?
  • Lleihau'r perygl o lifogydd i seilwaith allweddol, megis trafnidiaeth a phŵer?

Lleihau cyfraniad Bro Morgannwg at y newid yn yr hinsawdd yn sgil gweithgareddau sy'n arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyfrannu at ddiwallu targed sero net y Cyngor.

  • Cynyddu nifer y datblygiadau newydd sy'n bodloni neu'n rhagori ar feini prawf dylunio cynaliadwy?
  • Lleihau'r defnydd o ynni o ffynonellau anadnewyddadwy?
  • Cynhyrchu ynni o ffynonellau carbon isel neu ddi-garbon?
  • Lleihau'r angen i deithio neu nifer y teithiau a wneir?
  • Blaenoriaethu moddau trafnidiaeth cynaliadwy drwy annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded?
  • Sicrhau nad yw datblygu gwledig yn cyfrannu at gynnydd pellach yn y defnydd uchel o ynni a theithio anghynaladwy?

 


[104] Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (2022): 'Cynlluniau ynni gwyrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer Gorsaf Bŵer Aberddawan i greu miloedd o swyddi', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y dolen hon

[105]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Cynllun Her Sero Prosiect 2021 – 2030', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[106] Ystadegau cenedlaethol terfynol ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (ffigyrau 2020)

[107] Ibid.

[108] New Civil Engineer (2022): 'Decommissioned Welsh power station to be converted into £36M green energy hub', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[109] Ibid.

[110] Ibid.

[111] Ibid.

[112] CCA Ynni Adnewyddadwy Bro Morgannwg (2019)

[113] CCA Ynni Adnewyddadwy Bro Morgannwg (2019)

[114]Llywodraeth Cymru (2021): 'Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[115]Cyngor Bro Morgannwg (2013): 'Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[116] Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Cynllun Llifogydd Cymunedol a Chanllawiau Tywydd Eithafol', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[117] Ibid.

[118] Asiantaeth yr Amgylchedd (Ionawr 2012): 'Adroddiad Crynodeb Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylch o Afon Ogwr i Afon Tawe'

[119] Capital Symonds (2013): 'Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Bro Morgannwg Cyfrol 2 - Adroddiad Asesu'r Amgylchedd Strategol', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[120] Ibid.

[121]Ystafell Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[122] Barry Nub Bews (2020): 'The £192k Plan to Prevent Flooding in Barry with More Trees and Less Concrete', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[123]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Cyngor Bro Morgannwg yn datgan argyfwng natur', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[124] Ibid.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig