Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

9. Bioamrywiaeth a geoamrywiaeth

9.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddiddordebau bioamrywiaeth a geoamrywiaeth ym Mro Morgannwg a'r cyffiniau.

Cyd-destun polisi

9.2 Mae Tabl 9.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 9.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygir mewn perthynas â bioamrywiaeth a geoamrywiaeth

9.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:

  • Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau well (Dyletswydd Adran 6). Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru a bydd yn helpu i wneud y mwyaf o gyfraniadau at gyrraedd y nodau lles. Mae'r Cynllun Adfer Natur yn cefnogi'r gofyniad deddfwriaethol hwn i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth trwy roi natur wrth wraidd gwneud penderfyniadau a chynyddu gwydnwch ecosystemau trwy gymryd camau penodol sy'n seiliedig ar y chwe amcan ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau.
  • Bydd yn ofynnol i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol, sy'n gosod y fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith/twf newydd. Bydd y CDS ar gyfer De-ddwyrain Cymru hefyd yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol sy'n cynnwys cynllunio ar gyfer bioamrywiaeth, yn benodol cadwraeth bywyd gwyllt a chynefinoedd. Er mwyn hybu Bro Morgannwg fel ffocws ar gyfer twf, bydd angen rheoli, amddiffyn, a gwella bioamrywiaeth yn ofalus, gan gefnogi gwydnwch ecosystemau yn yr hirdymor. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi y bydd y system gynllunio yn sicrhau bod bywyd gwyllt yn gallu ffynnu mewn cynefinoedd iach ac amrywiol, mewn ardaloedd trefol a gwledig, gan gydnabod a gwerthfawrogi'r manteision lluosog i bobl a byd natur.
  • Mae PCC ac NCTau atodol yn darparu polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â bioamrywiaeth. Mae PCC yn tynnu sylw at rôl y system gynllunio wrth helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu gwydnwch ecosystemau, ar raddfeydd amrywiol, trwy sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith i amddiffyn rhag colled ac i sicrhau gwelliannau. Rhaid i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hyn yn golygu na ddylai datblygiadau achosi unrhyw golled sylweddol mewn cynefinoedd na phoblogaethau rhywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddynt ddarparu budd net i fioamrywiaeth.
  • Mae NCT 5 (Cadwraeth Natur a Chynllunio) yn rhoi cyngor ar sut dylai'r system cynllunio defnydd tir gyfrannu at ddiogelu a gwella bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol, gan osod egwyddorion allweddol cynllunio cadarnhaol ar gyfer cadwraeth natur.
  • Mae Blaengynllun Bioamrywiaeth Bro Morgannwg yn edrych ar sut mae'r Cyngor yn rheoli ac yn gwella adnoddau naturiol i sicrhau bod bioamrywiaeth a chynaliadwyedd yn cael eu hystyried ym mhob maes gwasanaeth a'u bod yn themâu craidd wrth ddarparu gwasanaethau, gan ddod yn rhan annatod o'r prosesau gwneud penderfyniadau ledled y Cyngor. Bydd rhan dau o'r Cynllun yn cael ei gwireddu trwy gamau penodol sydd eu hangen i gyflawni amcanion a nodir yn Rhan 1 a rhoi cerrig milltir a thargedau.

Crynodeb sylfaenol

Safleoedd â dynodiad rhyngwladol

9.4 Mae safleoedd â dynodiad rhyngwladol yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Safleoedd Ramsar. Mae gan Fro Morgannwg ddau safle â dynodiad rhyngwladol o fewn ei ffin weinyddol: - Bae Dunraven (ACA) ac Aber Afon Hafren (SAC, AGA, Ramsar) ac mae'n agos yn uniongyrchol i ACA Cynffig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

9.5 Dangosir lleoliadau'r safleoedd hyn yn Ffigur 9.1 ar ddiwedd y bennod hon. Ceir rhagor o fanylion am bob un o'r safleoedd dynodedig hyn isod.

9.6 Yn ne'r Fro, roedd ACA Aber Afon Hafren (sydd hefydyn saflegwlyptir Ramsar o bwys rhyngwladol) yn ardal bwysig ar gyfer adar gwyllt a hirgoes sy'n gaeafu, ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Mae'r aber hefyd yn cynnal poblogaethau o bysgod mudol sydd o bwys rhyngwladol.

9.7 Y cynefinoedd Atodiad I a'r rhywogaethau Atodiad II sydd ymhlith y prif resymau dros ddynodi'r safle hwn yw:[158]

  • 1130 Aberoedd.
  • 1140 Fflatiau llaid a thywod nad ydynt yn cael eu gorchuddio gan ddŵr y môr pan fo'r llanw ar drai.
  • 1330 Dolydd arfor Iwerydd (Glauco-Puccinellietalia maritimae).
  • 1095 Lampreiod y môr (Petromyzon marinus).
  • 1099 Lampreiod yr afon (Lampetra fluviatilis); a
  • 1103 Gwangod (Alosa fallax).

9.8 Mae ACA Bae Dwnrhefn yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Southerndown ac fe'i dynodir felly oherwydd presenoldeb anghyffredin tafol y twyni, un o blanhigion prinnaf Ewrop.

9.9 Y rhywogaeth atodiad II '1441 Tafol y Twyni' yw'r prif reswm dros ddynodi'r safle hwn. Y rhyw 20 o sbesimenau o dafol y twyni (Rumex rupestris) sy'n tyfu yma ar galchfaen arfordirol llaith yw'r unig enghreifftiau o'r rhywogaeth sydd ar ôl o'i hamrediad Môr Hafren gynt. Mae'r rhywogaeth wedi diflannu trwy golli llaciau twyni llaith a thraethellau cerrig mân o safleoedd eraill ym Merthyr Mawr, Cynffig, Twyni Braunton a Phennard ond mae'n gymharol ddiogel ar y safle serth anhygyrch hwn. Mae poblogaeth Bae Dwnrhefn yn ffynhonnell hadau sylweddol ar gyfer ailgytrefu twyni tywod a Môr Hafren a phenrynau pan fydd rheolaeth yn y dyfodol yn adfer y cynefinoedd hyn i gyflwr ffafriol.[159]

9.10 Er ei fod y tu allan i ffin yr awdurdod lleol, nodir bod ACA Cynffig o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i bod yn cyffinio â Bro Morgannwg. Mae'n system twyni tywod gyfan i raddau helaeth gydag ardaloedd helaeth o lystyfiant twyni sefydlog.

Y cynefinoedd Atodiad I a'r rhywogaethau Atodiad II sydd ymhlith y prif resymau dros ddynodi'r safle hwn yw:[160]

  • 2130 Twyni arfordirol sefydlog gyda llystyfiant llysieuol ("twyni llwyd").
  • 2170 Twyni tywod gyda Salix repens ssp. argentea Salicion arenariae.
  • 2190 Llaciau twyni llaith.
  • 3140 Dyfroedd oligo-mesotroffig caled gyda llystyfiant benthig o Chara spp.
  • 1395 Petal-lys (Petalophyllum ralfsii); a
  • 1903 Tegeirian y fign (Liparis loeselii).

Safleoedd â dynodiad cenedlaethol

9.11 Mae safleoedd â dynodiad cenedlaethol yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Ceir 28 SoDdGA ar draws y fwrdeistref sirol, fel y dangosir yn Ffigur 9.2, a ddynodwyd ar gyfer eu bioamrywiaeth neu eu diddordeb geoamrywiaeth, sy'n cwmpasu 941ha.

9.12 Yn ôl trefn o'r mwyaf i'r lleiaf, mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Arfordir Southerndown (151 hectar).
  • Arfordir yr As Fawr (129 hectar).
  • Coedydd y Barri (120 hectar).
  • Old Castle Down (79 hectar).
  • Arfordir Dwyrain Aberddawan (68 hectar).
  • Aber Afon Hafren (64 hectar).
  • Dyffryn Elái (59 hectar).
  • Arfordir Penarth (51 hectar).
  • Chwareli Ewenni a'r Pant (29 hectar).
  • Trwyn Hayes i Garreg Bendrick (28 hectar).
  • Llynnoedd Cosmeston (26 hectar).
  • Fferm Walters (25 hectar).
  • Coetiroedd Nant Whitton (22 hectar).
  • Ynys y Barri (15 hectar).
  • Coed y Clogwyn - Grisiau Aur (13 hectar).
  • Cog Moors (13 hectar).
  • Cors Aberthin (12 hectar).
  • Ynys Sili (11 hectar).
  • Cwm Cydfin, Lecwydd (5 hectar).
  • Dolydd Clemenstone, Y Wig (5 hectar).
  • Pysgodlyn Mawr (4 hectar).
  • Rhos Breigam (4 hectar).
  • Larks Meadows (3 hectar).
  • Coed y Bwl (2 hectar).
  • Cnap Twt (1 hectar).
  • Dôl Goleudy yr As (1 hectar).
  • Cae'r Plwyf, Cae'r Rhedyn (1 hectar).
Coetir hynafol

9.13 Mae'r Fro'n cynnwys 1,568 hectar o Goetir Hynafol, er mai dim ond 8.2% o arwyneb y sir yw hyn sy'n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 14%.[161] Fel y dangosir yn Ffigur 9.2, ceir darnau o Goetir Hynafol ledled y Fro. Nodir bod rhai wedi'u dynodi'n SoDdGA ac yn cynnal poblogaethau pathewod. Mae'r coetiroedd hyn wedi'u cysylltu gan y rhwydwaith helaeth o wrychoedd yn yr awdurdod. Mae coetiroedd yn gorchuddio 8.2% o'r sir sy'n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 14%.

9.14 Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n rheoli 330 hectar o goetiroedd cymysg bach - planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol yn bennaf - ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gwerth cadwraeth uchel i lawer o'r coetiroedd yn y Fro ac mae rhai yn cynnig cyfleoedd hamdden ffurfiol ac anffurfiol (mae'r rhan fwyaf yn eiddo preifat).[162]

9.15 Mae pob coetir yn ne Cymru o fewn Parth Rheoli Clefyd (PRhC) ar gyfer Phytophthora ramorum (clefyd coed llarwydd). Roedd coed llarwydd yn ffurfio cyfran uchel o goedwigaeth De Cymru ac mae cael gwared arnynt yn cael effaith amlwg ar y bioamrywiaeth a'r dirwedd mewn sawl ardal.

Arfordir Treftadaeth

9.16 Mae Arfordiroedd Treftadaeth yn ffurfio tua thraean o arfordir Cymru, hynny yw 500 km (300 milltir). Sefydlwyd y safleoedd hyn i ddiogelu ein harfordiroedd rhag datblygu ansensitif. Mae'r rhan fwyaf yn cael eu diffinio gan yr arfordir rhwng dau bwynt a enwir, ond mae gan rai ffiniau mewndirol sydd wedi'u diffinio'n glir.[163] Mae'r Fro yn cynnwys 53 cilometr o arfordir gan gynnwys 23 cilometr o Arfordir Treftadaeth Morgannwg (gweler Pennod 10 am ragor o fanylion). Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt, gan gynnwys dyffrynnoedd coediog a chynnal amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys adar sy'n bridio.

Safleoedd â dynodiad lleol

9.17 Fel y dangosir yn Ffigur 9.3 isod, ceir safleoedd â dynodiad lleol ledled y Fro.

9.18 Nodir Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) i ddiogelu ardaloedd sydd o werth bywyd gwyllt uchel ar lefel leol. Maen nhw'n ddynodiad cynllunio awdurdodau lleol sy'n ymwneud â Pholisi MG33 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig 2011-2026. Mae tua 360 SoBCN ar wasgar ledled yr awdurdod yn ogystal â sawl SoBCN ymgeisiol.[164]

9.19 Mae Safleoedd Daearegol a geomorffolegol o Bwys Rhanbarthol (SGBRh) yn safleoedd â dynodiad lleol o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer geoamrywiaeth (daeareg a geomorffoleg). Ceir 12 SGBRh gan gynnwys Ynys Sili a Chwarel Gwenfô.

9.20 Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl) yn eiddo i Gyngor Bro Morgannwg neu'n cael eu rheoli ganddo ac mae tair ohonynt o fewn ei ffiniau ar hyn o bryd: yng Nghoedwig Birchgrove (Y Barri), Coed y Clogwyn (Porthceri) a Chwm Talwg (hefyd yn y Barri).

9.21 Yn ogystal, ceir saith safle a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt sy'n cwmpasu 93 hectar o dir ar draws y Fro. Hefyd mae dwy Warchodfa Coed Cadw yn ardal Dinas Powys, a dau Barc Gwledig yn Llynnoedd Comeston a Phorthceri (gweler Pennod 4). Mae dros 500 hectar o dir comin hefyd.

Cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth

Rhywogaethau

9.22 Ceir nifer o rywogaethau o bwysigrwydd bioamrywiaeth ledled Bro Morgannwg. Mae poblogaeth a dosbarthiad dyfrgwn wedi cynyddu'n aruthrol o lefelau'r 1960au a'r 1970au ac ystyrir hyn yn llwyddiant cadwraethol mawr. Y prif reswm am y cynnydd hwn oedd y gostyngiad yn lefelau plaladdwyr gwenwynig a oedd yn niweidio dyfrgwn yn y 1960au a'r 1970au, ond mae'n debyg bod y gwelliannau cyffredinol o ran ansawdd dŵr ac o ganlyniad i gynnydd mewn stociau pysgod wedi chwarae rhan sylweddol.

9.23 Y dyfrgi Ewropeaidd (Lutra lutra) yn ddangosydd biolegol pwysig o iechyd afonydd a gwlyptiroedd. Felly, mae monitro statws y dyfrgi yn rhoi mesur gwerthfawr i ni o gyflwr ein hecosystemau dŵr a gwlyptir. Mae dyfrgwn yn bresennol trwy gydol systemau afonydd Bro Morgannwg, gyda lefelau gweithgarwch arbennig o uchel ar hyd Afon Ddawan a'i llednentydd.

9.24 Mae Bawd y Melinydd (Cottus gobio) i'w weld ym Mro Morgannwg, sef pysgodyn bychan sy'n byw ar waelod amrywiaeth o afonydd, nentydd a llynnoedd caregog. Ymddengys ei fod yn ffafrio dŵr bas, clir sy'n llifo'n gyflym, gydag is-haen galed (graean/cobls/cerigos) ac fe'i ceir yn aml ym mlaenddyfroedd nentydd ucheldir. Fodd bynnag, fe'u ceir hefyd mewn safleoedd iseldir ar is-haenau meddalach cyhyd ag y mae'r dŵr yn cael ei ocsigenu'n dda ac mae digon o orchudd. Nid yw i'w weld mewn afonydd sydd wedi'u llygru'n wael.

9.25 Ymhellach i'r tir, mae glaswelltir tonnog a reolir yng Nghwm Alun yn cynnal unig boblogaeth Cymru o'r Fritheg Frown.

9.26 Ledled y sir, mae'r Fadfall Ddŵr Gribog yn gyffredin. Mae'r mosäig cyfoethog o gynefinoedd yn cynnal llawer o rywogaethau ystlumod, yn enwedig yr Ystlum Pedol Lleiaf sydd â 4 o glwydi mamolaeth hysbys o fewn y sir. Mae Bro Morgannwg hefyd yn cynnal nythfa famolaeth fawr o ystlumod adain-lydan, rhywogaeth sy'n anghyffredin yng Nghymru. Mae'r caeau amaethyddol mawr yn y Fro yn bwysig ar gyfer cynnal poblogaethau o'r ehedydd a'r gornchwiglen.

Cynefinoedd

9.27 Er gwaethaf ei hardal gymharol fach, mae daeareg, lleoliad arfordirol, a rheoli tir Bro Morgannwg yn arwain at amrywiaeth fawr o gynefinoedd. Mae 19 o gynefinoedd allweddol y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) y paratowyd cynlluniau cynefinoedd wedi'u costio ar eu cyfer i'w gweld yn y Fro (gweler Ffigur 9.3). Ymhlith y rhain mae cynefinoedd, sy'n gymharol brin yng Nghymru, megis llynnoedd mesotroffig (fel ym Mhysgodlyn Mawr) a morlynnoedd heli (fel yn Aberddawan).[165]

9.28 Er bod maint y rhan fwyaf o'r cynefinoedd allweddol (megis gweundir iseldir, gwelyau cyrs, coetir gwlyb) ym Mro Morgannwg yn fach, o'u cymharu ag awdurdodau eraill, mae'n debygol fod gwrychoedd hynafol llawn rhywogaethau yn yr ardal yn ffurfio canran sylweddol o gyfanswm Cymru. Yn yr un modd, fel un o'r prif ardaloedd âr yng Nghymru, mae'n bosib bod maint ymylon caeau ŷd yn sylweddol.

9.29 Ymhlith cynefinoedd eraill o bwys lleol ym Mro Morgannwg sy'n cyfrannu at y fioamrywiaeth leol nodweddiadol, neu sy'n cynnal rhywogaethau bioamrywiaeth allweddol mae hen chwareli (sy'n darparu cynefinoedd ar gyfer adar ysglyfaethus, gloÿnnod byw, planhigion a chennau), lleiniau ymyl (rhywogaethau glaswelltir gweddilliol sydd, fel rheilffyrdd segur, yn gallu gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt), tir diffaith (fel hen ddociau, sy'n ddeniadol i rai rhywogaethau o adar ar gyfer nythu, ac a allai gynnwys planhigion prin), a pharciau a gerddi.[166]

9.30 Ceir hefyd sawl Parth Cadwraeth Lleiniau Ymyl Priffyrdd yn y Sir. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o fathau o laswelltir sy'n llawn rhywogaethau gyda ffosydd a gwrychoedd cysylltiedig.

9.31 Yn ogystal â hyn, mae parciau gwledig a reolir ar gyfer bywyd gwyllt a'r cyhoedd hefyd yn cyfrannu at gynefinoedd.

Ffigur 9.1 Dynodiadau bioamrywiaeth rhyngwladol

Map yn dangos dynodiadau bioamrywiaeth rhyngwladol ym Mro Morgannwg. Nodir Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar hyd y morlin i’r dwyrain o Benarth ac Ynys Sili. Ceir Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn Witches Point, Southerndown, ar yr arfordir i’r dwyrain o Benarth ac yn union i’r gogledd o ffin Bro Morgannwg yng Ngwarchodfa Natur Merthyr Mawr. Mae safleoedd Ramsar hefyd ar hyd yr arfordir i’r dwyrain o Benarth ac yn Ynys Sili.

Ffigur 9.2 Dynodiadau bioamrywiaeth cenedlaethol

Map yn dangos dynodiadau bioamrywiaeth cenedlaethol ym Mro Morgannwg. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar hyd y morlin de-orllewinol, ger Cortwn, Aberthin, Y Rhŵs, Y Barri, Penarth ac ar hyd afon Elai, i’r gorllewin o Barc Wyndham. Mae coetiroedd hynafol ar hyd a lled Bro Morgannwg; fodd bynnag, nid yw’r ardaloedd hyn mor ddwys yn ardal dde-ddwyreiniol yr awdurdod. Mae gwarchodfa natur genedlaethol yn union gerllaw ffin orllewinol Bro Morgannwg ym Mhen-y-bont hefyd wedi ei nodi ar y map hwn.

Ffigur 9.3 Dynodiadau bioamrywiaeth lleol a chynefinoedd â blaenoriaeth

Mae’r map hwn yn amlygu’r ffaith fod cryn nifer o ardaloedd a ddynodwyd fel safleoedd cynefinoedd blaenoriaeth, mewn nifer o fannau ar hyd a lled Bro Morgannwg. Mae’r map hefyd yn nodi safleoedd Adolygiad Cadwraeth Daearegol y Fro sydd ar arfordir de-orllewinol yr awdurdod, yn y gogledd-orllewin yn agos iawn at y ffin â Phen-y-bont ac ar hyd yr arfordir yn y  Barri a Phenarth; dynodwyd Gwarchodfeydd Natur Lleol hefyd yn y  Barri a Phenarth.

Llinell sylfaen y dyfodol

9.32 Gallai cynefinoedd a rhywogaethau'r potensial ddod o dan bwysau cynyddol trwy ddarparu tai, cyflogaeth a seilwaith newydd o fewn ardal y cynllun a'r cyffiniau. Gallai hyn gynnwys mwy o aflonyddwch (hamdden, sŵn a golau) a llygredd atmosfferig yn ogystal â cholli cynefinoedd a darnio rhwydweithiau bioamrywiaeth. Bydd colli a darnio cynefinoedd yn cael eu gwaethygu gan effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, a allai arwain at newidiadau yn nosbarthiad a thoreth rhywogaethau a newidiadau i gyfansoddiad cynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys colli cynefinoedd naturiol neu ddirywiad yn eu safon oherwydd pwysau o ganlyniad i wasgfa arfordirol a achosir gan erydiad sy'n gysylltiedig â chodiadau yn lefel y môr.

9.33 Gallai buddion i fioamrywiaeth godi trwy integreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth cynyddol o fewn cynllunio ac ymdrechion i ddiogelu a gwella rhwydweithiau seilwaith gwyrdd ar draws ardal y cynllun, ac yn rhanbarthol. Er mwyn cynnal a gwella cyflwr bioamrywiaeth yn y dyfodol, nid yn unig y bydd yn bwysig amddiffyn a gwella cynefinoedd pwysig ond y cysylltiadau rhyngddynt.

9.34 Heb y CDLlN, byddai datblygu hapfasnachol yn parhau i fynd yn ei flaen o dan y CDLl mabwysiedig ar hyn o bryd. Mae'r CDLlN yn rhoi cyfle i gydlynu'r gwaith o ddarparu twf i ddiwallu anghenion y dyfodol, amddiffyn a lleihau effeithiau ar fioamrywiaeth a cheisio cyfleoedd strategol i sicrhau budd net bioamrywiaeth lle bo hynny'n bosibl.

Prif faterion

9.35 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • Mae nifer helaeth o safleoedd dynodedig ar gyfer bioamrywiaeth yn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle Ramsar Aber Afon Hafren, ACA Bae Dwnrhefn a Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyfagos Merthyr Mawr, a 27 SoDdGA. Yn lleol, mae asedau bioamrywiaeth yn cynnwys dros 300 SoBCN, 12 SGBRh a sawl GNL. Mae'n bwysig na fydd unrhyw ddatblygiad newydd yn tanseilio cyfanrwydd safleoedd dynodedig.
  • Ceir llawer o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth ledled y Fro. Mae cynefinoedd â blaenoriaeth, mannau trefol a gwyrdd, ardaloedd arfordirol a chyrff dŵr i gyd yn darparu cysylltedd ecolegol, gan gefnogi mannau cydlynol, cysylltiedig lle gall bioamrywiaeth ffynnu. Bydd yn bwysig i unrhyw ddatblygiad newydd sicrhau bod y rhwydwaith ecolegol hwn yn cael ei ddiogelu a'i wella'n lleol ac yn isranbarthol.
  • Dylai datblygu yn y dyfodol geisio manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer buddion net o ran bioamrywiaeth, gan wella cysylltiadau ecolegol a lleihau niwed oherwydd llygredd atmosfferig lle y bo'n bosibl. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd, wrth fynd i'r afael â darnio cynefinoedd.

Amcanion ACI

9.36 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu – a fydd y cynllun / polisi yn helpu i:

Diogelu a gwella bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg a'r cyffiniau.

  • Lleihau'r effeithiau ar fioamrywiaeth ddynodedig a phwysig a darparu buddion net lle bo hynny'n bosibl?
  • Diogelu a gwella rhwydweithiau ecolegol, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffiniau gweinyddol?
  • Cefnogi cyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd, sydd â manteision canlyniadol i fywyd gwyllt, gan gysylltu cynefinoedd ac osgoi darnio cynefinoedd?
   

 


[158] JNCC (heb ddyddiad): 'Severn Estuary', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[159] JNCC (heb ddyddiad): 'Bae Dwnrhefn', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[160] JNCC (dim dyddiad): 'Cynffig', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[161]Cyngor Bro Morgannwg (2019): 'Blaengynllun Bioamrywiaeth', ar gael [ar-lein] trwy y ddolen hon

[162] Ibid.

[163] Mae Lle (2021) Arfordiroedd Treftadaeth ar gael [ar-lein] yn: http://lle.gov.wales/catalogue/item/ProtectedSitesHeritageCoast/?lang=cy.

[164] Ibid

[165] Capita Symonds (2013): 'Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Bro Morgannwg Cyfrol 2: Adroddiad Asesiad Amgylcheddol Strategol'

[166] Ibid

 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig