1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd
3 NODWEDDION ALLWEDDOL BRO MORGANNWG Sylw
3.1Bro Morgannwg yw Awdurdod Unedol mwyaf deheuol Cymru, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Gaerdydd rhwng yr M4 ac Aber Afon Hafren. Mae'n gorchuddio arwynebedd o 33,097 hectar (130 milltir sgwâr) y mae'r rhan fwyaf ohono, tua 85% (28,132 hectar) yn dir amaethyddol.
3.2Mae’r Fro yn ffinio ag Aber Afon Hafren ag iddi 53 cilomedr o arfordir, y mae 19 cilomedr ohono wedi’i ddynodi’n ‘Arfordir Treftadaeth Morgannwg’. Yr awdurdodau lleol cyfagos yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r gorllewin, Cyngor Caerdydd i’r dwyrain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i’r gogledd.
3.3Roedd poblogaeth y Fro tua 131,900 fel y nodwyd gan Gyfrifiad 2021. Y Barri, y dref fwyaf, yw'r ganolfan weinyddol a hi yw'r brif ganolfan boblogaeth gyda phoblogaeth breswyl o tua 56,600 o bobl yn 2021. Mae 45,300 o bobl eraill yn byw yn y trefi a’r pentrefi mwy, sef Penarth, Llanilltud Fawr, Dinas Powys a’r Bont-faen. Mae'r boblogaeth sy'n weddill wedi'i gwasgaru ledled pentrefi a phentrefi gwledig llai y Fro.
Patrwm Anheddiad
3.4Mae patrwm anheddiad Bro Morgannwg wedi'i lunio i raddau helaeth gan dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal a thirwedd amaethyddol pennaf y Fro. Lleolir prif aneddiadau Y Barri a Phenarth ar yr arfordir ac fe'u datblygwyd o amgylch y porthladdoedd, gan wasanaethu'r galw am lo o Gymru, ond datblygwyd aneddiadau fel y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn drefi marchnad i ddarparu gwasanaethau ar gyfer amaethyddiaeth leol. I ffwrdd o'r prif ganolfannau, nodweddir y Fro gan gymysgedd o aneddiadau sydd wedi'u lleoli'n bennaf yn ne-ddwyrain y Fro. Mewn mannau eraill mae'r Fro wledig yn cynnwys pentrefi a phentrefi bach.
3.5Mae Papur Cefndir Adolygiad Arfarnu Aneddiadau Bro Morgannwg yn gwahanu aneddiadau’r Fro yn bum categori sy'n cynrychioli orau eu rôl, eu cymeriad a’u swyddogaeth. Y rhain yw:
Anheddiad Allweddol: Y Barri
Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth: Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth
Prif Aneddiadau: Dinas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Llandochau (Penarth), Sili, Gwenfô, y Wig a Chroes Cwrlwys
Aneddiadau Gwledig Bach:
|
Aberthin |
Llancarfan |
Llanbedr-y-fro |
|
Tresimwn |
Llandŵ |
Tresigin |
|
Tregolwyn |
Llan-faes |
Saint-y-brid |
|
Corntwn |
Llyswyrny |
Sain Nicolas |
|
Dwyrain Aberddawan |
Aberogwr |
Tre-os |
|
Ewenni |
Pendeulwyn |
Ystradowen |
|
Fferm Goch |
Pen-llin |
|
|
Craig Pen-llin |
Pentrefannau ac Aneddiadau Gwledig Llai:
|
Brychdyn |
Llansanwyr |
Sain Dunwyd |
|
Castell Alun |
Llantriddyd |
Sain Siorys |
|
City |
Maendy |
Saint Hilari |
|
Y Ddrôp |
Marcroes |
Llwyneliddon |
|
Dyffryn |
Llanfihangel-y-pwll |
Llan-fair |
|
Trefflemin |
Yr As Fawr |
Eglwys Fair y Mynydd |
|
Ffwl-y-mwn |
Moulton |
Sant y Nyll |
|
Silstwn |
Norton |
Swanbridge |
|
Gwern y Steeple |
Pentref Ogwr |
Tair Onen |
|
Hensol |
Pancross |
Downs |
|
Llanffa |
Pen-marc |
The Herberts |
|
Larnog |
Pennon |
Tredogan |
|
Lecwydd |
Pentremeurig |
Trerhingyll |
|
Llanbydderi |
Porthceri |
Tre-Dodridge |
|
Llancatal |
Rhuthun |
Twynyrodyn |
|
Llandochau (Y Bont-faen) |
Southerndown |
Tre-walter |
|
Llan-gan |
Saint Andras |
Llanddunwyd |
|
Llanfihangel y Bont-faen |
Llansanffraid-ar-Elái |
Gorllewin Aberddawan |
3.6Ym mhegwn uchaf yr hierarchaeth mae anheddiad allweddol y Barri, sef y mwyaf o drefi'r Fro ac yn ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Wedi'i gydnabod fel canolfan weinyddol y Fro, y Barri yw'r lleoliad mwyaf cynaliadwy i ganolbwyntio cyfleoedd datblygu newydd o bwys, gyda chysylltiadau rheilffordd ardderchog â Chaerdydd (4 trên yr awr) a Phen-y-bont ar Ogwr (1 trên yr awr ond disgwylir i hyn gynyddu i 2 drên yr awr o leiaf yn ystod adegau brig fel rhan o welliannau Metro). Mae'r Barri yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau strategol gan gynnwys cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac ardaloedd manwerthu sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o nwyddau a chyfleusterau.
3.7Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ardal Dociau'r Barri wedi ei adfywio gryn dipyn gyda datblygiad y cynllun Glan y Dŵr defnydd cymysg ar dir llwyd ger y dociau, a buddsoddiad yn Ynys y Barri, sy'n ganolbwynt ar gyfer twristiaeth.
3.8Er bod cymeriad aneddiadau’r Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr yn wahanol i’w gilydd o ran eu maint a'u lleoliad, ystyrir eu bod yn chwarae rolau strategol tebyg. Yn ogystal â phoblogaethau preswyl sylweddol, mae’r aneddiadau hyn hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth lleol, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy, canolfannau manwerthu sefydledig ac amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol, addysgol a chymunedol. O ganlyniad, mae'r aneddiadau hyn wedi'u hystyried yn Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth, sy'n adlewyrchu eu rôl wrth ddarparu ystod o wasanaethau sy'n gwasanaethu anghenion dyddiol eu trigolion ac yn gweithredu fel hybiau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau llai cyfagos.
3.9Mae prif aneddiadau Dinas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Llandochau (Penarth), Sili, Gwenfô, Y Wig a Chroes Cwrlwys yn ategu rôl Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn darparu ar gyfer anghenion yr ardaloedd gwledig ehangach cyfagos. Maent hefyd yn cynnig sawl gwasanaeth a chyfleuster allweddol, sy'n hanfodol i'w rôl fel cymunedau cynaliadwy, wrth iddynt leihau'r angen i deithio i'r Barri neu Aneddiadau sy’n Ganolfannau Gwasanaeth ar gyfer anghenion o ddydd i ddydd.
3.10Mae'r grŵp o Aneddiadau Gwledig Bychain wedi'u gwasgaru ledled y Fro ac yn cynnwys ystod fwy cyfyngedig ond pwysig o wasanaethau a chyfleusterau sy'n chwarae rhan weithredol wrth ddiwallu rhai o anghenion sylfaenol trigolion mewn ardaloedd gwledig, gan leihau'r angen i deithio.
3.11Mae'r haen isaf o aneddiadau yn cynnwys 54 o bentrefi bach ac aneddiadau gwledig llai y Fro. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn cynnwys naill ai grwpiau bach o anheddau neu grwpiau mwy gwasgaredig o eiddo preswyl (yn aml yn cynnwys tai unigol ynysig neu ffermdai ac ysguboriau wedi’u trosi). Fel arfer mae gan y llefydd hyn boblogaethau preswyl llai, yn aml o dan 100 o drigolion. Er hynny, mae'r aneddiadau yn gyfranwyr pwysig at fywyd cefn gwlad ym Mro Morgannwg a chymeriad cefn gwlad y tu allan i'r aneddiadau mwy.
Poblogaeth a Demograffeg
3.12Rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf (2011 a 2021) cynyddodd poblogaeth Bro Morgannwg 4.3% o tua 126,300 yn 2011 i tua 131,800 yn 2021, a oedd yn fwy na'r newid canrannol ledled Cymru gyfan dros yr un cyfnod (1.4%). Bro Morgannwg yw'r 12fed awdurdod mwyaf yng Nghymru yn seiliedig ar faint y boblogaeth.
3.13Bu'r twf mwyaf yn y boblogaeth (2001–2020) yn y grŵp oedran 65–79, gyda chynnydd cyffredinol o bron i 50% (Ffigur 4). Mae'r grŵp oedran 80+ hefyd wedi gweld twf sylweddol, gan gynyddu 38% dros y cyfnod hanesyddol. Mae maint y boblogaeth oedran gweithio (15–64) wedi cynyddu 10%, tra bod y boblogaeth rhwng 0-4 wedi gostwng 2%. Mae heneiddio’r boblogaeth a welwyd ym Mro Morgannwg yn nodwedd anochel o'r newid yn y boblogaeth ledled y DU, wrth i garfannau geni mwy y cyfnod wedi'r rhyfel symud i'r oedrannau ymddeol ac wrth i welliannau mewn gofal iechyd olygu bod pobl yn byw yn hirach. Bu rhai newidiadau sylweddol i'r strwythur demograffig rhwng 2011 a 2021, gyda'r boblogaeth 65 oed a hŷn yn cynyddu 24.9%. Mae hwn yn sylweddol uwch na’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, lle mae'r boblogaeth 65 oed a hŷn wedi cynyddu 17.7%. Mae'r boblogaeth rhwng 15 a 64 oed yn y Fro wedi gostwng 1.5%, sy'n is na’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, sef 2.5%, ond mae'r boblogaeth iau (15 oed ac iau) wedi cynyddu 4.3% o'i gymharu â gostyngiad o 1% yn y grŵp oedran hwn yng Nghymru yn gyffredinol.
Ffynhonnell: SYG
3.14Mae data mudo Bro Morgannwg yn dangos bod y cyfnewid poblogaeth mwyaf (mewnfudo ac allfudo) wedi digwydd rhwng y Fro a Chaerdydd gyfagos. Dangosir hyn yn Ffigur 5, sy'n dangos y bu cyfnewid cyson o bobl yn symud rhwng Caerdydd a'r Fro, gyda'r Fro yn gweld cynnydd net yn ei phoblogaeth (cyfartaledd o 716 y flwyddyn) yn bennaf oherwydd llif mudo net sylweddol o Gaerdydd. Mae hyn wedi gwneud cyfraniad allweddol at y cynnydd yn y boblogaeth a nodwyd yng nghyfrifiad 2021, a oedd yn ‘uwch na chyfartaledd Cymru’.
Ffynhonnell: SYG
3.15Mae'r cyfnewid poblogaeth rhwng y Fro a Chaerdydd wedi dylanwadu ar broffil demograffig y ddau awdurdod hefyd. Mae ffigur 6 a 7 yn tynnu sylw at y ffaith y bu mewnlif net i'r Fro ers 2001 ar draws pob grŵp oedran, heblaw’r garfan 15–19 oed, gan fod grwpiau teulu yn arbennig wedi symud i'r Fro o leoedd fel Caerdydd. I'r gwrthwyneb, mae all-lif mawr wedi bod yn gysylltiedig â phobl ifanc yn gadael yr ardal i astudio mewn mannau eraill yn y DU. Adlewyrchir hyn hefyd yn y mewnlif o bobl ifanc 15–19 oed i Gaerdydd.
Ffynhonnell: SYG
Ffynhonnell: SYG
Y Farchnad Dai a’r Angen am Dai
3.16Mae'r duedd mudo hirdymor o bobl sy'n symud rhwng Caerdydd a'r Fro yn awgrymu bod y Fro a Chaerdydd, i ryw raddau, yn rhannu marchnad dai fwy na'r farchnad dai leol, ac i raddau llai rhennir hyn hefyd â Phen-y-bont ar Ogwr gyfagos. Mae'r ffactorau hyn yn amlygu pwysigrwydd cydweithio rhwng y Fro a'i chymdogion wrth ystyried materion strategol fel twf tai.
3.17Y Fro sydd â'r gymhareb fforddiadwyedd uchaf yng Nghymru gyda phrisiau tai cyfartalog yn 2023 9.7 gwaith yn fwy ar gyfartaledd nag enillion cyfartalog o’r gweithle o'i gymharu â chyfartaledd o 6.1 ar gyfer Cymru gyfan[2].
3.18O ganlyniad, mae gan y Fro angen sylweddol am dai fforddiadwy, gyda'r angen am dai fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'r uchaf yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith mai’r Fro yw un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran darparu tai fforddiadwy. Gan ddefnyddio'r prif amcanestyniadau, mae Asesiad 2023 y Cyngor o’r Farchnad Dai Leol (AFDL) yn nodi bod angen 1,075 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn dros y cyfnod 5 mlynedd 2023-2028 a 154 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Mae'r AFDL hefyd yn cynnwys senarios amrywiadol i asesu'r angen ar sail twf y boblogaeth yn unol ag amcanestyniadau’r CDLlN yn hytrach na phrif amcanestyniadau LlC o 2018. Yn senario’r CDLlN, mae angen 1,114 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf, a 196 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn am y 10 mlynedd wedyn. Mae'r AFDL yn amlygu mai'r ardaloedd yn y Fro sydd â'r angen mwyaf yw'r Barri a Phenarth/Llandochau, fodd bynnag, mae angen am amrywiaeth o fathau a meintiau o dai fforddiadwy ar draws yr holl ardaloedd marchnad dai yn y Fro.
3.19Mae pwysau sylweddol ar lety dros dro yn y Fro am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys mwy o bobl yn rhoi gwybod i’r Cyngor eu bod yn ddigartref (wedi'i yrru mewn llawer o achosion gan yr argyfwng costau byw), yn ogystal â dyletswyddau ac ymrwymiadau'r Cyngor mewn perthynas â rhaglenni ailsefydlu. Mae'r angen am dai fforddiadwy parhaol digonol i helpu i symud pobl allan o lety dros dro yn hollbwysig ac mae gan y system gynllunio rôl hanfodol wrth gynorthwyo i ddarparu tai fforddiadwy newydd.
Sipsiwn a Theithwyr
3.20Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod anghenion llety’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cael eu diwallu drwy ddarparu digon o dir yn y CDLlN ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh) diweddaraf yn nodi angen heb ei ddiwallu am leiniau yn y tymor byr a'r tymor hwy.
Iechyd a Lles
3.21Yn gyffredinol, ystyrir bod Bro Morgannwg yn ardal gefnog a deniadol yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'r Fro yn arddangos amrywiaeth economaidd-gymdeithasol sylweddol. Mae rhannau o'r Fro wledig yn cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf cefnog yng Nghymru, tra bod cymunedau eraill, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, ymhlith y 10% o ardaloedd â’r amddifaded mwyaf yng Nghymru.
3.22Mae Mynegeion Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn dangos mai yn y Barri fu’r cymdogaethau â'r amddifadedd mwyaf yn y Fro yn gyson, yn bennaf yn y wardiau dwyreiniol. Nododd data diweddaraf MALlC (2019) fod 3 ardal yn y Barri ymhlith y 10% o’r ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (Gibbonsdown 2, Buttrills 2, a Court 3), gydag ardaloedd eraill yn y Barri hefyd yn disgyn o fewn yr 20% uchaf. Yn ogystal, mae pocedi o amddifadedd uchel hefyd yn bresennol mewn ardaloedd ym Mhenarth, Sain Tathan a Llanilltud Fawr.
3.23Adlewyrchir y gwahaniaethau hyn yn iechyd a lles ein cymunedau. O'u cymharu â rhannau eraill o Gymru, mae trigolion y Fro yn dangos iechyd da ar y cyfan ac mae eu disgwyliad oes cyfartalog ymysg yr uchaf adeg eu geni ar gyfer gwrywod a benywod, ac mae eu disgwyliad oes iach ymysg yr uchaf yng Nghymru hefyd. Fodd bynnag, yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf, mae disgwyliad oes pobl yn sylweddol is, lle mae cyflyrau iechyd hirdymor yn effeithio ar gyfran uwch o bobl.
3.24Bydd cydnabyddiaeth o'r anghydraddoldebau hyn, sy'n arwain at anghenion cymunedol gwahanol ar lefel cymdogaeth ac ar lefel ardal leol ym Mro Morgannwg, yn mynnu dulliau pwrpasol a chyfannol sy'n mynd y tu hwnt i gylch gorchwyl y CDLlN. Fodd bynnag, gall y cynllun helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn trwy wella mynediad at gyflogaeth, gwella mannau agored a thrafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, a chefnogi’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a gwaith adfywio.
3.25Mae mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fater mwy heriol i rai rhannau o'r Fro, yn enwedig o ystyried y boblogaeth sy'n heneiddio, ac mewn ardaloedd gwledig lle mae cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy heriol. Wrth baratoi'r CDLlN, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i nodi problemau iechyd a lles y dyfodol ac i sicrhau bod iechyd yn ystyriaeth allweddol ym mholisïau'r Cynllun.
Addysg
3.26Mae'r Fro yn cael ei gwasanaethu gan 44 ysgol gynradd, sy'n cynnwys 10 ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru, 2 ysgol gynradd Gatholig a 6 ysgol gynradd Gymraeg. Mae chwe ysgol uwchradd Saesneg, un ysgol 3-18 Gymraeg ac ysgol uwchradd Gatholig. Mae yna un ysgol arbennig, sydd â phrif ganolfan ond sydd hefyd yn gweithredu o sawl safle lloeren.
3.27Mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd newydd wedi'u datblygu ledled y Fro fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid gynt yn Ysgolion yr 21ain Ganrif), gyda chynlluniau pellach fel rhan o'r rhaglen yn cael eu datblygu. Mae hyn yn cynnwys safleoedd newydd â chapasiti uwch yn Ysgol Gatholig St Richard Gwyn yn y Barri (uwchradd), Ysgol Gymraeg Iolo Morganwg yn y Bont-faen (cynradd) a darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mwy yn Ysgol Llyn Derw yng Nghosmeston. Wrth baratoi'r CDLlN, mae’r Cyngor wedi ystyried anghenion addysgol sy'n deillio o dwf cynlluniedig, yn enwedig o fewn yr ardaloedd hynny lle mae capasiti'n gyfyngedig.
3.28Mae Coleg Caerdydd a'r Fro hefyd wedi'i leoli yn y Barri, gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer campysau newydd ym Maes Awyr Caerdydd a Glannau'r Barri.
Cysylltedd
3.29Mae'r ardal yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da sy'n darparu cysylltedd uniongyrchol â'r rhanbarth ehangach. Mae traffordd yr M4 sydd wedi'i lleoli tua gogledd y Fro yn darparu cyswllt trafnidiaeth allweddol sy'n rhoi mynediad i ranbarth De-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r awdurdod gan wasanaethu aneddiadau mwyaf y Fro sef Dinas Powys, Y Barri, Penarth (Cogan), Llanilltud Fawr a'r Rhws, gan gysylltu'r awdurdod â Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr a darparu cysylltiadau â phrif reilffordd de Cymru. Mae yna hefyd linell gangen rhwng Penarth a Chaerdydd, sy'n darparu cysylltiadau mynych. Mae gan y prif drefi fynediad rhesymol at wasanaethau bysiau lleol hefyd, ond nid yw pentrefi sydd wedi'u lleoli i ffwrdd o goridorau bysiau allweddol yn cael eu gwasanaethu cystal.
3.30Mae Maes Awyr Caerdydd ger yr arfordir i'r gorllewin o'r Barri. Cydnabyddir y maes awyr fel porth pwysig ar gyfer busnes a thwristiaeth yn ne Cymru, felly mae’n chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi'r economi leol a chysylltu de Cymru â chyrchfannau ledled y DU a'r byd. Ers dechrau pandemig y Coronafeirws yn 2020, mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng yn sydyn. Yn 2024, nifer y teithwyr oedd 881,000 (cyrraedd a gadael), sy'n is na'r lefelau cyn y pandemig o 1.65 miliwn yn 2019. Mae agosrwydd at y maes awyr yn cynnig manteision a chyfleoedd sylweddol a dylid manteisio arnynt drwy'r cynllun.
3.31Mae natur patrymau aneddiadau'r Fro yn golygu bod trigolion yn y prif drefi ac aneddiadau yn gallu cael mynediad gwell at ystod o gyfleusterau trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r Cyngor yn parhau i wella’r rhwydwaith teithio llesol o fewn a rhwng aneddiadau. Fodd bynnag, mae argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus yn gymharol gyfyngedig yn yr ardaloedd gwledig mwy anghysbell a rhwng yr ardaloedd hynny a'r prif drefi. Mae hyn yn cyfyngu ar hygyrchedd i gyfleusterau a gwasanaethau, yn enwedig i grwpiau difreintiedig.
3.32Mae Bro Morgannwg o fewn Parth Metro De-ddwyrain Cymru ac mae'r Cyngor yn parhau i geisio gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus i wella seilwaith trafnidiaeth.
3.33Mae Porthladd y Barri yn gyfleuster allweddol ar gyfer diwydiant cemegol y rhanbarth, gan drin swmp-gargo hylifol ar gyfer cwmnïau cemegol mawr. Mae'r porthladd yn trin tua 300,000 tunnell o gargo, gan gyfrannu dros £340 miliwn i'r economi bob blwyddyn ac mae'n ffynhonnell bwysig o swyddi lleol.
3.34Bydd cysylltedd digidol yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth alluogi gweithio ystwyth a hwyluso twf economaidd. Mae data o MALlC 2019 yn rhoi cipolwg ar ansawdd argaeledd band eang ledled Bro Morgannwg. Mae Maes Amgylchedd y MALlC yn cynnwys mesur o'r diffyg band eang ar gyflymder o 30 megabit yr eiliad (mbs), sef y cyflymder nodweddiadol a ddarperir gan gysylltiadau Ffeibr i Gabinet. Mae gwahaniaeth mewn cyflymderau lawrlwytho rhwng ardaloedd mwy gwledig a threfol Bro Morgannwg. Mae trefi fel y Barri, Penarth a'r Bont-faen yn dangos argaeledd uchel i fand eang ar 30mbs ac mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is mewn ardaloedd mwy gwledig yn dangos argaeledd gwaeth. Bydd y CDLlN yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith digidol a chyfathrebu i ddiwallu anghenion defnyddwyr a darparwyr ar gyfer cyfnod y cynllun.
Economi a Chyflogaeth
Gweithle a Chymudo
3.35Mae daearyddiaeth gweithgarwch economaidd o fewn yr awdurdod yn gynyddol amrywiol, gyda thrigolion y Fro yn aml yn byw, yn gweithio ac yn ymgymryd â gweithgareddau hamdden o fewn a thu allan i'r awdurdod. Ers pandemig Covid, mae nifer y bobl sy'n gweithio gartref wedi cynyddu'n sylweddol, ochr yn ochr â chyfran y gweithlu sydd â phatrymau gwaith hyblyg. Mae’r data diweddaraf o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod 34% o'r gweithlu yn gweithio gartref naill ai'n rhan amser neu'n llawn amser, er y dylid bod yn ofalus wrth ystyried y ffigur hwn oherwydd amseriad y Cyfrifiad mewn perthynas â phandemig Covid. Mae’r ffigurau’n amrywio ar draws Bro Morgannwg, gyda'r achosion uchaf o weithio gartref wedi'u lleoli yng nghefn gwlad y Fro, a'r isaf yn y Barri[3].
3.36Mae’r pellteroedd y mae trigolion yn nodweddiadol yn eu teithio wrth gymudo yn gymharol fyr, gyda'r rhan fwyaf o drigolion y Fro (33.8%) yn teithio llai na 10km i'w gweithle, 16% yn cymudo hyd at 30km a 3.5% fwy na 30km. Fodd bynnag, mae lefelau all-gymudo yn parhau i fod yn gymharol uchel.
3.37Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod 48% o’r trigolion sy'n gweithio sy’n byw yng Ngorllewin y Fro a 43% o’r trigolion sy’n gweithio sy’n byw yn Nwyrain y Fro yn gweithio yn y Fro. O'r rhai a oedd yn cymudo y tu allan i'r Fro, roedd y mwyafrif yn teithio i Gaerdydd gyda llifau nodedig eraill i Ben-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf (Ffigur 10).
Ffynhonnell: SYG 2011
3.38Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod 72% o drigolion yn teithio i'r gwaith gan yrru cerbyd modur preifat, gyda 10% yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, 9% ar droed, 2% ar feic a 6% fel teithiwr mewn car. Dangosodd Cyfrifiad 2021 gynnydd bach yn y defnydd o geir (77%) a gostyngiad yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus (6%), ond mae’n bosibl bod y pandemig wedi cael effaith ar ffigyrau.
Strwythur Cyflogaeth
3.39Cyfran poblogaeth oedran gweithio'r Fro (16-64 oed) yn 2021 oedd 60.3%; sydd ychydig yn is na'r cyfartaledd rhanbarthol a chenedlaethol (62% a 61.2% yn y drefn honno).
3.40Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae nifer y swyddi ym Mro Morgannwg wedi aros yn gyson dros 41,000 ar y cyfan. Mae proffil swyddi’r bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector wedi newid, gyda'r newid mwyaf yn digwydd yn y sectorau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, a gwasanaethau busnes a chymorth, gan adlewyrchu'r duedd ehangach o ran ehangu cyflogaeth mewn swyddfeydd.
3.41Y sector iechyd sy'n cyfrif am y nifer fwyaf o gyflogeion ym Mro Morgannwg, gydag 8,000 neu 19.5% wedi’u cyflogi yn y sector hwn. Gweithgynhyrchu oedd yr ail ddiwydiant mwyaf ym Mro Morgannwg, gan gyflogi 3,500 neu 8.5% o'r gweithlu. Roedd y sector swyddfa breifat yn cyfrif am gyfanswm cyfunol o 15.4%, neu 6,300 o weithwyr yn y Fro, o'i gymharu â 16.8% yng Nghymru. Oherwydd y nifer uchel o drigolion a gyflogir mewn sectorau proffesiynol, gellir disgrifio'r Fro fel gweithlu medrus, a adlewyrchir yn y ffaith bod cyflog wythnosol cyfartalog y Fro £61 yn fwy na’r cyflog wythnosol cyfartalog yn y gweithle yn gyffredinol, sy'n cyfateb i 10% yn fwy[4]. Mae amaethyddiaeth, coedwigaeth a ffermio yn gwneud cyfraniad bach ond pwysig i'r economi yn y Fro wledig, gan ddarparu 800 o swyddi, neu 2% o gyflogaeth y gweithlu.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol y Boblogaeth, 2022
Twristiaeth
3.42Mae gan y Fro amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid sy’n defnyddio’r amgylchedd naturiol i wella lles economaidd yr ardal. Mae hyn yn cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg; Llwybr Arfordir Cymru; cyrchfannau glan môr hirsefydlog; cefn gwlad a pharciau gwledig deniadol; nodweddion hanesyddol unigryw; amrywiaeth o weithgareddau awyr agored; a rhwydwaith hirsefydlog o Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
3.43Cydnabyddir glan môr Ynys y Barri a Bae Whitmore fel y prif gyrchfan i dwristiaid ym Mro Morgannwg. Mae'r gyrchfan yn adnabyddus ledled Cymoedd De Cymru, De-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr y mae cyfran uchel o ymwelwyr wedi dod ohonynt yn y gorffennol. Mae prif atyniadau'r gyrchfan yn cynnwys y traeth, Parc Pleser Ynys y Barri, atyniadau llai eraill a nifer o beiriannau chwarae, caffis a bariau.
3.44Mae cyfraniad economaidd y sector twristiaeth yn sylweddol, gyda data STEAM 2023 yn dangos mai gwerth effaith economaidd gyfan twristiaeth yw £327.89 miliwn, gyda 2,970 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi'u cefnogi gan wariant twristiaeth a 4.05 miliwn o ymwelwyr. Mae yna nifer sylweddol o ymwelwyr undydd ac ymwelwyr sy'n aros, ond mae'r ffigurau yn dal i fod ychydig yn is na'r lefelau cyn y pandemig.
Manwerthu
3.45Mae'r sector manwerthu ym Mro Morgannwg yn cynnwys amrywiaeth o siopau cyfleustra a chymharu sy'n canolbwyntio'n bennaf ar aneddiadau’r Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen, ac yn y parc manwerthu y tu allan i'r canol yng Nghroes Cwrlwys. Nododd archwiliadau iechyd ar y prif ganol trefi a gynhaliwyd fel rhan o'r Astudiaeth Hamdden Manwerthu a Masnachol (2023) fod Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn perfformio'n dda, gyda lefelau is na'r cyfartaledd o unedau gwag yng nghanolfannau'r ardal. Fodd bynnag, roedd gan Heol Holltwn yng nghanol tref y Barri a Chanolfan Ardal y Stryd Fawr nifer uwch na'r cyfartaledd o unedau gwag. Mae angen sicrhau bod polisïau'r dyfodol yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer ystod ehangach o ddefnyddiau a fyddai'n dderbyniol o fewn canol tref, yn unol â’r egwyddor canol trefi yn gyntaf a’r angen i greu lleoedd bywiog.
3.46Nododd yr astudiaeth fanwerthu fod Bro Morgannwg yn cadw cyfran iach o wariant ar nwyddau cyfleustra, gydag 86.1% (£275.7 miliwn) o'r holl wariant cyfleustra (eitemau hanfodol bob dydd fel bwyd) gan drigolion y Fro yn cael ei wario mewn unedau manwerthu yn y Fro. Fodd bynnag, mae llawer o'r gwariant hwn yn digwydd mewn siopau y tu allan i’r canol yn hytrach na chanol trefi. Ar gyfer siopa cymharu (eitemau manwerthu nad ydynt yn cael eu prynu’n aml), mae'r Fro yn cadw ychydig dros hanner (50.3%) o'r holl wariant cymharu (£294.5 miliwn), gyda'r gollyngiadau allan o'r ardal yn cael eu cyfeirio'n bennaf tuag at Gaerdydd.
3.47Canfu'r astudiaeth fod capasiti gofod llawr cyfleustra rhwng 4,282 metr sgwâr a 5,862 metr sgwâr (yn dibynnu ar y math o weithredwr), sydd oherwydd masnachu siopau presennol uwchben lefelau’r llinell sylfaen. Mewn termau ansoddol, nodwyd bod yna angen/capasiti cwsmeriaid am archfarchnad ganolig i fawr yng nghanol trefi Heol Holltwn y Barri, Penarth, a Llanilltud Fawr, yn unol â’r polisi canol trefi yn gyntaf.
Yr Amgylchedd Naturiol
3.48Mae'r Fro yn dirwedd iseldir nodedig sy'n cynnwys llwyfandir calchfaen i raddau helaeth, a rennir gan sawl afon gan gynnwys Afon Elái, Afon Ddawan a Waycock. Mae amrywiaeth o ddefnyddiau tir gwledig yn nodweddu'r ardal, a atgyfnerthir gan wrychoedd trwchus, coetiroedd bychain mynych ac ardaloedd o goed, sy’n creu ymdeimlad o glydwch. Mae'r dirwedd yn dod i ben yn sydyn ar yr Arfordir Treftadaeth gyda chlogwyni fertigol. Wedi'u gwasgaru rhwng y clogwyni mae sawl traeth tywod a graean ar hyd yr arfordir.
3.49Mae llawer o dirweddau'r Fro yn cael eu hadnabod drwy ddynodiad am eu safon uchel. Mae un Dirwedd o Ddiddordeb Arbennig ac Eithriadol yn bodoli'n gyfan gwbl o fewn y Fro ac un arall yn rhannol. Mae 6 Ardal Tirwedd Arbennig, ac mae arfordir gorllewinol y Fro yn cael ei gydnabod am ei phwysigrwydd cenedlaethol fel Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
3.50Mae'r cymysgedd o dirweddau arfordirol a chefn gwlad yn arwain at amrywiaeth fawr o gynefinoedd, rhai ohonynt yn eithaf prin megis y llyn mesotroffig, Pysgodlyn Mawr, yn Hensol a'r morlyn halwynog yn Aberddawan. Mae'r amrywiaeth hon hefyd yn golygu bod arfordir a chefn gwlad y Fro yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid. Mae rhywogaethau prin yn bresennol, gan gynnwys y glöyn byw Brith y Gors Brown, y Pibydd Gwyrdd, Blodyn-ymenyn yr ŷd, y Sarth, y Berdysyn Gwisgi a'r Cardwenynen. Er bod maint llawer o'r cynefinoedd yn gymharol fach, mae rhai yn fwy helaeth, megis rhostir, glaswelltiroedd arfordirol a choetiroedd, ac mae hyd gwrychoedd hynafol ac ymylon caeau âr sy’n llawn rhywogaethau yn sylweddol.
I gydnabod cynefinoedd cyfoethog y Fro, mae llawer o'i hardaloedd wedi'u dynodi am eu gwerth bioamrywiaeth gan ddynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol sy'n golygu ei bod yn un o'r ardaloedd cyfoethocaf o ran bioamrywiaeth a harddwch naturiol yn ne Cymru. Mae 2 safle yn y Fro wedi'u dynodi'n safleoedd Ewropeaidd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd: Aber Afon Hafren, a nodir fel safle RAMSAR, Ardal Cadwraeth Arbennig, ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig; a Bae Dwnrhefn, sy'n cael ei nodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Cynffig hefyd yn ymestyn i’r Fro yn y Dwyrain. Yn ogystal, mae yna amrywiaeth o ddynodiadau cenedlaethol a lleol gan gynnwys 27 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig; dros 300 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur; 12 Safle o Bwysigrwydd Daearegol a Geomorffolegol Rhanbarthol a 3 Gwarchodfa Natur Leol. Mae’n bwysig diogelu’r ardaloedd dynodedig hyn a, lle bo modd, manteisio ar gyfleoedd i greu rhwydweithiau ecolegol newydd.
3.51Mae'r CDLl mabwysiedig yn nodi lletemau gwyrdd sy'n ceisio atal ymgyfuniad aneddiadau a chadw’r natur agored. Mae'r lletemau gwyrdd hyn wedi cael eu hadolygu yn unol â methodoleg ranbarthol ar gyfer adnabod lletemau gwyrdd. Ystyriwyd hefyd y dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig presennol i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn briodol.
Iaith, Diwylliant, Treftadaeth ac Amrywiaeth
3.52Mae’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a’i hannog ym mhob cwr o Gymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 11.5% o'r boblogaeth 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, sy'n gynnydd o'i gymharu â Chyfrifiad 2011, lle roedd dim ond 10.8% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn groes i'r duedd a gafwyd ledled Cymru yn gyffredinol, lle mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 19% yn 2011 i 17.8% yn 2021.
3.53Mae canran y bobl sy'n cofnodi eu bod yn dod o grŵp ethnig nad yw'n wyn wedi cynyddu yng Nghyfrifiad 2021 o'i gymharu â Chyfrifiad 2011, gyda 5.4% yn nodi eu bod yn perthyn i grŵp ethnig heblaw Gwyn, o'i gymharu â 4.4% yn 2011. Nododd Cyfrifiad 2021 fod 2.1% o'r boblogaeth yn nodi eu hethnigrwydd fel 'Asiaidd ac Asiaidd Prydeinig, neu Asiaidd Cymreig', nododd 0.5% eu bod yn 'Ddu, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd', nododd 2.3% eu bod o 'Grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog' a nododd 0.5% eu bod mewn 'grŵp ethnig arall'.
3.54O ran ei threftadaeth ddiwylliannol, mae gan Fro Morgannwg tua 740 o adeiladau rhestredig, dros 100 o Henebion Cofrestredig, 39 o Ardaloedd Cadwraeth, 18 o ardaloedd sydd wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol a 2 ardal sydd wedi'u nodi yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru.
Newid yn yr Hinsawdd a Pherygl Llifogydd
3.55Yn 2019 roedd Bro Morgannwg yn cyfrif am oddeutu 5% o allyriadau carbon Cymru, gyda 1,113 ktCO2. Oherwydd gostyngiadau mewn allyriadau diwydiannol, yn bennaf o ganlyniad i gau Gorsaf Bŵer Aberddawan, mae allyriadau wedi gostwng yn sylweddol i 550ktCO2 yn 2023. Fodd bynnag, mae allyriadau yn parhau i fod yn uchel yn y Fro, ac mae’r allyriadau fesul pen o'r boblogaeth, sef 4.2tCO2, yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 3.6tCO2. Felly, er bod allyriadau wedi gostwng yn sylweddol, mae cau Gorsaf Bŵer Aberddawan yn ‘fuddugoliaeth hawdd’ ac mae angen mwy o ostyngiadau, anoddach efallai, dros gyfnod y Cynllun i sicrhau y gwneir cynnydd tuag at sero net. Yn 2023, y sectorau sy'n allyrru’r symiau mwyaf o garbon yw adeiladau (45%), trafnidiaeth (30%), diwydiant (14%) a chynhyrchu trydan (11%). Adeiladau bellach yw’r ffynhonnell fwyaf o allyriadau carbon yn y Fro ac mae gan 53% o stoc dai y Fro sgôr TPY o D neu'n waeth. Mae 38% o alw trydan y Fro yn cael ei ddiwallu gan gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol, gyda phaneli solar ffotofoltäig wedi’u gosod ar y ddaear (84MW) a biomas (45MW) yn cyfrannu at hyn.
3.56Fel awdurdod arfordirol bydd newid hinsawdd yn cael effaith ddramatig ar arfordir y Fro a'r cymunedau o fewn ardaloedd arfordirol oherwydd cynnydd yn lefel y môr a stormydd sy'n golygu bod yr arfordir yn fwy agored i lifogydd ac erydu arfordirol. Hefyd, mae ardaloedd o'r Fro yn agos at ardaloedd sydd eisoes mewn perygl o lifogydd, yn enwedig ardaloedd cyfagos yn y Barri, Dinas Powys a Phenarth. Mae Cofrestr Cymunedau mewn Perygl Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua 5,000 o eiddo preswyl yn y Fro mewn rhywfaint o berygl o lifogydd ar hyn o bryd[5]. Dengys amcanestyniadau cyffredinol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd y bydd glaw amlach a dwysach yn fwy tebygol. Disgwylir y bydd digwyddiadau difrifol fel stormydd 2020 yn dod yn fwy cyffredin gydag achosion mwy difrifol ac aml o lifogydd mewn cartrefi, cymunedau a busnesau. Ar yr un pryd, mae llifogydd arfordirol yn fygythiad cynyddol oherwydd cynnydd cymedrig yn lefel y môr a chynnydd mewn tywydd stormus ac uchder tonnau. Bydd yr effeithiau hyn sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn cynyddu nifer yr eiddo, y seilwaith a'r gwasanaethau allweddol a fydd mewn perygl o lifogydd o bob ffynhonnell.
[2] SYG Fforddiadwyedd tai yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)
[3]https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/bulletins/traveltoworkenglandandwales/census2021
[5] https://mapdata.llyw.cymru/layergroups/geonode:nrw_communities_at_risk_register