Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report
11. Y Dirwedd
11.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar dirweddau dynodedig a gwarchodedig ym Mro Morgannwg neu'r cyffiniau, yn ogystal â chymeriad tirwedd, ansawdd tirwedd a mwynder gweledol.
Cyd-destun polisi
11.2 Mae Tabl 11.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.
Tabl 11.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygwyd mewn perthynas â thrafnidiaeth
Teitl y ddogfen |
Blwyddyn gyhoeddi |
2015 |
|
2015 |
|
2016 |
|
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol) |
2021 |
2021 |
|
2017 |
|
Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy |
2010 |
Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 7: Rheoli hysbysebion awyr agored |
1996 |
1997 |
|
2016 |
|
2020 |
|
amrywiol |
|
2017 |
|
2008 |
11.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:
- Bydd yn ofynnol i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol, sy'n gosod y fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith / twf newydd. Bydd y CDS ar gyfer De-ddwyrain Cymru hefyd yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol fel darpariaeth tai, cyflogaeth a seilwaith, wrth roi ystyriaeth fawr i warchod a gwella tirweddau gwarchodedig, yn ogystal â chymeriad tirwedd a harddwch golygfaol. Mae Polisi 19 o fewn Cymru'r Dyfodol yn dweud y dylai Cynlluniau Datblygu Strategol sefydlu "coridorau gwyrdd a thirweddau o bwys cenedlaethol" ar gyfer y rhanbarth. Bydd angen iddo nodi'n glir ffiniau'r llain las y mae Cymru'r Dyfodol yn darparu ar ei chyfer (Polisi 34).
- Mae PCC ac NCTau atodol yn darparu polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â thirwedd. Mae PCC yn annog creu lleoedd effeithiol a strategol, gan gydnabod bod ystyriaethau tirwedd a seilwaith gwyrdd yn rhan annatod o'r broses ddylunio. Mae PCC yn darparu polisi cenedlaethol ar gyfer dylunio da, a dylai cynlluniau a CCA datblygu roi cyd-destun clir ar gyfer gofynion dylunio yn yr ardal leol.
- Mae NCT 12 (Dylunio) yn nodi 'cymeriad' fel un o'r pum agwedd ar ddylunio da. Mae'r amcanion yn y cyswllt hwn yn cynnwys 'cynnal a gwella cymeriad lleol', gan ddefnyddio dylunio i ymateb i 'dirweddau a threfluniau' a 'phatrymau a ffurfiau datblygu sy'n nodedig yn lleol'.
- Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru yn datblygu'r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'r nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Mae'r siarter yn amlinellu'r chwe egwyddor creu lleoedd canlynol sy'n ymdrin â'r amrywiaeth o ystyriaethau sy'n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da:
- Pobl a'r gymuned.
- Symudiad.
- Lleoliad.
- Tir cyhoeddus.
- Cymysgedd o ddefnyddiau.
- Hunaniaeth. - Mae PCC ac NCTau perthnasol yn tynnu sylw ymhellach at bwysigrwydd safleoedd bioamrywiaeth dynodedig, cynefinoedd, coetir, nodweddion hanesyddol, tir amaethyddol a thirweddau diwylliannol. Cydnabyddir hefyd y cyfraniad cadarnhaol y gall adfer tir ei wneud o ran mynd i'r afael â thir halogedig, diraddiedig, segur, llygredig ac ansefydlog.
Crynodeb sylfaenol
Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (ACTC)
11.4 Diffinnir ACTC ar raddfa dirwedd fras ar draws Cymru. Mae'r proffiliau disgrifiadol ar gyfer y 48 ardal gymeriad unigol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n gwahaniaethu rhwng y naill dirwedd a'r llall, gan gyfeirio at eu nodweddion naturiol, diwylliannol a chanfyddiadol sy'n nodedig yn rhanbarthol.[171]
11.5 Mae llawer o heriau gwydnwch a chynllunio amgylcheddol yn cael eu hystyried orau ar 'raddfa dirwedd'. Gall disgrifiadau polisi-niwtral yr ACTC gyfrannu at ddatblygu polisïau, strategaethau neu ganllawiau cenedlaethol a rhanbarthol.
11.6 Mae'r Fro o fewn ACTC 36 – Bro Morgannwg (gweler Ffigur 11.1 drosodd).
11.7 Dyma'r disgrifiad cryno ar gyfer yr ACTC:[172]
"Mae'r Fro yn dirwedd iseldir fwyn nodweddiadol, sydd wedi'i ffurfio'n bennaf o lwyfandir calchfaen donnog. Mae rhewglai'n cyfrannu at ei dopograffeg donnog. Mae amrywiaeth o ddefnyddiau tir gwledig yn nodweddu'r ardal, a atgyfnerthir gan wrychoedd trwchus, coetiroedd bychain mynych a choed sydd oll yn creu ymdeimlad o glydwch ac amgáu. Mae hyn er gwaethaf ei hagosrwydd i drefi mawr fel Caerdydd fwyaf, y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, a nifer o nodweddion mawr adeiledig yn y Fro.
Mae'r dirwedd yn dod i ben yn sydyn ar yr arfordir treftadaeth gyda chlogwyni fertigol. Ceir ychydig o draethau tywodlyd, yn ogystal â cherrig mân, ond mae llawer o ddelweddau'n dangos daeareg agored yr ardal rhynglanwol, gan gynnwys gwelyo a phalmentydd. Ceir golygfeydd pen clogwyn pell tuag at Wlad yr Haf. Nodwedd amlwg sy'n effeithio ar ran o'r arfordir yw Gorsaf Bŵer fawr, fodern a swnllyd Aberddawan.
Yng nghanol y Fro, mae aneddiadau cryno a hanesyddol yn atgyfnerthu ymdeimlad arbennig yr ardal o le, ond gyda datblygiad modern cyfyngedig. Ac eto mae'r ardal wedi denu nifer o weithwyr proffesiynol, sy'n cymudo i Gaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ychwanegu at gymeriad mwy llewyrchus lleoedd fel y Bont-faen a Llanfleiddan.
Lluniwyd cymeriad hanesyddol yr ardal gan ddylanwadau Eingl-Normanaidd. Mae cestyll Normanaidd a phentrefi canoloesol wedi'u hadeiladu o amgylch eglwysi yn rhai o'r prif nodweddion. Mae tirwedd gofrestredig Llancarfan yn syfrdanol o hardd yn ogystal â bod yn drysor cymharol ddigyffwrdd o ddatblygiad hanesyddol. A'r cyfan er gwaetha'r agosrwydd cymharol agos at drefi mawr cyfagos."
11.8 Mae'r nodweddion allweddol canlynol wedi'u nodi ar gyfer yr ACTC[173]:
- Llwyfandir iseldir calchfaen tonnog gyda rhewglai.
- Clogwyni arfordirol – yn nodi ymyl sydyn i'r dirwedd. Ar ben y clogwyni ceir glaswelltiroedd calchaidd, niwtral ac arforol sy'n llawn rhywogaethau. Mae haenau o ddaeareg yn nodweddu eu hochrau a'u llwyfannau rhynglanwol. Golygfeydd eang dros Fôr Hafren. Mae llawer yn rhan o'r Arfordir Treftadaeth.
- Defnyddiau tir amaethyddol cymysg - gyda chymeriad gwledig yn bennaf.
- Coetiroedd bach – yn y dwyrain yn bennaf. Ychydig o goedydd mawr.
- Patrymau a meintiau caeau cymysg - gyda gwrychoedd a chloddiau gwrychoedd, coed gwrychoedd yn aml. Mae waliau calchfaen yn diffinio tir uwchben y clogwyni yn y gorllewin.
- Cestyll Normanaidd a phentrefi canoloesol wedi'u hadeiladu o amgylch eglwysi.
- Mae'r rhan fwyaf yn wledig o hyd - gydag ymdeimlad cryf o gael ei hamgáu gan ffiniau caeau hanesyddol.
- Nifer o ddatblygiadau mawr adeiledig - gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Gorsaf Bŵer Aberddawan. Rhai ardaloedd gyda sŵn traffig, e.e. yng nghoridor yr M4.
- Aneddiadau cymudwyr - tai maestrefol modern yn ymestyn ond yn cyferbynnu â'r cymeriad anheddu hanesyddol.
11.9 O ran y proffil gweledol a synhwyraidd, mae'r ardal yn dirwedd llwyfandir arbennig, y torrir trwyddi gan sawl afon gan gynnwys Elái, Ddawan a Waycock. Mae'n dal i ysgogi ymdeimlad gwledig cryf o le gyda chlytwaith o gaeau, gwrychoedd, coetiroedd a choed, a thir amaeth agored, iseldir helaeth.
11.10 Y ddelwedd fwyaf eiconig yw o Arfordir Treftadaeth Morgannwg (gweler Pennod 10 uchod am fanylion pellach), lle daw'r dirwedd sy'n fwyn fel arall i ymyl sydyn a thrawiadol iawn, gyda chlogwyni sydd bron yn fertigol mewn mannau, traethau cerrig mân neu balmentydd carreg, ac ambell fae tywodlyd yn y gorllewin. O'r fan hon ceir golygfeydd hir ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf ac Exmoor. Mae'r gefnwlad arfordirol yn cael ei nodweddu gan lystyfiant wedi'i chwythu gan y gwynt o ganlyniad i fod yn agored i'r gwyntoedd mynychaf o'r de-orllewin.
11.11 Ymhellach i'r tir, mae crib Tresimwn yn ffurfio elfen dirwedd gref sy'n rhedeg ar draws canol y Fro, a adlewyrchir mewn golygfeydd tua'r de ar draws y Fro a thua'r gogledd ac i Gymoedd De Cymru.[174]
Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Lleol (ACTLl)
11.12 Mae Ffigur 11.2 drosodd yn dangos y 27 Ardal Cymeriad Tirwedd Lleol (ACTLl) ym Mro Morgannwg.
Ffigur 11.1 Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol
Ffigur 11.2 Ardaloedd cymeriad tirwedd lleol
Ardaloedd Cymeriad Morol (ACM)
11.13 Mae morweddau, fel tirweddau, yn adlewyrchu'r berthynas rhwng pobl a lle a'r rhan y mae'n ei chwarae wrth ffurfio'r lleoliad i'n bywydau pob dydd.
11.14 Mae Ardaloedd Cymeriad Morol yn tynnu sylw at y dylanwadau naturiol, diwylliannol a chanfyddiadol allweddol sy'n gwneud cymeriad pob morwedd yn wahanol ac unigryw. Comisiynwyd CNC ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn nodi cymeriad morweddau Cymru ar raddfa eang. Gwnaethant rannu dyfroedd glannau Cymru yn 29 Ardal Cymeriad Morol.[175]
11.15 Mae Bro Morgannwg yn ymestyn ar draws dwy ACM: ACM Aber Afon Hafren sydd i'r dwyrain o'r fwrdeistref sirol, ac ACM Dyfroedd Arfordirol Morgannwg a Nash Sands sydd yn y de / de-orllewin.
11.16 Mae ACM 29 Aber Afon Hafren yn cynnwys rhan Cymru o Aber Afon Hafren, gan ymestyn o'r ffin genedlaethol â Lloegr i gyrion gorllewinol y Barri.
11.17 Mae'r ardal forol yn cyd-fynd â'r rhan fwyaf o ACA Aber Afon Hafren (Cymru) ac ardal gyfan y cynllun morol. Mae ei ffin dde-orllewinol yn dilyn bathymetreg yn fras, gyda'r nod o eithrio rhannau dyfnaf y sianel gyda'r lan.
11.18 Mae'r AMC hefyd yn cynnwys holl safleoedd AGA, Ramsar a SoDdGA Aber Afon Hafren, o fewn yr ardaloedd gyda'r lan a'r rhai rhynglanwol. Mae'n cwrdd â'r arfordir yn y gorllewin i gyd-fynd ag ACTC 35: Casnewydd, Caerdydd a'r Barri (arfordir wedi'i ddatblygu sy'n ymledu allan o Fae Caerdydd).
11.19 Mae'r AMC hefyd yn gyson â sut mae'r Aber yn cael ei ddiffinio'n ofodol at ddibenion llywio arfordirol (e.e., Imray, 2008). Mae'r AMC yn eithrio rhan fach o ddyfroedd 'Cymreig' ar hyd Afon Gwy ac wrth ei genau, sy'n cael ei chynnwys fel rhan o ardal gyfagos y cynllun morol Seisnig.
11.20 Mae nodweddion allweddol yn cynnwys:[176]
- Saif Aber Afon Hafren, sydd ar ffurf twmffat helaeth, wrth enau pedair afon fawr (yr afonydd Hafren, Gwy, Wysg ac Avon).
- Mae amrediad llanw aruthrol yr aber yn ail yn unig i Fae Fundy yng Nghanada.
- Mae gan statws y llanw berthnasedd sylweddol i'r cymeriad canfyddedig.
- Mae creigiau Triasig a Jwrasig meddal yn agored ar hyd y lan, gan greu ardal rynglanwol greigiog eang. Mewn mannau eraill mae'r lan yn cael ei diffinio gan fflatiau llanw helaeth,
- gwaddodion llaid, tywod a graean a ddyddodwyd yn y cyfnod Holosen gan gynhyrchu gwely môr amrywiol o fflatiau a thraethellau, gyda dyfroedd bas cysylltiedig a nifer o ddyfroedd bas sy'n creu peryglon i fordwyo.
- Mae Ynys Echni (SoDdGA a GNL) yn ffurfio nodwedd borth yn y gorllewin – brigiad o galchfaen caletach sy'n codi o'r gwaddodion cyfagos. Mae Ynys Rhonech yn ffurfio nodwedd 'efaill' debyg yn nyfroedd Lloegr i'r de.
- Mae'r aber yn bwysig er mwyn dehongli dynameg a thirffurfiau arfordirol, a newidiadau yn lefel y môr, cyflenwad gwaddodion, hinsawdd a llif yr afonydd yn y gorffennol.
- Ffrydiau llanw cryf a thyrfedd sy'n cynhyrchu cymunedau biolegol sy'n nodweddiadol o amodau ffisegol eithafol llaid hylifol a thywod a chreigiau a ysgubir gan y llanw.
- Mae'r fflatiau llanw, y morfeydd heli a'r glaswelltiroedd gwlyb helaeth o bwys rhyngwladol ar gyfer adar dŵr sy'n gaeafu ac adar mudol.
- Ceir rhai o'r poblogaethau cyfoethocaf a mwyaf amrywiol o bysgod nad ydynt yn cael eu hecsbloetio yn y DU – ystyrir bod y poblogaethau o lampreiod y môr a gwangod yn fwy nag mewn unrhyw aber arall.
- Mae pobl wedi manteisio ar adnoddau naturiol cyfoethog yr AMC ers milenia, gyda thystiolaeth yn dyddio'n ôl i'r helwyr-gasglwyr cynharaf yn crwydro'r hyn a oedd gynt yn wastadedd arfordirol llawer mwy (cyn i lefel y môr godi tua 6,000 CC).
- Roedd pwysigrwydd strategol hirsefydlog ar gyfer masnach ryngwladol a mordwyo morol, yn enwedig wrth i borthladdoedd ar ddwy ochr Môr Hafren ehangu o'r cyfnod canoloesol ymlaen. Mae porthladdoedd gweithredol gan Gaerdydd, Casnewydd a'r Barri o hyd.
- Cafwyd nifer o longddrylliadau ar lawr y môr, yn enwedig yn y gorllewin – gan gynnwys enghreifftiau o rai a suddwyd gan ffrwydon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
- Mae llongau bysgota lleol yn dal lledod coch, torbytiaid, gwyniaid môr a morgathod o draethellau yr AMC.
- Mae hwylio cychod siarter hamdden a physgota ar y traeth yn weithgareddau economaidd pwysig.
- Mae eogiaid, llysywod a brithyllod yn cael eu pysgota at ddiben masnachol a hamdden yn yr afonydd sy'n bwydo'r aber, gan gynnwys trwy'r dull traddodiadol o bysgota 'putcher' (gosodir maglau pysgod rhynglanwol yn Allteuryn, West Pill a Chil-y-coed).
- Arfordir gwastad gyda Llwybr Arfordir Cymru wrth ei gefn, sy'n rhoi golygfeydd hir dros Fôr Hafren.
- Mae siâp twndis clasurol yr aber a'i chyfeiriadedd de-orllewinol yn ei gwneud yn agored i amodau tywydd eithafol (gan gynnwys ymchwyddiadau storm) sy'n ysgubo i mewn o ddwyrain yr Iwerydd.
11.21 Mae AMC Dyfroedd Arfordirol Morgannwg a Nash Sands yn gorchuddio'r dyfroedd arfordirol yn union i'r de o Fro Morgannwg, ger yr arfordir prin ei boblogaeth tua'r de o Ferthyr Mawr yn y gorllewin i gyrion allanol y Barri yn y dwyrain.
11.22 Mae'r ardal tua'r tir yn cwmpasu holl Arfordir Treftadaeth Morgannwg (mae'r ffin gorllewinol tua'r tir yn dilyn llinell y dynodiad). Ar wahân i Ferthyr Mawr yn y gorllewin (o fewn dynodiad yr Arfordir Treftadaeth), mae'r ardal tua'r tir yn cydweddu â'r Ardal Cymeriad Tirwedd ranbarthol gyfagos, rhif 36: Bro Morgannwg (trafodir uchod).
11.23 Ar y môr – yn y gorllewin, mae'r AMC yn cwmpasu'r holl ardal o Nash Sands i Orllewin yr As. Mae hefyd yn cynnwys Tusker Rock - nodwedd ym mae Merthyr Mawr. Caiff y ffin allanol â Môr Hafren (AMC 28) ei nodi gan y newid i ddŵr dyfnach a gwaddodion tywod a graean llinellol mawr sy'n gysylltiedig â Môr Hafren.
11.24 Nodweddion allweddol yr AMC hon:[177]
- Arfordir dramatig sy'n fythol newid o gerrig llaid a chalchfaen Jwrasig a Thriasig, gyda chlogwyni sydd bron yn fertigol, traethau cerrig mân neu balmentydd carreg ac ambell fae tywodlyd.
- Yn wynebu'r de a'r de-orllewin gyda dyfroedd sy'n mynd i waered yn raddol, gan gyrraedd dyfnder o 18 metr ar y pwynt isaf.
- Mae'r gwely môr carreg laid wedi'u gorchuddio gan fandiau o dywod a graean yn y gorllewin, gan ffurfio'r Nash Sands llinellol nodweddiadol gyda dyfroedd bas a geirwyau môr cysylltiedig.
- Mae Tusker Rock, riff helaeth, yn ffurfio nodwedd allweddol o'r forwedd yn y gorllewin. Mae'n dod i'r amlwg pan fo'r llanw ar drai ac yn cael ei hamgylchynu gan ddyfroedd bas.
- Mae ffrydiau llanw cryf, hinsawdd tonnau uchel a bod yn agored i wyntoedd sy'n rhuthro i fyny Môr Hafren yn creu rhagor o beryglon i fordwyo.
- Roedd rhannau o'r arfordir â dynodiad SoDdGA o werth cenedlaethol am eu glaswelltir niwtral, calchaidd ac arforol llawn rhywogaethau. Mae ACA Bae Dwnrhefn yn gartref i'r planhigyn prin, tafol y twyni.
- Cynefinoedd o bwys rhyngwladol ar Gwningar Methyr Mawr gan gynnwys cynefinoedd twyni tywod a llaciau, morfeydd heli, glaswelltiroedd calchfaen a gwernydd.
- Treillio masnachol a physgota gwialen a lein, gyda'r traethellau yn y gorllewin yn doreithiog o ledod coch, torbytiaid, gwyniaid môr a morgathod
- Hanes hir o feddiannaeth ddynol, gyda thystiolaeth Neolithig o dan Ferthyr Mawr, bryngaerau Oes yr Haearn ar ben y clogwyni ac olion cestyll canoloesol, porthladdoedd a safleoedd eglwysig.
- Adeiladodd goleudy eiconig Trwyn yr As o'r 19eg ganrif o galchfaen o'r traeth islaw. Mae'n tywys llongau heibio Traeth yr As ac yn symbol o dreftadaeth forwrol yr ardal (y goleudy olaf yng Nghymru â gofalwr).
- Llongddrylliadau hanesyddol a oedd yn gysylltiedig â'r drwg-enwog Drwyn yr As a Nash Sands, gan gynnwys cytars peilot o'r 19eg ganrif a oedd yn aros i dywys llongau i Gaerdydd neu Gasnewydd.
- Arfordir Treftadaeth boblogaidd, gyda Chanolfan Arfordir Treftadaeth a Chanolfan Seawatch yn denu ymwelwyr i ddysgu am dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol a morol yr ardal.
- Yn aml, aflonyddir ar rinweddau gwyllt yr ardal yn y dwyrain gan draffig awyr sy'n gysylltiedig â Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a ffurf flaenllaw Gorsaf Bŵer Aberddawan.
- Modd gweld arfordir Gwlad yr Haf yn glir, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Exmoor ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) y Quantocks.
- Golygfeydd i'r gorllewin ar hyd yr arfordir o Drwyn yr As, gan gynnwys hyd at AoHNE Gŵyr.
- Gwerthfawrogir golygfeydd helaeth yr ardal gan ddefnyddwyr Llwybr Arfordir Cymru sy'n rhedeg ar ben y clogwyni.
11.25 Fel y dangosir yn Ffigur 9.1 (ym Mhennod 9 uchod), mae AMC, AGA, Safle Ramsar ac ACA Aber Afon Hafren i'w gweld ym mhen dwyreiniol y Fro ac mae o bwys rhyngwladol i adar sy'n gaeafu yno.
11.26 Mae AMC Dyfroedd Arfordirol Morgannwg a Thraethell yr As yn cynnwys dyfroedd arfordirol Morgannwg, sy'n ymestyn o system twyni tywod helaeth Merthyr Mawr yn y gorllewin i gyrion datblygiadau yn y Barri yn y dwyrain. Arfordir Treftadaeth o fri yw'r arfordir sy'n wynebu'r de a'r de-orllewin (gweler Pennod 10 uchod). Mae'r arfordir yn gartref i adar amrywiol, gan gynnwys brain coesgoch, adar drycin y graig, rhostogion coch a hebogiaid tramor.
11.27 Mae Cwm yr As yn dangos dilyniant o ddyddodiadau daearegol sy'n 12,000 o flynyddoedd oed o ddyddodiadau daearegol ac yn cynnwys llu o falwod ffosil – gan ganiatáu am ail-greu'r newid yn yr hinsawdd o'r cyfnod rhewlifol diwethaf hyd heddiw.
Tirluniau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru
11.28 Mae tirweddau Cymru wedi'u ffurfio gan brosesau naturiol ac wedi'u llunio gan weithgaredd dynol. Mae'r gweithgaredd dynol hwn yn amrywio o'r cyfnodau cynhanesyddol hyd at yr oes fodern. I gydnabod gwerth tirweddau hanesyddol, ac i godi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd, mae Cadw, mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn cael ei alw'n Cyfoeth Naturiol Cymru) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS UK) wedi llunio Cofrestr anstatudol o 58 tirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol neu arbennig yng Nghymru.[178]
11.29 Mae Cofrestr Tirweddau Hanesyddol yn gofrestr ymgynghorol, anstatudol. Ei phrif nod yw darparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am ddetholiad cychwynnol o'r ardaloedd tirwedd hanesyddol pwysicaf a mwyaf arwyddocaol yng Nghymru er mwyn cynorthwyo eu gwarchodaeth a'u cadwraeth.
11.30 O'r 58 tirwedd gofrestredig, mae dwy yn y Fro neu'n rhannol yn y Fro. Mae Llancarfan yng nghanol y Fro, ac mae Merthy Mawr yn rhan ogledd-ddwyreiniol y Fro, ar hyd ffin ddiwygiedig ardal y CDLl, sy'n ymestyn i Ben-y-bont ar Ogwr (gweler Ffigur 11.3 drosodd).
Ffigur 11.3 Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig
Arfordir Treftadaeth Morgannwg
11.31 Fel y nodir ym Mhennod 9 uchod, mae'r arfordiroedd treftadaeth, er eu bod yn cael eu cydnabod yn genedlaethol, yn cael eu 'diffinio' yn hytrach na'u dynodi. Mae arfordiroedd treftadaeth yn cael eu gwarchod trwy reolaeth datblygu o fewn y system gynllunio.
11.32 Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg (gweler Ffigur 11.1 a Ffigur 11.4) yn cael ei chydnabod am ei bwysigrwydd cenedlaethol fel ardal o arfordir deniadol sydd heb ei ddatblygu, sy'n ymestyn am 14 milltir, o Aberddawan i Borthcawl. Mae'r arfordir rhwng Aberogwr ac Aberddawan yn olygfaol iawn, gydag ymdeimlad cryf o le. Mae clogwyni calchfaen agored yn cynnig golygfeydd helaeth dros Fôr Hafren tuag at Wlad yr Haf ac Exmoor. Mae caerau a goleudai hanesyddol yn nodweddion uwchben y traethau tywodlyd a'r llwyfannau creigiog. Mae'r forwedd sy'n aml yn wyllt ac yn agored, y glannau creigiog a'r clogwyni yn teimlo'n unig mewn mannau.
11.33 Mae'r forwedd yn wynebu tua'r de yn gyffredinol, ac mae'n agored i'r gwyntoedd mynychaf gyda dyfroedd sy'n mynd i waered yn raddol. Mae hyn yn cyfuno ag amrediad llanw uchel Aber Afon Hafren, gyda thraethell nodweddiadol Traethell yr As a dyfroedd bas cysylltiedig.[179]
11.34 Ffermio yw'r gweithgaredd mwyaf blaenllaw o fewn ardal yr Arfordir Treftadaeth, gan helpu i gynnal cymeriad y dirwedd a chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r economi wledig. Mae mân aneddiadau gwledig Aberogwr a Southerndown yn perthyn i'r dynodiad, ac maent yn ymwybodol o'r angen i ddiogelu rhinweddau arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg.[180]
Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg hefyd yn gyrchfan pwysig i ymwelwyr ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer hamddena anffurfiol, twristiaeth effaith isel a mynediad arfordirol, gan gefnogi cerddwyr a beicwyr (gweler Pennod 4).
Ffigur 11.4 Arfordir Treftadaeth Morgannwg[181]
Ardaloedd Tirwedd Arbennig
11.35 Dynodiad anstatudol yw Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol i ddiffinio ardaloedd o bwysigrwydd tirwedd uchel o fewn ei ffin weinyddol. Mae ATA ym Mro Morgannwg wedi'u dynodi i warchod ardaloedd sy'n bwysig oherwydd eu harwyddocâd daearegol, naturiol, gweledol, hanesyddol neu ddiwylliannol.[182]
11.36 Yn wreiddiol, dynodwyd ATA o fewn y Fro ar sail astudiaeth Tirweddau sy'n Gweithio i Gymru ym 1999. Nododd adolygiad o'r dynodiadau ATA, a gynhaliwyd yn 2008 gan TACP Consultants, chwe ardal a oedd yn deilwng o ddynodiad ATA. Roedden nhw'n dilyn yn agos yr ATA dynodedig blaenorol, gydag ardaloedd ychwanegol yn cael eu cynnwys a rhai wedi'u dileu, gan adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf oedd ar gael. Dyfeisiwyd y fethodoleg ddiwygiedig hon gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â chonsortiwm o awdurdodau lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gan ddefnyddio data LANDMAP.
11.37 Rhestrir yr ATA isod, a ddangosir yn Ffigur 11.5, gyda rhagor o fanylion hefyd yn cael eu darparu yn Nhabl 11.2 drosodd:[183]
- ATA 1 Castell Alun.
- ATA 2 Dyffryn Ddawan Uchaf ac Isaf.
- ATA 3 Dyffryn Elái a Llethrau'r Grib.
- ATA 4 Nant Llancarfan.
- ATA 5 Basn Dyffryn a Llethrau'r Grib; ac
- ATA 6 Basn Cwrt-yr-Ala.
Ffigur 11.5 Ardaloedd Tirwedd Arbennig[184]
CLG |
Angen |
Rhinweddau/nodweddion tirwedd gynradd |
Materion polisi a rheoli allweddol perthnasol |
Gwerthuso gweledol/synhwyraidd (isel, cymedrol, uchel, eithriadol) |
Castell Alun |
Mae gan yr ardal ymdeimlad cryf iawn o le, sy'n gysylltiedig yn gryf â hunaniaeth ddiwylliannol. Mae ardaloedd arfordirol a dyffrynnoedd afonydd o ansawdd eithriadol mewn sawl agwedd ac yn cynnwys cynefinoedd i sawl rhywogaeth brin. Mae natur agored y dirwedd hon yn ei gwneud yn sensitif i ddatblygu. |
Ar gyrion gorllewinol y Fro ac yn ffinio â ffin Arfordir Treftadaeth, mae ardaloedd mawr o'r dynodiad hwn o werth eithriadol o ran yr agweddau gweledol, cynefin, daearegol a synhwyraidd. Nodweddir gan lwyfandiroedd eang, bryniau sy'n ymdonni'n raddol a dyffrynnoedd yr afonydd Ewenni ac Alun. Mae Twyn yr Hen Gastell (SoDdGA) yn ardal rostir ddeniadol a nodedig, yn brin yn y Fro ac sy'n cynnal rhywogaethau pwysig. Mae Afon Ogwr yn creu tirwedd cyrs a system twyni tywod benodol o bwys rhyngwladol. |
Dylid cynnal y rhostir, ei wella a'i ehangu. Cyflwyno blociau o goetir llydanddail i integreiddio datblygiad aneddiadau / ffermydd ac i ddyffrynnoedd nentydd. Cyfyngu ar ddatblygu mewn ardaloedd sy'n weladwy yn eang a gwella manylion dulliau ffyrdd ac aneddiadau i adlewyrchu cymeriad ardal. Atgyfnerthu sgrinio i guddio datblygiad. |
Cymedrol i eithriadol. |
Dyffryn Ddawan Uchaf ac Isaf |
Mae Dyffryn Ddawan o werth uchel yn weledol ac yn ddiwylliannol. Mae ganddo nodweddion daearegol eithriadol ac mae'n cynnwys rhai ardaloedd o werth cynefinoedd uchel. Mae datblygiad maestrefol yn difetha'r cymeriad, ynghyd ag arferion amaethyddol dwys a gosod ffensys yn lle gwrychoedd. |
Mae'r ATA yn cael ei thorri yn ei hanner gan Ddyffryn Afon Ddawan. Yn gyffredinol, mae gan y dirwedd agored welededd helaeth o sawl man ac mae'n edrych dros Ben-y-bont ar Ogwr, gan ffinio â'r M4, a dylanwadu ar ganfyddiad yr ardal. Mae gan y dyffryn trawiadol lethrau coediog serth nodweddiadol ac ymdeimlad cryf o le ac mae'n gymharol anghyffredin. Mae gan y dirwedd iseldir donnog olygfeydd dros yr arfordir. |
Cynnal gorchudd gwrychoedd a choed. Gwella datblygiad i sicrhau manylion a chymeriad gwledig Ymgorffori cynlluniau amaeth-amgylcheddol Cyfyngu ar ddatblygiad mewn ardaloedd â gwelededd eang a chyflwyno blociau o goetir llydanddail i integreiddio aneddiadau / datblygiadau sy'n ymwneud â Ford. |
Cymedrol i uchel |
Dyffryn Elái a Llethrau'r Grib |
Mae'r ardal yn amgylchynu Dyffryn Elái a'r cyswllt rheilffordd pwysig cyfagos. Ystyrir bod ardaloedd yn dirywio (peilonau, yr M4, yr A4232 a datblygiadau ar hyd yr A48, ac ati), felly byddai dynodiad o fudd i ddatblygiad y dyfodol. |
Tirwedd iseldir donnog yw'r ardal yn bennaf gyda dyffryn Afon Elái'n ymestyn trwyddi o'r gogledd i'r de-ddwyrain. Mae'r rhan fwyaf o lawr y dyffryn iseldir yn orlifdir, gydag ymdeimlad o fod yn agored sy'n cyferbynnu ag ochrau uchel y dyffryn. Tua'r dwyrain, gan amgáu gorlifdir Elái, mae gan y dirwedd batrwm caeau bugeiliol cyfan a phatrwm anheddu traddodiadol. Mae'r M4 a'r A4232 yn amharu'n sylweddol ar y cymeriad ond ar y cyfan mae'n gyson gydag ychydig ardaloedd yn unig yn dioddef effaith ymylon trefol a diwydiant. Mae peilonau yn Nyffryn Elái i'r gogledd yn amharu ar olygfeydd sydd fel arall yn ddeniadol yn yr ardal hon a'r tu allan iddi. Mae datblygiadau amhriodol lle mae ffermydd wedi'u haddasu'n anheddau ac arferion rheoli tir gwael yn bygwth cyfanrwydd y cymeriad yma. I'r gogledd-orllewin mae'r dirwedd yn cael ei nodweddu gan ddyffrynnoedd a bryniau iseldir. Mae'n dirwedd sy'n cael ei chynnal yn dda gydag ymdeimlad heddychlon. Gyda gorchudd helaeth o wrychoedd a choetir, mae ganddi werth golygfaol uchel ond gwerth cynefinoedd isel. Mae'r ffin ddeheuol yn cynnwys crib gefnen, sy'n amlwg yn y dirwedd ac yn rhoi golygfeydd ar draws y Fro. Mae'r A48 yn torri ar draws y grib hon ac aneddiadau llinellol sydd fwyaf cyffredin yma. Mae Coedwig Hensol i'r gorllewin yn creu tirwedd o amrywiaeth unffurf gyda naws gysgodlyd, heddychlon a diogel. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer hamdden. |
Creu cysylltiadau rhwng coetir tameidiog trwy blannu coridorau gwyrdd newydd Gwella Coedwig Hensol fel ffocws ar gyfer hamddena a chynyddu lliw llydanddail Cadw cydlyniad patrwm caeau a gwella arferion rheoli tir Rheoli cynefinoedd â blaenoriaeth Rheoli datblygiadau tai ac addasiadau ffermydd Cyfyngu ar ddatblygu fel nad yw'n amharu ar linell y gefnen ac yn creu datblygiad llinellol ar hyd yr A48 |
Cymedrol i uchel |
Nant Llancarfan |
Nodwyd bod dyffryn Nant Llancarfan yn nodwedd uchel ac eithriadol. Mae dyffryn iseldir cul ac amgaeëdig nant Waycock, gyda llawer o bentrefi wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth, yn llenwi rhan ddeheuol yr ATA hon. Mae datblygiadau i'r de-ddwyrain a phresenoldeb Maes Awyr Caerdydd yn ymledu i'r ardal hon. |
Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn dir iseldir tonnog, gyda dyffryn Nant Llancarfan yn torri ar ei thraws. Mae'r ardal ganolog hon yn ddyffryn iseldir cul ag ochrau serth, ac mae'n cynnwys tirwedd dawel a hanesyddol o nentydd, coetiroedd llydanddail lled-naturiol, coetir conwydd wedi'u plannu a ffermydd bach. Saif anheddiad hynafol pentref Llancarfan o fewn Tirwedd Gofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac mae'n cynnwys Ardal Gadwraeth. Mae'r dirwedd wledig o ffermydd wasgaredig o werth eithriadol fel tirwedd ddeniadol ac er mwyn cadw cymunedau hanesyddol. Yn y de, ar lwyfandir yr arfordir mae awyrendy Maes Awyr Caerdydd yn amharu ar y golygfeydd. Mae'r ardal hon yn ffinio â llethrau serthach y dyffryn ac ymylon coediog Dyffryn Waycock, gyda Phen-marc yn bentref arbennig o hardd. |
Gwella ffyrdd gwledig a chyfyngu datblygiadau i sicrhau manylion a chymeriad gwledig Tynnu llinellau pŵer yn Nyffryn Waycock lle bo modd Cadw a gwella'r cymeriad cynhenid trwy reoli coetir a gwrychoedd a chyfyngiadau datblygu. Cynnal y gorchudd coed ar y grib i'r gogledd er mwyn integreiddio datblygiad. |
Cymedrol i uchel |
Basn Dyffryn a Llethrau'r Grib |
Mae datblygiadau, gan gynnwys Gwenfô yn y dwyrain a'r Barri yn y de, yn amharu ar hunaniaeth a chyfanrwydd yr ardal wledig sydd fel arall yn weddol gryf. |
Mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi'i ffurfio o ddyffrynnoedd deniadol, Nant Brân ac Afon Waycock. Ceir golygfeydd eang, braf i gefn gwlad a reolir yn dda sy'n cadw patrwm caeau mawr cydlynol a choetiroedd. Mae'n dirwedd wledig hanesyddol gymharol ddigyffwrdd ac mae'r ardal yn cynnwys sawl CGB. Mae aneddiadau wedi'u hintegreiddio'n dda â'r dirwedd a'r llystyfiant o'u cwmpas. Mae'r cyfuniad o ffordd, nant/ffos ddraenio, wal gerrig/ardd neu annedd yn nodweddiadol ac yn gynrychioliadol o'r Fro yn yr ardal yma. Mae Gerddi Dyffryn, sydd yng nghanol yr ATA, wedi'u hamgáu er preifatrwydd gan goetiroedd. Mae'n safle Gradd 1 ar y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Y pwynt uchaf yn y dwyrain yw llechwedd dyffryn ger chwarel Gwenfô. Mae ardal Gwenfô yn enghraifft wych o sut mae tirweddau wedi datblygu dros y milenia. I'r gogledd, mae'r ardal yn gweithredu fel ymyl llethrog amlwg i ddyffrynnoedd Elái a Gwenfô. Mae gan yr ardal ymdeimlad unigryw o le. |
Atgyfnerthu cymeriad gwledig a lleihau effaith datblygiadau newydd, gan gyfyngu ar ddatblygiadau ar y llethrau yn benodol. Datblygu gorchudd coetir a gwrychoedd i integreiddio aneddiadau'n well Gwella coridor y ffordd a datblygiad cysylltiedig, gan gynnwys manylion. Nodi a gweithredu atebion ar gyfer gwella seilwaith yng Ngerddi Dyffryn |
Cymedrol i uchel |
Basn Cwrt-yr-Ala |
Mae'r ATA hon yn cael ei hamgylchynu ar dair ochr gan gytrefi mawr sy'n fygythiad sylweddol oherwydd datblygiadau tai a seilwaith. Mae ei hagosrwydd at boblogaeth hefyd yn cyfrif am gyfran fawr o laswelltir amwynder. |
Mae'r rhan fwyaf o dirwedd yr ATA yn seiliedig ar ddyffryn Cwrt-yr-Ala, sy'n ffurfio blaenddyfroedd Dyffryn Tregatwg. Ceir ymdeimlad cryf o le gyda nentydd, pyllau argaeëdig, llethrau coediog y dyffryn ac anheddiad dymunol yng ngwaelod y dyffryn. Mae arwyddion o bwysau trefol ar lonydd er bod y tir amaeth mewn cyflwr da ar y cyfan. I'r gogledd a'r dwyrain mae llethr sgarp yn gweithredu fel ymyl gorllewinol i fasn Caerdydd. Mae'r dirwedd naturiol wedi cael ei newid yn sylweddol trwy ehangu trefol. Mae ardal helaeth o barciau presennol a hen barciau sy'n gysylltiedig â Phlas Cwrt-yr-Ala. Mae'r ATA yn cynnwys y glustogfa agored rhwng Penarth a Dinas Powys, a dylid ei chynnal ar gyfer cymeriad Dinas Powys fel un o ychydig bentrefi mawr o'r fath yn Ne-ddwyrain Cymru. Y ffin de-ddwyreiniol yw Penarth a oedd yn darparu tai i weithwyr y dociau yn y 19eg ganrif. |
Rheoli coetir i gynnal gorchudd coed parhaus, yn enwedig ar y nenlin. Cynnal gwrychoedd i fod yn fframwaith gweledol cryf yn ogystal â rhinweddau gwledig a natur llawn llystyfiant y dyffryn. Cynnal a chadw'r lletem las rhwng Dinas Powys a Phenarth. Gwella rheolaeth ar ffiniau a gwella adeileddau. |
Isel i uchel |
Llinell sylfaen y dyfodol
11.38 O ystyried maint y tirweddau o safon uchel a gwerth uchel yn y Fro, bydd angen i ddatblygiadau newydd o fewn lleoliad yr ardaloedd hyn o safon uchel (yn arbennig yr ardaloedd hynny sydd wedi'u dynodi / cydnabod yn lleol neu'n genedlaethol), sicrhau bod ystyriaeth ofalus yn cael ei roi i elfennau dyluniad y cynnig. Mae hyn yn cynnwys y lleoliad, y cyfeiriadedd, y cynllun a'r gwaith tirlunio, er mwyn sicrhau bod y rhinweddau a'r nodweddion arbennig y mae ardaloedd tirwedd wedi eu dynodi ar eu cyfer yn cael eu diogelu.
11.39 Heb y CDLlN, byddai datblygiadau hapfasnachol yn parhau i fynd rhagddynt gyda'r potensial i amharu ar y dirwedd.
Prif faterion
11.40 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):
- Mae gan y Fro dirwedd amrywiol o ansawdd uchel, ac mae llawer ohoni wedi'i dynodi/chydnabod yn genedlaethol am ei rhinweddau a'i chymeriad arbennig, gan gynnwys treftadaeth a morol.
- Mae'r CLGau yn gwneud cyfraniad pwysig at gyd-destun gweledol a lleoliad aneddiadau ac mae ganddynt werth hamdden, tra bod gan dirweddau cofrestredig o ddiddordeb arbennig arwyddocâd hanesyddol yn ogystal â nodweddion tirwedd. Mae ardaloedd arfordirol y Fro o werth sylweddol, gan gynnal morwedd unigryw. Bydd yn bwysig i'r CDLlN sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u gwella yn y tymor hir.
Amcanion ACI
11.41 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:
Amcan ACI |
Cwestiynau asesu - a fydd y cynllun/polisi yn helpu i: |
Diogelu a gwella ansawdd a chymeriad tirwedd, morwedd a threfluniau Bro Morgannwg. |
|
[171] Cyfoeth Naturiol Cymru (2021): 'Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (ACTC)', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[172] Ibid
[173] Ibid
[174] Ibid
[175] Cyfoeth Naturiol Cymru (2015): 'ACM 27', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[176] Cyfoeth Naturiol Cymru (2015): 'AMC 29', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[177] Ibid
[178]Lle - Geo-borth i Gymru (2022): 'Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[179] Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad): 'Tirwedd Canol De Cymru', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[180]Bro Morgannwg (2017): 'Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon
[181] Cyfoeth Naturiol Cymru (2021): 'Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (ACTC)', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[182]TACP (2008): 'Bro Morgannwg - Dynodi Ardaloedd Tirwedd Arbennig', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[183] Ibid.
[184] Ibid