1 Ymgynghoriad ar Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Yn dod i ben ar 11 Mawrth 2026 (41 diwrnod ar ôl)

4 THEMÂU ALLWEDDOL, GWELEDIGAETH AC AMCANION Y CDLlN

THEMÂU ALLWEDDOL Sylw

4.1Rôl y CDLlN yw darparu fframwaith polisi a fydd yn mynd i'r afael â'r materion defnydd tir y mae Bro Morgannwg a’i chymunedau yn eu hwynebu. O ystyried cyd-destun a nodweddion uchod y Fro, gan gynnwys materion allweddol ym maes polisi cenedlaethol a chynlluniau a strategaethau lleol a rhanbarthol eraill, yn ogystal ag adborth a gafwyd gan ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth baratoi'r cynllun, nodwyd y Themâu Allweddol canlynol.

Themâu Allweddol y CDLlN

Logo

Lliniaru ac Addasu i Newid Hinsawdd

Blaenoriaethu lliniaru ac addasu i Newid Hinsawdd, gan sicrhau bod datblygiadau a defnydd tir yn y Fro yn ymateb i'r achosion ac yn wydn i effeithiau Newid Hinsawdd.

Logo

Gwella Iechyd Meddyliol a Chorfforol a Llesiant

Gwella iechyd a lles ein trigolion trwy feithrin cymunedau llesol ac iach ar gyfer byw, gweithio ac ymweld â nhw, a lleihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol-economaidd mewn modd cynaliadwy.

Logo

Cartrefi i Bawb

Mae angen i’r cyflenwad tai allu ymateb i boblogaeth gynyddol yr awdurdod ond rhaid iddo hefyd fod yn briodol o ran math, deiliadaeth a lleoliad. Yn ogystal, rhaid cael darpariaeth ddigonol o dai fforddiadwy er mwyn darparu ar gyfer y rhai sydd mewn angen.

Logo

Creu Lleoedd

Hwyluso'r gwaith o ddatblygu cymunedau addasadwy, hygyrch, cysylltiedig iawn sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth, yn cynnig ystod gynaliadwy o wasanaethau a chyfleusterau ac sydd â seilwaith atodol addas.

Add alt text here

Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol

Gwarchod a gwella ansawdd, cysylltedd a gwydnwch amgylchedd naturiol a seilwaith rhwydwaith gwyrdd / glas y Fro a gwneud y gorau o’r cyfleoedd i gyflawni budd bioamrywiaeth net. Rhaid rheoli adnoddau naturiol, mwynau a gwastraff mewn ffordd gynaliadwy ym Mro Morgannwg er mwyn sicrhau effeithlonrwydd adnoddau, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Logo

Cofleidio Diwylliant a Threftadaeth

Cadw a gwella asedau diwylliannol a threftadaeth yr awdurdod, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd a gyflwynir gan hunaniaeth amgylcheddol a diwylliannol hanesyddol a naturiol y Fro.

Logo

Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog, a Chysylltiedig

Meithrin datblygiad cymunedau diogel a chydlynol sydd wedi'u cysylltu'n dda, a sicrhau bod yr holl brosesau ymgysylltu mor gynhwysol â phosibl, gan ganiatáu i bawb sy'n dymuno rhannu eu barn drwy gydol proses y CDLlN i wneud hynny.

Logo

Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy

Creu a hyrwyddo’r defnydd o ddulliau cynaliadwy o deithio, yn enwedig dulliau teithio llesol, tra'n lleihau'r angen i deithio ar yr un pryd.

Logo

Adeiladu Economi Lewyrchus a Gwyrdd

Hwyluso twf economaidd ledled yr awdurdod, gan sicrhau amrywiaeth a dewis o safleoedd cyflogaeth lleol a strategol a chyfleoedd gwaith mewn ymateb i anghenion cyflogaeth. Dylai'r cyfleoedd hyn allu addasu i newid a meithrin twf gweithlu medrus iawn.

4.2Mae datblygiad elfennau craidd y CDLlN, sef y Weledigaeth, amcanion a pholisïau strategol a nodir yn yr adrannau canlynol wedi'i lywio gan y themâu allweddol hyn.

GWELEDIGAETH (2021 - 2036) Sylw

4.3Mae gan y CDLlN rôl hanfodol i'w chwarae wrth hyrwyddo a darparu cymunedau cynaliadwy, bywiog a chynhwysol. Mewn ymateb i'r materion strategol a'r themâu allweddol, mae Gweledigaeth y CDLlN, ynghyd â'r 10 amcan strategol, yn cyfleu’r ffordd y bydd y Cyngor, drwy gynllunio defnydd tir, yn sicrhau bod datblygu yn y dyfodol yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r materion allweddol hyn. Mae'r Weledigaeth yn cefnogi'r cyfleoedd a'r uchelgeisiau ar gyfer Bro Morgannwg dros oes y cynllun.

4.4Mae Gweledigaeth y CDLlN yn edrych ymlaen 15 mlynedd hyd at 2036 ac yn dangos sut y bydd twf yn cyfrannu at wneud y Fro yn lle iachach, cysylltiedig a chynaliadwy lle mae pobl eisiau byw a gweithio. Mae'n pennu’r cyfeiriad cyffredinol a ddisgrifir yn fanylach mewn amcanion gofodol mwy penodol, ac yn ffurfio'r cysylltiad rhwng y weledigaeth lefel uchel a'r strategaeth twf gofodol a'r polisïau strategol.

Gweledigaeth CDLlN Bro Morgannwg

Erbyn 2036:

Bydd y Cyngor wedi cyflawni ei darged o fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae wedi mabwysiadu technegau arloesol a defnyddio adnoddau yn effeithlon i liniaru ei effaith ar yr amgylchedd, ac mae prosiectau di-garbon enghreifftiol gan gynnwys ysgolion a rhwydweithiau gwresogi ardal wedi'u gweithredu. Mae datblygu Parc Ynni Gwyrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Aberddawan wedi sefydlu Bro Morgannwg fel canolfan ranbarthol ar gyfer arloesi ym maes ynni adnewyddadwy a gwyrdd a gweithgynhyrchu di-garbon. Mae'r holl ddatblygiadau ym Mro Morgannwg bellach wedi eu hadeiladu i'r safonau uchaf o ran dylunio a pherfformiad amgylcheddol, gan ymgorffori mesurau i liniaru ac addasu i effeithiau Newid yn yr Hinsawdd.

Mae Bro Morgannwg yn lle iach a chynhwysol i bawb, gyda mynediad teg at wasanaethau a chyfleusterau, yn gorfforol a digidol. Mae'r trigolion yn falch o le maen nhw'n byw a gallant gael y cartrefi sydd eu hangen arnynt. Mae twf tai wedi darparu cartrefi sy'n darparu ar gyfer pawb, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy a thai pobl hŷn; gan gyfrannu tuag at gymunedau amrywiol a chydlynol lle gall trigolion gynnal eu hannibyniaeth.

Drwy greu lleoedd, mae lleoedd a gofodau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gymdeithasol gynhwysol. Mae datblygiadau yn parchu cymeriad lleol ac mae’r ymdeimlad o le yn cael ei werthfawrogi gan drigolion ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles. Cyflawnwyd gwelliannau cadarnhaol o ran lleihau bwlch yr anghyfartaledd o ran ansawdd bywyd ac mae achosion iechyd gwael wedi’u lleihau i drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf drwy well mynediad at gyflogaeth, addysg, hyfforddiant, gwasanaethau a buddsoddiad yn yr amgylchedd adeiledig.

Mae'r Fro yn mwynhau rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas cysylltiedig, aml-swyddogaethol a hygyrch, gan ddarparu ystod o fanteision hamdden ac iechyd gwell o fewn a rhwng trefi, pentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae mwy o drigolion yn ymgymryd â ffyrdd iach a llesol o fyw. Mae buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd wedi cynhyrchu budd bioamrywiaeth net gyda chreu cynefinoedd newydd, cysylltedd gwell a phlannu yn darparu datrysiadau seiliedig ar natur ac yn cyfrannu at gydnerthedd ac addasu yn wyneb Newid Hinsawdd.

Mae'r Fro'n parhau i fod yn rhywle lle mae diwylliant ac amrywiaeth pobl, a rhinweddau unigryw ei chymunedau, yn cael eu cydnabod a'u dathlu.

Mae creu lleoedd yn cefnogi ymdeimlad cryf o gymuned ac wedi cyfrannu at wella ansawdd bywyd pob cenhedlaeth. Mae trigolion ac ymwelwyr yn gallu cyrchu cyfleusterau lleol a lleoedd cynhwysol i gwrdd a chwarae ynddynt. Bydd datblygiadau newydd yn parchu cymeriad lleol y Fro, gan warchod ei hamgylchedd hanesyddol, naturiol ac adeiledig eithriadol. Mae treftadaeth hanesyddol bwysig y Fro yn parhau i gael ei gwarchod a'i gwella.

Mae Rhaglen Twf ac Adfywio'r Cyngor ar gyfer y Barri wedi llwyddo i drawsnewid y dref. Mae'r dref a chanolfannau manwerthu lleol yn lleoedd bywiog, tra bod y marina newydd yng Nglannau'r Barri ac adfywio Ynys y Barri yn cynnig twristiaeth gydol y flwyddyn. Mae amrywiaeth o gynlluniau ardaloedd cyhoeddus wedi gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol drwy'r dref.

Mae trefi'r Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth yn ganolfannau gwasanaeth cynaliadwy bywiog a deniadol sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau a chyfleusterau i'w trigolion a'r rhai sy'n byw mewn pentrefi cyfagos. Mae canol trefi wedi addasu i adlewyrchu newidiadau mewn ymddygiad manwerthu a bellach yn gweithredu fel canolfannau aml-ddefnydd sy'n darparu mannau manwerthu, hamdden, adloniant, cymunedol a chyflogaeth.

Mae twf o fewn aneddiadau gwledig wedi darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn cefnogi cymunedau aml-genhedlaeth cytbwys sy'n cyfrannu at fywiogrwydd yr ardal wledig. Trwy fuddsoddi mewn teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, a chysylltedd band eang mae'r fro wledig yn gefn gwlad byw a gweithiol sy'n cefnogi rhwydwaith o gymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus.

Mae cyflawni Metro De-ddwyrain Cymru yn golygu bod Bro Morgannwg bellach wedi'i chysylltu'n dda gan system drafnidiaeth integredig sy'n cefnogi twf economaidd a lleihad yn y defnydd o geir preifat o ganlyniad i hynny. Mae gan gymunedau fynediad at gysylltedd trafnidiaeth gwell yn lleol ac yn rhanbarthol, gyda thwf economaidd a thai yn cael ei ddarparu'n gynaliadwy er budd cymunedau. Mae rhwydweithiau teithio llesol gwell o fewn a rhwng trefi a phentrefi wedi creu cymdogaethau bywiog a hygyrch i drigolion sydd wedi eu cysylltu â'u haneddiadau gwledig cyfagos.

Mae gan y Fro economi leol ffyniannus gyda sylfaen fusnes gytbwys ac amrywiol. Mae twf cyflogaeth newydd ym Mharthau Menter Bro Tathan a Maes Awyr Caerdydd wedi denu buddsoddiad mewnol gan fusnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth ac uwch-dechnoleg, gan greu cyflogaeth a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae gan y Fro weithlu medrus sy’n gallu ymaddasu. Mae darparu safleoedd cyflogaeth strategol a lleol, ochr yn ochr â chyfleoedd i fusnesau gwledig, arallgyfeirio amaethyddol a chysylltedd digidol, wedi galluogi busnesau presennol i dyfu a ffynnu ac mae wedi cyfrannu at ostyngiad mewn cymudo allan o’r ardal.

Drwy fuddsoddi'n gryf mewn twristiaeth, hamdden, adloniant ac isadeiledd gwyrdd, mae Bro Morgannwg yn gyrchfan ymwelwyr gydol y flwyddyn. Mae rheoli sensitif a chynaliadwy ar ei hasedau adeiledig a naturiol gan gynnwys yr Arfordir Treftadaeth, Parciau Gwledig, traethau, cefn gwlad a threftadaeth hanesyddol wedi galluogi twristiaeth i ffynnu. Mae'r Fro yn denu ymwelwyr o bell ac mae twristiaeth yn ffynhonnell bwysig o gyflogaeth leol, buddsoddiad, ac yn hwylusydd arallgyfeirio gwledig.

AMCANION STRATEGOL Sylw

4.5Mae'r 10 amcan strategol isod yn ehangu gweledigaeth y CDLl yn 9 thema allweddol ar gyfer Bro Morgannwg. Mae'r amcanion hyn nid yn unig yn adlewyrchu polisi cynllunio cenedlaethol, ond hefyd dyheadau'r Cyngor a rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n dangos sut y bydd y CDLlN yn helpu i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

Amcan 1 - Lliniaru ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

  • Sicrhau'r defnydd effeithlon o adnoddau naturiol, hyrwyddo technegau dylunio ac adeiladu cynaliadwy o fewn datblygiadau newydd. Cefnogi mwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, gan gynnwys cynlluniau gwresogi ardaloedd a rhai wedi'u harwain gan y gymuned.
  • Annog datblygiad sy'n lleihau'r angen i deithio mewn car ac annog pobl i arfer teithio llesol a defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer.
  • Sicrhau bod yr holl ddatblygiadau a seilwaith newydd yn wydn o ran effeithiau sy’n deillio o’r Newid yn yr Hinsawdd yn y dyfodol. Cyfeirio datblygiadau i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg o lifogydd a/neu erydu arfordirol wedi’i nodi ac ymgorffori mesurau rheoli dŵr, mesurau cyfoethogi bioamrywiaeth a mesurau addasu.

Amcan 2 - Gwella Iechyd a Lles Meddyliol a Chorfforol

  • Sicrhau bod pob man yn cynnig amgylcheddau cynhwysol a hygyrch ar gyfer pob oedran sy'n hwyluso rhyngweithio â natur a phobl eraill, a mynediad at gyfleusterau gofal iechyd angenrheidiol. Galluogi preswylwyr i gymryd rhan mewn ffyrdd o fyw actif, drwy ddarparu mynediad cyfleus i fannau agored a llwybrau teithio llesol ar gyfer hamdden, adloniant a gwaith.
  • Galluogi darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac adfywio lleol sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol.

Amcan 3 - Cartrefi i Bawb

  • Sicrhau bod pob datblygiad preswyl newydd yn darparu tai o safon uchel sy'n cynnwys y cymysgedd, y ddeiliadaeth a'r math o gartrefi cywir sy'n ymateb i anghenion newidiol poblogaeth y Fro. Mae hyn yn cynnwys cartrefi sy'n fforddiadwy, hygyrch ac addasadwy i bobl o bob oed ac sy'n mynd i'r afael ag anghenion llety a nodwyd yn holl gymunedau'r Fro drwy bob cyfnod o'u bywydau.

Amcan 4 - Creu Lleoedd

  • Drwy greu lleoedd, sicrhau y bydd pob datblygiad yn cyfrannu'n gadarnhaol tuag at greu ymdeimlad o le. Bydd yr holl ddatblygiadau newydd wedi'u lleoli'n briodol ac yn cyfrannu tuag at greu lleoedd llesol, diogel, a hygyrch sy'n cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau. Bydd cymeriad y cymunedau presennol yn cael ei ddiogelu a'i wella drwy ddatblygu lleoedd sy'n parchu arbenigrwydd lleol a'r lleoliadau presennol.
  • Hwyluso darpariaeth seilwaith cymunedol hygyrch sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion y gymuned, gan gynnwys iechyd o ansawdd uchel, addysg, hyfforddiant, a chyfleusterau a mannau cymunedol diwylliannol, cymdeithasol a hamdden.

Amcan 5 - Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

  • Gwarchod a gwella ansawdd, cysylltedd a gwydnwch amgylchedd naturiol a seilwaith rhwydwaith gwyrdd / glas y Fro a gwneud y gorau o’r cyfleoedd i gyflawni budd bioamrywiaeth net. Blaenoriaethu tir llwyd a ddatblygwyd yn flaenorol ar gyfer datblygiadau newydd, gan gyfeirio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd o ddiddordeb gwarchod natur a diogelu'r amgylchedd naturiol sensitif rhag datblygiad amhriodol.
  • Rhaid rheoli adnoddau naturiol, mwynau a gwastraff mewn ffordd gynaliadwy er mwyn sicrhau effeithlonrwydd adnoddau, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Amcan 6 - Cofleidio Diwylliant a Threftadaeth

  • Cydnabod gwerth treftadaeth adeiledig y Fro drwy wreiddio creu lleoedd yn y broses Gynllunio, er mwyn sicrhau bod cynigion datblygu yn amddiffyn amgylchedd adeiledig hanesyddol y Fro rhag newidiadau niweidiol. Sicrhau bod datblygiadau newydd yn gwarchod a gwella rhinweddau deniadol asedau hanesyddol y Fro, yn ymateb yn briodol i'r cyd-destun unigryw lleol ac yn sicrhau safonau dylunio uchel.
  • Cynnal a gwella cyfleusterau diwylliannol y Fro, a lle bo'n briodol sicrhau cyfleoedd ar gyfer cyfoethogi diwylliannol o fewn datblygiadau newydd, gan gynnwys hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, yr amgylchfyd cyhoeddus a thrwy ddarparu gofodau ac adeiladau cymunedol amlbwrpas.

Amcan 7 - Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog a Chysylltiedig

  • Hwyluso adfywiad ffisegol, economaidd, a chymdeithasol, gan adlewyrchu anghenion a dyheadau cymunedau lleol, drwy ddarparu cartrefi newydd, cyflogaeth, a chysylltedd trafnidiaeth gwell.
  • Galluogi arallgyfeirio o ran defnydd o fewn trefi a chanolfannau masnachol a gwasanaeth lleol i gynnig cymysgedd o ddefnyddiau manwerthu, hamdden, masnachol a chymunedol. Gwella teithio llesol a chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus o fewn a rhwng trefi ac aneddiadau cyfagos.
  • Darparu ar gyfer cymunedau gwledig hanfodol a bywiog tra'n gwarchod cefn gwlad trwy sicrhau twf mewn lleoliadau cynaliadwy, sy'n gysylltiedig â'r Hierarchaeth Aneddiadau, ochr yn ochr â darparu seilwaith ategol.

Amcan 8 - Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy

  • Sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu cyfeirio at leoliadau sydd, neu a fydd, erbyn yr amser y cânt eu meddiannu, yn hawdd eu cyrraedd drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i breswylwyr deithio’n llesol, drwy ymgorffori cyfleusterau teithio llesol ac annog newid moddol tuag at fwy o ddefnydd o drafnidiaeth gynaliadwy.
  • Dod o hyd i gyfleoedd i wneud y mwyaf o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth leol sy'n deillio o Fetro De-ddwyrain Cymru er mwyn cryfhau cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn lleol ac yn rhanbarthol, darparu rheolaeth dros y rhwydwaith priffyrdd, lleihau dibyniaeth ar geir, a chynnig dewisiadau diogel ac effeithiol ar gyfer cerdded a beicio ochr yn ochr â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell.

Amcan 9 - Adeiladu Economi Ffyniannus a Gwyrdd

  • Darparu ar gyfer amrywiaeth a dewis o dir cyflogaeth o ansawdd da a chefnogi seilwaith i alluogi busnesau lleol i ehangu. Creu cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad a galluogi economi'r Fro i ymateb i newidiadau mewn patrymau gwaith a chyflogaeth yn y dyfodol.
  • Hyrwyddo Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan a safle’r hen orsaf bŵer yn Aberddawan fel meysydd cyflogaeth strategol pwysig, gan ddarparu swyddi o safon uchel a medrus, hyfforddiant a chyfleoedd addysg. Cefnogi arallgyfeirio'r economi wledig, gan alluogi cyfleoedd i ddarparu safleoedd cyflogaeth a busnes o fewn aneddiadau gwledig a hwyluso'r twf mewn mentrau gwledig.
  • Hwyluso twf twristiaeth gynaliadwy, gan gydnabod ei gyfraniad at les economaidd y Fro. Galluogi gwell hamdden, adloniant, gweithgarwch economaidd, arallgyfeirio, a datblygu cynaliadwy.

Amcan 10 - Hyrwyddo Twristiaeth Gynaliadwy

  • Creu cyrchfan twristiaeth deniadol gyda darlun positif i Fro Morgannwg, gan annog datblygu cynaliadwy a chyfleusterau o safon i wella profiad ymwelwyr a phreswylwyr.
Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig