Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022

5. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

5.1 Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddemograffeg ac aelwydydd y boblogaeth ym Mro Morgannwg, yn ogystal ag amddifadedd, mynediad i wasanaethau a chyfleusterau.

Cyd-destun polisi

5.2 Mae Tabl 5.1 yn cyflwyno'r dogfennau mwyaf perthnasol a nodwyd yn yr adolygiad polisi at ddibenion y CDLlN a'r ACI.

Tabl 5.1 Cynlluniau, polisïau a strategaethau a adolygwyd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

5.3 Crynhoir isod y negeseuon allweddol sy'n deillio o'r adolygiad:

  • Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r fframwaith gofodol 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir yng Nghymru, gan roi cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith / twf newydd. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod gan Fro Morgannwg un o'r patrymau anheddu trefol mwyaf nodedig yn y DU, sydd ag anghenion cymdeithasol ac economaidd â phwyslais gwahanol, ac o'r herwydd dylai'r CDLlN nodi polisïau a chynigion sy'n adlewyrchu'r materion economaidd a chymdeithasol strwythurol sy'n effeithio ar ffyniant a lles trigolion. Mae'r CDS sy'n cael ei llunio ar gyfer De-ddwyrain Cymru hefyd yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau rhanbarthol megis tai, cyflogaeth, a thrafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Bydd cefnogi Bro Morgannwg fel ardal gyda gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol ynghyd â seilwaith digidol yn cael effaith fuddiol ar y gymuned leol.
  • Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu neu driniaeth annheg ar sail nodweddion personol penodol. Mae'r Ddeddf yn diffinio 'nodweddion gwarchodedig' y mae'n anghyfreithlon i wahaniaethu'n anuniongyrchol neu'n uniongyrchol yn eu herbyn, neu aflonyddu neu erlid mewn perthynas â nhw. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC) wedi'i nodi yn Adran 149 y Ddeddf, lle mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus geisio dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu. Mae'r Ddeddf yn esbonio bod 'sylw dyledus' ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb yn cynnwys dileu neu leihau anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodwedd warchodedig, cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill, ac annog grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.
  • Nodir polisi cynllunio cenedlaethol yn PCC, y mae un o'i brif amcanion yn ymwneud â sicrhau bod y system gynllunio yn cyfrannu'n gadarnhaol at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn unol â gofynion Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall a dyletswyddau dilynol megis y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. Mae PCC yn rhoi'r cysyniad o greu lleoedd wrth wraidd polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried pob agwedd ar les ac yn cyflawni datblygiadau newydd sy'n gynaliadwy ac sy'n darparu ar gyfer anghenion pawb.
  • Ategir PCC gan NCTau, sy'n manylu ymhellach ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer yr Iaith Gymraeg (NCT 20), ymhlith amcanion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant cenedlaethol eraill.
  • Mae Safonau'r Gymraeg yn gosod gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio Strategaeth Iaith Gymraeg leol sy'n amlinellu sut y byddant yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal. Mae Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg Bro Morgannwg yn cynnwys cynllun gweithredu pum mlynedd sy'n canolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd cymunedol a chyhoeddus a chodi ymwybyddiaeth o'i phwysigrwydd fel rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad yr ardal.
  • Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio hyrwyddo twf cryf, cynaliadwy a chytbwys ledled y rhanbarth, gan ymrwymo i ddull partneriaeth o ymdrin â thai ac adfywio. Nod y fargen yw annog buddsoddiad a chreu amgylchedd cyfle cyfartal yn y deg awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill o fewn ei ffiniau. Dylai'r CDLl Newyddd nodi polisïau a chynigion ar gyfer hyrwyddo twf cynaliadwy o fewn yr ardal er budd ei phoblogaeth breswyl.
  • Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n nodi'r amcanion a'r blaenoriaethau y mae'n dymuno eu cyflawni dros gyfnod o bedair blynedd. Gelwir y blaenoriaethau hyn yn "Amcanion Cydraddoldeb". Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Bro Morgannwg yn disgrifio'r hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o ran Deddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswyddau penodol Cymru.
  • Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru yn datblygu'r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'r nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Mae'r siarter yn amlinellu'r chwe egwyddor creu lleoedd canlynol sy'n ymdrin â'r amrywiaeth o ystyriaethau sy'n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da:
    - Pobl a'r gymuned.
    - Symudiad.
    - Lleoliad.
    - Tir cyhoeddus.
    - Cymysgedd o ddefnyddiau; a
    - Hunaniaeth.
  • Mae Briff ar Hunaniaeth Rhywedd yng Nghymru, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Rhagoriaeth LHDT, yn cynnig argymhellion clir ar gyfer cefnogi'r gymuned LHDT a'u mynediad i dai yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2020).
  • Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru drawslywodraethol yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol presennol a brofir gan gymunedau LHDTC+, i herio gwahaniaethu ac i greu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu'n ddiffuant, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ymateb i anghenion, amrywiaeth a gwendidau penodol ein cymunedau LHDTC+.
  • Yn gyffredinol mae Bro Morgannwg yn gymharol gyfoethog ac mae gan lawer o drigolion safon byw uchel. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol mewn disgwyliad oes rhwng rhai ardaloedd ym Mro Morgannwg, a rhai anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Bro Morgannwg sydd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn disgwyliad oes iach i ferched rhwng yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf a mwyaf yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd yn ne-ddwyrain yr awdurdod, yn enwedig y Barri.

Crynodeb sylfaenol

Cymunedau

5.4 Ystyrir bod Bro Morgannwg yn ardal gefnog a deniadol i fyw a gweithio ynddi (gweler Pennod 2 a Phennod 3 uchod), ond ceir pocedi o dlodi ac amddifadedd yno hefyd. Adlewyrchir y rhain trwy Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. Mae'r MALlC yn ystadegyn cenedlaethol a ddyluniwyd i nodi'r ardaloedd bach yng Nghymru sydd â'r amddifadedd mwyaf.[81]

5.5 Mae'r MALl yn sgorio pob ardal fach yng Nghymru o 1 (â'r amddifadedd mwyaf) i 1,909 (â'r amddifadedd lleiaf). Gelwir yr ardaloedd bach fel arall yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI). Mae'r ddaearyddiaeth hon wedi'i hadeiladu o ddata'r cyfrifiad ac mae'n cynrychioli lleoliadau bach y mae pob un â phoblogaeth o tua 1,600 o bobl. Gan fod yna 1,909 AGEHI yng Nghymru, mae 190 AGEHI o fewn y 10% sydd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru.[82]

5.6 Mae 79 AGEHI yn y Fro, fel y dangosir yn Ffigur 5.1 drosodd, sy'n mapio data pennawd diweddaraf MALlC (2019). Mae cyfran sylweddol o'r Fro yn dod o fewn y 20% o ACEHI sydd â'r amddifadedd lleiaf yng Nghymru, gyda'r Bont-faen a dwyrain Penarth yn enwedig yn rhan o'r 10% o ACEHI â'r amddifadedd lleiaf.

5.7 Mae amddifadedd yn amrywio ar draws yr awdurdod, gydag ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yn y Barri ac i'r gogledd / dwyrain ohoni. Mae'r tair AGEHI â'r amddifadedd mwyaf yn y Fro i'w cael yn y Barri a'r cyffiniau, ac maent yn rhan o'r 10% o ACEHI sydd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Y rhain yw:[83]

  • Gibbonsdown 2 (wedi'i rhestru'n 105 o 1909 AGEHI yng Nghymru).
  • Llys 3 (wedi'i rhestru'n 142 o 1909 AGEHI yng Nghymru); a
  • Buttrills 2 (wedi'i rhestru'n 186 o 1909 AGEHI yng Nghymru).

5.8 Ceir hefyd sawl AGEHI yn y Barri a'r cyffiniau sydd o fewn y 20% - 40% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Fel arall, y tu hwnt i'r Barri a de-ddwyrain ardal y CDLlN, dim ond pedair AGEHI sydd ar draws y Fro sydd o fewn y 50% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf.

Ffigur 5.1 Malc Bro Morgannwg 2019 

Map yn dangos y 79 Ardal Cynnyrch Ehangaf Is (ACEI) ym Mro Morgannwg, yn ôl cod lliw seiliedig ar ddata penawdau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (Malc). Mae wardiau yn yr awdurdod yn cael eu sgorio ar gyfradd o 1 i 10 ac yn cael cod lliw yn unol â hynny; er enghraifft, mae’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sgorio 1 ac yn cael eu lliwio’n goch tra bod yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn wyrdd tywyll, gan sgorio 10. Mae amddifadedd yn amrywio ar draws yr awdurdod, gyda’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y Barri ac i’r gogledd/dwyrain o’r dref. Yr ACEI mwyaf difreintiedig yn y Fro yw Gibbonsdown 2, Court 3 a Buttrills 2 ac felly maent wedi eu lliwio’n goch ar y map hwn. Hefyd, mae llawer ACEI yn y Barri a’r cylch sy’n dod o fewn yr 20% - 40% ACEI mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Draw o’r Barri a de-ddwyrain  y Fro, dim ond 4 ardal arall sy’n dod o fewn y 50% ACEI mwyaf difreintiedig. Mae’r ACEI hyn yn Llanilltud Fawr, Sain Tathan/Gileston a dwy rhwng Dinas Powys a Phenarth. Ar y llaw arall, dyfarnwyd naill ai 8 neu 9 i gyfran helaeth o’r Fro ar sail data Malc, sy’n dod o fewn y 20% ACEI lleiaf difreintiedig yng Nghymru. A dweud y gwir, dyfarnwyd 10 i’r Bontfaen a dwyrain Penarth, ac y maent wedi eu lliwio yn wyrdd tywyll; mae’r ardaloedd hyn yn dod o fewn y 10% ACEI lleiaf difreintiedig.

5.9 Mae Tabl 5.2 isod yn rhoi dadansoddiad cryno o lefelau amddifadedd ar draws Bro Morgannwg o 2008 i 2019. Fel y dangosir yn Nhabl 5.2, mae gan y Fro dair AGEHI yn y Barri sydd wedi'u rhestru o fewn y 10% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru ers 2008. Mae nifer yr ACEHI yn y Fro sydd wedi'u rhestru yn yr 20% a'r 30% o'r rhai â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru wedi cynyddu ers 2018; fodd bynnag, mae nifer yr ACEHI sydd wedi'u rhestru yn y 50% o'r rhai â'r amddifadedd mwyaf wedi gostwng.

Tabl 5.2 Dadansoddiad MALlC Bro Morgannwg 2008 - 2019[84]

Blwyddyn

Cyfanswm yr ACEHI

Yn y 10% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (safle 1-191)

Yn y 20% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (safle 1-382)

Yn y 30% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (safle 1-573)

Yn y 50% o'r ACEHI â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (safle 1-955)

2008

78

3

8

14

31

2011

78

6

13

18

36

2014

79

5

15

19

37

2019

79

3

10

15

28

5.10 Mae adroddiad MALIC 2019 yn nodi bod Bro Morgannwg yn un o 12 Awdurdod Lleol yng Nghymru heb unrhyw ardaloedd bach o amddifadedd sefydledig. Mae'n bwysig nodi nad oes gan ardal ei hun amddifadedd: amgylchiadau a ffyrdd o fyw'r bobl sy'n byw yno sy'n effeithio ar sgôr amddifadedd yr ardal ac mae'n bwysig cofio nad yw pawb sy'n byw mewn ardal o amddifadedd yn ddifreintiedig - ac nad yw pob person difreintiedig yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd.[85]

5.11 Mae amddifadedd ledled y Fro wedi cael ei archwilio trwy Gynllun Corfforaethol Bro Morgannwg (2020). Yn benodol:[86]

  • Amcangyfrifir bod 13% (17,181) o bobl yn byw mewn amddifadedd incwm - sy'n is na chyfartaledd Cymru.
  • Gellir gweld gwahaniaethau gwirioneddol rhwng ardaloedd; mewn rhai ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd, amcangyfrifir bod 38% o bobl yn byw mewn amddifadedd incwm.
  • Mewn rhai o'r ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd, amcangyfrifir bod 53% o blant yn byw mewn tlodi.
  • Mae i'r Fro ganran is na'r cyfartaledd o aelwydydd gorlawn; fodd bynnag, mae ardaloedd yn nwyrain y Barri yn dangos y cyfraddau uchaf o aelwydydd gorlawn ac yn fwy na dwywaith cyfartaledd Cymru mewn rhai ACEHI.

Data cydraddoldeb

5.12 Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, y nodweddion gwarchodedig yw anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw (rhywedd) ac oedran.

Beichiogrwydd

5.13 O ran beichiogrwydd a mamolaeth, mae data cenedlaethol diweddar yn dangos bod 4% o'r 29,728 o enedigaethau yng Nghymru (2019) yn digwydd i famau dan 20 oed, sef y gyfradd isaf ar gofnod.[87] Roedd 30% ohonynt i famau rhwng 30 a 34 oed, ac roedd 0.2% i famau dros 45 oed.

Priodas a phartneriaeth sifil

5.14 Gan adlewyrchu data Trefniadau Byw, yn 2011 fe wnaeth 49.1% o drigolion Bro Morgannwg gofnodi eu bod nhw'n briod.[88] Mae hyn yn gynnydd ar y 46.4% a gofnodwyd yn 2001. Fe wnaeth 30.8% o bobl yn 2011 gofnodi eu bod yn sengl, heb briodi neu erioed wedi cofrestru mewn partneriaeth sifil o'r un rhyw[89] o gymharu â 25.3% a gofrestrodd eu bod yn sengl (erioed wedi priodi) yn 2001.

5.15 Mae data blynyddol Arolwg y Boblogaeth rhwng 2018 a 2020 ar gael ar y lefel ranbarthol, sy'n dangos y gwnaeth 47.3% o bobl oedd yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru gofnodi eu bod yn briod. Mae hyn yn cymharu â 50% ar gyfer Gogledd Cymru, a 48% ar gyfer Canolbarth a De-orllewin Cymru.[90]

Dosbarthiad oedran

5.16 Mae data nodweddion oedran a gymerir o'r Cyfrifiad yn dangos poblogaeth sy'n heneiddio ledled Cymru. Rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 mae pob ardal Awdurdod Lleol ar draws Cymru wedi cofnodi twf poblogaeth mewn categorïau oedran hŷn. Mae Bro Morgannwg yn dilyn y duedd genedlaethol hon, gyda thwf sylweddol yn y grwpiau oedran 60 i 64, 65 i 74, 75 i 84 a 90 a hŷn rhwng 2001 a 2011.[91]

5.17 Yn ôl amcangyfrifon 2020[92], mae 20.6% o boblogaeth Bro Morgannwg rhwng 0 a 17 oed, mae 58.1% rhwng 18 a 64 oed, a 21.3% yn 65 oed ac yn hŷn. Mae'r ffigur ar gyfer y grŵp oedran olaf yn uwch na chyfartaledd y DU o 18.6%, ond yn debyg i gyfartaledd Cymru o 21.1%, sy'n nodi bod gan Gymru, gan gynnwys Bro Morgannwg, boblogaeth fawr o bobl hŷn.

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd

5.18 Fel y nodir uchod ym Mhennod 3, yn 2020 roedd ychydig yn fwy o ferched (51%) na dynion (49%) yn byw yn y Fro, sy'n cyd-fynd â'r ffigurau ar gyfer Cymru gyfan.[93]

5.19 Gan adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol, mae'r rhaniad rhwng y rhywiau ym Mro Morgannwg yn y grwpiau oedran 0-15 a 16-64 oed bron yn 50:50.[94]

5.20 Yn 2019, roedd 4% o Dde-ddwyrain Cymru yn nodi eu bod yn perthyn i'r gymuned LHDT (hoyw, lesbiaid, deurywiol neu arall). Mae hyn yn fwy na Chanolbarth a De-Orllewin Cymru (2.7%), Gogledd Cymru (1.8%), a Chymru gyfan (3.1%).[95]

5.21 Ers cyhoeddi'r Papur Safle Data Traws (2009), mae agweddau gwahanol ar hunaniaeth rhywedd wedi cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. Rhagwelir y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau gwirfoddol sy'n dangos dealltwriaeth fwy cynnil o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Mae'r grwpiau hyn yn fwy agored i wahaniaethu oherwydd eu statws lleiafrifol.

5.22 Mae canfyddiadau allweddol ymchwil Stonewall i droseddau a gwahaniaethu ar sail casineb LHDT yng Nghymru (2017) gan gynnwys y canlynol:[96]

  • Mae bron un o bob pedwar person LHDT wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Mae hanner y bobl draws wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu hunaniaeth rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae un o bob pum person LHD nad ydynt yn draws wedi profi trosedd casineb neu ddigwyddiad oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol yn yr un cyfnod.
  • Mae nifer y bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru sydd wedi profi troseddau casineb wedi cynyddu 82% mewn pum mlynedd, o 11% yn 2013 i 20% yn 2017.
  • Ni wnaeth pedwar o bob pum person LHDT a brofodd drosedd neu ddigwyddiad casineb adrodd amdano i'r heddlu.
  • Mae tri o bob deg person LHDT yn osgoi rhai strydoedd am nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yno fel person LHDT.
  • Ni fyddai dau o bob pum person LHDT yn teimlo'n gyfforddus wrth gerdded i lawr y stryd yn dal llaw ei bartner. I ddynion hoyw, mae hyn yn codi i dri o bob pump (57%).
  • Mae un o bob deg o bobl LHDT wedi profi camdriniaeth homoffobig, deuffobig neu drawsffobig neu ymddygiad ar-lein wedi'i gyfeirio tuag atynt yn bersonol yn y mis diwethaf. Mae'r nifer hwn yn cynyddu i un o bob pedwar person traws sydd wedi profi camdriniaeth neu ymddygiad trawsffobig.

5.23 Mae ymchwil ehangach i wahaniaethu yng Nghymru yn dangos bod cyfran fawr o breswylwyr yng Nghymru sydd wedi dioddef o wahaniaethu yn nodi mai'r prif reswm dros wahaniaethu yn eu herbyn yw lle maent yn byw (15.7%), ac yna eu cenedligrwydd (11.4%), eu hoedran (10.6%) a phroblem iechyd/anabledd (9.7%).

Hil ac ethnigrwydd

5.24 Fel y'i mesurir gan Arolwg Blynyddol y Boblogaeth, mae canran y bobl sy'n cofnodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig ym Mro Morgannwg wedi bod rhwng 2% a 3% ers 2005. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020, amcangyfrifwyd bod 2.1% o boblogaeth Bro Morgannwg yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, sy'n cymharu â 5.5% ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa ar lefel genedlaethol Cymru lle mae canran y bobl sy'n cofnodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig wedi bod yn cynyddu'n raddol.[97]

5.25 Mae data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion wedi dangos bod y rhan fwyaf (17,055 o ddisgyblion 5 oed a hŷn ym Mro Morgannwg) yn 2019/2020 yn nodi mai 'Gwyn Prydeinig' oeddent; yr ail gefndir ethnig mwyaf oedd 'Unrhyw Gefndir Gwyn Arall' (10,385 o ddisgyblion), yna 'Unrhyw gefndir cymysg arall', (4,950 o ddisgyblion) ac 'Unrhyw gefndir ethnig arall' (4,620 o ddisgyblion). [98]

Crefydd

5.26 Fel y dangosir yn Nhabl 5.3 isod, mae llawer o drigolion y Fro yn nodi eu bod yn Gristnogion (58.1%), ac yna dim crefydd (32.9%). Mae hyn yn cyd-fynd a'r ffigurau cyfartalog i Gymru. Fodd bynnag, mae poblogaeth Fwslimaidd Bro Morgannwg yn llawer llai na ffigurau cyfartalog Cymru, gyda'r nifer sy'n nodi 'crefydd arall' ychydig yn uwch.[99]

Tabl 5.3: Hunaniaeth grefyddol[100]

 

Bro Morgannwg

Cymru

Cristion

58.1%

57.6%

Bwdhydd

0.3%

0.3%

Hindŵ

0.2%

0.3%

Iddew

0.1%

0.1%

Mwslim

0.6%

1.5%

Sîc

0.1%

0.1%

Crefydd arall

1.1%

0.4%

Dim crefydd

32.9%

32.1%

Crefydd heb ei nodi

7.4%

7.6%

Anabledd

5.27 Amcangyfrifir mai nifer y bobl rhwng 16 a 64 oed sy'n nodi eu bod yn anabl ym Mro Morgannwg yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 yw 13,900.[101] Mae'r rhaniad rhwng y rhywiau yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn dangos, yn ôl amcangyfrifon, fod mwy o fenywod yn nodi eu bod yn anabl (8,400) na dynion (5,500).

Y Gymraeg

5.28 Mae'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a'i hannog ym mhob cwr o Gymru.

5.29 Yn 2011, datgelodd y Cyfrifiad fod 8.2% o'r boblogaeth ym Mro Morgannwg yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o 14.6%. Nid oedd gan 83.7% o boblogaeth y Fro (tua 122,018 o bobl) unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl, o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 73.4% o'r boblogaeth.

5.30 Dengys Tabl 5.4 drosodd fod 18.8% o drigolion Bro Morgannwg yn 2020 yn siarad Cymraeg, sy'n llai na'r ffigur cyffredinol ar gyfer Cymru (29.2%), a llai nag awdurdodau cyfagos i'r dwyrain: Caerdydd (24.8%) a Chasnewydd (20.8%). Fodd bynnag, mae ychydig yn fwy o'r trigolion yn siarad Cymraeg ym Mro Morgannwg nag yn yr awdurdod cyfagos i'r gorllewin, Pen-y-bont ar Ogwr (18.5%).[102]

Tabl 5.4 Canran y bobl 3 oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl awdurdodau lleol Cymru[103]

Awdurdod

Canran (%)

Awdurdod

Canran (%)

Cymru

29.2

Abertawe

20.6

Ynys Môn

66.3

Castell-nedd Port Talbot

22.0

Gwynedd

76.4

Pen-y-bont ar Ogwr

18.5

Conwy

37.5

Bro Morgannwg

18.8

Sir Ddinbych

34.3

Caerdydd

24.8

Sir y Fflint

23.2

Rhondda Cynon Taf

21.1

Wrecsam

26.2

Merthyr Tudful

18.0

Powys

25.2

Caerffili

25.4

Ceredigion

60.9

Blaenau Gwent

16.5

Sir Benfro

32.1

Torfaen

19.3

Sir Gâr

52.6

Sir Fynwy

16.4

Casnewydd

20.8

 

 

Llinell sylfaen y dyfodol

5.31 Mae canfyddiadau'r Asesiad Lles yn dangos yr amrywiaeth eang o ffactorau sy'n cyfrannu at greu anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y Fro a'r ffactorau cymhleth a chysylltiedig sydd oll yn cyfrannu at les gwaeth mewn ardaloedd o amddifadedd. Bydd yn bwysig i'r CDLlN gymryd ymagwedd gyfannol at wella lles o fewn cymunedau'r awdurdod lle mae mwy o amddifadedd, gan hyrwyddo, cryfhau a gwella hunaniaeth ddiwylliannol yn unol ag amcanion cenedlaethol.

5.32 Mae adfywio economaidd, ynghyd ag adfywio cymunedol, yn ffactorau allweddol all drawsnewid cymdogaethau lleol a bywydau pobl leol. Felly dylai datblygiad newydd ledled y Fro ganolbwyntio ar leihau'r bwlch rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf cyfoethog, trwy fynd i'r afael â meysydd gweithgarwch pob dydd gan gynnwys cyflogaeth, iechyd, tai, addysg, diogelwch cymunedol a'r amgylchedd. Yn ogystal, cydnabyddir bod gan y Fro boblogaeth sy'n heneiddio, ac felly bydd yn bwysig sicrhau y gall gwasanaethau ddiwallu anghenion newidiol y boblogaeth wrth iddi heneiddio.

5.33 Mae'n debygol mai'r ffordd fwyaf uniongyrchol o ddylanwadu ar gydlyniant cymunedol yw trwy bolisïau manwl sydd â'r manylder i ddarparu ymatebion penodol mewn lleoliadau penodol. Yn absenoldeb y CDLlN, mae'n bosibl y gallai cyfleoedd gael eu colli i fynd i'r afael â materion ar lefel leol, ac yn strategol ar draws y fwrdeistref sirol.

Prif faterion

5.34 Roedd yr adolygiad cyd-destun a'r wybodaeth sylfaenol yn llywio'r broses o nodi sawl mater allweddol (problemau a chyfleoedd):

  • Mae Bro Morgannwg yn arddangos amrywiaeth economaidd-gymdeithasol sylweddol gyda rhai o'r cymunedau mwyaf cyfoethog a'r rhai â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru. Mae tair o'r ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn y Barri a'r cyffiniau, fel y dangosir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 diweddaraf. Mae data 2019 yn dangos bod anghydraddoldebau yn bodoli yn y Fro, nid yn unig yn gysylltiedig â ffyrdd iach o fyw ond ar draws ystod eang o ddangosyddion sy'n effeithio ar les unigolyn. Gall ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig chwarae rhan enfawr o ran cyfrannu at ein lles a dengys tystiolaeth fod llawer o ardaloedd o amddifadedd yn y Fro ag amgylchedd o ansawdd wael a llai o fynediad at fannau gwyrdd.
  • Yr ardaloedd yn y Fro sydd â'r incwm aelwyd isaf yw'r un rhai hefyd sydd â'r cyfraddau cyflogaeth isaf, a'r rhai sydd â'r lefel isaf o ran cyrhaeddiad addysgol. Gall dylanwad ffactorau economaidd-gymdeithasol yn y blynyddoedd cynnar fod yn allweddol wrth bennu cyfleoedd bywyd cenedlaethau'r dyfodol.
  • Dim ond cyfran fach o drigolion sydd o fewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, hiliol a chrefyddol; fodd bynnag, gellid dadlau bod dibynadwyedd y data hwn yn ansicr.
  • O gymharu â'r ffigur ar gyfer Cymru (29.2%), yn 2020, mae cyfran is o'r boblogaeth yn y Fro (18.8%) yn siaradwyr Cymraeg. Gallai hyn awgrymu lefel uwch o Seisnigeiddio na rhanbarthau eraill Cymru.
  • Mae gan y Fro boblogaeth sy'n heneiddio, ac felly bydd yn bwysig sicrhau y gall cynigion datblygu yn y dyfodol o fewn y CDLlN a'r gwasanaethau a ddarperir ddiwallu anghenion newidiol y boblogaeth wrth iddi heneiddio.

Amcanion ACI

5.35 O ystyried y materion allweddol a drafodir uchod, cynigir y dylai'r ACI gynnwys y cwestiynau gwrthrychol ac asesu canlynol:

Amcanion ACI

Cwestiynau asesu – a fydd y cynllun / polisi yn helpu i:

Leihau tlodi ac anghydraddoldeb; mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol

  • Lleihau anghydraddoldebau ac amddifadedd ar draws Bro Morgannwg, yn enwedig yn y wardiau â'r amddifadedd mwyaf a'r ardaloedd o amddifadedd cudd?
  • Gwella cyfle cyfartal ymhlith y grwpiau cymdeithasol hynny sydd â'r angen mwyaf?
  • Cyfrannu at leihad mewn troseddu, anhrefn gymdeithasol ac ofn troseddu, gan hyrwyddo cymdogaethau mwy diogel?
  • Hyrwyddo, cryfhau a gwella egwyddorion creu lleoedd?
  • Diogelu a darparu gwell cyfleusterau lleol, cymdeithasol a hamdden a mynediad i'r amgylchedd naturiol ar gyfer pob sector o'r gymuned, a gwella mynediad iddynt er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol a lles cymdeithasol?
  • Sicrhau cymysgedd priodol o feintiau, mathau a deiliadaethau anheddau i ddiwallu anghenion pob sector o'r gymuned?
  • Darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy sy'n galluogi mynediad hawdd i amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol?
  • Hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog y Fro a chynyddu datblygiad a defnydd o'r Gymraeg ym Mro Morgannwg?
  • Cefnogi'r boblogaeth sy'n heneiddio i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hallgáu'n gymdeithasol?

 


[81] Llywodraeth Cymru (2020): 'Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) Canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion, 2019 ymlaen', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[82] Ibid.

[83]Llywodraeth Cymru (2019): 'Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[84] MALlC 2008 - 2019

[85] Ibid.

[86]Cynllun Corfforaethol Cyngor Bro Morgannwg (2020)

[87] Nomis (2019): 'Genedigaethau byw yng Nghymru a Lloegr yn ôl rhyw a nodweddion y fam: cenedlaethol / rhanbarthol', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[88]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'

[89] Ibid.

[90] StatsCymru (2020): Statws Priodasol Fesul Rhanbarth ar gael [ar-lein]: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Marital-status/maritalstatus-by-region

[91] Daeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym yn 2005. Yn 2011, cofnododd 0.2% o'r ymatebwyr (185 o bobl) eu bod mewn partneriaeth sifil gofrestredig o'r un rhyw ym Mro Morgannwg.

[92] Poblogaeth y Ddinas (dim dyddiad): 'Y Deyrnas Unedig: Adran Weinyddol', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[93]Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'

[94] Ibid.

[95] StatsCymru (2019): 'Hunaniaeth rywiol yn ôl rhanbarth', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[96] Stonewall (2017): 'LGBT in Wales: Hate Crime and Discrimination', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[97] Cyngor Bro Morgannwg (2021): 'Asesiad Lles 2021 – Adroddiad Demograffig'

[98] Ibid.

[99] SYG, 2011. Data Cyfrifiad 2011 (KS209EW). Caiff y data hwn ei ddiweddaru pan fydd mwy o ddata cyfredol ar gael.

[100] SYG, 2011. Cyfrifiad 2011.

[101] Nomis (2020): 'Arolwg Blynyddol y Boblogaeth / Arolwg o'r Gweithlu', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[102] Cyfrifiad 2011, ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

[103] StatsCymru (2021): 'Arolwg Blynyddol y Boblogaeth – Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy y ddolen hon

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig