Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022

12. Y camau nesaf

Camau dilynol ar gyfer y broses ACI

12.1 Cwmpasu (y cam presennol) yw'r cam cyntaf mewn proses ACI pum cam:

  • Cwmpasu.
  • Arfarnu dewisiadau amgen rhesymol, gyda'r bwriad o lywio'r gwaith o baratoi'r cynllun Cyn-Adneuo/Strategaeth a Ffefrir, ac asesiad dilynol o'r cynllun Cyn-Adneuo/Strategaeth a Ffefrir;
  • Paratoi Adroddiad yr ACI gyda'r bwriad o lywio'r ymgynghoriad.
  • Ymgynghoriad ar Adroddiad yr ACI.
  • Cyhoeddi 'datganiad' ar adeg mabwysiadu'r cynllun er mwyn 'adrodd hanes' creu cynllun/ACI (a chyflwyno 'mesurau a bennwyd ynghylch monitro').

12.2 Yn unol â hynny, bydd y cam nesaf ar ôl cwmpasu felly'n cynnwys datblygu ac asesu dewisiadau amgen rhesymol. Mae hyn yn cynnwys Safleoedd Ymgeisiol ac opsiynau strategol ar gyfer lefel gyffredinol a dosbarthiad twf.

Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cwmpasu hwn

12.3 Mae cynnwys y cyhoedd trwy ymgynghori yn elfen allweddol o'r broses ACI. Yn ystod y cam cwmpasu hwn, mae'r Rheoliadau AAS yn gofyn am ymgynghori â chyrff ymgynghori statudol ond nid ymgynghori'n llawn â'r cyhoedd. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Cadw yw'r cyrff ymgynghori statudol.

12.4 Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adroddiad cwmpasu am bum wythnos o 24/08/2022 i 29/09/2022.

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno bod y cyd-destun polisi yn berthnasol, yn briodol ac yn gyfoes? Os na, esboniwch sut y dylid ei newid.

Cwestiwn 2: Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y wybodaeth sylfaenol a gyflwynir, neu unrhyw wybodaeth/data ychwanegol rydych chi'n meddwl fyddai'n ychwanegu gwerth neu sydd ar goll?

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â'r materion allweddol sydd wedi'u nodi yn seiliedig ar y cyd-destun polisi a'r wybodaeth sylfaenol? Os na, esboniwch sut y gellid eu diwygio neu'r hyn sydd ar goll.

 

 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig