Integrated Sustainability Appraisal (ISA) Scoping Report

Daeth i ben ar 29 Medi 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd

1. Cyflwyniad

1.1 Comisiynir AECOM i arwain yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) i gefnogi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r ACI yn cyflawni'r gofynion a'r dyletswyddau ar gyfer Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG), Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (AEI), Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (AEYG) a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (LlCD).

1.2 Mae'r ACI yn fecanwaith ar gyfer ystyried a chyfleu effeithiau tebygol cynllun sy'n datblygu, a dewisiadau amgen o ran materion cynaliadwyedd allweddol. Nod yr ACI yw llywio a dylanwadu ar y broses creu cynlluniau gyda'r nod o osgoi a lliniaru effeithiau negyddol a sicrhau'r effeithiau mwyaf cadarnhaol posib. Trwy'r dull hwn, mae'r ACI ar gyfer y CDLl newydd yn ceisio gwneud y mwyaf o gyfraniad y cynllun sy'n datblygu at ddatblygu cynaliadwy.

Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg

1.3 Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg 2011 - 2026 (CDLl) ar 28 Mehefin 2017 ac mae'n nodi fframwaith cynllunio'r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mro Morgannwg o'r dyddiad hwnnw, hyd nes y caiff ei ddisodli. Yn unol â gofynion statudol, mae'r CDLl wedi'i fonitro'n flynyddol, a hyd yma cyhoeddwyd pum Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB).[1]

1.4 Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu diweddaru, mae Adran 69 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal adolygiad llawn o CDLl o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl mabwysiadu'r cynllun.

1.5 Yn unol â hynny, ym mis Mehefin 2021 dechreuodd Cyngor Bro Morgannwg ar ei adolygiad ffurfiol o'r CDLl mabwysiedig, gyda'r Adroddiad Adolygu drafft ar gael i ymgynghori arno rhwng 5 Tachwedd 2021 a 31 Ionawr 2022. Roedd yr Adroddiad Adolygu'n ystyried effeithiolrwydd y CDLl mabwysiedig ac argymhellodd y dylid cynnal adolygiad llawn o'r CDLl.

1.6 Dechreuodd CDLlN Bro Morgannwg yn ffurfiol ar 4 Mai 2022 ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo Cytundeb Cyflawni'r CDLlN, sy'n cynnwys yr amserlen a Chynllun Cynnwys y Gymuned. Bydd y CDLl newydd yn nodi amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn yr awdurdod ar gyfer y cyfnod 2021 - 2036. Dangosir yr ardal a gwmpesir gan y CDLl newydd yn Ffigur 1.1 drosodd.

Ffigur 1.1 Ardal weinyddol Cyngor Bro Morgannwg Mae’r map hwn yn amlinellu’r ardal weinyddol y mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol amdani. Mae hefyd yn nodi’r Awdurdodau Cynllunio Lleol sy’n ffinio â Bro Morgannwg, gan gynnwys Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Eglurhad ar yr ACI

1.7 Mae'r ACI yn fecanwaith ar gyfer ystyried a chyfleu effeithiau tebygol cynllun sy'n datblygu, a dewisiadau amgen o ran materion cynaliadwyedd allweddol. Nod yr ACI yw llywio a dylanwadu ar y broses creu cynlluniau gyda'r nod o osgoi a lliniaru effeithiau negyddol a sicrhau'r effeithiau mwyaf cadarnhaol posib. Trwy'r dull hwn, mae'r ACI ar gyfer y CDLlN yn ceisio gwneud y mwyaf o gyfraniad y cynllun sy'n datblygu at ddatblygu cynaliadwy.

1.8 Fel y nodwyd uchod, mae'r ACI yn ceisio bodloni'r gofynion a'r dyletswyddau ar gyfer AC, AAS, AEC, AEI, AEYG a LlCD. Y dull yw integreiddio'r cydrannau hyn yn llawn er mwyn darparu un broses asesu i lywio datblygiad y CDLlN. Ceir disgrifiad o bob un o'r gwahanol gydrannau a'u dibenion isod.

Arfarniad Cynaliadwyedd (AC)

1.9 Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd yn cael ei gynnal i fynd i'r afael â'r gweithdrefnau a ragnodir gan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (y Rheoliadau AAS). Mae AC yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol o dan Adran 39 (2) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

1.10 Yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb AAS, y ddau gam allweddol mewn AC yw:

  • Wrth benderfynu ar 'gwmpas a lefel manylder yr wybodaeth' y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr Adroddiad AC, ymgynghorir ag awdurdodau a ddynodwyd yn genedlaethol sy'n ymwneud â materion amgylcheddol; a
  • Chyhoeddir adroddiad ('Adroddiad yr AC') ar gyfer ymgynghori ochr yn ochr â'r Cynllun Drafft sy'n cyflwyno asesiad o'r Cynllun Drafft (h.y. yn trafod 'effeithiau sylweddol tebygol' a fyddai'n deillio o weithredu'r cynllun) a dewisiadau amgen rhesymol.

1.11 Mae Llawlyfr y CDLl, Argraffiad 3 (2020) yn nodi bod AC, sy'n ymgorffori AAS, yn chwarae rhan bwysig wrth ddangos bod y CDLl yn gadarn trwy sicrhau ei fod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy ac y dylai fod yn elfen annatod ar bob cam o'r broses o lunio cynlluniau.

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG)

1.12 Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae dyletswydd ar Gyngor Bro Morgannwg o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC) cysylltiedig i sicrhau bod yr amcanion a'r opsiynau polisi o fewn y CDLlN yn osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon (uniongyrchol ac anuniongyrchol), yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng y rhai â nodweddion gwarchodedig a phob un arall.

1.13 Ym mis Mawrth 2021 daeth y Ddeddf Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym, sy'n ategu'r Ddeddf Cydraddoldeb a'r DCSC trwy gyfrannu ymhellach at nodau lles hirdymor Cymru, yn arbennig "Cymru fwy cyfartal" a "Cymru o gymunedau cydlynus". Cryfhau trefniadau partneriaethau cymdeithasol ymhellach a hyrwyddo uchelgeisiau gwaith teg.[2]

1.14 Defnyddir Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) yn aml gan sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddangos sut mae'r ddyletswydd hon wedi'i chyflawni.

Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (AEI)

1.15 Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (AEI) i asesu effaith debygol y cynllun datblygu arfaethedig ar iechyd a lles meddyliol ac anghydraddoldeb. Mae'r broses AEI yn darparu fframwaith systematig ond hyblyg ac ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ystyried effeithiau ehangach polisïau CDLl a sut y gallant hwy, yn eu tro, effeithio ar iechyd pobl.

Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (AEYG)

1.16 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r Gymraeg fel y gall ffynnu a thyfu ledled Cymru. Ym mhroses y cynllun datblygu mae'n rhaid ystyried y Gymraeg o'r dechrau'n deg. Mae'n ofyniad deddfwriaethol i'r AoG gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y cynllun ar y defnydd o'r Gymraeg (Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Adran 11).

1.17 Mae Polisi Cynllunio Cymru Fersiwn 11 (Chwefror 2021) yn pennu'r gofynion polisi ar gyfer y Gymraeg. Mae Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a'r Gymraeg yn rhoi arweiniad ar ystyried y Gymraeg fel rhan o broses y cynllun datblygu. Mae'r NCT yn rhoi cyngor ar ymgorffori'r Gymraeg mewn cynlluniau datblygu trwy'r AoG a'r ymagwedd bolisi at hap-ddatblygiadau a ragwelir. I grynhoi, rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effeithiau tebygol eu cynlluniau datblygu fel rhan o broses yr AoG a chynnwys datganiad yn y Cynllun Adneuo am sut y cafodd hyn ei ystyried a/neu yr eir i'r afael ag ef yn y cynllun datblygu. Proses yr AoG yw'r mecanwaith ar gyfer ystyried sut mae maint a lleoliad twf, y weledigaeth, yr amcanion, y polisïau a'r cynigion yn unigol ac ar y cyd, yn effeithio ar y Gymraeg. Lle mae tystiolaeth yn dangos effaith andwyol ar y defnydd o'r Gymraeg, gall yr ACLl asesu a ddylid diwygio'r strategaeth neu a ddylid nodi mesurau lliniaru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

1.18 Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi'r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru, gan adlewyrchu'r diffiniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLlCD).

1.19 "Mae datblygu cynaliadwy yn golygu'r broses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni'r nodau lles."

1.20 Mae DLlCD yn gosod saith nod lles y mae'n ofynnol i bob corff cyhoeddus eu cyflawni:

  • Cymru lewyrchus.
  • Cymru gydnerth.
  • Cymru iachach.
  • Cymru fwy cyfartal.
  • Cymru o gymunedau cydlynus.
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
  • Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

1.21 Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi pum dull o weithio y mae angen i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi'u cyflawni wrth ymgymryd â'u dyletswydd i sicrhau datblygu cynaliadwy. Y pum dull o weithio yw cyfranogiad, cydweithio, integreiddio, atal a ffactorau hirdymor. Gellir defnyddio'r nodau lles a'r pum ffordd o weithio i lywio a strwythuro fframwaith yr ACI (gweler Atodiad A).

1.22 Gan ychwanegu at hyn, mae Pennod 2.9 o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi mai'r "ffordd fwyaf priodol o weithredu'r gofynion hyn drwy'r system gynllunio yw mabwysiadu dull creu lleoedd o lunio cynlluniau, polisi cynllunio a gwneud penderfyniadau".

1.23 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'r egwyddorion cynllunio allweddol canlynol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy a chreu lleoedd:

  • Tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy.
  • Gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
  • Hwyluso amgylcheddau hygyrch ac iach.
  • Creu a chynnal cymunedau.
  • Sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu cymaint â phosibl a chyfyngu ar effaith amgylcheddol.

Ymagwedd at gwmpasu ar gyfer yr ACI

1.24 Mae datblygu'r cwmpas drafft wedi golygu'r camau canlynol:

  • Archwilio'r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar gyfer yr ACI, h.y. adolygu negeseuon lefel uchel (e.e. gan adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth yn benodol) gyda'r nod o gael dealltwriaeth o'r hyn y mae angen i'r ACI ganolbwyntio arno'n fras. Ystyrir bod dogfennau polisi cenedlaethol yn ymdrin yn ddigonol â chyd-destun polisi lefel uwch (rhyngwladol).
  • Pennu'r llinell sylfaen ar gyfer yr ACI, h.y. y sefyllfa bresennol a'r sefyllfa bosibl yn yr ardal yn absenoldeb y CDLl newydd, er mwyn helpu i nodi effeithiau sylweddol tebygol y cynllun.
  • Nodi problemau neu gyfleoedd penodol ('materion') a ddylai fod yn ffocws penodol i'r ACI; a
  • Datblygu Fframwaith ACI sy'n cynnwys amcanion a chwestiynau asesu ar sail y materion hyn y gellir wedyn eu defnyddio i asesu'r CDLlN ac ystyried dewisiadau amgen.

Strwythur yr adroddiad hwn

1.25 Mae canlyniadau'r elfennau cwmpasu a nodwyd uchod wedi'u cyflwyno dan gyfres o themâu ACI, fel a ganlyn:

  • Economi a chyflogaeth.
  • Poblogaeth a chymunedau.
  • Iechyd a lles.
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Newid yn yr hinsawdd (lliniaru ac addasu).
  • Cludiant a symudiad.
  • Adnoddau naturiol (aer, tir, mwynau a dŵr).
  • Bioamrywiaeth a geoamrywiaeth.
  • Amgylchedd hanesyddol.
  • Y dirwedd.

1.26 Mae'r themâu ACI a ddewiswyd yn ymgorffori'r 'pynciau AAS' a awgrymir gan Atodlen 2 i'r Rheoliadau AAS[3] yn ogystal ag integreiddio ystyriaethau AEG, AEI ac ystyriaethau'r Gymraeg yn llawn (gan gynnwys polisïau a strategaethau perthnasol y Cyngor), ac adlewyrchu'r saith nod lles a grybwyllir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

1.27 Bwriedir cyflwyno'r wybodaeth gwmpasu o dan y themâu hyn er mwyn helpu i alluogi'r darllenwyr ddod o hyd i'r wybodaeth sydd o'r diddordeb mwyaf iddynt yn hawdd. Unwaith y cytunir arno (h.y. yn dilyn yr ymgynghoriad presennol), bydd y cwmpas awgrymedig a gyflwynir o dan ddeg thema yn rhoi 'fframwaith' methodolegol ar gyfer asesu'r CDLl newydd drafft a dewisiadau amgen. Cyflwynir y drafodaeth am yr wybodaeth gwmpasu o dan bob thema ISA ym Mhenodau 2 i 11.


[1] 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg 2011-2026 Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (2021)

[2] Llywodraeth Cymru (2020): 'Cymru fwy cyfartal: papur gwyn cryfhau partneriaeth gymdeithasol', ar gael [ar-lein] i'w weld trwy'r ddolen hon

[3] Mae'r Rheoliadau AAS 'o natur weithdrefnol' (paragraff 9 o ragymadrodd y Gyfarwyddeb) ac nid ydynt yn bwriadu rhagnodi materion penodol a ddylai fod yn ffocws ac na ddylent fod yn ffocws, y tu hwnt i ofyn am ffocws ar 'yr amgylchedd, gan gynnwys ar faterion fel bioamrywiaeth, poblogaeth, iechyd pobl, planhigion, anifeiliaid, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, treftadaeth ddiwylliannol gan gynnwys treftadaeth bensaernïol ac archeolegol, tirwedd a'r gydberthynas rhwng y ffactorau uchod' [ein pwyslais ni]

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig