Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report
3. Poblogaeth a chymunedau
3.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddemograffeg ac aelwydydd y boblogaeth ym Mro Morgannwg, yn ogystal ag amddifadedd, mynediad i wasanaethau a chyfleusterau.
Cyd-destun polisi
3.2 Mae Tabl 3.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.
Tabl 3.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygir mewn perthynas â phoblogaeth a chymunedau
Teitl y ddogfen |
Blwyddyn cyhoeddi |
2015 |
|
2015 |
|
2016 |
|
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol) |
2021 |
2021 |
|
Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 5: Cynllunio a Thai Fforddiadwy |
2006 |
Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy |
2010 |
2016 |
|
2017 |
|
2020 |
|
2017 |
|
Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cadarn a Disgleiriach |
2020 |
2017 |
|
Asesiad Lles Bro Morgannwg - Adroddiad Demograffig |
2021 |
2020 |
|
2020 |
|
Asesiad o Farchnad Dai Leol Bro Morgannwg |
2022 |
2016 |
|
2022 |
|
2020 |
|
2016 |
3.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n dod i'r amlwg o'r adolygiad:
- Bydd yn ofynnol i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol, sy'n gosod y fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith/twf newydd. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod Bro Morgannwg o fewn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, y lleiaf o'r pedwar rhanbarth yn ôl arwynebedd, sy'n cynnwys dinasoedd arfordirol Caerdydd a Chasnewydd a chyn-gadarnleoedd diwydiannol cymoedd De Cymru. Mae Cymru'r Dyfodol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiadau'r rhanbarth â rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Lloegr a rhanbarth Gorllewin Lloegr. Bydd hybu hygyrchedd a chysylltiadau rhwng yr ardaloedd hyn, ar sail dealltwriaeth o'u rolau a'u swyddogaethau, yn sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn gweithredu fel cyfanwaith cydlynus ac nad ydynt yn cystadlu yn erbyn ei gilydd nac yn gwneud penderfyniadau strategol ar wahân. Bydd cefnogi Bro Morgannwg fel ardal gyda gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol ynghyd â seilwaith digidol yn cael effaith fuddiol ar y gymuned leol.
- Mae polisi cynllunio cenedlaethol wedi'i nodi mewn PCC, sy'n ceisio sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cefnogi pob agwedd ar les a chyflawni datblygiad newydd sy'n gynaliadwy ac yn darparu ar gyfer anghenion pob person a chymunedau
- Mae PCC 11 yn cynnwys yr egwyddorion a'r polisïau sydd â pherthnasedd uniongyrchol i gynorthwyo cymunedau i adfer o bandemig Covid-19 mewn modd cadarnhaol, gan roi lleoedd wrth wraidd datblygu yn y dyfodol. Mae'r canllaw 'Adeiladu Lleoedd Gwell' yn nodi'r blaenoriaethau polisi a'r camau gweithredu mwyaf perthnasol i helpu yn yr adferiad, gan gynnwys "creu lleoedd gweithredol iach, ffyniannus gyda ffocws ar ddyfodol cadarnhaol, cynaliadwy i'n cymunedau".
- Ategir PCC gan NCTau, sy'n gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy o fewn y system gynllunio, fel y gall chwarae rhan briodol wrth symud tuag at gynaliadwyedd. Prif amcan Polisi Cynllunio Cymru yw sicrhau bod y system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu datblygu cynaliadwy, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn unol â gofynion Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol eraill ac yn arwain at ddyletswyddau megis y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.
- Mae Safonau'r Gymraeg yn gosod gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio Strategaeth Iaith Gymraeg leol sy'n amlinellu sut y byddant yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal. Wedi'i seilio ar y chwe thema a nodwyd yn genedlaethol yn Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru: 'Iaith Fyw: Iaith Byw', mae Strategaeth y Gymraeg (2017) yn defnyddio meini prawf cenedlaethol sefydledig ond yn lleoleiddio'r wybodaeth a'r targedau i gefnogi llwyddiant parhaus y Gymraeg ym Mro Morgannwg.
- Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru yn datblygu'r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'r nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Mae gwneud lleoedd yn ymwneud â chreu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n gwella cymunedau ac yn creu lleoedd iach.
- Mae'r siarter yn amlinellu'r chwe egwyddor creu lleoedd canlynol sy'n ymdrin â'r amrywiaeth o ystyriaethau sy'n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da:
─ Pobl a'r gymuned: Cynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu cynigion. Ystyried anghenion, iechyd a lles pawb o'r cychwyn cyntaf. Caiff cynigion eu llunio i helpu i ddiwallu'r anghenion hyn yn ogystal â chreu, integreiddio, amddiffyn a/neu wella ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb.
─ Symud: Caiff cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus eu blaenoriaethu i ddarparu dewis o ddulliau trafnidiaeth ac osgoi dibyniaeth ar gerbydau modur preifat. Mae llwybrau teithio llesol sydd wedi'u dylunio'n dda ac yn ddiogel yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach ac mae gorsafoedd ac arosfannau trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n gadarnhaol.
─ Lleoliad: Mae lleoedd yn tyfu ac yn datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, yn cefnogi ac yn gwella lleoedd presennol ac wedi'u cysylltu'n dda. Y bwriad yw y bydd lleoliad tai, cyflogaeth a hamdden a chyfleusterau eraill yn helpu i leihau'r angen i deithio.
─ Tir cyhoeddus Mae strydoedd a mannau cyhoeddus wedi'u diffinio'n dda, yn groesawgar, yn ddiogel ac yn gynhwysol gyda hunaniaeth benodol. Maent wedi'u dylunio i fod yn gadarn ac yn addasadwy gydag ardaloedd wedi'u tirlunio, seilwaith gwyrdd a systemau draenio cynaliadwy wedi'u hintegreiddio'n dda. Maent wedi'u cysylltu'n dda â lleoedd presennol ac yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac amrywiaeth o weithgareddau i bawb.
─ Defnydd cymysg: Mae gan leoedd amrywiaeth o ddibenion sy'n rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, twf busnesau lleol a chael mynediad i swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau trwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Mae dwysedd datblygu a chymysgedd o ddefnyddiau a deiliadaethau yn helpu i gefnogi cymuned amrywiol a thir cyhoeddus bywiog.
─ Hunaniaeth: Mae rhinweddau a hunaniaeth unigryw gadarnhaol lleoedd sydd eisoes yn bodoli yn cael eu gwerthfawrtogi a'u parchu. Nodir nodweddion a chyfleoedd unigryw lleoliad gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, iaith a phriodoleddau adeiledig a ffisegol naturiol, ac ymatebir iddynt. - Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cynaliadwy a chytbwys ledled y rhanbarth, gan ymrwymo i ddull partneriaeth o ymdrin â thai ac adfywio. Nod y fargen yw annog buddsoddiad a chreu amgylchedd cyfle cyfartal o fewn y deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion ar gyfer hyrwyddo twf cynaliadwy o fewn yr ardal er budd ei phoblogaeth breswyl.
- Yn benodol, mae rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yn un o brif raglenni buddsoddi cyfalaf strategol, hirdymor, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
- Mae CDLl mabwysiedig Bro Morgannwg a pholisïau a chynlluniau lleol eraill ynglŷn â materion economaidd-gymdeithasol yn mynd i'r afael yn fras â'r amcanion a ganlyn:
─ Rhoi cyfle i bobl ym Mro Morgannwg ddiwallu eu hanghenion tai.
─ Sicrhau bod datblygiad ym Mro Morgannwg yn defnyddio tir mewn modd effeithiol ac effeithlon.
─ Atgyfnerthu bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl canolfannau siopa trefi, ardal, lleol a chymdogaethau Bro Morgannwg.
─ Lleihau'r angen i drigolion Bro Morgannwg deithio i fodloni eu hanghenion pob dydd a'u galluogi i ddefnyddio ffurfiau cynaliadwy ar drafnidiaeth yn fwy. - Mae Rhaglen Twf y Barri (2022) yn nodi Uwchgynllun gofodol a chynllun buddsoddi 10 mlynedd ar gyfer y Barri. Nod y Rhaglen yw adnabod amrywiaeth o gyfleoedd adfywio, buddsoddi a datblygu cynaliadwy a allai gael eu cyflwyno'n realistig dros y degawd nesaf yn y Barri, ardal sy'n cynnwys canol y dref, glannau'r Barri, y dociau ac Ynys y Barri, ynghyd â thir cyflogaeth Ardal Fenter i gyfeiriad Maes Awyr Caerdydd – oll gyda ffocws ar wella cydraddoldeb, ffyniant a photensial twf economaidd i bob cymuned yn y Barri ac, yn awgrymedig, yn ei chyffiniau, ledled Bro Morgannwg a'r tu hwnt.
- Yn 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws[35], sy'n nodi effeithiau cymdeithasol, economaidd a lles y pandemig ar gymunedau ac yn gosod ei flaenoriaethau a'i amcanion allweddol. Mae hyn yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Fro 2020 i 2025 ac yn cyd-fynd â Rhaglen Twf y Barri. Yn benodol, mae amcanion yn cynnwys bod yn 'wydn, yn arloesol ac yn ymatebol i anghenion ein cymunedau' gan 'sicrhau bod pobl yn ddiogel gartref ac yn y gymuned'.
Crynodeb sylfaenol
Trosolwg o'r boblogaeth
3.4 Mae'r amcangyfrif canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer Bro Morgannwg yn ymwneud â 2020 ac fe'i rhyddhawyd ym mis Mehefin 2021. Amcangyfrifwyd poblogaeth o 135,295 o bobl. Mae hyn yn arwain at ddwysedd poblogaeth o 408.6 o bobl fesul km.sg o gymharu â 383 o bobl fesul km.sg ar ddechrau cyfnod y cynllun yn 2011. Mae hyn yn gwneud Bro Morgannwg yr 11eg awdurdod lleol mwyaf poblog, a'r ardal awdurdod lleol 9fed fwyaf dwys ei phoblogaeth yng Nghymru.[36]
3.5 Bu twf cadarnhaol ym mhoblogaeth Bro Morgannwg bob blwyddyn ers 2002, ar wahân i 2017. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r boblogaeth wedi tyfu 5.4%, sef 7,315 yn fwy o bobl; cyfradd twf uwch na'r newid ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru yn y cyfnod hwn.[37]
3.6 Mae cyfansoddiad poblogaeth Bro Morgannwg yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol (Cymru):
- Ym Mro Morgannwg, yn 2020 amcangyfrifwyd bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth – 60% (81,540) – yn 16-64 oed. Mae hyn yn cymharu â 61% ar gyfer Cymru gyfan.
- Amcangyfrifwyd bod 19% (24,917) o boblogaeth Bro Morgannwg yn 0-15 oed. Mae hyn yn cymharu â 18% ar gyfer Cymru gyfan.
- Amcangyfrifwyd bod 21% (28,838) o boblogaeth Bro Morgannwg yn 65 oed ac yn hŷn. Mae hyn yn cymharu â 21% ar gyfer Cymru gyfan.
3.7 Fel llawer o'r wlad, mae gan Fro Morgannwg boblogaeth sy'n heneiddio. Mae amcangyfrifon poblogaeth yn amcangyfrif y bydd y boblogaeth 0-15 oed a 16-64 oed yn lleihau erbyn 2036. Mae Strategaeth Pobl Hŷn Bro Morgannwg (2013)[38] yn cefnogi amcanion Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn, a bydd Cam 3 yn cynnwys y cyfnod rhwng 2013 a 2023.
3.8 Mae Tabl 3.2 drosodd yn dangos twf y boblogaeth rhwng 2015 a 2020 fesul ystod oedran. Mae Tabl 3.2 hefyd yn dangos y cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth hŷn y Fro ers 2015.
Tabl 3.2 Twf poblogaeth Bro Morgannwg 2015 - 2020[39]
Ystod oedran |
2015 |
2020 |
Canran cynnydd |
0-15 |
23,683 |
24,917 |
5.1% |
16-64 |
78,348 |
81,540 |
3.9% |
65+ |
25,994 |
28,838 |
9.8% |
3.9 O ran rhywedd a phroffil oedran y boblogaeth:[40]
- Yn 2020 amcangyfrifwyd bod ychydig yn fwy o fenywod (69,580 sy'n cyfateb i 51%) na dynion (65,715 sy'n cyfateb i 49%) yn byw ym Mro Morgannwg. Mae hyn yn cymharu â 51% o fenywod a 49% o ddynion ar gyfer Cymru gyfan.
- Gan adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol, mae'r rhaniad rhwng rhywiau ym Mro Morgannwg yn y grwpiau oedran 015 a 16-64 oed bron yn 50:50.
- Mae mwy o raniad rhwng y rhywiau ar gyfer y rhai sy'n 65 oed ac yn hŷn; er bod hyn hefyd yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol, mae'r gwahaniaeth ym Mro Morgannwg ychydig yn fwy amlwg gydag amcangyfrif o 15,931 (55%) o fenywod a 12,907 (45%) o ddynion, o gymharu â 54% o fenywod a 46% o ddynion ar gyfer Cymru gyfan.
- Mae twf y grŵp poblogaeth hŷn (65+ oed) wedi bod yn arbennig o gyffredin mewn ardaloedd yng Ngorllewin y Fro, gydag amcangyfrif bod 9,737 o bobl 65 oed a hŷn yn byw yno, sy'n boblogaeth fwy o bobl 65 oed a hŷn nag yn y Barri neu Ddwyrain y Fro.
Newidiadau Poblogaeth y Dyfodol
3.10 Amcanestynnir y bydd y twf sylweddol a welwyd yn y boblogaeth 65 oed a hŷn yn parhau. Yn 2018 roedd pobl 65 oed a hŷn yn cynrychioli 21% o'r boblogaeth ym Mro Morgannwg, ac mae disgwyl i hyn godi i 27% erbyn 2043[41], gyda chynnydd nodedig ymhlith y rhai 85 oed a hŷn[42]. Mae amcanestyniadau poblogaeth sy'n seiliedig ar 2018 yn rhagweld y bydd Bro Morgannwg yn profi'r cynnydd mwyaf mewn poblogaeth 65 oed a hŷn o holl ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.[43]
3.11 Mae Ffigur 3.1 drosodd yn dangos rhagamcanion poblogaeth De-ddwyrain Cymru fesul awdurdod lleol a blwyddyn rhwng 2018 a 2030, ar sail ystadegau 2018. Roedd gan Fro Morgannwg y bumed boblogaeth breswyl arferol isaf yn 2018, y tu ôl i Ferthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy; a rhagwelir y bydd y duedd hon yn parhau i 2030 ar sail yr ystadegau hyn. Fodd bynnag, mae hyn yn bennaf oherwydd natur wledig a maint cymharol y Fro.
Ffigur 3.1 Rhagamcanion poblogaeth fesul awdurdod lleol a blwyddyn[44]
3.12 Er bod ganddi'r bumed boblogaeth breswyl arferol isaf yn 2018, mae Tabl 3.3 isod yn dangos y rhagwelir mai'r Fro fydd â'r ail boblogaeth sy'n tyfu gyflymaf yn y de-ddwyrain ar ôl Casnewydd. Mae hyn yn dangos bod y boblogaeth yn tyfu ar gyfradd gymharol uchel am ei maint, a allai fod oherwydd cyfuniad o boblogaeth sy'n heneiddio a mewnfudiad.
Tabl 33: Amcangyfrifon poblogaeth[45]
Ardal |
2021 - 2026 |
2026 - 2031 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
1.73% |
1.73% |
Bro Morgannwg |
2.94% |
2.26% |
Caerdydd |
1.31% |
1.79% |
Rhondda Cynon Taf |
1.22% |
1.01% |
Merthyr Tudful |
1.22% |
0.92% |
Caerffili |
0.43% |
0.25% |
Blaenau Gwent |
-0.34% |
-0.35% |
Torfaen |
1.17% |
0.94% |
Sir Fynwy |
1.74% |
1.44% |
Casnewydd |
3.52% |
2.79% |
Patrymau ymfudo'r boblogaeth
3.13 Gellir priodoli rhan helaeth o'r newid ym mhoblogaeth Bro Morgannwg yn ystod y pum mlynedd diwethaf i batrymau mudo poblogaeth.[46] Mae mudo net yn cyfeirio at yr amcangyfrif o'r boblogaeth sy'n symud i mewn ac allan sy'n digwydd rhwng awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig.
3.14 Ym Mro Morgannwg, bu mudo net cadarnhaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf (ar ôl mudo net negyddol rhwng 2014 a 2015, sy'n adlewyrchu'r gostyngiad yn y boblogaeth amcangyfrifedig rhwng canol 2014 a chanol 2015). Rhwng 2019 a 2020 amcangyfrifwyd mudo net cadarnhaol o 1,618 o bobl, gyda 5,506 o bobl yn symud i mewn i Fro Morgannwg a 3,888 yn symud allan o Fro Morgannwg.
Prif aneddiadau
3.15 Bro Morgannwg yw Awdurdod Unedol mwyaf deheuol Cymru, i'r gorllewin o Gaerdydd rhwng yr M4 ac Aber Afon Hafren. Mae'n 33,097 hectar o faint, y mae tua 85% (28,132 hectar) ohono'n dir amaethyddol. (Ceir rhagor o fanylion ym Mhennod 8.)
3.16 Gan gynnwys cymysgedd o amgylcheddau gwledig a threfol, mae gan y Fro nifer o drefi a phentrefi gwahanol, wedi'u rhannu'n dair 'Ardal Gymunedol' - Y Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro.[47] Mae'r ardaloedd cymunedol hyn yn cynnwys pedwar canol tref gwahanol Bro Morgannwg: Y Barri, Penarth (Dwyrain y Fro), Llanilltud Fawr (Gorllewin y Fro) a'r Bont-faen (Gorllewin y Fro).
3.17 Yn 2020 amcangyfrifwyd bod 55,069 o bobl neu 41% o boblogaeth Bro Morgannwg yn byw yn y Barri, bod 41,747 neu 31% o boblogaeth Bro Morgannwg yn byw yng Ngorllewin y Fro a bod 38,479 neu 28% o boblogaeth Bro Morgannwg yn byw yn Nwyrain y Fro. Amcangyfrifir mai'r Barri sydd â'r gyfran uchaf o boblogaeth Bro Morgannwg rhwng 0-15 oed, sef 44% a'r gyfran uchaf o'r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed, sef 42%. Gorllewin y Fro sydd â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth sy'n 65 oed ac yn hŷn, sef 34%.[48]
3.18 Y Barri yw canolfan weinyddol Bro Morgannwg ac fe'i nodwyd yn 'anheddiad allweddol' yng Nghynllun Gofodol Cymru (sydd bellach wedi'i ddisodli), gan gydnabod ei rôl yn llwyddiant Dinas-Ranbarth De-ddwyrain Cymru. Yn 2010, dynodwyd y Barri gan Lywodraeth Cymru yn Ardal Adfywio, gan gefnogi datblygu'r Barri i fod yn lle deniadol i fyw; a chefnogi datblygu Ynys y Barri yn gyrchfan ar gyfer teithiau dydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn bennaf.[49]
3.19 Er bod trefi hanesyddol 'y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr i gyd yn wahanol iawn o ran eu cymeriad, mae ganddynt rolau tebyg. Er enghraifft, mae gan bob un ohonynt boblogaethau preswyl sylweddol, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus dda, cyfleoedd cyflogaeth lleol, canol trefi sefydledig ac amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol, addysgol a chymunedol. Am y rhesymau hyn, mae'r CDLl mabwysiedig presennol yn nodi'r rhain fel 'Aneddiadau Canolfannau Gwasanaeth' i gydnabod eu rôl wrth wasanaethu anghenion dyddiol eu trigolion lleol a gweithredu fel canolfannau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau cyfagos sy'n llai o faint.[50] Gellir gweld lleoliad y prif aneddiadau yng nghyd-destun ardal y CDLlN yn Ffigur 3.4 yn ddiweddarach yn y Bennod hon. Fel y nodir yn y CDLl mabwysiedig, mae 'prif' aneddiadau'r Fro yn cynnwys: Dinas Powys, Llandochau (Penarth), Y Rhws, Sain Tathan, Sili a Gwenfô.[51]
3.20 Er gwaethaf rôl economaidd strategol Sain Tathan (gweler Pennod 2 uchod), mae prif aneddiadau Dinas Powys, Llandochau (Penarth), Y Rhws, Sili, Sain Tathan a Gwenfô yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu lefel o dwf tai, yn ogystal â rhai gwasanaethau a chyfleusterau lleol allweddol. Mae'r prif aneddiadau'n ategu rôl aneddiadau'r canolfannau gwasanaeth gan eu bod yn darparu ar gyfer anghenion trigolion ac anghenion yr ardaloedd gwledig ehangach o'u cwmpas. Maent yn cynnig sawl gwasanaeth a chyfleuster allweddol, sy'n hanfodol i'w rôl fel cymunedau cynaliadwy, wrth iddynt leihau'r angen i deithio i'r Barri neu aneddiadau'r canolfannau gwasanaeth ar gyfer anghenion o ddydd i ddydd. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys ysgolion cynradd, siopau cyfleus bach, siopau bwyd a diod, rhywfaint o ddarpariaeth cyflogaeth ar raddfa fach a thrafnidiaeth gyhoeddus reolaidd.[52]
3.21 Mae'r CDLl mabwysiedig hefyd yn nodi 'Mân Aneddiadau Gwledig' gan gynnwys: Aberthin, Tresimwn, Tregolwyn, Corntwn, Croes Cwrlwys, Dwyrain Aberddawan, Ewenni, Fferm Goch, Craig Pen-llin, Llancarfan, Llandŵ, Llan-faes, Llyswyrni, Aberogwr, Pendeulwyn, Pen-llin, Llanbedr-y-Fro, Tresigin, Southerndown, Saint-y-brid, Sain Nicolas, Treoes, y Wig ac Ystradowen. Ar gyfer yr aneddiadau hyn, mae'r CDLl mabwysiedig wedi darparu ar gyfer twf cymedrol i helpu i ddiwallu angen tai lleol ac i gefnogi gwasanaethau lleol presennol.
Tai
Amcangyfrifon aelwydydd
3.22 Yn ôl amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru, roedd 58,878 o aelwydydd ym Mro Morgannwg yn 2020. Dyma'r 12fed nifer uchaf o aelwydydd amcangyfrifedig fesul Awdurdod Lleol yng Nghymru.
3.23 Dengys data rhwng 1991 a 2020 y gellir gweld y twf mwyaf o ran maint aelwydydd ym Mro Morgannwg mewn aelwydydd '1 person'. Amcangyfrifwyd bod 18,467 o gartrefi '1 person' ym Mro Morgannwg yn 2020.
3.24 Mae'r twf mewn cartrefi '1 person' wedi cyd-fynd â thwf mewn cartrefi '2 berson (dim plant)' . Amcangyfrifwyd bod 18,157 o gartrefi '2 berson (dim plant)' ym Mro Morgannwg yn 2020. Mae maint cartrefi eraill ym Mro Morgannwg wedi aros yn gyson.[53]
Darpariaeth Tai
3.25 O ran darpariaeth tai, mae'r data monitro yn dangos bod y CDLl, rhwng 1 Ebrill 2011 a 1 Ebrill 2022, wedi darparu 5,688 o anheddau sy'n cyfateb i ddarpariaeth gyfartalog flynyddol o 517 o anheddau y flwyddyn yn hytrach na 630.66.[54] Mae hyn 18% yn is na tharged anheddau cronnol 2022, sef 6,937.
3.26 Mae Ffigur 3.2 isod yn dangos y twf yn nifer y tai sydd wedi'u darparu ym Mro Morgannwg ers 2011, gan dynnu sylw at gynnydd blynyddol cyson o ran nifer y tai sy'n cael eu cwblhau yn yr awdurdod sy'n adlewyrchu'r adferiad economaidd cenedlaethol ynghyd â'r tir tai y gellir ei ddarparu o fewn yr awdurdod. Ar gyfer y blynyddoedd 2016-17, 2017-18, 2019-20 a 2020-21, mae'r tabl yn dangos bod anheddau tai a gwblhawyd wedi rhagori ar y gofyniad cyfartalog blynyddol.
Ffigur 3.2 Tai a godwyd ym Mro Morgannwg
3.27 Mae Ffigur 3.2 hefyd yn dangos y rhagwelir y bydd nifer y tai a gwblheir yn is na'r gofyniad cyfartalog ym mlynyddoedd 2021 i 2023 cyn cynyddu'n uwch na'r gofyniad cyfartalog blynyddol yn ystod tair blynedd olaf y cynllun.
3.28 Ystyrir bod y CDLl mabwysiedig, er gwaethaf cyfraddau datblygu isel yn rhan gyntaf y Cynllun, wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r ddarpariaeth tai a nodwyd.
Deiliadaeth
3.29 Rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011, gan adlewyrchu newidiadau ar draws holl ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, cafwyd gostyngiad o ran deiliadaeth yng nghanran yr eiddo sydd â morgais a thwf yn yr eiddo rhent preifat.[55] Yn 2001, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, sef 44.9%, yn berchen ar eiddo â morgais, a oedd y ganran uchaf yng Nghymru hefyd. Yn 2011 roedd hyn wedi gostwng i 36.8%. Bu cynnydd yng nghanran yr ymatebwyr a oedd mewn eiddo rhent preifat o 6.4% yn 2001 i 14.6% yn 2011.
Tai fforddiadwy
Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (AFDL) (2022) yn dangos bod angen tai fforddiadwy ar draws Bro Morgannwg, gyda 76% o lety rhent cymdeithasol, 18% o dai rhent canolradd, a 7% o berchentyaeth cost isel. Yr angen blynyddol am dai fforddiadwy ym Mro Morgannwg rhwng 2021 a 2026 yw 1205 o unedau'r flwyddyn, sy'n cynnwys:
- 915 o unedau llety rhent cymdeithasol.
- 211 o unedau tai rhent canolradd; a
- 79 o unedau perchentyaeth cost isel[56].
3.30 Mae'r angen am lety rhent cymdeithasol anghenion cyffredinol yn parhau ar ei uchaf yn ardaloedd marchnad dai'r Barri a Phenarth a Llandochau, yna aneddiadau dinesig ar hyd ochr ddeheuol ffin y sir. Ceir hefyd pocedi o angen cymedrol yn y gogledd gwledig; yn enwedig o amgylch y prif aneddiadau. Mae'r AFDL yn tynnu sylw pellach at y ffaith fod pob ardal yn dangos diffyg o ran tai cymdeithasol anghenion cyffredinol ar ryw lefel.[57]
3.31 Mae'r AFDL yn nodi mai'r angen mwyaf yw ar gyfer eiddo gydag un a dwy ystafell wely llai a llety ar gyfer pobl hŷn (dros 65 oed), gyda'r galw mwyaf ymhlith pobl sengl a chyplau heb blant.
Prisiau tai
3.32 Mae data diweddaraf Cofrestrfa Tir EM (Ystadegau Gwladol Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru: Mawrth 2021 (Cyhoeddwyd 19 Mai 2021) yn dangos bod prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu 3.1% ers mis Chwefror 2021, gyda phris cyfartalog tai yng Nghymru bellach yn £185,431 - sy'n newid blynyddol o 11%.
3.33 Ym Mro Morgannwg, ar gyfartaledd, cododd prisiau tai yn yr un modd o 3% yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2021. Mae pris cyfartalog tŷ yn y Fro bellach yn £238,745 o'i gymharu â £231,874 ar gyfer mis Chwefror 2020. O'i gymharu ag awdurdodau eraill Cymru, fel y dangosir yn Ffigur 3.3 drosodd, mae Bro Morgannwg yn un o'r ardaloedd mwy cyfoethog, ynghyd ag awdurdodau eraill y de-ddwyrain - Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. Mae Cwm Rhondda, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot wedi'u harlliwio'n las a nhw sydd â'r prisiau tai cyfartalog isaf yng Nghymru.
Ffigur 3.3 Prisiau tai ar gyfartaledd fesur Awdurdod Lleol yng Nghymru[58]
Amcangyfrifon aelwydydd
3.34 Yn ôl tafluniadau cartrefi cenedlaethol Cymru yn 2018, bydd nifer yr aelwydydd ym Mro Morgannwg yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Dros y deng mlynedd nesaf hyd at 2028, amcangyfrir y bydd nifer yr aelwydydd ym Mro Morgannwg yn tyfu o 57,230 i 61,030.[59] Erbyn 2043, amcangyfrir y bydd nifer yr aelwydydd ym Mro Morgannwg yn tyfu i 62,832.
3.35 Mae rhagamcanion aelwydydd yn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o aelwydydd. Mae'r rhan fwyaf o fathau o aelwydydd yn dangos twf o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr aelwydydd.
3.36 Er bod rhagamcanion aelwydydd yn dangos twf o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr aelwydydd, mae rhagamcanion ar gyfer maint cyfartalog aelwydydd yn dangos gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn. Dros y deng mlynedd nesaf hyd at 2028, rhagwelir y bydd maint cyfartalog aelwydydd yn gostwng o 2.27 i 2.21.[60]
Troseddu
3.37 Mae'r gyfradd droseddu ym Mro Morgannwg wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, fel y dangosir yn Nhabl 3.4 drosodd.[61] Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cofnodwyd cynnydd mawr mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda chydberthynas rhwng cynnydd a chyflwyno cyfyngiadau'r coronafeirws. Testun pryder yw'r cynnydd mewn cynadleddau cam-drin domestig ac Asesiadau Risg Amlasiantaethol (CARAA/MARAC) a gynhaliwyd gydol 2020 a 2021. Mae cydberthynas hefyd rhwng profiadau o droseddu a'r ardaloedd hynny ym Mro Morgannwg a fesurir fel y rhai â'r amddifadedd mwyaf yn ôl Maes Diogelwch Cymunedol MALlC 2019. (Gweler Pennod 5 am ragor o fanylion).
Bro Morgannwg – Pob Trosedd 2015 - 2021 (Ebrill - Mawrth)[62]
Blwyddyn |
2015 |
2016 |
2017 |
2018 |
2019 |
2020 |
2021 |
Troseddau a Adroddwyd |
9,337 |
9,198 |
10,473 |
10,503 |
10,576 |
10,442 |
13,045 |
3.38 Er bod troseddu o unrhyw natur yn peri pryder, mae lefelau troseddu a brofir ym Mro Morgannwg yn gymharol isel ac mae Bro Morgannwg yn parhau i fod yn lle diogel ar y cyfan i fyw a gweithio ynddo. Mae 76% o bobl yn adrodd eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu hardal leol, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 73%.[63]
3.39 Yn ôl data o fis Mawrth 2022, yn Ne Cymru roedd y nifer mwyaf o droseddau'n rhai treisgar (3,751), ac yna ymddygiad gwrthgymdeithasol (1,779), trefn gyhoeddus (1,177) a difrod troseddol a llosgi bwriadol (1,021).
Lletemau Glas
3.40 Mae tir ar gyrion trefol yn enwedig o amgylch y prif anheddau a'r anheddau allweddol a gwasanaethu, sef y Barri, Dinas Powys, Llandochau (Penarth), Penarth a Sili, yn agored i hapddatblygu sy'n gallu gwneud y ffiniau rhwng ymylon aneddiadau a chefn gwlad agored yn annelwig. Os na chaiff ei atal, gallai datblygu o'r fath arwain at golli tir agored yn raddol ac, yn y pen draw, at aneddiadau'n ymdoddi i'w gilydd gan effeithio'n andwyol ar amaethyddiaeth, y dirwedd a gwerth amwynder y tir.[64]
3.41 Dull o gyfyngu trefol yw Lletemau Las a fwriedir i gyfyngu ar ledaeniad datblygiad adeiledig y tu hwnt i ffiniau aneddiadau dynodedig ac i gadw cyfanrwydd aneddiadau penodol. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at seilwaith gwyrdd, bioamrywiaeth a mynediad i fannau gwyrdd. Yn hyn o beth, mae'r CDLl mabwysiedig yn nodi saith lletem las yn ardal y cynllun:[65]
- Rhwng Dinas Powys, Penarth a Llandochau
- I'r gogledd-orllewin o Sili.
- I'r gogledd o Wenfô.
- I'r de o Ben-y-bont ar Ogwr.
- Rhwng y Barri a'r Rhws.
- De Penarth i Sili.
- Rhwng y Rhws ac Aberddawan.
3.42 Fel a welir yn Ffigur 3.4 drosodd, mae'r rhain yn gyffredinol rhwng aneddiadau gwahanol a nodir uchod, yn benodol i'r dwyrain a'r de o ardal y cynllun.
Ffigur 3.4 Lletemau Gwyrdd a Ffiniau Aneddfannau
Mynediad i wasanaethau
3.43 Mae problemau i rai ardaloedd ym Mro Morgannwg o ran cael mynediad i wasanaethau, gydag ardaloedd yng Ngorllewin y Fro yn cofnodi amserau teithio dychwelyd hir i wasanaethau allweddol a chysylltiadau rhyngrwyd gwael.[66] Ymdrinnir â hygyrchedd, gan gynnwys mynediad i wasanaethau iechyd, ymhellach ym Mhennod 4.
3.44 O ran cyfleusterau cymunedol, mae Cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar 22 Canolfan Gymunedol (sy'n cael ei ddangos yn Ffigur 3.5 drosodd), a reolir yn arbenigol o ddydd i ddydd gan wirfoddolwyr trwy Gymdeithas Gymunedol[67]. Mae'r Fro hefyd yn gartref i sawl cyfleuster arall, sy'n dod o dan y categorïau canlynol:
- Arfordir a Chefn Gwlad.
- Llyfrgelloedd.
- Parciau a Gerddi.
- Diwylliant a'r Celfyddydau.
- Chwarae a Chwaraeon.
Ffigur 3.5 Cyfleusterau cymunedol a reolir gan y Cyngor ym Mro Morgannwg
Llinell sylfaen y dyfodol
3.45 Rhagwelir mai'r Fro yw'r ail boblogaeth sy'n tyfu gyflymaf yn Ne-ddwyrain Cymru, a disgwylir y gallai'r cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth roi pwysau ar gymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau presennol. Yn ogystal, efallai y bydd gan ddatblygiad sydd heb ei gynllunio oblygiadau ehangach o ran darparu'r cymysgedd cywir o fathau o dai, deiliadaethau a meintiau mewn mannau sydd wedi'u cysylltu'n addas, yn enwedig o ystyried y boblogaeth gymharol hŷn a heneiddio a geir. Gall datblygiad parhaus o fathau o dai a deiliadaethau a ffefrir gan y farchnad gyflwyno neu waethygu anghydbwysedd tai a methu â diwallu unrhyw anghenion lleol ar gyfer cartrefi llai i symud iddynt, neu fwy o gartrefi fforddiadwy i wasanaethu anghenion trigolion iau. Mae'r angen hwn yn cael ei adlewyrchu trwy'r AFDL diweddaraf (2022).
3.46 Mae'r CDLlN yn cynnig cyfle i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol, gan gynnwys cyfleoedd i gyfarfodydd rhwng pobl na fyddai efallai'n dod ar draws ei gilydd fel arall - er enghraifft trwy ddatblygiadau defnydd cymysg, canolfannau cymdogaeth gref, gosodiadau stryd sy'n galluogi cysylltiadau hawdd i gerddwyr a beiciau o fewn a rhwng cymdogaethau, a ffryntiau stryd gweithredol.
3.47 Yn ystod pandemig Covid-19, mae gweithio gartref wedi dod yn duedd fwy cyffredin, ac mae hyn yn debygol o newid patrymau cymudo a thueddiadau defnydd trigolion yn y dyfodol. Er bod ansicrwydd yn parhau, mae'r CDLlN yn rhoi cyfleoedd i arwain datblygiad sy'n darparu ar gyfer newid patrymau gwaith a ffyrdd o fyw, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar fynediad i wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth lleol a chysylltedd strategol.
Prif faterion
3.48 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):
- Bu twf cadarnhaol yn y boblogaeth ym Mro Morgannwg bob blwyddyn ers 2002 (ac eithrio 2017), gyda'r grŵp oedran 65+ yn cynyddu 9.8% rhwng 2015 a 2020 a disgwylir iddo godi ymhellach erbyn 2030
- Rhagwelir twf nodedig ar gyfer y boblogaeth 65-84 oed ac 85 oed a hŷn. Rhwng 2019 a 2039 amcangyfrifir y bydd y boblogaeth 65-84 oed yn tyfu gan 5,266 o bobl a bydd y boblogaeth 85 oed a throsodd yn tyfu gan 2,904 o bobl. Mae hyn yn awgrymu bod gan y Fro boblogaeth sy'n heneiddio ac mae'n rhaid ystyried eu hanghenion penodol mewn meysydd fel tai, iechyd a darpariaeth gofal, ond hefyd i gydnabod cyfraniad cadarnhaol y bobl hŷn yn y gymuned.
- Mae prisiau eiddo uchel yn cyfrannu at gynnydd yn nifer y preswylwyr nad ydynt yn gallu prynu yn y farchnad eiddo preifat. Mae rhagamcanion aelwydydd yn dangos twf o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr aelwydydd, tra bod rhagamcanion ar gyfer maint cyfartalog aelwydydd yn dangos gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn. Gallai'r CDLlN geisio gwella darpariaethau polisi sy'n darparu'r cymysgedd cywir o fathau o dai, deiliadaethau a meintiau yn ôl anghenion lleol, mewn lleoedd sydd wedi'u cysylltu'n briodol, yn ogystal â thai fforddiadwy i drigolion y dyfodol.
- Mae'r Fro yn cynnwys aneddiadau gwledig a threfol penodol; trefi a phentrefi wedi'u rhannu'n dair ardal gymunedol - Y Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro. Y pedwar canol tref yn y Fro yw'r Barri, Penarth (Dwyrain y Fro), Llanilltud Fawr (Gorllewin y Fro) a'r Bont-faen (Gorllewin y Fro). Y Barri sydd â'r gyfran uchaf o boblogaeth Bro Morgannwg ac mae wedi'i dynodi'n ardal adfywio.
- Bu mudo net cadarnhaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gyda Thabl 3.3 uchod yn dangos bod poblogaeth y Fro yn tyfu ar gyfradd gymharol uchel ar gyfer ei maint.
- Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (AFDL) (2022) yn dangos bod angen tai fforddiadwy ar draws Bro Morgannwg, yn cynnwys 76% o lety rhent cymdeithasol, 18% o dai rhent canolradd, a 7% o dai rhent cost isel.[68] Mae'r angen am lety rhent cymdeithasol cyffredinol yn parhau i fod ar ei uchaf yn ardaloedd marchnad dai'r Barri a Phenarth a Llandochau, er bod lefelau amrywiol o angen am dai fforddiadwy ar draws yr awdurdod.
- Ar hyn o bryd, mae'r CDLl mabwysiedig yn nodi saith Lletem Las sy'n cadw cyfanrwydd a hunaniaeth aneddiadau allweddol. Mae'n bwysig bod y polisi hwn yn cael ei ddatblygu o fewn y CDLlN i gefnogi twf strategol a chynaliadwy ledled y Fro yn y tymor hir. Mae mynediad i wasanaethau yn fater allweddol, a bydd lleoliad cynaliadwy datblygiadau newydd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall preswylwyr ddiwallu eu hanghenion o ddydd i ddydd trwy ddulliau teithio cynaliadwy.
Amcanion ACI
3.49 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:
Amcanion |
Cwestiynau asesu – a fydd yr opsiwn/cynnig yn helpu i: |
Ddarparu digon o dai marchnad a thai fforddiadwy o ansawdd da, a seilwaith cymunedol, mewn lleoliadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion a nodwyd? |
|
Gwella ansawdd dylunio er mwyn creu lleoedd prydferth naturiol i bobl sy'n cynnal ac yn gwella hunaniaeth cymuned ac anheddiad. |
|
[35] Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon
[36]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg (2021) – Adroddiad Demograffig
[37]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg (2021) – Adroddiad Demograffig
[38]Cyngor Bro Morgannwg (2013): 'Strategaeth Pobl Hŷn', ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon
[39]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'
[40] Ibid
[41]Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro (2022): 'Asesiad Anghenion y Boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022'
[42]Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (2020): 'Ailddychmygu Heneiddio tua'r Dyfodol' Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd 2019'
[43] Ibid
[44] StatsCymru (2018): 'Rhagamcanion poblogaeth fesul awdurdod lleol a blwyddyn', ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon
[45] StatsCymru (2018): 'Elfennau newid rhagamcanion poblogaeth fesul awdurdod lleol a blwyddyn', ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon
[46]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg (2021) – Adroddiad Demograffig
[47]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg 2021 – Adroddiad Demograffig
[48]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg 2021 – Adroddiad Demograffig
[49]Cyngor Bro Morgannwg (2017): 'Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon
[50] Ibid
[51] Ibid
[52] Ibid
[53]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'
[54]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg 2011-2026 – 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol'
[55]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'
[56]Cyngor Bro Morgannwg (2022): 'Asesiad o'r Farchnad Dai Leol'
[57] Ibid.
[58]Mynegai Prisiau Tai Cymru National Statistics UK (2021)
[59]Asesiad Lles Cyngor Bro Morgannwg 2021 – Adroddiad Demograffig
[60] Ibid
[61] UK Crime Stats (2021): 'South Wales Police', ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon
[62] UK Crime Stats (2021): 'South Wales Police', ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon
[63]Asesiad Lles Bro Morgannwg 2021 – Adroddiad Iechyd a Chymunedau
[64]Cyngor Bro Morgannwg (2017): 'Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon
[65] Ibid.
[66]BGC Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles Bro Morgannwg – Adroddiad Iechyd a Chymunedau'
[67]Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Canolfan Gymunedol', ar gael [ar-lein] i'w defnyddio trwy y ddolen hon
[68] Cyngor Bro Morgannwg (2022); 'Asesiad o'r Farchnad Dai Leol'