Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022

2. Economi a chyflogaeth

2.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar fusnesau lleol, mynediad i gyflogaeth, twristiaeth, addysg, a lefel sgiliau.

Cyd-destun polisi

2.2 Mae Tabl 2.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 2.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygir mewn perthynas â'r economi a chyflogaeth

  • Bydd yn ofynnol i'r CDLlN gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol, sy'n rhan o hierarchaeth y cynllun datblygu ac yn nodi'r fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith/twf newydd.
  • Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 3 Ardal Dwf Genedlaethol lle nodir blaenoriaethau o ran tai, datblygu economaidd a buddsoddiadau. Mae'r ardaloedd twf hyn yn cwmpasu Wrecsam a Glannau Dyfrdwy (Gogledd Cymru), Bae Abertawe a Llanelli (Canolbarth a De-orllewin Cymru) a Chaerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd (De-ddwyrain Cymru). Yn ogystal â'r ardaloedd twf hyn, mae Cymru'r Dyfodol yn nodi polisïau datblygu cenedlaethol ar gyfer Cymru gyfan.
  • Mae Bro Morgannwg yn dod o fewn Ardal Twf De-ddwyrain Cymru (gweler Ffigur 2.1 isod) lle nodir bod Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd yn ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer twf. O fewn yr ardal dwf ehangach, mae'r ffocws ar dwf economaidd a thai strategol; gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol; gweithgynhyrchu uwch; trafnidiaeth a seilwaith digidol. Bydd penderfyniadau buddsoddi allweddol yn ceisio cefnogi lleoedd yn yr Ardal Dwf Genedlaethol a'r rhanbarth ehangach. Mae Polisi 36 (Metro De Cymru) yn nodi y dylai CDSau a CDLlau "gynllunio twf ac adfywiad er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o gysylltedd rhanbarthol gwell, gan gynnwys nodi cyfleoedd ar gyfer dwysedd uwch, defnydd cymysg a datblygiadau di-geir o amgylch gorsafoedd metro newydd a gwell".

Ffigur 2.1 Cymru'r Dyfodol – Diagram Strategol Rhanbarth De-ddwyrain Cymru

Mae’r map hwn yn darlunio Ardal Twf De Ddwyrain Cymru, fel y’i dynodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodir dinasoedd a threfi mawr yn y rhanbarth ar y map hwn, ynghyd a chyfeiriad cysylltedd cenedlaethol (mae’r rhain tua’r gogledd, y gogledd-ddwyrain, dwyrain, gogledd-orllewin ac ar draws yr ardal rhwng y Fenni a Phen-y-bont); porthladdoedd, Parciau Cenedlaethol yng ngogledd y rhanbarth; Maes Awyr Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru; ardaloedd a aseswyd eisoes ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt yn y gogledd/gogledd-orllewin; Parc Rhanbarthol y Cymoedd; yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar hyd ffin ddwyreiniol y rhanbarth a’r ardal sydd dan ystyriaeth fel ‘Llain Las’, rhwng Cas-gwent a Chasnewydd.

  • Yn fwy penodol i Fro Morgannwg mae rôl Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, heddiw ac yfory, ynghyd â Phorthladd y Barri, sydd i gyd wedi'u nodi yn Cymru'r Dyfodol: "Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru. Mae'n borth rhyngwladol sy'n cysylltu Cymru â'r byd ac mae'n sbardun pwysig o fewn economi Cymru. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i leoli yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan sy'n cynnig cyfleoedd i fuddsoddi yn y safle a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r Ardal Fenter yn cynnig amrywiaeth ehangach o safleoedd datblygu ac adeiladau busnes, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol neu i fuddsoddi yn yr adeiladau cyfredol." (Tudalen 82)
  • "Gwasanaethir y rhanbarth gan borthladdoedd yng Nghasnewydd, Caerdydd a'r Barri. Mae pob un yn chwarae rôl economaidd bwysig ac ar y cyd maent yn seilwaith allweddol yn y rhanbarth. Dylai Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ystyried rôl y porthladdoedd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol a sefydlu fframweithiau i gefnogi eu gweithrediad a'u hehangiad posibl." (Tudalen 173).
  • Mae Cymru'r Dyfodol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiad y rhanbarth â rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Lloegr a rhanbarth Gorllewin Lloegr. Bydd hybu hygyrchedd a chysylltiadau rhwng yr ardaloedd hyn, ar sail dealltwriaeth o'u rolau a'u swyddogaethau, yn sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn gweithredu fel cyfanwaith cydlynus ac nad ydynt yn cystadlu yn erbyn ei gilydd nac yn gwneud penderfyniadau strategol ar wahân.
  • Mae polisi cynllunio cenedlaethol wedi'i nodi yn PCC, sy'n ceisio sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cefnogi twf economaidd a chyflogaeth ynghyd ag ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol o fewn cyd-destun datblygu cynaliadwy.
  • Ategir PCC gan NCTau ac NCTMau, sy'n troi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy i'r system gynllunio, fel y gall chwarae rhan briodol wrth symud tuag at gynaliadwyedd. Dylai'r CDLlN geisio:
    ─ Cydlynu datblygiad gyda darpariaeth seilwaith a chefnogi polisïau a strategaethau economaidd cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol;
    ─ Alinio swyddi a gwasanaethau gyda thai, lle bynnag y bo modd, i leihau'r angen am deithio, yn enwedig mewn car; a
    ─ Hyrwyddo'r defnydd o dir gwag heb ei ddefnyddio a ddatblygwyd yn y gorffennol.
  • Mae Gweithio'n Ddoethach: Strategaeth Gweithio o Bell i Gymru gan Llywodraeth Cymru yn gosod ei chynlluniau i weithio gyda busnesau, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol i helpu mwy o gyflogwyr i fabwysiadu dull mwy ystwyth a hyblyg yn eu gweithle. Mae'r strategaeth yn gosod targed i 30 y cant o weithlu Cymru fod yn gweithio gartref neu'n agos ato erbyn 2026 ac yn esbonio sut mae'r llywodraeth yn bwriadu gwreiddio gweithio o bell ar gyfer y tymor hir yng ngweithleoedd Cymru. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at gyfleoedd economaidd a buddion gweithio gartref ac o bell, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn enwedig mewn cymunedau gwledig a lled-wledig, gan ddarparu mynediad i gyflogwyr at weithlu ehangach a mwy amrywiol a'r potensial i gynyddu cynhyrchiant a lleihau absenoldebau oherwydd salwch.
  • Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDdPRC) yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cynaliadwy, a chytbwys trwy'r rhanbarth, 'Sbarduno Economi Cymru'. Nod y fargen yw annog buddsoddiad a chreu amgylchedd cyfle cyfartal o fewn y deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion ar gyfer hyrwyddo twf cynaliadwy o fewn yr ardal er budd ei phoblogaeth breswyl.
  • Bydd BDdPRC yn helpu i roi hwb i dwf economaidd trwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, gwella sgiliau, helpu pobl i gael swyddi a rhoi cymorth i fusnesau y mae ei angen arnynt i dyfu. Bydd hefyd yn sefydlu llywodraethu cryf ar draws y rhanbarth.
  • Nod cyffredinol Strategaeth Dwristiaeth 2018-20 yw nodi amcanion twristiaeth strategol, ac wedyn nodi pob cam gweithredu wrth dargedu'r amcanion allweddol hynny, i wneud gwelliannau sylweddol i brofiad ymwelwyr ym Mro Morgannwg. Mabwysiadodd y Cyngor Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Ardal Datblygu Maes Awyr a Phorth Caerdydd yn 2019 a fydd yn llywio datblygiadau ar y safle yn y dyfodol, yn unol ag amcanion twristiaeth (ac economaidd ehangach) strategol.
  • Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws[4], sy'n nodi effeithiau cymdeithasol, economaidd a lles y pandemig ar gymunedau ac yn nodi ei flaenoriaethau a'i amcanion allweddol. O bwys i'r CDLlN, ac yn benodol i'r thema ACI hon, yw'r ffocws ar dwf economaidd, cyflogaeth a seilwaith gwyrdd. Mae hyn yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Fro 2020-2025; yn benodol bod amcanion yn cynnwys cefnogi 'poblogaeth fedrus sydd wedi cael addysg dda' a 'sicrhau bod unigolion a chymunedau yn gallu ffynnu a chyflawni eu gorau'.

Crynodeb llinell sylfaen

Y Cyd-destun rhanbarthol

2.4 Mae rhanbarth De-ddwyrain Lloegr yn cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg, a dyma'r rhanbarth fwyaf poblog yng Nghymru, gyda dros 1.5 miliwn o drigolion. Y rhanbarth yw'r lleiaf o'r pedwar rhanbarth yn ôl arwynebedd ac mae'n cynnwys dinasoedd arfordirol Caerdydd a Chasnewydd a chyn gadarnleoedd diwydiannol cymoedd De Cymru.[5] Nodir bod Bro Morgannwg o fewn yr ardal dwf ehangach i'r rhanbarth er bod Caerdydd, Casnewydd, a'r Cymoedd wedi eu nodi'n ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer twf yn Cymru'r Dyfodol (Polisi 1).

2.5 Ystyrir bod Bro Morgannwg yn ardal gefnog a deniadol i fyw a gweithio ynddi. Gan elwa o'i hagosrwydd i Gaerdydd a'r rhanbarth ehangach, mae'r ardal yn gartref i 14,320 o fusnesau a diwydiannau. Mae gan y Fro hefyd gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da â gweddill Cymru a'r DU, fel y dangosir yn Ffigur 8.1 drosodd, ac yr ymdrinnir â nhw ymhellach ym Mhennod 7.[6]

2.6 Rhaglen £1.2 biliwn a gytunwyd yn 2016 rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru yw Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ei nod yw creu twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth trwy fuddsoddi, gwella sgiliau a chreu cysylltedd digidol a ffisegol gwell.[7] Yn benodol, bydd y system Metro newydd yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio o gwmpas Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd yn creu gwasanaeth cyflymach, amlach a mwy cydlynol ar draws y rhanbarth trwy ddefnyddio trenau, bysus a rheilffyrdd bach.

2.7 Mae dadansoddiad o farchnad lafur Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dynnwyd o adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad Lafur gan Goleg Caerdydd a'r Fro yn rhagweld y ceir y twf mwyaf o ran swyddi yn y diwydiant Gwybodaeth a Chyfathrebu, gyda thwf o 25% yn 2018, ac yna Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol ac Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota gyda thwf o 13% yr un.[8]

Ffigur 2.2 Cysylltiadau economaidd Bro Morgannwg[9]

Map yn darlunio’r cyrchfannau allweddol y mae gan Fro Morgannwg gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd cryf â hwy, o fewn radiws 50km a 100km. Ymysg lleoliadau allweddol o fewn 50km o’r Fro mae Llanelli, Abertawe, Pen-y-bont, Caerdydd, Casnewydd, Cas-gwent a Bryste. O fewn 100km, mae gan y Fro gysylltiadau â Chaer-wysg, Caerfaddon, Cheltenham a Chaerloyw. Nodwyd lleoliad Caerdydd a Maes Awyr Bryste hefyd ar y map hwn.

Cyflogaeth bresennol (ardaloedd menter)

2.8 Mae gan Fro Morgannwg gynnig cyflogaeth sylweddol, gyda 900ha o safleoedd cyflogaeth presennol. Cyflogir y gyfran fwyaf o weithwyr ym Mro Morgannwg, sef 20% (8,000 o swyddi), yn y diwydiant Iechyd Dynol a Gwaith Cymdeithasol. Dilynir hyn gan Fasnach Cyfanwerthu a Manwerthu ar 12% (5,000 o swyddi), a gweithgareddau Gwasanaethau Addysg, Llety a Bwyd ar 10% (4,000 o swyddi) yr un.[10] Mae nifer y swyddi sydd ar gael ym Mro Morgannwg wedi aros yn gyson i raddau helaeth dros y 12 mlynedd diwethaf.

2.9 Mae Ffigur 2.2 drosodd yn dangos lleoliad safleoedd cyflogaeth presennol yn y Fro, gan dynnu sylw'n benodol at 'Ardal Fenter' y Fro.Dynodwyd Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Mae'n cynnwys tri pharth penodol: Maes Awyr Caerdydd, Parc Busnes Awyrofod Bro Tathan (Dwyrain a Gorllewin) a'r Tir i'r de o Heol y Porthladd a elwir yn Ardal Datblygu'r Porth. Nod yr ardal fenter yw datblygu ac ehangu'r sector awyrofod a chynnal a chadw sydd wedi datblygu yn y maes awyr a chanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan a'r cyffiniau.

Parc Busnes Awyrofod Bro Tathan

2.10 Mae gan Barc Busnes Awyrofod Bro Tathan y potensial datblygu ar gyfer hyd at 3 miliwn troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr cyflogaeth. Mae ganddo fynediad ar ochr yr awyr i gefnogi amrywiaeth o ddefnyddiau sifil neu filwrol gan gynnwys Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Ailwampio (CChAA), gweithgynhyrchu, ailwampio peiriannau, Profion Anninistriol (PA) ac Ymchwil a Datblygu. Mae'r Parc Busnes Awyrofod eisoes yn gartref i brif feddiannwyr, gan gynnwys Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Caerdav.

2.11 Mae Ffordd Fynediad y Gogledd (FfFG) wedi'i chwblhau ac mae'n darparu mynediad uniongyrchol o ansawdd uchel i fusnesau newydd a phresennol ar y safle. Yn ogystal, er mwyn cefnogi'r datblygiad parhaus yn y Parc Busnes Awyrofod, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n paratoi brîff datblygu i lywio cynigion datblygu ar safle'r Porth.[11]

2.12 O ran cyfleoedd addysg, mae cysylltiadau hirsefydlog â phrifysgolion Cymru a darparwyr hyfforddiant awyrofod o'r radd flaenaf sy'n gweithredu'n gyfagos â'r maes awyr yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (CRHA).

2.13 Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio gweithgareddau amgen a chyflenwol ar hyn o bryd yn y farchnad awyrennau ehangach ym maes cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio (CChAA).

Maes Awyr Caerdydd

2.14 Mae Maes Awyr Caerdydd, ym Mro Morgannwg, yn chwarae rhan bwysig fel porth rhyngwladol ac fel sbardun pwysig o fewn economi Cymru. Ers iddo gael ei gaffael gan Lywodraeth Cymru yn 2013, mae'r maes awyr wedi cynyddu nifer y teithwyr dros 65%.[12] Fodd bynnag, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i Faes Awyr Caerdydd gyda 2 weithredwr yn gorffen masnachu, ynghyd â goblygiadau'r cyfyngiadau ar deithio oherwydd COVID-19. Roedd nifer y teithwyr yn 2020 ychydig o dan 220,000, gostyngiad o 87% ar 2019.[13] Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil mai dyma'r gostyngiad mwyaf mewn unrhyw faes awyr yn y DU. Mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i ddatblygu'r maes awyr dros yr 20 mlynedd nesaf, gydag uwchgynllunio dangosol yn cynnig terfynfa newydd.[14] Cyflwynir rhagor o wybodaeth ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd ym Mhennod 7.

2.15 Mabwysiadodd y Cyngor Ganllaw Cynllunio Atodol (CCA) Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Datblygu'r Porth yn 2019 a fydd yn llywio datblygiadau ar y safle yn y dyfodol.

Tir i'r de o Heol y Porthladd (Ardal Datblygu'r Porth)

2.16 Mae'r safle hwn yn safle strategol o ran cyflogaeth a thrafnidiaeth, gyda seilwaith trafnidiaeth newydd a chyfleoedd cyflogaeth wedi'u nodi, gan fanteisio ar bwysigrwydd strategol a rhanbarthol y Maes Awyr o ran denu mewnfuddsoddiad a chreu swyddi.

2.17 Dilëwyd cais cynllunio amlinellol (2019/00871/OUT) mewn perthynas â'r tir cyflogaeth a ddyrannwyd i'r de o Heol y Porthladd sy'n cwmpasu 44.75 hectar o faes busnes B1, B2 a B8, lle parcio cysylltiedig, seilwaith draenio, darpariaeth bioamrywiaeth a gwaith ategol ynghyd ag estyniad i'r parc gwledig yn yr Uchel Lys ym mis Hydref 2021. Mae cais wedi'i ailgyflwyno yn cael ei ystyried gan y cyngor ar hyn o bryd o dan yr un rhif cais.

2.18 Ar hyn o bryd, mae 'cyfarwyddyd dal' gan Lywodraeth Cymru ar Fferm Model sy'n atal y Cyngor rhag cyhoeddi penderfyniad ar y safle. Fodd bynnag, ar ôl i'r Cyngor orffen ei broses asesu, bydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniad o ran a ddylid galw'r safle i mewn ai peidio.

Safleoedd cyflogaeth presennol

2.19 Mae Tabl 2.2 drosodd yn rhestru'r safleoedd cyflogaeth presennol ym Mro Morgannwg, sydd hefyd i'w gweld yn ofodol ar Ffigur 2.2 drosodd. Y tu allan i'r ardaloedd menter, y Cyfadeilad Cemegol yw'r lleoliad cyflogaeth mwyaf (o ran ha), gyda Dociau'r Barri yn ail.

2.20 Mae Maes Cyflogaeth Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn dangos, er bod cyfleoedd cyflogaeth fel arfer yn gryf ym Mro Morgannwg, fod rhai ardaloedd – yn fwyaf nodedig yn Nwyrain y Barri – lle nad yw'r cyfleoedd cyflogaeth hyn mor gryf neu lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth hyn.[15]

Tabl 2.2 Safleoedd cyflogaeth Bro Morgannwg

Safle cyflogaeth

Maint (ha)

Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Sain Tathan

331.0

Maes Awyr Caerdydd, Y Rhws

209.9

Y Cyfadeilad Cemegol, Y Barri

119.4

Dociau'r Barri, Y Barri,

76.2

Gorsaf Bŵer Aberddawan, Gorllewin Aberddawan

44.6

Parc Busnes Cyffordd y Fro, Llandŵ

23.6

Gwaith Sment Aberddawan, Dwyrain Aberddawan

16.5

Ystâd Fasnachu'r Iwerydd, Y Barri

14.8

Renishaw, Tir i'r de o Gyffordd 34, M4

11.9

Ystâd Fasnachu Llandŵ, Llandŵ

11.5

Uned 6, Ystâd Ddiwydiannol Tŷ Verlon, Y Barri

11.4

Parc Busnes Dyffryn, Llandŵ

6.7

Ystâd Fasnachu Llandochau, Llandochau (Penarth)

5.3

Ystâd Ddiwydiannol West Point, Llandochau (Penarth)

5.2

Ystâd Fasnachu Llandŵ (De), Llandŵ

4.3

Parc Busnes Heol Caerdydd, Y Barri

3.3

Ystâd Ddiwydiannol Sully Moors, Y Barri

3.1

Ystâd Fasnachu Palmerston, Y Barri

2.2

Canolfan Fenter y Fro, Y Barri

1.8

Parc Busnes Treftadaeth, Llanilltud Fawr

1.7

Parc Busnes Saint Hilari, Croes Cwrlwys

1.2

Parc Busnes y Maes Awyr, Y Rhws

1.1

Ystâd Ddiwydiannol West Winds, Fferm Goch

0.5


Ffigur 2.3 Safleoedd cyflogaeth a pharthau menter Bro Morgannwg

Map yn nodi lleoliad 23 o safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes ym Mro Morgannwg; ar hyn o bryd, mae’r rhain yn Sain Tathan, Y Rhŵs, Y Barri, Gorllewin Aberddawan, Llandŵ, Dwyrain Aberddawan, tir i’r de o Gyffordd 34 - M4, Llandochau (Penarth), Llanilltud Fawr, Croes Cwrlwys a Fferm Goch.  Mae’r map hwn hefyd yn amlygu lleoliad 'Parth Menter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan’.

Cyfraddau cyflogaeth

2.21 Caiff prif amcangyfrifon y Trosolwg o'r Farchnad Lafur (TFL) eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Fel y dangosir yn Ffigur 2.3 isod, mae'r TFL diweddaraf yn dangos mai'r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru oedd 74.1% o'r rhai rhwng 16-64 oed rhwng Ionawr a Mawrth 2022. O gymharu â hyn, cyfradd cyflogaeth y DU oedd 75.7% yn ystod yr un cyfnod.

2.22 Mae Ffigur 2.3 yn dangos bod cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng ers 2018, gyda gostyngiad sylweddol yn 2020, sy'n debygol o fod o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Fodd bynnag, mae ffigurau ar gyfer 2022 yn dangos cynnydd ers 2020, sy'n cyfateb i'r duedd gyffredinol a welwyd ar gyfer y DU yn gyffredinol.

Ffigur 2.4 Cyfradd Cyflogaeth (canran y boblogaeth 16-64 oed)[16]

Graff yn darlunio’r gyfradd gyflogaeth rhwng Ionawr - Mawrth 2012 ac Ionawr - Mawrth 2022 ymysg pobl rhwng 16-64 oed yng Nghymru, o gymharu â’r cyfartaledd am y DU. Yn y DU yn gyffredinol a Chymru, cynyddu’n raddol wnaeth cyfraddau cyflogaeth rhwng 2012 a 2018, gyda Chymru yn pegynnu’n sylweddol yn 2018. Yna dechreuodd lefelau cyflogaeth gwympo, gyda gostyngiad sylweddol yng Nghymru yn 2020. Fodd bynnag, ers hynny mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru wedi bod yn cynyddu’n raddol, gan adlewyrchu’r tueddiadau cyffredinol a welir yn y DU hefyd. Wedi dweud hynny, rhwng 2012 a 2022, arhosodd cyfraddau cyflogaeth yn y DU yn gyson uwch na chyfradd gyfartalog cyflogaeth yng Nghymru.

2.23 Er nad oes modd cymharu data economaidd cyfunol yr SYG a baratowyd gan 'nomis' yn uniongyrchol â data'r Arolwg Llafurlu yn y bwletinau ystadegol, mae'r data diweddaraf ar gyfer Bro Morgannwg (Ionawr 2020 – Rhagfyr 2020) yn dangos gostyngiad graddol mewn cyfraddau cyflogaeth gyda 77% (60,900) o boblogaeth Bro Morgannwg yn cael ei nodi'n economaidd weithgar sy'n cymharu'n ffafriol â ffigur Cymru gyfan, sef 75.7%.[17]

2.24 O ran diweithdra, mae Ffigur 2.4 drosodd yn dangos cyfradd diweithdra fesul rhanbarth economaidd o'i gymharu â'r gyfradd gyffredinol ar gyfer Cymru. Cyn diwedd 2019, roedd y gyfradd diweithdra yn parhau'n gyson uwch yn Ne-ddwyrain Cymru na'r rhanbarthau eraill. Yn 2021, bu cynnydd yn y gyfradd diweithdra ym mhob un o'r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, er mai De-ddwyrain Cymru oedd â'r cynnydd lleiaf, gan godi 7.4%. Hefyd yn 2021, roedd gan Ganolbarth a De-orllewin Cymru gyfradd diweithdra uwch na De-ddwyrain Cymru, ac mae Gogledd Cymru'n cynnal y gyfradd diweithdra isaf. Y duedd gyffredinol ar gyfer Cymru a'r tri rhanbarth economaidd yw gostyngiad mewn diweithdra dros y pedair blynedd diwethaf.

Ffigur 2.5 Cyfradd diweithdra fesul rhanbarth economaidd (canran y boblogaeth sy’n economaidd anweithredol)[18]

Dengys Ffigur 2.5 y cyfraddau diweithdra yn Ne Ddwyrain, Canolbarth a De-orllewin a Gogledd Cymru o gymharu â’r gyfradd gyffredinol am Gymru. Cyn diwedd 2019, gostyngodd y gyfradd gyffredinol am Gymru; felly hefyd y cyfraddau yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru. Yng Ngogledd Cymru, yr oedd diweithdra yn cynyddu’n raddol yn y cyfnod hwn. Fodd bynnag, arhosodd y gyfradd ddiweithdra yn gyson uwch yn Ne Ddwyrain Cymru na’r rhanbarthau eraill. Cynyddodd cyfraddau cyflogaeth ar draws yr holl ranbarthau ac felly yn genedlaethol rhwng 2019 a 2021. Fodd bynnag, yn 2021 cynyddodd y gyfradd ddiweithdra yn sylweddol yn y tri rhanbarth economaidd yng Nghymru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, er mai yn Ne Ddwyrain Cymru y bu’r cynnydd lleiaf, i fyny o 7.4%. Yn 2021, yr oedd gan Ganolbarth a De Orllewin Cymru gyfradd ddiweithdra uwch na De Ddwyrain Cymru, a chan Ogledd Cymru yr oedd y gyfradd ddiweithdra isaf. Felly y duedd yn gyffredinol i Gymru a’r tri rhanbarth economaidd yw gostyngiad mewn diweithdra dros y pedair blynedd a aeth heibio.

2.25 Fel gyda chyfraddau cyflogaeth, mae canran y bobl sy'n economaidd anweithgar ym Mro Morgannwg yn adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol ddirywiol. Mae data Nomis yn dangos bod 5.4% ym mis Mawrth 2021 (4,310 o bobl) ym Mro Morgannwg yn ddi-waith, o'i chymharu â chyfartaledd Cymru, sef 5.9%, a chyfartaledd y DU, sef 6.5%.[19]

2.26 Mae canran y bobl sy'n hunangyflogedig ym Mro Morgannwg wedi amrywio dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda chwympiadau sylweddol yn dilyn y dirwasgiad a ddechreuodd yn 2007. Ym mis Rhagfyr 2020, roedd canran y bobl a oedd yn hunangyflogedig ym Mro Morgannwg yn 8.4%, yn is na chyfartaledd Cymru, sef 9.3%, a chyfartaledd gwledydd Prydain, sef 9.9%.[20]

Covid-19

2.27 Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar 42% o economi'r DU. Er bod effaith economaidd y pandemig wedi taro pobl ar draws y DU, mae ymchwil wedi dangos bod y sioc yn y farchnad lafur sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi cael eu teimlo'n fwy gan bobl ifanc a'r rhai â'r cyflogau isaf. Mae pum ACEHI yn y Fro yn y 10% o'r ACEHI mwyaf difreintiedig (sgôr o 191 neu lai) yng Nghymru yn ôl Maes Incwm; mae pob un yn y Barri.[21] Ymdrinnir â lefelau amddifadedd ar draws y Fro ymhellach ym Mhennod 5.

2.28 Yn ystod y pandemig, bu gostyngiad o 1.8% yn y gyfradd cyflogaeth o fewn tri mis ym Mro Morgannwg (mis Mawrth 2020 o fis Rhagfyr 2019). Er bod y pandemig wedi effeithio ar bob sector diwydiant, mae'r Sector Gwasanaeth, yn enwedig gwasanaethau 'sy'n wynebu cwsmeriaid' fel gweithgareddau Gwasanaethau Llety a Bwyd, wedi dioddef yn benodol.[22]

2.29 Yn ôl StatsCymru, bu cynnydd mawr yn y gyfradd sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru ers Chwefror 2020. Er na fydd pawb sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn yn ddi-waith, cafwyd cynnydd o 87.7% yn nifer y bobl a oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol ddechrau mis Mawrth 2021 o'i chymharu â mis Chwefror 2020.[23]

Band eang

2.30 Fel y gwelwyd gan brofiadau yn ystod y pandemig, mae argaeledd a mynediad i ddarpariaeth dda ar y rhyngrwyd wedi dod yn fwyfwy pwysig i'n bywydau pob dydd. Y defnydd ar seilwaith band eang cyflym ym Mro Morgannwg yw'r uchaf yng Nghymru.[24]

2.31 Ar anterth y pandemig, amcangyfrifwyd bod cymaint â 40% o bobl yn gweithio gartref.[25] Mae data o MALlC 2019 yn rhoi cipolwg ar ansawdd argaeledd band eang ledled Bro Morgannwg. Mae ACEHI mewn trefi fel y Barri, Penarth a'r Bont-faen yn dangos argaeledd uchel i fand eang ar 30mbs ac mae ACEHI mewn ardaloedd mwy gwledig yn dangos argaeledd gwaeth. Amcangyfrifir na all 27% o gartrefi yn y Rhws, sef 3 yng ngorllewin y Fro, dderbyn band eang ar 30mbs, ac amcangyfrifir na all 25% o gartrefi yn Sili, 2 yn nwyrain y Fro, gael band eang ar y cyflymderau hyn. Mae cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru trwy'r 'Gronfa Band Eang Lleol' i wella mynediad i'r rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd lle mae seilwaith yn fwy anodd ei osod.

Addysg

2.32 Mae'r Fro yn cynnig mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau addysg, gan adlewyrchu natur amrywiol yr awdurdod. Gwelir ysgolion Cynradd mynediad deuol mwy mewn ardaloedd mwy trefol ac mae ysgolion cymharol fach yn aml wedi'u lleoli mewn ardaloedd mwy gwledig (gweler Ffigur 2.5 drosodd). Yn bennaf mae ysgolion uwchradd mewn trefi mawr, ac mae un ysgol ganol cyfrwng Cymraeg (3-19 oed) yn y Barri. Mae un Ysgol Arbennig a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol sydd ym Mhenarth.

2.33 Mae 3 ysgol Annibynnol ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Coleg Iwerydd yr UWC yn Sain Dunwyd. Mae un sefydliad addysg bellach yn y sir, sef Coleg Caerdydd a'r Fro, gyda champysau yn y Barri ac Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan.

2.34 Mae lleoliad ysgolion yn y Fro a'r cyffiniau yn cael eu dangos drosodd yn Ffigur 2.5. Mae ysgolion wedi'u lleoli ger canolfannau trefol y Fro, gyda llai o ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig. Mae gan drigolion Bro Morgannwg fynediad rhesymol i ysgolion hefyd yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Mae Ffigur 2.5 yn dangos toreth o ysgolion ym Mhen-y-bont i orllewin y Fro, a Chaerdydd i'r dwyrain. O gymharu â hyn, ychydig iawn o ysgolion sydd yn Rhondda Cynon Taf i'r gogledd.

2.35 Yn benodol, yn y Fro, mae darpariaeth ysgolion yn cynnwys:

  • 2 Ysgol Feithrin a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol
  • 44 o Ysgolion Cynradd a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol (38 Cyfrwng Saesneg / 6 Cyfrwng Cymraeg)
  • 1 Ysgol ganol Gymraeg a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol (3-19 oed)
  • 7 Ysgol Uwchradd a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol; a
  • 1 Ysgol Arbennig a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol

Ffigur 2.6 ysgolion ym Mro Morgannwg a’r cyffiniau 

Map yn darlunio lleoliad Ysgolion Cynradd, Uwchradd, Cynradd Catholig Rufeinig, Uwchradd Catholig Rufeinig a Meithrinfeydd ym Mro Morgannwg.

Math o Ysgol Location
Cynradd Y Barri
Tregolwyn
Y Bontfaen
Dinas Powys
Fferm Goch (Ysgol Gynradd Llangan) 
Llandochau (Penarth)
Llanilltud Fawr 
Penarth
Llanbedr y Fro
Pendeulwyn
Y Rhŵs
Sain Tathan
Saint-y-brid
Sain Dunwyd
Sain Nicolas
Sili
The Herberts (Ysgol Gynradd Llanfair)
Gwenfo 
Y Wig
Uwchradd Y Barri
Y Bontfaen
Llanilltud Fawr 
Penarth
Cynradd Catholig Rufeinig Y Barri
Uwchradd Catholig Rufeinig Y Barri
Meithrin Penarth


2.36 O ran addysg bellach, mae sawl sefydliad o fewn awr o yrru i'r Fro fel a ganlyn:

  • Prifysgolion:
    ─ Prifysgol Caerdydd
    ─ Prifysgol Metropolitan Caerdydd
    ─ Prifysgol Abertawe
    ─ Prifysgol De Cymru
  • Colegau:
    ─ Coleg Pen-y-bont
    ─ Coleg Caerdydd a'r Fro
    ─ Coleg y Cymoedd
    ─ Coleg Gwyr Abertawe
    ─ Coleg Castell-nedd Port Talbot
    ─ Coleg yr Iwerydd, Sain Dunwyd

2.37 Mae prif ganfyddiadau perthnasol yn Asesiad Lles Bro Morgannwg (2021) yn cynnwys:

  • Mae gan Fro Morgannwg un o'r lefelau uchaf o bobl sydd â chymwysterau NVQ lefel 4 ac uwch yng Nghymru; er bod gwahaniaethau'n bodoli ar draws Bro Morgannwg gydag ACEHI yn y Barri yn cofnodi cyfran uwch o bobl 16-64 oed heb unrhyw gymwysterau na'r ACEHI yn Nwyrain a Gorllewin y Fro.
  • Ar draws pob blwyddyn o brentisiaethau a ddechreuwyd, mae'r rhan fwyaf o brentisiaethau wedi bod yn y Sector Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, gydag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Rheolaeth a Phroffesiynol y sectorau mwyaf eu maint nesaf.
  • Mae rhaniad amlwg mewn prentisiaethau a ddechreuwyd yn ôl rhyw a sector. Menywod sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o Brentisiaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol a ddechreuwyd ym Mro Morgannwg. Ar gyfer gwrywod, mae'r sectorau sydd â'r nifer mwyaf o brentisiaethau a ddechreuwyd yn cynnwys sectorau Peirianneg, Adeiladu, Rheoli a Phroffesiynol.
  • Roedd gan 17% o gyflogwyr yn Ne-ddwyrain Cymru brentisiaethau neu roeddent yn cynnig prentisiaethau. O'r cyflogwyr hyn a oedd yn cynnig prentisiaethau, roedd 72% a oedd wedi recriwtio pobl yn benodol fel prentisiaid yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi cadw o leiaf un o'u prentisiaid ar ôl i'w prentisiaeth ddod i ben.

Manwerthu

2.38 Mae'r sector manwerthu cenedlaethol yn parhau i brofi cyfnod anodd. Mae llawer o fanwerthwyr adnabyddus ar y stryd fawr wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr ac mae llawer o rai eraill wedi lleihau eu presenoldeb ar y stryd fawr a newid eu pwyslais i ffafrio llwyfannau gwerthu digidol. Wedi hynny, bu gostyngiad parhaus mewn arwynebedd llawr manwerthu o fewn canol trefi ac ardaloedd yr awdurdod sy'n ostyngiad o 5.05% ers 2017.

2.39 Mae Tabl 2.3 drosodd yn dangos y duedd gyffredinol a welwyd o gyfraddau unedau gwag cynyddol, yn enwedig yng nghanol trefi'r Fro. Yn benodol, mae cyfraddau unedau gwag yn y Barri a Llanilltud Fawr wedi gostwng ers 2011, ond mae cyfraddau ym Mhenarth a'r Bont-faen wedi cynyddu. Mae Tabl 2.3 yn dangos y cofnodwyd y gyfradd unedau gwag gyfartalog uchaf ym Mro Morgannwg yn 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar gyfer y cyfnod hwn ym mis Awst 2020 yn ystod cyfnod clo Covid-19 a gafodd effaith andwyol ar fywiogrwydd ac apêl canolfannau manwerthu. Fodd bynnag, yn yr arolwg manwerthu diweddaraf a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2021, mae cyfraddau unedau gwag ym mhob canolfan wedi gostwng o'r flwyddyn flaenorol gan leihau'r gyfradd unedau gwag gyfartalog i 6.96%.

2.40 Mae cyfraddau unedau gwag cyffredinol ar gyfer y Fro wedi gostwng rhywfaint ers 2011, er bod cyfraddau unedau gwag cyffredinol yng Nghymru a'r DU wedi cynyddu.

2.41 Yn ogystal, mae Tabl 2.3 yn dangos bod cyfradd unedau gwag y DU wedi codi i 14.1% yn 2021, gyda'r gyfradd unedau gwag yng Nghymru yn 19.2% (1 o bob 7 siop yn wag yng Nghymru). O gymharu â hyn, mae data unedau gwag Bro Morgannwg yn dangos bod y canolfannau manwerthu ym Mro Morgannwg wedi dechrau gwella o effaith y cyfyngiadau cyfnod clo yng Nghymru.

2.42 Fodd bynnag, bu cynnydd mewn arwynebedd llawr masnachol arall megis hamdden a swyddfeydd, gyda chanolfannau manwerthu tref ac ardal yn arallgyfeirio o'r defnyddiau manwerthu A1 traddodiadol, yn rhannol fel ymateb i newid mewn arferion siopa. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i bolisi cynllunio cenedlaethol sydd hefyd yn hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol fel hybiau ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a'r canolbwynt ar gyfer ystod amrywiol o wasanaethau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol.

Tabl 2.3 Cyfraddau unedau gwag ym Mro Morgannwg[26]

Blwyddyn

Cyfraddau unedau gwag cyfartalog

Y Stryd Fawr, Y Barri

Heol Holltwn, Y Barri

Canol Tref y Bont-faen

Canol Tref Llanilltud Fawr

Canol Tref Penarth

Canol Trefi Bro Morgannwg

Cymru

DU

2012

12.3%

15.8%

3%

5%

1%

7.4%

18%

14.6%

2013

17.5%

8.7%

2.8%

4.9%

1.6%

7.1%

17%

11.9%

2014

10.3%

12.5%

8.3%

9.2%

5.8%

9.2%

17.9%

10.3%

2015

10.9%

7.6%

7.8%

3.9%

5.3%

7.1%

15.5%

13.3%

2016

9.7%

8%

10.8%

5.8%

3.5%

7.6%

12.1%

9.5%

2017

8.8%

14%

8.3%

9%

4%

8.8%

12.5%

9.4%

2018

10.4%

13.9%

12.90%

4%

5.17%

9.27%

15.4%

8.9%

2019

4.8%

17.65%

11.96%

7.92%

5.14%

9.49%

13.4%

10.3%

2020

7.3%

16.04%

17.3%

3.96%

3.43%

9.61%

15.9%

12.2%

2021

4%

13.98%

11.6%

2.97%

2.25%

6.96%

19.2%

14.1%


Twristiaeth

2.43 Wedi'i leoli yn ardal fwyaf poblog Cymru ac yn agos at Gaerdydd, mae Bro Morgannwg mewn lle da o ran ei dalgylch i ymwelwyr dydd ac yn ganolbwynt i ymwelwyr sydd am grwydro De Cymru.

2.44 Mae gan y Fro amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid sy'n defnyddio'r amgylchedd naturiol i wella lles economaidd yr ardal. Mae hyn yn cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Llwybr Arfordir Cymru a chyrchfannau glan môr hirsefydlog; cefn gwlad a pharciau gwledig deniadol; nodweddion hanesyddol unigryw; nifer o weithgareddau awyr agored; a rhwydwaith llwybrau cerdded hirsefydlog.

2.45 Cydnabyddir glan môr Ynys y Barri a Bae Whitmore fel un o'r prif gyrchfannau i dwristiaid ym Mro Morgannwg. Mae'r gyrchfan yn adnabyddus ledled Cymoedd De Cymru, De-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr y mae cyfran uchel o ymwelwyr wedi dod ohonynt yn y gorffennol. Mae prif atyniadau'r gyrchfan yn cynnwys y traeth, Parc Pleser Ynys y Barri, atyniadau llai eraill a nifer o beiriannau chwarae, caffis a bariau. Er ei bod wedi gorfod wynebu newidiadau mawr yn y farchnad a galwadau bythol gynyddol, mae'r ardal yn dal i ddenu amcangyfrif o 424,000 o ymwelwyr sydd â gwerth o £17m i'r economi.[27]

2.46 Mae cyfraniad economaidd y sector twristiaeth wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ym Mro Morgannwg; fodd bynnag, yn 2020 mae data'n awgrymu bod effaith economaidd y sector wedi gostwng 45.1% (gweler Ffigur 2.6). Amcangyfrifir bod hyn wedi arwain at ostyngiad o 45.3% yn nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn y sector. Mae hefyd yn dangos bod cyfanswm yr ymwelwyr dydd wedi gostwng 68% rhwng 2019 a 2020 (colled fras o 1.89 miliwn o ymwelwyr).[28] Mae'r duedd negyddol sylweddol eang hon a welwyd yn 2020 o 2019 wedi'i phriodoli i bandemig y coronafeirws a chau busnesau a chyfnodau clo ysbeidiol wedyn.[29]

2.47 Fel y dangosir yn Ffigur 2.6, ar gyfer yr holl ddangosyddion, nid yw data ar gyfer 2020 yn adlewyrchu tueddiadau o'r blynyddoedd blaenorol, a oedd yn dangos cynnydd parhaus yn nifer yr ymwelwyr, diwrnodau ymwelwyr, cyflogaeth ac effaith economaidd gyffredinol o 2013 tan 2019. Wrth i'r Fro adfer ar ôl y pandemig, ystyrir y bydd tueddiadau'n cynyddu i'r pwynt lle maent yn cyfateb i'r twf a gafwyd cyn y pandemig ac yn rhagori arno.

Ffigur 2. 7 dangosyddion twristiaeth Bro Morgannwg (newid canran 2009 i 2020)  [30]

Ffigur 2. 7 dangosyddion twristiaeth Bro Morgannwg (newid canran 2009 i 2020)

Adfywio'r Barri

2.48 Mae tref y Barri'n parhau i gael ei thrawsnewid trwy brosiectau adnewyddu mawr mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg. Mae adeiladau hanesyddol pwysig yn cael eu hadnewyddu at ddefnydd masnachol llwyddiannus, ynghyd â buddsoddiad newydd yn ardaloedd glan môr a glan dŵr y dref.[31]

2.49 Mae'r gwaith cynhwysfawr o adfywio'r safle 100 erw ar y glannau wedi creu cyswllt ffordd newydd ag Ynys y Barri, gan gysylltu'r lle twristiaeth poblogaidd hwn â'r datblygiad. Hyd yma, mae adfywio'r glannau wedi cynnwys datblygu tua 1600 o gartrefi newydd ynghyd â buddsoddiad preifat mewn gwesty newydd a mentrau hamdden manwerthu a masnachol.[32] Amaethyddiaeth

2.50 Yn ogystal â bod o bwys economaidd yng Nghymru, mae'r sector Amaethyddiaeth a Bwyd hefyd o bwys diwylliannol; mae hyn yn arbennig o wir ym Mro Morgannwg. Rhagwelir y gallai ffermio defaid, sydd ynghyd â ffermio gwartheg yn brif ddull ffermio ym Mro Morgannwg, ddod yn llai hyfyw yn economaidd oherwydd y newidiadau o ran mynediad i'r farchnad a chyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus.[33]

2.51 Yn 2019, roedd 700 o bobl ym Mro Morgannwg wedi'u cyflogi yn y sector amaeth, coedwigaeth a physgota. Dim ond 1.6% o'r boblogaeth waith (42,800 o bobl) yw hyn[34].

Llinell sylfaen y dyfodol

2.52 Mae rhai sectorau yn fwy agored i effeithiau diweithdra yn y Fro, gan gynnwys y sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaethu. Mae rhagfynegiadau cyffredinol ar gyfer 2040 yn dangos y bydd cyfraddau cyflogaeth yn yr awdurdod yn gostwng tua 6%. Mae gan hyn y potensial i gael ei waethygu gan seilwaith sydd wedi'i gysylltu'n wael â chanolfannau gwasanaethau allweddol ac sy'n methu â chynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn gyffredinol.

2.53 Er bod nifer y swyddi sydd ar gael ym Mro Morgannwg wedi aros yn gyson i raddau helaeth dros y degawd diwethaf, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar yr angen am dir a safleoedd cyflogaeth. Mae canolfannau manwerthu tref ac ardal yn arallgyfeirio o'r defnyddiau manwerthu A1 traddodiadol, yn rhannol fel ymateb i newid mewn arferion siopa. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i bolisi cynllunio cenedlaethol sydd hefyd yn hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol fel hybiau ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a'r canolbwynt ar gyfer ystod amrywiol o wasanaethau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol. Mae'r cynnydd mewn defnydd nad yw'n ymwneud â manwerthu ym mhob canolfan fanwerthu yn adlewyrchu eu rôl sy'n newid yn genedlaethol ac yn debygol o fod yn duedd barhaus.

2.54 Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar gyfer annog parhau i weithio gartref a gweithio o bell ar ôl y pandemig yn rhoi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth mewn lleoliadau gwledig a lled-wledig a'r galw cynyddol posibl am fannau gwaith hyblyg mewn aneddiadau trefol.

2.55 Yn strategol, bydd Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn helpu i sicrhau twf economaidd sylweddol sy'n gysylltiedig â'r diwydiant hedfanaeth, nid yn unig ym Mro Morgannwg ond hefyd ym Mhrifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd. Mae Bargen Ddinesig yn creu cyfleoedd sylweddol i wella lles economaidd ar draws y rhanbarth. Mae gan ddatblygiad Metro De Cymru yn benodol (yr ymdrinnir ag ef ym Mhennod 6) y potensial i ddod â newidiadau eang i'r economi leol a rhanbarthol y gellid eu gwireddu dros amserlen gymharol fyr. Asedau'r rhanbarth yw ei gysylltiadau â rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Lloegr a rhanbarth Gorllewin Lloegr.

Prif faterion

2.56 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • Mae lleoliad y Fro ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei alluogi i fanteisio ar raglen fuddsoddi o £1.2 biliwn, gan gynnwys darparu Metro De Cymru a fydd yn gwella cysylltedd ledled y rhanbarth.
  • Mae Bro Morgannwg wedi'i nodi yn Ardal Dwf De-ddwyrain Cymru, a bydd angen i dwf yn y dyfodol ystyried sut mae anghenion y gymuned yn cyd-fynd ag amcanion datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd.
  • Mae'r gyfradd gyflogaeth ym Mro Morgannwg wedi bod yn gyson uwch na chyfradd cyflogaeth Cymru, ac yn gyffredinol yn unol â chyfradd cyflogaeth gwledydd Prydain. Fodd bynnag, ceir lefelau uchel o ddiweithdra yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â lefelau isel o incwm ac amddifadedd addysgol, yn enwedig mewn rhai ardaloedd yn y Barri.
  • Mae Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn cynnwys 550 ha o le cyflogaeth. Bydd datblygu / ehangu'r ardaloedd hyn yn y dyfodol yn sicrhau twf economaidd sylweddol mewn perthynas â'r diwydiant hedfanaeth ledled y rhanbarth, ac yn cefnogi swyddi o ansawdd uchel a hyfforddiant / addysg i drigolion y Fro.
  • Bydd angen i batrymau gweithio hyblyg sy'n cael eu sbarduno gan ddigideiddio ac effeithiau pandemig COVID-19 gael eu hadlewyrchu mewn polisi cynllunio lleol.
  • Cynnydd parhaus mewn arwynebedd llawr hamdden a swyddfeydd, gyda chanolfannau manwerthu tref ac ardal yn arallgyfeirio o'r defnyddiau manwerthu A1 traddodiadol, yn rhannol fel ymateb i newid mewn arferion siopa. Bydd angen i'r CDLlN ystyried sut y gall polisi gynnwys tueddiadau mewn arferion siopa a natur newidiol manwerthu a rôl ddatblygol ein trefi, ein hardaloedd a'n canolfannau lleol.
  • Mae mynediad i fand eang yn amrywio ledled y Fro; fodd bynnag, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru trwy'r 'Gronfa Band Eang Lleol' i wella mynediad i'r rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd lle mae seilwaith yn anos ei osod. Bydd hyn yn bwysig os yw Bro Morgannwg yn dymuno manteisio ar y cyfleoedd economaidd a grëir trwy weithio gartref ac o bell.
  • Mae gan y Fro amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid sy'n defnyddio'r amgylchedd naturiol i wella lles economaidd yr ardal. Bydd yn bwysig i'r Fro ddefnyddio ei hasedau mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau bod lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y dyfodol ledled cymunedau yn cael ei wella a bod cyfanrwydd yr asedau'n cael ei gynnal a'i wella.

Amcanion ACI

2.57 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu – a fydd y cynllun / polisi yn helpu i:

Cefnogi economi gref, amrywiol, gynaliadwy a gwydn, gydag ymatebion arloesol i amodau newidiol a chymorth i weithlu cryf yn y dyfodol.

  • Darparu digon o dir i fusnesau dyfu a sicrhau cysondeb â thai / seilwaith?
  • Cefnogi'r gwaith o greu swyddi newydd hygyrch a hwyluso gweithio o gartref a gweithio o bell?
  • Cefnogi Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, gan adlewyrchu ei phwysigrwydd rhanbarthol o ran denu mewnfuddsoddiad?
  • Sicrhau bod canol trefi yn cael eu hystyried yn gyntaf ar gyfer cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd?
  • Sicrhau bod cyfleusterau addysgol yn gyson â thwf y boblogaeth?
  • Gwella bywiogrwydd a gwydnwch canol trefi a chanolfannau manwerthu, gan gefnogi arallgyfeirio yn unol ag anghenion sy'n newid?
  • Diogelu ardaloedd cyflogaeth presennol?
  • Creu cyrchfan ddeniadol i dwristiaid?
  • Annog datblygu cynaliadwy a chyfleusterau o safon i gyfoethogi'r profiad i ymwelwyr a thrigolion?
  • Hyrwyddo economi werdd a datgarboneiddio?
  • Sicrhau bod yr economi'n tyfu mewn modd cynaliadwy?
  • Hyrwyddo Cymru lewyrchus?

[4]Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Strategaeth Adfer yn sgil y Coronafeirws' ar gael [ar-lein] i'w gweld trwy'r ddolen hon

[5]Llywodraeth Cymru (2021): 'Diweddariad i Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[6]Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Buddsoddi ym Mro Morgannwg'

[7] Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru (2016) 'Bargen Ddinesig: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd' ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[8]BGC Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Addysg a Chyflogaeth'

[9] Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Buddsoddi ym Mro Morgannwg'

[10] Cyngor Bro Morgannwg (2021): Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026

[11]Llywodraeth Cymru (2020): 'Brîff Datblygu Bro Tathan', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[12]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026

[13] Ibid.

[14] Maes Awyr Caerdydd (2021): 'Ein Maes Awyr 2040 - Uwchgynllun' ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[15]Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (2021): 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026

[16]Llywodraeth Cymru (2022): 'Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Mai 2022', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[17] 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (2021)

[18]Llywodraeth Cymru (2022): 'Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Mai 2022', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[19] Ibid.

[20] Ibid.

[21] BGC Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Addysg a Chyflogaeth'

[22] Ibid.

[23] 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (2021)

[24] 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (2021)

[25] Ibid.

[26] Data monitro manwerthu Bro Morgannwg 2011 - 2021

[27] STEAM (2019)

[28] Cathy James (2021) Global Tourism Solutions (DU) Ltd Tueddiadau STEAM Bro Morgannwg

[29] Cathy James (2021) Global Tourism Solutions (DU) Ltd Tueddiadau STEAM Bro Morgannwg

[30] Cathy James (2021): 'Global Tourism Solutions (UK) Ltd Tueddiadau STEAM Bro Morgannwg'

[31] Cyngor Bro Morgannwg (2020): 'Buddsoddi ym Mro Morgannwg'

[32] Ibid.

[33]BGC Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Addysg a Chyflogaeth'

[34]Llywodraeth Cymru (2019): 'Cyflogaeth yn y gweithle gan ardaloedd lleol Cymru a diwydiant eang', [ar-lein] ar gael i'w weld trwy'r ddolen hon

 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig