1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Yn dod i ben ar 11 Mawrth 2026 (41 diwrnod ar ôl)

1 CYFLWYNIAD

1.1Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i reoli tir a datblygiad dros y tymor hir. Dylai’r Cynllun hwn nodi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer yr ardal a nodi ble a sut y dylai datblygiad ddigwydd yn y dyfodol.

1.2Mabwysiadwyd CDLl presennol Bro Morgannwg ym mis Mehefin 2017, ac mae'n cwmpasu'r cyfnod 2011-2026. Ar ôl mabwysiadu CDLl, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol fonitro perfformiad y cynllun yn flynyddol, ac ar ôl 4 blynedd cynnal adolygiad o'r cynllun i ystyried a oes angen diweddaru’r CDLl neu lunio un newydd. Cynhaliwyd adolygiad o'r CDLl mabwysiedig ym mis Mehefin 2021, a ddaeth i'r casgliad bod angen llunio CDLl Newydd (CDLlN) oherwydd newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol a dyheadau uchelgeisiol y Cyngor, megis ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Dechreuodd y gwaith ar y CDLlN yn ffurfiol ym mis Mai 2022.

1.3Mae'r CDLlN yn nodi amcanion strategol allweddol sy'n adlewyrchu'r materion allweddol sy'n wynebu Bro Morgannwg, gan gynnwys:

  • Lliniaru ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd.
  • Gwella Iechyd Meddyliol a Chorfforol a Llesiant.
  • Cartrefi i Bawb.
  • Creu Lleoedd.
  • Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol.
  • Cofleidio Diwylliant a Threftadaeth.
  • Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog, a Chysylltiedig.
  • Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy.
  • Adeiladu Economi Lewyrchus a Gwyrdd.
  • Hyrwyddo Twristiaeth Gynaliadwy.

1.4Mae'r Cynllun Adneuo hwn wedi cael ei baratoi yn unol â deddfwriaeth berthnasol, polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a Strategaeth a Ffefrir y CDLlN. Mae'r Cynllun wedi'i ategu gan sylfaen o dystiolaeth helaeth, i nodi cyfres o bolisïau a chynigion sydd â’r nod o arwain datblygiadau ym Mro Morgannwg yn y dyfodol mewn modd cynaliadwy.

1.5Mae Strategaeth a Ffefrir y CDLlN, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2023, yn sail i'r Cynllun Adneuo, er bod y Weledigaeth, yr Amcanion a'r Polisïau Strategol wedi cael eu mireinio yn dilyn sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol.

Strwythur y CDLlN

1.6Mae'r CDLlN Adneuo yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig (gydag Atodiadau), Map Cynigion a Map Cyfyngiadau. Mae strwythur y Datganiad Ysgrifenedig wedi'i nodi isod:

  • Adran 2 - Cyd-destun Polisi – yn nodi'r polisïau, y ddeddfwriaeth a'r strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol.
  • Adran 3 - Nodweddion Allweddol – yn rhoi trosolwg o nodweddion allweddol y Fro a'r prif faterion economaidd-gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a nodwyd trwy ymgynghoriadau a dadansoddi sylfaen dystiolaeth y CDLlN.
  • Adran 4 - Themâu Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion – yn nodi'r themâu allweddol y dylai'r cynllun fynd i'r afael â nhw ac yn nodi Gweledigaeth ofodol hirdymor hyd at 2036 a fydd yn llywio penderfyniadau polisi ac amcanion er mwyn gwireddu'r Weledigaeth, gan adlewyrchu'r themâu allweddol.
  • Adran 5 - Strategaeth Ofodol – yn nodi'r Strategaeth Twf Cynaliadwy ar gyfer lleoliad datblygiadau yn y dyfodol a lefel y twf a gynigir hyd at 2036. Mae'r Strategaeth Ofodol wedi'i ddangos mewn Diagram Allweddol.
  • Adran 6 - Fframwaith Polisi – yn nodi'r polisïau strategol, polisïau rheoli datblygiad sy'n seiliedig ar feini prawf, dyraniadau safle-benodol ac ardaloedd dynodedig i'w gwarchod. Mae'r rhain wedi'u trefnu'n fras yn ôl thema o dan y penawdau polisi allweddol a nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru: Dewisiadau Strategol a Gofodol (Creu Lleoedd); Lleoedd Actif a Chymdeithasol; Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus; a Lleoedd Unigryw a Naturiol.
  • Adran 7 - Fframwaith Monitro – yn nodi sut y bydd y strategaeth, yr amcanion, y polisïau a'r cynigion yn y cynllun yn cael eu monitro yn erbyn dangosyddion priodol a phwyntiau sbarduno ar gyfer gweithredu.

Sut i ddefnyddio’r ddogfen hon

1.7Dylid darllen y CDLlN yn ei gyfanrwydd gan fod llawer o amcanion a pholisïau'r Cynllun yn drawsbynciol ac yn gydgysylltiedig. Rhaid i benderfyniadau ar gynigion datblygu roi sylw i'r polisïau perthnasol yn y Cynllun a gofynion y Polisi Cynllunio Cenedlaethol, sydd wedi'i gynnwys mewn ystod eang o ddogfennau polisi, datganiadau a nodiadau cyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn gyffredinol, nid yw'r CDLlN yn ailadrodd polisïau cynllunio cenedlaethol fel y nodwyd yng nghynllun Cymru'r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru (PCC) a Nodiadau Cyngor Technegol (NCTau). Fodd bynnag, lle bo'n briodol, mae'r ddogfen hon yn esbonio ble a sut mae polisïau cynllunio cenedlaethol yn cael eu trosi ar lefel leol.

1.8Yn ogystal â'r Datganiad Ysgrifenedig, mae'r CDLlN yn cynnwys Map Cynigion a Map Cyfyngiadau. Mae’r Map Cynigion yn nodi’r ardaloedd hynny sydd wedi’u dyrannu’n benodol ar gyfer datblygu neu sy’n destun amddiffyniad trwy bolisïau perthnasol yn y Cynllun. Mae'r Map Cyfyngiadau yn gynllun ar wahân y dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r Map Cynigion, ac mae'n dangos maint a lleoliad daearyddol y cyfyngiadau i ddatblygiadau sy'n cael eu creu gan ddeddfwriaeth y tu allan i’r broses cynlluniau datblygu, er enghraifft Henebion Cofrestredig, ardaloedd risg llifogydd a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Er nad yw hwn yn rhan o'r CDLlN, rhaid rhoi sylw i'r Map Cyfyngiadau wrth ystyried cynigion datblygu. Mae'r Map Cyfyngiadau yn cynnwys dynodiadau a wnaed gan gyrff statudol heblaw'r Cyngor a bydd yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig y Cynllun Adneuo

1.9Yn unol â gofynion statudol, mae paratoi’r Cynllun Adneuo wedi bod yn destun i, a’i lywio gan, Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI). Mae’r ACI yn cyflawni'r gofynion a'r dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), Asesiad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI), Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg.

1.10Nod yr ACI yw asesu i ba raddau y bydd polisïau cynllunio datblygol yn helpu i gyflawni amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y CDLlN. Mae ACI y Cynllun Adneuo, a baratowyd gan ymgynghorwyr annibynnol, wedi’i gyhoeddi fel dogfen ar wahân. Mae'r Cynllun Adneuo hefyd wedi cael ei ystyried fel rhan o'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Mae'r ddwy ddogfen yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLlN ac maent ar gael ar wefan y Cyngor.

1.11Cynhaliwyd yr asesiadau hyn mewn modd integredig a chânt eu defnyddio fel offer ar gyfer llunio cynlluniau i lywio'r Cynllun Adneuo sy'n caniatáu craffu ar oblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pob elfen o'r Strategaeth ac i fynd i'r afael ag unrhyw ansicrwydd, materion neu ofynion lliniaru a nodwyd yn ystod y prosesau asesu effaith. Bydd y broses ailadroddol hon yn parhau i fod yn rhan annatod o waith paratoi cynllun y Cyngor o'i CDLlN.

Dogfennau Ategol Eraill

1.12Yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Adneuo mae papurau tystiolaeth gefndir sy'n darparu ffynonellau gwybodaeth allweddol ar ystod o bynciau sydd wedi llywio'r strategaeth a’r CDLlN Adneuo. Cyhoeddwyd y dogfennau hyn ar wahân ac maent ar gael ar wefan y Cyngor. Mae'r rhestr o ddogfennau cymorth wedi'i chynnwys yn Atodiad 10.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig