1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Yn dod i ben ar 11 Mawrth 2026 (41 diwrnod ar ôl)

6 FFRAMWAITH POLISI

6.1Mae'r bennod ganlynol yn amlinellu fframwaith polisi Cynllun Adneuo’r CDLlN, sy'n cynnwys Polisïau Strategol (gyda rhagddodiad SP) a Pholisïau Rheoli Datblygu (gyda rhagddodiad thematig). Cyhoeddwyd y Polisïau Strategol fel rhan o Strategaeth a Ffefrir y CDLlN ond maent wedi'u mireinio mewn ymateb i adborth y cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'r polisïau hyn yn ceisio cyflawni'r strategaeth a gwireddu Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun.

6.2Mae'r Polisïau Strategol yn cael eu cefnogi gan gyfres o Bolisïau Rheoli Datblygu mwy manwl, sy'n ceisio llywio cynigion datblygu tuag at ganlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol, wrth leihau effeithiau negyddol. Maent yn cynnwys polisïau sy'n dyrannu tir at ddefnyddiau penodol, gyda'r dyraniadau hyn hefyd yn cael eu nodi ar Fap Cynigion y CDLlN yn ogystal â pholisïau i warchod tir. Mae'r polisïau yn gysylltiedig a dylid eu hystyried gyda'i gilydd i ddeall cyfeiriad y CDLlN yn llawn.

6.3Mae'r polisïau wedi'u trefnu yn ôl pedair thema Polisi Cynllunio Cymru:

  • Dewisiadau Strategol a Gofodol
  • Lleoedd Actif a Chymdeithasol
  • Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus
  • Lleoedd Unigryw a Naturiol

DEWISIADAU STRATEGOL A GOFODOL (DSG)

STRATEGAETH OFODOL

SP1 – STRATEGAETH TWF CYNALIADWY Sylw

Er mwyn cyflawni'r Strategaeth Twf Cynaliadwy ar gyfer Bro Morgannwg rhwng 2021 a 2036, bydd y Cynllun yn darparu ar gyfer y canlynol:

Tai

Darparu 7,890 o anheddau erbyn 2036, gan gynnwys o leiaf 3,070 o gartrefi fforddiadwy. Bydd prif ffocws twf tai yn y Fro o fewn yr Ardal Twf Strategol fel y'i nodir ar y Diagram Allweddol. Bydd datblygiadau tai newydd yn cael eu crynhoi yn y lleoliadau canlynol, sy'n cael eu gwasanaethu gan lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus presennol ac sy'n rhoi cyfle i wella cysylltedd trafnidiaeth gynalia:

  • Y Barri
  • Penarth
  • Llanilltud Fawr
  • Y Bont-faen
  • Dinas Powys
  • Y Rhws
  • Sain Tathan
  • Llandochau
  • Sili

Y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, bydd dyrannu safleoedd newydd yn cael eu cyfyngu i safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy ar raddfa fach mewn Prif Aneddiadau ac Aneddiadau Gwledig Bach priodol.

Cyflogaeth

Safleoedd cyflogaeth i gyflawni'r gofyniad tir cyflogaeth a nodwyd o 67.8ha a darparu hyd at 5,388 o swyddi. Bydd datblygiad cyflogaeth newydd yn canolbwyntio ar Safleoedd Cyflogaeth Mawr a Lleol ac Ardaloedd Cyfleoedd Adfywio Cyflogaeth fel y nodir ar y Diagram Allweddol.

Seilwaith

Bydd seilwaith ychwanegol yn cael ei nodi i gefnogi graddfa'r twf lle bo angen.

6.4Mae Polisi SP1 yn nodi'r fframwaith gofodol ar gyfer cyflawni'r lefelau a nodwyd o ran twf tai a chyflogaeth hyd at 2036 fel y nodir yn y Strategaeth Twf Cynaliadwy.

SP2 – HIERARCHAETH ANEDDIADAU Sylw

Bydd dosbarthiad eang datblygiad o fewn yr Ardal Twf Strategol yn cael ei siapio gan yr hierarchaeth aneddiadau ganlynol, gan adlewyrchu rôl a swyddogaeth lleoedd, ac yn cyfeirio twf at leoliadau a fydd yn darparu'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer darparu tai i ddiwallu anghenion fforddiadwy, seilwaith cymunedol a gwell darpariaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

Hierarchaeth Aneddiadau’r Ardal Twf Strategol:

Anheddiad Allweddol: Y Barri.

Bydd y Barri yn parhau i fod yn ganolbwynt datblygiad ym Mro Morgannwg yn y dyfodol. Fel y dref fwyaf yn y Fro, bydd twf yn y dyfodol yn cefnogi ei rôl fel y brif dref weinyddol sy'n darparu cysylltedd trafnidiaeth da, gwasanaethau, cyflogaeth a manwerthu a hamdden i'w thrigolion a'r ardal ehangach.

Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth: Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth.

Mae'r rhain yn aneddiadau pwysig sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau. Yn gwasanaethu anghenion dyddiol eu trigolion, maent hefyd yn gweithredu fel hybiau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau llai cyfagos. Bydd twf yn y dyfodol yn cefnogi'r rôl hon lle bydd lefel y datblygiad yn diwallu anghenion lleol yr ardal.

Prif Aneddiadau: Y Rhws, Sain Tathan, Sili, Llandochau (Penarth), Dinas Powys.

Bydd datblygiad o fewn yr aneddiadau hyn yn adlewyrchu'r rôl ategol sydd ganddynt mewn perthynas â'r Aneddiadau Allweddol a’r Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth, cysylltedd trafnidiaeth a meysydd cyflogaeth.

Ardaloedd y Tu Allan i'r Ardal Twf Strategol:

Prif Aneddiadau: Gwenfô, Y Wig, Croes Cwrlwys

Aneddiadau Gwledig Bach: Aberddawan, Aberogwr, Aberthin, Corntwn, Craig Pen-llin, Ewenni, Fferm Goch, Llanbedr-y-Fro, Llancarfan, Llandŵ, Llan-faes, Llyswyrny, Pendeulwyn, Pen-llin, Sain Nicolas, Saint-y-brid, Tregolwyn, Tre-os, Tresigin, Tresimwn, Ystradowen.

Bydd cymeriad yr aneddiadau, gan gynnwys eu perthynas â’r cefn gwlad cyfagos a'u lleoliad ynddo, yn cael ei warchod a lle bo hynny'n bosibl yn cael ei wella. Bydd datblygiad yn y Prif Aneddiadau sydd y tu allan i'r Ardal Twf Strategol yn ogystal â'r Aneddiadau Gwledig Bach a nodwyd yn cael eu cyfyngu i ddefnydd effeithlon a chynaliadwy o adeiladau presennol, cyfleoedd mewnlenwi, cynlluniau a arweinir gan dai fforddiadwy ar raddfa fach, a datblygiadau cysylltiedig â menter wledig / amaethyddiaeth.

At ddibenion y polisi hwn, diffinnir datblygiadau a arweinir gan dai fforddiadwy ar raddfa fach fel datblygiadau sy’n darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy ar safleoedd â hyd at 25 o anheddau mewn Aneddiadau Gwledig Bach neu â hyd at 50 o anheddau mewn Prif Aneddiadau. Bydd disgwyl i'r math, graddfa a chymysgedd o dai fforddiadwy adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys tai arbenigol i bobl hŷn. Ni fydd cynigion nad ydynt yn bodloni'r isafswm darpariaeth tai fforddiadwy o 50% yn cael eu cefnogi.

Bydd yr holl aneddiadau a restrir yn yr hierarchaethau, o fewn a thu allan i'r Ardal Twf Strategol, yn cael ffin anheddiad. Mae pob ardal arall, gan gynnwys pentrefi a phentrefannau gwledig llai, y tu allan i'r ffiniau anheddiad diffiniedig hyn yn cael eu hystyried fel 'cefn gwlad' oni bai eu bod wedi'u nodi'n benodol ar gyfer defnyddiau eraill yn y cynllun.

6.5Er mwyn sicrhau bod datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy sydd â'r mynediad gorau at amrywiaeth eang o wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth, wrth leihau'r angen i deithio, mae dosbarthiad twf yn cael ei arwain gan hierarchaeth aneddiadau o'r trefi a'r pentrefi ym Mro Morgannwg. Wrth sefydlu'r Hierarchaeth Aneddiadau, mae sefyllfa pob anheddiad o fewn yr hierarchaeth wedi'i llywio gan asesiad o faint y boblogaeth, cysylltedd anheddiad, ac argaeledd cyflogaeth a gwasanaethau a chyfleusterau eraill fel y manylir yn BP5 Adolygiad Arfarnu Aneddiadau.

6.6Mae'r hierarchaeth aneddiadau a nodir ym Mholisi SP2 yn adlewyrchu rolau a swyddogaethau pob anheddiad a'r berthynas rhwng aneddiadau o fewn strategaeth ofodol gyffredinol y CDLlN.

Aneddiadau’r Ardal Twf Strategol

6.7Mae'r Strategaeth yn cyfeirio twf i'r Aneddiadau Allweddol, yr Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth a'r Prif Aneddiadau sydd wedi'u lleoli yn yr Ardal Twf Strategol. Yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio cynaliadwy, cefnogi darpariaeth gwasanaethau lleol, ac annog defnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, bydd twf yn y dyfodol hefyd yn adlewyrchu eu rolau a'u nodweddion priodol yn ogystal â'u cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol perthnasol.

Anheddiad Allweddol

6.8Bydd Anheddiad Allweddol y Barri yn parhau i fod yn hyb pwysig ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a chaiff ei gydnabod yn y Strategaeth fel y lleoliad mwyaf cynaliadwy er mwyn canolbwyntio cyfleoedd datblygu mawr newydd. Mae'r Barri wedi profi twf mawr, gan gynnwys ailddatblygiad defnydd cymysg Glannau'r Barri. Mae cyfleoedd ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau yn parhau o fewn ardal ehangach Glannau'r Barri ar sawl safle llai. Er mwyn diwallu'r angen sylweddol am dai fforddiadwy ac i ymateb i sefyllfa'r Barri fel Anheddiad Allweddol, mae angen nodi tai ychwanegol yn y dref gyda chefnogaeth amrywiaeth o ddefnyddiau ategol eraill.

Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth

6.9Mae’r Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth, sef y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr, i gyd yn wahanol o ran cymeriad ond maent yn cyflawni rolau tebyg. Er enghraifft, maent i gyd yn gartref i boblogaethau preswyl sylweddol, mae ganddynt ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus dda, cyfleoedd cyflogaeth lleol a chanol tref sefydledig, ac amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol, addysgol a chymunedol. Mae Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth yn gwasanaethu anghenion dyddiol eu trigolion ac yn gweithredu fel hybiau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau bach cyfagos. Felly, mae'r strategaeth yn rhagweld y bydd yr aneddiadau hyn hefyd yn gweithredu fel canolbwyntiau ar gyfer twf ym Mro Morgannwg dros gyfnod y Cynllun.

Prif Aneddiadau

6.10Diffinnir Dinas Powys, Llandochau (Penarth) a Sili fel Prif Aneddiadau ac maent yn darparu rôl ategol i'r Aneddiadau Allweddol a’r Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth gan eu bod yn darparu ar gyfer anghenion trigolion. Maent yn cynnwys nifer o wasanaethau a chyfleusterau allweddol, sy'n hanfodol i'w rôl fel cymunedau cynaliadwy, ac maent yn cael eu gwasanaethu'n dda gan wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys ysgolion cynradd, siopau cyfleustra bach, siopau bwyd a diod a chyfleoedd cyflogaeth.

6.11Mae Sain Tathan a’r Rhws yn lleoliadau allweddol ar gyfer twf cyflogaeth yn yr Ardal Twf Strategol. Mae'r ddau anheddiad wedi'u nodi fel Prif Aneddiadau, sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael. Byddai twf yn y dyfodol o fewn yr aneddiadau hyn yn cyd-fynd â'u rolau o fewn yr ardal twf rhanbarthol ehangach oherwydd eu bod yn agos i Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan a chynllun arfaethedig Parc Ynni Gwyrdd Aberddawan, yn ogystal â chynigion cysylltedd trafnidiaeth y presennol a’r dyfodol.

Aneddiadau y Tu Allan i'r Ardal Twf Strategol: Y Wig, Gwenfô a Chroes Cwrlwys

6.12Mae aneddiadau’r Wig, Gwenfô a Chroes Cwrlwys wedi'u nodi fel Prif Aneddiadau fel rhan o'r Adolygiad Arfarnu Aneddiadau gan fod eu maint a'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael ynddynt yn gymesur â Phrif Aneddiadau eraill ar raddfa debyg. Fodd bynnag, nid yw'r aneddiadau penodol hyn wedi'u cynnwys yn bwrpasol yn yr Ardal Twf Strategol gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn lleoliadau lle byddai twf ychwanegol sylweddol yn briodol.

6.13Yn achos y Wig a Gwenfô, er bod eu rôl yn fwy cyfyngedig ac yn cael ei hadlewyrchu yn eu lefel o wasanaethau a hygyrchedd, maent yn cynnwys gwasanaethau ac amwynderau lleol sy'n gwasanaethu'r ardal ehangach megis darpariaeth ysgolion cynradd, felly mae'r aneddiadau hyn yn cyflawni swyddogaeth debyg i'r Prif Aneddiadau sydd wedi'u lleoli o fewn yr Ardal Twf Strategol.

6.14Mewn perthynas â Chroes Cwrlwys, er ei fod wedi'i nodi o fewn yr hierarchaeth fel Prif Anheddiad, mae hyn yn bennaf o ganlyniad i ailddatblygu'r hen stiwdios ITV ar gyfer tai, sydd yn anochel wedi arwain at gynnydd yn ei rôl breswyl. Fodd bynnag, yn wahanol i aneddiadau eraill, mae nifer y gwasanaethau sydd ar gael yn gysylltiedig yn bennaf â'r manwerthu y tu allan i'r dref yng Nghroes Cwrlwys ac mae gan yr anheddiad ei hun ddiffyg cyfleusterau cymunedol fel ysgolion, neuaddau cymunedol a chyfleusterau gofal iechyd. Yn hyn o beth, er bod dynodi Croes Cwrlwys fel Prif Anheddiad yn cael ei gyfiawnhau yn unol â methodoleg yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau gan ei fod yn sgorio'n dda yn yr asesiad oherwydd ei agosrwydd at y parc manwerthu y tu allan i'r dref a gwasanaethau bws rheolaidd, mae ei rôl a'i swyddogaeth yn wahanol. O ganlyniad, byddai datblygiad preswyl pellach yng Nghroes Cwrlwys yn gofyn i drigolion deithio i aneddiadau eraill ar gyfer llawer o amwynderau sylfaenol.

6.15Mae'r papur Opsiynau Gofodol yn nodi bod cyfleoedd datblygu yng Nghroes Cwrlwys a Gwenfô yn cael eu cyfyngu'n sylweddol gan bresenoldeb tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (GMA) ar gyrion y ddau anheddiad.

Aneddiadau Gwledig Bach

6.16Mae Aneddiadau Gwledig Bach y Fro wedi'u lleoli y tu allan i'r Ardal Twf Strategol. Mae'r mathau o wasanaethau a chyfleusterau sydd i’w cael fel arfer yn yr aneddiadau llai hyn yn cynnwys addoldai, neuaddau cymunedol, defnyddiau manwerthu ar raddfa fach a chyfleusterau hamdden ffurfiol. Mae nifer o'r aneddiadau gwledig llai fel Tregolwyn, Sain Nicolas a Fferm Goch yn cynnwys ysgolion cynradd sy'n gwasanaethu dalgylch ehangach, tra bod eraill hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol ar raddfa fach, naill ai o fewn yr aneddiadau neu gerllaw iddynt. Oherwydd y cysylltiadau swyddogaethol hyn rhwng aneddiadau gwledig, mae'n hanfodol sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau presennol yn cael eu diogelu, eu cefnogi neu eu gwella lle bo hynny'n briodol.

6.17Er gwaethaf hyn, mae'n hanfodol i'r CDLlN gydbwyso'r twf mewn ffordd sy'n cefnogi anghenion cymunedau gwledig gydag amcanion cynaliadwyedd ehangach y cynllun, yn enwedig o ran ei gyfraniad tuag at gwrdd â'r heriau a achosir gan newid hinsawdd. O ganlyniad, mae Polisi SP2 yn nodi'r aneddiadau hynny yr ystyrir bod ganddynt ddigon o boblogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau i ddarparu ar gyfer twf ar raddfa fach heb iddo gael effaith niweidiol ar eu cymeriad presennol a'u hamgylchedd lleol.

6.18Yn unol â pholisi cenedlaethol, o fewn yr aneddiadau hyn, bydd tai marchnad cyffredinol yn cael eu cyfyngu i gyfleoedd o fewn y ffiniau anheddiad diffiniedig, gan gynnwys datblygiad mewnlenwi ac addasu adeiladau presennol.

Safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy y tu allan i'r Ardal Twf Strategol

6.19Mae dyraniadau tai fforddiadwy ar raddfa fach (hyd at 25 o anheddau mewn Aneddiadau Gwledig Bach a hyd at 50 o anheddau mewn Prif Aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol) wedi'u gwneud lle bydd angen o leiaf 50% o dai fforddiadwy. Mae'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu o dan Bolisi HG4 ac maent wedi'u cynnwys o fewn y ffin anheddiad. Bydd galluogi elfen o dai marchnad agored mewn pentrefi gwledig yn hwyluso darparu tai fforddiadwy lle na fyddai fel arall yn hyfyw darparu cartrefi newydd a bydd yn cyfrannu at ddarparu cymunedau cymysg. Fodd bynnag, yn hyn o beth, ni chaniateir cynigion nad ydynt yn gallu darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy.

6.20O ystyried cymeriad amrywiol y pentrefi gwledig a nodwyd ym Mholisi SP2, wrth ystyried graddfa'r angen am dai fforddiadwy a gynigir, bydd y Cyngor yn ystyried addasrwydd y cynnig mewn perthynas â gwasanaethau a chyfleusterau presennol, argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus a'r effaith y byddai'r cynnig yn ei chael ar gymeriad a lleoliad y pentref. Yn hyn o beth, dylai cynigion gael eu harwain gan yr egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4, yn hytrach nag awydd i ddarparu uchafswm nifer yr anheddau a nodir yn y polisi.

6.21Yn unol â'r polisi cynllunio cenedlaethol, mae ffiniau anheddiad wedi'u llunio o amgylch pob un o'r trefi a'r pentrefi yn hierarchaeth aneddiadau y CDLlN i nodi maint y datblygiad adeiledig. Mae'r rhain wedi'u diffinio'n glir ar y Map Cynigion. Mae ffiniau anheddiad yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni datblygu cynaliadwy trwy annog datblygiad o fewn yr aneddiadau cynaliadwy a nodwyd yn Hierarchaeth y CDLl. Maent hefyd yn helpu i warchod y cefn gwlad cyfagos rhag datblygiad amhriodol ac felly'n helpu i gefnogi ac atgyfnerthu'r gwaith o gyflawni amcanion a strategaeth y Cynllun ac yn darparu mecanwaith polisi allweddol ar gyfer rheoli twf ym Mro Morgannwg.

DATBLYGU YNG NGHEFN GWLAD

SP3 – DATBLYGU YNG NGHEFN GWLAD Sylw

Bydd ardaloedd y tu allan i ffiniau anheddiad nad ydynt wedi'u dyrannu neu eu gwarchod ar gyfer defnydd penodol yn cael eu diffinio fel cefn gwlad. Mewn lleoliadau cefn gwlad, dim ond ar gyfer y defnyddiau canlynol y caniateir datblygu:

  1. Datblygu sy'n gysylltiedig ag Amaethyddiaeth neu Goedwigaeth;
  2. Safleoedd ag Eithriadau Tai Fforddiadwy (Polisi HG5);
  3. Llety Sipsiwn a Theithwyr (Polisi GT1);
  4. Twristiaeth a hamdden sy'n addas mewn lleoliadau cefn gwlad (Polisi SP15);
  5. Arallgyfeirio Gwledig a defnyddiau cyflogaeth ar raddfa fach sy'n addas ar gyfer lleoliadau gwledig (Polisi EMP6);
  6. Trawsnewid ac adnewyddu adeiladau gwledig presennol (Polisi HG8);
  7. Ailddatblygu neu ymestyn anheddau presennol (Polisi HG9);
  8. Cynhyrchiant carbon isel ac ynni adnewyddadwy (Polisi CC4);
  9. Tynnu a gweithio mwynau (Polisïau MIN4);
  10. Darparu cyfleusterau rheoli gwastraff (Polisi WA1); neu
  11. Seilwaith hanfodol a darpariaeth cyfleustodau lle mae angen lleoliad cefn gwlad.

6.22Mae'r Strategaeth Twf Gofodol yn ceisio canolbwyntio datblygiad o fewn ffiniau anheddiad presennol ac ar safleoedd sydd wedi'u dyrannu neu eu gwarchod ar gyfer defnyddiau penodol, gan leihau'r angen i adeiladu yng nghefn gwlad agored. Serch hynny, mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi cefn gwlad byw a bywiog, darparu ar gyfer cyflogaeth leol, cefnogi ffermio a busnesau gwledig, galluogi darparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol a darparu ar gyfer defnyddiau na ellir eu lleoli o fewn anheddiad diffiniedig.

6.23Mae Polisi SP3 yn nodi'r fframwaith polisi ar gyfer rheoli datblygu yng nghefn gwlad. At ddibenion y CDLlN, diffinnir 'cefn gwlad' fel tir y tu allan i ffiniau anheddiad diffiniedig y prif drefi a phentrefi a nodir yn hierarchaeth aneddiadau’r CDLl nad ydyw wedi'i ddatblygu at ddefnydd cyflogaeth neu wedi'i ddyrannu i'w ddatblygu yn y Cynllun.

6.24Mae'r fframwaith hwn yn darparu'r cydbwysedd rhwng diogelu a gwarchod cymeriad cynhenid ardaloedd gwledig Bro Morgannwg, wrth alluogi datblygiad newydd sy'n cael ei ystyried yn briodol ar gyfer lleoliad gwledig. Bydd angen cyfiawnhad ar gynigion datblygu nad ydynt o fewn y categorïau a restrir ym Mholisi SP3 i nodi pam na ellir eu lleoli o fewn anheddiad diffiniedig.

FFINIAU ANHEDDIAD

SSC1 - DATBLYGU O FEWN FFINIAU ANHEDDIAD Sylw Gweld map Settlement Boundary / Ffiniau Anheddiad

Mae ffiniau anheddiad wedi'u diffinio o amgylch yr aneddiadau hynny a nodwyd o fewn hierarchaeth aneddiadau y CDLl fel y manylir yn y Polisi SP2. Caniateir cynigion ar gyfer datblygiad newydd o fewn y ffiniau anheddiad diffiniedig hyn pan fodlonir y meini prawf canlynol:

  1. Mae'r cynnig ar raddfa sy'n briodol i faint yr anheddiad ac yn cyd-fynd â'i rôl a'i swyddogaeth;
  2. Mae'n gydnaws â chynllun, dwysedd a golwg yr anheddiad presennol o ran maint, ffurf a'i leoliad uniongyrchol a'r amgylchedd ehangach;
  3. Dangosir bod y cynnig yn darparu cyfleoedd ar gyfer dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, gan gynnwys darpariaeth Teithio Llesol sy’n ddiogel, cyfleus a hygyrch;
  4. Ni fyddai’n niweidio’r gwaith o ddarparu safle datblygu a ddyrannwyd;
  5. Byddai'n gwneud defnydd effeithlon o dir neu adeiladau presennol;
  6. Byddai'n blaenoriaethu'r defnydd o dir a ddatblygwyd yn flaenorol neu dir nas defnyddir yn ddigonol lle bo hynny'n bosibl;
  7. Ni fyddai'n arwain at golli swm annerbyniol o fannau agored cyhoeddus, neu adeiladau/cyfleusterau cymunedol neu dwristiaeth;
  8. Ni fyddai'n arwain at golli nodweddion naturiol neu adeiledig sy'n cyfrannu'n unigol neu'n gronnol at gymeriad yr anheddiad neu ei leoliad;
  9. Ni fyddai'n effeithio'n annerbyniol ar amwynder a chymeriad yr ardal o ganlyniad i sŵn, llygredd, tagfeydd traffig a pharcio,
  10. Mae'r cynnig yn elwa o'r ddarpariaeth seilwaith bresennol neu, lle bo angen, yn gwneud darpariaeth ar gyfer seilwaith newydd heb unrhyw effaith annerbyniol ar yr amgylchedd naturiol neu adeiledig.

6.25Mae ffiniau anheddiad wedi'u llunio o amgylch yr Aneddiadau Allweddol, yr Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth, y Prif Aneddiadau a’r Aneddiadau Gwledig Bach ym Mro Morgannwg a nodwyd yn hierarchaeth y CDLlN (Polisi SP2). Mae ffiniau anheddiad yn diffinio'r ardaloedd lle byddai'r egwyddor o ddatblygu fel arfer yn dderbyniol, gan annog defnyddio ac ailddatblygu tir ac adeiladau yn effeithlon ac atal lledaeniad datblygiadau newydd yng nghefn gwlad agored.

6.26Roedd ffiniau anheddiad yn diffinio maint y datblygiad adeiledig lle byddai datblygu fel arfer yn cael ei ganiatáu, ac ardaloedd o gefn gwlad ac ardaloedd o adeiladau mwy gwasgaredig, sy'n cael eu hystyried yn llai addas ar gyfer datblygiad newydd, a lle bydd dull mwy cyfyngol yn cael ei gymhwyso. At ddibenion y cynllun, diffinnir ardaloedd y tu allan i'r ffiniau diffiniedig nad ydynt wedi'u dyrannu neu eu gwarchod ar gyfer defnyddiau penodol fel 'cefn gwlad', lle bydd dull mwy cyfyngol yn cael ei gymhwyso, a bydd datblygiad yn cael ei gyfyngu i gynigion sy'n cael eu hystyried yn addas ar gyfer lleoliad cefn gwlad, neu lle mae lleoliad cefn gwlad yn hanfodol at ddibenion gweithredol. Mae'r rhain wedi'u nodi ym Mholisi SP3.

6.27Er mwyn sicrhau bod datblygiad newydd o fewn ffiniau anheddiad yn cael ei integreiddio'n llwyddiannus, bydd angen i gynigion ddangos eu bod yn ategu cynllun, graddfa, gwead, a golwg yr anheddiad presennol. Bydd hefyd yn bwysig sicrhau bod graddfa a nifer datblygiadau o'r fath yn gymesur â maint yr anheddiad, a'r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol sydd ar gael ar adeg y cais.

CREU LLEOEDD A DYLUNIO DA (CLlDD)

CREU LLEOEDD

SP4 - CREU LLEOEDD Sylw

Gall Creu Lleoedd llwyddiannus ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at ddatblygiad newydd. Bydd yn ofynnol i ddatblygiad ddilyn egwyddorion Creu Lleoedd trwy:

  1. Sicrhau dyluniad cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu hynodrwydd, cymeriad a hunaniaeth ddiwylliannol lleol;
  2. Blaenoriaethu penderfynyddion iechyd a lles yn ystod y broses ddylunio;
  3. Creu cymysgedd amrywiol o ddefnyddiau a gofodau aml-swyddogaethol;
  4. Cyfrannu at ardal gyhoeddus fywiog, ddiogel a chynhwysol sy'n annog Teithio Llesol, yn cefnogi defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ac yn lleihau dibyniaeth ar gar;
  5. Integreiddio rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a mannau agored yn strategol i ddatblygiad, gan gyflawni manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac ecolegol;
  6. Darparu amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaeth;
  7. Lleoli datblygiad yn briodol lle mae cartrefi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn hygyrch ac wedi'u cysylltu'n dda ac wedi'u hintegreiddio â chymunedau presennol;
  8. Datblygu dwysedd uchel lle bo hynny'n briodol, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir a chefnogi defnyddiau cymysg; a
  9. Gwarchod neu wella'r Amgylchedd Hanesyddol a'i leoliad.

Bydd angen Datganiadau Creu Lleoedd ar gyfer pob datblygiad mawr sy'n nodi sut mae'r cynnig yn cyd-fynd ag Egwyddorion Creu Lleoedd. Yn nhrefi’r Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, dylai Datganiadau Creu Lleoedd hefyd ystyried y Cynlluniau Creu Lleoedd a fabwysiadwyd ar gyfer yr ardal.

6.28Mae creu lleoedd yn gonglfaen i'r agenda gynllunio genedlaethol yng Nghymru a'r amcanion datblygu cynaliadwy sy'n sail iddi. Mae creu lleoedd yn ymwneud â llunio lleoedd o safon sydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr trwy ymagwedd gyfannol at gynllunio, dylunio a rheoli datblygiad a gofodau. Mae'n broses sy'n ystyried cyd-destun, swyddogaeth a pherthnasoedd safle datblygu â'i amgylchoedd, gyda'r nod o greu lleoedd bywiog, cofiadwy a chymdeithasol.

6.29Diffiniad Comisiwn Dylunio Cymru o greu lleoedd yw: "sicrhau bod pob datblygiad neu ymyriad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau lle gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu ynddynt" (Canllaw Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru 2020). Mae'n gofyn am ymagwedd gyfannol at ddatblygu sy'n ystyried y lle cyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddefnyddiau tir unigol neu ddatblygiadau ar wahân i'w hamgylchoedd. Mae creu lleoedd yn cwmpasu'r amgylcheddau adeiledig a naturiol ac yn cynnwys ystyriaethau strategol ac ar lefel leol. Dylai datblygiadau newydd ymateb yn gadarnhaol i gymeriad lleol a chyfrannu'n ystyrlon at eu cyd-destun.

Egwyddorion Creu Lleoedd
Ffigur 11: Ffynhonnell Egwyddorion

Creu Lleoedd: Comisiwn Dylunio Cymru

6.30Mae Polisi Strategol SP4 Creu Lleoedd yn nodi'r ystyriaethau allweddol y mae'n rhaid i bob datblygiad newydd eu hystyried. Bydd gweithredu'r Egwyddorion Creu Lleoedd yn sicrhau’r lles gorau posibl trwy ddatblygu cynaliadwy sy'n hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol ac iach. Rhaid ystyried penderfynyddion iechyd a lles, fel y'u nodir o dan Bolisi SP5, hefyd fel blaenoriaeth o'r cam dylunio cynnar, a'u dangos yn glir gan gynigion datblygu. Dylai datblygiad newydd ymgorffori safonau dylunio o ansawdd uchel i sicrhau eu bod yn creu lleoedd deniadol gyda hunaniaeth leol unigryw ac ardal gyhoeddus fywiog sy'n cynnig hygyrchedd i bawb, gan ganolbwyntio ar hybiau o ddatblygiadau defnydd cymysg sy'n gysylltiedig ac yn cael eu gwasanaethu'n dda gan Deithio Llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

6.31Dylai datblygiad yn y Fro gyfrannu at greu lleoedd sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gwasanaethau a chyfleusterau, lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau. Dylai datblygiadau tai gynnig amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaeth i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion a bod mewn lleoliadau cynaliadwy lle mae mynediad at amrywiaeth o ddefnyddiau. Mae cymysgedd o ddefnyddiau yn helpu i greu lleoedd sy'n ddeniadol ac yn gynaliadwy; gan gynnig rhyngweithiadau cadarnhaol rhwng pobl, busnesau a'r amgylchedd, ac yn lleihau'r angen i deithio. Bydd datblygu i ddwysedd uchel, lle bo hynny'n briodol, yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o dir, yn gwneud y mwyaf o botensial datblygu, yn gwella cysylltedd ac yn annog Teithio Llesol.

6.32Mae mannau aml-swyddogaethol yn cynnwys mannau agored cyhoeddus, strydoedd neu adeiladau defnydd cymysg sy'n cynnig gofod diogel a chroesawgar i bobl ryngweithio, cymdeithasu, gweithio, ymarfer corff neu ymlacio. Dylid integreiddio Seilwaith Gwyrdd i ddatblygiadau i wella ansawdd gweledol, ychwanegu gwerth amwynder, annog gweithgarwch corfforol a rhyngweithio â natur yn ogystal â darparu manteision draenio cynaliadwy a bioamrywiaeth.

6.33Bydd datblygiad yn cael ei ffafrio lle mae cyfranogiad cymunedol ystyrlon wedi'i ddangos. Mae ymgysylltu â phobl leol lle gallant gyfrannu at gynigion datblygu yn werthfawr ar gyfer creu lleoedd gan ei fod yn creu ymdeimlad o berchnogaeth a pherthyn ymhlith cymunedau.

6.34Rhaid i gynigion datblygu mawr[6] gael eu cefnogi gan Ddatganiad Creu Lleoedd i ddangos yn glir sut y bydd cynigion ar gyfer datblygiad newydd yn cyflawni creu lleoedd. Dylai'r Datganiad Creu Lleoedd hwn fod yn rhan o'r Datganiad Dylunio a Mynediad a fydd yn ofyniad ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio mawr. Bydd Datganiadau Creu Lleoedd yn esbonio'r agweddau ar y datblygiad a'r mesurau a gymerir i sicrhau bod y cynnig yn cyd-fynd â'r Egwyddorion Creu Lleoedd. Dylid cynnwys tystiolaeth i ddangos sut mae pob Egwyddor Creu Lleoedd wedi'i bodloni.

6.35Mae Polisi SP4 hefyd yn cydnabod y rôl y gall Cynlluniau Creu Lleoedd ei chael wrth nodi blaenoriaethau a dyheadau cymunedau lleol. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd wedi'u paratoi ar gyfer trefi’r Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, a phan fo datblygiadau'n cael eu cynnig o fewn ardaloedd a gwmpesir gan y Cynlluniau Creu Lleoedd, dylid ystyried sut y gall cynigion datblygu gyfrannu at gyflawni eu hamcanion.

PGD1 - CREU LLEOEDD WEDI'U DYLUNIO'N DDA A CHYNHWYSOL Sylw

Rhaid i bob datblygiad gyflawni dylunio o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo lleoedd cynaliadwy iach a chynhwysol sy'n meithrin ymdeimlad cadarnhaol o le. Rhaid i ddatblygiad ddangos bod yr egwyddorion canlynol wedi'u hystyried:

  1. Creu amgylcheddau diogel, hygyrch, integredig, cynhwysol a gweithredol sy'n gwneud defnydd effeithlon o dir ac yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer Teithio Llesol, ac yn hyrwyddo dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy;
  2. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i leihau achosion salwch, gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy ddarparu amgylchedd byw iach sy'n cefnogi iechyd meddwl a chorfforol;
  3. Ymgorffori datrysiadau dylunio ac adeiladu cynaliadwy i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni a chyfrannu'n gadarnhaol tuag at wydnwch ac addasu i newid hinsawdd;
  4. Gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymeriad yr ardal, gan ymateb i'r cyd-destun a'r cymeriad lleol trwy ffurfiau adeiladu a graddfa; deunyddiau a nodweddion, cymysgedd o ddefnyddiau, tirwedd, dwysedd, a chysylltedd strydoedd a mannau i greu a/neu wella dyluniad a chymeriad sy’n nodedig yn lleol;
  5. Darparu mannau agored gwyrdd aml-swyddogaethol o ansawdd uchel a all ddarparu dewis ac amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwarae, sydd hefyd yn darparu gwell bioamrywiaeth, yn lliniaru llifogydd ac wedi'u dylunio i fod yn wydn i newid hinsawdd ac yn addasadwy dros amser;
  6. Dangos y gellir lletya, datrys neu liniaru symudiadau traffig i'r datblygiad ac oddi yno i raddau derbyniol, a lle darperir mannau parcio ceir, rhaid eu hintegreiddio'n sensitif i'r datblygiad fel nad ydynt yn dominyddu cynllun y datblygiad;
  7. Sicrhau nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol ar amwynder cyhoeddus a phreswyl, yn enwedig o ran preifatrwydd, goruchafiaeth, diogelwch, sŵn ac aflonyddwch;
  8. Sicrhau bod mannau agored cyhoeddus, mannau amwynder preifat a mannau parcio beiciau a cheir yn unol â safonau'r Cyngor;
  9. Darparu cyfleusterau a mannau wedi'u lleoli a’u dylunio'n briodol ar gyfer casglu, compostio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff.

6.36Dylai dylunio da greu lleoedd gwahanol sydd wedi'u dylunio o amgylch pobl, ac mae hynny'n creu amrywiaeth a dewis. Mae ganddo rôl sylfaenol wrth gyflawni datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, lliniaru effeithiau newid hinsawdd, helpu i greu economïau ffyniannus a chymunedau lleol amrywiol, bywiog a chynhwysol.

6.37Mae Polisi PGD1 yn nodi’r egwyddorion allweddol y dylai datblygwyr eu hystyried o ran dyluniad, amwynderau a hygyrchedd a fydd yn cyfrannu ar y cyd at amgylcheddau deniadol, diogel a hygyrch. Nod cyffredinol y polisi yw sicrhau bod datblygiad newydd ar bob graddfa yn cyfrannu'n gadarnhaol tuag at gymeriad lleol.

6.38Dylai datblygiadau preswyl a masnachol newydd hefyd geisio creu lleoedd o ansawdd uchel o ran eu hardaloedd cyhoeddus, lle mae parcio a gwasanaethu yn anymwthgar, a lle mae'r pwyslais ar wynebau strydoedd gweithredol sy'n creu lleoedd diogel a chroesawgar. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i gynigion datblygu newydd ystyried yn llawn y cyd-destun a'r cymeriad y mae'r cynnig datblygu wedi'i leoli ynddo i sicrhau ei fod yn cyfrannu'n gadarnhaol i'r lleoliad lleol gan gynnwys golygfeydd pwysig, ac sydd o raddfa, dwysedd a dyluniad priodol ar gyfer y lleoliad arfaethedig ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd lleol. Bydd darparu llwybrau diogel a chyfleus ar gyfer cerdded a beicio yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau iechyd sy'n gysylltiedig â ffactorau anweithgarwch corfforol ac allgáu cymdeithasol sy'n deillio o ddibyniaeth ar gar, mynediad gwael at wasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus.

6.39Dylai datblygwyr hefyd archwilio cyfleoedd ar gyfer ymgorffori mannau a nodweddion ffurfiol ac anffurfiol sy'n hwyluso chwarae plant, gan gynnwys "chwarae stryd" trwy, er enghraifft, mesurau arafu traffig gwell fel arwynebau a rennir a pharthau cartrefi sy'n darparu amgylcheddau gwell i gerddwyr a beiciau.

6.40Mae'r Cyngor yn annog ymgeiswyr i geisio lleihau effeithiau andwyol ar iechyd ac anghydraddoldeb iechyd, ac i hyrwyddo iechyd a lles i bawb. Anogir cwmpasu effeithiau posibl yn gynnar yn y broses gynllunio a dylunio a bydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddatblygiad gyflawni amcanion y polisi hwn mewn ffordd effeithiol. Dylai ceisiadau cynllunio fynd i'r afael ag effaith y datblygiad arfaethedig ar iechyd a lles a dangos sut y byddai'r datblygiad yn cyfrannu at leihau achosion salwch, gwella iechyd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'r Cyngor wedi paratoi Canllaw Cynllunio Atodol ar Greu Lleoedd Iach sy'n rhoi arweiniad ar arfer gorau ynghylch sut i ymgorffori mesurau a all gyfrannu tuag at iechyd a lles.

6.41Bydd darparu nodweddion neu ddefnydd ar y cyd o gyfleusterau cymunedol ar gyfer anghenion gofal iechyd sy'n galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn y gymuned leol yn cael eu ffafrio lle ystyrir ei fod yn briodol.

6.42Dylid mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig ag effeithiau annerbyniol ar amwynderau preswyl yn ystod y broses ddylunio, yn enwedig pan gynigir datblygiadau defnydd cymysg. Yn aml, gellir goresgyn atebion i broblemau fel y gallu i edrych i mewn i eiddo cyfagos, a sŵn trwy ddylunio da.

6.43Mae darparu mannau parcio ceir yn dylanwadu’n fawr ar y dewis a'r dull trafnidiaeth yn ogystal â phatrwm datblygu. Bydd y Cyngor yn ceisio cyfyngu ar ddatblygiadau sy'n cynhyrchu lefel uchel o deithiau (e.e. swyddfeydd, siopau a defnyddiau hamdden) i leoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Ar ben hynny, bydd y ddarpariaeth ar gyfer parcio yn cael ei lleihau yn unol â gwelliannau i hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus. Mae safonau'r Cyngor wedi'u nodi yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar Safonau Parcio.

6.44Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo mabwysiadu cynlluniau teithio yn eang gan fusnesau, ysgolion, ysbytai, atyniadau twristaidd, datblygiadau preswyl mawr a defnyddiau sylweddol eraill sy'n achosi teithio. Mae'r rhain yn helpu i reoli'r rhwydwaith priffyrdd yn effeithlon ac yn hyrwyddo dulliau trafnidiaeth amgen. Bydd yr angen am gynllun teithio yn cael ei nodi'n gynnar fel rhan o'r broses cyn ymgeisio neu drafodaethau cwmpasu gyda'r Cyngor.

6.45Rhaid i ddatblygiadau newydd fynd i'r afael â'r angen i leihau'r defnydd o ynni a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel. Wrth gyflawni gofyniad tai, bydd yn ofynnol i bob datblygiad preswyl newydd gyfrannu tuag at ddarparu cymysgedd priodol o dai marchnad agored, tai fforddiadwy, llety arbenigol a chefnogi'r trawsnewid i ddi-garbon. Er enghraifft, trwy ymgorffori cynhyrchu ynni adnewyddadwy i wead adeiladau neu ddyluniadau sy'n atal gorboethi er mwyn osgoi'r angen am oeri adeiladau yn artiffisial.

6.46Mae cynlluniau preswyl a masnachol mwy yn cyflwyno cyfle i ddarparu datblygiadau sy’n creu ymdeimlad o le, yn darparu amgylchedd hygyrch ac iach, ac yn atgyfnerthu neu’n gwella ardaloedd trefol. Er mwyn sicrhau creu mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i hyrwyddwyr safleoedd o'r fath baratoi uwchgynlluniau safle i ddangos sut mae'r cynnig yn cefnogi cyflawni egwyddorion creu lleoedd da a chreu lleoedd a mannau wedi'u dylunio'n dda.

6.47Bydd y Cyngor yn annog defnyddio ei wasanaeth cynghori cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio fel bod materion sy'n ymwneud â dylunio a chreu lleoedd yn cael eu hystyried yn gynnar mewn ffordd integredig.

DWYSEDDAU DATBLYGIAD PRESWYL

PGD2 – DWYSEDDAU DATBLYGIAD PRESWYL Sylw

Ar safleoedd o 0.5 Ha neu uwch, caniateir cynigion datblygu preswyl o fewn yr Aneddiadau Allweddol, yr Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth a’r Prif Aneddiadau lle mae'r dwysedd preswyl yn isafswm o 35 annedd fesul hectar net. Mewn Aneddiadau Gwledig Bach, bydd angen isafswm dwysedd preswyl o 30 annedd fesul hectar net.

Bydd dwyseddau net uwch yn cael eu cefnogi lle mae'r datblygiad mewn lleoliad a wasanaethir gan drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a llwybrau Teithio Llesol, neu’n agos at wasanaethau a chyfleusterau.

Caniateir lefelau dwysedd is dim ond lle y gellir dangos:

  1. Byddai datblygiad yn y dwyseddau a ragnodir yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal gyfagos,
  2. Mae angen dwyseddau llai oherwydd cyfyngiadau sylweddol ar y safle neu i gadw nodwedd naturiol neu hanesyddol a fyddai'n cyfrannu at amwynder lleol presennol neu yn y dyfodol; neu
  3. Mae’r cynnig ar gyfer datblygiad cymysg lle mae defnydd preswyl yn elfen isradd o’r cynnig.

6.48Bydd datblygiad preswyl lleol ym Mro Morgannwg yn ceisio defnyddio tir yn effeithlon, gan ddarparu anheddau sy’n bodloni anghenion tai presennol wrth warchod tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, bydd angen isafswm dwysedd preswyl o 35 o anheddau fesul hectar net ar gyfer datblygiad preswyl newydd o fewn Aneddiadau Allweddol, Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth a Phrif Aneddiadau Bro Morgannwg.

6.49O fewn yr Aneddiadau Gwledig Bach ym Mro Morgannwg, caniateir datblygiad preswyl newydd ar ddwysedd llai o 30 annedd fesul hectar net. Mae hyn yn adlewyrchu natur sensitif sawl pentref gwledig a chymeriad ffurf adeiledig bresennol.

6.50Mae ardal ddatblygu net ond yn cynnwys yr ardaloedd hynny a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer tai a defnyddiau sy’n uniongyrchol gysylltiedig megis ffyrdd mynediad o fewn y safle, gerddi preifat, meysydd parcio ceir, mannau agored a thirweddu achlysurol, ac ardaloedd chwarae i blant lle bo’u hangen.

6.51Mae hyn yn wahanol i ddwysedd gros a ddefnyddir i ddiffinio nifer yr anheddau ar safle/ardal ddatblygu gan gynnwys prif ffyrdd dosbarthu a rhai lleol, ysgolion, eglwysi, ardaloedd siopa lleol, mannau agored ar gyfer ardal ehangach a chylchfannau tirwedd arwyddocaol a allai ddiffinio ffin y safle/ymyl y datblygiad. Wrth gyfrifo ardal ddatblygu net, bydd yn rhesymol diystyru ardaloedd sydd â chyfyngiadau sylweddol o fewn safle megis coetir i'w gadw, parth llifogydd, ardaloedd lliniaru ecoleg, nodweddion draenio cynaliadwy megis basnau arafu yn ogystal â seilwaith strategol arall.

6.52Ni chaniateir datblygu islaw'r lefelau dwysedd preswyl penodedig oni bai ei fod yn dangos bod cyfyngiadau safle sylweddol sy'n atal datblygiad ar y lefelau penodedig neu lle byddai datblygiad ar y dwysedd sy'n ofynnol yn cael effaith andwyol ar gymeriad neu olwg yr ardal leol neu'n arwain at golli nodwedd bwysig o'r safle.

6.53Yn unol â PCC, a Cymru’r Dyfodol,[7], mae Polisi PGD2 yn cefnogi'r datblygiad preswyl ar ddwysedd uwch, yn enwedig pan fo'r cynigion hyn wedi'u lleoli mewn canolfannau trefol a ger nodau neu gyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus mawr a lle gall y rhain helpu i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Mewn lleoliadau o'r fath, bydd cynigion sy'n darparu dwyseddau preswylo 50 annedd fesul hectar ac uwch yn cael eu hannog pan na fyddai hyn yn arwain at effaith andwyol ar gymeriad yr ardal nac yn tanseilio amcanion ehangach creu lleoedd ac amcanion lles y cynllun.

CREU LLEOEDD A GOFODAU IACH A CHYNHWYSOL

SP5 - CREU LLEOEDD A GOFODAU IACH A Sylw

Dylai pob datblygiad geisio creu lleoedd iach a chynhwysol sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella cydlyniant cymdeithasol. Cyflawnir hyn drwy:

  • Sicrhau bod cynigion datblygu wedi'u dylunio i hwyluso amgylcheddau iach hygyrch i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd perthnasol yn gadarnhaol, yn enwedig mewn ymateb i anghenion iechyd lleol;
  • Sicrhau bod pob man a datblygiad mor gynhwysol â phosibl, yn gallu addasu i amrywiaeth eang o anghenion sy'n newid a darparu ansawdd bywyd uchel;
  • Galluogi cyfleoedd ar gyfer mynediad at amgylchedd bwyd iach;
  • Cefnogi'r ddarpariaeth o gyfleusterau cymunedol a gofal iechyd newydd a gwell;
  • Gwarchod a gwella iechyd a lles presennol y cyhoedd.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'n ofynnol i ddatblygwyr gynnal asesiad sgrinio o'u cynnig yn y cam cyn ymgeisio i nodi effeithiau iechyd posibl eu datblygiad fel y nodir isod:

Math o Ddatblygiad

Datblygiadau Mawr - Rhestr Wirio Creu Lleoedd Iach

Datblygiadau Mawr - Rhestr Wirio Creu Lleoedd Iach

Preswyl

Rhwng 10 a 99 o anheddau neu arwynebedd o 0.5 hectar i 2 hectar

100 neu fwy o anheddau neu fwy na 2 hectar

Cyflogaeth/Masnachol Arall/Hamdden

Arwynebedd llawr adeiledig o 1,000m2 i 4,000m2

Arwynebedd llawr adeiledig mwy na 4,000m2

Bydd cynigion yn cael eu cefnogi lle y gellir dangos bod dyluniad y cynllun wedi'i lywio gan gasgliadau'r asesiad.

6.54Mae iechyd a lles ein cymunedau yn hanfodol bwysig i gyflawni datblygu cynaliadwy a chreu lleoedd hirdymor. Mae hyn yn cynnwys lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Yn allweddol i hyn mae sicrhau mynediad at wasanaethau a chyfleusterau o ansawdd da a galluogi pobl o bob oedran a chefndir i fyw mewn amgylchedd a fydd yn eu cefnogi i fyw bywydau llawn, cynhyrchiol a ffyniannus.

6.55Gall llawer o agweddau ar gynllunio gael effaith sylweddol ar iechyd. Yn benodol: tai o ansawdd da; ardal gyhoeddus wedi'i dylunio’n dda; trafnidiaeth gynaliadwy; cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant; a mynediad at hamdden, gweithgareddau diwylliannol a mannau gwyrdd. Gelwir y ffactorau hyn yn 'benderfynyddion iechyd ehangach' (Ffigur 19) ac maent yn aml y tu allan i reolaeth unigolyn i allu dylanwadu arnynt. Mae'r amgylchedd rydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio amser hamdden ynddo yn chwarae rhan bwysig yn ein hiechyd a'n lles.

A diagram of different types of people

AI-generated content may be incorrect.
Ffigur 19: Ffynhonnell Penderfynyddion Iechyd Ehangach: Dahlgren a Whitehead (1991) R: Barton a Grant (2006)

6.56Lleoedd a mannau iach yw'r rhai sydd wedi'u dylunio i safon uchel, gan ymgorffori nodweddion sy’n:

  • Mynd i'r afael ag anghenion iechyd a lles pob defnyddiwr, yn unol ag egwyddorion creu lleoedd.
  • Galluogi mynediad cyfleus, aml-foddol i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol ar gyfer pob math o daith.
  • Darparu seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel a mannau agored hygyrch, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon.
  • Cynnwys seilwaith gwyrdd a mannau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, fel ardaloedd ar gyfer tyfu bwyd.
  • Cynnig llety tai priodol o ansawdd uchel.
  • Wedi'u dylunio mewn modd sy'n lleihau'r potensial am drosedd a thraffer.

6.57Trwy integreiddio'r elfennau hyn, gall cynllunio ddylanwadu'n gadarnhaol ar benderfynyddion iechyd allweddol a chyfrannu at y broses o greu cymunedau iachach, mwy cynhwysol.

6.58Lleoedd cynhwysol yw'r rhai sy'n darparu mynediad cyfartal a chyfleoedd, gan alluogi pawb i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi a'u cymunedau wrth i'w hanghenion newid. Gall addasiadau cymharol fach gael effaith sylweddol ar allu pobl i fwynhau eu hardal leol, megis ymgorffori goleuadau priodol i leihau'r ofn o droseddu, neu ddarparu lleoedd i bobl orffwys a chymdeithasu. Gall dylunio gofalus sicrhau bod lleoedd yn groesawgar i bob cenhedlaeth, gan ddileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag diwallu eu hanghenion neu fwynhau bywydau egnïol.

6.59Er mwyn sicrhau bod datblygiad newydd yn ymateb yn briodol i anghenion iechyd a lles, yn darparu amgylchedd sy'n cynyddu effeithiau cadarnhaol ar iechyd ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, dilynir dull iechyd ym mhob polisi. Mae hyn yn sicrhau bod datblygiad newydd yn ystyried ei oblygiadau iechyd trwy geisio osgoi canlyniadau iechyd negyddol anfwriadol posibl a'u gwella lle bo hynny'n bosibl. Mae hyn yn ymgorffori iechyd a lles fel mater polisi allweddol ar draws yr holl bolisïau perthnasol o fewn y cynllun ac mae'n cael ei ategu gan Bolisi SP5.

6.60Er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyried effeithiau posibl datblygiad ar iechyd, mae Polisi SP5 yn nodi'r gofynion i hyrwyddwyr safleoedd gynnal asesiad o'r datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio neu yn y cam cyn ymgeisio. Yn dibynnu ar fath a graddfa'r datblygiad, bydd gofyn i’r asesiad gynnwys naill ai sgrinio gan ddefnyddio Rhestr Wirio Iechyd a Lles y Cyngor, neu sgrinio ac yna Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI) cyflym. Mae manylion y gofynion wedi'u nodi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Creu Lleoedd Iach y Cyngor.

6.61Mae AEI cyflym fel arfer yn cynnwys ymchwiliad byr o effeithiau ar iechyd, gan gynnwys adolygiad llenyddiaeth byr o dystiolaeth feintiol ac ansoddol a chasglu gwybodaeth a thystiolaeth bellach gan randdeiliaid lleol gan gynnwys adrannau perthnasol y Cyngor, Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro ac Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dylai'r sgrinio a/neu’r AEI cyflym hwn nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl tebygol cynnig datblygu ar iechyd a lles gwahanol grwpiau poblogaeth, ar benderfynyddion iechyd ehangach, ac ar anghydraddoldebau iechyd. Dylai'r argymhellion a nodwyd drwy'r broses hon, sy’n nodi sut y gellid gwella effeithiau cadarnhaol ar iechyd ac osgoi neu liniaru effeithiau negyddol, lywio dyluniad datblygiad. Bydd cynigion sy'n ymgorffori mesurau sy'n cyfrannu tuag at greu amgylcheddau iach a hygyrch yn cael eu cefnogi.

6.62Mae anghydraddoldebau iechyd yn bodoli ar draws Bro Morgannwg, yn ofodol a rhwng gwahanol grwpiau poblogaeth. Bydd cydymffurfiaeth â Pholisi SP5 yn sicrhau bod yr anghydraddoldebau iechyd hyn yn cael eu nodi a'u datrys lle bo'n bosibl. Mae setiau data sy'n nodi anghydraddoldebau yn cynnwys Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru[8], a chyhoeddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dylid defnyddio'r rhain i lywio AEIau. Cynhyrchwyd canllawiau[9] ar gwblhau AEIau gan Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru.

6.63Rôl arall y CDLlN yw cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a lles o fewn y gymuned, ac er nad yw Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cyfleusterau gofal iechyd yn uniongyrchol, mae gan y Cyngor rôl alluogi allweddol. Yn hyn o beth, mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu dealltwriaeth o gapasiti gwasanaethau lleol, newidiadau mewn darpariaeth gwasanaethau a'r angen am gyfleusterau ychwanegol lle mae datblygiad yn cael ei gynllunio.

6.64Yn ogystal, lle mae datblygiadau newydd yn cynnwys darparu adeilad cymunedol newydd neu well, bydd y Cyngor yn ymgynghori â'r Bwrdd Iechyd i archwilio a allai cyfleusterau o'r fath ddarparu cyfle i ddarparu gwasanaethau iechyd fel rhan o ofod cymunedol aml-ddefnydd fel y'i cefnogir o dan Bolisi CI4 Gwarchod a Gwella Cyfleusterau Cymunedol Presennol.

6.65Anogir datblygwyr hefyd i ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd lleol yn y cam cyn ymgeisio er mwyn galluogi ystyriaeth briodol o ofynion seilwaith gofal iechyd. Dylid ystyried yr angen am gyfleusterau gofal iechyd, neu seilwaith arall sy'n galluogi iechyd fel lonydd beicio ar wahân neu gyfleusterau hamdden, yn unol â’r gofynion sy’n deillio o ddatblygiad newydd ac anghenion iechyd y boblogaeth leol. Mae hyn yn arbennig o angenrheidiol ar gyfer safleoedd mawr a allai fod yn raddol ac y gall y gofynion a grëwyd gan ddatblygiad newid yn ystod y cyfnod hwnnw.

LLEOEDD ACTIF A CHYMDEITHASOL

TWF TAI A CHYFLENWAD (TT)

SP6 - GOFYNIAD TAI Sylw

Er mwyn bodloni'r gofyniad tai a nodwyd o 7,890 o anheddau, cynigir darparu 8,660 o gartrefi yng Nghyfnod y Cynllun o 2021 i 2036. Mae’r nifer hwn yn cynnwys:

  • 3,837 o anheddau o'r cyflenwad tir presennol
  • 3,520 o anheddau ar safleoedd a ddyrannwyd
  • 1,303 o anheddau o ddatblygiadau mawr a bach annisgwyl

6.66Nod strategaeth twf tai CDLlN yw darparu digon o dai i fodloni'r gofyniad a nodwyd dros gyfnod y cynllun. Mae'n sicrhau cymysgedd priodol o dai marchnad cyffredinol, cartrefi fforddiadwy, a llety arbenigol i ddiwallu anghenion unigolion sydd angen tai hygyrch neu wedi'u haddasu.

6.67Mae Polisi SP6 yn nodi gofyniad tai o 7,890 o anheddau dros gyfnod y cynllun, sy'n cyfateb i 526 o unedau y flwyddyn. Er mwyn sicrhau hyblygrwydd a chefnogi’r gallu i gyflawni, mae'r Cynllun yn cynnwys gor-ddyraniad o 10%, gan wneud darpariaeth ar gyfer cyfanswm o 8,660 o anheddau. Bydd y ddarpariaeth dai hon yn cael ei chyflawni o'r ffynonellau cydran a restrir yn Nhabl 2.

6.68Er mwyn bodloni'r ffigur gofynion tai hwn, mae'r Cyngor wedi ystyried y cyfraniad o safleoedd sydd wedi'u cwblhau ers Ebrill 1 2021, unedau sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac unedau gyda chaniatâd cynllunio, gan hefyd ystyried rhagdybiaeth am beidio â darparu. Gyda'i gilydd, byddai'r ffynonellau hyn yn cyfrannu 3,837 o anheddau tuag at fodloni'r gofynion tai. Mae rhagor o fanylion am y cyfraniad o bob ffynhonnell yn cael eu crynhoi yn Nhabl 2.

6.69Mae ffynhonnell arall o dai yn deillio o ddatblygiadau annisgwyl, sef safleoedd nad ydynt wedi'u dyrannu'n benodol ar gyfer tai ond sy'n cael eu cyflwyno yn unol â'r cynllun datblygu ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill. Mae dadansoddiad o ddarpariaeth tai hanesyddol yn dangos bod safleoedd annisgwyl bach (safleoedd o lai na 10 annedd) ar gyfartaledd wedi darparu o gwmpas 53 o anheddau wedi'u cwblhau bob blwyddyn, ac roedd safleoedd annisgwyl mawr (10 annedd neu fwy) wedi cyfrannu ar gyfartaledd 80 o anheddau y flwyddyn. Yn gyffredinol, rhagwelir y gallai safleoedd annisgwyl gyfrannu 1,303 o anheddau dros weddill cyfnod y cynllun.

6.70Mae Tabl 2 hefyd yn cynnwys nifer yr anheddau sy'n cael eu dyrannu ar gyfer datblygiad preswyl ar safleoedd allweddol, safleoedd sydd wedi’u symud ymlaen sy'n cael eu hystyried fel rhai y gellid eu cyflawni, a dyraniadau tai eraill, gan gynnwys safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy. Gallai'r dyraniadau hyn ddarparu 3,520 o anheddau. Mae rhagor o fanylion am ddadansoddiad y Cyngor o gyflenwad tir Bro Morgannwg wedi'u nodi ym Mhapur Cefndir Cyflenwad Tir Tai’r CDLlN.

Tabl 2: Cydrannau Cyflenwad Tai: Cyflenwad Tai a Gofyniad Tai Sylw

Cydran y Cyflenwad

Nifer yr Anheddau

Nodiadau

A

Wedi’u cwblhau 21/22 - 24/25

1,747

Yn cynnwys 1,562 o anheddau ar safleoedd mawr a 185 o anheddau ar safleoedd bach

B

Unedau sy'n cael eu hadeiladu 1 Ebrill 2025

313

Yn cynnwys Safleoedd Mawr 10 annedd >

C

Unedau o fewn caniatâd cynllunio

1,860

Yn cynnwys safleoedd sydd â chytundebau A106 yn yr arfaeth lle mae'n realistig y bydd y cytundeb yn cael ei lofnodi.

Ch

Lwfans peidio â darparu ar gyfer banc tir

-83

Tybir na fydd 5% o unedau sydd â chaniatâd cynllunio lle nad yw'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau (1663 o unedau) yn cael eu darparu yn seiliedig ar gyfraddau darparu blaenorol

Cyfanswm y Cyflenwad Presennol (A+B+C-Ch)

3,837

D

Lwfans Safleoedd Annisgwyl Mawr (10 neu fwy o anheddau)

720

Yn seiliedig ar gyfraddau darparu yn y gorffennol dros gyfnod y cynllun CDLl mabwysiedig. Er mwyn osgoi cyfrif dwbl safleoedd annisgwyl mawr sydd eisoes o fewn y cyflenwad tir, mae'r lwfans hwn wedi'i ddiystyru o 2 flynedd gyntaf y cyflenwad tir ac wedi'i gymhwyso i'r 9 mlynedd dilynol sy'n weddill o'r cynllun (80 annedd x 9 mlynedd)

Dd

Lwfans Safleoedd Annisgwyl Bach

583

Yn seiliedig ar gyfraddau darparu yn y gorffennol. Mae'r lwfans hwn wedi'i gymhwyso i'r 11 mlynedd sy'n weddill o gyfnod y cynllun (53 annedd x 11 mlynedd)

Cyfanswm y lwfans annisgwyl (D+Dd)

1,303

Dyraniadau CDLlN

3,520

Safleoedd allweddol – 2,278 o unedau

Dyraniadau tai newydd – 161 o unedau

Safleoedd wedi'u symud ymlaen – 959 o unedau

Safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy – 122 o unedau

Darpariaeth Tai

8,660

Dosbarthiad Gofodol Twf Tai

6.71Mae'r tabl isod yn crynhoi dosbarthiad gofodol y gwahanol gydrannau o'r cyflenwad tir tai fel y maent yn ymwneud â Hierarchaeth Aneddiadau’r CDLlN. Mae'r tabl yn dangos bod 1,747 o anheddau eisoes wedi'u hadeiladu ers dechrau cyfnod y cynllun ac y bydd y banc tir tai presennol yn cyfrannu at gyfran sylweddol o'r gofyniad tai a nodwyd. Mae dosbarthiad safleoedd annisgwyl ar draws yr hierarchaeth aneddiadau a ddangosir yn y tabl yn gynrychioliadol o dueddiadau hanesyddol sy'n dangos bod y rhan fwyaf o'r datblygiadau annisgwyl wedi dod o safleoedd yn y Barri a Chanolfannau Gwasanaeth y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, ac mae'r lwfans a ragwelir yn adlewyrchu'r duedd hon. Mae rhagor o fanylion am ddadansoddiad y Cyngor o dueddiadau annisgwyl wedi'u nodi ym Mhapur Cyflenwad Tir Tai y CDLlN.

6.72Mae dosbarthiad gofodol y cyflenwad tir tai yn Nhabl 3 yn dangos bod dosbarthiad gofodol tai newydd yn cael ei gyfeirio yn unol â'r strategaeth twf gofodol (SP1), yn benodol i'r aneddiadau yn y Fro sy'n cael eu gwasanaethu orau gan gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n cynnig amrywiaeth dda o wasanaethau a chyfleusterau. Mae'r Barri, fel Anheddiad Allweddol, yn darparu cyfran sylweddol o ddatblygiadau newydd sy'n gymesur â'i statws yn yr hierarchaeth a'i gymwysterau fel anheddiad cynaliadwy sy'n cael ei wasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gynaliadwy.

6.73Mae’r Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth hefyd yn darparu cyfran briodol o'r datblygiad. Er bod y gyfran uchaf o ddatblygiad wedi'i nodi o fewn y Prif Aneddiadau o fewn yr Ardal Twf Strategol, dylid nodi bod pum anheddiad o fewn y categori hwn – Sain Tathan, Y Rhws, Dinas Powys, Llandochau a Sili. Mae'r rhain yn aneddiadau sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus presennol ac arfaethedig da, ond hefyd yn cael eu gwasanaethu'n dda gan gyfleoedd cyflogaeth gerllaw, gan alinio tai â chyflogaeth. Nodir mai dim ond cyfran fach o'r datblygiad sy'n debygol o ddigwydd y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, gyda rhywfaint o'r datblygiad hwn yn ymwneud â chaniatâd cynllunio a roddir yn unol â'r strategaeth CDLl fabwysiedig.

Tabl 3: Dosbarthiad Gofodol Cyflenwad Tai (Ebrill 2025) Sylw

Cydrannau

Cyflenwad Tai

Cyfan-swm

Hierarchaeth Aneddiadau

Anheddiad Allweddol, Y Barri

Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth

Prif Aneddiadau yn yr Ardal Twf Strategol

Aneddiadau Gwledig Bach a Phrif Aneddiadau y Tu Allan i'r Ardal Twf Strategol

Pentrefannau ac Aneddiadau Gwledig Llai

A

Safleoedd Annisgwyl Bach wedi’u Cwblhau 2021-25

185

70

73

22

15

5

Safleoedd Mawr (Annisgwyl) a Dyraniadau wedi’u Cwblhau 2021-25

1,562

581

394

569

18

0

B

Unedau sy'n cael eu hadeiladu Ebrill 2025

313

70

163

63

17

0

C

Unedau gyda chaniatâd cynllunio gan gynnwys allowance

1,777

66

1,004

331

124

253

Cyflenwad tir presennol

3,837

787

1,634

985

174

258

Ch

Safleoedd CDLl wedi'u symud ymlaen

959

200

340

419

0

0

D

Dyraniadau Tai Allweddol

2,278

376

0

1,902

0

0

Dd

Dyraniadau eraill gan gynnwys Safleoedd a Arweinir gan Dai Fforddiadwy

283

110

0

51

122

0

Safleoedd a ddyrannwyd

3,520

686

340

2,372

122

0

E

Safleoedd annisgwyl mawr (10>)

720

376

172

81

52

39

F

Safleoedd annisgwyl bach (<10)

583

304

139

65

42

32

Cyfanswm Safleoedd Annisgwyl

1303

680

311

146

94

71

Ff

Cyfanswm Darpariaeth Tai

8,660

2,153

2,285

3,503

390

329

DARPARIAETH TAI

HG1 - HOUSING ALLOCATIONS

Er mwyn cyflawni twf strategol y cynllun a chyfrannu at fodloni'r gofyniad tai a nodir yn SP6, dyrennir tir ar gyfer tai yn y lleoliadau canlynol:

  1. SAFLEOEDD ALLWEDDOL (POLISI HG1 KS1-5)

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

Nifer yr unedau

KS1

Y Barri

Tir yng Ngogledd-orllewin y Barri

376

KS2

Dinas Powys

I'r gogledd o Ddinas Powys, oddi ar Cardiff Road

250

KS3

Y Rhws

Tir yn Readers Way

520

KS4

Sain Tathan

Tir yn Church Farm

532

KS5

Sain Tathan

Tir i'r Gorllewin o Sain Tathan

600

Cyfraniad Aneddiadau

2,278

  1. DYRANIADAU TAI

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

Nifer yr unedau

HG1 (1) Sylw Gweld map Housing Allocation (1) / Dyraniad Tai (1)

Y Barri

Tir i’r gorllewin o Pencoedtre Lane

135

HG1 (2) Sylw Gweld map Housing Allocation (2) / Dyraniad Tai (2)

Y Barri

Tir yn y Mole

65

HG1 (3) Sylw Gweld map Housing Allocation (3) / Dyraniad Tai (3)

Y Barri

Tir yn Hayes Lane

70

HG1 (4) Sylw Gweld map Housing Allocation (4) / Dyraniad Tai (4)

Y Barri

Tir yn Neptune Road

40

HG1 (5) Sylw Gweld map Housing Allocation (5) / Dyraniad Tai (5)

Llanilltud Fawr

Tir rhwng Ffordd Fynediad y Gogledd ac Eglwys Brewis Road (Safle C - Parsel Canolog)

235

HG1 (6) Sylw Gweld map Housing Allocation (6) / Dyraniad Tai (6)

Y Bont-faen

Tir cyfagos i St Athan Road

105

HG1 (7) Sylw Gweld map Housing Allocation (7) / Dyraniad Tai (7)

Sain Tathan

Hen Safle’r Stadiwm, cyfagos i Burley Place

80

HG1 (8) Sylw Gweld map Housing Allocation (8) / Dyraniad Tai (8)

Sain Tathan

Clive Road, Sain Tathan

51

HG1 (9) Sylw Gweld map Housing Allocation (9) / Dyraniad Tai (9)

Y Rhws

Tir i’r gogledd o’r Llinell Reilffordd (Dwyrain)

339

Cyfraniad Aneddiadau

1,120

  1. SAFLEOEDD BANC TIR MAWR

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

Nifer yr unedau

HG2 (1) Sylw Gweld map Major land Bank Site (1) / Safle Banc Tir Mawr (1)

Penarth

Tir yn Upper Cosmeston Farm

576

HG2 (2) Sylw Gweld map Major land Bank Site (2) / Safle Banc Tir Mawr (2)

Llanilltud Fawr

Tir rhwng Ffordd Fynediad y Gogledd ac Eglwys Brewis Road (Safle A - Parsel Gorllewinol)

140

HG2 (3) Sylw Gweld map Major land Bank Site (3) / Safle Banc Tir Mawr (3)

Llanilltud Fawr

Tir rhwng Ffordd Fynediad y Gogledd ac Eglwys Brewis Road (Safle B - Parsel Dwyreiniol)

100

HG2 (4) Sylw Gweld map Major land Bank Site (4) / Safle Banc Tir Mawr (4)

Llandochau

Tir i’r de o Fryn Llandochau / Heol Penarth

133

HG2 (5) Sylw Gweld map Major land Bank Site (5) / Safle Banc Tir Mawr (5)

Sili

Tir i’r gorllewin o Swanbridge Road (Cam 2)

175

Cyfraniad Aneddiadau

1,124

  1. CYFLE AILDDATBLYGU A ARWEINIR GAN DAI

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

HG3 (1)

Llanilltud Fawr

Hen Ysgol Gynradd Eagleswell

  1. SAFLEOEDD A ARWEINIR GAN DAI FFORDDIADWY GWLEDIG (POLISI HG4)

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

Nifer yr unedau

HG4 (1)

Tregolwyn

Tir i'r dwyrain o Dregolwyn,

25

HG4 (2)

Aberthin

Tir i'r gorllewin o Maendy Road

25

HG4 (3)

Y Wig

Tir yn Heol Fain

50

HG4 (4)

Fferm Goch

Tir i'r gogledd o Barc Busnes West Winds

22

Cyfraniad Aneddiadau

122

6.74Mae Polisïau Strategol SP1 a SP6 yn nodi gofyniad tai o 7,890 o anheddau dros gyfnod y cynllun. Er mwyn galluogi dewis a hyblygrwydd, mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer 8,660 o anheddau, sy'n cyfateb i lwfans hyblygrwydd o 10%. Mae Polisi HG1 yn nodi'r safleoedd tai a fydd yn cyfrannu tuag at fodloni'r gofyniad cyflenwad tir tai.

6.75Mae'r 5 Safle Allweddol gyda'r Ardal Twf Strategol o fewn yr aneddiadau yn haenau uchaf yr hierarchaeth ac maent ar raddfa ddigonol i allu cyflawni egwyddorion creu lleoedd orau, gan gynnwys darparu cymysgedd o ddefnyddiau, seilwaith gwyrdd a gwelliannau Teithio Llesol. Mae ystyriaeth bellach o'r Safleoedd Allweddol o ran gofynion tai, cyfleusterau cymunedol, trafnidiaeth gynaliadwy a seilwaith ar gyfer pob un o'r safleoedd wedi'i nodi mewn polisïau safle-benodol HG1 KS1 i KS5.

6.76Yn ogystal â safleoedd Tai Allweddol, mae'r cynllun yn dyrannu nifer o safleoedd tai eraill (Adran B HG1 (1) – HG1 (9). Mae'r rhain yn cynnwys dyraniadau tai newydd ar safleoedd o fewn yr Ardal Twf Strategol yn ogystal â safleoedd sydd wedi’u symud ymlaen o'r CDLl mabwysiedig y mae'r Cyngor yn ystyried y gellid eu cyflawni. Mae nifer o'r safleoedd sydd wedi'u symud ymlaen yn destun ceisiadau cynllunio a oedd yn aros am benderfyniad ar 1 Ebrill 2025. Ar y cyfan, mae'r dyraniadau tai hyn yn cynnwys 1,120 o anheddau.

6.77Dangosir safleoedd banc tir mawr hefyd ar y map cynigion (Adran C HG2 (1) i HG2 (5). Mae'r rhain yn safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio, neu gyda phenderfyniad i roi caniatâd cynllunio yn amodol ar lofnodi cytundeb Adran 106, sydd â chapasiti ar gyfer 100 o unedau neu fwy. Mae'r safleoedd hyn wedi'u ffactorio yn y cyfrifiad cyflenwad tir presennol yn Nhabl 2.

6.78Mae'r CDLlN yn cydnabod yr angen i gefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy ym mhob ardal o'r Fro, ac felly, nodwedd allweddol o Strategaeth y CDLlN yw darparu datblygiadau a arweinir gan dai fforddiadwy ar raddfa fach sy'n diwallu anghenion a nodwyd yn lleol. Yn hyn o beth, ac yn gyson â'r dull hwn, mae'r Cyngor wedi nodi pedwar safle a arweinir gan dai fforddiadwy fel y manylir yn Polisi HG4. Bydd y safleoedd hyn yn darparu ffynhonnell bwysig o dai fforddiadwy yn ardaloedd gwledig y Fro ac maent wedi'u nodi ar y sail y byddant yn darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy, a thrwy hynny yn galluogi trigolion i gael mynediad at dai fforddiadwy a thai marchnad agored.

6.79Mae trywydd tai sy'n dangos y bydd amserlenni ar gyfer cyflawni pob un o'r cydrannau o'r cyflenwad tai wedi'u cwblhau wedi'i gynnwys yn Atodiad 1.

SAFLEOEDD TAI ALLWEDDOL

6.80Y safleoedd yn y Barri, y Rhws a Sain Tathan sydd wedi'u nodi fel Safleoedd Allweddol yw'r rhai sy'n cyd-fynd orau ag egwyddorion y Strategaeth Twf Cynaliadwy. Fel rhan o gynhyrchu'r CDLlN, cynhaliodd y Cyngor Sesiynau Ymgysylltu Creu Lleoedd yn y cymunedau ger y safleoedd a roddodd gyfle i drigolion lleol lywio'r uwchgynlluniau darluniadol sy'n cyd-fynd â phob un o'r Safleoedd Allweddol. Yn ogystal, cynhaliwyd arfarniadau hyfywedd o ddatblygiadau safle-benodol annibynnol i sicrhau cyflawni'r safle a gallu safleoedd i roi cefnogaeth ariannol i’r tai fforddiadwy angenrheidiol a seilwaith ategol arall a bennir ym mhob Polisi Safle Allweddol.

TIR YNG NGOGLEDD-ORLLEWIN Y BARRI

6.81Mae tir yng ngogledd-orllewin y Barri wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl o hyd at 376 o anheddau a mannau agored cyhoeddus. Mae'r safle mewn lleoliad cynaliadwy ar gyrion y Barri, anheddiad allweddol, mewn lleoliad sy'n cael ei wasanaethu'n dda gan wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys archfarchnad fawr, meddygfa, canolfan gymunedol, tair ysgol gynradd (Cyfrwng Saesneg, Cyfrwng Cymraeg a'r Eglwys yng Nghymru) a dwy ysgol uwchradd (Cyfrwng Saesneg a Chymraeg) i gyd wedi'u lleoli o fewn pellter cerdded rhesymol. Mae llwybr teithio llesol ar hyd Port Road West, safleoedd bws yn agos iawn sy'n darparu bysiau i Lanilltud Fawr, Caerdydd a chanol y Barri. Mae gorsaf y Barri 1.3 milltir o fynedfa'r safle.

6.82Mae'r safle i'r de o A4226 Port Road West, ac i'r gorllewin o ddatblygiad preswyl ar Pontypridd Road a stad o dai Nant Talwg Way. I'r gogledd-ddwyrain o'r safle, yn wynebu Port Road West, mae nifer fach o adeiladau amaethyddol a phreswyl, ynghyd â thafarn/bwyty a gwesty. Ffin orllewinol y safle yw Cwm Ciddy Lane, lôn trac sengl sy'n ffinio â gwrychoedd cadarn, sy'n arwain at gyfadeilad rhestredig Cwm Ciddy Farm. Mae'r lôn yn parhau fel hawl dramwy gyhoeddus i Barc Gwledig Porthceri. Ffin ddeheuol y safle yw coetir llydanddail o'r enw Mill Wood. Mae hwn wedi'i nodi fel rhan o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN, Gogledd-ddwyrain o Goedwig Knock Man Down) ac mae hefyd yn rhan o Barc Gwledig Porthceri.

6.83Mae'r safle wedi'i nodi fel tir amaethyddol gradd isel (Gradd 3b/4) sy'n cynnwys chwe pharsel cae wedi'u ffinio'n bennaf gan wrychoedd gyda mynediad agored neu fynediad wedi’i gatio rhwng caeau.

6.84Mae Dŵr Cymru wedi cynghori y bydd angen Asesiadau Modelu Hydrolig (AMH) i sefydlu effaith y cynnig ar y rhwydwaith dŵr a'r rhwydwaith carthffosiaeth presennol a byddai disgwyl i ddatblygwyr posibl ariannu ymchwiliadau yn ystod y camau cyn cynllunio. Mae'r safle yn dod o fewn dalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Cog Moors sydd â'r gallu i ddarparu ar gyfer y llifoedd brwnt domestig o'r safle hwn.

HG1 KS1 - TIR YNG NGOGLEDD-ORLLEWIN Y BARRI Sylw Gweld map Key Site (KS1) / Safle Allweddol (KS1)

Mae tir yng ngogledd-orllewin y Barri, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi'i ddyrannu fel safle tai allweddol. Bydd y safle 18.7 Ha yn darparu hyd at 376 o gartrefi dros gyfnod y cynllun.

Rhaid i ddatblygu'r safle gadw at yr Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4 Creu Lleoedd a'r meini prawf ym Mholisi PGD1 Creu Lleoedd wedi'u Dylunio'n Dda. Yn ogystal, rhaid i'r safle gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

Tai Fforddiadwy

  • Darparu o leiaf 113 o unedau tai fforddiadwy (30%) gyda chymysgedd unedau sy'n adlewyrchu gofynion yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf a data rhestr aros y Cyngor. Er mwyn darparu mwy o gymysgedd cymdeithasol, dylai'r unedau fforddiadwy gael eu gwasgaru ar draws y safle mewn clystyrau o ddim mwy na 10 uned, gan eu darparu'n raddol ar draws y trywydd datblygu.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Phriffyrdd

  • Darparu tir ar draws blaen y safle i ganiatáu ymledu Ffordd Port A4226 Gorllewin a chyflwyno llwybr Teithio Gweithgar ar draws blaen y safle fel rhan o Llwybr Teithio Gweithgar Weycock Cross i Faes Awyr Caerdydd, fel y nodir yn y Polisi TR1.
  • Creu cyffordd newydd â signalau ar A4226 Port Road West, a bydd angen iddi ddarparu ar gyfer cyfleusterau croesi a reolir i gerddwyr/beiciau.
  • Cyfraniad tuag at welliannau oddi ar y safle i gapasiti a llif cylchfan Weycock Cross a chymwysyr eraill ar y rhwydwaith priffyrdd strategol lle bo angen.
  • Cyfraniad tuag at fesurau trafnidiaeth gynaliadwy oddi ar y safle yn yr ardal
  • Cysylltiad â'r hawl dramwy gyhoeddus i Barc Gwledig Porthceri ar hyd Cwm Ciddy Lane.

Treftadaeth

  • Dylai'r datblygiad ystyried ac ymateb yn gadarnhaol i leoliad y pedwar adeilad rhestredig gradd II ar Cwm-Ciddy Farm, sydd yn agos at ffin y safle.

Seilwaith Cymunedol

  • Cyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol yn unol â gofynion capasiti yn y dalgylch.
  • Cyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu neu wella cyfleusterau cymunedol yn yr ardal.
  • Darparu celf gyhoeddus ar y safle, neu fel arall cyfraniad ariannol ar gyfer darparu celf gyhoeddus oddi ar y safle.

Seilwaith Gwyrdd, Mannau Hamdden a Bioamrywiaeth

  • Darparu ardal allweddol o fannau agored (o leiaf 2.3 ha) i'r de o'r safle sy'n ffinio â Pharc Gwledig Porthceri a fydd yn gwasanaethu fel byffer i'r SoBCN cyfagos yn Mill Wood ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwelliannau sylweddol i fioamrywiaeth. Dylid trosglwyddo perchnogaeth yr ardal hon i Gyngor Bro Morgannwg, ynghyd â chyfraniad ariannol priodol, i'w rheoli fel rhan o Barc Gwledig Porthceri.
  • Yn ogystal, rhaid i'r safle gynnwys nifer o ardaloedd eraill sydd wedi'u dylunio'n dda o fannau agored y gellir eu defnyddio, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol a chydag offer, gyda chysylltiadau seilwaith gwyrdd priodol rhyngddynt. Lle na ellir bodloni'r gofynion yn llawn ar y safle, bydd angen cyfraniad oddi ar y safle.
  • Dylid cadw gwrychoedd ac asedau seilwaith gwyrdd eraill ar ffin y safle ac o fewn y safle a'u cynnwys fel rhan o goridorau seilwaith gwyrdd trwy'r safle lle bynnag y bo modd. Lle na ellir cyflawni hyn, er enghraifft wrth y fynedfa i'r safle, bydd angen planhigion priodol i wneud iawn.
  • Bydd angen gwella'r planhigion presennol ar hyd y ffin â Nant Talwg Way, St James Crescent a Pontypridd Road er mwyn lleihau effaith y datblygiad.
  • Mae'r safle o fewn 12.6km o'r Parth Dalaith Chwaraeon Cyntaf ar gyfer Safle Morol Ewropeaidd Estwair Hafren a bydd yn cael ei ystyried am gyfraniad ariannol fel rhan o'r Strategaeth Lliniaru ar gyfer y safle. Rhaid i gynllun gofod gwyrdd ystyried unrhyw gyfarwyddyd newydd sy'n ymddangos ar gyfer Gofod Gwyrdd Naturiol Amgen Addas i leihau pwysau adloniadol ar nodweddion yr Estwair.

Perygl o Lifogydd a Draenio Cynaliadwy

  • Rhaid i'r safle ymgorffori systemau draenio cynaliadwy (SDCau) priodol o ansawdd uchel sy'n integreiddio'r swyddogaeth draenio dŵr wyneb â mannau agored ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu bioamrywiaeth.
  • Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad adeiledig o fewn coridor canolog dwyrain-gorllewin y safle, sydd o fewn parth llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Dylid cadw'r ardal hon fel parc gwlyptir, a fydd yn ymgorffori nodweddion draenio cynaliadwy priodol i wasanaethu'r safle.
Ffigur 13: Cynllun dangosol HG1 KS1 Tir yng ngogledd-orllewin y Barri
Ffigur 13: Cynllun dangosol HG1 KS1 Tir yng ngogledd-orllewin y Barri

TIR I'R GOGLEDD O DDINAS POWYS

6.85Mae dyraniad preswyl allweddol wedi'i nodi i'r gogledd o ardal Eastbrook yn Ninas Powys, a nodir fel prif anheddiad. Mae Dinas Powys yn cael ei gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus, gyda dwy orsaf drenau (Eastbrook a Dinas Powys) a gwasanaethau bws rheolaidd i Gaerdydd a'r Barri. Mae gan Ddinas Powys amrywiaeth dda o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys ysgolion cynradd, neuaddau cymunedol, meddygfa a llyfrgell gymunedol.

6.86Mae'r safle yn cynnwys caeau amaethyddol agored (Gradd 3b) gyda gwrychoedd a lleiniau coed yn ffinio â phob cae. Mae'r safle yn uniongyrchol i'r gogledd o stad dai bresennol gyda Cardiff Road yn ffurfio'r ffin ddwyreiniol. I'r gorllewin, y tu allan i ffin y safle, mae coetir, ardal chwarae a chae chwarae Parc Seel ac i'r gogledd-orllewin mae Mill Farm, sy'n cynnwys cyfadeilad o adeiladau fferm. Ymhellach i'r gogledd mae cyfres o gaeau yn ymestyn i brif anheddiad Llandochau, tua 600m i'r gogledd.

6.87Mae Dŵr Cymru wedi cynghori y bydd angen Asesiad Modelu Hydrolig (AMH) i sefydlu effaith y cynnig ar y rhwydwaith dŵr presennol a byddai disgwyl i ddatblygwyr posibl ariannu ymchwiliadau yn ystod y camau cyn cynllunio.

6.88Disgwylir i'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus allu darparu ar gyfer llifoedd brwnt o'r safle hwn. Mae'r safle yn dod o fewn dalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Cog Moors sydd â'r gallu i ddarparu ar gyfer y llifoedd brwnt domestig o'r safle hwn.

HG1 KS2- TIR I'R GOGLEDD O DDINAS POWYS Sylw Gweld map Key Site (KS2) / Safle Allweddol (KS2)

Mae tir i'r gogledd o Ddinas Powys, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi'i ddyrannu fel safle tai allweddol. Bydd y safle 13.3 Ha yn darparu hyd at 250 o gartrefi dros gyfnod y cynllun.

Rhaid i ddatblygu'r safle gadw at yr Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4 Creu Lleoedd a'r meini prawf ym Mholisi PGD1 Creu Lleoedd wedi'u Dylunio'n Dda. Yn ogystal, rhaid i'r safle gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

Tai Fforddiadwy

  • Darparu o leiaf 100 o unedau tai fforddiadwy (40%) gyda chymysgedd unedau sy'n adlewyrchu gofynion yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf a data rhestr aros y Cyngor. Er mwyn darparu mwy o gymysgedd cymdeithasol, dylai'r unedau fforddiadwy gael eu gwasgaru ar draws y safle mewn clystyrau o ddim mwy na 10 uned, gan eu darparu'n raddol ar draws y trywydd datblygu.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Phriffyrdd

  • Cyfraniad tuag at welliannau oddi ar y safle i gapasiti a llif cyffyrdd allweddol yn yr ardal.
  • Cynnwys cysylltiadau cerdded a beicio rhwng y datblygiad a Pharc Seel a George's Row.
  • Creu cyffordd newydd â signalau i A4055 Cardiff Road i wasanaethu fel y brif fynedfa gyda mynedfa eilaidd yn agosach ar gyfer argyfyngau yn ogystal â cherddwyr a beicio.
  • Cyfraniad tuag at fesurau trafnidiaeth gynaliadwy oddi ar y safle yn yr ardal.

Seilwaith Cymunedol

  • Cyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol yn unol â gofynion capasiti yn y dalgylch.
  • Cyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu neu wella cyfleusterau cymunedol yn yr ardal.

Seilwaith Gwyrdd, Mannau Hamdden a Bioamrywiaeth

  • Darparu ardal allweddol o fannau agored wrth fynedfa'r safle sy'n wynebu Cardiff Road a pharc gwyrdd llinellol ar draws ymyl ogleddol ffin y safle.
  • Yn ogystal, rhaid i'r safle gynnwys nifer o ardaloedd eraill sydd wedi'u dylunio'n dda o fannau agored y gellir eu defnyddio, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol a chydag offer, gyda chysylltiadau seilwaith gwyrdd priodol rhyngddynt. Lle na ellir bodloni'r gofynion yn llawn ar y safle, bydd angen cyfraniad oddi ar y safle.
  • Dylid cadw gwrychoedd ac asedau seilwaith gwyrdd eraill ar ffin y safle ac o fewn y safle a'u cynnwys fel rhan o goridorau seilwaith gwyrdd trwy'r safle lle bynnag y bo modd. Lle na ellir cyflawni hyn, er enghraifft wrth y fynedfa i'r safle, bydd angen planhigion priodol i wneud iawn.
  • Bydd angen gwella'r planhigion presennol ar hyd y ffin â Highfield Close
  • Mae'r safle o fewn 12.6km o'r Parth Dalaith Chwaraeon Cyntaf ar gyfer Safle Morol Ewropeaidd Estwair Hafren a bydd yn cael ei ystyried am gyfraniad ariannol fel rhan o'r Strategaeth Lliniaru ar gyfer y safle. Rhaid i gynllun gofod gwyrdd ystyried unrhyw gyfarwyddyd newydd sy'n ymddangos ar gyfer Gofod Gwyrdd Naturiol Amgen Addas i leihau pwysau adloniadol ar nodweddion yr Estwair.

Perygl o Lifogydd a Draenio Cynaliadwy

  • Rhaid i'r safle ymgorffori systemau draenio cynaliadwy (SDCau) priodol o ansawdd uchel sy'n integreiddio'r swyddogaeth draenio dŵr wyneb â mannau agored ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu bioamrywiaeth.
  • Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad adeiledig o fewn 8m i'r cyrsiau dŵr sy'n croesi'r safle.
Ffigur 14: Cynllun dangosol HG1 KS2 - Tir i'r gogledd o Ddinas Powys, oddi ar Cardiff Road, Dinas Powys
Ffigur 14: Cynllun dangosol HG1 KS2 - Tir i'r gogledd o Ddinas Powys, oddi ar Cardiff Road, Dinas Powys

TIR YN READERS WAY, Y RHWS

6.89Mae tir yn Readers Way wedi'i nodi fel safle allweddol a arweinir gan dai o hyd at 520 o gartrefi, mannau agored cyhoeddus a defnyddiau masnachol ar raddfa fach. Mae wedi'i leoli ar ymyl ogleddol y Rhws, prif anheddiad sy'n cael ei wasanaethu gan ddwy ysgol gynradd, dwy ganolfan gymunedol, meddygfa ac amrywiaeth o unedau ar raddfa fach sy'n cynnig gwasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys swyddfa bost, fferyllfa, siop fwyd fach a llyfrgell gymunedol. Mae gorsaf y Rhws, sy'n cael ei gwasanaethu gan drenau i Ben-y-bont ar Ogwr trwy Lanilltud Fawr a Chaerdydd drwy'r Barri, 0.6 milltir o fynedfa'r safle. Mae cyfleuster parcio a theithio yn yr orsaf. Mae yna hefyd gyswllt bws i Lanilltud Fawr a Chaerdydd drwy'r Barri.

6.90Mae trac fferm a llwybr ceffylau yn rhedeg i'r gogledd a'r de trwy ganol y safle, gan wahanu'r safle yn ddwy ardal. Mae'r ardal i'r gorllewin o'r llwybr ceffylau yn cynnwys pum parsel cae o dir amaethyddol gwastad gradd isel o wahanol feintiau. Mae maint ffin y safle yn cyd-fynd â phatrwm y stadau tai presennol i'r gorllewin. Mae yna hefyd stad dai bresennol i'r de, gyda Chanolfan Gymunedol Celtic Way a chaeau chwarae yn agos at ffin y safle. Mae'r stad dai i'r de yn cynnwys nifer o ffyrdd pengaead sy'n gorffen ar ffin y safle. Cynigir mynediad i gerbydau o Celtic Way a Readers Way.

6.91Mae'r rhan o'r safle sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o'r llwybr ceffylau hefyd yn cynnwys tir amaethyddol gwastad gradd isel, wedi'i ffinio i'r gorllewin gan wrychoedd, gyda hawl dramwy gyhoeddus a'r ffens perimedr ar gyfer maes awyr Caerdydd ar yr ochr arall. Mae tafarn yr Highwayman wedi'i lleoli'n uniongyrchol i'r gogledd, sy'n darparu lleoedd parcio i’r maes awyr yn ogystal â bwyty. Nid oes mynediad i gerbydau wedi'i gynnig trwy ben gogleddol y safle.

6.92Mae pwll Readers Way, a ddynodwyd fel Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) gan fod y pwll yn cefnogi madfallod dŵr cribog sy’n bridio, wedi'i leoli ger ffin y safle, i'r de-ddwyrain o'r safle.

6.93Mae Dŵr Cymru wedi cynghori y bydd angen Asesiadau Modelu Hydrolig (AMH) i sefydlu effaith y cynnig ar y rhwydwaith dŵr a'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus presennol a byddai disgwyl i ddatblygwyr posibl ariannu ymchwiliadau yn ystod y camau cyn cynllunio.

6.94Mae'r safle yn dod o fewn dalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Cog Moors sydd â'r gallu i ddarparu ar gyfer y llifoedd brwnt domestig o'r safle hwn.

HG1 KS3 - TIR YN READERS WAY, Y RHWS Sylw Gweld map Key Site (KS3) / Safle Allweddol (KS3)

Mae tir yn Readers Way, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi'i ddyrannu fel safle tai allweddol. Bydd y safle 29.2 Ha yn darparu hyd at 520 o gartrefi dros gyfnod y cynllun.

Rhaid i ddatblygu'r safle gadw at yr Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4 Creu Lleoedd a'r meini prawf ym Mholisi PGD1 Creu Lleoedd wedi'u Dylunio'n Dda. Yn ogystal, rhaid i'r safle gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

Tai Fforddiadwy

  • Darparu o leiaf 182 o unedau tai fforddiadwy (30%) gyda chymysgedd unedau sy'n adlewyrchu gofynion yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf a data rhestr aros y Cyngor. Er mwyn darparu mwy o gymysgedd cymdeithasol, dylai'r unedau fforddiadwy gael eu gwasgaru ar draws y safle mewn clystyrau o ddim mwy na 10 uned, gan eu darparu'n raddol ar draws y trywydd datblygu.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Phriffyrdd

  • Cyfraniad tuag at welliannau oddi ar y safle i gapasiti a llif cyffyrdd ar y rhwydwaith priffyrdd strategol fel y'i llywiwyd gan yr Asesiad Trafnidiaeth Strategol a'r Asesiad Trafnidiaeth safle-benodol.
  • Cyfraniad tuag at fesurau trafnidiaeth gynaliadwy oddi ar y safle yn yr ardal, gan gynnwys gwella cysylltiadau Teithio Llesol â gorsaf y Rhws ac ar hyd Fontygary Road a Fonmon Road.

Seilwaith Cymunedol

  • Cyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol yn unol â gofynion capasiti yn y dalgylch.
  • Darparu adeilad cymunedol ar y safle neu gyfraniad ariannol oddi ar y safle tuag at ddarparu a gwella cyfleusterau cymunedol yn yr ardal.
  • Cyflwyno uned fasnachol (A1 neu A3) ar y safle i gynyddu'r cynnig defnydd cymysg ar y safle.

Seilwaith Gwyrdd, Mannau Hamdden a Bioamrywiaeth

  • Darparu ardal allweddol o fannau agored i'r dwyrain o'r safle a fydd yn gwasanaethu fel byffer i safle cyfagos maes awyr Caerdydd. Rhaid i'r man agored hwn gynnwys o leiaf 1.89 Ha o ddarpariaeth chwaraeon awyr agored, rhandiroedd cymunedol a mannau gwyrdd amwynder, ynghyd ag ardaloedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth.
  • Yn ogystal, rhaid i'r safle gynnwys nifer o ardaloedd eraill sydd wedi'u dylunio'n dda o fannau agored y gellir eu defnyddio, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol a chydag offer, gyda chysylltiadau seilwaith gwyrdd priodol rhyngddynt.
  • Dylid cadw gwrychoedd ac asedau seilwaith gwyrdd eraill ar ffin y safle ac o fewn y safle a'u cynnwys fel rhan o goridorau seilwaith gwyrdd trwy'r safle lle bynnag y bo modd. Lle na ellir cyflawni hyn, bydd angen planhigion priodol i wneud iawn.
  • Mae angen darparu pwll sy'n dal dyfroedd a seilwaith gwyrdd cysylltiedig ger Pwll Readers Way i ddarparu cynefin priodol ar gyfer madfallod dŵr cribog.

Perygl o Lifogydd a Draenio Cynaliadwy

  • Rhaid i'r safle ymgorffori systemau draenio cynaliadwy (SDCau) priodol o ansawdd uchel sy'n integreiddio'r swyddogaeth draenio dŵr wyneb â mannau agored ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu bioamrywiaeth.
A map of a city

AI-generated content may be incorrect.
Ffigur 15: Cynllun dangosol HG1 KS3 - Tir yn Readers Way, Y Rhws

TIR YN CHURCH FARM, SAIN TATHAN

6.95Mae dau ddyraniad safle allweddol wedi'u nodi yn Sain Tathan, a fyddai'n darparu estyniadau dwyreiniol a gorllewinol i'r anheddiad. Mae Sain Tathan yn brif anheddiad sy'n cael ei wasanaethu gan ysgol gynradd cyfrwng Saesneg a chyfleusterau eraill gan gynnwys manwerthu ar raddfa fach, swyddfa bost a chyfleusterau cymunedol eraill. Yn ogystal, mae safle cyfagos Ardal Fenter Bro Tathan yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth, gyda disgwyl y bydd nifer sylweddol o swyddi ychwanegol yn cael eu darparu dros gyfnod y cynllun, gan sicrhau bod tai newydd yn cael eu cyd-leoli â chyfleoedd cyflogaeth. Mae gwasanaeth bws yn gwasanaethu Sain Tathan sy'n cysylltu'r anheddiad â Llanilltud Fawr a Chaerdydd, drwy'r Barri, gyda thir hefyd yn cael ei ddiogelu ar gyfer gorsaf a chyfnewidfa fysiau/rheilffordd o dan bolisïau HG1 KS5 a TR1.

6.96Mae'r dyraniad yn Church Farm, sy'n cynrychioli'r estyniad dwyreiniol i Sain Tathan, yn cynnwys dwy ardal, y rhagwelir y byddant yn cael eu datblygu’n raddol. Mae'r ardal orllewinol, a oedd yn ddyraniad tai yn CDLl mabwysiedig 2011-2026, yn cynnwys dau gae amaethyddol ac yn ymestyn i gyfanswm o oddeutu 8.4 hectar. Yn ffinio â’r safle yn y gogledd mae Ysgol Gynradd Sain Tathan, eiddo preswyl ac adeiladau fferm. Mae'r B4265 yn ffinio â'r safle i'r de ac mae eiddo preswyl, rheilffordd Bro Morgannwg, a thir amaethyddol ar ochr arall y ffordd honno. Mae Cofeb Ryfel Restredig Gradd II Sain Tathan wedi'i lleoli i'r de-orllewin o'r safle, ger cyffordd Gileston Road a'r B4265. Mae Gileston Road yn ffinio â'r safle i'r gorllewin ac mae eiddo preswyl a siop fwyd Co-op ar ochr arall y ffordd honno.

6.97Mae'r parsel dwyreiniol (16ha) yn cynnwys 4 parsel cae wedi'u gwahanu gan wrychoedd gyda thrac fferm a rhagor o dir amaethyddol pellach y tu hwnt i hynny. Mae gorsaf betrol ychydig y tu hwnt i ffin dde-ddwyreiniol y safle, yn ogystal â'r ffordd fynediad i safle Gorsaf Bŵer Aberddawan. Y B4265 hefyd yw'r ffin ddeheuol i'r parsel hwn o dir.

6.98Mae'r rhan fwyaf o'r safle yn dir amaethyddol gradd isel (Gradd 3b), er bod y gornel dde-ddwyreiniol (tua 10% o'r safle cyffredinol) wedi'i nodi fel Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (Gradd 2/3a).

6.99Bydd mynediad i'r parsel gorllewinol (Cam 1) o Gileston Road. Bydd ail bwynt mynediad yn uniongyrchol i'r B4265 yn cael ei ddarparu fel rhan o ddatblygu’r parsel dwyreiniol (Cam 2), gyda rhwydwaith ffyrdd mewnol yn cysylltu'r ddwy ardal hon gyda'i gilydd. Bydd Cam 1 yn darparu 232 o unedau a siop fwyd manwerthu Dosbarth A1 1,672 - 1,858 metr sgwâr (18,000-20,000 troedfedd sgwâr). Bydd Cam 2 yn cynnwys y tai, gan ddarparu 300 o gartrefi.

6.100Bydd darparu siop fwyd fel rhan o'r cam cyntaf yn cynyddu'r gwasanaethau sydd ar gael yn Sain Tathan, gan leihau'r angen i drigolion deithio i aneddiadau eraill ar gyfer siopa cyfleustra. Yn unol â'r dull dilyniannol o leoli cyfleusterau manwerthu, rhaid i'r siop fwyd fod wedi'i lleoli yng nghornel ogledd-orllewinol y safle gan mai’r rhan hon o'r safle sydd agosaf at ganolfan fanwerthu ddiffiniedig Sain Tathan.

6.101Mae Dŵr Cymru wedi cynghori y bydd angen Asesiadau Modelu Hydrolig (AMH) i sefydlu effaith y cynnig ar y rhwydwaith dŵr a'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus presennol a byddai disgwyl i ddatblygwyr posibl ariannu ymchwiliadau yn ystod y camau cyn cynllunio.

6.102Mae capasiti cyfyngedig yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Gorllewin Aberddawan. Mae cynllun i uwchraddio'r GTDG wedi'i gynllunio fel rhan o'r cyfnod buddsoddi CRhA presennol (2025-2030). Os yw'r datblygiad yn dymuno cysylltu cyn cwblhau'r cynllun CRhA, yna byddai angen i'r datblygwr gynnal Asesiad Effaith Datblygwr (AED) i sefydlu'r gwaith atgyfnerthu sydd ei angen yn y GTDG i sicrhau capasiti ar gyfer eu safle.

HG1 KS4 - TIR YN CHURCH FARM, SAIN TATHAN Sylw Gweld map Key Site (KS4) / Safle Allweddol (KS4)

Mae tir yn Church Farm, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi'i ddyrannu fel safle a arweinir gan dai allweddol. Bydd y safle 24.1 Ha yn darparu 532 o gartrefi dros gyfnod y cynllun a siop fwyd manwerthu dosbarth A1 o hyd at 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) gyda maes parcio cysylltiedig.

Rhaid i ddatblygu'r safle gadw at yr Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4 Creu Lleoedd a'r meini prawf ym Mholisi PGD1 Creu Lleoedd wedi'u Dylunio'n Dda. Yn ogystal, rhaid i'r safle gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

Tai Fforddiadwy

  • Darparu o leiaf 81 o unedau tai fforddiadwy yn ystod cam 1 a 105 o unedau fforddiadwy yn ystod cam 2 (35%) gyda chymysgedd unedau sy'n adlewyrchu gofynion yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf a data rhestr aros y Cyngor. Er mwyn darparu mwy o gymysgedd cymdeithasol, dylai'r unedau fforddiadwy gael eu gwasgaru ar draws y safle mewn clystyrau o ddim mwy na 10 uned, gan eu darparu'n raddol ar draws y trywydd datblygu.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Phriffyrdd

  • Cyfraniad tuag at welliannau oddi ar y safle i gapasiti a llif cyffyrdd ar y rhwydwaith priffyrdd strategol fel y'i llywiwyd gan yr Asesiad Trafnidiaeth Strategol a'r Asesiad Trafnidiaeth safle-benodol.
  • Darparu pwynt mynediad oddi ar Gileston Road i wasanaethu Cam 1 y datblygiad a'r siop fwyd. Bydd angen lledaenu Gileston Road gan ddefnyddio tir o fewn terfyn y safle gyda darpariaeth llwybr Teithio Egnïol ar hyd ymylon y safle sy’n wynebu Gileston Road a’r B4265.
  • Rhaid uwchraddio cyffordd Gileston Road a'r B4265 i gyffordd â signalau gyda chyfleusterau croesi a reolir i gerddwyr/beiciau.
  • Bydd Cam 2 yn gofyn am ddarparu cyffordd flaenoriaeth wedi'i dylunio'n briodol i'r B4265, y mae'n rhaid iddi gysylltu drwy ffordd gyswllt feingefn i Gam 1 y datblygiad.
  • Mynedfa newydd i Ysgol Gynradd Sain Tathan drwy'r safle i ddisodli'r fynedfa israddol bresennol i'r ysgol o Rock Road.
  • Rhaid uwchraddio'r safle bws wrth gyffordd Gileston Road/B4265.

Treftadaeth

  • Rhaid i'r datblygiad a'r gwelliannau cysylltiedig i briffyrdd oddi ar y safle barchu lleoliad y gofeb ryfel Gradd II sydd wedi'i lleoli i'r de o'r safle.

Seilwaith Cymunedol

  • Trosglwyddo tir i'r dwyrain o Ysgol Gynradd Sain Tathan i Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o Gam 2 er mwyn galluogi ailddatblygu ac ehangu Ysgol Gynradd Sain Tathan.
  • Yn ogystal, cyfraniad oddi ar y safle tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol yn unol â gofynion capasiti yn y dalgylch.
  • Cyfraniad tuag at ddarparu a gwella cyfleusterau cymunedol yn yr ardal.
  • Cyfraniad tuag at hyfforddiant a datblygu ar gyfer elfen fasnachol y datblygiad yn ystod Cam 1.

Seilwaith Gwyrdd, Mannau Hamdden a Bioamrywiaeth

  • Yn unol â gofynion Polisi CI1, rhaid i'r safle gynnwys nifer o ardaloedd sydd wedi'u dylunio'n dda o fannau agored y gellir eu defnyddio, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol a chydag offer, gyda chysylltiadau seilwaith gwyrdd priodol rhyngddynt. Bydd angen cae chwarae fel rhan o'r gofyniad darpariaeth chwaraeon awyr agored yn ystod Cam 2 y datblygiad. Disgwylir y bydd y mannau agored yn cael eu darparu’n gymesur ar draws y ddau gam datblygu. Lle na ellir bodloni'r gofynion yn llawn ar y safle, bydd angen cyfraniad oddi ar y safle.
  • Dylid cadw gwrychoedd ac asedau seilwaith gwyrdd eraill ar ffin y safle ac o fewn y safle a'u cynnwys fel rhan o goridorau seilwaith gwyrdd trwy'r safle lle bynnag y bo modd. Lle na ellir cyflawni hyn, er enghraifft wrth y fynedfa i'r safle, bydd angen planhigion priodol i wneud iawn.

Perygl o Lifogydd a Draenio Cynaliadwy

  • Rhaid i'r safle ymgorffori systemau draenio cynaliadwy (SDCau) priodol o ansawdd uchel sy'n integreiddio'r swyddogaeth draenio dŵr wyneb â mannau agored ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu bioamrywiaeth.
Add alt text here
Ffigur 16: Cynllun dangosol HG1 KS4 - Tir yn Church Farm, Sain Tathan

TIR I'R GORLLEWIN O SAIN TATHAN

6.103Mae tir i'r gorllewin o Sain Tathan yn safle allweddol sy'n cynnwys dau barsel o dir ar gyrion prif anheddiad Sain Tathan. Mae'r mwyaf o'r ddau barsel yn 28.1 Ha ac mae'r ardal lai, ar ochr arall y B4265, yn 1.5 Ha.

6.104Mae'r ardal ehangach yn cynnwys tir amaethyddol o ansawdd isel (Gradd 3b) wedi'i rannu'n nifer o barseli cae mawr afreolaidd eu siâp, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pori, wedi'u gwahanu gan wrychoedd. Mae nifer fach o strwythurau ac adeiladau adfeiliedig wedi'u lleoli ledled y safle.

6.105Ffurfir ffin ogleddol y safle hwn gan Llantwit Road, gydag annedd ynysig yng nghornel ogledd-orllewinol y safle a rhes o eiddo preswyl ar wahân i'r gogledd-ddwyrain. Mae cyfres o adeiladau diwydiannol iwtilitaraidd sy'n gysylltiedig ag Ardal Fenter Bro Tathan wedi'u lleoli ymhellach i'r gogledd. I'r dwyrain o'r safle mae anheddiad Sain Tathan gyda thir yn union i'r dwyrain, gan gynnwys Canolfan Gymunedol Paul Lewis Sain Tathan gyda chaeau chwaraeon cysylltiedig, a mannau agored cyhoeddus gydag offer a heb offer. Mae tai wedi'u lleoli ar ochr ddwyreiniol y ganolfan gymunedol. Mae ffin ddeheuol y safle yn cael ei ffurfio gan Reilffordd Bro Morgannwg sy'n rhedeg tua'r gorllewin i Ben-y-bont ar Ogwr a thua'r dwyrain i Gaerdydd gyda rhan oddeutu 120m o ffin dde-ddwyreiniol y safle wedi'i ffurfio gan y B4265. Mae llystyfiant, o led a dwysedd amrywiol, yn rhedeg ar hyd y ddwy ffin hyn. Mae ffordd ddienw sy'n cysylltu Llantwit Road â'r B4265 ac sy'n rhedeg dros y rheilffordd yn ffurfio ffin orllewinol y safle.

6.106Mae'r parsel llai yn cynnwys un cae a ddefnyddir ar gyfer pori anifeiliaid. Mae hefyd yn dir amaethyddol gradd isel (Gradd 3b). I'r gogledd a'r gorllewin, mae’n ffinio â’r B4265. Y ffin ddeheuol yw'r rheilffordd, ac i'r dwyrain, mae dau gae amaethyddol arall gyda gwrychoedd yn eu gwahanu.

6.107Mae'r parsel mwy wedi'i nodi ar gyfer datblygiad preswyl ac mae'r parsel llai wedi'i ddyrannu ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau sy'n cynnwys diogelu tir ar gyfer darparu gorsaf newydd a chyfnewidfa reilffordd/bysiau gyda maes parcio cysylltiedig. Gall y cymysgedd o ddefnyddiau hefyd gynnwys datblygiad masnachol ar raddfa fach, gyda'r potensial ar gyfer datblygiad preswyl uwch na’r llawr gwaelod.

6.108Mae Dŵr Cymru wedi cynghori y bydd angen Asesiadau Modelu Hydrolig (AMH) i sefydlu effaith y cynnig ar y rhwydwaith dŵr a'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus presennol a byddai disgwyl i ddatblygwyr posibl ariannu ymchwiliadau yn ystod y camau cyn cynllunio.

6.109Mae capasiti cyfyngedig yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Gorllewin Aberddawan. Mae cynllun i uwchraddio'r GTDG wedi'i gynllunio fel rhan o'r cyfnod buddsoddi CRhA presennol (2025-2030). Os yw'r datblygiad yn dymuno cysylltu cyn cwblhau'r cynllun CRhA, yna byddai angen i'r datblygwr gynnal Asesiad Effaith Datblygwr (AED) i sefydlu'r gwaith atgyfnerthu sydd ei angen yn y GTDG i sicrhau capasiti ar gyfer eu safle.

HG1 KS5 - TIR I'R GORLLEWIN O SAIN TATHAN Sylw Gweld map Key Site (KS5) / Safle Allweddol (KS5)

Mae tir i'r gorllewin o Sain Tathan, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi'i ddyrannu fel safle defnydd cymysg allweddol. Mae'r safle 29.6 Ha yn cynnwys dau barsel o dir a fydd gyda'i gilydd yn darparu 600 o gartrefi dros gyfnod y cynllun, ochr yn ochr â chyfleusterau cymunedol a masnachol newydd a thir wedi'i ddiogelu ar gyfer darparu gorsaf newydd a chyfnewidfa fysiau/trenau yn Sain Tathan.

Rhaid i ddatblygu'r safle gadw at yr Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4 Creu Lleoedd a'r meini prawf ym Mholisi PGD1 Creu Lleoedd wedi'u Dylunio'n Dda. Yn ogystal, rhaid i'r safle gydymffurfio â'r gofynion canlynol:

Tai Fforddiadwy

  • Darparu o leiaf 210 o unedau tai fforddiadwy (35%) gyda chymysgedd unedau sy'n adlewyrchu gofynion yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf a data rhestr aros y Cyngor. Er mwyn darparu mwy o gymysgedd cymdeithasol, dylai'r unedau fforddiadwy gael eu gwasgaru ar draws y safle mewn clystyrau o ddim mwy na 10 uned, gan eu darparu'n raddol ar draws y trywydd datblygu.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Phriffyrdd

  • Darparu llwybr Teithio Llesol ar hyd y B4265 rhwng mynedfa'r safle a chyffordd Gileston Road i'r dwyrain.
  • Cyfraniad tuag at ddarparu llwybr Teithio Llesol rhwng Sain Tathan a Llanilltud Fawr.
  • Darparu cyffordd â signalau i'r B4265 gyda chroesfannau Teithio Llesol yn darparu mynediad i'r ddau barsel o fewn dyraniad y safle.
  • Diogelu tir o fewn y parsel llai er mwyn galluogi cyflwyno gorsaf reilffordd newydd yn Sain Tathan, gan gynnwys lleoedd parcio ceir priodol i gefnogi'r defnydd o'r safle fel cyfnewidfa fysiau/rheilffordd.
  • Cyfraniad tuag at welliannau oddi ar y safle i gapasiti a llif cyffyrdd ar y rhwydwaith priffyrdd strategol fel y'i llywiwyd gan yr Asesiad Trafnidiaeth Strategol a'r Asesiad Trafnidiaeth safle-benodol.
  • Diogelu tir o fewn ffin y safle mwy er mwyn galluogi darparu pont i gerddwyr a beiciau i wasanaethu cyfleuster addysg newydd ar dir i'r de fel y nodir ym Mholisi CI3 (2) Tir i'r de o'r rheilffordd, Sain Tathan.
  • Dylai cynllun a lled y ffordd fod o led a dyluniad digonol i ganiatáu ar gyfer darparu ffordd ddolen i hwyluso cysylltiad bws.
  • Darparu cysylltiadau i gerddwyr/beiciau â Llantwit Road a gwelliannau i’r llwybr i gerddwyr ar hyd Llantwit Road.

Seilwaith Cymunedol

  • Cyfraniad oddi ar y safle tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol yn unol â gofynion capasiti yn y dalgylch.
  • Darparu adeilad cymunedol ar y safle i wasanaethu'r datblygiad.

Seilwaith Gwyrdd, Mannau Hamdden a Bioamrywiaeth

  • Ymestyn Maes Hamdden Sain Tathan gan gynnwys darparu cae chwaraeon ychwanegol, mannau chwarae gydag offer a rhandiroedd cymunedol.
  • Yn ogystal, rhaid i'r safle gynnwys nifer o ardaloedd eraill sydd wedi'u dylunio'n dda o fannau agored y gellir eu defnyddio, gan gynnwys mannau chwarae anffurfiol a chydag offer, gyda chysylltiadau seilwaith gwyrdd priodol rhyngddynt.
  • Dylid cadw gwrychoedd ac asedau seilwaith gwyrdd eraill ar ffin y safle ac o fewn y safle a'u cynnwys fel rhan o goridorau seilwaith gwyrdd trwy'r safle lle bynnag y bo modd. Lle na ellir cyflawni hyn, bydd angen planhigion priodol i wneud iawn.

Perygl o Lifogydd a Draenio Cynaliadwy

  • Rhaid i'r safle ymgorffori systemau draenio cynaliadwy (SDCau) priodol o ansawdd uchel sy'n integreiddio'r swyddogaeth draenio dŵr wyneb â mannau agored ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu bioamrywiaeth.
  • Dylai datblygiad adeiledig osgoi'r ardal fach o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Parth 3 sy’n gorlifo ar ymylon dwyreiniol y safle.

Treftadaeth

  • Dylai'r datblygiad ystyried ac ymateb yn gadarnhaol i leoliad y adeiladau wedi'u rhestru ar Llantwit Road, sydd yn agos at ffin y safle.
Add alt text here
Ffigur 17: Cynllun dangosol HG1 KS5 - Tir i'r gorllewin o Sain Tathan

HG3 – CYFLE AILDDATBLYGU A ARWEINIR GAN DAI Sylw Gweld map Housing-led Redevelopment Opportunity (1) / Cyfle Ailddatblygu dan Arweiniad Tai (1)

Mae'r safle canlynol wedi'i nodi fel cyfle ailddatblygu hirdymor:

Cyfeirnod y Safle

Anheddiad

Enw’r Safle

HG3 (1)

Llanilltud Fawr

Hen Ysgol Gynradd Eagleswell

6.110Mae safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell, sydd wedi'i leoli ar Eagleswell Road yn Llanilltud Fawr, wedi'i ailddatblygu i ddarparu 90 o unedau o lety dros dro. Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o gartrefi unllawr a deulawr a fwriedir fel tai byrdymor i unigolion ac aelwydydd mewn angen. Mae'r datblygiad yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio dros dro am gyfnod o bum mlynedd o 2024, ac ar ôl hynny bydd yr unedau'n cael eu hadleoli i safleoedd eraill yn y Fro. Gan fod yr unedau yn darparu tai yn y tymor byr i ganolig, a byddant yn parhau i wneud hynny yn y tymor hwy mewn mannau eraill, maent wedi'u cynnwys yn y tai sydd wedi’u cwblhau ar gyfer y cynllun hwn.

6.111Unwaith y bydd yr unedau dros dro yn cael eu hadleoli erbyn 2029, bydd y safle ar gael i'w ailddatblygu i ddarparu llety parhaol. Gan fod yr unedau eisoes wedi'u cyfrif fel rhai sydd wedi’u cwblhau ar y safle hwn, ni fydd unrhyw anheddau a ddarperir trwy ailddatblygu yn y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y ffigurau cyflenwad tai. Mae'r safle ym mherchnogaeth y Cyngor a disgwylir iddo gael ei gyflwyno ar gyfer datblygiad a arweinir gan dai fforddiadwy. Yn amodol ar yr angen a nodwyd ar adeg ailddatblygu, efallai y bydd potensial hefyd i ran o'r safle ddarparu ar gyfer defnyddiau cymunedol priodol.

TAI FFORDDIADWY

SP7 – DARPARIAETH TAI FFORDDIADWY Sylw

Disgwylir i'r gofyniad preswyl a nodwyd ym Mholisi SP6 gyfrannu at anghenion tai cymunedol sefydledig Bro Morgannwg drwy ddarparu o leiaf 3,070 o unedau preswyl fforddiadwy dros gyfnod y cynllun.

Er mwyn cyrraedd y targed hwn, bydd angen cymysgedd o dai fforddiadwy, wedi'u llywio gan yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (AFDL), data rhestrau aros a'r Strategaeth Tai Pobl Hŷn. Dylai hyn gynnwys amrywiaeth o ddeiliadaethau, mathau a meintiau cartrefi, yn ogystal â chydbwysedd priodol o anghenion cyffredinol a llety arbenigol.

6.112Mae darparu tai fforddiadwy yn un o amcanion allweddol Strategaeth y CDLlN. Mae cryfder cymharol y farchnad dai ym Mro Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf wedi ei gwneud hi’n anodd i lawer o bobl leol brynu tai addas ar y farchnad agored.

6.113Cymeradwywyd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol diweddaraf (AFDL 2023) gan y Cabinet ym mis Mai 2024 a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a gadarnhaodd ym mis Mehefin 2025 eu bod yn fodlon i'r AFDL gael ei ddefnyddio fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau a chynlluniau allweddol, gan gynnwys y CDLlN.

6.114Y prif ffigur angen yn yr AFDL – yn seiliedig ar brif ragamcanion aelwydydd Llywodraeth Cymru yn 2018 – yw 1,075 o unedau y flwyddyn ar gyfer pum mlynedd gyntaf cyfnod yr AFDL ac yna 154 o unedau y flwyddyn yn dilyn hynny. Os caiff ei gyfrifo dros gyfnod o 15 mlynedd, mae hyn yn cyfateb i angen blynyddol cyfartalog o 461 o unedau.

6.115Mae'r AFDL hefyd yn cynnwys rhagamcanion amrywiol. Os defnyddir Rhagamcanion Aelwydydd y CDLlN yn hytrach na rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn 2018, mae'r angen a nodwyd yn cynyddu i 1,114 o unedau y flwyddyn am y pum mlynedd gyntaf, a 196 o unedau y flwyddyn ar ôl hynny, sy'n cyfateb i gyfartaledd o 502 o unedau y flwyddyn dros 15 mlynedd.

6.116Yn y ddau senario, mae'r rhaniad deiliadaeth yn fras yn 65% rhent cymdeithasol a 35% unedau canolradd neu berchentyaeth cost isel. Mae'r angen tai a nodwyd gan ddefnyddio pob dull wedi'i nodi isod:

Tabl 4: Ffigurau Angen Tai Fforddiadwy AFDL 2023

Prif Ffigurau (gwnaed y rhagamcanion yn 2018)

Ffigurau Rhagamcanion y CDLlN

Angen yn y 5 mlynedd gyntaf (y flwyddyn)

1,075

1,114

Rhent cymdeithasol (y flwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf)

687

715

Canolradd a pherchentyaeth cost isel (y flwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf)

388

399

Angen am y 10 mlynedd nesaf (y flwyddyn)

154

196

Angen os ystyrir dros 15 mlynedd (y flwyddyn)

461

502

6.117Mae'r AFDL yn tynnu sylw at y ffaith bod yr ôl-groniad presennol o angen gan bobl ar y rhestr aros tai yn fwyaf acíwt yn y Barri a Phenarth/Llandochau, er bod nifer sylweddol o bobl ar y rhestr aros ym mhob rhan o'r Fro.

6.118Mae'r AFDL yn nodi bod y rhan fwyaf o'r angen am dai fforddiadwy ledled y Fro ar gyfer unedau un a dwy ystafell wely llai ar gyfer rhent cymdeithasol, gyda diffyg bob blwyddyn o 439 a 170, yn y drefn honno. Mae'r galw am gartrefi llai yn adlewyrchu tueddiadau cymdeithasol diweddar o ran cyfansoddiad aelwydydd a'r nifer uchel o aelwydydd un person ac aelwydydd sy'n cynnwys cyplau heb blant.

6.119Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r angen a nodwyd, mae Polisi SP7 yn rhagweld y bydd y CDLlN yn cyfrannu tuag at ddarparu o leiaf 3,070 o anheddau fforddiadwy dros gyfnod y cynllun. Mae'r targed yn ddangosol ac yn ymwneud â'r cartrefi fforddiadwy hynny sydd wedi'u sicrhau drwy'r system gynllunio yn unig a byddant yn cael eu sicrhau yn unol â'r gofynion a nodir o dan Bolisi SP8. Mae'r ffigur yn cynnwys cyfraniadau gan safleoedd ymrwymedig, tai fforddiadwy ychwanegol a sicrhawyd trwy gytundebau Adran 106 o ddyraniadau newydd, gan gynnwys safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy ar raddfa fach, ac o safleoedd annisgwyl a bach.

6.120Wrth gyfrifo'r targed tai fforddiadwy, mae'r Cyngor yn cydnabod y gallai nifer y cartrefi fforddiadwy a ddarperir yn ystod cyfnod y cynllun fod yn is o ganlyniad i gyfyngiadau hyfywedd safleoedd neu'n fwy pan fyddant ar safleoedd a ddarperir gan y Cyngor, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Tabl 5: Unedau Tai Fforddiadwy Rhagamcanol yn ôl Ffynhonnell Sylw

Ffynhonnell

Anheddau Fforddiadwy

Nifer yr anheddau fforddiadwy a ddarparwyd o Ebrill 1 2021 i 31 Mawrth 2025

702

Safleoedd gyda chaniatâd ac/neu sy'n cael eu hadeiladu ar Ebrill 1 2025

908

Cyfraniadau gan ddyraniadau CDLl presennol i'w cario ymlaen

222

Cyfraniadau gan Safleoedd Tai Allweddol a safleoedd tai ychwanegol

952

Cyfraniadau gan Safleoedd a Arweinir gan Dai Fforddiadwy

62

Cyfraniadau gan Ddatblygiadau Annisgwyl Mawr

224

Cyfanswm Unedau Fforddiadwy

3,070

6.121Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau lefel a chymysgedd priodol o dai fforddiadwy ym mhob datblygiad preswyl arfaethedig a gall hynny gynnwys rhent cymdeithasol a chanolradd a pherchentyaeth cost isel, yn ogystal â thai cydweithredol, a'r rhai sydd angen tai arbenigol, gan gynnwys ar gyfer pobl hŷn.

GOFYNION TAI FFORDDIADWY

6.122Fel rhan o'r gwaith o baratoi Cynllun Adneuo'r CDLlN, mae'r Cyngor wedi cynnal adolygiad o bolisïau tai fforddiadwy CDLl Bro Morgannwg sydd wedi’u mabwysiadu ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio gwerthoedd tir wedi'u diweddaru, costau adeiladu (gan gynnwys costau sy'n gysylltiedig â darparu anheddau sero net) a'r data prisiau tai diweddaraf, a phrofi amrywiaeth o feintiau tai a theipolegau datblygu ar draws y 5 ardal marchnad dai y cytunwyd arnynt ym Mro Morgannwg.

6.123Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod polisïau tai fforddiadwy presennol y Cyngor yn parhau i fod yn hyfyw yn ariannol, gyda datblygiadau newydd yn gallu cefnogi cyfraniadau tai fforddiadwy ar y safle o 30% yn ardal marchnad dai y Barri, 35% yn Llanilltud Fawr, y Rhws a Sain Tathan ar safleoedd preswyl a defnydd cymysg gan arwain at gynnydd net o 5 annedd. Ym Mhenarth, Dinas Powys a Sili ac yn y Prif Aneddiadau a’r Aneddiadau Gwledig Bach, bydd angen i ddatblygiad newydd ddarparu 40% o dai fforddiadwy gan gynhyrchu cynnydd net o 1 neu fwy o anheddau; a datblygiadau sy'n cynnwys naill ai isrannu anheddau presennol neu addasu adeiladau presennol, pan fo'r rhain yn arwain at gynnydd net o 2 neu fwy o anheddau. Mae cynigion sy'n ymwneud ag addasu adeiladau gwledig presennol wedi'u heithrio o'r gofynion tai fforddiadwy.

6.124Yn unol â hynny, mae Polisi Strategol 8 yn nodi gofynion y Cyngor ar gyfer darparu tai fforddiadwy yn unol â chanfyddiadau arfarniad hyfywedd y Fro gyfan. Bydd y gofynion hyn yn berthnasol i bob cynnig o fewn ffiniau anheddiad amlinellol yr anheddiad perthnasol a grybwyllir, fel y dangosir ar y Map Cynigion. Mae rhagor o fanylion am yr aneddiadau a nodwyd fel Prif Aneddiadau ac Aneddiadau Gwledig Bach o fewn y polisi wedi'u nodi yn SP2 Hierarchaeth Aneddiadau.

6.125Y tu allan i'r ffiniau anheddiad amlinellol, bydd cynigion ar gyfer tai ychwanegol yn cael eu rheoli'n llym a’u cyfyngu i ddarpariaeth safleoedd ag eithriadau tai fforddiadwy, neu dai i gefnogi mentrau gwledig.

POLICY SP8 - GOFYNION TAI FFORDDIADWY Sylw

Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau preswyl (gan gynnwys cynlluniau defnydd cymysg) gyfrannu at fynd i'r afael ag anghenion tai fforddiadwy a dylent fodloni'r lefelau tai fforddiadwy a nodir isod:

Aneddiadau

Gofyniad Tai Fforddiadwy %

Trothwy Polisi

Y Barri

30%

Cynnydd net o 5 annedd

Y Rhws, Sain Tathan, Llanilltud Fawr

35%

Cynnydd net o 5 annedd

Penarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili, Y Bont-faen

40%

Cynnydd net o 1 annedd ar gyfer adeiladau newydd. Cynnydd net o 2 annedd ar gyfer addasu adeiladau presennol

Prif Aneddiadau ac Aneddiadau Gwledig Bach y tu allan i'r ardal twf strategol

40%

Cynnydd net o 1 annedd ar gyfer adeiladau newydd. Cynnydd net o 2 annedd ar gyfer addasu adeiladau presennol

Dyraniadau a arweinir gan dai fforddiadwy

50%

Yn unol â'r dyraniad

Bydd y ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei chytuno arni fesul safle gan ystyried tystiolaeth y datblygiad o hyfywedd.

Ar safleoedd o 5 annedd neu fwy, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu tai fforddiadwy ar y safle, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn cael eu dangos, gyda'r gofyniad yn cael ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyfan agosaf, gyda'r swm gweddilliol yn cael ei ddarparu fel cyfraniad ariannol cyfwerth.

Mewn amgylchiadau lle gwneir cyfraniad ariannol oddi ar y safle, bydd yr arian a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu tai fforddiadwy amgen ym Mro Morgannwg.

Pan fydd datblygwyr yn honni nad yw'r targed yn hyfyw, rhaid cyflwyno asesiad hyfywedd manwl a’i adolygu'n annibynnol.

6.126Gan ystyried canfyddiadau AFDL diweddaraf y Cyngor a thystiolaeth o hyfywedd, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod rhaniad deiliadaeth o dai fforddiadwy yn cael ei ddarparu ar y safle, sef 65% o dai rhent cymdeithasol a 35% o dai canolradd, a all fod naill ai'n dai rhent canolradd neu dai perchentyaeth cost isel ar yr amod eu bod yn bodloni diffiniad NCT 2 o Dai Fforddiadwy. Fodd bynnag, gellir ystyried y cymysgedd o ddeiliadaethau fesul achos lle mae tystiolaeth yn awgrymu bod cymysgedd dewisol y Cyngor yn amhriodol, na ellid ei gyflawni, neu fod y dystiolaeth o angen lleol yn awgrymu y byddai cymysgedd amgen yn fwy priodol.

6.127Mae’r Cyngor bob amser yn ffafrio darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle ond mae’n cydnabod y bydd y gofyniad ar safleoedd llai yn aml yn gyfystyr â llai nag anheddau cyfan. Mewn amgylchiadau o’r fath, o ystyried maint bychan y datblygiad, mae’n briodol gofyn am gyfraniad ariannol sy’n gymesur â’r gofyniad gweddilliol, y gellir ei gronni a’i ddefnyddio i gyflawni tai fforddiadwy oddi ar y safle. Nodir dull y Cyngor o ymdrin â chyfraniadau ariannol (symiau gohiriedig) yn fanylach yn y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) mabwysiedig ar Dai Fforddiadwy. Caiff symiau gohiriedig eu cyfrifo gan ddefnyddio cost gyfatebol darpariaeth ar y safle ac fe’u defnyddir i gynorthwyo datblygu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion hysbys.

6.128Lle dangosir bod amgylchiadau economaidd sicr sy’n effeithio ar ddarparu tai fforddiadwy e.e. pan fo amgylchiadau’r farchnad wedi newid neu pan fo gwerthoedd defnydd presennol yn atal rhag cyflawni’r targed polisi, gall y Cyngor drafod lefel, math, deiliadaeth a natur y ddarpariaeth ar y safle neu, lle y bo’n briodol, y ddarpariaeth oddi ar y safle. Mewn amgylchiadau lle byddai cyfraniad ariannol yn lle darparu tai fforddiadwy’n dderbyniol, y Cyngor fydd yn penderfynu at ba ddiben y byddai’n fwyaf priodol defnyddio’r arian hwn. Gallai hyn gynnwys darparu tai fforddiadwy ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu welliannau i dai fforddiadwy presennol, neu gallai alluogi’r Cyngor i ddefnyddio’r arian i ddarparu tai fforddiadwy yn yr ardaloedd â’r angen mwyaf.

6.129Defnyddir amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau cynllunio priodol i sicrhau bod y tai fforddiadwy a ddarperir drwy ddatblygiadau newydd yn aros yn fforddiadwy am byth. Nodir canllawiau manwl pellach ar weithredu’r polisi hwn yn CCA Tai Fforddiadwy’r Cyngor.

SAFLEOEDD A ARWEINIR GAN DAI FFORDDIADWY GWLEDIG

6.130Yn unol â'r polisi cynllunio cenedlaethol, mae strategaeth a pholisïau'r CDLlN yn ceisio gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys nodi safleoedd priodol a arweinir gan dai fforddiadwy a fydd yn darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy. Yn unol â hynny, mae Polisi HG4 yn nodi sawl safle sydd wedi'u lleoli o fewn Prif Aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol ac Aneddiadau Gwledig Bach sydd wedi bod yn destun arfarniadau hyfywedd safle-benodol lle dangoswyd y gall economeg datblygu'r safle gefnogi 50% o dai fforddiadwy.

HG4 - SAFLEOEDD A ARWEINIR GAN DAI FFORDDIADWY GWLEDIG

Mae'r safleoedd canlynol yn cael eu dyrannu fel safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy lle bydd gofyniad am ddarparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy y gymuned leol. Yn ogystal, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu cymysgedd o dai marchnad agored a fydd yn cyfrannu at anghenion marchnad dai penodol y gymuned.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut mae tai marchnad agored a thai fforddiadwy yn darparu ar gyfer anghenion tai lleol y gymuned o ran deiliadaeth, math a maint anheddau fel bod amrywiaeth o dai yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau yn y gymuned leol.

6.131Mae Polisi Cynllunio Cymru yn tynnu sylw at y ffaith y dylai awdurdodau cynllunio nodi safleoedd lle gallai fod angen ymyriadau i ddarparu'r cyflenwad tai. Mae hefyd yn pwysleisio bod yn rhaid bod nifer ddigonol o safleoedd sy'n addas ar gyfer “pob math o dai er mwyn diwallu anghenion dynodedig cymunedau... [a dylai awdurdodau cynllunio] hyrwyddo cymunedau deiliadaeth gymysg preswyl cynaliadwy gyda thai ‘dirwystr’, er enghraifft, tai sydd wedi’u hadeiladu’n unol â safonau Cartrefi Gydol Oes i alluogi pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am hirach [10]”.

6.132Yn unol â hynny, er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymateb i'r galw uchel am eiddo llai, fel y nodwyd yn yr AFDL, rhoddir blaenoriaeth i gartrefi fforddiadwy sy'n fach i ganolig, fel arfer yn cynnwys un i dair ystafell wely. Roedd sylwadau a dderbyniwyd gan y gymuned leol drwy broses y CDLlN hefyd yn tynnu sylw at awydd i ddatblygiadau tai newydd gynnig cyfleoedd i gael mynediad at gartrefi marchnad agored llai. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ardaloedd gwledig y Fro, lle mae dewisiadau tai yn fwy cyfyngedig. Gall darparu cartrefi marchnad agored llai, mwy fforddiadwy helpu prynwyr tro cyntaf a galluogi preswylwyr hŷn i leihau i eiddo mwy hwylus yn eu hardal leol. Felly, bydd angen i safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy ddangos bod amrywiaeth briodol o anheddau fforddiadwy a marchnad agored wedi'u darparu.

6.133Bydd yn ofynnol i safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy ddarparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy, wedi'u sicrhau trwy gytundeb Adran 106. Ni fydd cynigion sy'n darparu llai na 50% o dai fforddiadwy yn dderbyniol, gan fod dyrannu'r safleoedd hyn wedi'i fwriadu'n benodol i ddiwallu anghenion a nodwyd mewn wardiau gwledig a fyddai fel arall yn anodd mynd i'r afael â nhw. Fodd bynnag, bydd cynigion sy'n darparu mwy na 50% o dai fforddiadwy, gan gynnwys lle mae'r safle yn cael ei gyflwyno gan ddarparwr tai cymdeithasol, yn cael eu cefnogi. Ym mhob achos, bydd unedau tai fforddiadwy ar safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy gwledig yn ddarostyngedig i bolisi gosod tai lleol i sicrhau eu bod ar gael i breswylwyr sydd â chysylltiad lleol yn y feddiannaeth gychwynnol a'r feddiannaeth ddilynol.

EITHRIADAU TAI FFORDDIADWY

6.134Mae'r AFDL yn tynnu sylw at y ffaith bod anghenion tai fforddiadwy yn bodoli ar draws yr awdurdod cyfan, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig, lle mae cyfle mwy cyfyngedig i ddarparu tai fforddiadwy o fewn ffiniau anheddiad diffiniedig. Er mwyn helpu i ddiwallu'r angen penodol hwn am dai gwledig, bydd y Cyngor yn cefnogi cynigion ar gyfer tai lleol fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig ar dir na fyddai fel arfer yn dderbyniol ar gyfer datblygu tai lle bodlonir y darpariaethau a gynhwysir ym Mholisi HG5.

HG5 - SAFLEOEDD AG EITHRIADAU TAI FFORDDIADWY Sylw

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy 100% ar raddfa fach yn cael eu caniatáu y tu allan i ffiniau anheddiad lle:

  1. Mae gan y cynnig berthynas ffisegol neu weledol amlwg ag anheddiad diffiniedig y tu allan i'r Ardal Twf Strategol fel y nodir ym Mholisi SP2 ar Hierarchaeth Aneddiadau.
  2. Mae'r cynnig yn diwallu angen lleol a nodwyd na ellir ei ddiwallu o fewn ffiniau anheddiad a nodwyd;
  3. Byddai safle’r cynnig yn cynrychioli estyniad rhesymegol o'r anheddiad ac ni fyddai angen isrannu safle mwy mewn modd mympwyol;
  4. Mae'r datblygiad ar raddfa sy'n gydnaws â chynllun, dwysedd, gwead a golwg yr anheddiad presennol;
  5. Bydd yr annedd/anheddau arfaethedig o faint, deiliadaeth a dyluniad sy'n gymesur â'r angen a nodwyd am dai fforddiadwy, gan ystyried y tai fforddiadwy sydd eisoes wedi'u cynllunio yn yr ardal marchnad dai;
  6. Nid oes unrhyw dir sydd â gwerth hamdden, amwynder, amaethyddol neu dreftadaeth naturiol sylweddol yn cael ei golli; ac
  7. Mae mecanweithiau diogel ar waith i sicrhau y bydd yr eiddo yn parhau i fod yn fforddiadwy am byth ac ar gael yn unol â pholisi gosod tai lleol y Cyngor.

6.135Wrth geisio darparu cymunedau cynaliadwy, mae Strategaeth y CDLlN yn cyfeirio tai newydd i aneddiadau o fewn yr Ardal Twf Strategol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen tai fforddiadwy ar draws yr awdurdod cyfan, gan gynnwys o fewn wardiau mewn ardaloedd mwy gwledig y tu allan i'r Ardal Twf Strategol. Mae'r polisi hwn yn galluogi datblygu tai fforddiadwy ar raddfa fach yn yr ardaloedd hyn fel 'eithriadau' i bolisïau tai cyffredinol y CDLlN.

6.136Mae Polisi HG5 ond yn berthnasol i gynigion sy'n ymwneud ag aneddiadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Ardal Twf Strategol ac a nodwyd yn benodol yn yr Hierarchaeth Aneddiadau o dan Bolisi SP2. Mae hyn yn cynnwys Aneddiadau Gwledig Bach a Phrif Aneddiadau Gwenfô, Croes Cwrlwys, a’r Wig. Ni fydd safleoedd ag eithriad yn cael eu cefnogi mewn aneddiadau gwledig llai neu bentrefannau heb ffin anheddiad ddiffiniedig, gan nad oes gan y lleoliadau hyn yn gyffredinol y gwasanaethau a'r cyfleusterau angenrheidiol i gefnogi datblygiad newydd. Ni fydd safleoedd ag eithriad ychwaith yn cael eu cefnogi o fewn yr Aneddiadau Allweddol, yr Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth, a’r Prif Aneddiadau sydd wedi'u lleoli o fewn yr Ardal Twf Strategol, gan fod yr aneddiadau mwy hyn fel arfer yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddarparu tai fforddiadwy trwy safleoedd a ddyrannwyd a datblygiadau annisgwyl o fewn ffiniau anheddiad diffiniedig.

6.137Mae Polisi HG4 yn darparu ar gyfer safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy mewn lleoliadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol. Mae'r safleoedd hyn, sy'n cael eu dyrannu ar gyfer o leiaf 50% o dai fforddiadwy, wedi'u cynnwys o fewn ffin yr anheddiad. Mae safleoedd ag eithriad, fodd bynnag, wedi'u lleoli y tu allan i ffin yr anheddiad a disgwylir iddynt ddarparu 100% o dai fforddiadwy. Dim ond yn yr amgylchiadau hyn y mae datblygiad y tu allan i ffin yr anheddiad yn cael ei gyfiawnhau ar sail angen am dai fforddiadwy. Felly, ni fydd cynigion sy'n cynnwys tai marchnad agored fel modd o alluogi anghenion tai lleol fel arfer yn cael eu cefnogi, gan y disgwylir y bydd pob cynllun tai anghenion lleol yn cael ei ddarparu heb yr angen am groes-gymhorthdal marchnad.

6.138Mae'r polisi hwn yn berthnasol i ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer anghenion cyffredinol a thai fforddiadwy arbenigol, megis tai i bobl hŷn, cynlluniau gofal ychwanegol, neu fyw â chymorth, lle gellir dangos y bydd y datblygiad yn parhau i fod yn fforddiadwy am byth.

6.139At ddibenion y polisi hwn, bydd 'ar raddfa fach' yn gyffredinol yn golygu dim mwy na 10 annedd ar safleoedd sy'n ffinio ag Aneddiadau Gwledig Bach. Mewn Prif Aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, gall cynigion ar gyfer mwy na 10 annedd fod yn dderbyniol lle bo angen er mwyn diwallu angen penodol a lle bo nifer yr anheddau yn gymesur â maint yr anheddiad. Wrth asesu graddfa a maint unrhyw dai anghenion lleol arfaethedig, dylid ystyried tai fforddiadwy sydd eisoes wedi'u cynllunio yn y ward neu'r ardal gyfagos, gan gynnwys safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio presennol a'r rhai a ddyrannwyd yn y CDLlN. Dylai maint a math y tai fforddiadwy a gynigir adlewyrchu'r angen lleol a nodwyd yn yr ardal.

6.140Wrth ystyried addasrwydd safle, mae Polisi HG5 yn ei gwneud yn ofynnol bod ffiniau'r safle yn dilyn ffiniau presennol; ni dderbynnir isrannu safleoedd mewn modd mympwyol. Yn yr un modd, ni fydd safleoedd mawr sy'n fwriadol isel o ran dwysedd i fodloni'r diffiniad o dai ar raddfa fach yn cael eu cefnogi. Rhaid i ddwyseddau datblygiad gyd-fynd â'r isafswm gofynnol a nodir ym Mholisi PGD2: Dwyseddau Datblygiad Preswyl.

6.141Yn gyffredinol, bydd y Cyngor yn gofyn i dai fforddiadwy gael eu darparu gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, y Cyngor, neu'r gymuned ei hun – er enghraifft, trwy ymddiriedolaeth tir cymunedol. Ar gyfer datblygiadau a gynigir gan ddatblygwyr preifat, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i’r annedd/anheddau barhau i fod yn fforddiadwy am byth. Bydd hyn yn cael ei sicrhau trwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol, a fydd yn capio gwerth ailwerthu'r eiddo ar lefel fforddiadwy. Mae hyn yn sicrhau bod yr annedd o ddyluniad a graddfa sy'n parhau i fod yn fforddiadwy i'r gymuned ehangach.

6.142Bydd angen polisi gosod tai lleol fel rhan o gytundeb cyfreithiol i sicrhau bod gan feddianwyr cychwynnol a meddianwyr dilynol gysylltiad lleol â'r ardal, gan helpu i gynnal cymunedau cynaliadwy, integredig.

TAI ARBENIGOL

HG6 – DARPARIAETH LLETY ARBENIGOL Sylw

Bydd y Cyngor yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu llety arbenigol i ddiwallu anghenion tai amrywiol poblogaeth Bro Morgannwg. Bydd cynigion ar gyfer tai arbenigol yn cael eu cefnogi lle:

1 Mae'r datblygiad yn ymateb i angen lleol a nodwyd, fel y dangosir gan yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (AFDL) diweddaraf, y Strategaeth Tai Pobl Hŷn, neu asesiadau anghenion perthnasol eraill;

2 Mae'r llety wedi'i gynllunio'n briodol i ddiwallu anghenion penodol y preswylwyr arfaethedig, gan gynnwys pobl hŷn, pobl ag anableddau, y rhai ag anghenion iechyd meddwl, a grwpiau agored i niwed eraill;

3 Mae'r datblygiad wedi'i leoli mewn lleoliad hygyrch a chynaliadwy, gyda mynediad da i drafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau iechyd, ac amwynderau lleol;

4 Mae'r datblygiad yn sicrhau integreiddio â'r gymuned ehangach ac yn hyrwyddo cymunedau cynhwysol, cymysg; ac

5 Mae'n cynnwys lefelau priodol o ofal a chymorth, lle bo angen, naill ai ar y safle neu drwy wasanaethau lleol sefydledig;

6.143Mae darparu llety arbenigol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod anghenion tai yr holl breswylwyr ym Mro Morgannwg yn cael eu diwallu, yn enwedig y rhai sydd angen cymorth wedi'i deilwra oherwydd oedran, anabledd, neu wendidau eraill. Mae poblogaeth y Fro yn heneiddio, ac mae nifer y preswylwyr sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cynyddu.

6.144Mae llety arbenigol yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, tai gofal ychwanegol, cynlluniau byw â chymorth, cartrefi hygyrch i gadeiriau olwyn, a thai gyda gwasanaethau gofal integredig. Mae'r mathau hyn o dai yn galluogi unigolion i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach, lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a chyfrannu at greu cymunedau cynhwysol a gwydn. Bydd darparu tai arbenigol i'r rhai sydd eu hangen hefyd yn helpu i ryddhau tai anghenion cyffredinol i aelwydydd eraill.

6.145Mae lleoli llety arbenigol mewn ardaloedd hygyrch gyda chysylltiadau trafnidiaeth da ac agosrwydd at wasanaethau hanfodol yn hollbwysig i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cynnal annibyniaeth a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol. Mae Strategaeth Tai Pobl Hŷn y Cyngor, Creu Cartrefi a Chymdogaethau yn Ddiweddarach mewn Bywyd 2022-36, yn gosod gweledigaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg sef: “Sicrhau’r ansawdd bywyd gorau ar gyfer pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl yn ddiweddarach mewn bywyd. Golyga hyn ddarparu amrywiaeth o lety sy’n galluogi pobl hŷn i fyw bywydau boddhaus a mwynhau iechyd da mewn cartrefi deniadol sy’n diwallu eu hanghenion ac yn caniatáu iddynt gadw eu hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio.” Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu yn Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bro Oed-Gyfeillgar.

6.146Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, darparwyr gofal, a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno cynlluniau priodol. Fodd bynnag, byddai'r polisi hwn hefyd yn berthnasol i ddarparu unrhyw gynlluniau llety arbenigol preifat. Bydd disgwyl i gynigion ddangos sut maent yn ymateb i anghenion lleol a nodwyd a chydymffurfio â safonau dylunio a hygyrchedd perthnasol.

TAI AMLFEDDIANNAETH

6.147Mae tai amlfeddiannaeth yn eiddo sy'n cael eu meddiannu gan aelwydydd nad ydynt yn gysylltiedig sy'n rhannu un neu fwy o gyfleusterau fel ystafell ymolchi neu gegin. Gall tai amlfeddiannaeth ddarparu llety defnyddiol, ond mewn llawer o achosion nid oedd yr eiddo a'r ardaloedd y maent ynddynt wedi'u cynllunio'n wreiddiol ar gyfer defnydd preswyl mor ddwys.

6.148Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd uwch yn nifer y tai amlfeddiannaeth yn rhannau trefol y Fro, yn enwedig yn y Barri, a disgwylir y bydd y niferoedd yn cynyddu ymhellach oherwydd yr argyfwng tai a'r galw cynyddol am lety person sengl. Gall gor-grynodiad o dai amlfeddiannaeth mewn ardal newid ei chymeriad, cymysgedd poblogaeth a chynyddu'r galw am gyfleusterau a gwasanaethau ac effeithio ar amwynder preswyl.

6.149Yn unol â hynny, mae Polisi HG6 yn ceisio rheoli cynigion ar gyfer addasu adeiladau neu newid defnydd eiddo preswyl presennol mewn modd sy'n gynaliadwy ac nad yw'n arwain at grynodiadau niweidiol o dai amlfeddiannaeth, gan sicrhau nad yw amwynder preswyl a'r amgylchedd yn cael eu heffeithio'n andwyol.

HG7 - TAI AMLFEDDIANNAETH Sylw

Caniateir cynigion ar gyfer newid o Ddosbarth Defnydd C3 (anhedd-dy) i C4 (Tai Amlfeddiannaeth) neu Sui Generis (Tŷ Amlfeddiannaeth mawr gyda mwy na chwech o bobl), neu ddwysáu'r defnydd o C4 i Sui Generis, neu adeiladu tŷ amlfeddiannaeth newydd dim ond lle:

  1. Na fyddai tai amlfeddiannaeth yn cynrychioli 10% neu fwy o eiddo preswyl o fewn radiws o 50 metr i eiddo'r cais, neu lle mae eiddo’r cais yn gwthio’r crynodiad i 10% neu fwy;
  2. Na fyddai'n arwain at unrhyw eiddo preswyl (defnydd C3) yn cael ei 'frechdanu' rhwng dau dŷ amlfeddiannaeth;
  3. Ar strydoedd bach, ni fydd cynigion yn cael eu cefnogi lle byddai'n creu gor-grynodiad anghymesur o dai amlfeddiannaeth;
  4. Byddai graddfa a dwysedd y defnydd yn gydnaws â'r adeilad presennol a'r defnyddiau cyfagos.

Bydd cynigion tai amlfeddiannaeth a fyddai'n arwain at dorri'r trothwyon uchod ond yn cael eu caniatáu os oes amgylchiadau eithriadol neu ystyriaethau perthnasol eraill sy'n amlwg yn gorbwyso unrhyw bryderon ynghylch crynodiadau tai amlfeddiannaeth.

6.150Mae Polisi HG7 yn berthnasol i newid defnydd annedd bresennol i naill ai dŷ amlfeddiannaeth bach o hyd at chwech o bobl, sydd o fewn Dosbarth Defnydd C4, neu dŷ amlfeddiannaeth mawr gyda mwy na chwech o bobl (sui generis). Mae hefyd yn berthnasol i dai amlfeddiannaeth presennol lle mae'r defnydd yn dwysáu (er enghraifft trwy ymestyn tŷ amlfeddiannaeth i chwech neu lai o bobl i ddarparu ar gyfer mwy na chwech o bobl, gan y byddai hyn yn newid defnydd o C4 i sui generis). Mae'r polisi hefyd yn berthnasol i dai amlfeddiannaeth sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd, waeth beth fo'u maint.

6.151Mae'r polisi yn diffinio trothwyon y byddai crynodiad uwchlaw hynny o dai amlfeddiannaeth yn cael ei ystyried i fod yn grynodiad andwyol. Mae hyn yn cynnwys y 'prawf brechdan', sy'n ceisio atal datblygu tai amlfeddiannaeth newydd os byddai'n arwain at eiddo preswyl yn cael ei frechdanu rhwng dau dŷ amlfeddiannaeth cyfagos sy'n wynebu’r un ffordd, a 'phrawf radiws' sy'n gosod y lefel uchaf o dai amlfeddiannaeth o fewn radiws 50 metr ar 10% o'r holl aelwydydd. Cyfrifir y radiws 50 metr o bwynt canolog safle’r cais a byddai'n cynnwys unrhyw eiddo preswyl mewn dosbarth defnydd C3, C4 neu sui generis (Tŷ Amlfeddiannaeth mawr) y mae ei gwrtil o fewn radiws 50 metr.

6.152Mae rhai ardaloedd sy'n cynnwys strydoedd bach lle byddai crynodiad tai amlfeddiannaeth o bosibl yn cael effaith fwy niweidiol. Ar strydoedd â 10 neu lai o anheddau ar draws dwy ochr y stryd, ystyrir bod 2 dŷ amlfeddiannaeth yn derfyn priodol y byddai niwed yn cael ei achosi uwchlaw’r terfyn hwnnw. Ar strydoedd bach â rhwng 11 a 34 o anheddau, dylid cyfyngu tai amlfeddiannaeth i ddim mwy nag 20% o eiddo preswyl ar y stryd (ar draws dwy ochr y stryd). Byddai angen i gynigion ar strydoedd sydd â 35 neu fwy o eiddo fodloni maen prawf 1 a 2 yn unig.

6.153Rhaid i'r adeilad a gynigir i'w addasu fod yn addas i'w ddefnyddio fel tŷ amlfeddiannaeth heb fod angen estyniadau neu newidiadau sylweddol a fyddai'n newid ei gymeriad neu ei olwg. Rhaid i'r addasiad fod yn gydnaws â'r adeilad a'r ardal gyfagos o ran dwysedd a graddfa, gan y gall adeiladau gorlawn arwain at safonau byw is. Er mwyn atal amodau byw cyfyng, disgwylir i gynigion tai amlfeddiannaeth ddilyn y Safonau Gofod a nodir yn Safonau Diogelwch Tân ac Amwynder Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth (2014) y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, ni waeth a oes angen trwydded ar yr eiddo o dan y Ddeddf Tai.[11] Rhaid i dai amlfeddiannaeth hefyd ddarparu gofod amwynder preifat priodol, yn unol â'r safonau a nodir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Datblygiadau Preswyl a Deiliaid Tai mabwysiedig y Cyngor.

6.154Efallai y bydd rhai amgylchiadau eithriadol lle mae tŷ amlfeddiannaeth arfaethedig yn fwy nag un neu fwy o'r trothwyon a nodwyd ond lle mae ystyriaethau eraill yn gorbwyso'r gor-grynodiad posibl, neu efallai y bydd angen dull mwy hyblyg. Gall hyn gynnwys amgylchiadau lle mae eiddo yn eiddo gwag hirdymor, ac mae'n annhebygol y byddai defnydd C3 yn cael ei ddwyn ymlaen yn rhinwedd natur yr adeilad neu hyfywedd. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen datganiad sy'n nodi cyfiawnhad cadarn dros gynnig tŷ amlfeddiannaeth. Dylai hyn gynnwys tystiolaeth farchnata sy'n dangos bod yr eiddo wedi'i hysbysebu i'w werthu fel annedd breswyl am bris rhesymol am o leiaf 12 mis.

ADDASU AC ADNEWYDDU ADEILADAU GWLEDIG

HG8 - ADDASU AC ADNEWYDDU ADEILADAU GWLEDIG Sylw

Bydd cynigion ar gyfer addasu neu adnewyddu adeiladau gwledig presennol at ddefnydd menter wledig, twristiaeth, cymunedol neu breswyl yn dderbyniol lle:

1 Na fyddai addasu adeilad gwledig presennol yn achosi’r angen am adeilad newydd; a

2 Gellir ailddefnyddio heb ailadeiladu, ymestyn neu newid sylweddol sy'n effeithio'n annerbyniol ar olwg a chymeriad gwledig yr adeilad neu ei leoliad

Bydd cynigion ar gyfer addasu neu adnewyddu adeiladau gwledig presennol yn cael eu caniatáu dim ond lle:

3 Mae'r adeilad wedi'i farchnata'n briodol ar gyfer defnyddiau eraill megis arallgyfeirio ffermydd, busnes, cymuned, twristiaeth, neu ddefnyddiau hamdden a dangoswyd nad yw defnyddiau amgen o'r fath yn hyfyw;

4 Mae'r adeilad yn hygyrch trwy drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, a llwybrau Teithio Llesol diogel; ac

5 Mae lleoliad yr adeilad yn gynaliadwy o ran mynediad at wasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol.

Er mwyn sicrhau bod cymeriad a golwg yr adeilad yn cael ei gadw yn y tymor hir, gall y Cyngor geisio tynnu'n ôl hawliau datblygiad a ganiateir i gyfyngu ar estyniadau neu newidiadau i'r eiddo yn y dyfodol.

6.155Gyda newidiadau mewn arferion ffermio, nid oes angen llawer o adeiladau gwledig mwyach ar gyfer eu diben gwreiddiol. Yn ardaloedd gwledig y Fro, mae rhai o’r adeiladau hyn yn ychwanegu at gymeriad cefn gwlad a hynodrwydd lleol. Lle y bo’n bosibl, mae’r Cyngor yn dymuno gweld adeiladau gwledig, yn enwedig y rhai hynny sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, yn cael eu cadw. Byddai’n well gan y Cyngor i’r adeiladau hyn gael eu datblygu ar gyfer defnyddiau amgen sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at economi wledig Bro Morgannwg yn unol â pholisi cenedlaethol.

6.156I sicrhau bod addasiadau’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr economi wledig, mae Maen Prawf 3 yn gofyn i gynigion ar gyfer defnydd preswyl gael eu cefnogi gan dystiolaeth farchnata briodol i ddangos bod yr adeilad wedi’i farchnata ar gyfer defnyddiau amgen eraill am 12 mis o leiaf gan asiant eiddo lleol. Gallai gwybodaeth gan yr asiant neu’r ymgeisydd ynghylch galw am ddefnyddiau amgen fod ar ffurf adroddiad marchnata neu ohebiaeth gan yr asiant eiddo perthnasol. Dylai’r math o wybodaeth sy’n cael ei chadw gynnwys y canlynol:

  • Hyd y cyfnod nad yw’r adeilad gwledig wedi’i ddefnyddio at ddibenion amaethyddol;
  • Y mathau o ddefnyddiau y mae’r adeilad gwledig wedi’i farchnata ar eu cyfer, beth oedd yn rhan o’r strategaeth farchnata a’i hyd; a
  • Faint o ddiddordeb oedd yn yr adeilad gwledig yn ystod y cyfnod marchnata – dylai hyn roi manylion am nifer yr ymholiadau, y math o ddefnyddiau a geisiwyd, ac os yw’n hysbys, y rheswm am beidio â dilyn ymholiadau cychwynnol.

6.157Er gwaethaf y dewisiadau hyn, mae’r cynigion mwyaf cyffredin ym Mro Morgannwg ar gyfer addasu adeiladau gwledig traddodiadol ar gyfer defnydd preswyl. Gall y fath gynigion arwain at batrwm gwasgaredig o anheddau sy’n achosi teithiau newydd a hwy i aneddiadau a gwasanaethau a rhoi pwysau ychwanegol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol yn aml mewn lleoliadau ynysig. Mae Maen Prawf 4 felly yn nodi y bydd defnydd preswyl ond yn dderbyniol mewn lleoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n gyfleus gan drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd ac sydd â llwybrau diogel a hygyrch i gerddwyr a beiciau sy'n eu cysylltu â gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Bydd hyn yn sicrhau na fyddai datblygiad yn arwain at feddianwyr yn dibynnu’n ormodol ar gerbyd modur preifat.

6.158Mewn lleoliadau gwledig sy’n fwy ynysig lle na fyddai datblygiad preswyl fel arall yn dderbyniol, bydd cynigion am addasiadau preswyl yn gyfyngedig i lety i dwristiaid a chaiff amodau meddiannaeth eu gorfodi er mwyn atal meddiannaeth breswyl hirdymor.

6.159Nid yw pob adeilad gwledig o reidrwydd yn addas i'w addasu, a dylid ystyried y pwyntiau canlynol wrth benderfynu a ddylid addasu adeilad yng nghefn gwlad i ddefnydd preswyl. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol.

  • Dim ond adeiladau o faint digonol i ddarparu ar gyfer y defnydd amgen arfaethedig fydd yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Ar gyfer addasiadau preswyl, rhaid i adeiladau fod ag isafswm ôl troed o 40m² ac ni ddylai fod angen estyniadau i fodloni'r gofynion maint angenrheidiol.
  • Ni chaniateir addasu strwythurau dros dro.
  • Ni chaniateir addasiadau preswyl i adeiladau a gafodd ganiatâd cynllunio fel strwythurau newydd ar gyfer defnydd arall, gan y byddai caniatâd o'r fath wedi bod yn seiliedig ar yr adeilad yn parhau â'r un defnydd â'r un a ddisodlodd.

6.160Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i leoliad adeiladau gwledig wrth eu haddasu ac ni cheir cynnwys estyniadau na newidiadau a fyddai’n newid cymeriad yr adeilad yn ei hanfod gan gynnwys ei leoliad yn y dirwedd wledig. Bydd unrhyw waith ailfodelu sylweddol o’r adeilad ei hun neu ei leoliad mewn modd na fyddai’n cynnal nac yn gwella ei gymeriad gwledig presennol, yn annhebygol o gael ei ystyried yn ffafriol. Pan roddir caniatâd, bydd y Cyngor yn tynnu hawliau datblygiad a ganiateir yn ôl i gyfyngu ar estyniadau neu newidiadau i'r eiddo yn y dyfodol i sicrhau bod cymeriad a golwg yr adeilad yn cael ei gadw yn y tymor hir.

6.161Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Canllaw Cynllunio Atodol ar Addasu Adeiladau Gwledig, sy'n nodi'r ystyriaethau wrth gynnig defnyddiau amgen i adeiladau gwledig.

ANHEDDAU AMNEWID, ESTYNIADAU PRESWYL A RHANDAI YNG NGHEFN GWLAD

6.162Mae anheddau amnewid, estyniadau preswyl a darpariaeth llety atodol yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r holl ddatblygiadau newydd yn y Fro. Mewn lleoliad cefn gwlad, mae'n bwysig bod cynigion o'r fath wedi'u dylunio'n dda gan y gall cynigion rhy fawr a gwael niweidio cymeriad yr eiddo a'r dirwedd leol, yn unigol ac yn gronnol. Mae Polisi HG9 yn nodi'r meini prawf ar gyfer asesu penderfyniadau ar gynigion o'r fath mewn lleoliad cefn gwlad.

HG9 - ANHEDDAU AMNEWID, ESTYNIADAU PRESWYL A RHANDAI YNG NGHEFN GWLAD Sylw

Caniateir cynigion ar gyfer disodli annedd bresennol yng nghefn gwlad lle:

  1. Byddai'r cynnig yn cydymffurfio â gofynion Polisi CC2 - Rhagdybiaeth yn erbyn Dymchwel;
  2. Mae gan yr annedd ddefnydd preswyl cyfreithiol sefydledig;
  3. Na fyddai’n arwain at golli annedd sy’n cyfrannu’n sylweddol at gymeriad gwledig yr ardal, oni bai y gellir dangos yn gyntaf bod yr adeilad yn saernïol simsan, a bod atgyweiriadau’n economaidd anhyfyw;
  4. Na fyddai’r cynnig yn gweddu â’r amgylchedd adeiledig a naturiol cyfagos, oherwydd ei raddfa, ei leoliad, ei ddyluniad, ei ddeunyddiau, ei dirweddu a’i olwg allanol, ac na fyddai’n cael unrhyw effaith sylweddol fwy ar y dirwedd; ac
  5. Mae'r annedd arfaethedig o fewn cwrtil presennol yr anhedd-dy gwreiddiol ac nid oes angen estyniad annerbyniol i'r cwrtil preswyl presennol.

Caniateir estyniadau i anheddau yng nghefn gwlad, os na fydd yr estyniad arfaethedig:

  1. Yn anghymesur o ran maint o’i gymharu â’r annedd gwreiddiol;
  2. Yn effeithio mewn modd annerbyniol ar gymeriad yr annedd presennol neu ei gyfraniad at gymeriad gwledig; nac
  3. Yn cael effaith sylweddol fwy ar y dirwedd.

Caniateir cynigion ar gyfer rhandai preswyl lle byddai'r rhandy:

  1. Yn dibynnu'n rhannol ar y brif annedd ar gyfer cyfleusterau;
  2. Yn gallu dychwelyd i ran o'r brif annedd unwaith y bydd yr angen am y rhandy wedi mynd;
  3. Yn dderbyniol o ran maint a graddfa ac yn amlwg yn ategol ac yn weledol israddol i'r brif annedd;
  4. Wedi'i leoli o fewn cwrtil presennol y brif annedd ac ni chynigir gardd ar wahân, mynedfa i gerbydau, neu faes parcio ar wahân; ac
  5. O fewn yr un perchnogaeth â'r prif eiddo gyda meddiannaeth yn y dyfodol yn gysylltiedig â pherchnogaeth lesiannol y brif annedd trwy gyfrwng amod, cytundeb A106 neu Ymgymeriad Unochrog.

6.163Dylid ystyried cynigion ar gyfer anheddau amnewid yn ofalus bob amser. Mewn llawer o achosion, bydd yr adeilad presennol yn addas i'w gadw, ei ymestyn a'i addasu, a dylid ei gadw yn unol â Pholisi CC3 ar y rhagdybiaeth yn erbyn dymchwel. Mae Polisi CC3 yn nodi y gellir cyfiawnhau adeilad newydd ar sail cadernid strwythurol lle na fyddai'n ymarferol nac yn ariannol hyfyw ailddefnyddio'r adeilad presennol, neu lle gellir cyfiawnhau y gellid cyflawni manteision mewn perthynas â lleihau carbon ymgorfforedig a gwella effeithlonrwydd thermol o'i gymharu â'r annedd wreiddiol.

6.164Lle gellir cyfiawnhau adeilad newydd o dan Bolisi CC3, rhaid dangos hefyd bod gan yr annedd wreiddiol ddefnydd sefydledig ac nad yw’n wag. Bydd disodli annedd na all ddangos defnydd preswyl parhaus yn cael ei drin fel cynnig ar gyfer annedd newydd. Disgwylir y bydd unrhyw annedd amnewid wedi'i lleoli o fewn cwrtil yr eiddo presennol ac ni ddylai arwain at estyniad annerbyniol o'r cwrtil hwnnw.

6.165Disgwylir y bydd adeiladu annedd newydd yn lle hen un yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd lleol ac na fydd yn cael unrhyw effaith sylweddol fwy ar y dirwedd na’r annedd y mae’n ei disodli. Yn hyn o beth, ni ddylai’r annedd newydd fod yn anghymesur o ran maint i’r annedd y mae’n ei disodli, nac ychwaith fod ar raddfa a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar gymeriad preswyl eiddo yn yr ardal. Hefyd, dylai dyluniad a deunyddiau allanol yr annedd newydd weddu â’r amgylchedd lleol. Yn ogystal, gellir gosod amodau cynllunio er mwyn cyfyngu ar hawliau datblygiad a ganiateir ynghylch estyniadau a newidiadau ychwanegol. Bwriedir hyn er mwyn galluogi’r Cyngor i gadw rheolaeth dros estyniadau a newidiadau bychain yn y dyfodol i’r annedd newydd sydd angen bod yn sensitif o ystyried y lleoliad gwledig.

6.166Mae gan estyniadau i anheddau presennol yng nghefn gwlad y potensial i newid cymeriad annedd yn sylweddol a chynyddu effaith ffisegol datblygiad ar y dirwedd. Caiff estyniadau o’r fath eu rheoli’n llym o ran eu graddfa, dyluniad a golwg i adlewyrchu eu lleoliad gwledig, ac mae’r polisi yn ceisio cadw cymeriad gwledig anheddau a lliniaru effaith ffisegol estyniadau o’r fath ar y dirwedd gyfagos.

6.167Cynigir rhandai preswyl yn gyffredinol i ganiatáu i aelodau o'r teulu fyw gyda'u teulu, gyda rhywfaint o annibyniaeth. Gallai hyn fod yn berthynas oedrannus neu agored i niwed neu aelod iau o'r aelwyd, sy'n dymuno aros gartref neu ddychwelyd adref. Gall rhandai hefyd ddarparu llety i weithiwr yn yr annedd, i gynnig rhywfaint o annibyniaeth o fewn yr aelwyd. Yn hyn o beth, mae rhandy preswyl yn ategol i'r brif annedd o fewn y cwrtil preswyl, yn yr un modd ag y byddai estyniad i'r annedd, ac felly bydd angen i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig i esbonio beth yw pwrpas y rhandy, gan bwy y bydd yn cael ei ddefnyddio a'u perthynas â phreswylwyr y prif dŷ.

6.168Bydd y cynllun, y dyluniad a'r berthynas ffisegol rhwng y tŷ a'r rhandy arfaethedig yn ystyriaethau pwysig wrth benderfynu ar gynigion, yn ogystal â maint a graddfa'r llety i'w ddarparu. Yn hyn o beth, rhaid i randai gael eu dylunio a'u defnyddio mewn ffordd sy'n sicrhau eu bod yn ategol i'r annedd bresennol ac na ellir eu defnyddio fel annedd annibynnol; yn llai o ran graddfa na'r annedd bresennol; a rhaid iddynt rannu'r un ardd, maes parcio a mynedfa â'r brif annedd. Ni ddylai llety preswyl ategol fod â'r amrywiaeth lawn o gyfleusterau neu gael ei gynllunio yn y fath fodd a fyddai'n ei alluogi i gael ei feddiannu fel annedd annibynnol. Dylai cynigion gael eu cynllunio i adlewyrchu'n llym anghenion hanfodol a nodwyd y preswylydd.

6.169Er mwyn sicrhau bod rhandai yn aros fel y cyfryw ac nad ydynt yn cael eu gwerthu, eu gosod neu eu defnyddio fel anheddau annibynnol, bydd meddiannaeth yn cael ei gyfyngu drwy amod neu rwymedigaeth gynllunio. Bydd defnyddio amodau o'r fath yn sicrhau nad yw rhandai'n cael eu defnyddio fel anheddau mewn lleoliadau fel yng nghefn gwlad lle byddai annedd newydd fel arall yn cael ei ganiatáu o dan bolisi arferol y CDLlN.

LLETY SIPSIWN A THEITHWYR (STh)

SP9 - DARPARIAETH SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR Sylw Gweld map Gypsy and Traveller Site (1) / Safle Sipsiwn a Theithwyr (1)

Er mwyn diwallu'r angen a nodwyd am Lety Sipsiwn a Theithwyr ac i ganiatáu ar gyfer ehangu posibl aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr yn y dyfodol, dyrennir y safle canlynol gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer darparu 7 llain:

  1. Tir yn Llan-gan

6.170Dylid ystyried anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ochr yn ochr ag anghenion tai’r gymuned gyfan. Mae Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae dyletswydd ar y Cyngor i geisio dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da o ran hil ym mhopeth y mae'n ei wneud.

6.171Mae Deddf Tai Cymru (2014) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ystyried anghenion llety'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr drwy baratoi'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh). Mae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i ddyletswydd gyfreithiol i arfer eu swyddogaethau i ddarparu lleiniau cartrefi symudol i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn yr ALlSTh.

6.172Cymeradwywyd yr ALlSTh diweddaraf (a wnaed yn 2022), gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2024. Nododd yr angen am 9 llain breswyl yn y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2026 a 2 lain arall yng ngweddill cyfnod y cynllun CDLlN, gan roi cyfanswm angen o 11 o leiniau tan ddiwedd cyfnod y cynllun.

6.173Ers cyhoeddi'r ALlSTh, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer darparu pedwar cae ar draws dau safle a oedd wedi'u dosbarthu fel rhai anawdurdodedig ar adeg yr ALlSTh. Ar ben hynny, bu newid perchnogaeth ar un o'r safleoedd hefyd, sydd wedi arwain at newid ym mhroffil oedran plant. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn yr angen i 7 llain erbyn diwedd cyfnod y cynllun hyd at 2036. Mae'r angen am 7 llain yn cynnwys un aelwyd sy'n byw mewn tai brics a morter ar hyn o bryd ac mae'r angen yn y dyfodol yn deillio o chwech o blant sy'n byw ar leiniau awdurdodedig presennol a fydd yn dod yn oedolion erbyn diwedd cyfnod y cynllun ac felly efallai y bydd angen eu lleiniau eu hunain arnynt.

6.174Wrth gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol o ddiwallu'r angen a nodwyd, mae Polisi SP9 yn symud y dyraniad safleoedd CDLl presennol yn Llan-gan ymlaen. Mae'r safle hwn o fewn perchnogaeth y Cyngor ac mae rhan o'r safle yn cael ei feddiannu gan breswylydd hirsefydlog o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Fel dyraniad presennol, mae'r egwyddor o ddefnyddio'r safle fel safle Sipsiwn a Theithwyr wedi'i sefydlu'n dda. Mae gan y safle 0.76 Ha gapasiti i ddarparu ar gyfer 7 llain yn unol â'r safonau a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar ddylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid o bryd i'w gilydd i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu safleoedd newydd, estyniadau i safleoedd awdurdodau lleol ac adnewyddu safleoedd presennol awdurdodau lleol drwy Gronfa Safleoedd Cyfalaf. Gellid defnyddio'r Gronfa hon i ddarparu lleiniau ychwanegol i ddiwallu anghenion yn y dyfodol wrth iddynt godi.

6.175Yn ogystal â'r dyraniad yn Llan-gan, bydd y Cyngor yn cefnogi aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu eu hanghenion llety naill ai'n breifat neu drwy ddulliau a arweinir gan y gymuned fel Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol lle mae safleoedd yn cyd-fynd â'r meini prawf a nodir ym Mholisi GT1 Llety Sipsiwn a Theithwyr.

6.176O ran darpariaeth trafnidiaeth ym Mro Morgannwg, mae'r ALlSTh yn nodi nad oes angen darparu safle tramwy yn y Fro yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol. Ystyrir bod darpariaeth trafnidiaeth yn fater rhanbarthol ac felly mae darpariaeth trafnidiaeth yn cael ei hystyried yn weithredol ar sail ranbarthol.

GT1 - LLETY SIPSIWN A THEITHWYR Sylw

Bydd cynigion ar gyfer darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd neu estyniadau i’r rhai presennol yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cydymffurfio â'r meini prawf canlynol:

  1. Mae'r safle yn rhesymol hygyrch i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol fel gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  2. Gellir darparu mynediad diogel a phriodol i gerbydau o'r rhwydwaith priffyrdd, ac mae cynllun y safle yn cynnig darpariaeth ddigonol ar gyfer parcio, troi, gwasanaethu a cherbydau’r gwasanaethau brys.
  3. Mae'r safle wedi'i ddylunio yn unol â Chanllawiau a Chylchlythyrau perthnasol Llywodraeth Cymru.
  4. Mae graddfa'r safle yn gymesur ag anghenion a ddangosir yr ymgeisydd ac i'r amgylchedd a'r lleoliadau lleol.
  5. Ni fyddai'r datblygiad yn cael effeithiau andwyol ar amwynder cymunedau lleol neu breswylwyr y safle.
  6. Mae gwasanaethau digonol ar gael ar y safle ar gyfer cyflenwad dŵr, draenio, carthffosiaeth, pŵer a gwaredu gwastraff neu gellir eu darparu'n briodol heb achosi effeithiau amgylcheddol annerbyniol.
  7. Ni fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad a golwg y dirwedd ac mae wedi'i ddylunio'n sensitif i liniaru unrhyw effaith ar ei amgylchedd.

Bydd amodau cynllunio yn cael eu defnyddio i reoli natur a lefel defnyddiau amhreswyl ar y safle.

6.177Mae canllawiau cenedlaethol yn cydnabod yr angen am bolisi sy'n seiliedig ar feini prawf yn y cynllun datblygu i lywio'r gwaith o benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Dylai polisïau o'r fath gadw at bolisi cynllunio cenedlaethol a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol, a bod yn deg, yn rhesymol, yn realistig ac yn effeithiol wrth ddarparu safleoedd.

6.178Mae Polisi GT1 yn nodi'r meini prawf ar gyfer asesu cynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd ac estyniadau i safleoedd presennol. Mae'r meini prawf a nodir yn y polisi yn ceisio cydbwyso anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr â buddiannau'r gymuned sydd wedi ymgartrefu ar y safle a'r amgylchedd. Bydd safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd â mynediad da i wasanaethau a seilwaith lleol yn hyrwyddo integreiddio ac yn galluogi mynediad at addysg, gofal iechyd a chyfleoedd cyflogaeth.

6.179Ffefrir i safleoedd gael eu dwyn ymlaen o fewn aneddiadau, ond rhoddir ystyriaeth i safleoedd ar gyrion aneddiadau lle byddai'r datblygiad arfaethedig yn cynrychioli estyniad rhesymegol i ffurf a phatrwm datblygiad adeiledig o fewn ffin yr anheddiad. Dim ond lle nad oes safleoedd addas o fewn neu ar gyrion aneddiadau y bydd lleoliadau cefn gwlad yn cael eu hystyried, yn amodol ar fodloni'r meini prawf polisi.

6.180Gall y Cyngor osod amodau cynllunio i reoli defnyddiau busnes ac adeiladau cysylltiedig ar y safle i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ategol i ddefnydd preswyl. Yn hyn o beth a lle bo'n berthnasol, dylai ceisiadau cynllunio gael eu hategu gan fanylion unrhyw gynigion ar gyfer storio cyfarpar ac offer sy'n gysylltiedig â gweithgareddau busnes y rhai sy'n byw ar y safle.

TRAFNIDIAETH (TR)

SP10 - TRAFNIDIAETH GYNALIADWY Sylw

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlN, mae'r Cynllun yn annog newid moddol tuag at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy a chynyddu cyfleoedd Teithio Llesol. Rhaid i ddatblygiad newydd gefnogi gwell rhwydwaith trafnidiaeth sy'n cynyddu cyfran y teithiau sy'n cael eu gwneud trwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Cyflawnir hyn drwy:

  1. Lleoli datblygiadau newydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch lle mae amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau o fewn pellter cerdded a beicio.
  2. Sicrhau bod datblygiad newydd yn cael ei integreiddio â Llwybrau Teithio Llesol presennol sy'n darparu profiad teithio diogel, cynhwysol a dymunol, yn cyfrannu at eu hehangu ac yn gwella cysylltedd o fewn a rhwng trefi, pentrefi ac aneddiadau gwledig cyfagos.
  3. Sicrhau bod datblygiadau newydd wedi'u dylunio i annog cerdded, beicio a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fel dewisiadau amgen i ddefnyddio ceir preifat, yn ogystal ag annog opsiynau fel hybiau symudedd a defnydd ceir a rennir.
  4. Mabwysiadu lefelau priodol o ddarpariaeth parcio ceir a beiciau, gan adlewyrchu amcanion y cynllun i leihau teithiau ceir yn unol â safonau parcio mabwysiedig y Cyngor
  5. Gwella hygyrchedd i bawb a chysylltedd â chyfleusterau trafnidiaeth gynaliadwy.
  6. Darparu gwasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth newydd neu well lle bo hynny'n briodol.
  7. Cefnogi a hwyluso'r gwaith o gyflawni Metro De Cymru a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
  8. Diogelu hen linellau rheilffordd ar gyfer y posibilrwydd o adfer gwasanaethau neu lwybrau Teithio Llesol amgen.
  9. Darparu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn mewn lleoliadau priodol.

Fel y bo'n briodol, bydd angen i gynigion datblygu newydd ddarparu Datganiadau Trafnidiaeth, Asesiadau Trafnidiaeth a Chynlluniau Teithio i sicrhau dewis teithio a chyfleoedd cynaliadwy ar gyfer teithio.

Bydd disgwyl i ddatblygiadau newydd y rhagwelir eu bod yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyfrannu tuag at gapasiti a mesurau lliniaru. Bydd angen i gynigion sy'n gofyn am seilwaith trafnidiaeth newydd wneud cyfraniad ariannol cymesur.

6.181Mae'r Fro yn cael ei gwasanaethu'n dda gan rwydwaith priffyrdd strategol helaeth, sy'n cysylltu aneddiadau ar draws y Fro ac yn darparu cysylltiadau ag ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Fodd bynnag, cydnabyddir bod rhannau o'r rhwydwaith priffyrdd strategol yn profi tagfeydd ar oriau brig, gan arwain at oedi. Er mwyn lliniaru'r pwysau ar y rhwydwaith priffyrdd strategol, mae angen gwelliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a’r seilwaith cerdded a beicio i annog cyfranogiad mewn Teithio Llesol (cerdded a beicio) yn enwedig ar gyfer teithiau byrrach o fewn trefi a phentrefi'r Fro a rhyngddynt.

6.182Rhan allweddol o'r strategaeth yw lleoli datblygiad mewn ardaloedd sy'n gynaliadwy neu y gellir eu gwneud yn gynaliadwy trwy annog cymysgedd o ddefnyddiau o fewn datblygiad, gan gyfyngu'r angen i deithio, lle bynnag y bo modd, a chynnig dewis gwirioneddol o ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy. Trwy leihau'r ddibyniaeth ar ddefnydd ceir preifat, bydd patrymau defnydd tir o'r fath hefyd yn helpu i liniaru bygythiad cynyddol newid hinsawdd trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

6.183Yng ngoleuni'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12) a'r targed a gynhwysir yn Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 o sicrhau bod 45% o deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio erbyn 2040, mae'n hanfodol i'r CDLlN gynnwys polisi strategol uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â dewisiadau teithio cynaliadwy ym Mro Morgannwg. Yn yr un modd, mae Strategaeth Drafnidiaeth Ddrafft De-ddwyrain Cymru P-RC yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith i greu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy integredig i hwyluso newid moddol o ddefnyddio ceir preifat.

6.184Felly, mae Polisi SP10 yn nodi dull y cynllun ar gyfer annog defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy, gan gyfarwyddo y bydd yn ofynnol i bob cynnig datblygu newydd gyfrannu at greu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy, diogel, integredig a chysylltiedig. Dylid bodloni hyn o fewn a thu allan i'r ardal ddatblygu a dylai cynigion ddangos y bydd darpariaeth trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â chynlluniau datblygu yn briodol, o ran dewis moddol a chapasiti'r rhwydwaith priffyrdd i ddarparu ar gyfer teithiau ychwanegol.

6.185Dylai Teithio Llesol fod y dewis cyntaf naturiol ar gyfer teithiau byr, bob dydd. Yn unol â hynny, dylai pob datblygiad newydd flaenoriaethu cerdded a beicio o'r camau dylunio cynharaf. Ar ben hynny, dylai cynigion datblygu hefyd ystyried cysylltedd trwy drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid i gynigion gynnwys manylion ar sut maent yn cysylltu ag ardaloedd presennol a nodi cyfleoedd i wella cysylltiadau Teithio Llesol ac integreiddio â darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus bresennol a phosibl yn y dyfodol.

6.186Dylai datblygwyr ddangos bod y ddarpariaeth trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'u cynigion yn briodol, o ran dewis moddol a chapasiti'r rhwydwaith priffyrdd i ddarparu ar gyfer teithiau ychwanegol ar draws pob dull. Os yw datblygiadau newydd yn debygol o gael effaith andwyol ar y rhwydwaith trafnidiaeth cyfagos, bydd yn ofynnol iddynt gyfrannu tuag at well capasiti a mesurau lliniaru.

6.187Pan fo datblygiadau newydd yn debygol o arwain at effeithiau sylweddol ar drafnidiaeth, rhaid eu cefnogi gan Ddatganiadau Trafnidiaeth, Asesiadau Trafnidiaeth a Chynlluniau Teithio, fel y bo'n briodol, er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer teithio yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

6.188Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu safonau uchafswm lleoedd parcio, gyda'r canllawiau yn cydnabod bod darpariaeth parcio yn ddylanwad mawr ar y dewis a'r dulliau trafnidiaeth a'r patrwm datblygu. Gall lle a sut mae ceir wedi’u parcio fod yn ffactor mawr o ran ansawdd lle a dylid cymryd agwedd a arweinir gan ddylunio at ddarparu mannau parcio, sy'n sicrhau bod lefel briodol o fannau parcio yn cael ei hintegreiddio mewn ffordd nad yw’n dominyddu’r datblygiad. Wrth bennu'r lefelau cywir o leoedd parcio, bydd y Cyngor yn ystyried y galw disgwyliedig o'r math o dai a gynigir, y meddianwyr tebygol, dyluniad yr ardal gyhoeddus a'r briffordd, yr atebion dylunio parcio arfaethedig ac unrhyw gyfyngiadau lleol.

TR1 - CYNIGION TRAFNIDIAETH

Er mwyn gwarchod cynlluniau trafnidiaeth mawr arfaethedig rhag datblygu a fyddai'n atal eu gweithredu, mae tir yn cael ei ddiogelu ar gyfer y cynigion trafnidiaeth strategol canlynol:

Llwybrau Teithio Llesol

  1. Y Barri i Ddinas Powys. Sylw Gweld map Active Travel Route (1) / Llwybr Teithio Llesol (1)
  2. Sili i Cosmeston. Sylw Gweld map Active Travel Route (2) / Llwybr Teithio Llesol (2)
  3. Weycock Cross i Faes Awyr Caerdydd. Sylw Gweld map Active Travel Route (3) / Llwybr Teithio Llesol (3)

Cynlluniau Trafnidiaeth Gyhoeddus

  1. Cyfnewidfa drafnidiaeth Sain Tathan. Sylw Public Transport Scheme (4) / Cynllun Trafnidiaeth Gyhoeddus (4) (1) Public Transport Scheme (4) / Cynllun Trafnidiaeth Gyhoeddus (4) (2) Safeguarding - Public Transport Scheme / Diogelu – Cynllun Trafnidiaeth Gyhoeddus (3)
  2. Cyfnewidfa drafnidiaeth Cogan. Sylw Gweld map Transport - Public Transport Scheme / Trafnidiaeth – Cynllun Trafnidiaeth Gyhoeddus

Dim ond os na fyddai'n niweidio darparu ac ehangu cyfleusterau y caniateir datblygu ar dir sydd wedi'i ddiogelu.

Gwelliannau Priffyrdd

Er mwyn lliniaru effaith datblygiad ar y rhwydwaith priffyrdd, nodwyd y gwelliannau strategol canlynol i briffyrdd

  1. Cylchfan Weycock Cross, y Barri. Sylw Gweld map Highways Improvement (6) / Gwelliannau Priffyrdd (6)
  2. Cyffordd Gileston Road, Sain Tathan. Sylw Gweld map Highways Improvement (7) / Gwelliannau Priffyrdd (7)
  3. Cyffordd Pen Y Turnpike/Leckwith Road, Llandough Sylw Gweld map Highways Improvement (8) / Gwelliannau Priffyrdd (8)

Rhaid i’r holl welliannau i briffyrdd hefyd ddarparu gwelliannau amlwg i gerdded a beicio fel rhan o unrhyw gynllun.

Efallai y bydd angen gwaith lliniaru priffyrdd arall ar ffurf coridor neu gyffyrdd hefyd ar sail safle-benodol.

6.189Mae PCC yn nodi y dylai cynlluniau datblygu nodi a, lle bo angen, diogelu ardaloedd ar gyfer seilwaith trafnidiaeth yn y dyfodol, a lle nad yw'r union leoliad yn hysbys, diogelu'r llain o dir sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynnig.

Teithio Llesol

6.190Mae tri chynllun Teithio Llesol sydd â'r nod o wella cysylltedd cerdded a beicio rhwng aneddiadau yn yr Ardal Twf Strategol wedi'u nodi. Mae'r tri chynllun wedi'u cynnwys ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor.

6.191Mae'r cynllun rhwng Cylchfan Biglis yn y Barri a Dinas Powys wedi cyrraedd y cam dylunio terfynol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024. Cyflwynwyd cais cynllunio llawn ar gyfer llwybr cerdded a beicio a rennir yn 2025.

6.192Cafodd cynllun 1.6 milltir rhwng Sili a Cosmeston ganiatâd cynllunio ym mis Hydref 2025.

6.193Roedd y cynllun rhwng Weycock Cross yn y Barri a Chylchfan Cynffon y Ddraig ger Maes Awyr Caerdydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022. Bydd datblygiad HG1 KS1 Tir yng Ngogledd-orllewin y Barri yn darparu rhan o'r llwybr 1.7 milltir, ar hyd blaen y safle.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cyfnewidfa drafnidiaeth Sain Tathan

6.194Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ragarweiniol gan y Cyngor ym mis Mai 2022[12] i ddeall y potensial ar gyfer gorsaf reilffordd newydd ar Linell Bro Morgannwg. Ystyriodd yr astudiaeth hon 5 lleoliad posibl ar hyd y llinell i'r de o Sain Tathan, gyda'r lleoliad canolog (Adran C) yn cael ei ystyried fel y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer yr orsaf o ystyried ei agosrwydd at Sain Tathan (gan gynnwys dyraniadau tai CDLlN) a'r potensial ar gyfer cysylltedd cerdded a beicio. Yn unol â hynny, mae tir wedi cael ei ddiogelu i warchod y tir rhag datblygiad a allai amharu ar ddarparu gorsaf newydd i wasanaethu Sain Tathan, sy'n cynnwys tir sy'n gysylltiedig â'r dyraniad tai allweddol HG1 KS5 Tir i'r gorllewin o Sain Tathan. Yr ardal hon fyddai'r lleoliad a ffefrir gan y Cyngor ar gyfer gorsaf newydd sy'n darparu cyfle ar gyfer cyfleusterau parcio a theithio a datblygiad masnachol sy'n ategol i gyfnewidfa drafnidiaeth ac mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau cerdded a beicio gwell i Sain Tathan. Bydd angen i'r gyfnewidfa drafnidiaeth ddarparu mannau i fysiau, mannau parcio tacsis a mannau parcio beiciau. Darperir mynediad i'r safle fel rhan o'r trefniadau mynedfa trwy gyffordd â signalau ar gyfer y Tir i'r Gorllewin o Sain Tathan (HG1 KS5).

6.195Yn ogystal â'r ardal a ddyrannwyd o dan Bolisi HG1 KS5, a fydd yn darparu cam cyntaf cyfnewidfa drafnidiaeth, mae tir i'r dwyrain hefyd wedi’i ddiogelu i alluogi ehangu cyfleusterau parcio a theithio yn y dyfodol pe bai angen tir ychwanegol.

Cyfnewidfa drafnidiaeth Cogan

6.196Mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi bod gan Orsaf Cogan botensial ar gyfer gwell cyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol, gan gynnwys cysylltiadau Teithio Llesol a phlatfform trên ychwanegol i wasanaethu rheilffordd Penarth. Diogelir tir ger gorsaf Cogan ac ar ochr ddwyreiniol Windsor Road ger llinell Cangen Penarth. Bydd union leoliad y platfform ychwanegol yn cael ei bennu fel rhan o'r gwaith dichonoldeb parhaus.

Gwelliannau i Briffyrdd

6.197Mae Asesiad Cludiant Strategol (ACS) wedi'i baratoi i ystyried effaith gyfunol datblygiadau a gynigir fel rhan o RLDP ar rwydwaith priffyrdd strategol y Fro. Mae'r ACS yn defnyddio Model Cludiant De-ddwyrain Cymru Trafnidiaeth Cymru (SEWTM) i ystyried sefyllfa sylfaenol o ran capasiti priffyrdd ar hyn o bryd ac fel y rhagwelir yn 2036, a sefyllfa lle mae twf o safleoedd RLDP wedi'i ystyried. Mae'r ACS yn nodi bod angen cymedrol priffyrdd strategol lle mae gan RLDP effaith sylweddol ar gyfanwaith oedi'r cyfuniadau. Mae tri chyfuniad wedi'u nodi ar gyfer cymedrol o fewn yr ACS ac mae disgwyl i safleoedd sydd ag effaith gyfunol ar y cyfuniadau hyn wneud cyfraniad cyfrannol tuag at gymedrol priffyrdd strategol, fel y nodir yn y Cynllun Cyflawni Seilwaith.

Cylchfan Weycock Cross, Y Barri

6.198Mae Cylchfan Weycock Cross yn ffurfio'r crosover rhwng yr A4226, B4266, a Weycock Road, gan ddarparu cysylltiad allweddol rhwng Y Barri, yr A48, a rhwydwaith priffyrdd strategol ehangach Bro Morgannwg. Mae angen cynyddu capasiti'r cylchfan a gwella'r llif. Y dewisiadau y gellir eu hystyried yw ehangu mewn targed ar gyrraeddfannau'r A4050 a'r A4226 gyda newidiadau mewn marciau llwybrau lleol i wella lled y fynediad, darparu lonydd mynediad estynedig, a chynyddu capasiti'r cylchredd, neu signalau rhannol neu cyflawn. Mae lluniadau hygyrchedd yn dangos y gellir cynnwys croesfan gerddwyr a beicwyr newydd ar goesyn cynghorol y ddeheuol a bod modd cynnal neu wella llwybrau teithio gweithredol ar hyd prif lonydd dymuniad, gan gynnwys y llwybr posib o'r cylchfan i Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol. Bydd y gwelliannau yn gaeth i ddyluniad manwl, gan gynnwys archwiliad diogelwch ffordd.

Cyffordd Gileston Road, Sain Tathan

6.199Mae'r cyffordd hwn yn groesffordd strôc-safle wedi'i leoli ym marn croesfan y B4265 a'r Gileston Road. Mae'r cyffordd yn ffurfio rhan o'r prif lwybr rhwng Llanilltud Fawr a Sain Tathan, gan ddarparu mynediad i'r A4226 a rhwydwaith ffyrdd strategol ehangach Bro Morgannwg. Mae'r cynllun strôc-safle yn cysylltu dau gyffordd blaenoriaeth swyddogaethol bach sy'n gwasanaethu Gileston a Sain Tathan, ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu o dan reolaeth blaenoriaeth.

6.200Mae angen cynyddu capasiti a gwella diogelwch y cyffordd o ganlyniad i safleoedd CDLIN. Y dewis a ffafrir ar gyfer lliniaru yw uwchraddio'r cyffordd i reolaeth signalau, gan gynnwys gwelliannau i deithio gweithredol. Er bod y cofdy rhyfel presennol yn cynrychioli cyfyngiad dylunio, mae lle i lyfnhau lled y mynedfa a chynyddu hyd lonydd ymagwedd o fewn terfynau'r ffordd a fabwysiadwyd ac gyda thrae o Dir Fferm Eglwys Gorllewinol. Bydd y gwelliannau yn destun dyluniad manwl, gan gynnwys archwiliad diogelwch ffordd.

Cyffordd Pen Y Turnpike/ Leckwith Road, Llandough

6.201Mae hwn yn gyffordd T flaenoriaeth wedi’i leoli ar y croestoriad rhwng Heol Leckwith Road a Pen-y-Turnpike. Mae’n darparu cysylltiad rhwng de-orllewin Caerdydd a Bae Caerdydd ac mae’n rhan o lwybr lleol a ddefnyddir yn aml i osgoi tagfeydd yng nghyffordd Merrie Harrier a Baron’s Court. Mae’r cyffordd wedi cael ei nodi ar gyfer lliniaru oherwydd ei gapasiti cyfyngedig a’i rôl wrth hwyluso traffig i ac o Gaerdydd sy’n gysylltiedig â safleoedd CDLIN. Y lliniaru posibl yw troi’r gyffordd flaenoriaeth yn groesffordd â goleuadau traffig. Byddai’r goleuadau’n rheoli llif traffig ac yn dyrannu amser gwyrdd yn fwy teg ar draws y canghennau. Mae dyluniad dichonoldeb yn cynnwys llinell stop cylchdatblyg uwch ar bob agos. Bydd y gwelliannau yn destun dyluniad manwl, gan gynnwys archwiliad diogelwch ffyrdd.

CANOLFANNAU MANWERTHU, MASNACHOL A GWASANAETH (MMG)

SP11 - HIERARCHAETH CANOLFANNAU MANWERTHU, MASNACHOL A GWASANAETH Sylw Gweld map Retail, Commercial and Service Centre Hierarchy / Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu, Masnachol A Gwasanaeth

Mae hierarchaeth y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth ym Mro Morgannwg fel a ganlyn:

Canol Trefi - Y Barri (Heol Holltwn), Penarth, Y Bont-faen

Canolfannau Ardal - Stryd Fawr y Barri, Llanilltud Fawr

Canolfannau Lleol

Y Barri: Main Street, Tregatwg; Vere Street, Tregatwg; Park Crescent; Barry Road, ger Tregatwg; Heol Holltwn Uchaf

Dinas Powys: Cardiff Road; Canol Pentref Dinas Powys.

Penarth: Cornerswell Road

Y Rhws: Fontygary Road

Sain Tathan: Y Sgwâr

Canolfannau Cymdogaeth - Y Barri: Bron-y-Môr; Cwm Talwg; Canolfan Gibbonsdown; Park Road.

Dinas Powys: Camms Corner; Castle Court/The Parade

Llanilltud Fawr: Crawshay Drive; Trebefered

Penarth: Pill Street; Tennyson Road

Y canolfannau a nodwyd uchod yw'r lleoliadau a ffefrir ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys manwerthu, hamdden, swyddfa, llety ymwelwyr a chyfleusterau preswyl a chymunedol priodol. Rhaid i gynigion datblygu fod yn unol â rôl ddiffiniedig pob canolfan.

Dylai datblygiad newydd o fewn y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth gyd-fynd â rôl ddiffiniedig pob canolfan o fewn yr hierarchaeth a chefnogi'r bywiogrwydd a'r hyfywedd a chynyddu nifer yr ymwelwyr o fewn y canolfannau.

6.202Mae rôl canol trefi traddodiadol fel canolfannau manwerthu yn newid a bydd eu hadfywio yn y dyfodol yn cynnwys ailbwrpasu, creu canolfannau amlswyddogaethol, masnachol a gwasanaeth sy'n diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Er mwyn cydnabod yr angen i symud i ffwrdd o rôl manwerthu draddodiadol Canol Trefi ac yn unol â Pholisi Canol Trefi yn Gyntaf Cymru’r Dyfodol, mae Polisi SP11 yn mabwysiadu dull mwy hyblyg o ddefnyddiau nad ydynt yn fanwerthu i greu cymysgedd o fanwerthu, masnachol, hamdden a phreswyl. Er mwyn cynnal hyfywedd a bywiogrwydd hirdymor canolfannau manwerthu'r Fro, bydd y cynllun yn ceisio eu galluogi i esblygu'n ganolfannau amlswyddogaethol sy'n cynnwys amrywiaeth eang o fanwerthu, hamdden a gwasanaethau sy'n gweithredu fel lleoedd a mannau ar gyfer cymdeithasu, gweithio, astudio a mwynhau.

6.203Bydd cynigion datblygu mewn Canolfannau yn cymhwyso'r Egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP4, gan sicrhau bod Canolfannau yn ddeniadol, yn ddiogel ac yn groesawgar. Bydd canolfannau yn hygyrch i bawb ac yn blaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy; byddant yn cael eu gwasanaethu'n dda gan seilwaith Teithio Llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu â'r aneddiadau cyfagos.

6.204Mae canolfannau yn cael eu hystyried yn lleoedd cynaliadwy i fyw a lle bo'n briodol gallent ymgorffori datblygiad preswyl newydd ar raddfa fach trwy, er enghraifft, addasu lloriau uchaf. Dylent hefyd gynnwys mannau gwyrdd agored amlswyddogaethol i wella amwynder, ansawdd gweledol a darparu manteision amgylcheddol ac iechyd.

6.205Mae'r Barri (Heol Holltwn), Penarth a'r Bont-faen yn cael eu nodi fel Canol Trefi ar frig yr hierarchaeth manwerthu oherwydd eu nifer fawr a'u hamrywiaeth ehangaf o fanwerthu, hamdden a gwasanaethau. Mae canol trefi yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu manwerthu a gwasanaethau wrth iddynt wasanaethu cymunedau cyfagos ac ehangach, sydd wedi'u cysylltu'n dda gan drafnidiaeth gynaliadwy. Mae amrywiaeth a nifer yr unedau manwerthu, hamdden a gwasanaethau ac arwyddocâd eu rôl ehangach yn cynyddu wrth i Ganolfannau symud i fyny trwy'r hierarchaeth o Ganolfannau Cymdogaeth, Canol Pentrefi, Canolfannau Ardal a Chanol Trefi.

6.206Mae sawl ardal manwerthu arall y tu allan i'r dref ac ar gyrion y canol ym Mro Morgannwg nad ydynt yn rhan o'r hierarchaeth manwerthu. Bydd cynigion ar gyfer datblygiad manwerthu newydd neu ofod llawr ychwanegol yn yr ardaloedd manwerthu hyn yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi RSC2.

SP12 - DARPARIAETH GOFOD LLAWR MANWERTHU Sylw

Er mwyn sicrhau bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad parhaus canolfannau manwerthu, masnachol a gwasanaeth Bro Morgannwg, bydd y cynllun yn caniatáu ar gyfer darparu hyd at 5,862 metr sgwâr (net) o ofod llawr cyfleustra a hyd at 679 metr sgwâr (net) o ofod llawr cymharol.

Bydd y dyraniadau canlynol yn cyfrannu at ddarparu'r ddarpariaeth gofod llawr cyfleustra:

  1. Tir yn Church Farm, Sain Tathan – hyd at 1,858 metr sgwâr Sylw Gweld map Retail Floorspace Provision (1) / Darpariaeth Gofod Llawr Manwerthu (1)
  2. Tir yn Bridge House Farm, Llan-faes, Llanilltud Fawr – 1,251 metr sgwâr Sylw Gweld map Retail Floorspace Provision (2) / Darpariaeth Gofod Llawr Manwerthu (2)

Dylai unrhyw ofod llawr manwerthu cyfleustra a chymharol ychwanegol y tu hwnt i'r hyn a ddarperir gan y safleoedd a nodwyd gael ei gyfeirio tuag at ganol y dref a'r canolfannau ardal a amlinellir ym Mholisi SP11. Bydd cynnwys gofod llawr manwerthu fel rhan o gymysgedd o ddefnyddiau ar safleoedd a ddyrannwyd hefyd yn cael ei gefnogi.

6.207Mae darpariaeth manwerthu ym Mro Morgannwg wedi’i chanolbwyntio’n fawr yng nghanol tref y Barri a chanolfannau ardal Penarth, y Bont-faen a Llanilltud Fawr. Nodweddir yr ardaloedd manwerthu hyn gan amrywiaeth o fanwerthwyr lleol a chenedlaethol ac maent yn gwasanaethu dalgylchoedd cymharol fawr. At hynny, mae canolfannau lleol a chymdogaeth yn cynnig gwasanaeth lleol pwysig i’w dalgylchoedd uniongyrchol ac yn darparu cyfleoedd o ran lleihau teithiau ceir.

6.208Mae Astudiaeth Manwerthu a Hamdden ddiweddaraf Bro Morgannwg (Mehefin 2023) yn darparu angen meintiol wedi'i ddiweddaru ac asesiad ansoddol o ddefnyddiau cyfleustra (bwyd), nwyddau cymharol (dillad, eitemau electronig ac ati), a hamdden canol tref fel bariau, caffis a bwytai ledled yr awdurdod. Nododd yr astudiaeth, dros gyfnod y cynllun hyd at 2036, bod capasiti ansoddol ar gyfer rhwng 4,282 a 5,862 metr sgwâr net o ofod llawr manwerthu bwyd cyfleustra, yn dibynnu ar y math o ddarparwr nwyddau cyfleustra. Mae capasiti hefyd ar gyfer rhwng 432 metr sgwâr net a 679 metr sgwâr net o ofod llawr cymharol, yn dibynnu ar natur y nwyddau cymharol. Yn ofodol, mae'r astudiaeth yn nodi'r potensial ar gyfer manwerthu bwyd cyfleustra ychwanegol yng nghanolfannau manwerthu’r Barri, Penarth a Llanilltud Fawr. Mae'r adroddiad yn argymell y byddai hyn yn arwain at welliannau ym mywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau hyn, gan hefyd gydnabod angen ansoddol cyffredinol i annog amrywiaeth o ddefnyddiau o fewn prif ganolfannau manwerthu tref ac ardal y Fro.

6.209Ers i'r astudiaeth hon gael ei chynnal, cyflwynwyd cais am 1,251 metr sgwâr o ofod llawr cyfleustra newydd ar gyfer siop fwyd dosbarth A1 yn Bridge House Farm, Llan-faes, ger Llanilltud Fawr. Roedd penderfyniad gan y pwyllgor cynllunio i'w gymeradwyo, yn amodol ar gymeradwyo cytundeb Adran 106, ond mae Gweinidogion Cymru wedi cael eu galw i mewn i benderfynu. Fodd bynnag, bydd dyrannu'r tir hwn yn dibynnu ar ganlyniad y galw i mewn hwn, pan fydd penderfyniad wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog. Yn ogystal, dyrennir hyd at 1,858metr sgwâr o ofod llawr cyfleustra ychwanegol fel rhan o'r dyraniad preswyl defnydd cymysg yn Church Farm, Sain Tathan (mae Polisi HG1 KS4 yn cyfeirio at hyn). Bydd y ddarpariaeth hon o ofod llawr manwerthu ychwanegol ger Canolfan Leol Sain Tathan yn lleihau'r angen i breswylwyr presennol a newydd deithio i aneddiadau eraill i ddiwallu eu hanghenion.

6.210Dylai'r gofod llawr cyfleustra sy'n weddill, ynghyd â darpariaeth manwerthu gymharol, gael ei ddarparu trwy gyfleoedd yng nghanol trefi a chanolfannau ardal presennol, gan gynnwys cynlluniau adfywio, yn unol â'r polisi Canol Trefi yn Gyntaf.

6.211Anogir integreiddio gofod llawr manwerthu o fewn datblygiadau defnydd cymysg ar safleoedd a ddyrannwyd hefyd yn unol ag egwyddorion creu lleoedd. Gall darpariaeth manwerthu wella ymarferoldeb ac atyniad safle trwy ddarparu gwasanaethau ac amwynderau hygyrch i drigolion, gan leihau'r angen i bobl deithio. Dylid dylunio defnyddiau manwerthu i ategu'r cymysgedd ehangach o ddefnyddiau ac ymateb ar raddfa briodol i gefnogi anghenion lleol.

RCS1 - CANOLFANNAU MANWERTHU, MASNACHOL A GWASANAETH GWYDN Sylw

Bydd cynigion datblygu, gan gynnwys y rhai a nodwyd trwy Gynlluniau Creu Lleoedd, sy'n gwella bywiogrwydd, egni ac atyniad Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth yn cael eu cefnogi.

Bydd cynigion sy'n ymwneud â newid defnydd ar lefel y llawr gwaelod o ddefnydd manwerthu A1 yn cael eu caniatáu lle byddai'r cynnig:

1 Yn cefnogi bywiogrwydd ac egni canol y dref trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a gweithgarwch economaidd;

2 Yn gydnaws â defnyddiau cyfagos a chymeriad masnachol y ganolfan;

3 Yn osgoi achosi effeithiau amwynder andwyol;

4 Yn darparu wyneb gweithredol; ac

5 Yn osgoi gor-grynhoi defnyddiau nad ydynt yn fanwerthu a fyddai'n tanseilio swyddogaeth fanwerthu'r ganolfan.

Rhaid i gynigion ar gyfer A3 Siopau Tecawê Poeth hefyd gydymffurfio â Pholisi RCS3.

Bydd defnyddiau preswyl a defnyddiau ategol eraill yng nghanol y dref sydd uwchlaw lefel y llawr gwaelod yn cael eu cefnogi, ar yr amod nad ydynt yn arwain at effeithiau annerbyniol ar weithrediad defnyddiau llawr gwaelod neu amwynder meddianwyr presennol a/neu arfaethedig.

6.212Mae Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth y Fro yn fwy nag ardaloedd manwerthu dynodedig; mae’r canolfannau’n dal i fod yn ganolbwyntiau pwysig i gymunedau ac, yn fwyfwy, maent yn dod yn lleoedd i fyw ynddynt, yn ganolfannau gweithgarwch cymunedol a diwylliannol, yn ffocws i wasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg, ac yn lleoliad i fannau cydweithio. Fodd bynnag, mae materion sy'n wynebu'r sector manwerthu wedi effeithio ar y lleoedd hyn ac mae'n amlwg bod angen dull newydd. Mae'r gofyniad am ddull newydd yn cael ei ystyried fel cyfle i ail-lunio Canolfannau’r Fro i fod yn gyrchfannau mwy cadarn, deinamig a deniadol. Mae Polisi RCS1 yn ceisio creu canolfannau sy'n cynnal cymysgedd o ddefnyddiau ategol, sydd â’r egwyddorion Creu Lleoedd yn sail iddynt ac sy'n cyflawni'r fethodoleg Canol Trefi yn Gyntaf.

6.213Ar y llawr gwaelod, defnyddiau priodol ar gyfer Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth fydd y rhai sy'n cefnogi eu bywiogrwydd, eu hegni a'u hatyniad. Byddai'r defnyddiau hyn yn ategu cymeriad y ganolfan bresennol, yn cynnal wynebau deniadol ac yn cynhyrchu gweithgarwch gan gerddwyr a gallant gynnwys siopau (A1), gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2), mathau penodol o fwyd a diod (A3), swyddfeydd (B1), gwestai (C1), sefydliadau addysgol ac amhreswyl eraill (D1) a hamdden (D2). Os oes angen hwyluso defnydd priodol, ystyrir y byddai uno adeiladau neu rannu adeilad yn rhannol yn cael ei ganiatáu o dan y polisi hwn. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfres o Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer ei drefi. Pwrpas y rhain yw i'r Cyngor weithio ar y cyd â chymunedau. Pan fo Cynlluniau Creu Lleoedd yn cynnwys cynigion datblygu sy'n cynorthwyo gwella eu hardal leol berthnasol yn gynaliadwy, byddai'r cynigion hyn hefyd yn cael eu cefnogi. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i siopau tecawê poeth, sy'n cael eu cwmpasu gan Bolisi RCS3.

6.214Rhaid cyfiawnhau newidiadau dosbarth defnydd mewn Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth gyda thystiolaeth bod yr eiddo wedi bod yn wag am gyfnod parhaus a hirdymor a bod marchnata rhagweithiol wedi'i gynnal gan asiant eiddo am o leiaf 12 mis mewn ymdrech i sicrhau tenantiaid. Dylai'r adroddiad marchnata gynnwys:

  • Manylion y defnydd presennol neu'r defnydd blaenorol os yw'n wag;
  • Hyd yr amser y mae'r uned wedi bod yn wag, os yw'n berthnasol;
  • Y math o ddefnydd y mae'r uned wedi'i marchnata ar ei gyfer, beth oedd yn rhan o’r strategaeth farchnata a'i hyd;
  • Faint o ddiddordeb oedd yn yr uned yn ystod y cyfnod marchnata – dylai hyn roi manylion am nifer yr ymholiadau, y math o ddefnyddiau a geisiwyd, ac os yw’n hysbys, y rheswm am beidio â dilyn ymholiadau cychwynnol.

6.215Gall defnyddiau preswyl mewn Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth mewn rhai achosion helpu i wella cynaliadwyedd a hyfywedd cyffredinol canolfan, fodd bynnag, gall colli unedau ar lefel y llawr gwaelod i ddefnyddiau preswyl ddarnio canolfan, effeithio ar ei hatyniad a lleihau gweithgarwch yn ystod y dydd. O ganlyniad, dim ond uwchlaw lefel y llawr gwaelod y bydd defnyddiau preswyl yn cael eu cefnogi lle mae hyn yn dderbyniol o ran amwynder.

RCS2 – MANWERTHU AR GYRION Y CANOL A’R TU ALLAN I'R DREF Sylw Gweld map Edge of Centre and Out of Town / Ymyl y Canol a Tu Allan i'r Dref

Mae ardaloedd manwerthu presennol ar gyrion y canol a'r tu allan i'r dref wedi'u nodi yn y lleoliadau canlynol:

Ar Gyrion y Canol:

  1. Glannau'r Barri, y Barri;
  2. Glannau'r Dociau, y Barri;
  3. Palmerston, y Barri;
  4. Pencoedtre, y Barri;
  5. Parc Highlight, y Barri;

6 Terra Nova Way, Penarth;

Y Tu Allan i'r Dref:

7 Parc Manwerthu Cwrlwys, Croes Cwrlwys

8 Parc Manwerthu Brooklands Terrace, Croes Cwrlwys

9 Parc Manwerthu Valegate, Croes Cwrlwys

10 Parc Manwerthu Heol Penarth

Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caniateir cynigion ar gyfer defnyddiau A1, A2 neu A3 newydd ar safleoedd newydd neu ardaloedd manwerthu presennol mewn lleoliadau ar gyrion y canol a'r tu allan i'r dref, gan gynnwys newidiadau defnydd, estyniadau, uno neu isrannu unedau presennol neu ddiwygiadau i amodau cynllunio presennol sy'n ymwneud â gwerthu nwyddau:

  1. Gellir dangos bod angen ychwanegol am y cynnig na ellir ei ddarparu o fewn canolfan fanwerthu, fasnachol a gwasanaeth bresennol; ac
  2. Ni fyddai'r cynnig, naill ai'n unigol nac yn gronnol gyda datblygiadau diweddar neu arfaethedig eraill, yn cael effaith annerbyniol ar fasnach, trosiant, bywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau manwerthu, masnachol a gwasanaeth.
  3. Byddai'r cynnig yn gwasanaethu anghenion lleol mewn cymdogaeth neu bentref gwledig.

6.216Mae hierarchaeth Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth Bro Morgannwg yn cynnwys y canolfannau tref, ardal, lleol a chymdogaeth a nodwyd ym Mholisi SP11 ac mae'n eithrio unrhyw barciau manwerthu ar gyrion y canol neu’r tu allan i'r dref ym Mro Morgannwg. Felly, mae polisi RCS2 Manwerthu ar Gyrion y Canol a’r Tu Allan i'r Dref yn berthnasol i gynigion datblygu yn y canolfannau hyn.

6.217Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu a masnachol newydd mewn ardaloedd manwerthu ar gyrion y canol a’r tu allan i'r dref yn cael eu rheoli'n llym yn unol â pholisi cenedlaethol, i gefnogi canolfannau sefydledig presennol yn hierarchaeth y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth.

6.218Mae Polisi RCS2 yn nodi'r meini prawf y bydd cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu a masnachol newydd mewn lleoliadau ar gyrion y canol a’r tu allan i'r dref yn cael eu hasesu yn unol â'r polisi cenedlaethol. Mae'r polisi yn berthnasol i bob cynnig sy'n creu gofod llawr ychwanegol ar gyfer manwerthu (A1), gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2), bwyd a diod (A3). Mae hefyd yn berthnasol i bob cais, gan gynnwys newidiadau defnydd, estyniadau, isrannu / uno unedau presennol, lloriau mesanîn ac amrywiadau i amodau cynllunio perthnasol. Nod y polisi yw cadw a gwella bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canolfannau trefi, ardal, lleol a chymdogaeth presennol yn ogystal â hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a phatrymau teithio cynaliadwy.

6.219Bydd angen i gynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu neu fasnachol newydd y tu allan i'r canolfannau sydd wedi'u cynnwys yn yr hierarchaeth ddangos eu bod wedi bodloni'r prawf dilyniannol y cyfeirir ato yn y polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd angen i ddatblygwyr ddangos bod yr holl opsiynau posibl yng nghanol y dref wedi'u hasesu'n drylwyr gan ddefnyddio'r dull dilyniannol cyn y bydd safleoedd ar gyrion a’r tu allan i'r canol yn cael eu hystyried ar gyfer defnyddiau allweddol yng nghanol y dref. Mae'r dull hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr a manwerthwyr fod yn hyblyg ac arloesol ynghylch ffurf, dyluniad a graddfa'r datblygiad arfaethedig a faint o leoedd parcio a ddarperir, gan deilwra'r rhain i addasu i amgylchiadau lleol.

6.220Cydnabyddir na fydd cynigion ar raddfa fach, fel siop fach sy'n gwasanaethu cymdogaeth leol neu bentref gwledig, neu siop fferm fach, yn niweidiol i fywiogrwydd a hyfywedd Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth. Bydd cynigion o'r fath yn cael eu cefnogi o dan y polisi gan y byddant yn helpu i gynnal cymunedau a lleihau'r angen i drigolion deithio i ardaloedd ac aneddiadau eraill ar gyfer amwynderau sylfaenol.

6.221Pan roddir caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad manwerthu neu fasnachol newydd ar gyrion a’r tu allan i’r canol, gellir gosod amodau i reoli natur a graddfa'r gweithgaredd manwerthu neu fasnachol ac i leihau unrhyw effaith bosibl ar y canolfannau presennol o fewn hierarchaeth y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth.

SIOPAU TECAWÊ POETH

RCS3 - SIOPAU TECAWÊ POETH Sylw

Er mwyn hyrwyddo cymunedau iachach a gwarchod hyfywedd ac atyniad canolfannau manwerthu, masnachol a gwasanaeth a chymdogaethau lleol, dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y bydd cynigion ar gyfer A3 Siopau Tecawê Poeth newydd yn cael eu caniatáu:

  1. Mae'r cynnig o fewn canolfan fanwerthu, fasnachol a gwasanaeth neu barc manwerthu ar gyrion y canol neu’r tu allan i’r canol ac nid yw'n achosi nac yn gwaethygu gor-grynodiad o ddefnyddiau A3 siopau tecawê poeth yn y ganolfan honno. Mae gor-grynodiad pan fo mwy na'r gyfran benodol o unedau a ganiateir fel siopau tecawê poeth ym mhob canolfan fanwerthu ddiffiniedig, yn unol â’r cyfrannau canlynol:
  • Canolfannau Tref ac Ardal – 6%
  • Pob math arall o ganolfan fanwerthu gyda chyfanswm o dros 20 o unedau – 10%
  • Pob math arall o ganolfan fanwerthu gyda chyfanswm o rhwng 10 a 20 o unedau – 20%
  • Pob math arall o ganolfan fanwerthu gyda chyfanswm o dan 10 o unedau – 30%
  1. Nid yw'r cynnig yn arwain at glystyru annerbyniol o siopau tecawê poeth, a ddiffinnir fel dim mwy na dwy uned tecawê gyfagos ac o leiaf 3 uned nad ydynt yn siopau tecawê A3 yn gwahanu clystyrau.
  1. Nid yw'r cynnig yn niweidio amwynder, cymeriad, hyfywedd nac atyniad yr ardal a'r gymdogaeth gyfagos.

Ni fydd cynnig ar gyfer Mannau Bwyd Poeth A3 newydd y tu allan i'r ardaloedd manwerthu a ddiffiniwyd uchod yn dderbyniol.

6.222Cydnabyddir bod gan gynnal nifer o sefydliadau tecawê poeth sy'n gwerthu bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr y potensial i effeithio ar iechyd trigolion, yn groes i Amcan 2 y CDLlN i wella iechyd meddwl a chorfforol. Gall cyfyngu ar nifer a lleoliad y sefydliadau hyn helpu i wella dewisiadau prydau bwyd ac iechyd cyffredinol y boblogaeth. Gall gor-grynodiad o ddefnydd A3 siopau tecawê poeth mewn canolfannau diffiniedig hefyd niweidio bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad y ganolfan yn sylweddol.

6.223Gall siopau tecawê poeth niweidio amwynder ac atyniad ardaloedd o fewn a thu allan i ganolfannau manwerthu, gan achosi drewdod, sbwriel a sŵn gyda’r nos yn ogystal ag effeithio ar ddiogelwch parcio a phriffyrdd.

6.224Mae Papur Cefndir Siopau Tecawê Poeth y Cyngor wedi nodi nifer sylweddol o siopau tecawê poeth ym Mro Morgannwg, yn bennaf yn y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth. Mae siopau tecawê poeth hefyd i'w cael yn amlach o fewn yr aneddiadau mwy, gyda chrynodiadau penodol yn y Barri, yn enwedig mewn ardaloedd a nodwyd fel rhai sydd o fewn yr 20% o gymunedau â'r amddifadedd mwyaf ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

6.225Mae tystiolaeth o glystyrau presennol o siopau tecawê poeth mewn aneddiadau ym Mro Morgannwg ac mae'n bwysig bod siopau tecawê poeth yn cael eu rheoli mewn modd nad yw'n niweidio bywiogrwydd yr ardal. Y canolfannau trefi ac ardaloedd y cyfeirir atynt yn y Polisi yw'r canolfannau hynny a bennir ym Mholisi SP11 - Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth.

6.226Bydd Canllaw Cynllunio Atodol yn cael ei baratoi sy'n nodi eglurhad pellach ar sut y bydd siopau tecawê poeth A3 yn cael eu diffinio a sut y bydd y polisi hwn yn cael ei roi ar waith yn ymarferol.

SEILWAITH CYMUNEDOL (SC)

SP13 - SEILWAITH CYMUNEDOL A RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO Sylw

Lle bo hynny'n briodol ac o ystyried hyfywedd datblygu, bydd y Cyngor yn sicrhau seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol newydd a gwell sy'n briodol i raddfa, math a lleoliad datblygiadau arfaethedig gan ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio. Gall seilwaith cymunedol gynnwys darparu, gwella a chynnal a chadw hirdymor:

  • Tai fforddiadwy ac arbenigol.
  • Darpariaeth a chyfleusterau addysgol.
  • Cyfleusterau Iaith Gymraeg
  • Seilwaith trafnidiaeth a chyfleusterau ar gyfer cerddwyr, beicwyr, trafnidiaeth gyhoeddus, a thraffig cerbydol.
  • Man agored cyhoeddus.
  • Mannau Tyfu Cymunedol fel rhandiroedd
  • Seilwaith gwyrdd.
  • Celf gyhoeddus.
  • Cyfleusterau hamdden a chwaraeon.
  • Gwella Bioamrywiaeth.
  • Cyfleusterau cymunedol.
  • Cyfleusterau gofal iechyd.
  • Seilwaith gwasanaeth a chyfleustodau, gan gynnwys seilwaith digidol.
  • Gwarchod a gwella'r amgylchedd megis atal llifogydd, adfywio canol trefi, rheoli llygredd neu adnewyddu hanesyddol.
  • Cyfleusterau rheoli ailgylchu a gwastraff; a
  • Chyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau ategol gan gynnwys hybiau gwaith a hyfforddiant.
  • Lleddfu Pwysau Hamddenol Estuari Hafren.

Rhaid darparu seilwaith newydd neu well mewn modd amserol a chydgysylltiedig i ddiwallu anghenion cymunedau presennol ac arfaethedig cyn neu o ddechrau'r camau perthnasol o ddatblygu.

6.227Gall datblygiadau newydd greu galw ychwanegol am wasanaethau a chyfleusterau a allai effeithio ar eu gallu i ddiwallu anghenion y gymuned. Mae darparu seilwaith newydd, yn ogystal â diogelu, gwella, cynnal a chadw hirdymor a defnydd effeithlon o seilwaith presennol yn ganolog i sicrhau bod pob datblygiad newydd a gynigir o fewn cyfnod y Cynllun yn cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y Cynllun o greu cymunedau cynaliadwy. Felly, mae darparu seilwaith angenrheidiol yn amserol sy'n cefnogi ac yn lliniaru effaith datblygiad newydd yn hanfodol.

6.228Mae ansawdd, hygyrchedd ac amrywiaeth y seilwaith cymunedol sydd ar gael i fodloni anghenion datblygiadau newydd yn hanfodol i greu cymunedau cynaliadwy. Mae Polisi SP13 yn nodi'r gofynion ar gyfer sicrhau bod pob datblygiad newydd ym Mro Morgannwg yn cael eu cefnogi gan wasanaethau a chyfleusterau priodol i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion y gymuned bresennol, er mwyn creu cymunedau diogel, cynaliadwy, iach a chymysg y gellir byw ynddynt. Gallai hyn fod drwy welliannau i gyfleusterau presennol neu drwy ddarparu seilwaith newydd.

6.229Wrth ystyried yr anghenion seilwaith a gynhyrchir gan ddatblygiadau, bydd hyn yn cael ei ystyried yn ôl y math o ddatblygiad a gynigir, yr amgylchiadau a'r anghenion lleol sy'n deillio o'r datblygiad a'r hyn y mae'n rhesymol disgwyl i'r datblygwr ei ddarparu o ystyried y polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei nodi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol y Cyngor ar Rwymedigaethau Cynllunio.

6.230Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Cyngor yn annog datblygwyr i ddarparu cyfleusterau a seilwaith ar y safle i wasanaethau meddianwyr y datblygiad yn y dyfodol. Lle bydd hyn yn wir, bydd y cyfraniadau hyn yn cael eu hystyried wrth gyfrifo swm unrhyw gyfraniadau oddi ar y safle. Pan ystyrir bod datblygiad yn diwallu ei holl anghenion ar y safle ac yn lliniaru ei effeithiau drwy gyfraniadau digonol ar y safle, mae'n annhebygol y ceisir unrhyw gyfraniadau ariannol ychwanegol.

6.231Pan fônt yn bodloni’r profion polisi, (h.y. yn angenrheidiol; yn berthnasol i’r gwaith cynllunio; yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu; bod modd eu gorfodi; yn fanwl gywir ac yn rhesymol ym mhob ffordd arall), bydd y Cyngor yn defnyddio amodau cynllunio yn hytrach na Rhwymedigaethau Cynllunio i sicrhau’r seilwaith cymunedol angenrheidiol sydd ei angen o ganlyniad i’r datblygiad (Polisi Cynllunio Cymru a Chylchlythyr 16/2014 ‘Defnydd o Amodau ar gyfer Rheoli Datblygiadau’).

6.232Mae cytundebau Adran 106 yn wirfoddol ac angen cydweithrediad y datblygwr i’w cyflawni. Fodd bynnag, pan fo datblygwr yn methu â dangos sut y gall liniaru’n ddigonol effeithiau ei ddatblygiad, naill ai drwy rwymedigaethau cynllunio neu fesurau eraill, mae’n debygol y gwrthodir y cais.

MAN AGORED A HAMDDEN

CI1 – DARPARIAETH MANNAU AGORED Sylw

Bydd yn ofynnol i bob datblygiad preswyl newydd sydd â chynnydd net o 10 neu fwy o anheddau gynnig mannau agored defnyddiol, hygyrch sydd wedi'u dylunio'n dda yn unol â'r safonau isafswm mannau agored meincnod canlynol fesul 1000 o bobl:

  • 0.55Ha o fannau chwarae (12.4 metr sgwâr fesul annedd)
  • 2.2Ha o fannau agored ychwanegol gan gynnwys darpariaeth

mannau tyfu cymunedol, mannau chwaraeon awyr agored a mannau agored anffurfiol (49.8 metr sgwâr fesul annedd)

Ar gyfer datblygiadau masnachol mawr (1 Ha neu fwy neu ofod llawr o 1,000 metr sgwâr), dylid darparu 6 metr sgwâr fesul gweithiwr cyfwerth ag amser llawn.

Fel arfer, bydd angen darparu mannau agored ar y safle fel rhan o gynigion datblygu newydd. Lle nad yw'n ymarferol gwneud darpariaeth ar y safle, bydd angen darpariaeth briodol oddi ar y safle neu gyfraniadau ariannol ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau presennol yn lle mannau chwarae, darpariaeth chwaraeon awyr agored neu fannau gwyrdd amwynder ar y safle.

Bydd angen cyflwyno Strategaeth Mannau Agored ar gyfer pob datblygiad tai a masnachol sy'n bodloni'r trothwyon.

6.233Bydd disgwyl i ddatblygiad preswyl newydd ym Mro Morgannwg ddarparu lefelau priodol ar gyfer mannau agored ffurfiol ac anffurfiol, yn unol â'r safonau a nodwyd. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Safonau Meysydd Chwarae Cymru a dderbynnir yn eang ar gyfer darparu mannau chwarae. Ar gyfer mannau agored eraill, a all gynnwys darpariaeth chwaraeon awyr agored, mannau gwyrdd ffurfiol ac anffurfiol ac ardaloedd tyfu cymunedol, nodir targed cyfunol yn seiliedig ar Safonau Meysydd Chwarae Cymru ar gyfer mathau eraill o fannau agored. Dylai'r ddarpariaeth ar y safle gael ei harwain gan ddylunio yn hytrach na safonau ac mae'n rhaid i'r math o ddarpariaeth i gyrraedd y targed hwn ymateb i'r cyd-destun lleol a mynd i'r afael ag anghenion lleol a nodwyd ar gyfer mathau penodol o fannau agored, gan ystyried canfyddiadau'r Papur Cefndir Mannau Agored.

6.234Bydd cymhwyso'r safonau hyn yn sicrhau y bydd datblygiad newydd yn darparu digon o fannau agored ar gyfer preswylwyr y dyfodol ac ni fydd yn rhoi baich ychwanegol ar lefelau presennol o ddarpariaeth. Bydd y safonau'n cael eu cymhwyso i bob datblygiad preswyl newydd sydd â chynnydd net o 10 neu fwy o anheddau, gan gynnwys datblygiadau preswyl sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd, cynlluniau ailddatblygu, addasiadau a datblygiadau defnydd cymysg sy'n cynnwys tai.

6.235Dylid cynllunio mannau agored hefyd i fod yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn groesawgar i bob oedran a chefndir, gan gynnwys preswylwyr hŷn, a menywod a merched, a dylid eu cynllunio mewn modd sy'n meithrin cydlyniant cymunedol ac yn lleihau'r potensial ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd canllawiau ar sut i weithredu'r dull hwn yn cael eu nodi yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar Ddarpariaeth Mannau Agored.

6.236Bydd angen i ddatblygiadau masnachol mawr hefyd ddarparu lefelau priodol o fannau agored cyhoeddus i gyfrannu at les gweithwyr ac amwynder lleol.

6.237Fel arfer, bydd angen darpariaeth ar y safle er mwyn gwasanaethu’r preswylwyr a’r cyflogeion newydd hynny a fydd yn cynhyrchu’r galw cynyddol. Lle nad yw'n bosibl darparu cyfleusterau ychwanegol ar y safle, er enghraifft o ganlyniad i gyfyngiadau safle neu natur y datblygiad a gynigir, gall darpariaeth oddi ar y safle neu gyfraniadau ariannol tuag at wella neu gynnal cyfleusterau presennol neu fynediad at gyfleusterau presennol yn y cyffiniau fod yn briodol. Mae’n rhaid i unrhyw ddarpariaeth amgen oddi ar y safle a gytunir gael ei lleoli o fewn pellter cerdded diogel a rhwydd i’r datblygiad arfaethedig. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda datblygwyr i gytuno ar y ffordd fwyaf priodol o fodloni’r safonau a dderbyniwyd a chynnal lefel a chydbwysedd boddhaol o ddarpariaeth pe bai amgylchiadau o’r fath yn codi.

6.238Mae cynnal a chadw mannau agored a chyfleusterau hamdden ffurfiol yn y dyfodol yn hanfodol i sicrhau bod cyfleusterau diogel o ansawdd uchel ar gael i ddefnyddwyr lleol yn y tymor hir. Bydd y Cyngor yn sicrhau trefniadau cynnal a chadw priodol yn y dyfodol trwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio trwy gytundeb adran 106 i sicrhau bod yr holl gyfleusterau a ddarperir yn cael eu cynnal a’u cadw mewn modd priodol.

6.239Yn achos datblygiadau preswyl, mae’n rhaid hefyd sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer mannau amwynder preifat megis gerddi, terasau to a balconïau, er mwyn diwallu anghenion uniongyrchol preswylwyr am le storio, lle sychu dillad a lle i fynd yn achlysurol i fwynhau eu heiddo mewn preifatrwydd. Ceir rhagor o fanylion am ddarpariaeth Mannau Amwynder yn y Canllaw Cynllunio Atodol Datblygiadau Preswyl a Deiliaid Tai, a darperir manylion am gymhwyso'r safonau mannau agored yn y Canllaw Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio.

CI2 - GWARCHOD MANNAU AGORED PRESENNOL Sylw

Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y bydd cynigion ar gyfer datblygiadau ar fannau agored o fewn aneddiadau yn cael eu caniatáu:

  1. Byddai faint o fannau agored sy'n weddill yn y gymdogaeth yn dal i fod yn ddigonol i wasanaethu anghenion lleol; ac
  2. Nid oes gan y safle unrhyw werth sylweddol fel adnodd hamdden, ardal o amwynder gweledol neu ased seilwaith gwyrdd.

6.240Mae mannau agored cyhoeddus yn rhan bwysig o gymeriad unigryw cymunedau yn y Fro, gan ddarparu ardaloedd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn ogystal â gwneud ardaloedd deniadol i fyw, a chefnogi lles corfforol a meddyliol. Yn gynyddol, mae mannau agored o fewn aneddiadau presennol dan bwysau gan ddatblygu ac mae'n bwysig, lle bo’n briodol, bod y mannau agored hynny sydd â gwerth hamdden neu amwynder gweledol sylweddol yn cael eu diogelu, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae diffyg mannau agored o'u cymharu â Safonau Meysydd Chwarae Cymru ar gyfer darparu mannau agored.

6.241Mae Polisi CI2 yn berthnasol i bob man agored ar safleoedd heb eu dyrannu o fewn ffin anheddiad ddiffiniedig. Diffinnir y teipolegau mannau agored y mae'n berthnasol iddynt yn NCT 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored, gyda hyn yn cynnwys cyfleusterau ffurfiol fel parciau a gerddi cyhoeddus, rhandiroedd, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal â mannau agored mwy anffurfiol fel mannau gwyrdd amwynder a mannau gwyrdd naturiol a lled-naturiol.

CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL

6.242Mae cyfleusterau cymunedol fel neuaddau cymunedol, llyfrgelloedd, ysgolion a chanolfannau hamdden yn hanfodol i les cymdeithasol a chorfforol trigolion ac yn elfennau allweddol o gynnal hyfywedd a bywiogrwydd bywyd cymunedol mewn aneddiadau trefol a gwledig.

CI3 – CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL NEWYDD

Dyrennir tir ar gyfer datblygu cyfleusterau cymunedol newydd yn:

  1. Tir yng Ngerddi Clare, Y Bont-faen (Addysg) Sylw Gweld map New Community Facility (1) / Cyfleuster Cymunedol Newydd (1)
  2. Ysgol Gynradd Sain Tathan, Sain Tathan (Addysg) Sylw Gweld map New Community Facility (2) / Cyfleuster Cymunedol Newydd (2)
  3. Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Y Barri (Addysg) Sylw Gweld map New Community Facility (3) / Cyfleuster Cymunedol Newydd (3)
  4. Lower Cosmeston Farm, Penarth (Addysg) Sylw Gweld map New Community Facility (4) / Cyfleuster Cymunedol Newydd (4)
  5. Upper Cosmeston Farm, Penarth (Addysg, Gofod Cymunedol) Sylw Gweld map New Community Facility (5) / Cyfleuster Cymunedol Newydd (5)

Yn ogystal, mae tir wedi'i ddiogelu ar gyfer defnydd cymunedol posibl ar y safle canlynol:

  1. Tir i'r de o'r rheilffordd, Sain Tathan Sylw Gweld map Community Use Safeguarding / Diogelu Defnydd Cymunedol

6.243Mae Polisi CI3 yn dyrannu tir ar gyfer darparu cyfleusterau addysg newydd a gwell yn y Bont-faen, Sain Tathan, Y Barri, a Cosmeston, mewn ymateb i'r galw cynyddol am leoedd ysgol yn y cymunedau hyn.

6.244Mae tir yng Ngerddi Clare, y Bont-faen, wedi'i ddyrannu ar gyfer adleoli ac ehangu Ysgol Iolo Morganwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd ar hyn o bryd wedi'i lleoli mewn adeilad Fictoraidd ar safle cyfyngedig yn y Bont-faen. Mae'r ysgol bresennol yn cynnig hyd at 210 o leoedd; fodd bynnag, mae'r campws newydd wedi'i glustnodi i ddyblu capasiti i 420 o ddisgyblion, ochr yn ochr â chynnydd yn y ddarpariaeth feithrin.

6.245Er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol am leoedd ysgol yn Sain Tathan ac i wella cyfleusterau presennol, dyrennir Ysgol Gynradd Sain Tathan ar gyfer ailddatblygu ac ehangu ar safle'r ysgol bresennol. Bydd angen darn bach o dir ychwanegol o'r dyraniad Safle Allweddol yn Church Farm, Sain Tathan (HG1 KS4), er mwyn hwyluso darparu'r ysgol. Efallai y bydd angen gwell mynediad hefyd.

6.246Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Ebrill 2024 ar gyfer ailddatblygu Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, gyda'r nod o foderneiddio cyfleusterau a chynyddu capasiti. Bydd yr ailddatblygiad, a fydd yn digwydd ar y safle presennol, yn cynyddu lleoedd myfyrwyr o 813 i 1,050.

6.247Mae tir hefyd wedi'i ddyrannu ar gyfer ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yn Lower Cosmeston Farm ger Penarth, a fydd yn gwasanaethu fel ail safle ar gyfer ysgol arbennig Ysgol y Deri. Derbyniodd yr ysgol newydd, a fydd yn cael ei galw’n Ysgol Llyn Derw, ganiatâd cynllunio yn 2023, ac mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau.

6.248Fel rhan o ddatblygiad Upper Cosmeston Farm sy’n gyfagos, gwneir darpariaeth ar gyfer ysgol gynradd a man cymunedol o fewn y caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl 576 o unedau, fel y cyfeirir ato ym Mholisi HG1 (10). Mae'r caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i gymeradwyo, yn amodol ar lofnodi cytundeb Adran 106. Bydd y cytundeb hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r tir gael ei drosglwyddo i'r Cyngor mewn cyflwr glân yn ystod camau cynnar y datblygiad, ynghyd â chyfraniad ariannol tuag at ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol. Mae angen cadw adeilad fferm presennol ar y safle at ddefnydd cymunedol hefyd.

6.249Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Bro Morgannwg 2022–2032 yn nodi cynnydd a ragwelir yn y galw am leoedd ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, o ganlyniad i gapasiti ehangach ar lefel ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Byddai angen ystyried darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn dilyn gwerthusiad o ddigonolrwydd y galw. Mae unrhyw ddatblygiad a ragwelir yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ac achos busnes a'r rhaglen amlinellol strategol. Mae'r CDLlN wedi diogelu tir ar gyfer cyfleusterau cymunedol ychwanegol ar dir i'r de o'r rheilffordd yn Sain Tathan, a allai gynnwys darpariaeth ysgol cyfrwng Cymraeg newydd. Bydd angen gwelliannau i gysylltiadau teithio llesol, gan gynnwys cyflwyno pont droed i gerddwyr a beicwyr ar draws y rheilffordd, a gwell cysylltiadau ag aneddiadau cyfagos.

6.250Mae'r rhestr o gyfleusterau cymunedol newydd ym Mholisi CI3 yn ymwneud ag ysgolion a seilwaith cymunedol arall sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a bydd angen estyniadau a gwelliannau i ysgolion ac adeiladau cymunedol presennol o ganlyniad i ddatblygiad newydd. Pan fo cynigion o'r fath yn gysylltiedig â gofynion datblygu a chapasiti cynyddol, byddant yn cael eu hariannu'n rhannol drwy gytundebau Adran 106 yn unol â Pholisi SP13 a'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio.

CI4 - GWARCHOD A GWELLA CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL PRESENNOL Sylw

Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd neu gynigion sy'n ceisio cadw, gwella neu gynnal cyfleusterau cymunedol presennol yn cael eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau cymunedol aml-ddefnydd, gan gynnwys cyd-leoli gofal iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden.

Bydd cynigion a fyddai'n arwain at golli cyfleusterau cymunedol (gan gynnwys safleoedd a ddefnyddiwyd ddiwethaf ar gyfer gweithgareddau o'r fath) ond yn cael eu caniatáu os dangosir:

  1. Mae'r cyfleuster yn ychwanegol at anghenion y gymuned; neu
  2. Bydd cyfleuster amgen sydd man lleiaf o’r un ansawdd a graddfa i ddiwallu anghenion cymunedol yn cael ei ddarparu yn yr ardal leol; neu
  3. Nid yw’n economaidd hyfyw, dichonol nac ymarferol mwyach i gadw'r adeilad neu'r safle at ddefnyddiau cymunedol amgen; ac
  4. Mae pob ymdrech resymol wedi'i gwneud i gadw'r cyfleuster, gan gynnwys tystiolaeth i gadarnhau bod yr eiddo neu'r safle wedi cael ei farchnata'n weithredol ac yn gadarnhaol am gyfnod o 12 mis o leiaf gyda thelerau masnachol rhesymol, ac nad oes unrhyw ddiddordeb realistig yn ei gadw ar gyfer y defnydd presennol neu ddefnydd cymunedol amgen.

Bydd cynigion sy'n ceisio cadw, gwella neu ailddefnyddio cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys datblygiad ategol priodol a allai wneud darpariaeth o'r fath yn economaidd hyfyw, yn cael eu cefnogi.

6.251Mae cyfleusterau cymunedol yn chwarae rôl bwysig wrth ddod â'r gymuned at ei gilydd ac yn cefnogi iechyd, lles cymdeithasol a lles diwylliannol. Fel y cyfryw, mae'n bwysig bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu diogelu rhag colli cyfleusterau a gwasanaethau gwerthfawr yn ddiangen, yn enwedig lle byddai hyn yn lleihau gallu unrhyw gymuned i ddiwallu ei hanghenion o ddydd i ddydd.

6.252At ddibenion y polisi hwn, mae gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Canolfannau cymunedol a neuaddau pentref
  • Cyfleusterau addysg a phlant
  • Cyfleusterau diwylliannol; gan gynnwys darpariaeth gelfyddydol, amgueddfeydd, lleoliadau cyngherddau a theatrau
  • Hamdden masnachol; gan gynnwys sinemâu a thafarndai
  • Addoldai, mynwentydd ac amlosgfeydd
  • Gwasanaethau cyhoeddus eraill fel llyfrgelloedd, swyddfeydd post, a chanolfannau ailgylchu a gwastraff y cartref
  • Mannau’r sector gwirfoddol a chymunedol a mannau anffurfiol ar gyfer gweithgareddau

6.253O ystyried bod darparu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol yn rhan bwysig o weledigaeth y Cyngor ar gyfer cynnal cymunedau cynaliadwy, mae polisi CI4 yn ceisio sicrhau bod colli cyfleuster cymunedol yn barhaol yn digwydd dim ond pan nad oes eu hangen mwyach, nad ydynt yn economaidd hyfyw, neu lle maent yn cael eu disodli'n foddhaol.

6.254Efallai y bydd amgylchiadau hefyd lle mae colli cyfleuster cymunedol yn rhan o gynnig ehangach i ad-drefnu neu wella'r ddarpariaeth o wasanaethau lleol. Bydd y Cyngor fel arfer yn cefnogi cynigion sy'n cynnwys gwaredu tir neu adeiladau dros ben lle dangosir ei bod yn hanfodol ariannu cyfleuster cymunedol newydd neu well mewn lleoliad arall o fewn yr ardal leol. Mewn achosion o'r fath, rhaid i gynigion gael eu cefnogi gan dystiolaeth i ddangos na fyddai colli'r cyfleuster yn effeithio'n negyddol ar faint ac ansawdd neu hygyrchedd y cyfleusterau presennol.

6.255Bydd y Cyngor hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau cymunedol aml-ddefnydd sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymunedol hygyrch fel hamdden, gofal iechyd, addysg, mannau cyfarfod cymunedol a gwasanaethau cymunedol hanfodol eraill. Gall cyfleusterau o'r fath helpu i leihau'r galw am orfod teithio, hyrwyddo cymunedau cynaliadwy, a hwyluso darparu cyfleusterau cymunedol yn effeithiol gan sawl sefydliad.

6.256Bydd y Cyngor yn gweithio'n gadarnhaol gyda chymunedau lleol a mudiadau gwirfoddol, i gefnogi cynigion sy'n cadw, gwella neu ailddefnyddio seilwaith cymdeithasol a chymunedol, ac unrhyw ddatblygiad ategol priodol a allai wneud darpariaeth o'r fath yn economaidd hyfyw. Gall hyn gynnwys arallgyfeirio cyfleusterau presennol i wella hygyrchedd gwasanaethau i'r gymuned neu gynyddu hyfywedd hirdymor, er enghraifft trwy leoli siop neu swyddfa bost yn y dafarn leol i ddarparu gwasanaeth deuol i'r gymuned, lle gall hyn atal colli cyfleuster.

6.257Pan fydd colli cyfleuster yn cael ei gynnig ar sail hyfywedd ariannol, bydd angen i hyn gael ei gefnogi gan gofnodion ariannol y busnes, fel arfer am y 3 blynedd flaenorol. Bydd angen tystiolaeth farchnata briodol sy'n dangos bod ymdrechion rhesymol wedi'u gwneud i farchnata'r eiddo ar werth y defnydd presennol am o leiaf 12 mis yn olynol cyn i'r cais gael ei wneud. Bydd angen prisiad proffesiynol annibynnol pan ystyrir bod y cyfleuster wedi'i farchnata am bris gor-chwyddedig neu amhriodol. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'r ymholiadau sy'n deillio o hysbysebu, cynigion sy'n deillio o hynny a pham y cawsant eu diystyru.

6.258Ym mhob achos lle mae cynnig ar gyfer colli cyfleuster a gwasanaeth cymunedol, rhaid i'r dystiolaeth a gyflwynir i gefnogi'r cais gynnwys manylion ymgynghori â'r gymuned leol a grwpiau cymunedol perthnasol.

CI5 - DARPARIAETH MYNWENTYDD AC AMLOSGFEYDD Sylw Gweld map Cemetery and Crematorium Safeguarding / Diogelu Mynwent ac Amlosgfa

Mae tir wedi'i ddiogelu ar gyfer ymestyn Mynwent Porthceri, Y Barri, fel y dangosir ar y Map Cynigion.

Bydd cynigion ar gyfer darparu tir claddu neu amlosgfeydd ychwanegol yn cael eu cefnogi yn yr amgylchiadau canlynol:

  1. Mae angen cyfleusterau ychwanegol yn ardal y cyngor tref neu gyngor cymuned.
  2. Mae'r safle wedi'i leoli yn agos at lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ac mae'n darparu digon o leoedd parcio ar y safle i ateb y galw brig.
  3. Dangosir na fyddai'r cynnig yn effeithio'n andwyol ar ffynonellau dŵr daear na pherygl llifogydd ac y gellir lliniaru unrhyw ffynonellau posibl o halogiad.
  4. Nid yw'r cynnig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (Graddau 1, 2 a 3a), nac ar ardaloedd pwysig ar gyfer bioamrywiaeth, tirwedd, archaeoleg a daeareg; ac
  5. Ni fyddai'r cynnig yn cael effaith andwyol ar amwynderau meddianwyr cyfagos oherwydd sŵn, llygredd, preifatrwydd ac ymwthgarwch gweledol, ac ni fyddai'n effeithio ar ddiogelwch priffyrdd.

Bydd disgwyl i gynigion ar gyfer amlosgfa newydd fodloni gofynion Adran 5 Deddf Amlosgi 1902 mewn perthynas â lleoliad yr amlosgfa.

6.259Dylai cynigion ar gyfer cyfleusterau mynwent neu amlosgfa newydd gael eu lleoli mewn lleoliad cynaliadwy. Er y byddai lleoliadau y tu allan i ffin anheddiad ddiffiniedig yn dderbyniol mewn egwyddor, dylai safleoedd gael mynediad da i'r rhwydwaith ffyrdd yn ogystal â llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn galluogi mynediad hawdd i alarwyr ac ymwelwyr.

6.260Yn ogystal â'r effaith bosibl ar amwynder defnyddiau cyfagos, rhaid i gynlluniau sicrhau bod cynigion ar gyfer mynwentydd, gan gynnwys ymestyn cyfleusterau presennol, yn rhoi ystyriaeth benodol i berygl llifogydd, materion llygredd dŵr daear, unrhyw halogiad tir presennol, a (fel y bo'n briodol) gofynion Deddf Amlosgi 1902.

LLEOEDD CYNHYRCHIOL A MENTRUS

TWF ECONOMAIDD A CHYFLOGAETH

6.261Mae'r CDLl yn ceisio addasu i amgylchiadau economaidd newidiol ym Mro Morgannwg a natur newidiol cyflogaeth dros amser drwy ddarparu ystod amrywiol o safleoedd cyflogaeth newydd a diogelu ardaloedd cyflogaeth presennol.

6.262Er mwyn sicrhau bod digon o dir ar gael i ddiwallu anghenion cyflogaeth leol, comisiynodd y Cyngor Astudiaeth Tir Cyflogaeth (2022), i ddarparu asesiad o'r cyflenwad presennol o dir cyflogaeth ac ardaloedd cyflogaeth, ac i nodi anghenion tir cyflogaeth yn y dyfodol dros gyfnod y cynllun yng nghyd-destun rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru.

6.263Tynnodd yr astudiaeth sylw at y ffaith bod gweithgarwch economaidd y Fro yn bennaf o fewn y sectorau diwydiannol a gweithgynhyrchu, sy'n canolbwyntio'n ofodol o gwmpas 3 ardal farchnad y Barri, Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan (Sain Tathan) a'r Fro Wledig (Llanilltud Fawr, y Bont-faen, Llandŵ a chynlluniau arallgyfeirio gwledig llai yn bennaf).

6.264O ran angen tir cyflogaeth yn y dyfodol, mae'r astudiaeth wedi nodi angen am 67.8 hectar o dir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod digon o dir cyflogaeth i ddiwallu angen cyflogaeth dros gyfnod y cynllun, a bod gan y ddarpariaeth hon y potensial i gefnogi tua 5,338 o swyddi ychwanegol.

6.265Er mwyn diwallu'r angen tir cyflogaeth a ragwelir o 67.8 hectar net, mae Polisi SP14 Twf Cyflogaeth yn gwneud darpariaeth ar gyfer 182 hectar net o dir, sy'n adlewyrchu'r cyflenwad tir cyflogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n debygol, yn realistig, o gael ei ddatblygu o fewn cyfnod y cynllun. Mae cyfran fawr o'r cyflenwad presennol i’w gweld yn bennaf yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan ac ar Gyffordd 34 yr M4, gyda thir ychwanegol wedi'i nodi mewn ardaloedd cyflogaeth leol yn y Barri a Llandŵ.

SP14 - TWF CYFLOGAETH Sylw

Er mwyn cefnogi twf swyddi a ffyniant economaidd ar draws Bro Morgannwg dros gyfnod y cynllun ac i ddiwallu'r anghenion tir cyflogaeth a ragwelir o 67.8 hectar o dir cyflogaeth, a darparu hyd at 5,338 o swyddi, darperir 182 hectar net o dir cyflogaeth ar gyfer defnyddiau cyflogaeth B1 (Swyddfa a Diwydiant Ysgafn), B2 (Diwydiannau Cyffredinol) a B8 (Dosbarthu a Storio) yn y lleoliadau cyflogaeth mawr a lleol canlynol:

Dyraniadau Cyflogaeth Mawr*:

  1. Tir i'r dwyrain o Faes Awyr Caerdydd, y Rhws (16.4 hectar net) Sylw Gweld map Major Employment Allocation (1) / Dyraniadau Cyflogaeth Mawr (1)
  2. Tir i'r de o Port Road (Model Farm), Y Rhws (44.75 hectar net) Sylw Gweld map Major Employment Allocation (2) / Dyraniadau Cyflogaeth Mawr (2)
  3. Parc Awyrofod a Busnes Bro Tathan (66.7 hectar net) Sylw Gweld map Major Employment Allocation (3) / Dyraniadau Cyflogaeth Mawr (3)
  4. Tir i’r de o Gyffordd 34 yr M4, Hensol (36.23 hectar net) Sylw Gweld map Major Employment Allocation (4) / Dyraniadau Cyflogaeth Mawr (4)

Dyraniadau Cyflogaeth Lleol:

  1. Ystad Fasnachu’r Iwerydd, y Barri (1.59 hectar net) Sylw Gweld map Local Employment Allocation (5) / Dyraniadau Cyflogaeth Lleol (5)
  2. Parc Windmill, Hayes Road, y Barri (3.6 hectar net) Sylw Gweld map Local Employment Allocation (6) / Dyraniadau Cyflogaeth Lleol (6)
  3. Parc Busnes y Fro, Llandŵ (10.9 hectar net) Sylw Gweld map Local Employment Allocation (7) / Dyraniadau Cyflogaeth Lleol (7)
  4. Tir yn Ystad Fasnach Llandŵ (1.85 hectar net) Sylw Gweld map Local Employment Allocation (8) / Dyraniadau Cyflogaeth Lleol (8)

*Efallai y bydd defnyddiau ategol nad ydynt yn rhai dosbarth B yn cael eu caniatáu lle byddai'r rhain yn darparu gwasanaethau cefnogol i fusnesau a chyflogeion presennol ac yn y dyfodol.

6.266Mae Polisi SP14 yn nodi'r ddarpariaeth tir cyflogaeth gofodol ar gyfer Bro Morgannwg dros gyfnod y cynllun, sy'n cynnwys hierarchaeth o safleoedd cyflogaeth strategol a lleol sydd wedi'u lleoli'n dda i'r 3 ardal farchnad gyflogaeth allweddol a nodwyd yn yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth, ac sy'n darparu hyblygrwydd a dewis i fodloni gofynion tir cyflogaeth y Fro dros gyfnod y Cynllun.

Dyraniadau Cyflogaeth Mawr

6.267Mae’r hierarchaeth tir cyflogaeth yn cynnwys pedwar safle strategol ym Mharc Awyrofod a Busnes Bro Tathan, tir i'r dwyrain o Barc Busnes Maes Awyr Caerdydd a thir i'r de o Port Road (Model Farm) sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, a'r tir i'r de o Gyffordd 34 yr M4. Mae eu safle fel safleoedd cyflogaeth mawr o fewn yr hierarchaeth cyflogaeth yn adlewyrchu eu pwysigrwydd fel ardaloedd allweddol o fuddsoddiad a chyfleoedd cyflogaeth yn y Fro.

6.268Gwelir bod Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygu awyrofod a gweithgynhyrchu uwch, ymchwil a datblygu ac arloesi ym Mro Morgannwg. Gan adeiladu ar sylfaen sgiliau bresennol Maes Awyr Caerdydd, British Airways Maintenance Cardiff, a datblygiadau mwy diweddar yn Ardal Fenter Bro Tathan, cydnabyddir eu pwysigrwydd i'r rhanbarth ehangach yng Nghymru’r Dyfodol, y Cynllun Cenedlaethol, sy'n nodi Maes Awyr Caerdydd fel un o bedwar Porth Strategol i Gymru (Polisi 10 – Cysylltedd Mewnol), gan nodi:

"Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru. Mae'n borth rhyngwladol sy'n cysylltu Cymru â'r byd ac mae'n sbardun pwysig o fewn economi Cymru. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i leoli yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan sy'n cynnig cyfleoedd i fuddsoddi yn y safle a'r ardaloedd cyfagos. Mae’r Ardal Fenter yn cynnig amrywiaeth ehangach o safleoedd datblygu ac adeiladau busnes, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol neu i fuddsoddi yn yr adeiladau cyfredol.” (Cymru'r Dyfodol, tudalen 82)

6.269Mae’r tir i'r dwyrain o Faes Awyr Caerdydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn bennaf. Mae'r safle wedi'i ddyrannu ar gyfer cyflogaeth defnydd cymysg. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer campws coleg ar 2.7 hectar o dir i'r de-ddwyrain o Barc Busnes presennol y Maes Awyr. Mae'r Cyngor yn paratoi uwchgynllun ar gyfer defnyddio gweddill y safle fel parc busnes.

6.270Mae’r tir i'r de o Port Road (Model Farm) y Rhws ar hyn o bryd yn destun apêl am ddiffyg dyfarniad ar gais cynllunio amlinellol ar gyfer defnydd B1, B2, B8. Os caniateir yr apêl, disgwylir i'r safle ddarparu 1.7 miliwn troedfedd sgwâr o swyddfeydd Dosbarth B1, B2 a B8, diwydiannol ysgafn ac unedau warws a dosbarthu, ochr yn ochr â gwaith parcio, tirlunio, seilwaith draenio a chyfoethogi bioamrywiaeth sy'n cynnwys tir ar gyfer ehangu Parc Gwledig Porthceri i'r de. Mae agosrwydd y safle at Faes Awyr Caerdydd a Bro Tathan ochr yn ochr â datblygiad Coleg Caerdydd a'r Fro yn gyfle i ddatblygu'r ardal yn glwstwr busnes o ansawdd uchel.

6.271Mae Bro Tathan (Sain Tathan) ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r safle yn cynnwys nifer o barthau datblygu gyda mynediad uniongyrchol i redfa weithredol gyda chymorth ochr yr awyr. Mae'r safle cyfan wedi'i warchod fel safle cyflogaeth presennol dan Bolisi EMP3 (4), gan fod rhannau o'r safle wedi'u hailddatblygu at ddefnydd cyflogaeth. Yn ogystal, mae nifer o barseli ar gael i'w datblygu ar draws y safle ehangach. Mae'r safle cyfan yn 338 hectar ond rhagwelir y bydd 66.7 hectar yn cael ei ddatblygu o fewn cyfnod y cynllun, gan adlewyrchu ardaloedd sydd â chaniatâd cynllunio a chais am 48.5 hectar o dir cyflogaeth net yn y parth dwyreiniol, sy'n aros am benderfyniad ar hyn o bryd. Nododd Astudiaeth Tir Cyflogaeth y Cyngor nad oes cyfleusterau ategol ar gael i'r rheini a gyflogir ym Mro Tathan, felly mae Polisi SP14 yn caniatáu darparu defnyddiau ategol i gefnogi'r rheini a gyflogir yn y prif safleoedd cyflogaeth.

6.272Mae’r tir i'r de o Gyffordd 34 yr M4 yn cael ei feddiannu gan Renishaw PLC, a brynodd y safle yn 2011. Mae eiddo presennol Renishaw wedi'i warchod fel safle cyflogaeth presennol dan Bolisi EMP3 (6). Mae tir ychwanegol i'r gogledd a'r dwyrain sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer cyflogaeth newydd. Mae ei safle strategol ger traffordd yr M4 yn cyflwyno cyfle i Fro Morgannwg ddatblygu busnesau diwydiannol a logisteg ar raddfa strategol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn 2016 ar gyfer hyd at 151,060 metr sgwâr o ddefnyddiau Dosbarth B1, B2 a B8; Gwesty/Canolfan Hyfforddi Breswyl (Dosbarth C1/C2); a hyd at 1,300 metr sgwâr o ddefnyddiau ategol o fewn Dosbarthiadau A1, A2, A3; ochr yn ochr â 30.5 hectar o seilwaith gwyrdd, ac mae cais i amrywio'r amod i ymestyn yr amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl yn aros am benderfyniad ar hyn o bryd.

Dyraniadau Cyflogaeth Lleol

6.273Mae dyraniadau cyflogaeth lleol yn cynnwys 17.9 hectar (net) arall o dir at ddefnyddiau B1, B2 a B8 ac fe'u dyrennir i sicrhau bod ystod a dewis priodol o dir ar gael i gefnogi twf economaidd lleol. Yn gyffredinol, mae'r safleoedd hyn o fewn, neu'n ffinio ag, ardaloedd cyflogaeth presennol sy'n cefnogi amrywiaeth o ddefnyddiau cyflogaeth, ac yn darparu cyfleoedd i fusnesau bach lleol a busnesau newydd, yn galluogi busnesau sefydledig i ehangu, ac yn ardaloedd deniadol ar gyfer buddsoddiad busnesau lleol.

6.274Mae cynnal banc tir o safleoedd, yn enwedig lle gellir lletya sectorau twf, yn hanfodol i lwyddiant mentrau a buddsoddiad datblygu economaidd yr ardaloedd. Felly, er mwyn diogelu eu statws fel safleoedd cyflogaeth pwysig, ni chaniateir cynigion ar gyfer defnyddiau amgen ar y dyraniadau safleoedd cyflogaeth strategol a lleol a nodwyd ym Mholisi SP14 at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth.

EMP1 - ARDALOEDD CYFLE ADFYWIO CYFLOGAETH

Bydd cynigion ar gyfer ailddatblygu a gwella tir ac eiddo presennol ar gyfer B1, B2 a B8 a chynigion cyflogaeth a seilwaith sy'n gysylltiedig â charbon isel a di-garbon yn cael eu cefnogi yn:

  1. Hen Orsaf Bŵer Aberddawan Sylw Gweld map Employment Regeneration Opportunity Area (1) / Ardal Cyfle i Adfywio Cyflogaeth (1)
  2. Tir ym Mhorthladd y Barri Sylw Gweld map Employment Regeneration Opportunity Area (2) / Ardal Cyfle i Adfywio Cyflogaeth (2)

6.275Mae Polisi EMP1 yn nodi dwy Ardal Cyfle Adfywio Cyflogaeth yn hen Orsaf Bŵer Aberddawan a Phorthladd Gweithredol Dociau'r Barri, y mae'r cynllun yn eu hystyried yn ardaloedd pwysig ar gyfer cefnogi amcanion y CDLlN o fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwyrddu economi'r Fro, gan hwyluso'r twf mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a busnesau.

6.276Mae’r tir yn hen Orsaf Bŵer Aberddawan yn cael ei ddyrannu ar gyfer Parc Ynni Gwyrdd, Cyflogaeth ac Arloesi i gefnogi datgarboneiddio ac arloesi diwydiannol. Mae'r safle o arwyddocâd rhanbarthol gyda rôl strategol yn natblygiad economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a nodwyd fel Ardal Dwf Genedlaethol Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd. Bydd y safle yn sefydlu Bro Morgannwg fel canolfan ranbarthol ar gyfer arloesi mewn ynni adnewyddadwy a gwyrdd a gweithgynhyrchu di-garbon. Bydd y Parc Ynni Gwyrdd, Cyflogaeth ac Arloesi yn gyfle adfywio pwysig, gan alluogi darparu swyddi medrus, hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel, ynghyd â gwneud cyfraniad sylweddol tuag at liniaru newid hinsawdd. Bydd datblygu'r safle yn galluogi cyfleoedd ar gyfer gwella tirwedd, rhwydweithiau seilwaith gwyrdd, budd net mewn bioamrywiaeth a dylunio adfywiol.

6.277Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys ystod o ddefnyddiau ynni a chyflogaeth, gan gynnwys:

  • Defnyddiau sy'n cefnogi’r gwaith o gynhyrchu ac arloesi ynni adnewyddadwy a gwyrdd (gan gynnwys potensial ar gyfer arloesiadau llanw, solar a hydrogen), a chefnogi seilwaith trydan;
  • Defnyddiau cyflogaeth (defnyddiau B1, B2 a B8) megis gweithgynhyrchu gwerth uchel a di-garbon;
  • Cyfleusterau storio ynni a batris storio hirdymor i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu ac arloesi ynni adnewyddadwy a gwyrdd;
  • Canolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesedd, twf, gwybodaeth a rhyngweithio cymunedol â dyfodol carbon sero Cymru;
  • Parc ecoleg bioamrywiol a chanolfan ymwelwyr, sy'n darparu cyfleusterau i'r gymuned leol;
  • Cyfleusterau a gwasanaethau ategol ar raddfa fach i gefnogi ymwelwyr a gweithwyr ar y safle; a
  • Chyfraniad tuag at yr economi gylchol gan gynnwys ailgylchu.

6.277Bydd y safle yn cael ei ddarparu fesul cam, a rhagwelir y bydd cam cyntaf yn cael ei ddatblygu o fewn cyfnod y cynllun, gyda gwaith adfer a lliniaru llifogydd priodol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen hyblygrwydd o ran graddfa ac amserlenni’r ddarpariaeth er mwyn ymateb i ofynion y farchnad wrth iddynt ddod i'r amlwg, ac i fanteisio ar y cyfleoedd y mae Aberddawan yn eu cyflwyno i ddenu buddsoddiad rhanbarthol.

6.278Rhaid i’r gwaith o uwch-gynllunio'r safle gael ei lywio gan ymgysylltu rhanddeiliaid â busnesau lleol, y gymuned ac awdurdodau rheoleiddio gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.

6.279Dylid paratoi uwchgynllun dangosol ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd, ar y cyd â chais cynllunio ar gyfer unrhyw gam cyntaf o ddatblygiad defnydd terfynol i ddangos ymagwedd gynhwysfawr at y safle.

6.280Rhaid i ddatblygiad ar y safle gydymffurfio â'r egwyddorion uwch-gynllunio canlynol, sy'n cael eu hystyried yn allweddol i gyflawni adfywiad llwyddiannus yr hen safle diwydiannol i ganolfan ynni gwyrdd, cyflogaeth ac arloesi:

  • Dylai’r cynllun, graddfa a dyluniad ddarparu cyd-destun ac amgylchedd o ansawdd uchel ar gyfer y safle, cymunedau preswyl cyfagos gan gynnwys Dwyrain Aberddawan a Sain Tathan, a defnyddwyr Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
  • Dylai'r datblygiad ddangos sut mae’r SoDdGA Arfordir Dwyrain Aberddawan cyfagos yn cael ei ddiogelu, ei gefnogi neu, lle y bo'n bosib, ei wella. Dylai’r datblygiad gynnwys byffer priodol rhwng datblygiad adeiledig a'r SoDdGA.
  • Dylai’r datblygiad ddatblygu cynllun safle sy'n ystyried seilwaith ac amgylchedd presennol y safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r twmpath lludw tanwydd maluriedig, y ddolen reilffordd a'r is-orsafoedd trydanol.
  • Dylai Strategaeth Bioamrywiaeth/Ecoleg gynnal a gwella cysylltedd ecosystemau a darparu budd net i fioamrywiaeth.
  • Rhaid asesu risg llifogydd a darparu mesurau lliniaru priodol i gefnogi pob cam o'r datblygiad sy'n dod ymlaen, yn unol ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd.
  • Dylai’r datblygiad greu cynllun effeithlon sy'n gwneud yn fawr o'r tir sydd ar gael, ac yn creu diffiniadau clir rhwng mannau preifat a chyhoeddus.
  • Oherwydd ei ddefnydd diwydiannol yn y gorffennol, rhaid adfer y safle i'r safon sy'n ofynnol cyn pob cam o ddatblygiad sy'n dod ymlaen.
  • Dylid creu strategaeth tirwedd a thir cyhoeddus o ansawdd uchel i gefnogi bioamrywiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy ac ymateb i gymeriad tirwedd amgylchynol a lleoliad y safle.
  • Dylai’r datblygiad wneud yn fawr o gyfleoedd ar gyfer mynediad trafnidiaeth gynaliadwy gan gynnwys defnyddio'r ddolen reilffordd bresennol, os yw'n bosib.
  • Dylai’r datblygiad integreiddio rhwydwaith seilwaith gwyrdd (SG) sy'n ymgorffori mesurau lliniaru risg llifogydd / systemau draenio cynaliadwy (SDCau) ledled y safle ac yn darparu rhwydwaith o ardaloedd preifat a chyhoeddus o fannau gwyrdd ac ardaloedd hamdden.
  • Dylai’r datblygiad ymateb i ganlyniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau.

6.282Mae Porthladd y Barri, sy'n eiddo i Gymdeithas Porthladdoedd Prydain hefyd yn cael ei nodi fel Ardal Cyfle Adfywio Cyflogaeth. Mae cyfleusterau porthladd yn seilwaith rhanbarthol ac yn ased economaidd pwysig yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, ac fe'u cydnabyddir felly yng Nghymru’r Dyfodol sy'n nodi, "Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol ystyried rôl y porthladdoedd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol a sefydlu fframweithiau i gefnogi eu gweithrediad ac, o bosib, helpu i'w hehangu". Yn y Fro, mae Porthladd y Barri yn ffynhonnell werthfawr o gyflogaeth leol ac mae wedi bod yn ganolbwynt adfywio i'r Barri gydag ailddatblygu Glannau'r Barri ar gyfer tai, manwerthu a hamdden.

6.283Mae’r cynlluniau ar gyfer Porthladdy Barri yn cynrychioli'r cam nesaf yn y broses o adfywio Dociau'r Barri ac mae'n canolbwyntio ar wella rôl economaidd y dociau yn y dyfodol. Mae nodi'r ardal fel Ardal Cyfle Adfywio Cyflogaeth yn adlewyrchu gweledigaeth a dyheadau Cymdeithas Porthladdoedd Prydain sydd wedi'u cynnwys yn ei strategaeth hirdymor Porthladdoedd y Dyfodol: Y Barri. Mae hyn yn nodi'r ardaloedd cyflogaeth a'r tir porthladd gweithredol yn Noc Rhif 2 hyd at 2035, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu'r porthladd o amgylch sectorau carbon isel a di-garbon ochr yn ochr â defnyddiau diwydiannol traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r môr.

6.284Bydd Ardal Cyfle Adfywio Cyflogaeth Porthladd y Barri yn cynnwys defnyddiau B1, B2, B8, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a seilwaith twf glân sy'n dod i'r amlwg. Gall defnyddiau posib ar y porthladd gynnwys gweithgynhyrchu cemegol, cynhyrchu ynni gwyrdd, cyfleusterau dal carbon, cynhyrchu hydrogen, cynhyrchu solar ffotofoltäig a thyrbinau gwynt ar y Porthladd. Er mwyn addasu i newid hinsawdd, bydd angen i ddatblygiad newydd yn y porthladd hefyd ymgorffori'r mesurau angenrheidiol i fynd i'r afael â risg llifogydd.

6.285Y gobaith yw y bydd y twf yn y sector ynni adnewyddadwy yn Aberddawan a Dociau'r Barri yn creu swyddi newydd medrus ac yn rhoi hwb sylweddol i'r economi. Yn unol â hynny, mae Polisi SP14 yn cefnogi twf y sectorau hyn ochr yn ochr â chyflogaeth B1, B2 a B8.

EMP2 - Y WEINYDDIAETH AMDDIFFYN SAIN TATHAN Sylw Gweld map MOD St Athan / Y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan

Bydd datblygiad newydd o fewn neu’n gyfagos i Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, y dangosir ei fod yn angenrheidiol at ddibenion amddiffyn a diogelwch gweithredol, ac sy'n helpu i wella neu gynnal eu gallu gweithredol, yn cael ei gefnogi mewn egwyddor.

Ni fydd cynigion ar gyfer datblygiad nad yw'n ddatblygiad milwrol neu nad yw'n gysylltiedig ag amddiffyn o fewn neu yn yr ardaloedd o gwmpas safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael eu cefnogi lle byddai'n effeithio'n andwyol ar weithrediadau neu allu milwrol, oni bai y gellir dangos nad oes angen amddiffyn na milwrol ar gyfer y safle mwyach.

6.286Mae Polisi EMP2 yn cefnogi datblygiad o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan lle mae'n ofynnol at ddibenion gweithredol, fel y'i diffinnir ar y Map Polisïau. Yn yr un modd, caniateir cynigion o fewn neu ar dir sy'n union gyfagos i'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan dim ond lle na fyddai'r cynigion hyn yn effeithio'n andwyol ar, nac yn cyfaddawdu, defnydd yr ardal at ei dibenion gweithredol.

6.287Mae parth diogelu statudol sy'n gysylltiedig â'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan wedi'i nodi ar y map cyfyngiadau. Mae'r parth diogelu hwn wedi'i gynllunio i gadw gallu gweithredol trwy sicrhau bod datblygiad a allai gyfaddawdu neu gyfyngu ar weithrediad offer technegol sy'n sylfaenol i wasanaethau traffig awyr yn destun ymgynghoriad.

6.288Mae asedau technegol sy'n hwyluso rheoli traffig awyr, yn bennaf radar, llywio a systemau cyfathrebu yn cael eu diogelu i gyfyngu ar effaith datblygu ar eu gallu a'u gweithrediad. Gall yr uchder, y màs, a'r deunyddiau a ddefnyddir i orffen datblygiad i gyd fod yn ffactorau wrth asesu effaith cynllun penodol. Gall datblygiadau sy'n ymgorffori systemau ynni adnewyddadwy fod yn bryder arbennig o ystyried eu potensial i ddarparu ehangder mawr o fetel ar uchder, er enghraifft lle mae cynigion yn cynnwys tyrbin gwynt neu system solar ffotofoltäig wedi'i osod ar do.

6.289Pan nad yw safle neu ased y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi'i ddiogelu bellach yn weithredol, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cadarnhau nad oes angen amddiffyn mwyach, gellir adolygu'r dynodiad diogelu. Hyd nes y derbynnir cadarnhad o'r fath, bydd cyfyngiadau diogelu yn parhau i fod mewn grym.

AMDDIFFYN SAFLEOEDD AC EIDDO CYFLOGAETH PRESENNOL

EMP3 - AMDDIFFYN SAFLEOEDD AC EIDDO CYFLOGAETH PRESENNOL Sylw

Mae'r hierarchaeth ganlynol o safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu diogelu ar gyfer defnyddiau cyflogaeth B1, B2 a B8, a byddant yn cael eu diogelu rhag datblygiad a fyddai'n peryglu eu rôl a'u swyddogaeth.

Safleoedd Cyflogaeth Mawr

  1. Porthladd Gweithredol, Dociau’r Barri, y Barri Sylw Gweld map Major Employment Site (1) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (1)
  2. Y Cyfadeilad Cemegol, Y Barri Sylw Gweld map Major Employment Site (2) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (2)
  3. Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, y Rhws Sylw Gweld map Major Employment Site (3) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (3)
  4. Parc Busnes Awyrofod Bro Tathan, Sain Tathan Sylw Gweld map Major Employment Site (4) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (4)
  5. Gwaith Sment Aberddawan Sylw Gweld map Major Employment Site (5) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (5)
  6. Renishaw, Cyffordd 34, M4 Sylw Gweld map Major Employment Site (6) / Safleoedd Cyflogaeth Mawr (6)

Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd

  1. Ystad Fasnachu’r Iwerydd, Y Barri Sylw Gweld map Secondary Employment Site (7) / Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd (7)
  2. Ystad Ddiwydiannol Tŷ Verlon, Y Barri Sylw Gweld map Secondary Employment Site (8) / Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd (8)
  3. Ystad Fasnachol Llandochau, Llandochau (Penarth) Sylw Gweld map Secondary Employment Site (9) / Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd (9)
  4. Ystad Ddiwydiannol West Point, Llandochau (Penarth) Sylw Gweld map Secondary Employment Site (10) / Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd (10)
  5. Parc Busnes y Fro, Llandŵ Sylw Gweld map Secondary Employment Site (11) / Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd (11)

Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol

  1. Ystad Fasnachu Palmerston, Y Barri Sylw Gweld map Key Local Employment Site (12) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (12)
  2. Ystad Ddiwydiannol Sully Moors Road, Y Barri Sylw Gweld map Key Local Employment Site (13) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (13)
  3. Parc Busnes Heol Caerdydd, Y Barri Sylw Gweld map Key Local Employment Site (14) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (14)
  4. St Hilary Court, Croes Cwrlwys Sylw Gweld map Key Local Employment Site (15) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (15)
  5. Parc Busnes Treftadaeth, Llanilltud Fawr Sylw Gweld map Key Local Employment Site (16) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (16)
  6. Ystad Fasnachu Llandŵ, Llandŵ Sylw Gweld map Key Local Employment Site (17) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (17)
  7. Parc Busnes Dyffryn, Llandŵ Sylw Gweld map Key Local Employment Site (18) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (18)
  8. Ystad Ddiwydiannol West Winds, Llan-gan Sylw Gweld map Key Local Employment Site (19) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (19)
  9. De Llandŵ, Llandŵ Sylw Gweld map Key Local Employment Site (20) / Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol (20)

6.290Mae Polisi EMP3 yn nodi hierarchaeth Bro Morgannwg o safleoedd cyflogaeth presennol, sydd wedi'i sefydlu drwy asesiad o safleoedd cyflogaeth a fanylir yn Astudiaeth Tir Cyflogaeth y Cyngor (2023). Mae'r hierarchaeth hon yn adlewyrchu rôl a swyddogaeth pob maes cyflogaeth o fewn yr economi leol ac ehangach. Er bod yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth wedi canolbwyntio ar ardaloedd cyflogaeth presennol, roedd yr astudiaeth hefyd yn cydnabod rôl eiddo cyflogaeth mewn mannau eraill yn y Fro, ac felly mae hyn yn cael ei adlewyrchu o fewn hierarchaeth safleoedd cyflogaeth y CDLlN, y diffinnir rôl a swyddogaeth pob categori isod:

  • Safleoedd Cyflogaeth Mawr -mae'r rhain yn ardaloedd datblygu allweddol o raddfa a lleoliad digonol sy'n denu unigolion a buddsoddiad o ddalgylch eang, ac fel arfer maent yn cael eu defnyddio gan gwmnïau mawr enwog sy'n nodweddion o'r marchnadoedd cenedlaethol/rhyngwladol.
  • Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd -mae gan y rhain fel arfer amrywiaeth o ddefnyddiau cyflogaeth ac maent yn tueddu i ddenu unigolion a buddsoddiad o fewn Bro Morgannwg. Efallai y bydd presenoldeb bach o gwmnïau cenedlaethol o fewn y stadau hyn hefyd, ond busnesau lleol mwy sefydledig sy’n tueddu i fod amlycaf.
  • Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol -mae'r rhain yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol pwysig a nodweddir gan fentrau bach a chanolig lleol a busnesau newydd, gan ddarparu lle yn aml i ganiatáu i'r busnesau hyn dyfu ac ehangu yn y tymor byr-canolig.
  • Safleoedd Cyflogaeth Cymdogaeth – mae'r rhain yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i aelodau o'r cymunedau cyfagos. Mae'r safleoedd hyn fel arfer yn fach o ran maint ac yn tueddu i wasanaethu'r ardal uniongyrchol.
  • Eiddo Eraill mewn Defnydd Cyflogaeth - y tu allan i'r prif ardaloedd cyflogaeth mae llawer o fusnesau presennol ar draws yr awdurdod. Mae'r rhain yn cynnwys swyddfeydd mewn canolfannau manwerthu, gweithdai, stiwdios, a busnesau gwledig bach sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i economi'r Fro.

6.291Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod prif swyddogaeth y safleoedd fel ardal gyflogaeth bwysig ar gyfer cyflogaeth leol a mewnfuddsoddiad yn cael eu diogelu, a bod defnyddiau nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth neu ddefnyddiau ategol yn cael eu rheoli'n ofalus fel y nodir ym Mholisi EMP3.

EMP4 - CYNIGION NAD YDYNT YN YMWNEUD Â CHYFLOGAETH AR ARDALOEDD AC EIDDO CYFLOGAETH PRESENNOL Sylw

Bydd cynigion datblygu ar safleoedd ac eiddo cyflogaeth presennol a nodwyd ym Mholisi EMP2 yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau canlynol:

Ar Safleoedd Cyflogaeth Mawr ac Ardaloedd Cyfle Adfywio Cyflogaeth :

Bydd defnyddiau nad ydynt yn B1, B2 a B8 yn cael eu cyfyngu i wasanaethau neu gyfleusterau ategol sy'n gysylltiedig â defnydd cyflogaeth presennol neu arfaethedig a fyddai'n gwasanaethu cyflogeion ar y safle cyflogaeth ehangach lle:

  1. Gellir dangos yn glir bod y defnydd arfaethedig yn ategol i brif weithrediadau busnes presennol neu arfaethedig; neu
  2. Byddai'r defnydd yn ategol i ddefnyddiau cyfagos, rôl a gweithrediad y safle cyflogaeth, ac mae ar raddfa a fyddai'n cefnogi'r busnesau/lleoliad presennol;
  3. Ni fyddai'r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder na'r amgylchedd; ac
  4. Ni fydd graddfa na math y defnydd ategol yn effeithio ar fywiogrwydd na hyfywedd canol trefi presennol.

Ar Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd, Allweddol a Chymdogaeth a Safleoedd ac Eiddo Eraill mewn Defnydd Cyflogaeth:

Bydd cynigion ar gyfer defnyddiau cyflogaeth nad ydynt yn B1, B2 a B8 ond yn cael eu cefnogi mewn amgylchiadau lle gellir bodloni'r holl feini prawf canlynol:

  1. Mae'r cynnig ar gyfer defnydd ategol neu sui generis ac mae'n bodloni meini prawf A1- A4 uchod, neu
  2. Dangosir nad oes galw rhesymol neu realistig am gadw'r tir neu'r eiddo presennol ar gyfer defnyddiau cyflogaeth B1, B2 a B8; neu
  3. Bydd budd cymunedol sylweddol sy'n gorbwyso colli'r safle/eiddo cyflogaeth, er enghraifft drwy wella amwynder i ddefnyddiau cyfagos neu welliannau amgylcheddol, ac
  4. Ni fyddai'r cynnig, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynigion eraill, yn arwain at newid sylweddol yn natur y safle cyflogaeth, nac yn peryglu gweithrediadau defnyddiau presennol neu gyfagos, ac ni fyddai'n cael effaith annerbyniol ar amwynder na'r amgylchedd.

6.292Tynnodd Astudiaeth Tir Cyflogaeth y Cyngor (2023) sylw at y ffaith bod amodau'r farchnad ym Mro Morgannwg ar gyfer tir cyflogaeth yn esblygu, gan nodi bod galw cryf yn yr ardaloedd cyflogaeth presennol ar gyfer adeiladau diwydiannol, gyda galw am unedau bach a chanolig. Mae'r astudiaeth hefyd yn nodi twf cynyddol mewn cynlluniau cyflogaeth B1/B2/B8 gwledig, a phrinder posib o swyddfeydd rhydd-ddaliadol o fewn yr awdurdod. O ystyried canfyddiadau'r astudiaeth, mae'r Cyngor o'r farn ei bod yn hanfodol sicrhau bod lles yr economi leol ac ehangach yn ddiogel ar gyfer yr hirdymor.

6.293Yn unol â hynny, mae Polisi EMP4 yn ceisio diogelu rôl a swyddogaeth safleoedd ac eiddo cyflogaeth presennol rhag colli eu swyddogaeth gyflogaeth, neu erydiad graddol ohoni, trwy dresmasu gan ddefnyddiau nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth. Mae'r ymagwedd a nodir yn y polisi hwn yn berthnasol yn gyfartal i eiddo busnes presennol neu wag sydd naill ai mewn defnydd cyflogaeth neu mewn defnydd cyflogaeth diwethaf, lle mae'r defnydd yn dod o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 a B8 o'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd.

6.294Pan gynigir cynigion ar gyfer defnyddiau ydynt yn ymwneud â chyflogaeth, rhoddir ystyriaeth i rôl a swyddogaeth y safle cyflogaeth o fewn yr hierarchaeth cyflogaeth, effaith gronnol defnyddiau nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth presennol ar rôl a swyddogaeth y safle cyflogaeth, a/neu amwynder cyfagos fel y nodir isod:

Safleoedd Cyflogaeth Mawr ac Ardaloedd Cyfle Adfywio Cyflogaeth

6.295Er y bydd y newid defnydd i ddefnyddiau nad ydynt yn ddosbarth B ar safleoedd mawr yn cael ei wrthwynebu, cydnabyddir bod nifer gyfyngedig o ddefnyddiau nad ydynt yn ddefnyddiau B1, B2 a B8 y gellid eu hystyried yn dderbyniol ar safleoedd cyflogaeth mawr, gan y byddent yn darparu gwasanaeth i gyflogeion a'u cleientiaid, ac yn cyfrannu at effeithlonrwydd y safle cyflogaeth. Gall defnyddiau sy'n wirioneddol ategol gynnwys cownteri masnach, campfeydd, caffis bach, meithrinfeydd gofal plant, neu ganolfannau hyfforddi, sy'n darparu gwasanaeth i gyflogeion lleol neu ddefnyddwyr y safle cyflogaeth presennol.

6.296Wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer cynigion ategol ar safleoedd cyflogaeth mawr, ac ardal cyfle adfywio, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod y cynnig yn bodloni meini prawf 1-4 Polisi EMP4. Ym mhob achos, bydd y Cyngor yn ystyried a fyddai'r cynnig yn darparu budd ategol i'r ardal gyflogaeth ac yn cefnogi anghenion y cyflogeion, ac na fyddai'n gwrthdaro â gweithrediad y safle fel ardal gyflogaeth fawr ac amwynder cyffredinol.

Safleoedd Cyflogaeth Eilaidd, Safleoedd Cyflogaeth Lleol Allweddol a Safleoedd Cyflogaeth Cymdogaeth ac Eiddo Eraill mewn Defnydd Cyflogaeth

6.297Er mai blaenoriaeth y Cyngor yw diogelu colli defnyddiau cyflogaeth, cydnabyddir, yn ogystal â defnyddiau ategol priodol, y gallai fod achosion lle gallai fod yn briodol caniatáu ailddatblygu neu newid defnydd i fusnes nad yw'n fusnes dosbarth B. Dan amgylchiadau o'r fath, bydd y Cyngor yn ystyried cynigion yn unol â meini prawf 5-8 Polisi EMP4, y prif ystyriaeth bob amser fydd sicrhau na fyddai'r defnydd arfaethedig, nad yw'n ddosbarth B, yn tanseilio rôl a swyddogaeth y safle neu'r eiddo cyflogaeth. Gall hyn gynnwys cynigion a fyddai'n gwneud defnydd buddiol o eiddo neu safleoedd gwag, a fyddai'n galluogi cyfleoedd cyflogaeth amgen, neu lle byddai newid defnydd yn darparu gwell amwynder neu fuddion amgylcheddol dros y defnydd busnes presennol.

6.298Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ar gyfer y cyfiawnhad dros ddefnyddiau amgen fel y nodir dan Bolisi EMP4. Bydd y math o dystiolaeth sydd ei hangen yn amrywio, yn dibynnu ar y defnydd a'r amgylchiadau unigol, ond gall gynnwys manylion pam nad yw'r tir neu'r eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio, a thystiolaeth i ddangos bod ymdrechion priodol a rhesymol wedi'u gwneud i'w farchnata i'w werthu neu ei brydlesu ar gyfer ei ddefnydd presennol.

6.299Pan gynigir defnyddiau nad ydynt yn rhai Dosbarth B, bydd y Cyngor yn gofyn i'r ymgeiswyr ddangos:

  • Nad yw'r safle/eiddo bellach yn addas nac yn rhesymol addas i'w ailddatblygu at ddibenion cyflogaeth.
  • Bod y safle/eiddo wedi'i farchnata'n rhagweithiol at ddibenion cyflogaeth am gyfnod rhesymol (e.e., o leiaf 12 mis) ar gyfradd farchnad resymol (h.y. rhent, neu werth cyfalaf) fel y'i cefnogir trwy strategaeth ac ymgyrch farchnata ffurfiol wedi'i dogfennu, neu
  • Bydd budd cymunedol sylweddol sy'n gorbwyso’r effaith o golli'r safle/eiddo cyflogaeth, megis gwell amwynder i ddefnyddiau cyfagos neu welliannau amgylcheddol.

6.300Gallai gwybodaeth gan yr asiant neu’r ymgeisydd ynghylch galw fod ar ffurf adroddiad marchnata neu ohebiaeth gan yr asiant eiddo perthnasol. Gallai’r math o wybodaeth gynnwys y canlynol:

  • Manylion y meddianwyr presennol, os oes unrhyw rai.
  • Os yn briodol, cyfnod yr amser y bu eiddo neu safle’n wag.
  • Math y defnydd y marchnatwyd yr eiddo/safle ar ei gyfer, a pha strategaeth farchnata a fabwysiadwyd ac am ba hyd.
  • Lefel y diddordeb yn y safle yn ystod y cyfnod – dylai hyn nodi nifer yr ymholiadau, math y defnydd y ceisiwyd amdani, ac, os yn hysbys, y rheswm pam na wnaed mwy ar ôl yr ymholiad gwreiddiol;
  • A gaiff preswylwyr presennol eu hadleoli i adeiladau eraill addas ei hwyluso.

6.301Yn ogystal, efallai y bydd achlysuron hefyd i fusnes presennol neu arfaethedig weithredu allfa werthu ategol, fel cownteri masnach neu allfeydd ffatri sy'n gwasanaethu'r cyhoedd ehangach. Dim ond lle mae'r gweithrediadau'n uniongyrchol gysylltiedig â'r busnes presennol neu arfaethedig ac o raddfa a math sy'n briodol i'r busnes y caniateir cynigion o'r fath. Pan fo cynigion ar gyfer allfeydd siopau ffatri, bydd yr holl nwyddau a werthir yn cael eu cyfyngu i'r rheini a weithgynhyrchir ar y safle. Bydd cynigion nad ydynt yn bodloni'r amodau hyn yn cael eu penderfynu yn erbyn cynigion manwerthu arferol, ac yn cael eu hasesu yn unol â pholisïau manwerthu'r cynllun.

EMP5 - CYNIGION CYFLOGAETH NEWYDD O FEWN ANEDDIADAU Sylw

Bydd cynigion ar gyfer defnyddiau cyflogaeth newydd y tu allan i'r ardaloedd cyflogaeth sydd wedi'u dyrannu neu sydd eisoes yn bodoli a nodir ym Mholisi EMP2 ond yn cael eu caniatáu lle:

  1. Mae'r cynnig o fewn anheddiad presennol, ac mae'r math o ddefnydd cyflogaeth yn ategol i'w leoliad a'i ddefnyddiau cyfagos;
  2. Ni ellir lletya'r datblygiad arfaethedig ar safle cyflogaeth a ddyrannwyd neu sy'n bodoli eisoes;
  3. Nid oes unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr ardal gyfagos, rhwydwaith priffyrdd ac amwynder preswyl.

Bydd cynigion ar gyfer datblygu sy'n gysylltiedig â swyddfeydd mewn canolfan fanwerthu, fasnachol neu wasanaeth bresennol a nodir ym Mholisi SP11 yn cael eu cefnogi lle mae'r datblygiad yn cyd-fynd â Pholisi RCS1.

6.302Mae Polisi EMP3 yn nodi hierarchaeth o safleoedd cyflogaeth o bwysigrwydd rhanbarthol a lleol, y mae'r Cyngor yn ystyried y bydd yn darparu hyblygrwydd dewis, i ddiwallu anghenion cyflogaeth y Fro dros gyfnod y cynllun. Mae'r safleoedd wedi'u lleoli'n dda i ganolfannau cyflogaeth presennol, ac yn bennaf dyma’r ardaloedd lle mae datblygiad cyflogaeth newydd wedi digwydd yn hanesyddol.

6.303Mae'r cynllun yn cydnabod bod yna achlysuron lle efallai na fydd yn briodol i gynigion cyflogaeth newydd gael eu lletya ar safleoedd cyflogaeth presennol, megis gweithio gartref a busnesau ar raddfa fach. Mae Polisi EMP5 yn cefnogi cyfleoedd sy'n galluogi busnesau newydd i ddatblygu ar safleoedd heb eu dyrannu o fewn ffiniau aneddiadau presennol.

CYFLOGAETH AC ARALLGYFEIRIO YNG NGHEFN GWLAD

EMP6 - DEFNYDDIAU CYFLOGAETH AC ARALLGYFEIRIO NEWYDD YNG NGHEFN GWLAD Sylw

Gall cynigion ar gyfer dulliau arallgyfeirio newydd yng nghefn gwlad, gan gynnwys cyfleusterau twristiaeth, a defnyddiau cyflogaeth B1, B2 a B8 yng nghefn gwlad y tu allan i ffiniau aneddiadau diffiniedig neu ardaloedd cyflogaeth a nodir ym Mholisi EMP3 fod yn briodol pan fo'r cynnig ar gyfer:

  • Ailddefnyddio neu addasu adeilad gwledig presennol ar y cyd â menter wledig neu gynllun arallgyfeirio fferm;
  • Eiddo cyflogaeth adeilad newydd ar raddfa fach sydd â chysylltiad da ag anheddiad gwledig, neu sydd o fewn neu yn union wrth ymyl cyfadeilad fferm presennol;
  • Defnyddiau cyflogaeth lle mae lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ar gyfer y gofynion gweithredol na ellir eu bodloni ar ardal gyflogaeth bresennol;
  • Cynigion twristiaeth a hamdden cynaliadwy effaith isel.

Caniateir cynigion ar gyfer y defnyddiau uchod dim ond lle:

  1. Mae angen profedig am y datblygiad mewn lleoliad gwledig;
  2. Mae'r cynnig ar raddfa briodol ar gyfer y lleoliad;
  3. Ni fyddai'r cynnig yn niweidio amwynder a chymeriad yr ardal neu'r dirwedd gyfagos (gan gynnwys effeithiau gweledol, sŵn, arogl, dyluniad, ac ymddangosiad) nac yn peryglu diogelwch priffyrdd naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â datblygiadau eraill; a
  4. Rhaid i ddyluniad unrhyw adeilad newydd at ddibenion cyflogaeth fod yn briodol i'w swyddogaeth arfaethedig.

6.304Mae'r Astudiaeth Tir Cyflogaeth (2023) yn tynnu sylw at y ffaith bod galw mawr am adeiladau B1, B2 a B8 yng nghefn gwlad y Fro y tu hwnt i'r fenter wledig draddodiadol ac arallgyfeirio busnesau amaethyddol presennol. Felly, mae polisi EMP6 yn ceisio hwyluso cyfleoedd ar gyfer datblygu cyflogaeth wledig newydd a galluogi busnesau gwledig presennol i ehangu ac addasu i greu economïau gwledig cynaliadwy ac amrywiol.

6.305Yn unol â hynny, cefnogir datblygiadau cyflogaeth (dosbarthiadau defnydd B) yng nghefn gwlad pan fo'r rhain yn cynnwys naill ai addasu adeiladau gwledig presennol, neu os ydynt wedi'u lleoli'n dda i anheddiad gwledig presennol, neu pan fo'r cynnig yn cynnwys ymestyn neu adleoli busnes sy'n bodoli eisoes, a lle mae graddfa a math y defnyddiau busnes yn gymesur â lleoliad gwledig.

6.306Wrth ystyried cynigion datblygu ar gyfer arallgyfeirio ffermydd a defnyddiau busnes gwledig, dylid ystyried yn y lle cyntaf ailddefnyddio adeiladau presennol. Os nad yw hyn yn bosib, gellir ystyried adeilad newydd wedi'i gynllunio'n sensitif o fewn cyfadeilad presennol y fferm. Ar gyfer cynigion sy'n ymwneud ag addasu adeiladau gwledig presennol, dylai adeiladau fod yn gallu darparu ar gyfer y defnydd busnes arfaethedig, ac felly bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn Polisi HG8 Addasu ac Adnewyddu Adeiladau Gwledig a chanllaw cynllunio atodol cysylltiedig.

6.307Pan fo'r cynnig ar gyfer un o'r defnyddiau a nodir yn rhan gyntaf y polisi, rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o angen gwirioneddol am y datblygiad mewn lleoliad gwledig, gan gynnwys cyfiawnhad pam na ellir ei ddarparu mewn aneddiadau diffiniedig neu ardaloedd cyflogaeth o safbwynt gweithredol neu leoliadol.

6.308Rhaid i raddfa'r datblygiad fod yn gymesur â'i leoliad, gan osgoi gorddatblygu neu ddwysáu a fyddai'n niweidiol i'r cymeriad gwledig. Yn unol â hynny, dylid cyfyngu graddfa cynigion busnes gwledig i'r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer y defnydd arfaethedig. Bydd hyn yn cael ei asesu o ran maint (gan gynnwys arwynebedd llawr ond hefyd cyfaint a màs) a dylai ymgeiswyr esbonio pam mae angen adeiladau arfaethedig fel y’u cynigir. Ni ddylai cynigion arwain at niwed annerbyniol i amwynder trigolion cyfagos neu gymeriad y dirwedd. Mae hyn yn cynnwys ystyried effaith weledol, sŵn, arogl a dyluniad. Rhaid cynnal diogelwch priffyrdd hefyd, a bydd effeithiau cronnol gyda datblygiadau eraill yn cael eu hasesu.

6.309Rhaid i adeiladau newydd gael eu dylunio i weddu i'w defnydd arfaethedig wrth barchu'r cyd-destun gwledig. Mae hyn yn cynnwys lleoliad, deunyddiau a ffurf briodol sy'n adlewyrchu cymeriad lleol ac yn lleihau ymyrraeth weledol.

6.310Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen lleoli rhai diwydiannau, oherwydd natur eu gweithgareddau, i ffwrdd o ardaloedd cyflogaeth cyffredinol sefydledig a rhywfaint o bellter o ardaloedd preswyl er mwyn osgoi effeithiau negyddol. Mae nifer o'r safleoedd cyflogaeth presennol yn rhydd o gyfyngiadau lleoliad o'r fath, gan gynnwys Ystad Fasnachu'r Iwerydd, y Porthladd Gweithredol yn Nociau'r Barri ac Ystad Ddiwydiannol Llandŵ, a dylid ymchwilio i'r tir sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn yn y lle cyntaf. Yn unol â'r prawf dilyniannol a argymhellir yn NCT 23 - Datblygu Economaidd (2014), ar gyfer cynigion o'r fath, bydd angen i'r Cyngor fod yn fodlon bod dull dilyniannol wedi'i gymryd i nodi'r safle, a bod pob opsiwn posib wedi'i archwilio sy'n dangos y gellir cyfiawnhau’r lleoliad arfaethedig a’i fod yn opsiwn priodol wrth ystyried manteision posib y cynnig ac anghenion y busnes a gynigwyd.

TWRISTIAETH

SP15 - TWRISTIAETH GYNALIADWY Sylw

Caiff cynigion sy’n hyrwyddo Bro Morgannwg fel cyrchfan ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy eu ffafrio. Dylai cynigion datblygu gyfrannu at ddelwedd gadarnhaol y Fro fel cyrchfan ddeniadol a chynaliadwy i dwristiaid trwy:

  1. Hyrwyddo cyfleoedd i ymwelwyr gymryd rhan mewn mathau o dwristiaeth sy'n cael effaith isel ar yr amgylchedd;
  2. Diogelu a gwella atyniadau twristiaeth a chyfleusterau hamdden presennol;
  3. Gwella economi ymwelwyr, denu buddsoddiad lleol, darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol a chyfrannu at arallgyfeirio gwledig;
  4. Nodi a diogelu hunaniaeth leol, amgylchedd adeiledig a naturiol, unigryw y Fro fel asedau i dwristiaeth;
  5. Darparu amrywiaeth o gyfleoedd twristiaeth, yn enwedig trwy gyfleusterau trwy gydol y flwyddyn ac ystod o lety ymwelwyr wedi'u lleoli'n briodol; ac
  6. Annog ymweliadau twristiaeth i gael eu gwneud gan ddulliau trafnidiaeth gweithredol a chynaliadwy.

6.311Mae lleoliad arfordirol a gwledig y Fro, ynghyd â'i diwylliant cyfoethog a'i hamgylchedd hanesyddol, yn asedau gwerthfawr ar gyfer twristiaeth a hamdden. Mae atyniadau fel Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Bae Whitmore, Ynys y Barri a Phenarth, yn ogystal â'i lleoliad yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru yn gwneud Bro Morgannwg yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr dydd, yn ogystal â'r rheini sy'n dymuno aros am gyfnod hwy.

6.312Mae asedau twristiaeth y Fro yn ffynhonnell werthfawr o gyflogaeth leol, gan gyflogi bron 3,000 o bobl a chynhyrchu tua £327 miliwn o wariant ymwelwyr yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

6.313Mae Polisi SP15 yn ceisio cefnogi'r broses o ddarparu cyfleusterau twristiaeth newydd a gwell, wrth bwysleisio'r pwysigrwydd i hyn gael ei wneud mewn modd cynaliadwy, fel bod yr asedau twristiaeth naturiol ac adeiledig yn cael eu cynnal er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y CDLlN yn darparu fframwaith polisi sy’n annog buddsoddiad newydd mewn cyfleusterau twristiaeth a hamdden sydd wedi'u lleoli'n briodol, ac yn ceisio diogelu a gwella cyfleusterau er budd trigolion, ymwelwyr a’r economi leol.

NEWID HINSAWDD A PHONTIO TUAG AT SERO NET

SP16 - MESURAU LLINIARU AC ADDASU I NEWID HINSAWDD Sylw

Dylai pob cynnig datblygu fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd trwy:

  1. Gyfrannu at ddatgarboneiddio a defnydd effeithlon o dir wrth ei leoli, ei ddylunio, ei adeiladu, cyfuno defnyddiau a thrwy ddilyn egwyddorion creu lleoedd;
  2. Hyrwyddo egwyddorion economi gylchol trwy flaenoriaethu ailddefnyddio adeiladau presennol ac adeiladu adeiladau gwydn y mae modd eu haddasu;
  3. Gwneud yn fawr o effeithlonrwydd adnoddau a thechnegau adeiladu cynaliadwy, gan gynnwys dod o hyd i ddeunyddiau yn lleol;
  4. Defnyddio egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy, ac yn achos datblygiad preswyl newydd a chyflawni allyriadau sero net gweithredol;
  5. Gwneud yn fawr o'r cyfleoedd ar gyfer atafaelu carbon o seilwaith gwyrdd;
  6. Gwneud yn fawr o'r cyfleoedd ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy, yn benodol mewn ardaloedd chwilio lleol;
  7. Hyrwyddo’r gwaith o fanteisio i’r eithaf ar opsiynau cyflenwi a dosbarthu ynni, gan gynnwys darparu rhwydweithiau gwres ardal;
  8. Hyrwyddo cysgodi ac oeri trefol trwy ddarparu seilwaith gwyrdd;
  9. Gwneud yn fawr o effeithlonrwydd dŵr, a lleihau effeithiau andwyol ar ansawdd adnoddau dŵr; a
  10. Chyfarwyddo datblygiad i ffwrdd o ardaloedd a nodwyd fel rhai sydd mewn perygl o lifogydd a/neu erydu arfordirol, a sicrhau bod datblygiadau newydd yn rheoli dŵr ffo yn briodol trwy gymhwyso systemau draenio cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur.

6.314Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgan argyfwng hinsawdd. Er na all y system gynllunio ar ei phen ei hun fynd i'r afael â holl effeithiau newid hinsawdd, gall y CDLlN wneud cyfraniad ystyrlon at liniaru ei achosion. Gellir cyflawni hyn trwy'r broses creu lleoedd a thrwy hyrwyddo datblygiad sy'n lleihau allyriadau yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Rhaid ystyried effeithiau newid hinsawdd hefyd, megis cynnydd yn lefel y môr, hinsawdd gynhesach, patrymau tywydd sy'n newid, a digwyddiadau tywydd eithafol amlach, a mynd i'r afael â nhw trwy ddylunio meddylgar.

6.315Mae Polisi SP16, ynghyd â'i bolisïau ategol, yn nodi'r ardaloedd allweddol lle gall y system gynllunio helpu i liniaru achosion newid hinsawdd a chefnogi’r gwaith o addasu i'w effeithiau. Fodd bynnag, mae ymatebion i newid hinsawdd yn eang eu cwmpas, ac yn croestorri â sawl maes polisi cynllunio, gan gynnwys seilwaith gwyrdd, trafnidiaeth gynaliadwy, a chreu lleoedd. Yn unol â hynny, mae'r CDLlN yn darparu polisïau manwl drwyddo draw sydd, gyda'i gilydd, yn sicrhau bod ystyriaethau newid hinsawdd yn cael eu hintegreiddio'n llawn i'r broses gynllunio. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth hyrwyddo newid moddol, lleoli datblygiadau newydd mewn ardaloedd sy'n lleihau'r angen i deithio, a lleihau allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth, y mae pob un ohonynt yn ganolog i gyflawni Strategaeth y CDLlN. Mae'r materion penodol yr ymdrinnir â nhw gan Bolisi SP16 yn cael eu hehangu isod.

6.316Bydd yn rhaid i ddatblygiadau newydd ystyried y canlynol i liniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd:

  • Lliniaru: Sicrhau bod cwmpas y cynigion datblygu, a’r dylunio ac adeiladu canlyniadol yn lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys trwy gymryd mesurau i leihau'r defnydd o ynni; ac
  • Addasu: Sicrhau bod datblygiad yn wydn i newidiadau rhagamcanol i batrymau tywydd, gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Byddai hyn yn cynnwys lleoli datblygiadau i ffwrdd o ardaloedd o risg llifogydd ac ystyried gorboethi.

6.317Mae meini prawf 2 a 3 yn ceisio sicrhau dwysedd adnoddau mewn ailddatblygu a datblygiadau newydd. Mae maen prawf B yn blaenoriaethu ailddefnyddio adeiladau presennol i gyfrif am eu carbon ymgorfforedig. Fodd bynnag, cydnabyddir nad dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar allyriadau carbon bob amser, yn enwedig lle gallai adeilad newydd fod â chymwysterau cynaliadwyedd sylweddol uwch. Mae maen prawf 3 wedi'i ategu gan yr angen i gyfyngu ar garbon mewn datblygiadau newydd. Darperir mwy o fanylion ar ofynion y ddau feini prawf yn y Polisi CC1, sy'n cyfyngu ar allyriad carbon ar dai newydd ac yn ceisio Asesiadau Carbon Bywyd Cyfan[13] i wneud carbon yn ystyriaeth wrth asesu disodli adeiladau presennol.

6.318Mae sero net yn ofynnol ar gyfer datblygiadau preswyl newydd gan Bolisi CC1. Mae'r polisi hwn yn cynnwys sylfaen dystiolaeth sy'n dangos bod hyn yn economaidd hyfyw ac yn dechnegol ymarferol. Mae'r ymyrraeth hon yn sicrhau bod blaenoriaethau allweddol y CDLlN yn cael eu bodloni; bod tai mawr eu hangen yn cael eu darparu ac effeithiau ar yr hinsawdd yn cael eu lliniaru.

6.319Mae Polisi 17 Cymru'r Dyfodol yn nodi bod angen rhoi pwysau sylweddol i'r angen i gynhyrchu 70% o drydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, ac ers cyhoeddi Cymru'r Dyfodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 100% erbyn 2035. Mae gan Fro Morgannwg rôl i'w chwarae wrth gyflawni'r targedau hyn. Er mwyn helpu i hwyluso'r gwaith o ddefnyddio ynni adnewyddadwy, mae Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi'i gwblhau, sy'n cynnwys nodi meysydd chwilio penodol ym Mro Morgannwg, lle mae solar a gwynt yn cael eu cyfyngu lleiaf.

6.320Mae Polisi CC4 yn darparu polisi manwl ar gyfer asesu datblygiadau solar a gwynt. Yn unol ag hierarchaeth y polisi cynllunio cenedlaethol, caniateir Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) yn ddarostyngedig i Bolisïau 17 a 18 Cymru'r Dyfodol. Ar hyn o bryd, byddai datblygiadau ynni adnewyddadwy sy'n cynhyrchu 10-350MW yn gymwys fel DAC[14].

6.321Mae dichonoldeb rhwydweithiau gwres wedi'u hystyried fel rhan o baratoi'r CDLlN a thrwy waith ar y Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL). Er nad oes rhwydweithiau gwres yn bodoli ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd cynigion yn cael eu nodi yn ystod cyfnod y CDLlN. Byddai unrhyw rwydwaith gwres newydd yn dibynnu ar ddatblygiad newydd i ddarparu cysylltiadau, a gall y rhain gynorthwyo'r achos, neu ddarparu'r ysgogiad ar gyfer datblygu rhwydwaith gwres. Felly, mae SP16 yn cefnogi'r egwyddor o ddatblygu rhwydweithiau gwres ac mae Polisi CC5 yn darparu gofynion manwl, gan sicrhau nad yw cyfleoedd i hwyluso neu gysylltu â rhwydweithiau gwres yn cael eu hesgeuluso.

6.322Mae ardaloedd yn y Fro mewn perygl o lifogydd o'r môr ac afonydd, ac mae Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd wedi'i gynnal mewn cydweithrediad ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth i roi trosolwg cynhwysfawr o'r risg llifogydd yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd yn rhaid i gynigion datblygu sicrhau cydymffurfiaeth â NCT15 (2025), er mwyn sicrhau nad yw datblygiad yn cael ei ganiatáu mewn lleoliadau lle mae lefel annerbyniol o risg llifogydd.

6.323Mae risg llifogydd afonydd yn effeithio ar sawl cymuned yn y Fro, mewn ardaloedd gwledig a rhannau o aneddiadau mwy y Bont-faen, Dinas Powys a dwyrain y Barri. Dim ond rhai o'r ardaloedd hyn sy'n elwa o fod o fewn Parthau Amddiffyn NCT15, ac mae ardaloedd eraill heb unrhyw amddiffyniad sylweddol. Mae dwyrain y Barri hefyd mewn perygl o lifogydd o’r môr.

6.324Mae rhannau o Ddociau'r Barri a Gorsaf Bŵer Aberddawan mewn perygl o lifogydd llanw ac afonol ac nid ydynt o fewn Parthau Amddiffyn NCT15 a nodwyd. Felly, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth bellach i oblygiadau llifogydd yn y lleoliadau hyn er mwyn i ddatblygiad fod yn dderbyniol.

DATBLYGIADAU CARBON SERO NET

CC1 - DATBLYGIADAU CARBON SERO NET PRESWYL GWEITHREDOL Sylw

Bydd angen cynigion ar gyfer un neu fwy o anheddau newydd i gyflawni allyriadau gweithredol carbon sero net trwy:

  1. Ddilyn egwyddorion yr Hierarchaeth Ynni ar gyfer Cynllunio, blaenoriaethu gostyngiad yn y galw am ynni a gwell effeithlonrwydd ynni.
  1. Cyflawni'r safonau canlynol mewn anheddau unigol fel y'u cyfrifir gan ddefnyddio model perfformiad ynni a nodwyd:

O fabwysiadu'r CDLlN i 31 Mawrth 2030

  1. Galw gwresogi gofod yn llai na neu'n hafal i 40kWh/m2/y flwyddyn;
  2. Dwysedd defnydd ynni yn llai na neu'n hafal i 75kWh/m2/y flwyddyn; ac

O 1 Ebrill 2030 ymlaen

  1. Galw gwresogi gofod yn llai na neu'n hafal i 15kWh/m2/y flwyddyn;
  2. Dwysedd defnydd ynni yn llai na neu'n hafal i 40kWh/m2/y flwyddyn; a

  1. Darparu cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle gydag allbwn sy'n cyfateb i o leiaf defnydd blynyddol o ynni'r datblygiad, fel y'i cyfrifir gan ddefnyddio model perfformiad ynni.

Pan ddangosir nad yw'r defnydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle i gyd-fynd â chyfanswm y defnydd o ynni yn dechnegol ymarferol, dylid dilyn yr hierarchaeth ganlynol:

  • Dylid gwneud yn fawr o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gymaint â phosib; a/neu
     
  • Greu cysylltiad â rhwydwaith ynni ardal carbon isel presennol neu arfaethedig (yn unol â Pholisi CC4); neu
     
  • Lle nad yw hyn yn bosib, dylid gwrthbwyso'r ynni gweddilliol (y swm y mae cyfanswm y galw am ynni yn fwy na'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir) gan gyfraniad at gronfa Prosiect Sero’r Cyngor cyn belled ag y mae hyfywedd economaidd yn caniatáu.

Bydd tystiolaeth o gydymffurfiaeth yn cael ei nodi mewn Adroddiad Ynni.

6.325Mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd ym Mro Morganwg, bydd Polisi CC1 yn ei gwneud yn ofynnol i anheddau newydd ragori ar y Rheoliadau Adeiladu cyfredol a byddant yn darparu cartrefi sy'n sero net mewn gweithrediad. Dylai'r dull o gyflawni hyn gyd-fynd â'r Hierarchaeth Ynni ar gyfer Cynllunio, sy'n gofyn am wella safonau gwneuthuriad, effeithlonrwydd ynni a lleihau gofynion gwresogi gofod, cyn gosod ynni adnewyddadwy ac yna gwrthbwyso ynni gweddilliol os oes angen. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy, a bydd yn gwneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella tegwch cymdeithasol.

6.326Er mwyn cydymffurfio â'r polisi, bydd angen i bob annedd fodloni dau fetrig. Y cyntaf yw 'galw gwresogi gofod,' sef faint o ynni gwres sydd ei angen i wresogi cartref neu adeilad dros flwyddyn ac sy'n cael ei fynegi mewn kWh/m2/y flwyddyn. Mae'n fesur o effeithlonrwydd thermol yr adeilad a'i ofyniad cudd i ddefnyddio ynni gwres cyn i effeithlonrwydd y system wresogi gael ei gymhwyso. Yr ail fetrig yw Dwysedd Defnydd Ynni (DDY), sy'n mesur yr holl ynni a ddefnyddir gan adeilad, wedi'i gyfrifo trwy rannu cyfanswm defnydd ynni'r adeilad â'i arwynebedd llawr.

6.327Nodir dull graddol ar gyfer y targedau ar gyfer galw gwresogi gofod a dwysedd defnydd ynni er mwyn caniatáu i'r diwydiant datblygu wella sgiliau ac i gadwyni cyflenwi ymateb i gyfeiriad y polisi. Mae'r targedau uchaf yn y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2030 yn cyfateb i Safon Adeiladu Newydd AECB CarbonLite (galw gwresogi gofod sy'n llai na neu'n hafal i 40kWh/m2/y flwyddyn a DDY sy'n llai na neu'n hafal i 75kWh/m2/y flwyddyn) ac maent hefyd yn adlewyrchu safon sylfaenol adeiladu sero net Tai ar y Cyd, y mae Cyngor Bro Morgannwg a nifer o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi ymrwymo iddi fel safon ofynnol ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy sero net yng Nghymru.

6.328Bydd y targedau ar gyfer galw gwresogi gofod a DDY yn dod yn fwy llym ar gyfer ceisiadau am anheddau newydd wedi'u dilysu o 1 Ebrill 2030. Ar y pwynt hwn, bydd angen i anheddau newydd fodloni safonau'r Fenter Trawsnewid Ynni Isel (MTYI) (galw gwresogi gofod sy’n llai na neu'n hafal i 15kWh/m2/y flwyddyn a DDY sy’n llai na neu'n hafal i 40kWh/m2/y flwyddyn).

6.329Bydd y polisi yn berthnasol i bob cais am anheddau sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd, ond ni fydd yn berthnasol i addasiadau.

6.330Er mwyn penderfynu ar gydymffurfiaeth â'r polisi, rhaid cyfrifo'r defnydd o ynni gweithredol gan ddefnyddio model perfformiad ynni addas a gymeradwywyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig o fewn y fersiwn ddiweddaraf o Asesiad Carbon Oes Gyfan ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu cynnwys wrth gefnogi Canllaw Cynllunio Atodol Adeiladau Sero Net.

6.331Dylai adeiladau newydd gyfrannu at y cynnydd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a gynhyrchir sydd ei angen rhwng nawr a 2050. Y ffordd fwyaf cadarn o gyflawni'r amcan cyffredinol o gydbwyso cyfanswm y defnydd o ynni a chyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yw i ddatblygiadau newydd geisio cyflawni'r cydbwysedd hwn ar lefel y safle. Mae gan hyn hefyd y fantais o gynhyrchu trydan 'am ddim' yn agos at ei bwynt defnydd, gan helpu i sicrhau arbedion cost ynni sylweddol i breswylwyr a meddianwyr adeiladau. Paneli solar yw un o'r dulliau mwyaf effeithiol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle. O'u cyfuno â systemau storio ynni batri, gall paneli solar hefyd leihau'r galw brig ar y grid trydan, trwy ganiatáu i ynni gael ei storio a'i ryddhau pan fydd y galw ar ei uchaf.

6.332Yn unol â Maen Prawf 3, gall fod rhai amgylchiadau lle nad yw'n dechnegol ymarferol cynhyrchu digon o ynni i wrthbwyso'r defnydd o ynni. Gall hyn fod yn wir mewn rhai datblygiadau gwastad gyda gofod to cyfyngedig. Pan ddangoswyd yn gadarn nad yw'n bosib darparu lefel o ynni adnewyddadwy sy'n cydymffurfio â pholisi ar y safle, bydd angen gwrthbwyso hyn trwy wneud cyfraniad priodol i Gronfa Prosiect Sero’r Cyngor i ariannu gweithgareddau datgarboneiddio priodol eraill. Darperir rhagor o fanylion yn y Canllaw Cynllunio Atodol.

CC2 - RHAGDYBIAETH YN ERBYN DYMCHWEL Sylw

Bydd cynigion ar gyfer dymchwel ac ailosod adeilad annibynnol yn dderbyniol dim ond yn yr achosion canlynol:

  1. Mae'r adeilad a gynigir i'w ddymchwel yn anniogel yn adeileddol i'r graddau nad yw'n ymarferol nac yn hyfyw i'w atgyweirio, ei adnewyddu, ei ailddefnyddio neu ei ailbwrpasu; neu
  2. Mae manteision cyhoeddus sylweddol na ellid eu cyflawni trwy atgyweirio, adnewyddu, ailddefnyddio, neu ailbwrpasu; neu
  3. Byddai atgyweirio, adnewyddu, ailddefnyddio, neu ailbwrpasu'r adeilad yn debygol o arwain at garbon ymgorfforedig sy’n gyfartal neu’n uwch newydd ei gynhyrchu nag os yw'r adeilad yn cael ei ddymchwel ac adeilad newydd yn cael ei adeiladu; neu
  4. Byddai atgyweirio, adnewyddu, ailddefnyddio, neu ailbwrpasu'r adeilad yn creu adeilad gydag effeithlonrwydd thermol mor wael y byddai, ar sail cylch bywyd cyfan, yn golygu y byddai datrysiad carbon net is yn deillio o ddymchwel ac ailadeiladu.

Dylid cyfiawnhau cydymffurfiaeth â Meini Prawf 1 a 2 mewn Datganiad Dymchwel. Dylid cyfiawnhau cydymffurfiaeth â Meini Prawf 3 a 4 yn Adroddiad Ynni'r safle.

Lle bo cyfiawnhad dros ddymchwel, dylai datblygiad newydd adfer ac ailddefnyddio deunydd gwastraff o'r dymchweliad ar safleoedd lle bynnag y bo modd.

6.333Er mwyn osgoi gwastraffu carbon ymgorfforedig mewn adeiladau presennol ac osgoi creu carbon ymgorfforedig newydd mewn adeiladau newydd, mae rhagdybiaeth o blaid atgyweirio, adnewyddu, ailddefnyddio ac ailbwrpasu adeiladau presennol yn hytrach na'u dymchwel. Dylai cynigion sy'n arwain at ddymchwel adeilad (yn gyfan gwbl neu ran sylweddol ohono) gynnwys cyfiawnhad llawn dros y dymchwel. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i adeiladau annibynnol ac nid adeiladau ategol o fewn cwrtil adeiladau mwy, fel garej ar wahân.

6.334Rhaid cyflwyno cyfiawnhad cryf wrth ddangos cydymffurfiaeth â Maen Prawf 1. Rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth fanwl am gyflwr yr adeilad a honiadau wedi'u profi na fyddai cyflwr yr adeilad yn addas i'w atgyweirio, ei adnewyddu, ei ailddefnyddio na'i ailbwrpasu. Byddai cydymffurfio â Maen Prawf 2 ond yn gyflawnadwy lle mae cyfiawnhad sylweddol dros ddatblygiad. Er enghraifft, pe bai adeilad segur bach wedi'i leoli mewn lleoliad cynaliadwy iawn, a phe bai'n cael ei ddymchwel byddai’n rhoi cyfle ar gyfer adfywio ar raddfa fawr neu ddatblygiad tai fforddiadwy.

6.335Er mwyn dangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth â Maen Prawf 3 a 4, dylid cyflwyno Asesiadau Carbon Oes Gyfan (ACOG) sy'n cael eu cyfrifo drwy fethodolegau ACOG a gydnabyddir yn genedlaethol. Dylai'r rhain gymharu carbon cylch bywyd disgwyliedig yr adeilad i'w ddisodli a'r adeilad newydd. Yn gynhenid, dylai'r adeilad newydd fod yn garbon isel. Mae'r polisi yn berthnasol pan gynigir dymchwel adeiladau o unrhyw ddefnydd arfaethedig neu bresennol.

6.336Er mwyn cyfyngu ar garbon wrth gaffael deunyddiau, a dilyn egwyddorion economi gylchol, dylai adeiladau newyddailddefnyddio deunyddiau a adferwyd o unrhyw ddymchweliad a ganiateir.

DATBLYGIADAU YNNI ADNEWYDDADWY A CHARBON ISEL

CC3 - ARDALOEDD CHWILIO LLEOL AR GYFER YNNI ADNEWYDDADWY Sylw Solar Search Area / Ardaloedd Chwilio Solar (1) Wind Search Area / Ardaloedd Chwilio Gwynt (2)

Mae ardaloedd chwilio lleol ar gyfer ynni solar a gwynt wedi'u nodi ar y Map Cynigion. Yn yr ardaloedd hyn, caniateir cynigion ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n dod o dan y trothwy ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn amodol ar gydymffurfio â'r maen prawf a nodir ym Mholisi CC4: Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy, Carbon Isel a Di-garbon.

6.337Mae Asesiad Ynni Adnewyddadwy (2023) (AYA) y Cyngor yn darparu asesiad o botensial ynni adnewyddadwy ym Mro Morgannwg yn unol â Chynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Pecyn Cymorth i gynllunwyr (Medi 2015).

6.338Mae'n darparu asesiad lefel uchel o adnoddau ynni gwynt a solar ym Mro Morgannwg ac yn nodi sawl safle, a elwir yn 'ardaloedd chwilio' lle mae'r potensial ar gyfer datblygu ar ei fwyaf, sy'n cael eu harddangos ar y Map Cynigion. Mae'r ymarfer hwn wedi cydnabod adnoddau gwynt a solar sylweddol ac mae 20 o'r safleoedd mwyaf ar gyfer gwynt a solar wedi'u nodi. Ar draws y safleoedd hyn, gellid cynhyrchu 783 MW o ynni adnewyddadwy o gynhyrchu ynni solar a 104 MW o gynhyrchu ynni gwynt.

6.339O'i gyfuno â'r capasiti ynni adnewyddadwy gosodedig a ddefnyddiwyd ar adeg yr AYA, byddai hyn yn gyfystyr â 993 MW yn cael ei ddefnyddio yn y Fro. Mae'r AYA yn cyflwyno'r safleoedd gwynt i Asesiad Coch, Oren, Gwyrdd, oherwydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â defnyddio gwynt. Nid oedd yr AYA yn ystyried biomas nac unrhyw dechnolegau annibynnol eraill gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddefnyddiol ar raddfa yn y Fro.

6.340Byddai gan y defnydd o wynt a solar ar y tir a nodwyd y potensial i leihau’r CO2 a gynhyrchir rhwng 171,700 a 187,937 tCO2e (gyda gwahaniaeth o 16,237 tCO2e wedi’i greu gan amrywiadau ym maint y tyrbin gwynt arfaethedig). Ar y pen isaf, mae'r swm hwn o CO2 yn debyg i'r swm a gynhyrchir gan 23,000 o gartrefi neu’n fras, y Barri gyfan. Felly, mae potensial ar gyfer gostyngiadau sylweddol mewn carbon trwy ddatblygu'r ardaloedd lleiaf cyfyngedig yn unig.

6.341Fel ardaloedd chwilio eang, mae'r ardaloedd a nodwyd yn darparu arwydd o botensial ynni adnewyddadwy yn unig, yn hytrach nag ardaloedd penodol o dir wedi'i ddiogelu ar gyfer datblygu. Mae'r ardaloedd chwilio wedi'u nodi drwy fapio'r adnodd ynni posib (yn seiliedig ar uchder a chyfeiriad y tir) a thrwy gael gwared ar ardaloedd sydd â chyfyngiadau allweddol i ddatblygu ynni adnewyddadwy, megis SoDdGA, llifogydd a thir gorau a mwyaf amlbwrpas.

6.342O fewn yr 'ardaloedd chwilio lleol' a nodwyd, bydd angen mireinio ymhellach i nodi cyfleoedd penodol ar gyfer cynigion datblygu manwl ac i ystyried eu derbynioldeb a'u capasiti ynni adnewyddadwy cyflawnadwy. Bydd angen i gynigion manwl ddangos nad oes ganddynt unrhyw effeithiau annerbyniol ar dir cyfagos o ran eu heffaith ar amwynder, asedau treftadaeth a'r amgylchedd ehangach. Bydd angen i gynigion hefyd gydymffurfio â gofynion polisïau perthnasol eraill y Cynllun, yn benodol Polisi CC4 (Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy, Carbon Isel a Di-garbon).

Targedau ar gyfer Defnyddio Ynni Adnewyddadwy

6.343Trwy ystyried polisi cenedlaethol ar ddatgarboneiddio, y defnydd presennol, a’r defnydd trydan a ragwelir, mae'r AYA yn gwneud argymhellion ar dargedau ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy yn y Fro hyd at 2036. Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn dargedau uchelgeisiol ond cyraeddadwy yn y cyd-destun y maent yn cael eu gwneud. Mae'r AYA yn gwneud rhagfynegiad ar faint o drydan y byddai'r Fro yn ei ddefnyddio fel cyfran o boblogaeth Cymru, a'i nod yw gwneud 70% o hyn o ynni adnewyddadwy, yn unol â'r targedau cenedlaethol. Y canlyniad yw y rhagwelir yn 2036 y byddai galw am drydan y Fro yn 837.09 GWh, a byddai 70% o hyn yn 585.964 GWh. Ar adeg yr AYA, roedd 127.6 GWh o ynni adnewyddadwy naill ai wedi'i ddefnyddio neu wedi'i symud ymlaen yn y broses o gael ei ddatblygu. Felly, mae targed o 458.4 GWh wedi'i osod i sicrhau bod y 70% o'r defnydd disgwyliedig yn 2036 yn cael ei fodloni. Mae'n bwysig nodi bod y targed hwn yn isafswm a bydd angen defnydd sy'n rhagori ar hyn i gyrraedd uchelgeisiau sero net.

CC4 - CYNHYRCHU YNNI ADNEWYDDADWY, CARBON ISEL A DI-GARBON Sylw

Caniateir cynigion ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy annomestig, ynni carbon isel a di-garbon, a'u seilwaith cysylltiedig, gan gynnwys systemau storio ynni, lle gellir dangos bod:

  1. Dull dilyniannol o ddewis safle wedi'i ddilyn i ddangos bod unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol, llai niweidiol, wedi'u hystyried;
  2. Nid oes unrhyw effeithiau cronnus annerbyniol ar y cyd â datblygiad presennol neu ddatblygiad sydd wedi cael caniatâd;
  3. Mae cynigion yn gwneud darpariaeth ar gyfer adfer y tir yn briodol ac ôl-ofal y tir ar gyfer ei ailddefnyddio’n fuddiol yn y dyfodol; ac
  4. Nid oes unrhyw effeithiau annerbyniol ar fuddiannau:
  • Y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas;
  • Diogelwch hedfan;
  • Systemau trydanol, radio neu gyfathrebu eraill;
  • Pwysigrwydd tirwedd;
  • Treftadaeth naturiol a diwylliannol;
  • Cadwraeth natur;
  • Arfordir Treftadaeth Morgannwg;
  • Amwynder preswyl; a
  • Chadwraeth pridd.

Bydd ystyriaeth ffafriol yn cael ei roi i gynigion sy'n darparu cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a / neu gynhyrchu gwres o fewn y gymuned leol.

6.344Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau ynni ar raddfa fawr eu dosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ac fe'u pennir gan Weinidogion Cymru. Mae datblygiadau ynni ar raddfa fawr yn cynnwys:

  • Pob safle ynni gwynt a gynhyrchir ar y tir dros 10 megawat; a
  • Safleoedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy eraill gyda phŵer cynhyrchu rhwng 10 a 350 megawat.

6.345Blaenoriaeth ofodol Cymru’r Dyfodol yw i ddatblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr gael eu cyfeirio tuag at Ardaloedd Ynni Gwynt a Aseswyd Ymlaen Llaw (fel y dangosir ar y map cysylltiedig yng Nghymru’r Dyfodol). Nid oes unrhyw Ardaloedd Ynni Gwynt a Aseswyd Ymlaen Llaw wedi'u nodi yn y Fro.

6.346Awdurdodau cynllunio lleol sy’n penderfynu ar gynigion islaw'r trothwy ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, a byddai Polisi CC5 yn berthnasol ochr yn ochr â pholisïau eraill y Cynllun a pholisïau cenedlaethol perthnasol wrth benderfynu a yw datblygiad yn dderbyniol. Bydd Polisi C54 (a pholisïau rheoli datblygu ategol) yn cynorthwyo'r Cyngor i drosglwyddo i system ynni carbon isel, ddatganoledig sy'n gweithio i'w unigolion, ei gymunedau a’i fusnesau trwy annog prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel a di-garbon, wrth ddiogelu asedau pwysicaf y Fro.

6.347Mae sicrhau bod datblygiadau adnewyddadwy yn cael eu defnyddio yn y lleoliadau gorau yn bwysig ar gyfer mwyafu cynhyrchiant a chyfyngu ar niwed. Felly, mae angen dull dilyniannol. Dylid nodi'r safleoedd chwilio fel man cychwyn gan mai nhw yw'r lleiaf cyfyngedig, a dylid cyfiawnhau datblygiad y tu allan i'r rhain, gyda chapasiti grid yn ffactor posib. Y tu hwnt i'r ardaloedd hyn, dylid blaenoriaethu'r ardaloedd lleiaf cyfyngedig, a'r lleoliadau sydd â'r effaith leiaf ar y dirwedd.

6.348Mewn ardaloedd o werth tirwedd uchel fel Ardaloedd Tirwedd Arbennig, gall tyrbinau gwynt unigol neu ffermydd solar fod yn dderbyniol lle maent wedi'u lleoli i leihau effeithiau amgylcheddol. Dros amser, gall effeithiau cronnus yr adeileddau hyn gael effeithiau annerbyniol ar ansawdd gweledol yr ardal ehangach. Yn unol â hynny, fel arfer, bydd yn ofynnol i gynigwyr datblygiadau ag effeithiau sylweddol ar y dirwedd gynnal Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a'r Effaith Weledol i ddangos sut maent wedi ystyried yr effeithiau hyn, gan gynnwys unrhyw effeithiau tirwedd cronnus gyda datblygiadau presennol neu ddatblygiadau a ganiateir. Dylai'r angen am Asesiadau gael ei sefydlu yn gynnar yn y broses, a byddai'r gofyniad am un yn ôl disgresiwn y Cyngor.

6.349Mae technolegau storio ynni, gan gynnwys systemau batris storio, yn caniatáu i drydan dros ben gael ei storio a'i ddefnyddio pan fo angen, gan hwyluso’r defnydd o ynni adnewyddadwy yn lle tanwydd ffosil. Dylai cynigion geisio gwneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol, lle y bo hynny'n bosib, ac ymgysylltu â darparwyr seilwaith priodol yn gynnar yn y gwaith o ddylunio cynlluniau o'r fath.

6.350Ar bob graddfa, bydd angen ystyried yn ofalus effeithiau andwyol tebygol a allai godi o'r cynnig. O ran lliniaru, mae angen i gynlluniau fod wedi'u cynllunio'n dda, adlewyrchu amgylchiadau lleol a dangos sut mae unrhyw effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, ar adnoddau ac economaidd wedi'u lleihau trwy ddewis safleoedd, dylunio, adeiladu a gweithredu yn ofalus, ynghyd â mesurau eraill. Yn hyn o beth, wrth ystyried effaith y nodweddion a'r cyfyngiadau hynny a restrir ym Mholisi CC4 ar fuddiannau, bydd angen i gynigion ynni adnewyddadwy hefyd roi sylw dyledus i ofynion polisïau ehangach y Cynllun, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â seilwaith gwyrdd, tirwedd a bioamrywiaeth.

CC5 - HYRWYDDO RHWYDWEITHIAU GWRES Sylw

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu rhwydweithiau gwres a bydd cynigion datblygu sy'n eu hyrwyddo yn cael eu ffafrio, gan ganiatáu cydymffurfio â pholisïau ehangach y Cynllun. Lle y bo angen, rhaid ystyried rhwydweithiau gwres yn unol â'r maen prawf canlynol.

Cyflenwi Gwres

  1. Rhaid i ddatblygiad newydd sy'n debygol o gynhyrchu gwres gwastraff ystyried dichonoldeb dod yn ffynhonnell wres ar gyfer rhwydwaith gwres.

Galw am Wres

  1. Lle mae rhwydweithiau gwres yn bodoli, rhaid i gynigion datblygu ar gyfer unrhyw adeilad newydd ystyried cysylltiad â nhw yn llawn. Rhaid cyfiawnhau penderfyniad i beidio â chysylltu yn llawn, gan gyfathrebu'r materion dichonoldeb technegol neu hyfywedd sy'n gwahardd cysylltiad.
  2. Lle nad oes rhwydweithiau gwres, rhaid i gynigion datblygu ar gyfer dros 100 o anheddau neu 10,000 metr sgwâr ystyried dichonoldeb technegol a hyfywedd ariannol creu rhwydwaith.

Diogelu Ardal Flaenoriaeth at y Dyfodol

  1. O fewn y Barri, rhaid i safleoedd sydd â llwyth gwres mawr (er enghraifft, ysgolion, colegau, canolfannau gofal iechyd) ddiogelu eu hunain at y dyfodol er mwyn peidio â pheryglu unrhyw gysylltiad yn y dyfodol.

Pan fo'n ofynnol gan y Polisi hwn, rhaid ystyried rhwydweithiau gwres o fewn Datganiadau Ynni.

6.351Mae Strategaeth Gwres i Gymru[15] yn nodi rhwydweithiau gwres fel dull effeithlon a fforddiadwy o ddatgarboneiddio gwres, ac mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhwydweithiau gwres mewn egwyddor lle bynnag y bo'n hyfyw. Mae'r CYAL yn nodi y bydd rhwydweithiau gwres system ynni’r dyfodol wedi'u modelu yn darparu 7% o wres y Fro erbyn 2050. Byddai hyn yn gyfystyr â 97 GWh, y gellid ei adlewyrchu trwy ddau rwydwaith canolig neu un rhwydwaith mawr.

6.352Mae'r polisi yn nodi bod rhwydweithiau gwres a'u seilwaith cefnogol yn cael eu cefnogi ledled y Fro mewn egwyddor. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i unrhyw rwydwaith gwres gydymffurfio â pholisi ehangach y Cynllun, yn enwedig mewn perthynas â'r effaith ar ddefnyddiau cyfagos. Pan fydd datblygiad yn cael ei gynnig a allai arwain at wres gwastraff, fel canolfannau data neu adeiladau diwydiannol, mae'r polisi yn ceisio sicrhau bod y rhagolygon o greu cyflenwad ar gyfer rhwydwaith gwres yn cael eu hystyried. Nid yw'r gwres gweddilliol hwn o fudd ar ei ben ei hun, ond gellid ei allforio trwy rwydwaith gwres ar gyfer refeniw ychwanegol ac, ar yr un pryd, hwyluso rhwydwaith gwres. Er mwyn helpu i hwyluso'r galw am rwydweithiau gwres, mae'r polisi hefyd yn ceisio sicrhau bod cysylltiad neu fod creu cysylltiad yn cael ei ystyried lle cynigir datblygiadau a fydd â llwyth gwres mawr. Mae cysylltu â'r Cyngor i ddeall statws unrhyw rwydwaith/rwydweithiau gwres, ac a oes cyfleoedd ar gyfer cysylltu neu greu cysylltiad, yn rhan annatod o ystyried dichonoldeb technegol rhwydwaith.

6.353Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r Barri fel ardal flaenoriaeth ar gyfer defnyddio rhwydwaith gwres gan fod gan y dref nodweddion a allai hwyluso rhwydwaith gwres. Mae gan y Barri sawl ffynhonnell wres bosib o ddefnyddiau diwydiannol, ac efallai y bydd cyfleoedd i ddefnyddio dŵr o'r Dociau hefyd yn bodoli. Mae hefyd yn anheddiad â thrwch o boblogaeth gyda llwyth gwres sylweddol, gan gynnwys nifer o adeiladau mwy wedi'u clystyru ym mhen gorllewinol Heol Holltwn ac o gwmpas y Glannau. Er mwyn sicrhau bod yr achos dros rwydwaith gwres yn y Barri yn cael ei wella, ac nad yw cyfleoedd ar gyfer cysylltiad yn y dyfodol yn cael eu colli, mae'r polisi yn ceisio sicrhau na fyddai adeiladau newydd sydd â llwyth gwres uchel fel colegau, ysgolion ac archfarchnadoedd yn peryglu unrhyw gysylltiad yn y dyfodol.

CC6 - AMDDIFFYNFEYDD ARFORDIROL A RHEOLI TRAETHLIN Sylw

Bydd cynigion ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol newydd, neu gynnal neu wella amddiffynfeydd arfordirol presennol yn cael eu cefnogi pan fyddant:

  1. Yn cynnal neu’n gwella cyfanrwydd adeileddol a pherfformiad amddiffynfeydd presennol rhag erydu arfordirol a llifogydd;
  2. Yn gyson ag amcanion y Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT) perthnasol a strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd;
  3. Yn osgoi effeithiau andwyol sylweddol ar gynefinoedd, rhywogaethau a chymeriad tirwedd dynodedig;
  4. Yn defnyddio technegau a deunyddiau sy'n sensitif i'r amgylchedd lle y bo hynny'n bosib; ac
  5. Yn ymgorffori atebion sy'n seiliedig ar natur lle y bo hynny'n briodol.

6.354Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin (CRhTau) yn ddogfennau anstatudol sy'n llywio penderfyniadau rheoli arfordirol hirdymor, gan gynnwys amddiffynfeydd arfordirol. Mae CRhTau yn asesu risgiau arfordirol ac yn argymell dulliau cynaliadwy ar gyfer rheoli risgiau llifogydd ac erydiad, gan lywio awdurdodau lleol a datblygwyr ar sut i gynllunio ar gyfer newid arfordirol.

6.355Cwmpesir Bro Morgannwg gan ddau o'r Cynlluniau Rheoli Traethlin (CRhT2) ail genhedlaeth. Mae CRhT2 o Drwyn Larnog i Benrhyn Santes Ann yn cwmpasu dros 460km o arfordir o Drwyn Larnog ym Mro Morgannwg i Benrhyn Santes Ann yn Sir Benfro, a CRhT2 Aber Afon Hafren sy'n cwmpasu rhannau uchaf Aber Afon Hafren ar ochr Cymru a Lloegr. Mae'r CRhT yn nodi polisïau a chamau gweithredu cyffredinol ar gyfer rheoli newid ar hyd yr arfordir, ac wedi’i lunio i ystyried effaith hirdymor bosib cynnydd yn lefelau'r môr o ganlyniad i newid hinsawdd.

6.356Mae Polisi CC6 yn adlewyrchu'r dull rhagofalus cyffredinol ac yn eirioli y dylai unrhyw waith amddiffyn arfordirol gydymffurfio â'r cynigion a nodwyd yn y CRhT2au. Bydd angen i gynigion ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol neu gynigion eraill o fewn lleoliad arfordirol hefyd ymgorffori mesurau priodol i osgoi erydu arfordirol cynyddol a lliniaru risgiau llifogydd posib.

RHEOLI GWASTRAFF CYNALIADWY

6.357Mae'r prif ffrydiau gwastraff sy'n codi ym Mro Morgannwg yn deillio o wastraff a gasglwyd gan awdurdodau trefol neu leol (gan gynnwys cartrefi); gwastraff masnachol a diwydiannol; gwastraff adeiladu, cloddio a dymchwel; a gwastraff peryglus. Mae rheoli gwastraff yng Nghymru wedi newid yn sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf gyda gostyngiad sylweddol yn y gwastraff sy'n cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi a chynnydd mewn ailgylchu.

SP17 - RHEOLI GWASTRAFF CYNALIADWY Sylw

Bydd rheoli gwastraff yn gynaliadwy yn cael ei hwyluso trwy:

  1. Hyrwyddo a chefnogi cyfleusterau, mesurau a strategaethau rheoli gwastraff cynaliadwy ychwanegol yn unol â'r hierarchaeth wastraff ac egwyddorion y man gosod priodol agosaf a hunangynhaliaeth.
  2. Cefnogi'r economi gylchol trwy annog lleihau cynhyrchu gwastraff a defnyddio deunyddiau wedi'u hailddefnyddio a'u hailgylchu yng nghamau dylunio, adeiladu a dymchwel datblygiad.
  3. Sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer rheoli, didoli, storio a chasglu gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd.

Ystyrir bod y lleoliadau canlynol yn addas ar gyfer datblygu datrysiadau rheoli gwastraff mewn adeiladau:

  • Ystad Fasnachu’r Iwerydd.
  • Porthladd Gweithredol Dociau’r Barri.
  • Ystad Fasnach Llandŵ.
  • Ar safleoedd diwydiannol B2 a B8 addas sy'n bodoli eisoes ac a ddyrannwyd.

Bydd darparu cyfleusterau rheoli gwastraff cynaliadwy yn yr awyr agored ar safleoedd diwydiannol priodol Dosbarth B2 neu B8, safleoedd gwaith mwynau gweithredol neu anweithredol, tir diffaith neu adeiladau adfeiliedig neu o fewn cyfadeiladau fferm presennol neu wrth eu hymyl, hefyd yn dderbyniol lle nad ydynt yn gwrthdaro â defnyddiau cyfagos presennol neu arfaethedig.

6.358Yn unol â'r strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', bydd y Cyngor yn ystyried cynigion yn unol â 'hierarchaeth wastraff,' sy'n graddio opsiynau atal a rheoli gwastraff yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r amgylchedd. Y flaenoriaeth uchaf yn yr hierarchaeth yw atal gwastraff yn y lle cyntaf. Ar ôl hyn, os crëir gwastraff, dylid rhoi blaenoriaeth i'w baratoi i'w ailddefnyddio, yna ailgylchu, yna adfer arall (e.e., ynni), a'r opsiwn terfynol yw gwaredu (e.e. tirlenwi neu losgi heb adfer ynni).

6.359Mae Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 21 ar Wastraff yn nodi y dylid ystyried sut mae cynigion ar gyfer gwastraff, sy'n dod o dan Erthygl 16 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig, yn cyd-fynd â'r egwyddor 'y man gosod priodol agosaf'. Mae'r dull hwn yn ei gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei waredu neu ei adfer mewn cyfleusterau priodol yn agos at y man lle caiff ei gynhyrchu, er mwyn lleihau'r effeithiau amgylcheddol niweidiol sy'n gysylltiedig â'i gludo. Mae darparu rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff yn y Fro a'r rhanbarth ehangach yn hanfodol i hyn ac i sicrhau hunangynhaliaeth.

6.360Rhaid ystyried yr economi gylchol yng nghyd-destun datblygiad newydd, sy'n anelu at gadw deunyddiau, cynhyrchion a chydrannau mewn defnydd cyhyd â phosib. Mae'r dull hwn yn hwyluso arbedion cost ac yn cyd-fynd â'r hierarchaeth wastraff trwy ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu deunyddiau.

6.361Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi gwastraff fel maes polisi sy'n gofyn am ddull cydgysylltiedig fel rhan o'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) a rhoddir ystyriaeth i unrhyw dystiolaeth ranbarthol sy'n dod i'r amlwg fel rhan o'r broses o baratoi'r cynllun. Mae NCT 21 yn cydnabod bod Cynllun y Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn darparu asesiad strategol o wastraff, ond bydd angen monitro ar sail ranbarthol. Mae'r Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff diweddaraf ar gyfer de-ddwyrain Cymru (Ebrill 2016) yn dod i'r casgliad nad oes angen capasiti tirlenwi ychwanegol yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cynghori y dylid asesu'n ofalus unrhyw gynigion newydd ar gyfer trin gwastraff preswyl pellach, i sicrhau nad yw gorddarpariaeth yn digwydd yn y rhanbarth. Felly, nid oes angen penodol am gyfleusterau rheoli gwastraff newydd wedi'i nodi ar hyn o bryd ar lefel ranbarthol.

6.362Fel yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff, mae cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor i gasglu a gwaredu gwastraff trefol (cartref) ac i gynllunio defnydd tir mewn perthynas â rheoli gwastraff. Mae'r Fro yn aelod o Brosiect Gwyrdd, partneriaeth gyda phedwar awdurdod lleol arall (Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd) sydd â chontract hirdymor gyda Viridor Waste Management i drin gwastraff trefol gweddilliol yng nghyfleuster ynni o wastraff, Parc Trident, yng Nghaerdydd. Mae dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) yn y Fro wedi'u lleoli ar Ystad Fasnachu'r Iwerydd yn y Barri, ac ar Ystad Fasnachu Llandŵ yn Llandŵ.

6.363Mae Ystadau Masnachu’r Iwerydd a Llandŵ, yn ogystal â phorthladd gweithredol Dociau'r Barri, yn cael eu hystyried yn lleoliadau priodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff mewn adeiladau. Mae Ystad Fasnachu'r Iwerydd wedi gweld datblygiad diweddar o gyfleuster adfer adnoddau, yn ogystal â siop ailddefnyddio ar dir ger y CAGC bresennol. Yn unol â Strategaeth Ailgylchu a Rheoli Gwastraff Bro Morgannwg (2022-2032), mae cynigion i ddisodli'r CAGC bresennol yn Llandŵ gyda chyfleuster modern newydd, yn ogystal â datblygu ail siop ailddefnyddio.

6.364Er mwyn darparu rhagor o hyblygrwydd, mae’r polisi hefyd yn nodi safleoedd cyflogaeth ‘diwydiannol cyffredinol’ Dosbarth B2 a ‘storio a dosbarthu’ Dosbarth B8, fel lleoliadau a allai fod yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ychwanegol mewn adeiladau.

6.365Ar gyfer cyfleusterau awyr agored, mae’r cynllun yn hwyluso eu darpariaeth trwy nodi lleoliadau addas lle gallai cyfleusterau o’r fath fod yn dderbyniol a lle na fyddent yn gwrthdaro â defnyddiau cyfagos.

WA1 - ASESU CYNIGION RHEOLI GWASTRAFF Sylw

Development proposals for waste management facilities will be permitted where:

  1. The proposal is supported by an appropriate waste planning assessment;
  2. The proposal has regard to the waste hierarchy and proximity principle;
  3. It is demonstrated that the development would not result in unacceptable harm to health, the environment or to the amenity of neighbouring land uses; and
  4. Where the principal road network has adequate capacity, or improvements to ensure adequate capacity can be readily and economically provided, to accommodate the transport movements associated with the proposal.

Proposals for waste management facilities that accord with the locations set out in Policy SP17 will be favoured.

6.366Rhagwelir y bydd ceisiadau yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfnod y Cynllun ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd. Mae ceisiadau yn debygol o gynnwys gwaredu, prosesu, ailgylchu a throsglwyddo gwastraff.

6.367Mae Polisi WA1 yn nodi meini prawf y caiff yr holl geisiadau ar gyfer trin, prosesu, storio a dosbarthu gwastraff eu hasesu yn eu herbyn, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â chyfleusterau rheoli gwastraff newydd ac estyniadau i weithrediadau presennol.

6.368Yn unol â'r polisi cenedlaethol, bydd yn ofynnol i bob cais am gyfleusterau rheoli gwastraff gynnwys Asesiad Cynllunio Gwastraff (ACG). Dylai'r wybodaeth a gynhwysir yn yr ACG fod yn briodol ac yn gymesur â natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig, a chynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Mae rhagor o fanylion ynghylch Asesiadau Cynllunio Gwastraff wedi'u cynnwys yn Atodiad B o NCT 21 (2014).

6.369Fel rhan o'r Asesiad Cynllunio Gwastraff, dylai cynigion ddangos bod y broses drin yn adlewyrchu trefn flaenoriaeth yr hierarchaeth wastraff cyn belled ag y bo modd. Bydd ystyriaeth o'r hierarchaeth yn cael ei gosod yn erbyn yr ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach sy'n berthnasol i'r cynnig. Yn unol â'r polisi cenedlaethol, rhoddir sylw hefyd i'r modd y mae cynigion wedi ystyried ac yn cydymffurfio â'r egwyddorion 'Y Man Gosod Priodol Agosaf' a 'Hunangynhaliaeth'.

6.370Bydd angen i gynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ddangos na fyddant yn arwain at niwed annerbyniol i bobl, tir, seilwaith, a'r amgylchedd naturiol. Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ddarparu tystiolaeth ar sut mae gofynion Polisi WA1 wedi'u bodloni, ochr yn ochr â pholisïau perthnasol eraill y Cynllun. Wrth asesu cynigion o’r fath, ymgynghorir â Chyfoeth Naturiol Cymru a chaiff amodau eu gosod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a/neu gytundebau cyfreithiol a geisir i sicrhau mesurau diogelwch a rheolaethau amgylcheddol digonol.

6.371Mae Polisi WA1 yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion gael capasiti priffyrdd digonol i ddarparu ar gyfer y symudiadau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r datblygiad. Felly, bydd angen sefydlu’r effaith ar y briffordd a, lle y bo’n briodol, efallai y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr gynnal Asesiad Trafnidiaeth yn dibynnu ar raddfa'r datblygiad arfaethedig.

ADNODDAU MWYNOL

6.372Mae cynllunio cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol wneud darpariaeth ar gyfer isafswm banc tir o 10 mlynedd ar gyfer cerrig mâl a 7 mlynedd ar gyfer tywod a graean tir trwy gydol y 15 mlynedd llawn cyfnod cynllun datblygu, ac i hyrwyddo rheoli agregau yn gynaliadwy.

SP18 - DARPARU MWYNAU YN GYNALIADWY Sylw

Bydd yr angen lleol a rhanbarthol am ddarparu cyflenwad parhaus o fwynau yn cael ei gyflawni trwy:

  1. Gynnal o leiaf 10 mlynedd o fanc tir o gerrig mâl trwy gydol cyfnod y cynllun.
  2. Ffafrio cynigion sy’n hyrwyddo defnydd cynaliadwy o fwynau ac yn annog y defnydd o adnoddau eilaidd ac amgen.
  3. Diogelu adnoddau hysbys o dywodfaen, calchfaen, tywod a graean (lle mae’r rhain y tu allan i aneddiadau) rhag datblygiad parhaus a fyddai’n eu sterileiddio’n ddiangen neu’n rhwystro eu hechdynnu yn y dyfodol; a
  4. Diogelu pennau rheilffyrdd i ganiatáu ar gyfer cludo mwynau o bosib trwy ddulliau cynaliadwy a chyfleusterau glanfa ar gyfer glanio tywod a graean morol lle y bo hynny'n briodol.

6.373Cyhoeddwyd yr 2il Adolygiad o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol Mwynau ar gyfer ardal de Cymru, y cyfeirir ato'n gyffredin fel DTRh2, gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (GARhD) ym mis Medi 2020. Mae Atodiad B o'r DTRh yn cynnwys argymhellion a chanllawiau penodol ar gyfer pob Awdurdod Cynllunio Lleol.

6.374Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Prif Swyddog Cynllunio Llywodraeth Cymru lythyr Eglurhad Polisi i gywiro gwall rhifyddol o fewn DTRh2. Nododd y llythyr eglurhad mai'r dosraniad ar gyfer Bro Morgannwg yw 17.05 miliwn tunnell o gerrig mâl dros 25 mlynedd. Mae banc tir presennol o 18.73 miliwn tunnell o gerrig mâl (ar 31 Rhagfyr 2016), y mae'r cyfan ohono'n ymwneud â Chalchfaen Carbonifferaidd. Nid oes dosraniad na banc tir ar gyfer tywod a graean a enillwyd o’r tir. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, o ystyried yr ychydig o warged o gronfeydd cerrig mâl a ganiateir presennol a'r diffyg cynhyrchu tywod a graean ym Mro Morgannwg, nad oes angen nodi unrhyw ddyraniadau pellach yn benodol o fewn y CDLlN.

6.375Mae'r DTRh2 yn ei gwneud yn ofynnol i Ddatganiadau o Gydweithredu Is-ranbarthol (DGIR) gael eu paratoi gan yr holl ACLlau cyfansoddol gyda phob isranbarth DTRh. Mae Bro Morgannwg ynghyd â Phen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan o is-ranbarth Dinas Caerdydd. Mae'r datganiad sefyllfa diweddaraf ar gyfer yr is-ranbarth hwn (Gorffennaf 2022) yn nodi, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau yn y rhanbarth, gan gynnwys Bro Morgannwg, yn gallu bodloni eu dosraniad ar gyfer cerrig mâl, mae diffyg o 7.475 miliwn tunnell (Mt) yng Nghaerdydd a fyddai'n gofyn am ddyraniad CDLlN ychwanegol.

6.376Er nad yw'r Lanfa yn Nociau'r Barri wedi cael ei defnyddio ar gyfer glanio tywod a graean morol ers 2005, cydnabyddir bod hwn yn llwybr cyflenwi posib o adnodd tywod a graean i'r rhanbarth. Felly, mae safle'r lanfa wedi'i ddiogelu ar y Map Cynigion a bydd angen i gynigion yn y dyfodol ystyried yr effaith bosib ar lanio tywod a graean morol yn Nociau'r Barri. Nid yw diogelu'r lanfa yn atal ei defnyddio i lanio nwyddau eraill ac nid yw'n effeithio ar hawliau datblygu a ganiateir. Dylid diogelu pennau rheilffyrdd hefyd i ddarparu ar gyfer ystod lawn o opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy.

MIN1 - DATBLYGIAD MEWN ARDALOEDD DIOGELU MWYNAU Sylw Mineral Safeguarding - Limestone 1 / Diogelu Mwynau – Calchfaen 1 (1) Minerals Safeguarding - Limestone 2 / Diogelu Mwynau – Calchfaen 2 (2) Minerals Safeguarding - Sand and Gravel 1 / Diogelu Mwynau – Tywod a Graean 1 (3) Minerals Safeguarding - Sand and Gravel 2 / Diogelu Mwynau – Tywod a Graean 2 (4) Minerals Safeguarding - Sandstone 2 / Diogelu Mwynau – Calchfaen 2 (5)

Mae adnoddau mwynol hysbys o dywodfaen, tywod, graean a chalchfaen wedi eu diogelu fel a ddangosir ar y Map Cynigion. Caiff datblygiad newydd ei ganiatáu mewn ardal o adnoddau mwynol hysbys dim ond os dangoswyd yn gyntaf:

  1. Y gellir echdynnu unrhyw gronfeydd mwynau yn economaidd cyn dechrau’r datblygiad; neu
  2. Byddai echydynnu yn cael effaith annerbyniol ar ystyriaethau amgylcheddol neu amwynderol; neu
  3. Ni fyddai gan y datblygiad unrhyw effaith arwyddocaol ar y posibilrwydd o weithio’r adnodd oherwydd ei natur neu ei faint; neu
  4. Mae’r adnodd dan sylw o ansawdd neu o faint gwael.

6.377Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae'r CDLlN yn diogelu adnoddau mwynol cyfyngedig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u nodi ar y Map Cynigion ac maent wedi'u diogelu rhag datblygiad parhaol a allai sterileiddio neu rwystro eu hechdynnu yn y dyfodol. Ni ddylai nodi'r ardaloedd hyn ar y Map Cynigion awgrymu y bydd yr ardaloedd hyn byth yn cael eu gweithio, a dylid nodi hefyd nad yw eu nodi yn rhoi unrhyw ganiatâd/ddyraniad ar gyfer echdynnu yn y dyfodol.

6.378Dylid ystyried y rheswm dros yr ardal a ddiogelir (h.y. budd hirdymor posib yr adnodd dan sylw) mewn perthynas â'r angen am ddatblygiad ac unrhyw ddadleuon economaidd byrdymor.

6.379Yn ogystal, bydd cynigion datblygu ar raddfa fach, er enghraifft mewnlenwi cyfyngedig, datblygiad gan ddeiliaid tai neu ddatblygiad amaethyddol, yn aml yn cael eu caniatáu o fewn ardaloedd a ddiogelir, er y bydd gofyn iddynt yn gyntaf ddangos na fyddent yn peryglu ecsploetio’r adnodd a ddiogelir yn y dyfodol.

6.380Ceir rhagor o fanylion am weithredu'r Polisi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Diogelu Mwynau y Cyngor.

MIN2 - PARTHAU CLUSTOGI CHWARELI Sylw Gweld map Quarry Buffer / Clustogfa Chwarel

Mae parthau clustogi wedi'u nodi o gwmpas safleoedd gweithio mwynau. O fewn y parthau clustogi a nodwyd, caniateir cynigion ar gyfer datblygiad newydd dim ond pan ddangosir:

  1. Na fyddai'r cynnig yn cyfyngu ar weithrediadau'r safle mwynau; neu
  2. Mae'r cynnig o fewn ardal adeiledig bresennol sydd eisoes yn tresmasu i'r parth clustogi.

6.381Mae gweithrediad gweithfeydd mwynau yn aml yn gwrthdaro â defnyddiau tir eraill a gall effeithiau fel sŵn, llwch a dirgryniad effeithio'n sylweddol ar amwynderau lleol. Yn yr un modd, gall datblygiad ger gweithfeydd mwynau gyfyngu'n ddifrifol ar allu adnoddau mwynol i gael eu gweithio. Er mwyn darparu ardaloedd o amddiffyniad o gwmpas gweithfeydd mwynau, mae parthau clustogi wedi'u nodi i leihau'r gwrthdaro rhwng y gweithrediad mwynau a defnyddiau tir sensitif eraill fel ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion. O fewn y parth clustogi, ni ddylai fod echdynnu mwynau newydd na datblygiad sensitif newydd, ac eithrio lle byddai safle'r datblygiad newydd wedi'i leoli o fewn ardal adeiledig bresennol sydd eisoes yn tresmasu i’r parth clustogi. Gall datblygiadau llai sensitif eraill fel diwydiant neu gyflogaeth fod yn dderbyniol lle gellir dangos na fyddai cynigion o'r fath yn cael effaith annerbyniol ar weithrediadau'r gwaith mwynau.

6.382Yn unol â NCTM1, mae'r parthau clustogi ar gyfer chwareli creigiau caled wedi'u diffinio gan ffin pellter o 200 metr o'r safle mwynau ac fe'u dangosir ar y Map Cynigion. Yn unol â hynny, pan fo cais am estyniad i chwarel, ystyrir fel arfer bod parth clustogi’r chwarel yn ymestyn 200m o ffin yr estyniad, oni bai bod cyfiawnhad fel arall wedi'i roi fel rhan o ystyriaeth y cynnig hwnnw.

MIN3 - SAFLEOEDD MWYNAU SEGUR Sylw Gweld map Dormant Mineral Site / Safle Mwynau Segur

Bydd y Cyngor yn atal echdynnu mwynau pellach ar safleoedd mwynau segur drwy gyflwyno gorchmynion gwahardd ar y safleoedd mwynau canlynol lle mae'n fodlon bod ailddechrau ennill a gweithio mwynau neu ddyddodi gwastraff mwynau i unrhyw raddau sylweddol yn annhebygol:

  1. Chwarel Beaupre (Long Grove), Saint Hilari;
  2. Chwarel Cnap Twt, Castell Alun.
  3. Chwarel Cosmeston, Penarth;
  4. Chwarel Cross Common, Dinas Powys;
  5. Chwarel Downswood, Penarth;
  6. Gwaith Brics Trelái (rhennir y safle â Chaerdydd);
  7. Chwarel Larnog;
  8. Chwarel Saint Andras, Saint Andras;
  9. Chwarel Southerndown Road.

Gan fod y cronfeydd segur yn Argoed Isha, Llansanwyr wedi eu hasesu fel rhai sydd â photensial i gael eu hailweithio yn y dyfodol, ni fydd y Cyngor yn ceisio cyflwyno gorchymyn gwahardd ar y safle hwn.

6.383Yn ogystal â safleoedd chwareli gweithredol, ceir sawl safle mwynau anweithredol a segur ers amser maith ym Mro Morgannwg lle na fu gweithio mwynau am gyfnod o fwy na 10 mlynedd. Mae'r rhain i'w gweld ar y Map Cynigion.

6.384Mae llawer o'r safleoedd wedi adfywio'n naturiol, wedi cael eu rhoi i ddefnyddiau amgen neu wedi'u cyfyngu gan ddatblygiad cyfagos. Er enghraifft, llenwodd Chwarel Cosmeston â dŵr i ddyfnder o fwy nag 20 metr pan ddaeth chwarela i ben yn y 1960au ac ers hynny mae wedi cael ei hymgorffori ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston; mae Chwarel Larnog a Chwarel Southerndown Road wedi cael eu defnyddio fel safleoedd gwaredu gwastraff; ac mae Gwaith Brics Trelái (a rennir â Chaerdydd) wedi cael ei orchuddio i raddau helaeth gan Ffordd Gyswllt Trelái.

6.385Bydd y Cyngor yn ceisio atal echdynnu adnoddau pellach ar y safleoedd a restrir ym Mholisi MIN3 er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â'u gwaith yn y dyfodol, a bydd yn ceisio sicrhau bod gwaith adfer yn cael ei wneud lle y bo hynny'n briodol, fodd bynnag, cydnabyddir bod y mwyafrif o'r chwareli a restrir eisoes wedi adfywio'n naturiol neu’n cael eu defnyddio mewn ffyrdd amgen a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn negyddu'r angen am unrhyw waith adfer pellach. Bydd adfer ac ôl-ddefnyddio felly yn dibynnu yn bennaf ar adfywio naturiol at ddibenion cadwraeth natur/ecolegol.

6.386Ystyrir y gellid ailweithio’r cronfeydd yn Chwarel Argoed Isha, Llansanwyr, yn y dyfodol yn amodol ar gymeradwyo cynllun gweithfeydd newydd.

6.387SoDdGA daearegol yw'r chwarel yng Nghnap Twt, Castell Alun. Mae adran 28G o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i “gymryd camau rhesymol, yn gyson ag arfer swyddogaethau'r Awdurdod yn briodol, i ddatblygu ymhellach y broses o warchod a chyfoethogi'r fflora, ffawna neu'r nodweddion daearegol neu ffisiograffig am fod y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.” Gan fod nodweddion o ddiddordeb y safle yn wyneb y graig, ystyrir na ddylid gwneud unrhyw waith adfer oni bai a hyd nes y bydd cynigion o'r fath wedi'u cymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

MIN4 – GWEITHIO MWYNAU CYNALIADWY Sylw

Bydd cynigion sy'n blaenoriaethu'r defnydd o ddeunydd wedi'i ailgylchu ac agregau eilaidd cyn datblygu ffynonellau newydd o ddeunyddiau sylfaenol yn cael eu ffafrio lle nad yw hyn yn cael effaith annerbyniol ar amwynder na'r amgylchedd.

Dim ond pan fo angen cenedlaethol, rhanbarthol neu leol profedig am y mwynau y caniateir cynigion ar gyfer echdynnu mwynau gwreiddiol newydd a lle:

  1. Mae unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd naturiol yn cael eu hosgoi neu eu lliniaru i lefel dderbyniol, ac mae'r cynigion yn cynnwys, lle y bo hynny'n briodol, mesurau i gyfoethogi'r amgylchedd naturiol.
  2. Dim ond lle byddai unrhyw effeithiau andwyol ar dreftadaeth adeiledig a diwylliannol yn cael eu lliniaru i lefel dderbyniol, a'u gwella lle bynnag y bo modd, y byddai'r datblygiad yn dderbyniol.
  3. Nid yw effeithiau ar amwynder trigolion a chymunedau lleol yn annerbyniol o ran sŵn, iechyd, ansawdd aer, dirgryniad, effaith weledol, darpariaeth mynediad a thraffig.
  4. Mae effeithiau ar ddaeareg, hydroleg a hydroddaeareg, gan gynnwys sefydlogrwydd tir a chyflenwadau dŵr, yn dderbyniol.
  5. Mae tystiolaeth glir na fydd unrhyw golled annerbyniol o dir amaethyddol o DTA gradd 1, 2, a 3a.
  6. Mae mwynau yn cael eu cludo drwy'r dulliau mwyaf cynaliadwy, ac mae'r potensial i gludo mwynau drwy ddulliau heblaw ar y ffordd wedi'i asesu'n ddigonol.
  7. Mae darpariaeth ar gyfer adfer y tir yn raddol ac yn derfynol i safon uchel ac i ôl-ddefnydd buddiol a chynaliadwy, gan gynnwys rheoli hirdymor ar ôl cau; a
  8. Phan ystyriwyd cyfleoedd ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff mwynol, a lle nad oes unrhyw ddeunyddiau amgen ymarferol y gellir eu darparu ar lai o gost i’r amgylchedd.

6.388Bydd Polisi MIN4 yn berthnasol i weithfeydd newydd, estyniadau i weithfeydd presennol, ac wrth ailweithio neu ailagor hen weithfeydd, a bydd yn cael ei ddefnyddio i ystyried ceisiadau ar gyfer gweithio pob math o fwynau.

6.389O ystyried y banc tir presennol o gronfeydd y mae ganddynt ganiatâd cynllunio mewn safleoedd gwaith mwynau presennol ym Mro Morgannwg, nid oes gofyn i'r Cynllun ddyrannu ardaloedd ychwanegol ar gyfer echdynnu calchfaen. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cydnabod y gall banc tir cronfeydd newid dros oes y CDLlN. Roedd gwerthiannau cerrig mâl ym Mro Morgannwg yn fwy na'r ffigur dosrannu blynyddol ar gyfer 2022, fodd bynnag, yng nghyd-destun de Cymru yn gyffredinol, roedd gwerthiannau oddeutu 63% o gyfanswm y dosraniad blynyddol a gyfrifwyd ar gyfer y rhanbarth. Cynyddodd gwerthiannau cerrig mâl yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru gan 310,000 tunnell rhwng 2020 a 2021 ond yna gostyngodd gan 190,000 tunnell rhwng 2021 a 2022. Er nad oes ffigur unigol ar gyfer Bro Morgannwg ar gael oherwydd cyfrinachedd masnachol, dangosodd ffigurau cyfunol ar gyfer Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ostyngiad o 360,000 tunnell mewn gwerthiannau rhwng 2021 a 2022. Os bydd lefelau allbwn yn dychwelyd i'r lefelau blaenorol a bod y banc tir yn cael ei ddisbyddu’n gyflymach nag a ragwelwyd, mae'r polisi hwn yn caniatáu i'r Cynllun ymateb i newidiadau o'r fath mewn amgylchiadau dros gyfnod y Cynllun ac yn darparu fframwaith ar gyfer ystyried cynigion ar gyfer safleoedd gweithio mwynau newydd neu estynedig.

6.390Bydd cynigion sy'n blaenoriaethu'r defnydd o ddeunydd wedi'i ailgylchu ac agregau eilaidd cyn datblygu ffynonellau newydd o ddeunyddiau sylfaenol yn cael eu ffafrio. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen newid patrwm cyflenwi mwynau o ffynonellau sylfaenol i ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy, ac y byddai gorddarparu deunydd sylfaenol o ganlyniad i ganiatâd i geisiadau sy'n bodoli, a rhoi caniatâd i geisiadau newydd, yn annog defnydd anghynaliadwy o adnoddau. Felly, dim ond pan ellir dangos nad oes unrhyw ddeunydd amgen ymarferol y gellir ei ddarparu ar lai o gost amgylcheddol, a phan fo diffyg wedi’i nodi mewn cronfeydd y gellir ei gyfiawnhau, y caniateir echdynnu mwynau gwreiddiol newydd yn ogystal â banc tir y cronfeydd a ganiateir fel arfer (NCTM1 Paragraff 34). Er mwyn sicrhau bod aflonyddwch ar y tir yn cael ei gadw i'r lleiafswm, bydd disgwyl datblygiad graddol ac adfer graddol lle bynnag y bo modd, er y cydnabyddir y gall cyfleoedd fod yn gyfyngedig ar gyfer gweithrediadau creigiau caled gyda hyd oes hir.

6.391Pan fo tir y tu allan i ffin anheddiad diffiniedig yn cael ei ddyrannu at ddefnydd newydd neu ei warchod at ei ddefnydd presennol, fel sy'n digwydd gyda nifer o safleoedd cyflogaeth ar draws y Fro, nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn gefn gwlad at ddibenion y polisi hwn. Bydd darparu cyfleusterau rheoli gwastraff ar safleoedd cyflogaeth priodol, safleoedd gwaith mwynau, tir diffaith neu gyfadeiladau fferm adfeiliedig, fel y nodir ym Mholisi SP17, hefyd yn dderbyniol mewn egwyddor.

LLEOEDD UNIGRYW A NATURIOL

SEILWAITH GWYRDD

6.392Mae seilwaith gwyrdd (SG) yn rhwydwaith o fannau gwyrdd amlswyddogaeth, trefol a gwledig, a all ddarparu ystod eang o fuddion amgylcheddol ac ansawdd byw i gymunedau lleol. Nid term arall ar gyfer man agored confensiynol yw SG. Mae'n cynnwys parciau, mannau agored, caeau chwarae, coetiroedd, ond hefyd coed stryd, rhandiroedd, gerddi preifat, toeau a waliau gwyrdd, systemau draenio cynaliadwy (SDCau) a phriddoedd. Mae hefyd yn cynnwys afonydd, nentydd, camlesi a chyrff dŵr eraill, a elwir weithiau'n 'seilwaith glas'. Mae SG yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth ac yn gwneud cyfraniad pwysig at ansawdd yr amgylchedd, ac mae ganddo rôl bwysig i'w chwarae o bosib wrth liniaru effeithiau digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig tywydd poeth estynedig. Mae mynediad at fannau gwyrdd deniadol, sydd wedi'u cynnal yn dda fel parciau a gerddi, parciau gwledig ac ardaloedd bywyd gwyllt, yn cefnogi iechyd a lles corfforol a meddyliol.

SP19 - SEILWAITH GWYRDD Sylw

Bydd cynigion datblygu yn ymgorffori mesurau sy'n diogelu ac yn gwella darpariaeth seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol o ansawdd uchel. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i gynigion datblygu:

  1. Ymgorffori seilwaith gwyrdd presennol yn y broses ddylunio, gan fanteisio ar gyfleoedd a gyflwynir gan asedau presennol a darpar asedau, trwy ddilyn egwyddorion creu lleoedd.
  2. Diogelu a gwella cysylltedd rhwng asedau seilwaith gwyrdd presennol.
  3. Cyflawni budd net bioamrywiaeth drwy ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur, gan gynnwys y Safonau Adeiladu â Natur, lle y bo hynny'n bosib;
  4. Diogelu tirweddau sydd wedi'u dynodi ar gyfer eu harwyddocâd daearegol, naturiol, gweledol, hanesyddol neu ddiwylliannol;
  5. Darparu mannau agored, gan gynnwys mannau chwarae, mannau gwyrdd amwynder a mannau gwyrdd naturiol a lled-naturiol;
  6. Hwyluso amgylcheddau sy'n hyrwyddo iechyd a lles meddyliol a chorfforol;
  7. Darparu oeri a chysgodi trefol;
  8. Integreiddio darpariaeth seilwaith gwyrdd â systemau draenio cynaliadwy; a
  9. Chefnogi'r ddarpariaeth o fannau tyfu cymunedol gan gynnwys rhandiroedd a pherllannau cymunedol.

6.393Mae'r amrywiaeth eang o dirweddau naturiol, cynefinoedd bioamrywiaeth, mannau gwyrdd, ardaloedd arfordirol a gwledig, ochr yn ochr â'r rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn yr ardal yn cael ei ystyried fel un o'r rhesymau pam mae'r Fro yn lle mor ddeniadol i fyw ynddo ac ymweld ag ef.

6.394Mae sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei chyfoethogi, gwytnwch ecosystemau, a gwneud yn fawr o'r ddarpariaeth seilwaith gwyrdd yn hanfodol wrth ymateb i'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur a ddatganwyd. Mae Polisi SP19 yn ceisio nodi lle y dylai cynigion datblygu ddiogelu, gwella a chynnal seilwaith gwyrdd presennol, a sicrhau bod darpariaeth seilwaith gwyrdd ar draws Bro Morgannwg yn gyfannol, ac yn darparu manteision lluosog ar draws ystod eang o swyddogaethau.

6.395Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd (ASG) wedi'i gwblhau i hwyluso dull cadarn a rhagweithiol o wella bioamrywiaeth, cynyddu gwytnwch ecolegol a gwella canlyniadau lles. Mae'r asesiad yn nodi cyfleoedd strategol allweddol lle gallai adfer, cynnal a chadw, creu a chysylltu nodweddion a swyddogaethau gwyrdd ddarparu'r manteision mwyaf arwyddocaol. Mae'r ASG wedi llywio’r gwaith o uwch-gynllunio'r dyraniadau Safle Allweddol (cyfeirir at HG1 KS).

6.396Dylid ystyried y polisi hwn ochr yn ochr â SP20 ar Fioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau, sy'n gofyn i ddatblygiadau ddarparu budd bioamrywiaeth net ar y safle, diogelu nodweddion presennol a mwy o gysylltedd ar y safle. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gadw coridorau bywyd gwyllt presennol a hwyluso cysylltiadau newydd trwy fanteisio ar gyfleoedd safle-benodol. Wrth nodi cyfleoedd, mae safle a'i gyd-destun o'i gwmpas yn ystyriaethau allweddol, ochr yn ochr â'r ASG.

6.397Mae darparu mannau gwyrdd amlswyddogaethol yn rhan annatod o ddarparu seilwaith gwyrdd cyfannol. Dylai darparu seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol greu mannau cydlynol sydd: yn caniatáu hamdden ac ymlacio; hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol; hwyluso cyfleoedd dysgu; cefnogi cysylltedd a chynefin bywyd gwyllt; rheoli adnoddau dŵr; lliniaru ac addasu i newid hinsawdd; gwella cynhyrchu bwyd lleol; a chefnogi treftadaeth a diwylliant. Gall hefyd chwarae rhan bwysig wrth ddenu twf economaidd a buddsoddiad, cynyddu buddion tir ac eiddo, hyrwyddo twristiaeth, a chynyddu cynhyrchiant busnes.

6.398Gall atebion sy'n seiliedig ar natur fod yn offeryn gwerthfawr wrth greu datblygiadau cynaliadwy a gwydn. Gall integreiddio nodweddion megis plannu coed, tirlunio a mannau gwyrdd naturiol hygyrch, wneud cyfraniad sylweddol at ddarparu seilwaith gwyrdd, cefnogi bioamrywiaeth, lliniaru effeithiau newid hinsawdd a chyfrannu at greu cymunedau mwy cynaliadwy ac sy’n braf byw ynddynt. Yn ogystal, bydd angen i ddatblygiadau newydd ddarparu cynlluniau SDCau, a dylid integreiddio'r rhain â nodweddion seilwaith gwyrdd eraill.

6.399Mae Adeiladu gyda Safonau Natur[16] yn darparu fframwaith o safonau arfer gorau sydd, at ei gilydd, yn diffinio meincnod o seilwaith gwyrdd da a sut i'w gyflawni. Mae'r safonau hyn yn darparu meincnod o arfer da a dylid eu cymhwyso i bob datblygiad fel rhestr wirio ansawdd, mewn ffordd sy'n gymesur â natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig.

6.400Wrth ddarparu seilwaith gwyrdd newydd a gwell, mae'n hanfodol cydlynu darpariaeth seilwaith, fel bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn paratoi Cynllun Seilwaith Gwyrdd, a fydd yn nodi'r asedau seilwaith gwyrdd, a'r gwahanol bartneriaid sy'n ymwneud â darparu mannau gwyrdd. Bydd yn cynnwys gweledigaeth, tystiolaeth gefndir, argymhellion, a chynllun gweithredu.

6.401Bydd datblygiad yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o ardaloedd sydd â gwerth ecolegol uchel, a bydd cyfyngiadau i ble y gall twf ddigwydd. Ni ddylid ystyried SG ac yn enwedig ardaloedd o werth ecolegol uchel yn unig fel terfynau sy'n cyfyngu ar dwf. Yn hytrach, dylid ei ystyried fel ased seilwaith a all dyfu ei hun, gyda'r bwriad o gyflymu adferiad natur. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan seilwaith gwyrdd presennol, a cheisio dylanwadu ar dirfeddianwyr i'w reoli'n strategol gyda gwell darpariaeth mewn golwg. Bydd yr ardaloedd o werth ecolegol uchel a nodwyd yn y CDLl Newydd yn sail i hyn, a dylid blaenoriaethu tir sy'n agos at y rhain er mwyn gwneud yn fawr o'r ddarpariaeth, yn unol â Strategaeth SG y Cyngor.

CADWRAETH NATUR A BIOAMRYWIAETH

6.402Mae bioamrywiaeth gyfoethog ac amrywiol Bro Morgannwg yn cefnogi ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw ac ymdeimlad o le. Mae'r asedau hyn yn cynnwys safleoedd ac ardaloedd o bwysigrwydd Ewropeaidd, cenedlaethol a lleol, yn ogystal â thirweddau pwysig, coetiroedd ac arfordir helaeth sy'n cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

SP20 - BIOAMRYWIAETH A GWYDNWCH ECOSYSTEMAU Sylw Gweld map Sites of Importance for Nature Conservation / Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur

Bydd bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg yn cael ei gwarchod, ei chynnal a'i chyfoethogi. Rhaid i bob cynnig datblygu ddangos sut y byddant yn cyfrannu at gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth, a gwytnwch a chysylltedd ecosystemau. Rhaid i gynigion ar gyfer datblygiad newydd:

  1. Osgoi ardaloedd o werth ecolegol uchel.
  2. Cynnwys arolwg ecolegol ac asesiad o effeithiau tebygol y cynnig ar fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau'r safle datblygu. Mae’n rhaid i'r arolwg a'r asesiad fod yn gymesur â natur a graddfa gwerth ecolegol y safle a natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig.
  3. Dangos drwy gymhwyso'r dull fesul cam y bu budd net cyffredinol i fioamrywiaeth yn gymesur â natur a graddfa'r datblygiad.
  4. Sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir yn rhyngwladol ac yn y DU yn cael eu gwarchod yn unol â gofynion statudol.
  5. Diogelu cyfanrwydd safleoedd dynodedig lleol a rhanbarthol anstatudol gan sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol.
  6. Ymgorffori seilwaith gwyrdd presennol yn y camau dylunio cynnar, sy'n diogelu ac yn gwella nodweddion presennol y safle ac yn gwella cysylltedd y rhwydwaith ecolegol.
  7. Eu bod wedi'u cynllunio i osgoi cyflwyno neu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol a, lle y bo angen, cynnwys cynigion i ddileu, lleihau a lliniaru effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol ar fioamrywiaeth ac ecosystemau. Cynnwys atebion sy'n seiliedig ar natur yn y datblygiad i gefnogi bioamrywiaeth ac adeiladu gwydnwch ecosystemau o fewn y safle a'r ardal ehangach.
  8. Gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal a chadw a rheoli buddiannau cadwraeth natur presennol a newydd eu creu, yn gymesur â natur a graddfa'r datblygiad.

Pan ystyrir bod datblygiad yn briodol ac nad yw darparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar y safle yn ymarferol neu'n ddigonol, defnyddir rhwymedigaethau a/neu amodau cynllunio i sicrhau a chynnal cynefinoedd a mesurau cyfadferol oddi ar y safle sy'n gysylltiedig yn swyddogaethol â'r asedau o fewn y safle, ac sy'n cyfrannu at y blaenoriaethau adfer natur lleol ehangach.

Dim ond pan y gellir dangos bod yr angen am y datblygiad yn drech na bioamrywiaeth, gwytnwch ecosystemau neu bwysigrwydd daearegol y safle y caniateir datblygu ar safleoedd anstatudol rhanbarthol neu leol eraill neu goridorau bywyd gwyllt sydd â gwerth bioamrywiaeth, neu ddatblygu sy'n effeithio'n andwyol arnynt, ac y gellir dangos na ellir lleoli'r datblygiad yn rhesymol mewn man arall.

6.403Mae Polisi SP20 Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau yn cydnabod pwysigrwydd asedau naturiol Bro Morgannwg, ac yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, eu cynnal a'u gwella nid yn unig am eu gwerth cadwraeth natur cynhenid, ond hefyd ar gyfer y manteision cymdeithasol, economaidd a chymunedol ehangach y maent yn eu darparu.

6.404Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau well (Dyletswydd Adran 6) ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ddyletswydd hon yn gofyn bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru wrth arfer eu swyddogaethau geisio cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth drwy sicrhau nad yw datblygiad yn achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau rhywogaethau, a rhaid iddynt ddarparu budd net i fioamrywiaeth a gwell gwytnwch ecosystemau.

6.405Felly, bydd angen i ddatblygu ddangos y gellir cyflawni budd net i fioamrywiaeth. Gellir cyflawni budd net ar gyfer bioamrywiaeth drwy ystod o gamau gweithredu sy'n amrywio o greu cynefinoedd a/neu drefniadau rheoli hirdymor sy'n cyfoethogi cynefinoedd diraddiedig presennol, neu gynefinoedd lled-naturiol, a gwella gwytnwch ecosystemau. Rhaid i fanteision fod yn hirdymor, yn fesuradwy, yn ddangosadwy, ac yn bennaf ar y safle. Dylid cyflawni gwelliannau bioamrywiaeth yn dilyn y dull fesul cam o osgoi yn gyntaf, yna lleihau, gyda lliniaru fel dewis olaf ar gyfer gwneud iawn am unrhyw effaith negyddol. Lle nad yw'n bosib cyflawni lliniaru a gwella ar y safle, rhaid cyfadfer oddi ar y safle i sicrhau budd net bioamrywiaeth.

6.406Mae rhwydweithiau o gynefinoedd naturiol a seilwaith gwyrdd yn darparu adnodd ecolegol gwerthfawr. Maent yn cysylltu safleoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth ac yn darparu cerrig camu ar gyfer mudo, gwasgaru a chyfnewid genetig rhywogaethau o fewn yr amgylchedd ehangach. Er mwyn osgoi darnio ac ynysu cynefinoedd naturiol, mae'n hanfodol bod rhwydweithiau o'r fath yn cael eu diogelu rhag datblygiad amhriodol a, lle y bo'n bosib, eu cyfoethogi. Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd y Cyngor yn nodi'r ddarpariaeth seilwaith gwyrdd ym Mro Morgannwg ac mae'n cynnwys gweledigaeth, argymhellion a chynllun gweithredu ar sut y gellir ymestyn a gwella seilwaith gwyrdd yn y Fro.

6.407Gall dyluniad sensitif a dewis lleoliad datblygiad newydd gael effaith gadarnhaol ar dreftadaeth adeiledig a naturiol y Fro. Yn yr un modd, bydd angen i ddatblygiadau newydd leihau eu heffaith ar systemau naturiol, tirweddau, rhywogaethau a chynefinoedd a, lle y bo’n briodol, roi cyfleoedd i greu cynefinoedd newydd neu wella cynefinoedd mewn ffordd sensitif. Dylid ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) Partneriaeth Natur y Fro ac unrhyw gyfleoedd sy'n bodoli i gefnogi'r camau gweithredu a nodwyd.

6.408Pan fo angen cynllun rheoli, dylai hyn nodi'r cynigion rheoli ar unwaith a pharhaus ar gyfer y safle, y trefniadau monitro yn y dyfodol a'r dulliau cyllido sydd ar gael i gyflawni amcanion y cynllun rheoli. Dylai'r cynllun gynnwys manylion yr amserlen arfaethedig ar gyfer sicrhau budd net i fioamrywiaeth o fewn amserlen mor fyr â phosib.

6.409Mae Rhywogaethau Estron Goresgynnol (RhEG) yn anifeiliaid, planhigion estron neu organebau eraill a all ledaenu ac achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi ac iechyd. Rhaid i gynigion datblygu gael eu cynllunio a'u rhoi ar waith i osgoi lledaenu neu gyflwyno RhEG, a phan gwyddys bod RhEG yn bodoli neu yr amheuir eu bod yn bresennol ar safle, rhaid i geisiadau cynllunio gynnwys arolwg ac asesiad risg a gynhaliwyd gan weithiwr proffesiynol cymwys sy'n darparu manylion am sut y bydd y RhEG yn cael eu rheoli, eu dileu neu eu cyfyngu yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu.

6.410Cefnogir Polisi SP20 gan SP13 Seilwaith Cymunedol a Rhwymedigaethau Cynllunio a SP19 Seilwaith Gwyrdd. Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiad newydd ddarparu seilwaith cymunedol newydd gan gynnwys Seilwaith Gwyrdd a nodweddion sy'n cefnogi budd bioamrywiaeth net ac i ymgorffori Seilwaith Gwyrdd yn y drefn honno.

6.411Mae rhai ardaloedd yn nwyrain Bro Morganwg o fewn 300m i AGA/Ramsar Aber Afon Hafren, y pellter y mae effeithiau aflonyddwch gweledol a sŵn sylweddol i adar cymwys yn debygol o ddigwydd. Fel yr argymhellwyd gan Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer aflonyddwch gweledol a sŵn, dylid cynnal unrhyw waith adeiladu ar safleoedd newydd o fewn 300m i AGA/Ramsar Aber Afon Hafren yn ystod misoedd yr haf, pan na fydd poblogaethau cymwys yn y safle yn bresennol. Os na ellir amseru hyn i osgoi'r tymor di-fridio, bydd angen cynnal asesiadau effaith sŵn i sicrhau na fydd lefelau sŵn mewn derbynyddion sensitif yn aflonyddgar. Bydd angen sgrinio priodol ar gyfer gwaith adeiladu o fewn 300m i unrhyw glwydfannau llanw uchel sefydledig neu ardaloedd chwilota bwyd allweddol o fewn neu y tu allan i'r AGA/Ramsar. Os ystyrir bod y cynefinoedd presennol yn addas, dylid cynnal arolygon adar nad ydynt yn bridio o barseli tir cyfagos heb eu datblygu i sefydlu a yw'r rhain yn gysylltiedig yn swyddogaethol â'r AGA/Ramsar ac os deuir i'r casgliad mai dyna'r achos, dylai mesurau lliniaru hefyd fod yn berthnasol i'r ardaloedd hyn.

ARDALOEDD TIRWEDD ARBENNIG

DNP1 - ARDALOEDD TIRWEDD ARBENNIG Sylw

Mae'r ardaloedd canlynol wedi'u dynodi'n Ardaloedd Tirwedd Arbennig:

  1. Castell Alun; Sylw Gweld map Special Landscape Area (1) / Ardal Tirwedd Arbennig (1)
  2. Dyffryn Ddawan Uchaf ac Isaf; Sylw Gweld map Special Landscape Area (2) / Ardal Tirwedd Arbennig (2)
  3. Dyffryn Elái a llethrau’r grib; Sylw Gweld map Special Landscape Area (3) / Ardal Tirwedd Arbennig (3)
  4. Nant Llancarfan; Sylw Gweld map Special Landscape Area (4) / Ardal Tirwedd Arbennig (4)
  5. Basn Dyffryn a llethrau'r grib; Sylw Gweld map Special Landscape Area (5) / Ardal Tirwedd Arbennig (5)
  6. Basn Cwrt-yr-Ala. Sylw Gweld map Special Landscape Area (6) / Ardal Tirwedd Arbennig (6)

O fewn yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig a nodwyd uchod, caniateir cynigion datblygu lle dangosir na fyddent yn achosi unrhyw niwed annerbyniol i gymeriad tirwedd pwysig yr ardal.

6.412Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) wedi'u dynodi i warchod ardaloedd ym Mro Morgannwg sy'n bwysig oherwydd eu harwyddocâd daearegol, naturiol, gweledol, hanesyddol neu ddiwylliannol.[17] Mae'r ardaloedd hyn wedi'u nodi drwy ddefnyddio methodoleg a ddyfeisiwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gynt (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) mewn cydweithrediad â chonsortiwm o awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru[18], sy'n defnyddio data LANDMAP. Mae'r broses yn caniatáu i wybodaeth am y dirwedd gael ei chasglu, ei threfnu a'i gwerthuso i set ddata genedlaethol gyson, o ran ansawdd.

6.413Mae manylion yr ATAau a nodwyd wedi'u cynnwys ym Mhapur Cefndir Dynodi Ardaloedd Tirwedd Arbennig Bro Morgannwg.

6.414Nid yw dynodi ATAau o angenrheidrwydd yn atal datblygu ond yn hytrach, sicrhau, lle mae datblygiad yn cael ei dderbyn, bod ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i elfennau dylunio'r cynnig megis y safle, cyfeiriadaeth, cynllun, a thirwedd, er mwyn sicrhau bod y rhinweddau a'r nodweddion arbennig y mae'r ATAau wedi'u dynodi ar eu cyfer yn cael eu diogelu.

6.415Bydd angen i gynigion datblygu o fewn ATAau ystyried yn llawn effaith y cynnig ar y CLG drwy gyflwyno Asesiad Effeithiau Tirwedd a Gweledol (AETG). Bydd angen i AETG ar gyfer unrhyw ddatblygiad sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar gymeriad tirwedd neu gael effaith weledol sylweddol o fewn y dirwedd ehangach (yn rhinwedd ei faint neu amlygrwydd neu effaith ar yr ardal) a bydd yn cael ei baratoi yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Tirwedd a’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol. Lle y bo'n berthnasol, dylai hyn ffurfio elfen allweddol o ddatganiad dylunio a mynediad cais cynllunio, a dylai ddangos bod y cynnig wedi'i gynllunio i gael gwared ar neu leihau unrhyw effeithiau annerbyniol ar y rhinweddau y mae'r ATA wedi'i dynodi ar eu cyfer. Dylid ystyried unrhyw effeithiau cronnol y gall y cynnig eu cael mewn perthynas â chynigion presennol neu arfaethedig yn yr ardal hefyd. Mae hyn yn arbennig o wir am dyrbinau gwynt neu adeileddau mawr a chynigion ar raddfa fawr fel ffermydd solar. Dylai'r lefel o fanylder sy'n ofynnol ym mhob asesiad effaith tirwedd fod yn gymesur â graddfa'r cynnig.

LLETEMAU GLAS

DNP2 – LLETEMAU GLAS Sylw

Nodwyd lletemau glas i atal aneddiadau rhag ymdoddi i’w gilydd, ac i gadw tir yn agored yn y lleoliadau canlynol:

  1. Rhwng Dinas Powys, Penarth a Llandochau; Sylw Gweld map Green Wedge (1) / Lletem Las (1)
  2. I'r gogledd-orllewin o Sili; Sylw Gweld map Green Wedge (2) / Lletem Las (2)
  3. I'r gogledd o Wenfô; Sylw Gweld map Green Wedge (3) / Lletem Las (3)
  4. Rhwng y Barri a'r Rhws; Sylw Gweld map Green Wedge (4) / Lletem Las (4)
  5. De Penarth i Sili; a Sylw Gweld map Green Wedge (5) / Lletem Las (5)
  6. Rhwng Llanilltud Fawr a Llan-faes. Sylw Gweld map Green Wedge (6) / Lletem Las (6)

Yn yr ardaloedd hyn, ni chaniateir datblygiadau sy’n cyfaddawdu natur agored y tir.

6.416Mae tir ar y cyrion trefol, yn enwedig o gwmpas yr Aneddiadau Allweddol, Gwasanaeth a Phrif Aneddiadau ym Mharth y De-ddwyrain, yn agored i ddatblygiadau tybiannol sy’n gallu gwneud y ffiniau rhwng ymylon aneddiadau a chefn gwlad agored yn annelwig. Os na chaiff ei atal, byddai'r datblygiad hwn yn arwain at golli tir agored yn raddol ac, yn y pen draw, at aneddiadau’n ymdoddi i’w gilydd gan effeithio’n andwyol ar amaethyddiaeth, y dirwedd a gwerth amwynder y tir.

6.417Wrth i bolisïau eraill y CDLl geisio atal datblygiad amhriodol yng nghefn gwlad agored, ystyrir bod yr ardaloedd a ddiffinnir gan y lletemau glas yn fwy agored i niwed, ac yn agored i newid, ac angen amddiffyniad ychwanegol. Felly, o fewn yr ardaloedd a ddiffinnir gan y lletemau glas bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad amhriodol [19]a fyddai'n cyfrannu at aneddiadau’n ymdoddi i’w gilydd, yn peryglu natur agored y tir, neu'n cael effaith andwyol ar leoliad ardal drefol. Wrth gymhwyso'r amddiffyniad hwn, fodd bynnag, cydnabyddir bod grwpiau unigol neu fach o anheddau yn bodoli o fewn y dynodiadau, a bod gweithgareddau fel amaethyddiaeth, coedwigaeth a hamdden, yn digwydd. O ganlyniad, bydd datblygiadau sy'n gysylltiedig â defnyddiau presennol yn cael eu cyfyngu i fân adeileddau sy'n gwbl ategol i ddefnyddiau presennol. Mae manylion pob un o'r dynodiadau wedi'u cynnwys yn y Papur Cefndir Lletemau Glas.

ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG

DNP3 – ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG Sylw Gweld map Glamorgan Heritage Coast / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Bydd rhinweddau amgylcheddol arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn cael eu cadw a'u cyfoethogi. Bydd datblygiad newydd yn cael ei gyfyngu i:

  1. Ddatblygiad sy'n angenrheidiol ar gyfer amddiffyn arfordirol fel y'i nodwyd yng Nghynllun Rheoli Traethlin 2 Trwyn Larnog i Benrhyn Santes Ann;
  2. Datblygiad sy'n hanfodol at ddibenion amaethyddiaeth neu gadwraeth natur neu sy'n cefnogi'r economi leol;
  3. Datblygiad sy'n cefnogi hamdden a thwristiaeth gynaliadwy neu'n gwella mynediad arfordirol ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill sydd ag effaith isel.
  4. Datblygiad o fewn ffiniau aneddiadau; neu
  5. Datblygiad priodol a chynaliadwy arall sy'n cyd-fynd â Pholisi Cenedlaethol.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygiad sydd ag effaith andwyol ar rinweddau amgylcheddol arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg:

  1. Mae angen cenedlaethol cymhellol na ellir ei ddiwallu yn unman arall.
  2. Mae'r manteision yn gorbwyso'r niwed tebygol.
  3. Mae mesurau lliniaru priodol ar waith i leihau effeithiau andwyol.

Bydd angen Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol (LVIA) lle ystyrir bod datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar gymeriad y dirwedd, y drefwedd neu'r forwedd o'i gwmpas, amwynder gweledol neu rinweddau arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

6.418Dylai Cynlluniau Datblygu fel arfer gynnig lleoliadau arfordirol ar gyfer datblygu sydd angen bod ar yr arfordir a darparu offeryn rheoli ar gyfer cydbwyso gofynion cadwraeth a mynediad yn y parth arfordirol.

6.419Mae dynodiad Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn cydnabod ei bwysigrwydd cenedlaethol fel ardal o arfordir deniadol heb ei ddatblygu. Amcan y dynodiad yw sicrhau bod cymeriad arbennig a harddwch naturiol yr arfordir yn cael eu gwarchod a'u gwella wrth alluogi a chyfoethogi mwynhad ohono a hwyluso ei ddefnydd parhaus ar gyfer amaethyddiaeth a gweithgareddau economaidd sefydledig a phriodol eraill.

6.420Mae'r Cyngor yn cydnabod ei bod yn angenrheidiol rheoli gweithgareddau datblygu yn ofalus o fewn Arfordir Treftadaeth Morgannwg er mwyn sicrhau bod y rhinweddau amgylcheddol naturiol y cafodd ei ddynodi ar eu cyfer yn cael eu cadw a'u cyfoethogi. Fodd bynnag, mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod mai ffermio yw'r prif weithgaredd o fewn yr Arfordir Treftadaeth, gan helpu i gynnal cymeriad y dirwedd ac yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi'r economi wledig, ac ni ddylid cyfyngu'r gweithgaredd hwn yn ormodol pan fo angen cynigion datblygu y gellir eu cyfiawnhau.

6.421Wrth geisio diogelu Arfordir Treftadaeth Morgannwg, mae'r Cyngor yn cydnabod bod rhai ardaloedd adeiledig o fewn y ffin, gan gynnwys Anheddiad Gwledig Bach Ogwr. Yn ogystal, mae rheilffordd Bro Morgannwg yn croesi rhan o ddynodiad yr Arfordir Treftadaeth yn y lleoliad lle mae tir wedi'i ddiogelu ar gyfer gorsaf newydd bosibl. Er ei fod yn ymwybodol o'r angen i ddiogelu rhinweddau arbennig Arfordir Treftadaeth Morgannwg, mae'r Cyngor yn derbyn bod datblygiad yn yr ardaloedd hyn yn briodol, yn amodol ar bolisïau perthnasol y Cynllun.

6.422Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg hefyd yn gyrchfan pwysig i ymwelwyr ac mae’n cynnig cyfleoedd ar gyfer hamddena anffurfiol, twristiaeth effaith isel a mynediad arfordirol. Byddai twristiaeth effaith isel yn cynnwys canolfannau dehongli, llwybrau troed, a datblygiadau eraill fel safleoedd gwersylla lle mae'r effeithiau ar yr ardal yn aml ar raddfa fach ac yn dymhorol.Dylai'r cynigion datblygu hyn anelu at amddiffyn neu gyfoethogi cymeriad naturiol neu hanesyddol a thirwedd arfordir heb ei ddatblygu, neu byddant yn arwain at effeithiau andwyol ar Ardal Cadwraeth Arbennig Dwnrhefn.

6.423Mae'n annhebygol y bydd cynigion datblygu mawr yn dderbyniol o fewn Arfordir Treftadaeth Morgannwg oni bai eu bod yn ofynnol ar gyfer gwaith amddiffyn arfordirol. Bydd angen i unrhyw gynigion ar gyfer datblygiad mawr ddangos bod lleoliad arfordirol yn hanfodol. Dylai gwaith amddiffyn arfordirol gyd-fynd â'r cynigion a nodwyd yng Nghynllun Rheoli Traethlin 2 Trwyn Larnog i Benrhyn Santes Ann (2012) sydd wedi'i baratoi i ystyried effaith hirdymor bosib lefelau cynyddol y môr o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae’r CRhT yn nodi polisïau a chamau gweithredu cyffredinol ar gyfer rheoli newid ar hyd yr arfordir. Dylai cynigion ar gyfer gwaith amddiffyn arfordirol ystyried yr holl effeithiau amgylcheddol posib, ar ac oddi ar y môr.

AMGYLCHEDD HANESYDDOL

DNP4 - AMGYLCHEDD HANESYDDOL Sylw

Mae’n rhaid i gynigion datblygu ddiogelu rhinweddau amgylchedd adeiledig a hanesyddol Bro Morgannwg, yn benodol:

  1. O fewn ardaloedd cadwraeth, mae’n rhaid i gynigion datblygu gadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal;
  2. Ar gyfer adeiladau rhestredig ac adeiladau rhestredig lleol, mae’n rhaid i gynigion gadw neu wella’r adeilad, ei leoliad ac unrhyw nodwedd o arwyddocâd sydd ganddo;
  3. O fewn tirweddau dynodedig, parciau a gerddi hanesyddol, a meysydd brwydrau, mae’n rhaid i gynigion datblygu barchu cymeriad ac ansawdd hanesyddol arbennig yr ardaloedd hyn, eu lleoliadau neu eu golygfeydd neu fistâu hanesyddol.
  4. Ar gyfer safleoedd o ddiddordeb archaeolegol, mae’n rhaid i gynigion datblygu gadw neu wella olion archaeolegol a’u lleoliadau lle y bo’n briodol.

6.424Mae’r amgylchedd hanesyddol yn cynnwys llawer o nodweddion: adeiladau, adeileddau, cerfluniau, olion, safleoedd archeolegol, gerddi, parciau, tirweddau a’u lleoliadau. Mae Atodiad 7 yn rhoi manylion am Adeiladau Rhestredig; Ardaloedd Cadwraeth; Trysorau Sirol Rhestredig Lleol; Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru; a Thirweddau o Ddiddordeb Eithriadol yng Nghymru a Henebion Cofrestredig. Mae deddfwriaeth genedlaethol a pholisi cynllunio cenedlaethol, yn nodi y dylid amddiffyn yr holl agweddau hyn ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae cadw a gwella’r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys lleoliadau asedau hanesyddol, yn agwedd allweddol ar gyfrifoldebau ehangach y Cyngor, a bydd yn cynnwys ystyriaeth berthnasol o bwysigrwydd wrth ddod i benderfyniad ar geisiadau sy’n effeithio ar asedau o’r fath.

6.425Ym Mro Morgannwg, ceir 39 Ardal Gadwraeth sy’n cyfrannu’n sylweddol at atyniad y Fro, gan eu bod wedi’u dynodi nid ar sail adeiladau unigol ond ansawdd cyffredinol yr ardal, eu defnydd cymysg, eu cynllun hanesyddol, eu deunyddiau nodweddiadol, a graddfa a manylder yr adeiladau a’r mannau agored. Mae’r Cyngor wedi paratoi gwerthusiadau manwl ar gyfer pob un o’i ardaloedd cadwraeth, sy’n diffinio eu cymeriad arbennig yn ogystal â chanllawiau ar gyfer cynlluniau datblygu a gwella. Maent wedi’u mabwysiadu gan y Cyngor fel Canllawiau Cynllunio Atodol i gefnogi polisïau’r CDLl.

6.426Mae gan Fro Morgannwg 744 o Adeiladau Rhestredig y mae eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei ddiogelu gan yr angen i gael Caniatâd Adeilad Rhestredig o dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Yn aml, mae lleoliad adeiladau o'r fath, fodd bynnag, yn hollbwysig i gymeriad yr adeilad, a gellir ei gyfyngu i'w safle agos neu’i estyn i ardal lawer ehangach. Felly, mae’n hanfodol bod unrhyw gynigion datblygu yn dangos yr ystyriwyd yr angen i gadw neu wella’r adeilad a’i leoliad.

6.427Mewn partneriaeth â’r Gymuned ehangach, mae’r Cyngor wedi nodi adeiladau ac adeileddau ym Mro Morgannwg yr ystyrir bod ganddynt ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol arbennig. Mae’r ‘Trysorau’r Sir’[20] hyn sydd wedi'u rhestru'n lleol yn arwyddocaol i’r gymuned leol ac maent yn cyfrannu at dreftadaeth amgylcheddol a diwylliannol y Sir. Er nad ydynt o bwys cenedlaethol sy'n ofynnol i haeddu rhestriad statudol, mae eu gwerth lleol yn haeddu cael ei gadw, ac felly mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r angen i gynigion datblygu warchod asedau o’r fath rhag datblygiadau ansensitif a all niweidio cymeriad lleol, yn unigol neu gyda’i gilydd. Mae cyngor pellach ar ddatblygiadau sy’n effeithio ar Drysorau’r Sir sydd wedi’u rhestru’n lleol wedi’i baratoi, a chaiff ei nodi mewn dogfen Canllaw Cynllunio Atodol[21].

6.428Mae diddordeb archeolegol a hanesyddol sylweddol ym Mro Morgannwg. Mae Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn casglu Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yr awdurdod. Gall nodweddion archeolegol ddylanwadu cryn dipyn ar ddichonoldeb cynigion datblygu. Lle y gwyddys neu y deallir bod olion archeolegol yn bresennol, dylid ymgymryd â gwerthusiad maes archeolegol ar y cyfle cyntaf a’i gyflwyno’n rhan o’r cais cynllunio. Pan fo cynnig datblygu’n effeithio ar safle archeolegol pwysig neu ei leoliad, bydd rhagdybiaeth o blaid cadwraeth ffisegol yr olion, ni waeth a yw’r safle’n Henebyn Cofrestredig ai peidio. Lle y caniateir datblygiad, dylid cadw olion a’u hymgorffori mewn modd sensitif i’r cynllun datblygu neu eu tynnu oddi yno i’w cadw oddi ar y safle, lle y bo’n briodol, yn unol â chyngor gan Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Bwriad y Cyngor yw llunio canllaw cynllunio atodol ar ddiogelu a gwella Amgylchedd Hanesyddol Cymru.

DIOGELU’R AMGYLCHEDD

DNP5 – ENVIRONMENTAL PROTECTION Sylw

Ni chaniateir datblygiad a fydd yn arwain at effaith annerbyniol ar bobl, amwynder preswyl, eiddo a/neu’r amgylchedd naturiol o:

  1. Lygredd tir, dŵr wyneb, dŵr daear a’r aer;
  2. Halogiad tir;
  3. Sylweddau peryglus;
  4. Sŵn, dirgryniadau, niwsans aroglau a llygredd golau;
  5. Perygl a chanlyniadau llifogydd;
  6. Erydu arfordirol neu ansefydlogrwydd tir.
  7. Colli’r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas; neu
  8. Unrhyw risg arall a nodir i iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Lle y nodir effeithiau, bydd y Cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol dangos y gellir cymryd mesurau priodol i leihau’r effaith a nodir i lefel dderbyniol. Gellir gosod amodau cynllunio neu ymrwymo i rwymedigaethau cyfreithiol, i sicrhau unrhyw brosesau lliniaru a monitro angenrheidiol.

Mewn perthynas â risg llifogydd, disgwylir i ddatblygiadau newydd osgoi risg llifogydd diangen a bodloni gofynion Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

6.429Er bod sawl elfen o reoli llygredd y tu allan i gylch gorchwyl y system gynllunio, mae’n bwysig nad yw datblygiadau newydd yn arwain at lefelau annerbyniol o lygredd. Os, o ganlyniad i ymgynghoriad â chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y bydd y Cyngor yn ystyried y byddai cynnig datblygu yn arwain at lygredd annerbyniol, neu’n gwaethygu problem bresennol, yna ni roddir caniatâd cynllunio.

6.430Mae Polisi DNP5 yn dilyn y dull rhagofalus, ac mae’r Cyngor yn annog datblygwyr i asesu unrhyw effaith yn ystod y cam cynharaf posib fel bod cynigion datblygu yn lleihau unrhyw effaith sy’n bresennol i lefel dderbyniol. Pan ganiateir datblygiad, caiff amodau eu hatodi at y gymeradwyaeth er mwyn lleihau unrhyw lefelau llygredd posib a lle y bo’n briodol, i fonitro effeithiau’r datblygiad.

6.431Yn unol â'r polisi cenedlaethol, mae'n cyfeirio datblygiad o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd afon, cwrs dŵr cyffredin, arfordirol, dŵr wyneb neu lle byddai'n cynyddu'r risg o lifogydd neu ddŵr ffo ychwanegol o ddatblygiadau mewn mannau eraill, ac mae'n adlewyrchu'r cyngor a nodir yn PCC a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol (2025). Bydd osgoi risg llifogydd diangen yn cael ei gyflawni drwy asesu'n llym oblygiadau risg llifogydd cynigion datblygu o fewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd llanw neu afonol ac atal datblygu sy'n cynyddu’r risg yn annerbyniol.

DNP6 – ARDALOEDD TAWEL Sylw

Er mwyn diogelu ardaloedd tawelwch mewn ardaloedd trefol, mae'r 'Ardaloedd Tawel' canlynol wedi'u nodi ar y map cyfyngiadau:

  1. Parc Belle Vue, Penarth
  2. Penarth Head Lane, Penarth
  3. Caeau Chwarae Fictoria, Penarth
  4. Y Gatiau Aur, Penarth
  5. Parc Alexandra, Penarth

Rhaid i bob cynnig ar gyfer datblygiad newydd sy’n cynhyrchu sŵn (e.e. defnyddiau masnachol, seilwaith trafnidiaeth, neu gynlluniau preswyl ar raddfa fawr) sy'n debygol o effeithio ar ardal dawel ddynodedig gynnwys Asesiad Effaith Sŵn cynhwysfawr.

6.432Mae'r 'Ardaloedd Tawel' a restrir ym Mholisi DNP6 wedi'u dynodi gan Lywodraeth Cymru o dan Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) ac wedi'u nodi yng Nghynllun Sŵn a Seinwedd Llywodraeth Cymru (2023-28). Mae'r Ardaloedd Tawel hyn yn barciau cyhoeddus yn ardal drefol Penarth, ac maent wedi'u nodi fel rhai sy'n gwarantu amddiffyniad rhag ymyrraeth sŵn, oherwydd eu bod yn gymharol dawel yn ôl safonau trefol mewn termau gwirioneddol a chanfyddedig.

6.433Mae Polisi DNP6 yn ceisio rheoli llygredd sŵn a chadw tawelwch yr Ardaloedd Tawel dynodedig, ac osgoi unrhyw gynnydd sylweddol mewn sŵn neu effeithiau eraill o ddatblygiad a fyddai'n effeithio'n andwyol ar y 5 nodwedd allweddol canlynol a roddir iddynt:

  • Seinwedd.
  • Presenoldeb natur.
  • Rhinweddau gweledol / esthetig.
  • Ymdeimlad o ddiogelwch personol.
  • Diwylliant a rhyddid y lle.

6.434Yn unol â hynny, rhaid i gynigion datblygu o fewn neu gerllaw Ardal Dawel ddynodedig (fel y dangosir ar fap cyfyngiadau’r CDLlN) ddangos sut y bydd y cynnig yn cadw at yr egwyddor 'seinwedd dda', gan sicrhau bod yr amgylchedd sain yn parhau i fod yn briodol i'w gyd-destun, fel yr amlinellir yng Nghynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023-28. Gall hyn gynnwys ymgorffori elfennau sain naturiol mewn mannau agored cyhoeddus, fel nodweddion dŵr, neu osgoi cyflwyno synau newydd, diangen.

6.435Ar gyfer datblygiadau sy'n sensitif i sŵn (e.e. tai, ysgolion, neu gyfleusterau gofal iechyd) a gynigir mewn neu gerllaw Ardal Dawel ddynodedig, rhaid i'r dyluniad sicrhau bod y mannau mewnol ac allanol yn darparu amgylchedd acwstig derbyniol i ddeiliaid yn y dyfodol, heb beryglu uniondeb yr ardal dawel, a dylai ystyried sŵn posib ym mhob cam o'r datblygiad, gan gynnwys yr adeiladu a’r gweithredu.

DNP7 – AWYR DYWYLL Sylw

Caniateir datblygiad newydd sy'n cynnwys cynigion ar gyfer goleuadau allanol (gan gynnwys goleuadau diogelwch, goleuadau amwynder, hysbysebion wedi'u goleuo a goleuadau sy'n gysylltiedig â phriffyrdd, meysydd parcio, cyfleusterau chwaraeon a gweithrediadau masnachol a diwydiannol) dim ond os dangoswyd bod y goleuadau a gynigir:

  1. Yn angenrheidiol ar gyfer y datblygiad arfaethedig ac yn gymesur â'r diben y mae ei angen ar ei gyfer;
  2. Bod y datblygiad wedi’i ddylunio a'i leoli i atal llygredd golau i'r amgylchedd cyfagos;
  3. Nid yw’n effeithio’n andwyol ar fioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol na chymeriad gweledol a thirwedd;
  4. Nid yw’n effeithio’n andwyol ar amwynder preswyl a defnyddiau tir cyfagos;
  5. Mae’n ynni-effeithlon ac yn defnyddio technolegau priodol i sicrhau y defnyddir goleuadau pan fo angen yn unig;
  6. Yn osgoi unrhyw effeithiau goleuadau cronnus neu mewn cyfuniad â datblygiadau eraill, boed yn rhai presennol neu arfaethedig; ac
  7. Mae’n is na 2,700 Kelvins (golau cynnes) ac eithrio lle gellir dangos bod angen gweithredol am sgôr uwch.

Efallai y bydd yn ofynnol i ddatblygiadau mawr, lle cynigir goleuadau allanol helaeth, gyflwyno cynllun goleuadau sy'n dilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru fel y nodir yng Nghanllawiau Arfer Da: Cynllunio ar gyfer Cadwraeth a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru (2025). Mae'n annhebygol y bydd angen cynllun goleuadau ar ddatblygiadau ar raddfa fach, ond dylent ddilyn egwyddorion goleuadau arfer da sylfaenol y canllawiau.

6.436Gall goleuadau allanol fod yn elfen bwysig o ddatblygiadau modern a darparu manteision pwysig fel gwell diogelwch y cyhoedd a mwy o ddiogeledd. Gall goleuadau priodol ymestyn ac annog y defnydd o fannau cyhoeddus a hamdden, a gall wella apêl esthetig datblygiad.

6.437Fodd bynnag, gall goleuadau allanol heb eu rheoli ac wedi'u cynllunio'n wael achosi gwrid awyr, tanbeidrwydd, a llygredd golau goramlwg a all gael effeithiau andwyol difrifol ar ecosystemau a thirweddau, ac ar iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl. Gall llygredd golau erydu cymeriad gwledig, amharu ar amwynder preswyl, effeithio'n andwyol ar fioamrywiaeth a gwastraffu ynni.

6.438Mae Bro Morgannwg yn cydnabod pwysigrwydd cadw tywyllwch naturiol awyr y nos, am ei werth cynhenid ac am ei fanteision amgylcheddol, ecolegol a diwylliannol. Er nad yw Bro Morgannwg yn gartref i warchodfa awyr dywyll ddynodedig, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i leihau llygredd golau a diogelu ansawdd awyr y nos ar draws y sir, yn enwedig yng nghefn gwlad.

6.439Mae Polisi DNP7 yn ceisio dal y fantol rhwng effeithiau andwyol goleuadau ar yr amgylchedd, amwynder a bywyd gwyllt, â'r angen i ddarparu diogelwch a galluogi chwaraeon a hamdden yn ystod y nos. Yn unol â 'Chanllawiau Arfer Da: Cynllunio ar gyfer Cadwraeth a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru' Llywodraeth Cymru, bydd y polisi yn sicrhau bod goleuadau sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd, yn enwedig datblygiadau newydd yng nghefn gwlad, wedi'u cynllunio a'u lleoli'n dda, ac nad ydynt yn fwy na'r lleiafswm sy'n ofynnol i wasanaethu'r datblygiad.

DNP8 – PWYSAU HAMDDEN ABER AFON HAFREN Sylw

Ni fydd cynigion datblygu a fyddai’n arwain at gynnydd mewn pwysau ymwelwyr ar nodweddion ACA, AGA, safle Ramsar, neu Dir sy’n Gysyllfiedig â Swyddogaeth yn cael eu cefnogi oni bai y gellir dangos na fydd unrhyw effaith andwyol ar gyfanrwydd y Safle Morol Ewropeaidd. Digwydd

6.440Yn unol ag argymhellion Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y CDLlA, mae Polisi DNP8 yn ceisio amddiffyn ACA/AGA/Ramsar Aber Hafren ar hyd arfordir Bro Morganwg. Mae tystiolaeth o'r ARC wedi dangos y gall amrywiaeth o weithgareddau hamdden, gan gynnwys y rhai ar y lan (cerdded, cerdded cŵn), ar y dŵr (megis sgïau jet, caiacau a byrddau padlo) a'r rhai yn yr awyr (dronau, paragleiderau ac ati) gael effaith andwyol ar nodweddion ACA/AGA/Ramsar Aber Hafren.

6.441Gallai datblygiad sydd â'r potensial i effeithio ar Dir â Chysylltedd Swyddogaethol gyfrannu at bwysau hamdden ar nodweddion Aber Hafren. Ni fydd unrhyw gynigion datblygu a fyddai'n cynyddu mynediad ymwelwyr i nodweddion cynefin sensitif yn safle ACA/AGA/Ramsar Aber Hafren yn cael eu cefnogi oni bai y gellir cadarnhau unrhyw effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle.

6.442Mae Parth Dalgylch Hamdden Craidd o 12.6km wedi'i nodi gan yr ARhC i hysbysu'r CDLlN. Mae hyn yn dangos lle gallai fod angen i ddatblygiadau newydd wneud cyfraniad ariannol i ariannu mesurau cadwraeth ACA/AGA ar y safle, fel rhan o fesurau lliniaru strategol. Mae hyn ar ffurf strategaeth lliniaru a rheoli hamdden a byddai'n cynnwys cymysgedd o fannau gwyrdd naturiol amgen addas a mesurau rheoli a monitro mynediad strategol.

6.443Rhaid i fannau gwyrdd naturiol amgen addas fod yn ystyriaeth ddylunio allweddol yn y datblygiadau o fewn 12.6km i Aber Afon Hafren gyda pholisïau dyrannu safleoedd tai yn cyfeirio at ddarpariaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y dulliau cyflawni.

6.444Mae Canllawiau Rheoliad 33 SME Aber Afon Hafren a baratowyd gan Natural England a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (2009) yn parhau i fod y canllawiau perthnasol wrth ystyried effeithiau ar gyfanrwydd yr SME.


[6] Diffinnir datblygiad mawr yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012: 10 neu fwy o anheddau; neu bydd y datblygiad yn cael ei wneud ar safle sydd ag arwynebedd o 0.5 hectar, neu lle mae arwynebedd y llawr a fydd yn cael ei greu yn 1,000 metr sgwâr neu fwy; neu, datblygiad a wneir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy.

[7] Cymru'r Dyfodol, Y Cynllun Cenedlaethol 2040, Polisi 2 – Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol, Tudalen 66

[10] Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 12, paragraff 4.2.13

[11] https://www.srs.wales/Documents/Housing/Fire-Safety-and-Amenity-Standards.pdf

[13] Asesiad Carbon Oes Gyfan RICS ar y Cwmpas Adeiladu: sut, pam a beth nesaf? | Cylchgrawn | RICS

[14] Ar gyfer ynni gwynt ar y tir nid oes trothwy uchaf (h.y. 350MW ar gyfer pob math arall o ddatblygu ynni adnewyddadwy).

[17] Dynodi Ardaloedd Tirwedd Arbennig (Ebrill 2008) RhGLlT

[18] Datblygu Meini Prawf ar gyfer Dynodi Ardal Tirwedd Arbennig ar gyfer Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru (Gorffennaf 2007)

[21] CCA Trysorau’r Sir Bro Morgannwg (Mawrth 2009)

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig