Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report
8. Adnoddau naturiol (aer, tir, mwynau a gwastraff)
8.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ansawdd aer lleol, ansawdd yr adnoddau pridd, cynhyrchu gwastraff, swm yr adnoddau mwynol, adnoddau cyflenwi dŵr ac ansawdd y dŵr ym Mro Morgannwg.
Cyd-destun polisi
8.2 Mae Tabl 8.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.
Tabl 8.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygwyd mewn perthynas ag adnoddau naturiol
Teitl y ddogfen |
Blwyddyn gyhoeddi |
Cynllun y DU i leihau crynodiadau nitrogen deuocsid wrth ymyl y ffordd |
2017 |
2015 |
|
2015 |
|
2016 |
|
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol) |
2021 |
2021 |
|
2002 |
|
2018 |
|
2021 |
|
2006 |
|
2019 |
|
2020 |
|
Tuag at Ddyfodol Diwastraffhttps://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/tuag-at-ddyfodol-diwastraff-ein-strategaeth-wastraff.pdf |
2019 |
Mwy nag Ailgylchu: Strategaeth i wireddu'r Economi Gylchol yng Nghymru (2021) |
2021 |
1997 |
|
2015 |
|
2014 |
|
2017 |
|
2019 |
|
2017 |
|
2020 |
|
2017 |
|
2021 |
|
2022 |
8.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:
- Bydd yn ofynnol i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol, sy'n rhan o'r cynllun datblygu ac yn nodi'r fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith / twf newydd. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod Bro Morgannwg o fewn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, y lleiaf o'r pedwar rhanbarth yn ôl arwynebedd, sy'n cynnwys dinasoedd arfordirol Caerdydd a Chasnewydd a chyn-gadarnleoedd diwydiannol cymoedd De Cymru. Mae'r CDS ar gyfer De-ddwyrain Cymru yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol fel ansawdd aer, yr amgylchedd dŵr, defnydd tir, a'r adnodd pridd, gan gydnabod buddion ehangach cyfalaf naturiol a'r rhai sy'n deillio o wasanaethau ecosystemau.
- Yn ogystal, mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod bod angen ystyried goblygiadau hirdymor y newid yn yr hinsawdd a meithrin gwydnwch yn hyn o beth, trwy lywio datblygiad strategol dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae Cymru'r Dyfodol yn annog defnydd effeithlon o dir, gan fynnu bod y berthynas rhwng pob math o ddefnydd tir a rheolaeth yn cael ei hystyried yn llawnach os yw Cymru am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a galluogi cymunedau i elwa o fathau mwy cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn rhannau helaeth o ardaloedd gwledig y rhanbarth.
- Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn amlinellu "rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy" (RhANG), gan ddefnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd ac ar raddfa sy'n hyrwyddo cyflawni'r amcan i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r buddion y maent yn eu rhoi. Mae'r Ddeddf yn gosod fframwaith ar gyfer cyflawni RhANG, sy'n cynnwys camau ymarferol i wella ansawdd yr aer, nid yn unig yn y mannau mwyaf llygredig ond ledled Cymru.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar draws llywodraethau i fynd i'r afael ag ansawdd aer. Mae Rhaglen 'Aer Glân i Gymru' (2018) yn ceisio lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol. Bydd y rhaglen hon yn ystyried tystiolaeth a datblygu a gweithredu camau sydd eu hangen ar draws adrannau'r llywodraeth gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, addysg, datgarboneiddio, trafnidiaeth, llywodraeth leol, cynllunio, amaethyddiaeth a diwydiant i sicrhau aer glân i Gymru. Bydd y Rhaglen yn adeiladu ar waith presennol ar draws y llywodraeth i leihau llygredd aer, gan gynnwys Cymru'r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru.
- Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi a chyhoeddi manylion am ffynonellau sŵn. Yna mae'n rhaid i'r awdurdod cymwys lunio mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu i ymdrin â'r llygredd sŵn hwn. Gan ychwanegu at hyn, mae NCT 11: Sŵn (1997) yn amlinellu sut i ddefnyddio'r system gynllunio i leihau effaith andwyol sŵn. Yn 2015, amlinellwyd diweddariad i NCT 11: Sŵn.
- Nodir polisi cynllunio cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru, a'i brif amcan yw sicrhau bod y system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu datblygu cynaliadwy, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn unol â gofynion Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall a dyletswyddau dilynol megis y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. O ran adnoddau naturiol, mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod paratoi CDLl yn ystyried y cyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol ar ddatblygu tir, gan gynnwys, er enghraifft, lefel halogi a sefydlogrwydd. Dylid ystyried hefyd yr effeithiau posibl y gallai adfer tir wedi'i halogi eu cael ar yr amgylcheddau naturiol a hanesyddol.
- Mae PCC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu ystyried materion sy'n gysylltiedig â dŵr o gyfnod cynnar yn y broses o nodi tir ar gyfer datblygu ac ailddatblygu. Yn gysylltiedig â hyn, mae gan y Cyngor, fel Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC), gyfrifoldeb statudol dros benderfynu ar geisiadau draenio ynglŷn â datblygiad newydd.
- Ymdrinnir ag ansawdd aer a seinwedd ym Mholisi Cynllunio Cymru fel elfen allweddol o'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, gan osod y materion yn gyfartal ag amcanion eraill megis tai, trafnidiaeth a datblygiad economaidd. Mae PCC yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd aer a seinweddau priodol i iechyd a lles pobl a'r amgylchedd ac yn ceisio sicrhau bod dulliau hirdymor yn cael eu cymryd i atal creu problemau newydd neu waethygu materion presennol.
- Gan gyfeirio'n benodol at reoli gwastraff, mae TAN21 (Gwastraff) yn nodi y dylai cynllunio defnydd tir helpu i:
─ Gyrru'r gwaith o reoli gwastraff i fyny'r hierarchaeth wastraff a hwyluso darparu rhwydwaith ddigonol o gyfleusterau priodol.
─ Lleihau effaith rheoli gwastraff ar yr amgylchedd (naturiol ac o waith dyn) ac iechyd pobl trwy'r lleoliad a'r math priodol o gyfleusterau; a
─ Chydnabod a chefnogi'r buddion economaidd a chymdeithasol y gellir eu gwireddu o reoli gwastraff fel adnodd o fewn Cymru. - Y Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd (2012) 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' yw'r ddogfen gyffredinol o ran strategaeth gwastraff yng Nghymru. Mae'n ymwneud â rheoli holl wastraff Cymru, yn awgrymu lle mae angen gwella ailgylchu ac yn ceisio hwyluso datblygiadau seilwaith i fynd i'r afael ag anghenion cyfleusterau rheoli gwastraff yng Nghymru. Ar gyfer de-ddwyrain Cymru, mae'r cynllun yn cynnwys gofyniad am gyfleusterau rheoli gwastraff ychwanegol sy'n gallu delio â rhwng 421,000 a 871,000 o dunnelli erbyn 2024-2025.
- O ran mwynau, mae PCC yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu dyddodion y gallai fod eu hangen ar y gymdeithas yn y dyfodol. Dylai'r CDLlN geisio diogelu'r adnodd lleol yn unol â pholisi cenedlaethol i sicrhau argaeledd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn benodol, mae PCC yn nodi gofyniad am gyflenwad cyson a digonol o fwynau. Mae NCTM 1 (agregau) ac NCTM 2 (glo) yn gosod egwyddor arall ar gyfer darparu adnoddau cynaliadwy i ddiwallu anghenion cymdeithasol ar gyfer adeiladu (agregau) ac ynni (glo). Mae'r 2il Adolygiad o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn gosod y cyd-destun is-ranbarthol a lleol ar gyfer darpariaeth mwynau wrth symud ymlaen, gan gynnwys gofynion lleol ar gyfer agregau crai.
- Mae PCC yn nodi bod cynlluniau datblygu yn gerbydau pwysig ar gyfer hyrwyddo diogelu'r amgylchedd. Dylent alluogi ystyried yr effeithiau a allai datblygiadau arfaethedig, a'r galw am drafnidiaeth sy'n gysylltiedig â nhw, eu cael ar ansawdd tir, aer neu ddŵr a'r effeithiau y gallai ansawdd tir, aer neu ddŵr eu cael ar ddatblygiadau arfaethedig.
- Mae Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (CRhAD) Dŵr Cymru (2019) yn edrych ar draws 30 mlynedd rhwng 2020 a 2050 i asesu risgiau posibl i gyflenwi digon o ddŵr i ateb y galwadau disgwyliedig. Ymhlith y ffactorau allweddol sy'n cael eu hystyried y mae newidiadau demograffig ac economaidd sy'n effeithio ar alw dŵr, newid yn yr hinsawdd sy'n cael ei gydnabod gan Ddeddf Cenhedlaeth y Dyfodol LlC fel her sylweddol sy'n wynebu Cymru, a rhwymedigaethau amgylcheddol megis Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewrop a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
- Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cynaliadwy a chytbwys ledled y rhanbarth, gan ymrwymo i ddull partneriaeth o ymdrin â thai ac adfywio, sy'n annog defnydd tir effeithlon, gan achub ar gyfleoedd tir llwyd lle bo modd. Nod y fargen yw annog buddsoddiad a chreu amgylchedd cyfle cyfartal yn y deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion ar gyfer hyrwyddo twf cynaliadwy yn yr ardal sy'n gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd adnoddau a lleihau effeithiau amgylcheddol.
- Mae mabwysiadu Cynllun Busnes a Strategaeth Ailgylchu a Rheoli Gwastraff Bro Morgannwg yn ddiweddar (2022 - 2032) yn gam allweddol tuag at fynd i'r afael â Her Prosiect Sero i "Leihau gwastraff a rhoi ar waith y cyfleusterau, y gwasanaethau a'r gwaith codi ymwybyddiaeth angenrheidiol ar gyfer economi fwy cylchol gyda phwyslais cryf ar ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu". Mae'r Strategaeth yn ystyried ein gweithredoedd ar ffurf cynllun 10 mlynedd (2022-2032) ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau LlC ar gyfer ailgylchu a gwastraff.
Crynodeb sylfaenol
Ansawdd aer
8.4 Ar hyn o bryd nid oes unrhyw Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) ym Mro Morgannwg; fodd bynnag, nodir y datganwyd ARhAA Windsor Road, Cogan, Penarth ym mis Awst 2013 am lefelau nitrogen deuocsid gormodol, ond fe'i dirymwyd ym mis Ionawr 2021.[136]
8.5 Er bod ansawdd aer ym Mro Morgannwg yn cydymffurfio â'r rheoliadau i ddiogelu iechyd dynol a'i fod yn bodloni gofynion yr amcanion ansawdd aer perthnasol, bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro gan fod i'r Fro un o'r lefelau uchaf yng Nghymru o lygredd aer o waith dyn sydd yn uwch na'r ffigurau cyfartalog ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.[137] Mae sgoriau allyriadau aer yn llawer uwch yn y de ac yn nwyrain y sir, gan gynnwys y Barri, lle mae dwysedd poblogaeth, lefelau traffig ac agosrwydd at ddiwydiant trwm yn fwy nag yn ardaloedd mwy gwledig y sir. Mae allyriadau aer yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau mwy difreintiedig y Fro sy'n gallu gwaethygu'r lefelau o anghyfartaledd iechyd sydd eisoes yn bodoli trwy gynyddu lefelau clefydau'r ysgyfaint ac afiechydon eraill.
Llygredd sŵn
8.6 Mae'r map ardaloedd tawel i Gaerdydd a Phenarth[138] yn dangos bod pum ardal dawel ddynodedig ym Mhenarth, sef:
- Penarth Head Lane
- Parc Belle Vue
- Parc Alexandra
- Golden Gates
- Caeau Chwarae Fictoria
8.7 Ar ôl i ardal gael ei ddynodi'n ardal dawel, mae Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn bod polisïau cynllun datblygu yn ystyried yr angen i'w hamddiffyn rhag cynnydd mewn sŵn ac mae angen ystyriaeth arbennig lle cynigir datblygiad cynhyrchu sŵn gerllaw[139].
Adnoddau dŵr
8.8 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am reoli adnoddau dŵr yng Nghymru. Un o'r ffyrdd y gwneir hyn yw trwy drwyddedu tynnu dŵr o fewn dalgylchoedd. Datblygodd CNC Strategaethau Rheoli Tynnu Dŵr mewn Dalgylchoedd (SRhTD) i:
- hysbysu'r cyhoedd am adnoddau dŵr ac arferion trwyddedu:
- darparu dull cyson o reoli adnoddau dŵr lleol; a
- help i gydbwyso anghenion defnyddwyr dŵr a'r amgylchedd.
8.9 Mae dau ddalgylch afon yn cwmpasu'r awdurdod gyda'r rhan fwyaf o'r ardal yn gorwedd o fewn ardal SRhTD Tregatwg a Ddawan. Mae ardal lai i'r dwyrain yn gorwedd o fewn ardaloedd SRhTD Taf ac Elái (y cynhyrchwyd y ddwy yn 2006) (gweler Ffigur 8.2).
8.10 Mae'r echdyniad cyflenwad dŵr yfadwy mwyaf yn ardal SRhTD Tregatwg a Ddawan yn dod o Ffynnon Biglis ar Waun Tregatwg. Pan fo'r llif yn isel, nodir ar hyn o bryd bod gormod o ddŵr yn Afon Tregatwg yn cael ei echdynnu.[140]
8.11 Calchfaen carbonifferaidd yw'r brif ddyfrhaen yn yr ardal a gellir tynnu symiau sylweddol o ddŵr ohono. Fodd bynnag, mae'r calchfaen yn storfa hirdymor wael ac felly nid yw'n darparu llawer o lif sylfaen i'r afonydd. O ganlyniad, gall y ddwy system afon brofi llif afonydd isel sy'n digwydd yn naturiol yn ystod cyfnodau sych hir. Mewn hafau sych iawn, gall rhai o'r llednentydd llai sychu'n llwyr.[141]
8.12 Mae pum Ardal Gwarchod Diogelu Tarddiad Dŵr wedi'u dynodi ym Mro Morgannwg. Dangosir y rhain yn Ffigur 8.2, ac maent wedi'u canoli ar: Aberogwr, Dinas Powys, Llansanwyr, Llan-gan a Threoes.
8.13 O ran ansawdd dŵr, mae adroddiadau biolegol SRhTD Tregatwg a Ddawan naill ai'n 'dda' neu'n 'dda iawn' ac mae ansawdd biolegol rhannau uchaf ac isaf Afon Elái yn dda.
8.14 Saif Bro Morgannwg o fewn Cynllun Rheoli Basn Afonydd (CRhBA) Gorllewin Cymru gyda chyfran fach yng ngogledd yr awdurdod yn cael ei chynnwys o fewn CRhBA Hafren. Mae Pecyn Tystiolaeth Awdurdodau Lleol CNC ar gyfer y Fro yn dangos bod 8 o bob 14 corff dŵr wyneb wedi dangos bod ganddyn nhw Statws Ecolegol Da (GES), bod gan bump Statws Ecolegol Cymedrol a bod gan un ohonynt Statws Ecolegol Gwael.[142]
Dyfroedd ymdrochi
8.15 Mae gan y Fro bedwar traeth ymdrochi: Cold Knap yn y Barri, Bae Jackson, Bae Whitmore, a Southerndown.[143] Mae Ffigwr 8.1 yn dangos y tri thraeth ymdrochi yn y Barri yn y dwyrain, a thraeth ymdrochi Southerndown yng ngorllewin y Fro.[144]
Ffigur 8.1 Dŵr ymdrochi dynodedig[145]
8.16 Yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro dyfroedd ymdrochi. Mae Tabl 8.2 isod yn dangos bod pob un o bedwar traeth ymdrochi'r Fro wedi pasio dosbarthiad Dyfroedd Ymdrochi'r CE o 2018. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod ansawdd cyffredinol y dŵr ar gyfer Cold Knap yn y Barri a Southerndown wedi parhau'n gyson uchel o'i gymharu â'r dosbarthiad ar gyfer Bae Jackson, sydd â chanlyniadau mwy cymysg.
Tabl 8.2 Asesiadau ansawdd dŵr ymdrochi blynyddol[146]
Dŵr ymdrochi |
2018 |
2019 |
2020 |
2021 |
Cold Knap y Barri |
Ardderchog |
Ardderchog |
Ardderchog |
Ardderchog |
Whitmore |
Da |
Ardderchog |
Da |
Da |
Bae Jackson |
Digonol |
Da |
Digonol |
Digonol |
Southerndown |
Ardderchog |
Ardderchog |
Ardderchog |
Ardderchog |
8.17 Mae'r traethau a'r dyfroedd arfordirol y tu hwnt dan bwysau gan gyfuniad o bwysau gwledig gwasgaredig a llygredd trefol o garthion / camgysylltiadau yn yr ardaloedd datblygedig. Pum ffynhonnell uchaf y llygredd yw:[147]
- Llygredd o garthion – gall bacteria o garthion ddod i'n dyfroedd oherwydd methiannau neu orlifo mewn systemau neu'n uniongyrchol o waith chwalu carthion.
- Dŵr sy'n draenio o ffermydd a thir fferm - gall tail o dda byw neu slyri sydd wedi ei storio'n wael lifo i afonydd a nentydd gan arwain at ddeunydd ymgarthol (faecal) yn cyrraedd y môr.
- Anifeiliaid ac adar ar draethau neu'n agos iddynt - mae baw cŵn, adar ac anifeiliaid eraill yn gallu effeithio ar ddŵr ymdrochi gan ei fod yn aml yn cynnwys lefelau uchel o facteria (llawer uwch na gwastraff dynol sy'n cael ei drin).
- Dŵr sy'n draenio o ardaloedd poblog - mae dŵr sy'n draenio o ardaloedd trefol yn dilyn glaw trwm yn gallu cynnwys llygredd o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys carthion anifeiliaid ac adar.
- Carthion domestig – mae draeniau wedi'u camgysylltu a thanciau septig wedi'u lleoli a'u cynnal yn wael yn gallu llygru systemau dŵr wyneb.
Ardaloedd yn effeithio ar ddyfroedd ymdrochi
8.18 Mae Ffigur 8.2 drosodd yn dangos ardaloedd sy'n effeithio ar ddyfroedd ymdrochi o fewn y Fro. Mae'r set ddata hon yn cynnwys polygonau sy'n ymwneud â phob safle a nodwyd o dan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi (76/160/EEC)/. Lle mae safle yn cyfateb i Ardal Sensitif o dan y Gyfarwyddeb Triniaeth Dŵr Gwastraff Trefol (UWWTD) yng Nghymru a Lloegr, darperir y polygon ar gyfer yr Ardal Sensitif honno. Mae'r ardaloedd hyn yn cyd-fynd â'r dyfroedd ymdrochi dynodedig a drafodir uchod.
Ffigur 8.2 Adnoddau ac ansawdd dŵr
Tir a phridd
Dosbarthu Tir Amaethyddol (DTA)
8.19 Gan adlewyrchu ei natur wledig, mae tua 85% (28,132 hectar) o'r Fro yn dir amaethyddol. Cynhaliwyd arolygon DTA ar ôl 1988 am ganran fach o'r Fro, fel y'u cyflwynwyd yn Ffigur 8.3. Ceir ardaloedd o dir amaethyddol gorau a mwyaf hyblyg Gradd 2 i'r dwyrain o Dresimwn ac i'r gogledd-orllewin o Lanilltud Fawr.
8.20 Oherwydd prinder data ers 1988, mae angen dibynnu ar fapio DTA rhagfynegol ar gyfer y Fro (gweler Ffigur 8.4). Mae'r rhan fwyaf o'r tir amaethyddol ym Mro Morgannwg wedi'i dosbarthu'n Radd 2 neu'n Radd 3. Ymddengys fod ardaloedd o dir amaethyddol o ansawdd uchel (Gradd 1 a 2) yng ngogledd a chanolbarth y Fro, yn arbennig o gwmpas Tresimwn, i'r dwyrain o'r Bont-faen, ac yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y Fro o amgylch Saint-y-brid a Chorntwn. Fodd bynnag, cydnabyddir mai data rhagfynegol yw hyn, ac felly ceir rhywfaint o ansicrwydd gan nad yw arolygon llawn wedi'u cynnal.
8.21 Mae'n werth nodi bod tir amaethyddol, yn enwedig tir sy'n defnyddio dulliau ffermio megis troi'r pridd dull cadwraeth, hefyd yn gweithredu fel sinc carbon, yn storio carbon yn y pridd trwy'i secwestru. Pan aflonyddir ar dir, fel pan fo'n cael ei ddatblygu ar gyfer tai, mae carbon yn cael ei ryddhau i'r atmosffer, gan gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd.
Ffigur 8.3 CTA ôl-1988
Ffigur 8.4 CTA Rhagfynegwyd
Mwynau a daeareg
8.22 Mae Bro Morgannwg yn gyflenwr mwynau pwysig ac fel Awdurdod Cynllunio Mwynhau, mae cyfrifoldeb ar y cyngor i sicrhau bod y CDLlN yn darparu cyflenwad parhaus o fwynau yn ystod a'r tu hwnt i'r cyfnod y mae'r CDLlN ar waith. Gwneir yr asesiad o ddigonolrwydd y banc tir yng ngoleuni'r canllawiau a geir yn NCTM1: Agregau ac yn Natganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru am Agregau.[148]
8.23 Ar sail ffigur cronfa dir y Cyngor ym mis Gorffennaf 2016 (31,962,000 o dunelli) a'r ffigur cynhyrchu cyfartalog dros 10 mlynedd, cronfa dir Bro Morgannwg o ran agregau craig galed oedd 40.7 mlynedd, sy'n golygu y bydd cronfa dir o 30.7 mlynedd ar gael yn 2026. Nodwyd bod cronfeydd o graig galed ar gyfer cynhyrchu heb agregau (h.y. cynhyrchu sment) yn ddigonol am 19.8 mlynedd o gyflenwad.[149]
8.24 Mae'r Ail Adolygiad o'r DTRh (Medi 2020) yn nodi bod angen 16.806 miliwn tunnell (MT) o graig fâl ym Mro Morgannwg am 25 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae gan yr awdurdod 18.730MT o gronfeydd tir a ganiateir ar gyfer craig fâl sy'n golygu bod digon o ddarpariaeth feintiol i fodloni'r dosraniad a nodwyd.[150]
Safleoedd gweithio mwynau
8.25 Fel a restrir isod ac a ddangosir yn Ffigur 8.5 drosodd, mae'r Fro yn cynnwys nifer o safleoedd gweithio mwynau gweithredol:[151]
- Aberddawan - Liasig.
- Ewenni – Carbonifferaidd.
- Forest Wood - Carbonifferaidd (Rhannu â Rhondda Cynon Taf).
- Pant – Carbonifferaidd.
- Pantyffynnon – Carbonifferaidd.
- Longlands – Carbonifferaidd.
- Lithalun – Carbonifferaidd; a
- Gwenfô – Carbonifferaidd.
8.26 Mae'r Fro hefyd yn cynnwys dau safle segur lle ystyrir ei bod yn debygol y bydd gweithio yn y dyfodol. Mae'r safleoedd hyn yn segur ar hyn o bryd ond yn cael eu cadw wrth gefn:
- Fferm Garwa – Carbonifferaidd; a
- Rhuthun – Carbonifferaidd.
Safleoedd Mwynau Segur
8.27 Yn ogystal â safleoedd chwareli gweithredol, ceir sawl safle mwyn segur a hir segur ym Mro Morgannwg lle na fu gweithio mwynau ers dros ddeng mlynedd. Dangosir y rhain hefyd yn Ffigur 8.5 drosodd, ac fe'u nodwyd fel:[152]
- Chwarel Beaupre (Long Grove), Saint Hilari.
- Chwarel Cnap Twt, Castell Alun.
- Chwarel Cosmeston, Penarth.
- Chwarel Cross Common, Dinas Powys.
- Chwarel Downswood, Penarth.
- Gwaith Brics Trelái (rhennir y safle â Chaerdydd).
- Chwarel Larnog.
- Chwarel Saint Andras, Saint Andras; a
- Chwarel Southerndown Road.
8.28 Mae llawer o'r safleoedd wedi adfywio'n naturiol, wedi cael eu rhoi i ddefnyddiau amgen neu wedi'u cyfyngu gan ddatblygiad cyfagos. Er enghraifft, llenwodd Chwarel Cosmeston â dŵr i ddyfnder o fwy nag 20 metr pan ddaeth chwarela i ben yn y 1960au ac ers hynny mae wedi cael ei hymgorffori ym Mharc Gwledig Cosmeston; mae Chwarel Larnog a Chwarel Southerndown Road wedi cael eu defnyddio fel safleoedd gwaredu gwastraff; ac mae Gwaith Brics Trelái (a rennir â Chaerdydd) wedi cael ei orchuddio i raddau helaeth gan Ffordd Gyswllt Trelái.[153]
Ffigur 8.5 Safleoedd mwynau
Gwastraff
8.29 Fel yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff, mae cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor i gasglu a gwaredu Gwastraff Dinesig (cartref) ac i gynllunio defnydd tir mewn perthynas â rheoli gwastraff.
Ailgylchu
8.30 Roedd dros 72% (72.3%) o wastraff cartref a gasglwyd gan y Cyngor yn cael ei baratoi i'w ailddefnyddio a/neu ei ailgylchu yn ystod hanner cyntaf 2020/21. Mae hyn yn uwch na'r targed statudol o 64% ar gyfer 2020/21.[154]
8.31 Yn ogystal, yn ystod 2020/21, fe wnaeth y Cyngor roi cyfanswm o 116 tunnell, sef y swm lleiaf gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, a oedd yn rhoi cyfradd tirlenwi o 0.2% o'i chymharu ag 1.13% o'r flwyddyn flaenorol. 4.85% oedd canran gyfunol y gwastraff yng Nghymru a anfonwyd i Safleoedd Tirlenwi sy'n dangos effeithlonrwydd cyfyngiadau gwastraff gweddilliol ymyl ffordd y Fro, yn ogystal â sut mae'n cyfathrebu ac yn adfer ynni o wastraff.[155]
Canolfannau ailgylchu
8.32 Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd statudol trwy ddarparu dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) yn Ystâd Fasnachu'r Iwerydd yn y Barri (yn gwasanaethu dwyrain Bro Morgannwg) ac Ystâd Fasnachu Llandŵ yn Llandŵ (yn gwasanaethu gorllewin Bro Morgannwg).[156] Cydnabyddir bod angen adnewyddu'r safle yn Llandŵ ar frys.[157]
8.33 Dylid hefyd ystyried safleoedd tirlenwi blaenorol yn y Fro, a geir yn bennaf yn ne'r awdurdod (gweler Ffigur 8.6 drosodd). Lleolir y safle tirlenwi blaenorol mwyaf yn y Fro i'r dwyrain o Silstwn / Dwyrain Aberddawan.
Ffigur 8.6 Safleoedd tirlenwi hanesyddol
Llinell sylfaen y dyfodol
8.34 Mae cyflymu'r broses o gyflwyno cerbydau trydan (gweler Pennod 6 uchod) yn debygol o leihau materion sy'n ymwneud â llygredd aer o gerbydau modur yn yr hirdymor. Er bod rhywfaint o lygredd aer yn tarddu o ffynonellau ar wahân i'r motor tanio mewnol, fel yr hyn sy'n deillio o brosesau diwydiannol, dylai hyn helpu i leihau problemau llygredd aer sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn yr hirdymor. Fodd bynnag, bydd y symudiad tuag at economi werdd ac ynni adnewyddadwy, yn ogystal â lleihau'r galw cyffredinol am deithio ac annog teithio llesol a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd aer yn y dyfodol.
8.35 Gallai'r twf rhagamcanol yn y boblogaeth a pherygl uwch o sychder oherwydd y newid yn yr hinsawdd effeithio ar swm y dŵr sydd ar gael ym Mro Morgannwg a'r ardal ehangach. Er nad oes disgwyl i Gymru, ac yn fwy penodol ardal Bro Morgannwg, gael problemau ynglŷn ag adnoddau dŵr, gallai datblygu effeithio ar ansawdd y dŵr trwy lygredd gwasgaredig, gollwng dŵr gwastraff, dŵr ffo, ac addasiadau. Ar ben hynny, gallai pwysau sy'n ymwneud â newidiadau yn yr hinsawdd a newidiadau demograffig ynghyd â rhwymedigaethau amgylcheddol roi straen ar agweddau sy'n gysylltiedig â darparu adnoddau dŵr.
8.36 Gan gydnabod maint sylweddol y tir amaethyddol a geir, gallai datblygiadau'r dyfodol yn y Fro arwain at golli tir amaethyddol gorau a mwyaf hyblyg, yn enwedig o gofio bod y rhan fwyaf o dir amaethyddol ym Mro Morgannwg yn cael ei dosbarthu'n Radd 2 neu Radd 3. Mae tir amaethyddol, yn enwedig tir sy'n defnyddio dulliau ffermio megis troi'r pridd dull cadwraeth, hefyd yn gweithredu fel sinc carbon, gan storio carbon yn y pridd trwy'i secwestru. Pan aflonyddir ar dir, fel pan fo'n cael ei ddatblygu ar gyfer tai, mae carbon yn cael ei ryddhau i'r atmosffer, gan gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Gan fod 85% o'r Fro yn dod o dan dir amaethyddol, bydd yn anodd osgoi datblygiad yma; fodd bynnag, gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith o hyd i sicrhau yr aflonyddir ar y pridd cyn lleied â phosibl.
8.37 Mae'r Fro yn gyfrannwr pwysig at ddarparu mwynau yn rhanbarthol gyda nifer o safleoedd gweithredol ledled yr awdurdod. Felly, bydd yn bwysig i'r CDLlN ddiogelu'r safleoedd hyn ac atal echdynnu adnoddau ymhellach, yn ogystal â cheisio sicrhau bod y gwaith adfer yn cael ei wneud lle bo hynny'n briodol.
8.38 O ran gwastraff, ar hyn o bryd mae swm y gwastraff cartref sy'n cael ei gasglu gan y Cyngor i'w ailddefnyddio a/neu ailgylchu yn y Fro yn fwy na'r targed statudol. Yn ogystal â hyn, mae gan y Fro lefel gymharol isel o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Felly, mae'n bwysig i'r CDLlN osod mesurau i gynnal neu leihau gwastraff yn y Fro.
Prif faterion
8.39 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):
- Er nad oes ARhAA yn y Fro, mae allyriadau aer yn uwch yn ne a dwyrain yr awdurdod, gan gynnwys y Barri. Dylai allyriadau gael eu rheoli a'u monitro'n rhagweithiol trwy'r CDLlN sydd ar ddod.
- Mae ansawdd dŵr yn y Fro yn dda ar y cyfan, gan gynnwys dyfroedd ymdrochi.
- Ceir pum Parth Diogelu Tarddiad Dŵr Daear yn y Fro.
- Mae tua 85% (28,132 hectar) o dir yn y Fro yn dir amaethyddol, y mae llawer ohono'n dir Gradd 2 neu 3, ac mae'n cyfrannu at storio carbon o dan y ddaear.
- Mae Bro Morgannwg yn gyfrannwr pwysig at gyflenwad mwynau'r rhanbarth ac mae'n cynnwys sawl safle mwynau gweithredol.
- Mae dwy ganolfan ailgylchu yn y Fro a nodir bod angen adnewyddu'r safle yn Llandŵ ar frys.
- Wrth ystyried y materion allweddol uchod, cydnabyddir bod dulliau polisi'n gwthio tuag at ddull cyfannol a chynaliadwy o reoli, diogelu a defnyddio adnoddau naturiol, gan gynnwys trwy fesurau wedi'u targedu i wella canlyniadau amgylcheddol sy'n ymwneud ag ansawdd aer, pridd, tir, dŵr a gwastraff er mwyn sicrhau'r canlyniadau buddiol mwyaf posibl i ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
- Mae polisi yn atgyfnerthu'r angen i ystyried y gydberthynas rhwng datblygiadau cynlluniedig a'r ffactorau a grybwyllir uchod, gyda phwyslais yn cael ei roi ar effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd, yr angen am ddefnydd effeithlon o dir, effeithlonrwydd defnyddio adnoddau a gwarchod yr amgylchedd naturiol.
Amcanion ACI
8.40 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:
Amcan ACI |
Cwestiynau asesu – a fydd y cynllun / polisi yn helpu i: |
Nodi a mynd ar drywydd unrhyw gyfleoedd i leihau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer cymaint â phosib. |
|
Gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd o'r blaen ac adeiladau sy'n bodoli eisoes i leihau'r pwysau ar gyfer datblygu meysydd glas a diogelu tir amaethyddol gradd uwch, lle y bo'n bosibl. |
|
Diogelu adnoddau mwynau a chefnogi'r gwaith o reoli gwastraff. |
|
Gwarchod, diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr, ansawdd y dŵr ac adnoddau dŵr. |
|
[136] Defra (2022): 'List of Local Authorities with AQMAs', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[137] Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg (2018): 'Ein Bro – Ein Dyfodol', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[138]Llywodraeth Cymru (2013): 'Map ardaloedd tawel: Caerdydd a Phenarth', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[139]Llywodraeth Cymru (2012): 'Datganiad Ysgrifenedig – Datganiad ysgrifenedig ar ddynodi'r gyfran gyntaf o fannau tawel trefol o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol', ar gael [ar-lein] trwy ddolen hon
[140]Ystafell Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Adroddiad Tystiolaeth Ein Hamgylchedd', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[141] Ibid
[142] Ibid
[143] Ibid
[144] Cyfoeth Naturiol Cymru (2021): 'Dod o hyd i ddŵr ymdrochi', ar gael [ar-lein] trwy y dolen hon
[145] Ibid.
[146] Cyfoeth Naturiol Cymru (2021): 'Proffil Dŵr Ymdrochi ar gyfer Bae Whitmore, Ynys y Barri 2020', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[147] Ibid
[148]Llywodraeth Cymru (2018): 'Polisi Cynllunio Mwynau – Agregau', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[149] Ibid.
[150] Datganiadau Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru – 2il Adolygiad, Medi 2020
[151]Cyngor Bro Morgannwg (2017): 'Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[152] Ibid
[153] Ibid
[154] Ibid
[155] Bro Morgannwg (2022): 'Cynllun a Strategaeth Busnes Ailgylchu a Gwastraff', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[156] Cyngor Bro Morgannwg (dim dyddiad): 'Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon
[157] Ibid