Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7. Trafnidiaeth

7.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar seilwaith trafnidiaeth, defnydd trafnidiaeth, llif traffig a thagfeydd, a lefelau hygyrchedd ym Mro Morgannwg.

Cyd-destun polisi

7.2 Mae Tabl 7.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 7.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygwyd mewn perthynas â thrafnidiaeth

7.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:

  • Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod gan Fro Morgannwg un o'r patrymau anheddu trefol mwyaf unigryw yn y DU, sydd ag anghenion cymdeithasol ac economaidd â phwyslais gwahanol, ac o'r herwydd dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion sy'n adlewyrchu'r materion economaidd a chymdeithasol strwythurol sy'n effeithio ar ffyniant a lles y trigolion. Mae'r CDS sy'n cael ei llunio ar gyfer De-ddwyrain Cymru hefyd yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol megis trafnidiaeth a hygyrchedd i wasanaethau, tai a chyflogaeth. Bydd cefnogi Bro Morgannwg fel ardal gyda gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, trafnidiaeth a seilwaith digidol yn helpu i gefnogi cysylltiadau gwell.
  • Nodir polisi cynllunio cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru, sy'n rhoi'r cysyniad o greu lleoedd wrth wraidd polisi cynllunio cenedlaethol, er mwyn cyflawni datblygiad newydd sy'n gynaliadwy. Ategir PCC gan NCTau, sy'n gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy o fewn y system gynllunio. Un o brif amcanion PCC yw sicrhau bod y system gynllunio'n cyfrannu'n gadarnhaol at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn unol â gofynion Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall a dyletswyddau dilynol megis y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. Yn benodol, mae NCT18 (Trafnidiaeth) yn cynnwys cyngor ar:
    - Integreiddio defnydd tir a chynllunio trafnidiaeth.
    - Lleoliad datblygiadau.
    - Cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.
    - Parcio; a
    - Dylunio datblygiadau.
  • Cyhoeddwyd 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021' ym mis Mawrth 2021 ac mae'n nodi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth yng Nghymru. Nod canolog y strategaeth yw lleihau'r effaith y mae trafnidiaeth yn ei chael ar newid yn yr hinsawdd, gan osod targed i 45% o'r holl deithiau yng Nghymru gael eu cyflawni'n gynaliadwy erbyn 2040. Y tair prif flaenoriaeth yn y Strategaeth yw:
    - Dod â gwasanaethau i bobl i leihau'r angen i deithio – a fydd yn golygu cynnydd mewn gwasanaethau lleol.
    - Galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws trwy wasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon ac
    - Annog pobl i wneud y newid i opsiwn trafnidiaeth mwy cynaliadwy trwy ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy a dibynadwy.
  • Mae Gweithio'n Ddoethach: Strategaeth Gweithio o Bell i Gymru gan Llywodraeth Cymru yn gosod ei chynlluniau i weithio gyda busnesau, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol i helpu mwy o gyflogwyr i fabwysiadu dull mwy ystwyth a hyblyg yn eu gweithle. Mae'r strategaeth yn gosod targed i 30% o weithlu Cymru fod yn gweithio gartref neu'n agos ato erbyn 2026 ac yn esbonio sut mae'r llywodraeth yn bwriadu gwreiddio gweithio o bell ar gyfer y tymor hir yng ngweithleoedd Cymru. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi buddion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol gweithio o bell:
    - Buddion cymdeithasol a lles – yn cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd sy'n gallu gwella lles, iechyd meddwl, cydbwysedd bywyd-gwaith, boddhad swyddi a chynhyrchiant, ac yn lleihau'r amser a'r gost sy'n gysylltiedig â chymudo.
    - Lles amgylcheddol – yn lleihau teithio sy'n gysylltiedig â gwaith, a fydd yn helpu i leddfu tagfeydd, lleihau sŵn ac allyriadau carbon, a gwella ansawdd aer mewn rhai ardaloedd, yn lleihau'r traffig i greu amgylchedd gwell i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr priffyrdd eraill, ac yn annog pobl i gerdded, beicio a defnyddio e-feiciau i wella iechyd a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o deithio.
    - Lles economaidd – yn creu mwy o gyfleoedd swyddi i bobl sydd mewn unrhyw leoliad yng Nghymru – yn benodol, gweithwyr mewn cymunedau gwledig a lled-wledig; yn denu dinasyddion yn ôl i'w gwlad enedigol, yn galluogi cyflogwyr gael mynediad i weithlu ehangach a mwy amrywiol ac yn gallu cynyddu cynhyrchiant a lleihau absenoldebau salwch.
    - Lles diwylliannol – yn meithrin ac yn annog Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu.
  • Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDdPRC) yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cynaliadwy, a chytbwys trwy'r rhanbarth, gan ymrwymo i ddull partneriaeth o 'Sbarduno Economi Cymru'. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn seilwaith y rhanbarth, a chreu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol fel rhan o drefniadau llywodraethu P-RC i gynrychioli'r deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion ar gyfer systemau trafnidiaeth hygyrch o ansawdd uchel sy'n cefnogi datblygiad economaidd ac adfywio ar draws y rhanbarth er budd ei phoblogaeth breswyl.
  • Gan ei fod yn ymrwymedig i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r Cyngor yn nodi cefnogaeth ar gyfer gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chabinet P-RC wrth weithredu cysylltiadau rhanbarthol gwell i Gaerdydd a chynlluniau eraill i dyfu'r economi leol/rhanbarthol, megis cynigion lleddfu'r M4, trydaneiddio, a chynigion y Metro. Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru: Casgliadau sy'n dod i'r amlwg (2020) yn ddarn allweddol o dystiolaeth yn hyn o beth, gan nodi argymhellion yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru o fesurau cynaliadwy i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae'r cyfrifoldeb dros ddatblygu polisi trafnidiaeth strategol a datblygu'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn nwylo Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CBC) De-ddwyrain Cymru (Swyddogaethau Trafnidiaeth), (a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2022). Yn benodol, mae Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol newydd i gael ei baratoi a disgwylir canllawiau ar gyfer hwn gan Lywodraeth Cymru yn y man.
  • Bydd cefnogi blaenoriaethau trafnidiaeth cenedlaethol wrth gyflawni mesurau cyflenwol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn sicrhau gwerth mwyaf posibl buddsoddiad mewn trafnidiaeth, a fydd yn ei dro yn cefnogi:
    - Twf economaidd.
    - Mynediad i waith.
    - Trechu tlodi.
    - Teithio cynaliadwy a diogelwch; a
    - Mynediad i wasanaethau.

7.4 Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl) y Cyngor yn ceisio nodi'r mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol sydd eu hangen i sicrhau bod Bro Morgannwg yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir gan Lywodraeth Cymru a'r canllawiau arfer da cyfredol. Mae'r CTLl yn nodi nifer o amcanion hyd at 2030, sydd wedi'u llywio gan gynigion o fewn Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor ac mae hefyd yn gyson ag amcanion Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Wrth nodi cynlluniau, mae'r CTLl yn chwilio am ffyrdd o sicrhau gwell amodau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac annog newid mewn dewisiadau teithio amgen yn lle defnydd un person o gar. Mae'r CTLl hefyd yn ceisio mynd i'r afael â thagfeydd traffig drwy sicrhau gwelliannau i'r coridorau priffyrdd strategol i gymudwyr y gallai fod angen iddynt deithio mewn car yn ogystal â darparu seilwaith gwell ar gyfer cludo nwyddau. Mae hefyd yn ceisio mynd i'r afael â blaenoriaethau diogelwch ffyrdd allweddol y Fro.

7.5 Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cefnogi cynigion ar gyfer Metro Caerdydd a bydd y CTLl yn llywio gwaith cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol, fel y nodir uchod.

Crynodeb sylfaenol

Llwybrau trafnidiaeth allweddol

7.6 Mae Ffigur 7.1 drosodd yn nodi llwybrau teithio allweddol Bro Morgannwg, a chydnabyddir bod y rhwydwaith priffyrdd strategol yn dioddef o dagfeydd mewn nifer bach o fannau cyfyngedig strategol, gyda chyfran uchel o deithiau i mewn ac allan o'r Fro yn cael ei gwneud mewn car.[125] Yn benodol, mae tagfeydd wrth fynd â phlant i'r ysgol a'u casglu yn broblem allweddol i'r Fro.

7.7 Mae'r A4055 trwy Ddinas Powys yn ardal broblemus allweddol i'r rhwydwaith ffyrdd rhanbarthol oherwydd lefel y traffig a thagfeydd cysylltiedig.

7.8 Mae'r A4050 Ffordd y Porthladd yn ffordd drafnidiaeth strategol bwysig sy'n cysylltu Maes Awyr Caerdydd trwy'r Barri â'r gyfnewidfa drafnidiaeth yng Nghroes Cwrlwys a'r M4.[126]

7.9 Mae Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn cydnabod bod yr A48 Pen-y-bont ar Ogwr i Groes Cwrlwys (sydd bellach wedi'i wasgaru) yn llwybr trafnidiaeth strategol pwysig sy'n cysylltu Pen-y-bont ar Ogwr â Chaerdydd ac yn cysylltu'r Fro wledig â Chaerdydd a'r M4.

7.10 Nodir bod Glannau'r Barri i Ddinas Powys yn goridor trafnidiaeth strategol pwysig sy'n cysylltu'r Barri â Chaerdydd.[127]

Maes Awyr Caerdydd

7.11 Mae Maes Awyr Caerdydd yn faes awyr cenedlaethol Cymru ac yn borth i'r DU ar gyfer cwsmeriaid busnes a hamdden rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae 18 cwmni hedfan yn gweithredu o Gaerdydd, gan gynnig mynediad i lu o leoedd ledled y byd, gan gynnwys hediadau uniongyrchol i hybiau rhyngwladol yn Doha ac Amsterdam.

7.12 Mae Uwchgynllun Maes Awyr Caerdydd 2040 yn nodi bod nifer y teithwyr wedi cynyddu 8% yn fwy na 2018, gyda mwy nag 1.5 miliwn o deithwyr bellach yn dewis Maes Awyr Caerdydd bob blwyddyn. Mae dalgylch craidd ei farchnad teithwyr yng Nghymru'n cynnwys poblogaeth o 2.4 miliwn, gyda dalgylch allanol yn Ne-orllewin Lloegr yn cynnwys 4 miliwn pellach.

7.13 Y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n ariannu ffordd newydd sy'n cysylltu'r M4 â Maes Awyr Caerdydd gan nad yw'r cynllun yn cyd-fynd â meini prawf grantiau na'r fframwaith polisi trafnidiaeth.[128].

7.14 Mae Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan yn canolbwyntio ar y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch ac, yn arbennig, ei is-sector awyrofod. O fewn y Cynllun Strategol (2018 i 2021), nodir y canlynol:

"Ym Maes Awyr Caerdydd mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud i brofiad ymwelwyr mewn ymdrech i ddenu mwy o lwybrau. Mae hyn wedi cynnwys ad-drefnu'r meysydd parcio, newidiadau mewnol i ddefnydd er mwyn darparu mwy o olau naturiol a thrafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol i'r Maes Awyr. Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o'r cynllun busnes uchelgeisiol sy'n cael ei weithredu gan y Maes Awyr."

7.15 Yn benodol, mae angen parhaus am gysylltiadau trafnidiaeth uwch yn Sain Tathan o ystyried ei statws fel Ardal Fenter.

Ffigur 7.1 Llwybrau teithio allweddol

Map yn amlygu priffyrdd strategol y Fro, y lein reilffordd sy’n rhedeg ar hyd ffin ddeheuol yr awdurdod ac i fyny tuag at Ben-y-bont, yn ogystal â lleoliad gorsafoedd rheilffordd ar hyd y llwybr hwn yn: Penarth, Heol Dingle, Cogan, Eastbrook, Dinas Powys, Tregatwg, Dociau’r Barri, Y Barri, Ynys y  Barri,  Y Rhŵs (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd) a Llanilltud Fawr. Nodir hefyd y llwybr teithio allweddol rhwng Y Bontfaen a Llanilltud Fawr via Heol Llanilltud Fawr.

Gwelliannau Trafnidiaeth Gynaliadwy

7.16 Mae Ffigwr 7.2 yn dangos llwybrau trafnidiaeth cynaliadwy o fewn y Fro, yr ymdrinnir â nhw ymhellach drosodd.

Trenau

7.17 Fel y dangosir yn Ffigur 7.2 mae un ar ddeg o orsafoedd rheilffordd yn y Fro, sy'n cysylltu trigolion â chanolfannau allweddol cyfagos, gan gynnwys y rhanbarth ehangach a De-orllewin Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd rheilffordd hyn yn cael eu gwasanaethu gan drenau bob 15 munud, gan ddarparu cysylltiad da â'r brifddinas. Mae'r gorsafoedd rheilffordd wedi'u dosbarthu'n dda ar draws yr awdurdod gyda nifer wedi'u canoli yn y Barri ac ym Mhenarth:

  • Dociau'r Barri.
  • Ynys y Barri.
  • Y Barri.
  • Tregatwg.
  • Cogan.
  • Dinas Powys.
  • Dingle Road.
  • Eastbrook.
  • Llanilltud Fawr.
  • Penarth; a
  • Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y Rhws.
Bysus

7.18 Mae Ffigwr 7.2 yn dangos y safleoedd bws sydd ar gael ar draws y Fro. Er ei bod yn ymddangos bod y rhain wedi'u dosbarthu'n dda, maent yn canoli ar brif aneddiadau'r Fro. Fodd bynnag, mae darpariaeth gwasanaeth bysus cyfyngedig yn yr ardaloedd gwledig, a chydnabyddir hyn yn fater allweddol yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol diweddaraf. Yn benodol, mae gwasanaethau bysus cyfyngedig gyda'r nos ac ar y penwythnos ar gyfer pentrefi gwledig a gwasanaethau cyfyngedig a phrin mewn trefi ac ardaloedd trefol.[129]

7.19 Mae Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks yn cynnig cerbydau hygyrch sy'n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr ac mae gan y gwasanaeth bedwar bws mini hygyrch, ynghyd â dau gar hygyrch[130]. Gall y cerbydau hyn gludo pobl sydd ag anghenion hygyrchedd i unrhyw le ar unrhyw adeg. Mae aelodaeth Greenlinks yn costio £5, gyda phob taith yn costio cyn lleied â £2, ond nid oes angen aelodaeth i gael defnyddio'r gwasanaethau wythnosol G1 (Sain Tathan i Ben-y-bont ar Ogwr trwy'r Bont-faen a'r pentrefi cyfagos) a G4 (y Fro wledig i Gaerdydd). Sylwer y darperir gwasanaeth llai oherwydd Covid-19.

7.20 Mae cyfleusterau Hybiau Trafnidiaeth Integredig ar gael yn y gorsafoedd rheilffordd canlynol:

  • Y Barri.
  • Dociau'r Barri.
  • Tregatwg.
  • Cogan.
  • Dinas Powys.
  • Eastbrook.
  • Llanilltud Fawr.
  • Penarth.
  • Y Rhws.
Metro De Cymru

7.21 Un o amcanion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yw cysylltu cymunedau, busnesau, swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau yn yr ardal. Un o'r prif flaenoriaethau mewn perthynas â gwella trafnidiaeth yw cyflwyno Metro De Cymru, sef prosiect seilwaith mawr sy'n arwydd o 'newid moddol' uchelgeisiol o ran cysylltu pobl a lleoedd a gwella daearyddiaeth economaidd gweithredol y rhanbarth.

7.22 Mae prosiect Adfywio Porth Canol Tref y Barri wedi nodi'r angen i adfywio tir yn gynhwysfawr yng nghyffiniau Gorsaf Drenau Dociau'r Barri, sy'n borth pwysig i ganol y dref a'r Glannau. Fel rhan o raglen Metro Plus, bydd cynllun Gorsaf Drafnidiaeth y Barri yn darparu cyfnewidfa fysus wedi'i chynllunio, cyfleusterau parcio a theithio ychwanegol, yn gwella cysylltedd â chanol y dref ac yn creu man cyrraedd modern wedi'i ddylunio'n dda. Disgwylir i'r cynllun cyfnewidfa hwn gael ei gyflwyno'n llawn erbyn 31 Mawrth 2023.[131] Mae gwaith hefyd wedi bod ar y gweill ar Gyfnewidfa Cogan.

Cerdded a beicio

7.23 Mae cerdded a beicio yn ddewisiadau amgen cynaliadwy ac ymarferol yn lle'r car preifat, gan gefnogi ffyrdd iach o fyw a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

7.24 Fel y dangosir yn Ffigur 7.3, mae Llwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC) yn ymestyn trwy'r Fro, o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae Llwybr 88 yn cysylltu Llwybr 4 y RhBC ym Mharc Margam ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, trwy Fro Morgannwg i ddechrau Llwybr 8 y RhBC ym Mae Caerdydd.

7.25 Fel a nodwyd ym Mhennod 4 uchod ac a ddangosir yn Ffigur 7.3 drosodd, mae gan y Fro rwydwaith hawliau tramwy helaeth sy'n cysylltu aneddiadau ac yn creu cyfleoedd i deithio'n gynaliadwy ar gyfer teithiau lleol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn bwysig yn y cyswllt hwn, gan ymestyn o Fae Caerdydd / Aber Elái yn y dwyrain i Afon Ogwr yn y gorllewin. Fel y'i trafodwyd ym Mhennod 4, mae'r llwybr yn rhoi cyfle i gerdded / beicio ar hyd 53km o'r arfordir.

7.26 Mae Pont y Werin a Morglawdd Caerdydd dros Afon Elái hefyd yn nodedig o ran cysylltiadau cerdded a beicio strategol rhwng Bro Morgannwg a Chaerdydd.

7.27 O ran prosiectau parhaus, mae cynlluniau Teithio Llesol wedi'u cyflwyno i wella cyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio mewn nifer o ardaloedd gan gynnwys y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth Heights, Lavernock Road / Cosmeston, Sully Road / Ysgol San Joseff a South Road / Hayes Road / Sully Moors Road.[132]

7.28 Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sy'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau Teithio Llesol addas mewn anheddau penodol, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynodd y Cyngor ei Fapiau Rhwydwaith Integredig ym mis Tachwedd 2017 sy'n amlinellu nodau'r Awdurdod o wella llwybrau teithio llesol ledled y Sir dros y 15 mlynedd nesaf.

7.29 Yn nodedig hefyd mae'r cynllun 'Nextbike' a gafodd ei lansio ym Mhenarth yn 2020. Mae'r beiciau wedi cael eu rhentu dros 1,400 o weithiau ar draws 5 gorsaf ddocio rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021.[133] Mae gorsafoedd docio hefyd wedi'u gosod yn Cosmeston a Sili gyda chynlluniau ar gyfer 2 orsaf yn Ninas Powys.

7.30 Mae cynllun llogi e-feiciau hefyd ym Mro Morgannwg, sef y cyntaf o'i fath i gael ei lansio yng Nghymru[134]. Mae gorsafoedd docio e-feiciau wedi'u gosod yn:

  • Heol Windsor, Penarth.
  • Y Promenâd, Penarth.
  • Gorsaf Drenau Penarth.
  • Parc Gwledig Cosmeston.
  • Ysbyty Llandochau.
  • Y Morglawdd.

7.31 Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn bwriadu gosod gorsafoedd docio e-feiciau yn:

  • Sili.
  • Dinas Powys.
  • Cogan; a
  • Stanwell, Penarth.

Ffigur 7.2 Trafnidiaeth gynaliadwy – cludiant cyhoeddus

Map yn dangos lleoliadau gorsafoedd rheilffordd ac arosfannau bysus ym Mro Morgannwg. Mae gorsafoedd rheilffordd yn Nociau’r Barri, Ynys y  Barri, Y Barri, Tregatwg, Cogan, Dinas Powys, Heol Dingle, Eastbrook, Llanilltud Fawr, Penarth a’r Rhŵs (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd)). Mae arosfannau bysus wedi’u gwasgaru ar hyd Bro Morgannwg, ond gyda’r rhan fwyaf ym Mhenarth, Y Barri, Y Rhŵs a Sain Tathan.

Ffigur 7.3 Trafnidiaeth gynaliadwy – llwybrau teithio llesol (2022)

Map yn dangos llwybrau teithio llesol ym Mro Morgannwg. Dangosir llwybrau teithio llesol (lleol) yn y Bontfaen, Llanilltud Fawr, Y Rhŵs, Y Barri a Phenarth. Rhed y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol trwy dde’r Fro, ac y mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg ar hyd arfordir Bro Morgannwg. Amlygir hefyd Hawliau Tramwy Cyhoeddus ledled Bro Morgannwg.

Teithio i'r gwaith

7.32 Mae patrymau cymudo manwl yn rhoi cipolwg ar ble mae trigolion Bro Morgannwg yn teithio i'r gwaith a lle mae'r rhai sy'n teithio i Fro Morgannwg i weithio yn byw.

7.33 Yn 2020, roedd mwyafrif y trigolion, sef 28,200, yn byw ac yn teithio i weithio ym Mro Morgannwg, roedd 22,500 o drigolion yn teithio i Gaerdydd i weithio ac roedd niferoedd llai yn cymudo i Ben-y-bont ar Ogwr a RhCT i weithio. Yn ddiddorol, rhwng 2019 a 2020 bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg yn nodi eu bod yn gweithio yn Lloegr neu'r tu allan i Gymru. Gallai hyn ddangos effaith y pandemig ar gymudo a'r newid i weithio gartref. Yn yr un modd, o'r rhai a oedd yn cymudo i Fro Morgannwg am waith, roedd gostyngiad yn y niferoedd a oedd yn teithio o Rondda Cynon Taf a Chaerdydd, ond twf yn y rhai a oedd yn teithio o Ben-y-bont ar Ogwr. Er nad oes data ar gael am y mathau o drafnidiaeth a ddefnyddir ar gyfer cymudo ym Mro Morgannwg, mae'n debygol bod trafnidiaeth ym Mro Morgannwg yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol gyda'r rhan fwyaf o deithiau'n cael eu gwneud gan geir.

Llinell sylfaen y dyfodol

7.34 Rhagwelir gwelliannau trafnidiaeth gynaliadwy yn lleol ar y cyd â mwy o wasanaethau rheilffordd a bysus ar adegau brig fel y nodir yn y CTLl, a'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) sy'n cael ei baratoi. Bydd y CTRh yn rhoi ffocws rhanbarthol ar weithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, gan gydnabod daearyddiaeth economaidd a chymdeithasol amrywiol yr ardal ehangach. Bydd hyn yn helpu i ddarparu symudedd gwell i drigolion ac ymwelwyr, ac yn cefnogi mwy o hygyrchedd i swyddi a gwasanaethau.

7.35 Ystyrir y bydd yr isadeiledd trafnidiaeth yn y dyfodol a gynigir fel rhan o gynlluniau buddsoddi Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd yn galluogi trigolion Bro Morgannwg i deithio'n haws yn y rhanbarth i achub ar gyfleoedd ac yn yr un modd i bobl gael mynediad hawdd i'r Fro ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth a hamdden. Enghraifft nodedig o hyn yw Metro De Cymru a Chynllun Gorsaf Drafnidiaeth y Barri.

7.36 Bydd rhagor o bwyslais hefyd ar deithio llesol yn unol â gwireddu dyheadau Deddf Teithio Llesol (Cymru), gan gefnogi cerdded a beicio fel y dewis arferol ar gyfer teithiau byrrach.

7.37 Mae'r gefnogaeth i deithio llesol yn adlewyrchu newid agweddau yn sgil y pandemig diweddar, sydd wedi arwain at newid sylweddol yn arferion gweithio a chymudo llawer o bobl. Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar gyfer annog gweithio gartref ac o bell i barhau ar ôl y pandemig o fudd i seilwaith ffyrdd strategol ac yn lleihau effeithiau tagfeydd, yn enwedig ar adegau cymudo brig.

7.38 Er y gellir gweld nifer mwy o bobl yn teithio'n llesol, gall trigolion sy'n parhau i gymudo pellter hirach i'r gwaith hefyd ddangos ei bod yn well ganddynt ddulliau preifat o drafnidiaeth yn hytrach na dulliau cyhoeddus yn y tymor byr i'r tymor canolig, gan gydnabod cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn debygol o waethygu mewn rhannau o'r Fro lle mae mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ac amlder y ddarpariaeth yn wael.

7.39 Mae mynediad i drafnidiaeth yn amrywio ar draws Bro Morgannwg gydag ardaloedd mwy gwledig yng Ngorllewin y Fro wedi'u nodi trwy Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019) fel rhai sydd â mynediad gwaeth i drafnidiaeth gyhoeddus nag ardaloedd mwy trefol yn y Barri a Dwyrain y Fro. Amcangyfrifir bod gan Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) Llandŵ / Ewenni yng Ngorllewin y Fro amser dychwelyd teithio cyhoeddus i fferyllfeydd, siopau bwyd a meddygfeydd o bron 6 gwaith yn hwy nag AGEHI Stanwell 2 yn Nwyrain y Fro. Yn achos yr ardaloedd mwy gwledig hyn, heb welliannau i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mae cael mynediad i opsiynau trafnidiaeth breifat, yn enwedig mynediad i gar, yn dod yn allweddol er mwyn gallu cael mynediad i wasanaethau.

Prif faterion

7.40 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • Cydnabyddir y bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, yn ogystal â chynlluniau a amlinellir yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol, yn helpu i liniaru problemau traffig ffyrdd sy'n gysylltiedig â datblygiadau yn yr awdurdod yn y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd bod seilwaith ffyrdd, yn y gorffennol, wedi'i chael yn anodd dygymod â chynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd, felly mae problemau gyda thagfeydd a'r gallu i ymdopi â lefelau uwch o draffig yn debygol o waethygu i ryw raddau gan dwf yn y dyfodol.
  • Mae mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ac amlder y ddarpariaeth yn amrywio ar draws Bro Morgannwg, gyda gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn llai aml na'r rhai mewn aneddiadau trefol
  • Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o drigolion yn cymudo mewn ceir, gan adlewyrchu natur lled-wledig y Fro. Bydd angen i'r CDLl newydd ystyried effaith Covid-19 ar batrymau teithio, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â'r newid a welir i weithio o gartref.
  • Nodir cyfleoedd ar gyfer newid moddol trwy gyfrwng Prosiect Metro De Cymru[135], sy'n cynnwys ehangu a gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd, gwasanaethau bysus a rhwydweithiau beicio a cherdded yn sylweddol. Dylid cydlynu twf â gwelliannau strategol i'r seilwaith trafnidiaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer datblygiadau cysylltiedig a hygyrch.
  • O ran teithio llesol, mae gan y Fro rwydwaith cerdded a beicio helaeth, sy'n cynnwys 55km o lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus a llwybr 88 y RhBC, sy'n cysylltu trigolion ar draws aneddiadau o fewn a'r tu allan i'r Fro. Fodd bynnag, nodir bod y RhBC yn dameidiog y tu hwnt i brif anheddiad y de-ddwyrain. Mae 'cynlluniau teithio llesol' wedi'u teilwra yn cael eu harchwilio a'u gweithredu ledled y Fro gan gynnwys yn y Bont-faen a Llanilltud Fawr.

Amcanion ACI

7.41 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu - a fydd y cynllun/polisi yn helpu i:

Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy a lleihau'r angen i deithio.

  • Lleihau'r angen i deithio trwy batrymau cynaliadwy o ddefnyddio a datblygu tir?
  • Creu cyfleoedd i wella amlder ac argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig?
  • Annog newid moddol i ddulliau teithio mwy cynaliadwy a llesol, fel cerdded a beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
  • Cefnogi cyfleoedd ar gyfer newid moddol fel y'i nodir ym Mhrosiect Metro De Cymru?
  • Blaenoriaethu opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy o ran defnyddio ceir lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys darparu digon o opsiynau parcio a storio beiciau?
  • Galluogi gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth?
  • Darparu rhwydweithiau teithio llesol a'u gwella lle bo angen?
  • Cefnogi'r defnydd o drafnidiaeth carbon isel fel e-feiciau a bysus trydan?
  • Cyfrannu tuag at y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan?
  • Hwyluso gweithio gartref a gweithio o bell?
  • Darparu gwelliannau i'r rhwydwaith priffyrdd presennol a/neu leihau tagfeydd ar y priffyrdd?
  • Cyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd?

 


[125]Cyngor Bro Morgannwg (2015): 'Cynllun Trafnidiaeth Leol 2015-2030', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[126] Ibid

[127] Ibid

[128] Newyddion y BBC (2021): 'Maes Awyr Caerdydd: gwrthod ariannu ffordd gyswllt yr M4 i'r A48', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[129] Ibid.

[130] Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Trafnidiaeth Gymunedol Greenlinks', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[131] Trafnidiaeth Cymru (2022): 'De Caerdydd', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[132] Ibid.

[133] Ibid.

[134] Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Cynllun Llogi E-Feiciau', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[135] Llywodraeth Cymru (dim dyddiad): 'Cyflwyno ein Metro', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig