1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd
5.1Mae strategaeth y CDLN yn nodi ardaloedd eang lle ceir datblygiadau newydd er mwyn cyflawni'r Weledigaeth a'r Amcanion a nodwyd yn gynharach yn y Cynllun. Lluniwyd y strategaeth gan roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:
- Y cyd-destun lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o ran polisi.
- Y materion cymdeithaso, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n berthnasol i Fro Morgannwg.
- Adroddiad Adolygu'r CDLl mabwysiedig.
- Y materion a nodwyd yn Adroddiadau Monitro Blynyddol y CDLl mabwysiedig.
- Amrywiaeth o senarios twf poblogaeth, aelwydydd, anheddau a chyflogaeth.
- Asesiad diweddaraf o’r Farchnad Dai Leol.
- Yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau.
- Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac asesiad o'r Opsiynau Amgen.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys yn y Weledigaeth, y Materion a'r Amcanion, Opsiynau'r Strategaeth Ofodol ac Opsiynau Twf; a
- Thrafodaethau rhanbarthol ar lefel y twf yng nghyd-destun Cymru’r Dyfodol.
5.2Mae'r deg amcan strategol a nodir yn Adran 4 wedi cael cryn ddylanwad ar ddatblygiad y strategaeth, sy'n ceisio taro cydbwysedd rhwng yr angen am dwf (Amcan 3 - Cartrefi i Bawb, Amcan 9 - Adeiladu Economi Ffyniannus a Gwyrdd) a'r angen i warchod amgylchedd naturiol ac adeiledig unigryw Bro Morgannwg (Amcan 5 - Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd Naturiol, Amcan 6 - Coleddu Diwylliant a Threftadaeth).
5.3Yn unol â datganiad y Cyngor ynghylch Argyfwng Hinsawdd, mae rôl cynllunio wrth liniaru ac ymaddasu i'r newid hinsawdd (Amcan 1) yn rhan annatod o'r CDLl Newydd. Lle bynnag y bo modd, mae’r strategaeth yn ceisio ffafrio ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen, yn osgoi ardaloedd lle ceir perygl llifogydd ac yn hyrwyddo ystod a dewis o safleoedd tai a chyflogaeth newydd mewn lleoliadau cynaliadwy â mynediad da at gyflogaeth, trafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a siopau (Amcan 8 - Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Egnïol a Chynaliadwy).
5.4Mae creu lleoedd, drwy greu lleoedd gweithredol, diogel a hygyrch sy’n cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, wrth galon y strategaeth (Amcan 4 – Creu Lleoedd). Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn creu cymunedau a fydd yn gwella llesiant (Amcan 2 - Gwella Iechyd a Llesiant Meddyliol a Chorfforol). Bydd adfywio ac arallgyfeirio canol trefi yn unol ag egwyddorion canol trefi yn gyntaf yn rhan annatod o greu cymunedau bywiog (Amcan 7 - Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog a Chysylltiedig).
5.5Yn ogystal â hyn, mae'r strategaeth yn cydnabod y manteision economaidd posibl a all ddeillio o hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy briodol (Amcan 10 – Hyrwyddo Twristiaeth Gynaliadwy), cryfhau’r economi leol drwy greu swyddi, cefnogi busnesau lleol, arallgyfeirio’r economi a sicrhau bod arian yn aros o fewn cymunedau.
5.6Mae Strategaeth Twf Cynaliadwy y CDLlN yn cynnwys chwe elfen allweddol, fel a ganlyn:
- Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth a gefnogir gan seilwaith priodol i gyd-fynd â safle’r Fro o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Cydleoli tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen i deithio.
- Llywio datblygiadau'n bennaf at leoliadau a wasanaethir y dda gan orsafoedd rheilffordd presennol ac arfaethedig y rhan o Fetro De Cymru, ac mewn ardaloedd â chysylltiadau bws da.
- Caniatáu datblygiadau graddfa fach yn seiliedig ar dai fforddiadwy mewn aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n gymesur â maint yr anheddiad.
- Cefnogi rôl maes awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol.
- Caniatáu cyfleoedd adfywio ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol ac a danddefnyddiwyd, gan gynnwys yn Aberthaw a Dociau’r Barri
- Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth i gyd-fynd â safle’r Fro o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Sylw
5.7Er mwyn cyflawni'r dyheadau sydd wedi'u cynnwys yn y Weledigaeth gyffredinol, bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefel gynaliadwy o dwf a fydd yn diwallu'r anghenion tai a chyflogaeth a nodwyd yn y dyfodol ac sy'n ategu dyheadau twf ehangach Rhanbarth De-ddwyrain Cymru fel y manylir yn Dyfodol Cymru. Felly, bydd y CDLlA yn darparu ar gyfer:
- Gofyniad tai o 7,890 o anheddaudros gyfnod y cynllun neu 526 o anheddau y flwyddyn, ynghyd â lwfans hyblygrwydd.
- Dyraniad o 182 Ha o dir cyflogaeth ar draws ystod o safleoedd fel bo modd dod â 67.8 Ha ymlaen a darparu hyd at 5,338 o swyddi.
5.8Mae lefel arfaethedig y twf yn seiliedig ar nifer y datblygiadau cyfartalog a gwblheir dros ddeng mlynedd cyntaf y cynllun mabwysiedig (526 o anheddau y flwyddyn). Mae hyn yn adlewyrchu amserlen briodol, sy'n cynnwys cyfnod lle bo nifer fach o ddatblygiadau'n cael eu cwblhau yn dilyn y dirwasgiad economaidd, a'r blynyddoedd ffyniannus mwy diweddar ar ôl mabwysiadu'r CDLl a darparu safleoedd wedi'u dyrannu. Dangoswyd bod y lefel hon o dwf yn gyflawnadwy ac fe’i hystyrir yn ddigon uchelgeisiol i adlewyrchu safle’r Fro yn ardal dwf genedlaethol Cymru’r Dyfodol a mynd i’r afael â’r angen dybryd am dai fforddiadwy, gan fod yn gyflawnadwy ar yr un pryd o fewn cyfyngiadau'r amgylchedd naturiol ac adeiledig.
5.9Bydd y lefel hon o dwf yn ceisio sicrhau cydbwysedd yn y boblogaeth drwy gryfhau’r poblogaethau oed gwaith ac oed ysgol i wrthbwyso'r boblogaeth sy'n heneiddio. Cyflawnir hyn drwy ddarparu ystod o gyfleoedd tai a chyflogaeth i annog preswylwyr presennol i fyw a gweithio yn y Fro (gan leihau allfudo ac allgymudo) yn ogystal ag annog preswylwyr newydd i fewnfudo, ar yr amod bod hynny ar raddfa sy'n cyd-fynd ag awdurdod cyfagos Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd, yn hytrach na'i bod yn cystadlu â'r rheiny.
5.10Cydbwysir graddfa'r ddarpariaeth cyflogaeth â lefel y twf yn y boblogaeth er mwyn ceisio lleihau cymudo.
- Cydleoli tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen i deithio. Sylw
5.11Un o flaenoriaethau allweddol Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yw dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio a’r ddibyniaeth ar geir preifat. Bydd y strategaeth ofodol yn ceisio lleoli datblygiadau newydd mawr mewn mannau sy’n cael eu gwasanaethu’n dda gan wasanaethau a chyfleusterau yn unol â chanfyddiadau’r Adolygiad Gwerthuso Aneddiadau.
5.12Mae'n rhaid i lefel y twf a gynigir yn yr aneddiadau fod yn gynaliadwy ac yn y lleoliadau cywir, gan roi sylw i rôl a swyddogaeth aneddiadau, yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau a chapasiti aneddiadau neilltuol i gynnwys twf pellach.
5.13Mae gan y Fro amryw o barciau busnes a stadau diwydiannol sefydledig yn y Fro sy'n cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth. Mae'r busnesau yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn darparu ystod o swyddi o ansawdd uchel, a rhagwelir y bydd cyfleoedd datblygu pellach yn cael eu darparu yn yr Ardal Fenter. Bydd datblygiadau tai newydd felly'n cael eu targedu at Sain Tathan a'r Rhws, fel cyfleoedd datblygu allweddol, er mwyn manteisio ar eu hagosrwydd at yr Ardal Fenter.
5.14Er y bydd y cynllun yn ceisio alinio defnyddiau tir, efallai na fydd cydleoli defnyddiau yn briodol ym mhob ardal, a rhaid i gynigion ystyried y cyd-destun lleol. Mae rhai safleoedd cyflogaeth presennol yn y Dyffryn sydd mewn lleoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n wael gan drafnidiaeth gynaliadwy ac felly nid yw'r cynllun yn ceisio hyrwyddo tai newydd sylweddol neu ddatblygiadau eraill yn y lleoliadau hyn. I'r gwrthwyneb, efallai na fydd rhai cyflogaeth yn briodol mewn ardaloedd preswyl o safbwynt amwynder. Fodd bynnag, lle bo'n briodol, yr egwyddor eang yw y dylai'r strategaeth ofodol edrych i sicrhau bod tai newydd mewn mannau lle mae cyfleoedd cyflogaeth eisoes yn bodoli neu'n cael eu cynnig.
5.15Mae canol trefi yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ac, yn unol â’r egwyddor canol trefi yn gyntaf sydd wedi’i hymgorffori mewn polisi cynllunio cenedlaethol, dylid hyrwyddo datblygiadau newydd, gan gynnwys datblygiadau tai graddfa fach a datblygiadau defnydd cymysg, yng nghanol trefi. Bydd agosrwydd canol trefi hefyd yn ystyriaeth wrth ddyrannu safleoedd tai mwy priodol, gyda safleoedd o fewn pellter cerdded a beicio o ganolfannau yn cael eu ffafrio lle mae safleoedd o'r fath ar gael, gan y bydd hyn yn hwyluso dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
5.16Lle bo angen gwella'r seilwaith presennol er mwyn helpu i gynnwys datblygiadau newydd, defnyddir y broses rhwymedigaethau Adran 106 i sicrhau bod seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau'n cael eu sicrhau ar lefel briodol ar sail graddfa, math a lleoliad y datblygiad arfaethedig.
- Llywio datblygiadau'n bennaf at leoliadau a wasanaethir y dda gan orsafoedd rheilffordd presennol ac arfaethedig y rhan o Fetro De Cymru, ac mewn ardaloedd â chysylltiadau bws da. Sylw
5.17Er bod lleihau'r angen i deithio yn amcan polisi allweddol y CDLlN, cydnabyddir y bydd angen i bobl deithio ar gyfer gwaith, gwasanaethau a hamdden. Yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth, mae strategaeth ofodol y CDLlN yn ceisio lleoli datblygiadau mewn mannau sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gynaliadwy.
5.18Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn croesi rhan ddeheuol y Fro, gan gysylltu Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr ag aneddiadau Penarth a Chogan, Dinas Powys, y Barri, y Rhws a Llanilltud Fawr. Ar hyn o bryd ceir pedwar gwasanaeth yr awr rhwng y Barri a Chaerdydd Canolog a gwasanaeth bob awr rhwng y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, er bod disgwyl i amlder y gwasanaeth hwn gynyddu erbyn 2025. Mae llinellau cangen hefyd i Benarth ac Ynys y Barri. Mae targedu datblygiadau newydd i’r aneddiadau a wasanaethir gan y rhwydwaith rheilffyrdd yn rhan allweddol o’r strategaeth, gan y bydd yn hwyluso teithiau drwy ddulliau heblaw'r car.
5.19Er mwyn helpu i lywio’r broses o ddewis safleoedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynhyrchu mapiau isocron amseroedd teithio, sy’n nodi pellteroedd cerdded a beicio bob 5 munud hyd at 20 munud oddi wrth bob un o'r gorsafoedd rheilffordd presennol yn y Fro.
5.20Cwblhawyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gorsaf newydd yn Sain Tathan yn 2022, a nododd bedwar lleoliad safle posibl ar gyfer gorsaf newydd i'r de o Sain Tathan. Byddai maint y datblygiad a gynigiwyd yn ardal ehangach Sain Tathan, gan gynnwys dau safle allweddol dan arweiniad preswyl a dyraniadau tai eraill, Parth Menter Bro Tathan a Pharc Ynni Gwyrdd arfaethedig Aberddawan yn cefnogi'r lefelau o gynhyrchu teithiau sy'n angenrheidiol i gefnogi'r achos busnes dros orsaf ac mae'r Cyngor yn gweithio'n weithredol gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ymrwymiad ar gyfer gorsaf newydd yn y lleoliad hwn.
5.21Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar gyfer De-ddwyrain Cymru, gan ddatgan ei ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer seilwaith rheilffyrdd ychwanegol a gwasanaethau cludo nwyddau a theithwyr yn Aberddawan / Sain Tathan. Mae cyflwyno gwasanaethau rheilffyrdd yn Sain Tathan yn cyd-fynd â'r amcanion rhanbarthol ar gyfer sefydlu rhwydwaith sy'n cyflawni newid moddol tuag at ffurfiau trafnidiaeth mwy cynaliadwy ar gyfer teithwyr a nwyddau.
5.22Fel y nodwyd yn yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau, mae tref y Bont-faen hefyd yn lleoliad cynaliadwy gyda stryd fawr lewyrchus sy’n cynnwys archfarchnad ac amrywiaeth o siopau, gwasanaethau a chyfleusterau eraill sy’n darparu ar gyfer anghenion bob dydd, gan leihau’r angen i deithio. Mae ganddi hefyd ysgolion cynradd ac uwchradd, canolfan hamdden a chyfleusterau iechyd. Er nad yw'r dref ar linell reilffordd, ceir cysylltiadau bws da rhyngddi ag aneddiadau eraill yn y Fro, yn ogystal â Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
- Caniatáu datblygiadau graddfa fach yn seiliedig ar dai fforddiadwy mewn aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n gymesur â maint yr anheddiad. Sylw
5.23Mae Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) 2023 yn nodi angen am 1,075 o dai fforddiadwy y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn seiliedig ar y prif ragamcanion neu 1,114 yn seiliedig ar ragamcanion y CDLl. Mae ôl-groniad o angen wedi'i nodi ar draws pob ardal is-farchnad ym Mro Morganwg ac mae'r broblem yn ddifrifol mewn llawer o gymunedau.
5.24Yn y Dyffryn gwledig, mae cyfleoedd datblygu yn gyfyngedig a all effeithio ar allu pobl iau a phobl o oedran gweithio i aros yn eu cymunedau lleol. Mae diffyg tai fforddiadwy yn ffactor allweddol wrth i drigolion presennol adael eu cymunedau lleol, ac yn cyfyngu ar allu'r rhai a allai fod wedi gadael yr ardal i ddychwelyd. Mae cadw pobl iau a phobl o oedran gweithio o fewn aneddiadau yn bwysig gan ei fod yn caniatáu i'r rhai hynny wneud hynny gan y bydd yn helpu i gynnal strwythur demograffig cytbwys a bydd yn cynorthwyo i gynnal gwasanaethau a chyfleusterau lleol, gan gynnwys ysgolion.
5.25Rhan allweddol o'r strategaeth felly fydd caniatáu datblygiadau seiliedig ar dai fforddiadwy o fewn y prif aneddiadau a'r mân aneddiadau gwledig hynny y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n cyd-fynd â maint y gymuned y mae'n ei gwasanaethu, gyda nifer yr anheddau'n ddibynnol ar y cyd-destun lleol. Cynllun 'seiliedig ar dai fforddiadwy' yw cynllun lle byddai angen i isafswm o 50% o'r anheddau fod yn fforddiadwy, er y gallai hyn gynyddu i uchafswm o 100% os yw'r safle'n cael ei gynnig gan ddarparydd tai fforddiadwy.
- Cefnogi rôl maes awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol. Sylw
5.26Mae Cymru’r Dyfodol yn cydnabod bod Maes Awyr Caerdydd “yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru. Mae’n borth rhyngwladol sy’n cysylltu Cymru â’r byd ac yn sbardun pwysig i economi Cymru.” Mae strategaeth y CDLlN felly'n cydnabod pwysigrwydd Maes Awyr Caerdydd o safbwynt economaidd a thrafnidiaeth.
5.27Mae’r maes awyr o fewn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan. Mae’r Ardal Fenter wedi’i rhannu’n ddau safle – Ardal Ddatblygu Maes Awyr a Phorth Caerdydd, sydd yn union wrth ymyl y maes awyr, a safle Bro Tathan yn Sain Tathan. Bwriedir i'r safleoedd blaenllaw hyn sydd wedi'u lleoli'n strategol ysgogi buddsoddiad mewnol a chyfnerthu rôl Bro Morgannwg ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
5.28Mae Ardal Ddatblygu Maes Awyr a Phorth Caerdydd yn cynnwys dau safle ar wahân - Parc Busnes y Maes Awyr, i'r gogledd o Port Road, a'r safle cyflogaeth strategol i'r de o Port Road, a elwir yn Model Farm. Mae gan Goleg Caerdydd a'r Fro ganiatâd cynllunio ar gyfer campws coleg ychwanegol ar ran o'r safle, ac mae Cynllun Meistr yn cael ei baratoi i gynorthwyo gyda chyflenwi'r tir sy'n weddill. Yn ôl yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth, mae 61.05 Ha o dir ar gael o hyd ar draws rhannau gogleddol a deheuol y rhan hon o'r Ardal Fenter. Mae apêl am ddiffyg penderfyniad wedi'i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ar gyfer cais cynllunio amlinellol ar gyfer Parc Busnes B1, B2, B8 ar safle'r de (Model Farm). Mae'r Astudiaeth Tir Cyflogaeth yn argymell y dylid cadw'r safle hwn at ddefnydd cyflogaeth ac mae'r safle wedi'i gario ymlaen i'r Cynllun Adneuo ar y sail hon. Fodd bynnag, bydd angen ystyried canlyniad yr apêl gynllunio pan fydd penderfyniad wedi'i wneud gan PEDW.
5.29Mae Bro Tathan wedi derbyn buddsoddiad sylweddol hyd yma, gan gynnwys cwblhad diweddar Heol Fynediad y Gogledd, sy'n cynnig mynediad uniongyrchol i'r Ardal Fenter, gan wella cysylltedd. Mae'r safle hefyd yn elwa ar redfa 1,800m gwbl weithredol a gynhelir gan sifiliaid. Mae nifer o fusnesau adnabyddus, gan gynnwys Aston Martin Lagonda ac eCube Solutions wedi'u lleoli ar y safle. Erys ystod o gyfleoedd datblygu ar safle Bro Tathan ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau gan gynnwys B1, B2 a B8, yn ogystal â chyfle am westy. Nodwyd bod 66.7 hectar o dir net y gellir ei ddatblygu sy'n debygol o gael ei gyflawni o fewn cyfnod y cynllun, er bod tir ychwanegol sylweddol ar gael a fydd yn cael ei ddiogelu.
5.30Cydnabyddir bod tensiwn rhwng amcan newid hinsawdd y CDLlN a’r bwriad i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, ac ystyried bod allyriadau awyrennau yn cyfrannu’n sylweddol at newid hinsawdd yn fyd-eang. Cydnabyddir yr her hon yn Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod maes awyr lleol ar gael yn rhoi cyfle i deithwyr sy’n byw yng Nghymru gael hedfan o safle sy'n nes at adref, gan leihau teithiau a allai fod wedi cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Mae LlC yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a menter Jet Zero, yn ogystal â Maes Awyr Caerdydd, i leihau effeithiau hedfan ar yr amgylchedd.
- Caniatáu cyfleoedd adfywio ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol ac a danddefnyddiwyd, gan gynnwys yn Aberthaw a Dociau’r Barri Sylw
5.31Mae'r Strategaeth Twf Cynaliadwy yn diogelu tir yn hen Orsaf Bŵer Aberddawan fel Parc Ynni Gwyrdd. Mae Cynllun Meistr yn cael ei baratoi ar gyfer y safle ar hyn o bryd ond gallai'r defnyddiau posibl ar ôl dymchwel yr orsaf bŵer ac adfer gynnwys:
- Cynhyrchu prosiectau ynni adnewyddadwy a gwyrdd a defnyddiau cyflogaeth cysylltiedig. Yn darparu cyfleuster storio batri i gefnogi'r prosiectau ynni gwyrdd.
- Yn cynhyrchu clwstwr gweithgynhyrchu di-garbon a fydd yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
- Yn darparu canolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesi, twf, gwybodaeth a chyfleoedd i'r gymuned ryngweithio â dyfodol di-garbon Cymru.
- Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal parc ecoleg bio-amrywiol a fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr, gan ddarparu cyfleusterau i'r gymuned leol.
- Creu'r amodau cywir i gefnogi datgarboneiddio diwydiannol a chyfleusterau giga-waith y dyfodol.
5.32Mae adfywio safle’r hen orsaf bŵer yn Aberddawan yn cynnig cyfle unigryw i greu swyddi medrus iawn, gan wneud cyfraniad sylweddol at liniaru newid hinsawdd, yn unol ag amcanion y Cynllun. Cefnogir y cyfle adfywio sylweddol hwn drwy fframwaith polisi’r CDLlN, wedi’i lywio gan y Cynllun Meistr sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd.
Dociau'r Barri
5.33Roedd y strategaeth ar gyfer y CDLl mabwysiedig yn canolbwyntio'n bennaf ar adfywio tir a ddatblygwyd yn flaenorol yn hen Ddoc Rhif 1 yn y Barri fel safle strategol cymysg ei ddefnydd, a elwir yn lleol yn Lanfa'r Barri. Mae rhan breswyl y datblygiad wedi'i chwblhau i raddau helaeth, fel y mae defnyddiau eraill gan gynnwys ysgol gynradd newydd, archfarchnad a chanolfan ardal. Mae caniatâd cynllunio hefyd wedi'i roi ar gyfer campws newydd Coleg Caerdydd a'r Fro ar y tir sy'n weddill yn Hood Road.
5.34Mae cynlluniau ar gyfer adfywio parhaus y Lanfa yn cynnwys ailddatblygu'r Mole ar gyfer fflatiau, parc llinol a chanolfan chwaraeon dŵr.
5.35Yn ogystal, mae'r Associated British Ports (ABP) wedi paratoi Cynllun Meistr sy'n nodi cyfleoedd ailddatblygu yn y dyfodol ar dir o fewn eu perchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Uwchraddio Loc y Fonesig Windsor, a gosod gatiau loc newydd i fodloni anghenion yr holl longau sy'n defnyddio'r Doc.
- Ailddatblygu Ardal Dwf Creigiau Duon, at ddefnyddiau fel y gadwyn gyflenwi batris, uwchweithgynhyrchu, prosesu mwynau prin o'r ddaear, a gweithgynhyrchu biodanwydd y genhedlaeth nesaf.
- Hyb Twf Glân y Porthladd a fydd yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu di-garbon.
Ardal Twf Strategol Sylw
5.36Mae'r Strategaeth yn ceisio hyrwyddo datblygiad yn yr Ardal Twf Strategol, ardal sy'n cynnwys y prif ganolfannau poblogaeth a'r aneddiadau trefol a wasanaethir gan ystod o gyfleusterau a gwasanaethau, ac sy'n hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio. O fewn yr Ardal Twf Strategol, mae’r Barri yn anheddiad allweddol, ac aneddiadau canolfan wasanaeth Llanilltud Fawr, Penarth a'r Bont-faen yn cynnig cyfleoedd am dwf cynaliadwy. Mae prif aneddiadau Sili, Dinas Powys, Llandochau (Penarth), y Rhws a Sain Tathan hefyd wedi’u cynnwys o fewn yr Ardal Twf Strategol, gan fod y rhain yn lleoliadau cynaliadwy lle gellir alinio datblygiad preswyl newydd â defnyddiau eraill a lle ceir opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy eisoes neu arfaethedig, i leihau'r ange i deithio yn y car.
Diagram Allweddol Sylw
5.37Mae'r diagram allweddol yn Ffigur 10 dangos Strategaeth y CDLlN ac yn dangos maint ardal Cyngor Bro Morgannwg ac ardal y CDLlN. Mae’r diagram allweddol hefyd yn dangos yr Ardal Twf Strategol, llwybrau trafnidiaeth strategol, lleoliadau allweddol i'w datblygu yn y dyfodol, hierarchaeth aneddiadau’r cynllun a’r rhyngberthnasau ag awdurdodau lleol cyfagos