1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Yn dod i ben ar 11 Mawrth 2026 (41 diwrnod ar ôl)

Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adneuo?

Y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) Adneuo yw’r cam ffurfiol nesaf yn y broses o baratoi’r cynllun datblygu. Mae’n ymhelaethu ar y Strategaeth a Ffefrir, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2024. Mae'n nodi Strategaeth gyffredinol, yn dyrannu tir ar gyfer ystod o ddefnyddiau ac yn nodi polisïau sydd â’r nod o lywio gwaith datblygu a fframio’r broses gwneud penderfyniadau Rheoli Datblygu. Mae wedi cael ei lywio gan sylfaen gadarn o dystiolaeth, gan gynnwys cyfres o bapurau cefndir ac adroddiadau ategol, yn ogystal ag Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).

Diagram yn dangos camau paratoi’r cynllun gyda cham yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLlN wedi’i amlygu

Dweud eich dweud ar yr CDLlN Adneuo

Mae'r ymgynghoriad hwn ar y CDLlN Adneuo yn gam allweddol wrth gynllunio ar gyfer dyfodol Bro Morgannwg. Mae'n rhoi cyfle i drigolion a rhanddeiliaid ddweud eu dweud am y cynigion a pholisïau cynllunio defnydd tir a fydd yn siapio datblygiad cymunedau yn y Fro yn y cyfnod hyd at 2036.

Bydd y cyfnod o ymgynghori statudol yn cael ei gynnal rhwng 28ain Ionawr 2026 i 11eg Mawrth 2026. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 23:55 ar 11eg Mawrth 2026. Ni fydd unrhyw sylwadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad ac amser cau’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried.

Mae'r CDLlN Adneuo a'r holl ddogfennau ategol ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor ac mae copïau o'r Cynllun Adneuo wedi'u rhoi yn holl lyfrgelloedd y Cyngor ac ym mhrif Swyddfeydd Dinesig y Cyngor.

Sut i gyflwyno sylwadau ar y CDLlN Adneuo

Gellir cyflwyno sylwadau ar ymgynghoriad y CDLlN Adneuo yn y ffyrdd canlynol:

  • Defnyddio’r porth ymgynghori ar-lein:

Mae'r Cyngor yn annog i ymatebion gael eu cyflwyno drwy ei borth ymgynghori ar-lein, sy'n cynnwys nodweddion i'ch helpu i wneud sylwadau, yn ogystal â nodwedd i gadw ac adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad cyn eu cyflwyno'n derfynol.

I gyflwyno ymateb ar-lein i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo, bydd angen i chi naill ai fewngofnodi i'r cyfrif sydd gennych yn barod (os cyflwynoch chi sylwadau ar gam y Strategaeth a Ffefrir neu os cofrestroch chi eich diddordeb) neu sefydlu cyfrif newydd a dilyn y Canllawiau sydd ar gael ar y wefan. Gallwch ddefnyddio'r porth ymgynghori ar-lein i ddarllen a chyflwyno sylwadau ar y CDLlN Adneuo a'r ddogfennaeth ategol. Mae'r porth ymgynghori ar-lein ar gael yn: https://valeofglamorgan.oc2.uk/cy/

  • Post: Gallwch argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen sylwadau i'r tîm CDLl yn: Tîm Polisi Cynllunio, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri CF63 4RU

Mae ffurflen sylwadau ymgynghoriad y CDLlN Adneuo ar gael mewn fformatau eraill ar gais, e.e. Cymraeg neu brint bras. Cysylltwch â Thîm y CDLl yn LDP@valeofglamorgan.gov.uk neu'r cyfeiriad uchod.

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad?

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd yn ofalus ac yn paratoi Adroddiad Ymgynghori a fydd yn nodi pwy yr ymgynghorwyd â nhw, y materion allweddol a godwyd a sut y mae'r Cyngor yn credu y dylid mynd i'r afael â phob sylw.

Bydd y Cynllun a'i ddogfennaeth ategol, gan gynnwys yr Adroddiad Ymgynghori, yn cael eu hystyried gan y Cyngor Llawn i gymeradwyo ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a fydd yn trefnu i Arolygydd Cynllunio annibynnol gael ei benodi i archwilio'r Cynllun.

Bydd yr Arolygydd Cynllunio yn ystyried a yw'r Cynllun yn addas at y diben trwy ei asesu yn erbyn tri phrawf o gadernid:

  • Prawf 1: A yw'r cynllun yn gweddu?
  • Prawf 2: A yw'r cynllun yn addas?
  • Prawf 3: A fydd y cynllun yn cyflawni?

Bydd cyfres o Wrandawiadau yn cael eu cynnal i archwilio unrhyw faterion y mae angen eglurhad pellach ar yr Arolygydd yn eu cylch. Bydd yr Arolygydd yn ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed ar y Cynllun Adneuo ond bydd gan y rhai sydd wedi gwneud sylwadau yr hawl hefyd i gael eu clywed mewn Gwrandawiad Archwilio.

Yn dilyn y Gwrandawiadau, bydd yr Arolygydd yn paratoi adroddiad sy'n ystyried y materion a godwyd. Os canfyddir bod Cynllun yn gadarn, yn amodol ar newidiadau, bydd adroddiad yr Arolygydd yn nodi argymhellion rhwymol. Gall argymhellion gynnwys ailddrafftio testun, hepgor polisi neu adran o destun (neu gynnwys un newydd), neu newidiadau i'r Map Cynigion, ar yr amod bod yr hyn sy'n weddill yn gynllun cadarn pan gaiff ei ddarllen yn ei gyfanrwydd.

Ar ôl derbyn adroddiad yr Arolygydd, bydd y Cyngor mewn sefyllfa i fabwysiadu'r CDLlN, a fydd yn disodli’r Cynllun Datblygu Lleol presennol a fabwysiadwyd ar gyfer 2011-2026, a bydd yn dod yn fframwaith y caiff penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ym Mro Morgannwg eu gwneud yn ei erbyn.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig