1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd
2.1Wrth ddatblygu’r CDLlN, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried unrhyw bolisïau a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a chanfyddiadau’r dystiolaeth gefndir dechnegol a ddatblygwyd i gefnogi'r cynllun. Mae elfennau allweddol o'r cyd-destun y mae'r Cynllun Adneuo wedi'i baratoi ynddo wedi'u nodi isod.
Deddfwriaeth a Pholisi Cenedlaethol Sylw
2.2Mae'r dogfennau a ystyrir yn yr adran hon yn ddogfennau cenedlaethol sy'n berthnasol ledled Cymru gyfan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf Llesiant)
2.3Mae'r Ddeddf Llesiant yn cryfhau'r fframwaith ar gyfer gwella llesiant Cymru drwy sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru o ran y saith nod llesiant:
Ffynhonnell: Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 12 (Chwefror 2024)
2.4Mae’r Ddeddf Llesiant yn nodi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ac yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, i weithredu ‘mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.’ Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd y CDLlN ac mae'n rhan sylfaenol o broses yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).
2.5Mae'r Ddeddf Llesiant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau drwy fabwysiadu 5 ffordd o weithio, sef:
- Ystyried y tymor hir.
- Helpu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu.
- Defnyddio dull gweithredu integredig.
- Defnyddio dull gweithredu cydweithredol.
- Ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth.
2.6Mae'r pum ffordd o weithio wedi bod yn ganolog i baratoi pob un o gamau'r CDLlN.
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
2.7Daeth Deddf Cynllunio (Cymru) (y Ddeddf Cynllunio) i rym ym mis Gorffennaf 2015. Mae'n nodi cyfres o newidiadau deddfwriaethol i ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei bod yn deg, yn wydn ac yn galluogi datblygiad.
2.8Mae’r Ddeddf Cynllunio yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol ar gyfer paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) a Chynlluniau Datblygu Strategol (CDSau). Cafodd Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol, y FfDC, ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2021, ac fe’i trafodir yn fanwl yn yr adran nesaf. Bwriad CDSau yw darparu fframwaith gofodol rhanbarthol ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn rhanbarth diffiniedig yn y dyfodol. Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru sy’n gyfrifol am baratoi CDS ar gyfer rhanbarth De-ddwyrain Cymru. Cytundeb Cyflwyno ar gyfer y CDS wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2025 ac mae paratoi’r cynllun wedi dechrau. Disgwylir y bydd y CDS yn cael ei fabwysiadu ddiwedd 2031/cyntaf 2032.Mae’r gwaith o baratoi'r CDLlN felly’n mynd rhagddo cyn paratoi'r CDS a bydd angen adolygiad o'r CDLlN unwaith y caiff y CDS ei fabwysiadu.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
2.9Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (Deddf yr Amgylchedd) yw gwella rheolaeth adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae'n cynnwys dyletswydd bioamrywiaeth uwch sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
2.10Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd hefyd ofyniad i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lunio Datganiadau Ardal. Mae Bro Morgannwg wedi’i gynnwys yn Natganiad Ardal Canol De Cymru, sydd hefyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
2.11Diben Datganiadau Ardal yw darparu'r fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae Datganiad Ardal Canol De Cymru wedi’i lywio gan y 5 thema ganlynol:
- Adeiladu ecosystemau gwydn
- Cysylltu pobl â natur
- Gweithio gyda dŵr
- Gwella ein hiechyd
- Gwella ansawdd ein haer
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
2.12Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) (Deddf Teithio Llesol) yw hyrwyddo cerdded a beicio fel ffordd o deithio ar gyfer teithiau byr (h.y. i gyrraedd y gwaith, ysgol neu siopau a gwasanaethau). Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, llunio mapiau teithio llesol, ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr a gwella llwybrau a chyfleusterau teithio llesol.
2.13Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig drwy ddatblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl). Mae MRhTLl Bro Morgannwg yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLlN.
Cymru Fwy Cyfartal – Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (2021)
2.14Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried sut y gall eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.
2.15Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried yr angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y gall polisïau, rhaglenni a gwasanaethau leihau anghydraddoldebau a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol. Gan fod y Ddyletswydd yn berthnasol i ddatblygu polisi strategol, mae'n berthnasol i'r CDLlN. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn dod o fewn cwmpas yr ACI a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r CDLlN a nodir canfyddiadau'r arfarniad yn nogfennau'r ACI.
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
2.16Mae Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (AEIau) mewn amgylchiadau penodol. Mae’r rheoliadau drafft yn nodi'r amgylchiadau y mae'n rhaid i gorff cyhoeddus gynnal AEI ynddynt; a'r ffordd y mae’n rhaid cynnal AEI.
2.17Diben AEI yw sicrhau bod effeithiau datblygiad ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn cael eu hystyried a'u trin yn ystod y broses gynllunio, a dylid gwneud hyn yn gynnar yn y cynllun datblygu fel bod modd nodi ac ymdrin ag unrhyw effeithiau iechyd perthnasol. Wrth baratoi'r CDLlN mae'r ACI yn ymgorffori AEI yn y fethodoleg arfarnu ac mae'n cynnwys mesurau iechyd a lles penodol.
Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (Llywodraeth Cymru, Chwefror 2021)
2.18Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yw fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru, sy'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae'n gynllun datblygu ag iddo strategaeth ar gyfer ymdrin â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau datgarboneiddio a gwydnwch yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Dyma'r haen uchaf o gynllun datblygu yng Nghymru ac mae'n canolbwyntio ar atebion i faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi lle mae angen twf a seilwaith o bwys cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio ei gyflawni ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'n darparu cyfeiriad ar gyfer CDSau a CDLlau ac yn cefnogi pennu Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.
2.19Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 11 o ganlyniadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddatganiad o ble mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i Gymru fod erbyn 2040. Dyma'r canlyniadau:
Cymru lle mae pobl yn byw…
- ac yn gweithio mewn lleoedd cysylltiedig, cynhwysol ac iach.
- mewn lleoedd gwledig llewyrchus lle y gallant gael cartrefi, gwaith a gwasanaethau.
- mewn rhanbarthau nodedig sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd-gymdeithasol drwy dwf cynaliadwy.
- mewn lleoedd lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
- ac yn gweithio mewn trefi a dinasoedd sy’n ganolbwynt ac yn sbardun i dwf cynaliadwy.
- mewn lleoedd lle y caiff ffyniant, arloesedd a diwylliant eu hyrwyddo.
- mewn lleoedd lle mae teithio yn gynaliadwy.
- mewn lleoedd â seilwaith digidol o'r radd flaenaf.
- mewn lleoedd sy'n rheoli eu hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn lleihau llygredd.
- mewn lleoedd ag ecosystemau bioamrywiol, cadarn a chysylltiedig.
- mewn lleoedd sydd wedi'u datgarboneiddio ac sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
2.20Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 18 o bolisïau cenedlaethol sy'n berthnasol ledled Cymru gyfan, a 4 polisi rhanbarthol sy'n berthnasol ledled Rhanbarth y De-ddwyrain. Er y bydd angen mynd i'r afael â'r holl bolisïau yn y CDLlN, mae gan y polisïau canlynol bwysigrwydd arbennig ar gyfer strategaeth y cynllun:
- Polisi 1 – Ble bydd Cymru yn tyfu – Mae Polisi 1 Cymru'r Dyfodol yn nodi tair Ardal Dwf Genedlaethol, gan gynnwys de-ddwyrain Cymru. Mae'r diagram strategaeth ofodol sy'n cefnogi'r polisi hwn yn nodi bod Bro Morgannwg wedi'i lleoli o fewn Ardal Dwf Genedlaethol y De-ddwyrain, y cyfeirir ato fel ‘Caerdydd, Casnewydd, a'r Cymoedd.’ Ategir Polisi 1 gan Bolisi 33, sy'n ymwneud yn benodol ag Ardaloedd Twf Cenedlaethol Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd.
- Polisi 2 – Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol – mae’r polisi hwn yn nodi'r egwyddorion creu lleoedd allweddol y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar leoliad datblygiad newydd. Mae hyn yn cynnwys creu cyfuniad o ddefnyddiau ac amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaethau, adeiladu lleoedd ar raddfa gerdded gyda chartrefi, cyfleusterau lleol, a thrafnidiaeth gyhoeddus o fewn pellter cerdded a sicrhau bod datblygiad yn cael ei adeiladu ar ddwysedd priodol gyda seilwaith gwyrdd wedi'i ymgorffori.
- Polisi 6 – Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf – mae hwn yn nodi dull canol trefi yn gyntaf o ddarparu cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaeth cyhoeddus newydd sylweddol y mae'n rhaid eu lleoli o fewn canol trefi a dinasoedd. Mae'r testun ategol ar gyfer y polisi hefyd yn dangos bod canol trefi yn lleoliadau priodol ar gyfer cartrefi newydd.
- Polisi 7 – Darparu Cartrefi Fforddiadwy – ailddatgan dyhead Llywodraeth Cymru i ddarparu lefelau sylweddol o dai fforddiadwy, gan gynnwys drwy'r system gynllunio.
- Polisi 8 – Llifogydd – cefnogi gwaith rheoli perygl llifogydd sy'n hwyluso twf economaidd a chenedlaethol cynaliadwy, gan hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur a cheisio sicrhau'r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl o seilwaith rheoli perygl llifogydd.
- Polisi 9 – Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd – mae Polisi 9 yn gofyn am weithredu tuag at ddiogelu a chreu rhwydweithiau ecolegol cadarn a hyrwyddo seilwaith gwyrdd effeithiol drwy greu lleoedd. Mae'n rhagnodi y dylid cynnwys meysydd presennol a darpar feysydd mewn Cynlluniau Datblygu i hyrwyddo a diogelu’r swyddogaethau a'r cyfleoedd y mae rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd yn eu darparu.
- Polisi 10 – Cysylltedd Rhyngwladol – mae Porth Strategol wedi’i nodi ym Maes Awyr Caerdydd i hwyluso cysylltedd rhyngwladol. Bydd angen i'r CDLl gefnogi'r Porth Strategol drwy sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'w rhanbarthau priodol a Chymru. Dylid rheoli datblygiadau newydd o amgylch y Pyrth Strategol yn ofalus i sicrhau na pheryglir na chyfyngir ar eu gweithrediad.
- Polisi 12 – Cysylltedd Rhanbarthol – yn nodi bod yn rhaid i ACLlau fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus wrth gynllunio ar gyfer twf ac adfywio. Rhaid i awdurdodau cynllunio integreiddio dyraniadau safleoedd, datblygiadau newydd, a seilwaith â rhwydweithiau teithio llesol a, lle bo hynny'n briodol, sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at eu hehangu a'u gwella. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella a chynyddu trafnidiaeth gynaliadwy yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau yn yr ardal dwf genedlaethol gynllunio ar gyfer twf i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
- Polisi 15 – Fforest Genedlaethol – Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fforest genedlaethol drwy nodi safleoedd a mecanweithiau priodol, gyda tharged i gynyddu gorchudd coetir ledled Cymru o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Bydd y fforest genedlaethol yn cynnwys tair elfen:
- Amgylchedd o ansawdd sy'n cynnwys ecosystemau cysylltiedig, bioamrywiaeth a chynefinoedd, adfer coetir nas rheolwyd yn ddigonol a choetir hynafol;
- Coetir cynhyrchiol;
- Coetir cymunedol.
- Polisi 16 – Rhwydweithiau Gwresogi – yn nodi tref y Barri’n benodol fel lleoliad ar gyfer ystyried rhwydwaith gwres ardal.
- Polisi 33 – Ardal Dwf Genedlaethol – Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd – Mae'r diagram gofodol rhanbarthol ar gyfer De-ddwyrain Cymru (Ffigur 2 isod) yn amlygu bod Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd, gan gynnwys Bro Morgannwg, yn rhan o ardal dwf genedlaethol. Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol gydnabod yr Ardal Dwf Genedlaethol fel canolbwynt ar gyfer twf economaidd a thai strategol; gwasanaethau a chyfleusterau; gweithgynhyrchu uwch; trafnidiaeth a seilwaith digidol. Er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau a'r dyheadau rhanbarthol hyn, mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod nad yw’r 10 awdurdod lleol yn y rhanbarth yn bodoli ar wahân i'w gilydd ac wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, y bydd angen i awdurdodau cynllunio “ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a'r rhanbarth ehangach… [gan] sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn llewyrchus, ffyniannus ac yn gysylltiedig.” Ar gyfer CDLlN Bro Morgannwg bydd hyn yn gofyn i'r cynllun ystyried sut mae'r dyheadau o ran tai a thwf economaidd yn cyd-fynd ac yn ategu dyheadau rhanbarthol ehangach, yn enwedig rhai Caerdydd gyfagos.
Ffynhonnell: Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040
2.21Polisi 36 – Metro’r De-ddwyrain – yn darparu sail polisi rhanbarthol ar gyfer datblygu'r Metro ac ar gyfer datblygiadau sy'n canolbwyntio ar y Metro. Dylai awdurdodau cynllunio gynllunio ar gyfer twf ac adfywio er mwyn achub ar y cyfleoedd sy'n deillio o well cysylltedd rhanbarthol, gan gynnwys nodi cyfleoedd am ddatblygiadau dwysedd uwch, defnydd cymysg a di-gar o amgylch gorsafoedd metro newydd a gwell.
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (2019)
2.22Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru(CMCC) yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnydd cynaliadwy o'r moroedd. Mae’r cynllun yn cynnwys cynlluniau a pholisïau a fydd yn cefnogi'r weledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel ac amrywiol, yn arwain datblygu cynaliadwy yn y dyfodol ac yn cefnogi twf gofod morol ac adnoddau naturiol (‘twf glas’).
2.23Mae'r Cynllun yn nodi polisïau o dan y categorïau canlynol:
- Sicrhau economi forol gynaliadwy (twf economaidd cynaliadwy, cydfodolaeth).
- Sicrhau cymdeithas gref, iach a chyfiawn (gan gynnwys mynediad i'r amgylchedd morol, llesiant cymunedau’r arfordir, tirweddau a morweddau, llifogydd arfordirol a newid yn yr hinsawdd).
- Byw o fewn terfynau amgylcheddol (ecosystemau morol cydnerth, ansawdd aer a dŵr).
- Hyrwyddo llywodraethu da (effeithiau cronnol, cysondeb ar draws ffiniau ac ar draws cynlluniau).
- Defnyddio gwyddoniaeth gadarn mewn ffordd gyfrifol.
2.24Mae polisïau ategol penodol i sectorau y CMCC yn gweithredu ochr yn ochr â'r polisïau cyffredinol ac yn gosod polisi ar gyfer datblygu a defnyddio ardal y cynllun morol yn y dyfodol gan rai sectorau. Mae hyn yn cynnwys defnyddiau megis agregau ar y glannau ac ar y môr, dyframaeth, carthu, ynni adnewyddadwy morol, porthladdoedd a morgludo, a thwristiaeth a hamdden.
Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 12 (2024)
2.25Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (Rhifyn 12) yn nodi'r polisïau cynllunio defnydd tir a nodau datblygu cynaliadwy trosfwaol i Gymru, wedi'u diwygio i gyfrannu tuag at nodau llesiant statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae PCC yn nodi rhagdybiaeth o blaid datblygu cynaliadwy ac yn ystyried mai dull a arweinir gan Gynllun yw'r dull mwyaf effeithiol o sicrhau datblygu cynaliadwy drwy'r system gynllunio.
2.26Mae gan PCC bwyslais cryf ar hyrwyddo creu lleoedd, sy'n cael ei ystyried yn allweddol i gyflawni lleoedd cynaliadwy, darparu datblygiad cymdeithasol gynhwysol a hyrwyddo cymunedau mwy cydlynol. Ystyrir bod creu lleoedd yn ddull cyfannol sy’n ‘ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a’r berthynas rhwng safle’r datblygiad a’i gyffiniau ehangach.’
2.27Ar lefel strategol mae pedair thema sy'n cyfrannu'n unigol at greu lleoedd:
- Dewisiadau Strategol a Gofodol;
- Lleoedd Actif a Chymdeithasol;
- Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus;
- Lleoedd Unigryw a Naturiol
2.28Mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu “gynnwys strategaeth ofodol fydd yn para oes y cynllun gan lunio patrwm datblygu sy’n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol,” a “hyrwyddo cydbwysedd cyffredinol rhwng tai, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau a chyfleoedd gwaith.”
Nodiadau Cyngor Technegol (NCTau), Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (NCTMau) Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi
2.29Bydd y CDLlN yn ystyried y gofynion fel y nodir yn y gyfres o NCTau, NCTMau, Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi, sy'n ymhelaethu ar ystod o faterion polisi cynllunio.
Adeiladu Lleoedd Gwell – Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair: Creu Lleoedd a’r adferiad Covid-19 (LlC, Gorffennaf 2020)
2.30Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn nodi blaenoriaethau polisi cynllunio Llywodraeth Cymru i helpu gyda’r cyfnod o adfer yn dilyn argyfwng y pandemig Covid-19. Mae'n cydnabod y dylai'r system gynllunio fod yn ganolog wrth ystyried materion yr amgylchedd adeiledig a naturiol sydd wedi deillio o'r pandemig. Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y polisïau a'r offer cynllunio presennol allweddol y dylai pob sector eu defnyddio yn adferiad amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Dylai CDLlau fynd ati’n weithredol i gefnogi’r agenda creu lleoedd a nodir yn PCC, gan nodi ei gymeriad, ei gryfderau a'i feysydd y mae angen eu gwella a nodi polisïau ar sut y bydd y meysydd hyn yn cael eu gwella.
2.31Mae'r ddogfen yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leoedd gwell, creu lleoedd, canlyniadau o ansawdd a dylunio da ac yn nodi meysydd polisi y dylid canolbwyntio arnynt wrth ystyried a gweithredu, i weithredu fel catalydd ar gyfer adferiad. Mae'n nodi materion allweddol sy'n dod â meysydd polisi unigol ynghyd i sicrhau y gweithredir yn y modd mwyaf effeithiol. Mae’r CDLlN yn offeryn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn a bydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad ar ôl Covid ym Mro Morgannwg wrth hefyd gyfrannu at wytnwch cymunedau yn y dyfodol.
2.32Yr 8 mater yw:
- Cadw’n lleol: creu cymdogaethau.
- Teithio llesol: ymarfer corff a dulliau teithio a ailddarganfyddir.
- Adfywio canol ein trefi.
- Lleoedd digidol: rhaff achub yn ystod y cyfnod clo.
- Newid arferion gwaith: ein hangen am dir cyflogaeth yn y dyfodol.
- Ailddeffro sector twristiaeth a sector diwylliannol Cymru.
- Seilwaith gwyrdd, iechyd a lles a chydnerthedd ecolegol.
- Gwella ansawdd aer a seinweddau er mwyn sicrhau iechyd a lles gwell.
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021)
2.33Mae Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi tair blaenoriaeth ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
- Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio.
- Galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth sy’n hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon.
- Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.
2.34Mae'r Strategaeth yn nodi hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy i lywio penderfyniadau am seilwaith newydd:
Ffynhonnell: Llwybr Newydd
Datganiadau Argyfwng Hinsawdd a Natur Llywodraeth Cymru
2.35Mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol o effeithiau newid hinsawdd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘argyfwng hinsawdd’ ym mis Ebrill 2019. Gwnaed y cyhoeddiad i dynnu sylw at faint ac arwyddocâd y dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno'n barhaus gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd. Gwnaed y datganiad i anfon arwydd clir na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd dynnu oddi wrth her newid yn yr hinsawdd.
2.36Gwnaed datganiad pellach ym mis Mehefin 2021, wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng natur i sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Pwrpas hyn oedd gosod targedau ar gyfer cyfyngu ar golli bioamrywiaeth, yn debyg i'r rhai sy'n bodoli ar gyfer allyriadau carbon.
2.37Pwysleisiwyd hyn ar lefel ryngwladol, wrth i bron i 200 o wledydd ledled y byd ddod i gytundeb yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) i gyrraedd targed o ‘30 x 30’ – targed uchelgeisiol i warchod 30% o dir a 30% o gefnfor y byd erbyn 2030.
Y Cyd-destun Rhanbarthol Sylw
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
2.38Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yn cynnwys deg awdurdod lleol ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Bro Morgannwg, sy'n gweithio ar y cyd ar brosiectau a chynlluniau sydd â’r nod o adeiladu ar gryfderau sectoraidd y rhanbarth. Mae’r cryfderau hyn yn cynnwys sylfaen sgiliau uchel a thair prifysgol lwyddiannus y rhanbarth, a phrosiectau a fydd yn ceisio cyflymu twf economaidd a chynhyrchiant drwy gyfres o fuddsoddiadau a dargedir mewn sgiliau, seilwaith, prosiectau a arweinir gan arloesedd y gellir eu tyfu ar raddfa, ac mewn sectorau diwydiant a busnesau â blaenoriaeth. Bydd Bargen Ddinesig P-RC yn helpu i roi hwb i dwf economaidd drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, gwella sgiliau, helpu pobl i gael swyddi a rhoi cymorth i fusnesau y mae ei angen arnynt i dyfu. Mae P-RC wedi ariannu sawl buddsoddiad mawr yn y rhanbarth, gan gynnwys prynu hen Orsaf Bŵer Aberddawan yn ddiweddar i hwyluso ei dymchwel, ei hadfer a'i hailddatblygu fel Parc Ynni Gwyrdd.
Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol 2023-2028 P-RC
2.39Mae Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yn ceisio meithrin economi ranbarthol sy'n fwy, yn decach ac yn wyrddach, gan gynhyrchu twf da a chreu amodau ar gyfer ffyniant cyffredin ar draws y deg awdurdod lleol yn y rhanbarth. Mae'r Cynllun yn nodi nifer o heriau ond yn ceisio cyflawni'r uchelgais o fod yn “Brifddinas-Ranbarth Caerdydd falch lle mae pawb wedi’i gysylltu’n lleol ac yn fyd-eang, yn mwynhau cyfleoedd gwaith, busnes a bywyd sydd yn ein gwneud yn lle i wireddu potensial.”
2.40Mae'r Cynllun yn nodi tri maes ffocws – Bod yn Fwy Cystadleuol, Bod yn Fwy Cysylltiedig a Bod yn Fwy Cadarn. Fel rhan o'r thema Bod yn Fwy Cystadleuol, cyfeirir yn benodol at dyfu'r economi werdd drwy fentrau arloesi sy'n canolbwyntio ar dechnolegau gwyrdd a sgiliau'r dyfodol, gan gyfeirio'n benodol at ddatblygu Parc Ynni Gwyrdd yn Aberddawan. Bydd y CDLlN yn chwarae rhan wrth hwyluso tir a datblygu polisïau priodol a fyddai'n cefnogi'r amcanion a'r prosiectau yn y Cynllun.
Metro De Cymru
2.41Roedd Metro De Cymru yn rhan o Fargen Ddinesig wreiddiol P-RC, gyda dros hanner cyfanswm cyllid y Fargen Ddinesig yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygiad y Metro. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru (TC), yn gweithredu’r gwasanaethau rheilffyrdd metro yn y rhanbarth, tra bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am wasanaethau bysiau a theithio llesol. Mae'r Metro yn brosiect uchelgeisiol gyda'r nod o ddarparu rhwydwaith integredig o deithio llesol, bysiau a rheilffyrdd a fydd yn gwella hygyrchedd ac yn gwneud trafnidiaeth gynaliadwy ledled y rhanbarth ac ar ei draws yn haws ac yn gyflymach.
2.42Ar ben hynny, mae cyllid Metro+ ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n cefnogi gweithredu Metro De Cymru hefyd, ac mae’r Fro wedi elwa ar gyllid ar gyfer datblygu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn Nociau'r Barri.
2.43Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r gofyniad i CDLlau gynllunio ar gyfer twf a fydd yn manteisio i'r eithaf ar fuddion cyllid y Metro.
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (Drafft 2025)
2.44Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) Drafft Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), a elwir hefyd yn "Trafnidiaeth ar gyfer P-RC", yn weledigaeth hirdymor ar gyfer datblygu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, cynaliadwy a chynhwysol ar draws De-ddwyrain Cymru. Nod y CTRh yw llywio buddsoddiad a pholisi trafnidiaeth rhwng 2025 a 2030 a thu hwnt.
2.45Nodau craidd y CTRh yw adeiladu Rhanbarth Cystadleuol, Cysylltiedig a Gwydn trwy sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, fforddiadwy a charbon isel sydd yn:
- Gwella ansawdd bywyd: Mae hyn yn cynnwys gwella mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd, a gweithgareddau hamdden ym mhob cymuned.
- Meithrin ffyniant ar y cyd: Trwy gysylltu busnesau, ysgogi twf economaidd, a chreu cyfleoedd gwaith ar draws y rhanbarth.
- Cefnogi rhanbarth carbon niwtral: Blaenoriaethu cerdded, beicio ac “olwyno” ar gyfer teithiau byrrach, a chyflymu’r gwaith o ddatgarboneiddio'r fflyd o gerbydau.
- Gwella hygyrchedd i bawb: Sicrhau mynediad teg at drafnidiaeth waeth beth fo'r amgylchiadau, gan gynnwys i'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig.
- Lleihau allyriadau: Gosod targed i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, llygredd aer a sŵn o drafnidiaeth ffyrdd 60% erbyn 2035.
- Gwneud y mwyaf o seilwaith digidol a ffisegol: Gwneud defnydd gwell o'r seilwaith trafnidiaeth presennol ac integreiddio datrysiadau digidol.
- Hyrwyddo newid ymddygiad: Cynyddu dealltwriaeth o opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac annog pobl i beidio defnyddio ceir os mai’r gyrrwr yn unig sy’n teithio.
- Gwella diogelwch: Lleihau damweiniau traffig ar y ffyrdd a gwella diogelwch canfyddedig wrth deithio.
- Cryfhau cysylltiadau: Cysylltu cymunedau a gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn Ne-ddwyrain Cymru, gweddill y DU, a thu hwnt.
2.46Mae'r CTRh yn cyd-fynd â strategaeth ‘Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021’ Llywodraeth Cymru ac yn symud i ffwrdd o gynlluniau trafnidiaeth lleol unigol tuag at ddull rhanbarthol mwy integredig, gyda'r Cydbwyllgorau Corfforaethol yn cymryd yr awenau. Er bod y cynllun yn cwmpasu rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd strategol, mae'n canolbwyntio ar gynlluniau i'w darparu gan awdurdodau lleol.
2.47Cydnabyddir bod Bro Morgannwg yn wynebu amrywiaeth o heriau o ran trafnidiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys poblogaeth sy'n heneiddio sy'n rhoi mwy o bwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwahaniaethau rhwng cymunedau arfordirol ac ardaloedd mewndirol o ran mynediad at drafnidiaeth, opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus mwy cyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, a thagfeydd yn ystod oriau brig ar hyd prif lwybrau. Mae'r CTRh Drafft yn tynnu sylw at y ffaith bod y nifer fwyaf o deithiau dyddiol ar y ffyrdd yn mynd o Fro Morgannwg i Gaerdydd, gyda hyd at 7,358 o gerbydau wedi’u cofnodi yn y boreau yn ystod yr wythnos, a 5,385 o gerbydau’n teithio o Gaerdydd i Fro Morgannwg.
2.48Bydd cynigion trafnidiaeth Bro Morgannwg yn y dyfodol yn cael eu llywio gan amcanion y CTRh Drafft. Mae llawer o amcanion yn berthnasol ar draws y rhanbarth, ond mae amcanion penodol a gweithgareddau strategol lle cyfeirir at Fro Morgannwg yn benodol yn cynnwys:
- Cefnogi uchelgais y Rhanbarth i ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd i adeiladu ar raglenni arfaethedig presennol, fel Cledrau Croesi Caerdydd, er mwyn parhau i ddatblygu opsiynau sy'n cynnwys cynyddu amlder trenau ar Linell y Ddinas ac ehangu i Gogan a thu hwnt.
- Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer seilwaith rheilffyrdd ychwanegol a gwasanaethau cludo nwyddau a theithwyr yn Aberddawan / Sain Tathan er mwyn sicrhau’r cysylltedd mwyaf posibl rhwng rhwydweithiau ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a morol.
- Darparu rhwydwaith trafnidiaeth carbon is, hygyrch, integredig a dibynadwy i staff a theithwyr gael teithio i'r maes awyr, sydd hefyd yn hwyluso mynediad cynaliadwy i Barc Busnes Bro Tathan cyfagos.
- Manteisio i’r eithaf ar rôl trafnidiaeth y maes awyr fel cyfnewidfa drafnidiaeth genedlaethol a rhyngwladol a phorth i Gymru ar gyfer teithwyr busnes a hamdden.
- Gweithio gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain, cynghorau Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg a gweithredwyr bysiau lleol i wella mynediad at borthladdoedd y Rhanbarth, er mwyn helpu i gynnal eu statws fel safleoedd cyflogaeth strategol.
2.49Mae'r CTRh wedi’i ategu gan Gynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CCTRh), sy'n nodi cynlluniau ac ymyriadau y mae awdurdodau lleol yn bwriadu eu datblygu i gyflawni gweledigaeth ac amcanion y CTRh a blaenoriaethau’r strategaeth Llwybr Newydd. Yn y CCTRh Drafft ceir cyfeiriad penodol at gynigion teithio llesol rhwng y Barri a Chosmeston, y Barri a Dinas Powys a'r Barri a Maes Awyr Caerdydd, yn ogystal â chyfleoedd yng ngorsaf Cogan.
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau (2020) Ail Adolygiad
2.50Lluniwyd y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh) gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (GARhD). Cyhoeddwyd yr ail adolygiad (y cyfeirir ato fel DTRh2), yn 2020. Mae NCT Mwynau 1 (paragraff 1.45 yn cyfeirio) yn gosod amcan trosfwaol, sy'n ceisio sicrhau cyflenwad o agregau a reolir yn gynaliadwy sy'n hanfodol ar gyfer adeiladu drwy daro'r cydbwysedd rhwng costau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae'r DTRh wedi'i lunio i helpu i lywio Awdurdodau Lleol unigol yn Ne Cymru ar sut i weithredu'r polisïau cynllunio mwynau hyn wrth lunio eu polisïau a'u dyraniadau CDLl unigol.
Cyd-gynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro ar gyfer 2023-2028
2.51Mae’r Cyd-gynllun Ardal yn ddogfen allweddol a baratowyd ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, tai, y trydydd sector a'r sector annibynnol, a gofalwyr. Mae'n eistedd ochr yn ochr â'r Cynlluniau Lles o'r ardaloedd priodol i ddarparu dull system gyfan o wella iechyd a lles poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'n nodi blaenoriaethau ynghylch tri cham bywyd:
- Dechrau’n Dda: rhoi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd.
- Byw’n Dda: cefnogi pobl i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
- Heneiddio'n Dda: galluogi pobl i aros yn annibynnol wrth iddynt dyfu'n hŷn.
Cydweithredu Rhanbarthol
2.52Nid yw Bro Morgannwg yn bodoli ar wahân i awdurdodau lleol eraill ac mae'n rhyngweithio ag awdurdodau lleol cyfagos yn rhanbarthol ar faterion strategol gan gynnwys paratoi’r CDLl. Mae Bro Morgannwg yn aelod o Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru (GCSDDdC) sy'n cynnwys 10 awdurdod lleol P-RC i ystyried materion polisi a effeithiodd ar y rhanbarth.
2.53Hyd yma mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cydweithio ag awdurdodau eraill mewn cysylltiad â cyd-ddatblygu tystiolaeth ar gyfer CDLlN a bydd yn parhau i gydweithio ar nifer o brosiectau parhaus. Mae'r prosiectau gorffenedig a pharhaus yn cynnwys:
- Cytuno ar fethodoleg gyffredin ar gyfer Arfarniadau Aneddiadau Cynaliadwy.
- Caffael system cronfa ddata ymgynghori ar gyfer y CDLl (Caerffili, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf).
- Methodoleg Arolwg Tir Cyflogaeth.
- Asesiad Strategol Rhanbarthol o Ganlyniadau Llifogydd.
- Datblygu model hyfywedd datblygu ar gyfer asesiadau hyfywedd safle-benodol a lefel uchel (10 awdurdod P-RC ac awdurdodau lleol yn Rhanbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru).
- Methodoleg Ranbarthol i Nodi Lleiniau Glas a Lletemau Glas.
- Methodoleg gyffredin ar gyfer pennu gwerthoedd trosglwyddo tai fforddiadwy.
- Asesiad Trafnidiaeth Strategol gan ddefnyddio Model Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru.
2.54Bydd cydweithio a chysylltu â'r awdurdodau lleol eraill yn rhanbarthol yn parhau wrth i'r CDLlN fynd yn ei flaen gan gynnwys cyd-gomisiynu neu gydweithredu lle bo hynny'n briodol.
Cynlluniau Datblygu Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol Cyfagos
2.55Yr awdurdodau lleol sy’n ffinio â Bro Morgannwg yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r gorllewin, Cyngor Caerdydd i’r dwyrain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) i’r gogledd.
2.56Fel y nodwyd yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac yr eglurir mewn polisi cynllunio cenedlaethol, rhaid i CDLl fod yn gadarn. Rhan o'r broses o bennu a yw’r cynllun yn gadarn yw ei ystyried yn erbyn profion cadernid. Mae prawf o gadernid 1 - ‘Ydy'r cynllun yn ffitio?’ - yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddangos ei fod yn gyson â chynlluniau awdurdodau cyfagos.
2.57Mabwysiadwyd CDLlN Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2024. Mae'r Fro a Phen-y-bont ar Ogwr wedi cydweithio’n agos ar faterion trawsffiniol drwy gydol y broses o baratoi CDLlN Pen-y-bont ar Ogwr, gan arwain at gytuno ar ‘Ddatganiad o Dir Cyffredin’ sy’n nodi na chododd y Fro unrhyw bryderon na gwrthwynebiadau drwy'r broses ymgynghori ffurfiol ynghylch y CDLlN a'i sylfaen dystiolaeth ategol.
2.58Mae gan Fro Morgannwg a Chaerdydd gyfagos amserlenni tebyg ar gyfer paratoi eu CDLlNau, felly mae swyddogion cynllunio o'r ddau awdurdod yn cynnal cyfarfodydd anffurfiol rheolaidd i drafod cynlluniau newydd y ddau awdurdod, yn enwedig mewn perthynas â materion trawsffiniol fel tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth. Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ei CDLlN Adneuo i ymgynghori arno ym mis Chwefror 2025. Paratowyd datganiad sefyllfa ar y cyd ar y berthynas rhwng CDLlNau Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n esbonio'r berthynas rhwng y ddau awdurdod cyfagos a sut yr ystyrir bod y ddau gynllun yn ategu ei gilydd yn hytrach na chystadlu â’i gilydd. Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda RhCT, a gyhoeddodd eu Strategaeth a Ffefrir ym mis Chwefror 2024, ac mae'r Cyngor yn parhau i ymgysylltu â'i gymdogion ar unrhyw faterion trawsffiniol sy'n deillio o'r cynlluniau datblygu hyn.
2.59Yn ogystal, paratowyd asesiad rhanbarthol o dwf ac ymfudo yn y dyfodol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n asesu'r twf arfaethedig o ran poblogaeth a swyddi yn y CDLlNau perthnasol ledled De-ddwyrain Cymru. Ystyriodd hyn y twf arfaethedig o ran poblogaeth a swyddi ar draws y rhanbarth o safbwynt rhifiadol a gofodol, a sut roedd hyn yn cyd-fynd â Chymru'r Dyfodol. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod y twf yn nifer y swyddi lefel uwch a ragwelwyd a'r twf cronnol yn nifer y swyddi a gynigiwyd yn y cynlluniau datblygu yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae Papur Cefndir wedi'i baratoi i nodi'r Cydweithrediad Rhanbarthol sydd wedi llywio gwaith paratoi'r cynllun.
Cyd-destun Polisi Lleol Sylw
2.60Mae'r adran ganlynol yn nodi dogfennau allweddol y Cyngor sydd wedi llywio datblygiad y CDLlN Adneuo. Yn ogystal, bydd tystiolaeth allweddol a baratowyd gan y Cyngor megis yr hyn sy'n ymwneud â’r angen am dai hefyd yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu polisïau a chyfeirir at y sylfaen dystiolaeth hon yn y CDLlN.
Yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur a Ddatganwyd
2.61Ym mis Gorffennaf 2019, ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ byd-eang. Ymrwymodd y Cyngor i:
- Leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net cyn targed Llywodraeth Cymru o 2030 a chefnogi'r gwaith o weithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru.
- Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru a’r DU, fel y bo’n briodol, i ddarparu’r pwerau, yr adnoddau a’r cymorth technegol mae eu hangen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i’w helpu i gyflawni targed 2030 yn llwyddiannus.
- Parhau i gydweithio â phartneriaid ar draws y rhanbarth.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu strategaeth yn unol â’r targed o allyriadau sero net erbyn 2030 ac edrych ar ffyrdd o sicrhau’r buddion lleol gorau posibl o ganlyniad i’r camau hyn mewn sectorau eraill megis cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.
2.62Wedi'i gysylltu â datganiad yr argyfwng hinsawdd, ym mis Gorffennaf 2021 cyhoeddodd Cyngor Bro Morgannwg ‘argyfwng natur’ ac ymrwymodd i darged o ddim colled net o ran bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i barhau i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all ddiogelu bioamrywiaeth Cymru.
Cynllun Llesiant Bro Morgannwg 2023-28
2.63Fel rhan o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'r Cyngor, ynghyd â phartneriaid sector cyhoeddus fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg, wedi paratoi ei ail Gynllun Llesiant ar gyfer y Fro. Wedi’i lywio gan Asesiad Lles, mae'r Cynllun Llesiant yn cwmpasu'r 7 nod llesiant ac yn darparu fframwaith i bob corff sector cyhoeddus gyflawni'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy drwy fabwysiadu'r 5 ffordd o weithio.
2.64Mae'r Cynllun Llesiant newydd yn nodi tri Amcan Llesiant newydd a'r meysydd blaenoriaeth y bydd y BGC yn canolbwyntio arnynt, ac mae’r amcanion yn adlewyrchu'r materion allweddol a'r heriau allweddol a nodwyd yn Asesiad Lles Bro Morgannwg:
- Bro fwy gwydn a gwyrdd – drwy ddeall a gwneud y newidiadau sy'n angenrheidiol fel unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
- Bro fwy actif ac iach – drwy annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy actif a hyrwyddo manteision cofleidio ffordd o fyw iachach.
- Bro decach a mwy cysylltiedig – drwy fynd i'r afael â'r annhegwch sy'n bodoli ledled y Fro, ymgysylltu â'n cymunedau a darparu gwell cyfleoedd a chefnogaeth i wneud gwahaniaeth parhaol.
2.65Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae'r Cynllun Lles wedi nodi 3 ffrwd waith â blaenoriaeth lle canolbwyntir ar gydweithio:
- Ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur – Mae'r Asesiad Lles yn nodi rhai o'r materion allweddol i'r Fro o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae partneriaid yn cydnabod mai'r ffordd orau o gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar draws ein sefydliadau a'n cymunedau yw trwy gydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried trafnidiaeth, ynni, bwyd, bioamrywiaeth a sut rydym yn defnyddio ein hadeiladau a'n tir.
- Gweithio gyda'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau sy'n profi'r lefelau amddifadedd uchaf – Mae'r Asesiad Lles wedi amlygu'r gwahaniaethau ar draws y Fro a sut mae'r anghydraddoldebau hyn wedi’u gwaethygu yn sgil pandemig Covid-19. Bydd y Cynllun Lles yn canolbwyntio'n benodol ar yr ardaloedd hynny ym Mro Morgannwg y nodwyd eu bod yn fwy difreintiedig gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y cymunedau hyn.
- Bod yn Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn – Rhagwelir y bydd cyfran poblogaeth y Fro rhwng 65-84 oed yn cynyddu. Bydd y Cynllun Llesiant yn ceisio sicrhau bod y Fro yn well i bobl hŷn ac yn lle gwell i bobl heneiddio, gan ei gwneud yn lle mwy cyfeillgar i bawb a chydnabod cyfraniad pobl hŷn.
Cynllun Corfforaethol Bro Morgannwg 2025-2030 (Bro 2030)
2.66Cynllun Corfforaethol Bro Morgannwg yw dogfen strategol allweddol y Cyngor ac mae'n nodi'r fframwaith ar gyfer y gwahanol weithgareddau y mae'r Cyngor yn ymgymryd â nhw. Mae'n ceisio cyflawni ystod eang o ganlyniadau a fesurir yn erbyn 4 amcan lles y cynllun:
- Creu lleoedd gwych i fyw, gweithio ac ymweld.
- Parchu a dathlu’r amgylchedd.
- Rhoi dechrau da mewn bywyd i bawb.
- Cefnogi ac amddiffyn y rhai sydd ein hangen.
2.67Ar gyfer pob amcan, mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cydweithio â'r gymuned a phartneriaid i gyflawni'r amcanion dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cyfeirio’n benodol at ‘ddarparu Cynllun Datblygu Lleol Newydd sy'n cydbwyso'r angen am dwf cynaliadwy, yr argyfyngau natur a'r hinsawdd, ac anghenion cymdeithasol a diwylliannol Bro Morgannwg.’
2.68Ar ben hynny, mae nifer o gamau gweithredu penodol eraill sy'n berthnasol i gynllunio defnydd tir a'r CDLlN wedi’u nodi yn y Cynllun Corfforaethol a fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion lles, yn fwyaf nodedig:
- Cymhwyso egwyddorion creu lleoedd ar draws ein holl weithgareddau gan sicrhau pwyslais cryf ar anghenion lleol a llais y gymuned.
- Cyflwyno rhaglen o fuddsoddiad mawr i sicrhau adfywiad hirdymor y Barri gyda ffocws cryf ar weithio mewn partneriaeth a chreu lleoedd.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu safle Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Gorsaf Bŵer Aberddaw gynt) ac Ardal Fenter Bro Tathan a Maes Awyr Caerdydd fel ardaloedd twf economaidd allweddol ar gyfer Bro Morgannwg a'r rhanbarth ehangach.
- Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da y gall pobl fanteisio arno.
- Sicrhau bod ffyrdd fforddiadwy a hygyrch i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, chwarae, chwaraeon, diwylliannol a threftadaeth.
- Creu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a ffynnu yn y Fro.
- Cyflawni ein rhaglen Prosiect Sero i leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net a chymryd camau i gyflawni sero net ledled Cymru erbyn 2050.
- Datblygu a gweithredu polisïau cynllunio newydd i gefnogi cyflawni targed 2050 a lleihau allyriadau sy'n gysylltiedig â datblygiadau a thai newydd.
- Cefnogi newid o ran sut mae pobl yn teithio drwy gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a hyrwyddo'r angen am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, amserol ac o ansawdd.
- Annog y defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn drwy osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled y Fro ac adolygu fflyd cerbydau'r Cyngor.
- Cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflawni’r Strategaeth Gwastraff Cenedlaethol, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, a gweithio i gadw mwy o'n gwastraff yn lleol a chyfyngu’r hyn sy'n mynd i mewn i'r system drwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy.
- Gwella ein seilwaith gwyrdd, cynyddu bioamrywiaeth, gwella sut rydym yn cysylltu â natur a'n gwerthfawrogiad a'n parch at y byd naturiol.
- Diogelu ein cymunedau, ein tir a'n hadeiladau rhag effaith llifogydd ac erydu arfordirol.
Crynodeb o Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bro Oed-Gyfeillgar 2025-2028
2.69Mae Bro Morgannwg wedi derbyn statws ‘Oed-gyfeillgar’ gan Sefydliad Iechyd y Byd, gan gydnabod yr ymrwymiad lleol, y cynnydd a wnaed hyd yma, a'r bwriad i barhau i gefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda ym Mro Morgannwg. Er mwyn adeiladu ar gynnydd y Fro wrth weithio i fod yn gymuned sy'n dda i bobl hŷn, paratowyd Strategaeth a Chynllun Gweithredu sy'n nodi siarter o ymrwymiadau, y gall y system cynllunio defnydd tir a'r CDLlN gyfrannu at gyflawni llawer ohonynt. Dyma’r dyheadau a nodwyd yn y Strategaeth:
- Mae gan bobl ymdeimlad o bwrpas, maent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau.
- Mae pobl yn wybodus am y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt trwy fathau gwahanol o gyfathrebu.
- Mae gan bobl fynediad i fathau addas o drafnidiaeth ar draws y Fro.
- Mae gan bobl gyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywyd.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i gael mynediad i gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli a’u cadw.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i gadw'n iach ac yn annibynnol trwy gael mynediad i wasanaethau priodol
- Mae gan bobl fynediad i fannau awyr agored ac adeiladau â chyfleusterau addas.
- Mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi.
Prosiect Sero – Cynllun Her Newid Hinsawdd Cyngor Bro Morgannwg 2021-2030
2.70Ym mis Chwefror 2020 llofnododd y Cyngor Siarter Argyfwng Hinsawdd gyda BGC y Fro ac mae hwn yn nodi ymrwymiad cyffredin y BGC i arwain drwy esiampl, cymryd camau cadarnhaol a lleihau ei effaith ar y newid yn yr hinsawdd.
2.71Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r argyfwng newid hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030, ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at rôl y CDLl mabwysiedig wrth gyfrannu at yr ymrwymiad newid hinsawdd, er enghraifft drwy sicrhau cyfraniadau cynllunio tuag at gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy a thrwy weithredu polisïau sy'n annog ynni adnewyddadwy.
2.72Mae'r CDLlN yn rhoi cyfle i'r Cyngor archwilio ffyrdd o ddatblygu ei ymrwymiadau newid hinsawdd i gyfrannu at y broses o wneud Cymru’n genedl carbon isel.
Cynllun Ynni Ardal Leol Bro Morgannwg (2024)
2.73Mae Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) Bro Morgannwg wedi'i gynhyrchu i nodi'r llwybr mwyaf effeithiol i Fro Morgannwg gyrraedd system ynni sero net. Ni all y Cyngor gyflawni'r cynllun a osodwyd ar gyfer cyflawni sero net ar ei ben ei hun, ac mae'n cynnwys ymrwymiadau a chyfrifoldebau ar gyfer sefydliadau a chwmnïau partner ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Fel y nodwyd yng Ngweledigaeth y ddogfen, mae'r CYAL yn ‘cynrychioli ein hymrwymiad ar y cyd i lunio dyfodol lle mae ynni'n lân, yn hygyrch ac yn deg i bob preswylydd a busnes, ac yn ystyriol o genedlaethau'r dyfodol.’
2.74Er mwyn cyflawni'r Weledigaeth, mae 12 amcan yn cyd-fynd â'r CYAL:
- Lleihau allyriadau carbon cymaint â phosibl ar draws pob gweithgaredd.
- Gwella effeithlonrwydd er mwyn lleihau'r galw am ynni.
- Chwilio a manteisio’n strategol ar ystod amrywiol o adnoddau ariannol i gefnogi mentrau sydd â’r nod o leihau allyriadau carbon.
- Cefnogi dyheadau Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg i fod yn sero net erbyn 2030.
- Gweithio tuag at wneud adeiladau newydd a phresennol yn garbon isel gan flaenoriaethu cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch.
- Defnyddio ynni adnewyddadwy mewn modd sensitif i'r graddau mwyaf posibl.
- Manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio hydrogen gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth a diwydiant.
- Meithrin gwytnwch yn y gadwyn gyflenwi ynni trwy amrywiaethu ynni gan gynnwys prosiectau ynni cymunedol.
- Gwella a chynyddu’r gwaith o drydaneiddio’r system drafnidiaeth ochr yn ochr â newid moddol.
- Meithrin partneriaethau a chydweithrediad rhwng llywodraeth leol, busnesau, sefydliadau addysgol, sefydliadau cymunedol, a rhanddeiliaid ynni.
- Meithrin y gadwyn gyflenwi i ddarparu swyddi o safon a chyfleoedd economaidd.
- Creu'r gweithlu sydd ei angen i gyrraedd targedau sero net 2050.
2.75Mae'r CYAL yn ddogfen fyw y dylid ei diweddaru bob 5 mlynedd. Mae'n nodi'r meysydd blaenoriaeth canlynol a fydd yn ffocws yn y byrdymor i gynorthwyo’r gwaith o roi’r Fro ar y llwybr i sero net:
- Gwneud cartrefi’n garbon isel.
- Mabwysiadu ynni adnewyddadwy ar y tir.
- Symud trafnidiaeth a logisteg i fod yn sero net.
- Cefnogi trawsnewidiad ynni diwydiannol.
- Atgyfnerthu a throsglwyddo'r rhwydweithiau dosbarthu nwy a thrydan.
2.76Mae'r CYAL yn cynnwys ffigurau llym ar gyfer yr hyn y mae'n rhaid ei wneud er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050, er enghraifft gosod 1,190 GWh o ynni ffotofoltäig wedi’i osod ar y ddaear o'i gymharu ag 85 GWh yn 2023. Mae cyfnod y CDLlN yn cynnwys cyfnod sylweddol lle bydd angen cymryd camau i gyflawni sero net. Yn wir, mae'r CYAL yn rhagweld y bydd diwedd y 2020au a dechrau'r 2030au yn gyfnod lle bydd y gwaith o osod y dechnoleg sydd ei hangen i gyrraedd sero net yn cyflymu. Bydd y CDLlN yn gosod y fframwaith cynllunio lleol yn ystod y cyfnod hwn. Felly, mae angen i oblygiadau cyflawni sero net, fel yr awgrymwyd gan lwybr ffafriol a nodwyd yn y CYAL, gael eu cydnabod o fewn y CDLlN.
Cynllun Trafnidiaeth Lleol Bro Morgannwg 2015-2030
2.77Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl) y Cyngor yn ceisio nodi'r mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol sydd eu hangen i sicrhau bod Bro Morgannwg yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir gan Lywodraeth Cymru a'r canllawiau arfer da cyfredol. Mae'r CTLl yn nodi nifer o amcanion byrdymor hyd at 2020 ac yn cynnwys amcanion tymor canolig a thymor hwy hyd at 2030. Mae'r CTLl wedi'i lywio gan gynigion o fewn CDLl mabwysiedig y Cyngor ac mae hefyd yn gyson ag amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
2.78Wrth nodi cynlluniau, mae'r CTLl yn chwilio am ffyrdd o sicrhau gwell amodau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac annog newid mewn dewisiadau teithio, i ffwrdd o geir â’r gyrwyr yn unig ynddynt. Mae’r CTLl hefyd yn ceisio mynd i'r afael â thagfeydd traffig drwy sicrhau gwelliannau i’r coridorau priffyrdd strategol i gymudwyr y gallai fod angen iddynt deithio mewn car yn ogystal â darparu seilwaith gwell ar gyfer cludo nwyddau. Mae hefyd yn ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau diogelwch ffyrdd allweddol y Fro. Mae'r CTLl yn cefnogi cynigion ar gyfer Metro Caerdydd a bydd yn llywio gwaith cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol.
Blaengynllun Bioamrywiaeth Bro Morgannwg (2019)
2.79Mae Blaengynllun Bioamrywiaeth (BGB) Bro Morgannwg yn canolbwyntio ar sut mae'r Cyngor yn rheoli ac yn gwella adnoddau naturiol i sicrhau bod bioamrywiaeth a chynaliadwyedd yn cael eu hystyried ym mhob gwasanaeth a’u bod yn themâu craidd wrth ddarparu gwasanaethau, gan ddod yn rhan annatod o brosesau gwneud penderfyniadau ledled y Cyngor. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i ddangos sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn “ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ei swyddogaethau'n briodol ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.”
2.80Mae rhan un o'r Blaengynllun yn nodi'r cefndir (gan gynnwys y cyd-destun deddfwriaethol), heriau a chyfleoedd, a’r targedau a’r camau gweithredu sydd i'w cymryd i gyflawni'r nodau hyn. Adroddir ar y camau gweithredu yn y BGB bob tair blynedd yn unol â gofynion statudol a chânt eu hadolygu a'u diweddaru ar ddiwedd pob cyfnod adrodd o 3 blynedd. Bydd yr adolygiad o'r BGB yn cyd-fynd ag un y CDLl ac felly bydd yn darparu tystiolaeth gefndirol allweddol ar gyfer y CDLl newydd ac yn llywio'r adolygiad o bolisïau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth o fewn y Cynllun.
Cynllun Gweithredu Adfer Natur y Fro
2.81Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) ar gyfer Bro Morgannwg gan Bartneriaeth Natur y Fro i ddarparu fframwaith i unrhyw un sy'n cyflawni camau i warchod, diogelu a chyfoethogi natur yn y Fro. Mae’r CGAN yn canolbwyntio ar 6 math eang o gynefinoedd gan gynnwys Coetir, Dŵr Croyw, Glaswelltir, Arfordirol, Amaethyddol a Threfol. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu wedi'u nodi i gefnogi adfer natur yn y Fro, gan gynnwys camau gweithredu craidd sy'n berthnasol i bob cynefin ledled y Fro, camau gweithredu sy’n berthnasol i gynefinoedd penodol, a chamau gweithredu ar gyfer grwpiau a sefydliadau.
Strategaeth Tai Lleol Bro Morgannwg 2021-2026
2.82Mae'r Strategaeth Dai yn nodi bwriadau'r Cyngor a'i bartneriaid i gyflawni ystod eang o amcanion tai. Mae’r strategaeth yn cynnwys gweledigaeth hirdymor ar gyfer tai yn y Fro lle mae “gan holl breswylwyr Bro Morgannwg hawl i gael tŷ addas o ansawdd da, a'u bod yn gallu byw'n hapus ac yn annibynnol mewn cymunedau bywiog a chynaliadwy.” Mae'r weledigaeth wedi’i seilio ar bedwar nod allweddol sy'n ffurfio'r fframwaith y bydd camau’n cael eu gweithredu ynddo:
- Nod 1: Mwy o gartrefi, mwy o ddewis.
- Nod 2: Cartrefi a chymunedau gwell.
- Nod 3: Gwell cyngor a chymorth tai.
- Nod 4: Mynediad cyfartal at dai a gwasanaethau tai.
2.83Mae cynllun cyflawni yn cyd-fynd â'r Strategaeth, sydd wedi'i osod dros yr un cyfnod â'r strategaeth. Mae'r cynllun cyflawni yn amlinellu ystod o gamau gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyngor a'i bartneriaid, o dan y 4 nod.
Strategaeth Tai Pobl Hŷn Bro Morgannwg
2.84Mae Strategaeth Tai Pobl Hŷn y Cyngor, ‘Creu Cartrefi a Chymdogaethau yn Ddiweddarach mewn Bywyd 2022-36’, yn disgrifio gweledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg sy’n ceisio: ‘sicrhau’r ansawdd bywyd gorau ar gyfer pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl yn ddiweddarach mewn bywyd. Golyga hyn ddarparu amrywiaeth o lety sy’n galluogi pobl hŷn i fyw bywydau boddhaus a mwynhau iechyd da mewn cartrefi deniadol sy’n diwallu eu hanghenion ac yn caniatáu iddynt gadw eu hannibyniaeth wrth iddyn nhw heneiddio.’
2.85Mae’r strategaeth yn rhagweld, erbyn 2037, y bydd angen rhyw 1,357 o dai arbenigol dynodedig ar gyfer oedran, tai ymddeol (ar gyfer rhentu cymdeithasol ac i'w gwerthu) a thai â gofal (tai gofal ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol ac i'w gwerthu). Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd y Cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r afael ag anghenion tai yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae'r strategaeth yn nodi ystod o fecanweithiau cyflawni gan gynnwys y CDLl, yr ystyrir ei fod â rôl allweddol wrth annog darparwyr tai preifat a chymdeithasol i ddatblygu ystod o dai prif ffrwd sy'n addas ac yn ddeniadol i bobl hŷn.
Y Siarter Creu Lleoedd a Chynlluniau Creu Lleoedd
2.86Ym mis Mai 2023, penderfynodd Bro Morgannwg y dylai’r Fro lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru[1]. Datblygwyd y Siarter Creu Lleoedd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae’r Siarter yn datblygu’r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'i nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Cytunodd llofnodwyr y Siarter i hyrwyddo’r egwyddorion canlynol wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol:
- Pobl a’r gymuned.
- Lleoliad.
- Symudiad.
- Cyfuniad o ddefnyddiau.
- Tir cyhoeddus.
- Dulliau adnabod.
2.87Mae Cynlluniau Creu Lleoedd wedi cael eu paratoi ar gyfer y pedair tref yn y Fro (Y Barri, Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr) sy'n adlewyrchu chwe egwyddor y Siarter Creu Lleoedd. Mae'n bwysig bod cysondeb rhwng Cynlluniau Creu Lleoedd a chynigion a nodwyd yn y CDLl a'r CDLlN mabwysiedig. Fodd bynnag, mae gan Gynlluniau Creu Lleoedd gylch gwaith ehangach na materion cynllunio defnydd tir, gan gwmpasu pethau eraill fel digwyddiadau, gweithgareddau mewn lleoedd a lles cymdeithasol. Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd mabwysiedig yn cael eu cymeradwyo fel Canllaw Cynllunio Atodol ac yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.