Draft Economic Development, Employment Land and Premises SPG

Daeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7. Gweithio Gartref

7.1.1. Mae'n debygol na fyddai angen caniatâd cynllunio ar fwyafrif y bobl sy'n gweithio gartref i wneud hynny gan y byddai'n cael ei ystyried yn ddefnydd sy'n gysylltiedig â phrif swyddogaeth yr annedd, heb arwain at newid defnydd materol. Er enghraifft, ni fyddai defnyddio ystafell mewn adeilad presennol, megis stydi neu ystafell fwyta, fel swyddfa gartref neu ofod gweithio yn gofyn am ganiatâd cynllunio a byddai'n cael ei ystyried yn gysylltiedig â'r prif ddefnydd o'r annedd. Fodd bynnag, lle mae gweithio gartref yn newid cymeriad cyffredinol annedd i rywbeth arall, mae'n debygol y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd hyd yn oed os oes elfen o ddefnydd preswyl o fewn yr eiddo o hyd (h.y. defnydd cymysg).

7.1.2. Gellir asesu a fyddai cymeriad cyffredinol annedd yn cynnwys newid defnydd materol gan ddefnyddio'r meini prawf eang canlynol:

  1. A fydd eich cartref yn peidio â gweithredu'n bennaf fel preswylfa breifat?
  2. A fydd eich busnes yn arwain at gynnydd amlwg mewn traffig neu bobl yn galw, neu gerbydau busnes yn cael eu storio gerllaw?
  3. A fydd eich busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy'n anarferol mewn ardal breswyl?
  4. A fyddai eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar oriau afresymol neu'n creu mathau eraill o niwsans fel sŵn neu arogleuon?

7.1.3. Os byddai gweithgaredd masnachol arfaethedig yn dod o fewn unrhyw un o'r meini prawf eang, mae'n debygol y byddai angen caniatâd cynllunio. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu sut y bydd y meini prawf eang yn cael eu hystyried ym Mro Morgannwg.

7.1.4. Dylid cydnabod na fydd yr angen am ganiatâd cynllunio, oherwydd newid defnydd materol, o reidrwydd yn golygu y byddai'r gweithgaredd yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn nhermau cynllunio. Mewn rhai achosion gall unedau bywyd-gwaith o'r fath fod yn ychwanegiad i'w groesawu i gymuned gynaliadwy. Bydd pob achos yn cael ei ystyried o dan y fframwaith polisi sy'n cael ei amlinellu yn adran 4 a gellir gofyn am gyngor pellach drwy ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio.

7.2. A fydd eich cartref yn peidio â chael ei ddefnyddio'n bennaf fel preswylfa breifat?

7.2.1. Mae'r maen prawf hwn yn ymwneud â sut y byddai'r busnes neu'r gwaith arfaethedig yn newid swyddogaeth yr annedd breswyl. Mae'r brif ystyriaeth yn ymwneud ag a fyddai'r breswylfa breifat yn parhau i weithredu fel annedd ddomestig ac a fyddai'r newid yn arwain at elfen sylweddol o'r eiddo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd masnachol.

7.2.2. Dosberthir defnyddiau preswyl o dan Ddosbarth C Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r defnydd C3 yn cynnwys anheddau, tai, fflatiau a rhandai sy'n cynnal un aelwyd. Nodweddir y mathau domestig hyn o adeiladau gan ddarpariaeth ar gyfer anghenion deiliaid o ddydd i ddydd, gan alluogi pobl i fyw yn yr adeilad. Gall hyn gynnwys ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, ceginau, ystafelloedd byw, ystafelloedd bwyta, stydis, garejys ac ystafelloedd eraill sy'n gysylltiedig â defnyddiau preswyl. Gall annedd wasanaethu sawl diben a gall ddarparu ar gyfer gwahanol rolau sy'n ofynnol gan ddeiliaid, fodd bynnag, byddai gweithgaredd masnachol sy'n newid yn sylweddol sut y mae'r annedd yn gweithredu yn cael ei ystyried yn newid defnydd a byddai angen caniatâd cynllunio arno.

7.2.3. Er enghraifft, efallai y bydd angen gofod ychwanegol ar fusnes newydd i weithredu gan arwain at gyfran fawr o'r annedd bresennol sy'n cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol megis defnyddio rhan o'r llawr gwaelod ar gyfer salon gwallt, creu gweithdy masnachol ac ardal storio ar gyfer cynhyrchion. Er y gallai'r gofod sy'n weddill yn yr adeilad barhau i allu gweithredu fel annedd ddomestig, mae'r gweithgaredd masnachol wedi newid swyddogaeth yr annedd ddomestig wreiddiol yn sylweddol ac felly byddai angen caniatâd cynllunio.

7.3. A fydd eich busnes yn arwain at gynnydd amlwg mewn traffig, pobl yn galw neu gerbydau busnes yn cael eu storio gerllaw?

7.3.1. Yn gyffredinol, cyfyngedig yw effaith anheddau domestig ar gynhyrchu traffig o gymharu â gweithgareddau masnachol. Felly, pan fydd busnes newydd yn dechrau gartref mae'n bwysig nodi a fyddai hyn yn arwain at gynnydd mewn traffig neu gwsmeriaid yn cyrraedd yr eiddo a allai gael effaith andwyol ar dagfeydd ac amwynder preswyl yn yr ardal.

7.3.2. Er enghraifft, gallai defnydd masnachol arfaethedig ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchion neu ddeunyddiau gael eu danfon i'r eiddo yn rheolaidd gan achosi aflonyddwch i'r rhwydwaith priffyrdd lleol ac o bosibl effeithio ar amwynder preswyl pan fydd nwyddau'n cael eu dadlwytho. Yn ogystal, lle mae defnydd masnachol yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fynychu'r eiddo gallai hyn gynyddu nifer y bobl sy'n cyrraedd mewn car a allai arwain at barcio gormodol ar y stryd, a fyddai allan o gymeriad ar gyfer ardal breswyl. Yn yr un modd, gall busnes masnachol gyda cherbydau masnachol wedi'u parcio gerllaw a ddefnyddir ar gyfer mwy na dim ond cymudo / defnydd domestig, achosi neu waethygu problemau parcio / tagfeydd a hyd yn oed niweidio amwynder gweledol ardal.

7.3.3. Os byddai gweithgaredd masnachol arfaethedig yn arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig, cerbydau masnachol neu gwsmeriaid yn cyrraedd eiddo, mae'n debygol y byddai angen caniatâd cynllunio.

7.4. A fydd eich busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy'n anarferol mewn ardal breswyl?

7.4.1. Yn gyffredinol, lleolir eiddo preswyl mewn ardaloedd trefol neu o fewn grwpiau o eiddo preswyl tebyg. Mae disgwyl o fewn yr ardaloedd hyn y bydd y defnyddiau cyfagos hefyd yn breswyl eu natur. Yn y mwyafrif o achosion byddai defnyddiau amhreswyl yn cael eu lleoli mewn ardaloedd masnachol sydd wedi'u nodi, fel canol trefi neu safleoedd cyflogaeth. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn wir ac mae eithriadau sy'n ychwanegu at ansawdd cymdogaethau megis siop gornel wedi'i lleoli mewn ardal breswyl. Yn yr achosion hyn, ystyrir y defnydd amhreswyl yn gydnaws â'r eiddo preswyl ac ni fyddai'n cael effaith niweidiol ar amwynder preswyl.

7.4.2. Gall gweithgaredd masnachol newydd o fewn eiddo presennol arwain at weithgareddau sy'n cael effaith ar amwynder preswyl a byddai angen ei ystyried drwy'r broses gynllunio er mwyn sicrhau nad yw'r effeithiau'n cael effaith niweidiol sylweddol ar gymeriad preswyl ac amwynder yr ardal.

7.4.3. Gall hyn gynnwys defnyddiau sy'n annhebygol o fod yn gydnaws o fewn ardaloedd preswyl megis prosesau diwydiannol, lles anifeiliaid, garejys cerbydau, paratoi bwyd poeth neu gludfwyd, neu fanwerthu. Gellid ystyried y defnyddiau hyn yn briodol, fodd bynnag, byddai angen iddynt fod yn destun y broses gynllunio i benderfynu beth fyddai'r effeithiau tebygol ar yr ardal.

7.5. A fyddai eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar oriau afresymol neu'n creu mathau eraill o niwsans fel sŵn neu arogleuon?

7.5.1. O fewn ardaloedd preswyl, gall gweithgarwch masnachol achosi aflonyddwch amrywiol na fyddai'n dderbyniol nac yn ddisgwyliedig o fewn ardal a nodweddir gan ddefnyddiau preswyl. Yn ogystal, lle ystyrir defnyddiau masnachol yn briodol, byddai angen cyfyngu'r oriau y caniateir iddynt weithredu i oriau rhesymol er mwyn sicrhau nad ydynt yn amharu ar yr amwynder preswyl.

7.5.2. Gall gweithgaredd masnachol yn ymwneud â gweithdai, garejys neu ddefnyddiau diwydiannol ysgafn eraill greu sŵn, llwch neu arogleuon sy'n debygol o amharu ar amwynder preswyl. Gall hyn gael ei achosi gan y peiriannau sy'n ymwneud â'r gweithgaredd masnachol a'r cynhyrchion sy'n cael eu creu/eu defnyddio yn y prosesau. O ran oriau gweithredol, mae'n bwysig bod gweithgarwch masnachol o fewn ardaloedd preswyl yn cael ei reoli ac yn cael ei gadw o fewn oriau rhesymol. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y defnydd ond yn gyffredinol ystyrir mai oriau gweithredu rhesymol mewn ardaloedd preswyl yw:

  • Llun - Gwener: 9:00a.m. i 17:00p.m.
  • Sadwrn: 9:00a.m. i 14:00p.m.
  • Sul: Ar Gau

7.5.3. Os oes gan y gweithgaredd masnachol y potensial i achosi aflonyddwch i amwynder preswyl neu os byddai'n gweithredu o fewn oriau afresymol, bydd yn debygol o fod angen caniatâd cynllunio.

7.6. Datblygiad a Ganiateir

7.6.1. Efallai y byddai'n well gan rai pobl sy'n gweithio gartref gael ardal ar wahân i ymgymryd â'u gwaith i greu rhaniad rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref. Lle nad yw'n bosibl neu'n ddymunol creu man gwaith o fewn ystafell bresennol o fewn annedd gellid adeiladu adeilad allanol o fewn cwrtil eiddo i ddarparu gofod gweithio gartref. Weithiau gellir cyflawni hyn heb yr angen am ganiatâd cynllunio - gelwir hyn yn ddatblygiad a ganiateir. Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd) yn rhoi hawliau datblygiad a ganiateir i ddeiliaid tai ymgymryd â mân welliannau a newidiadau penodol i'w heiddo heb yr angen am ganiatâd cynllunio.

7.6.2. Gall deiliaid tai ddatblygu adeilad allanol o dan Ddosbarth E, datblygiad a ganiateir. Mae Dosbarth E yn caniatáu darparu amrywiaeth o adeiladau a strwythurau allanol o fewn cwrtil yr anhedd-dy sydd eu "hangen at bwrpas sy'n gysylltiedig â mwynhad o'r anhedd-dy". Mae datblygiad o'r fath yn cynnwys siediau gardd, adeiladau storio eraill, garejys, deciau gardd, pyllau, swyddfeydd cartref neu weithdai bach. Mewn rhai achosion, gallai hawliau datblygiad a ganiateir fod wedi eu tynnu o eiddo ac felly dylech bob amser wirio gyda'r Cyngor yn hytrach na chymryd yn ganiataol fod gennych hawliau datblygiad a ganiateir.

7.6.3. Ystyrir adeilad allanol yn ddatblygiad a ganiateir lle mae'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • unrhyw adeilad sydd ei angen at ddiben sy'n gysylltiedig â mwynhad o'r anhedd-dy o fewn cwrtil eiddo;
  • byddai cyfanswm arwynebedd y tir a gwmpesir gan adeiladau o fewn y cwrtil (ac eithrio'r anhedd-dy gwreiddiol) yn 50% neu'n llai o gyfanswm arwynebedd y cwrtil;
  • rhaid i unrhyw ran o'r adeilad beidio ag ymestyn y tu hwnt i wal sy'n rhan o brif weddlun yr anhedd-dy gwreiddiol;
  • rhaid i unrhyw ran o'r adeilad beidio ag ymestyn y tu hwnt i wal sy'n rhan o weddlun ochr o'r anhedd-dy presennol, ac ni ddylai fod yn agosach i'r briffordd na 5 metr neu wal y gweddlun ochr sydd agosaf at y briffordd;
  • ni ddylai'r adeilad fod â mwy nag un llawr;
  • rhaid i uchder unrhyw ran o'r adeilad wedi'i fesur o wyneb y ddaear yn union wrth ymyl y rhan honno, fod o dan 4 metr yn achos adeilad sydd â tho ar oleddf neu 3 metr mewn unrhyw achos arall;
  • ni ddylai unrhyw ran o'r adeilad fod o fewn 2 fetr i ffin cwrtil yr anhedd-dy; nac yn fwy na 2.5 metr o uchder uwchben wyneb y ddaear yn union wrth ei ymyl;
  • ni ddylai uchder bondo'r adeilad, wedi'i fesur ar unrhyw bwynt ar ei hyd, fod yn fwy na 2.5 metr;
  • ni ddylai unrhyw ran o'r adeilad fod wedi'i lleoli o fewn 2 fetr i'r anhedd-dy na bod yn fwy na 1.5 metr o uchder uwchben wyneb y ddaear yn union wrth ei ymyl;
  • rhaid peidio â lleoli'r adeilad o fewn cwrtil adeilad rhestredig;
  • ni ddylai gynnwys adeiladu neu ddarparu feranda, balconi na phlatfform wedi'i godi y mae unrhyw ran ohonynt yn fwy na 30 centimetr uwchben wyneb y ddaear yn uniongyrchol oddi tanynt;
  • ni ddylai gynnwys ehangu, gwella na newid arall i unrhyw ran o anhedd-dy;
  • ni ddylai gynnwys gosod, newid neu amnewid antena microdon.

7.6.4. Os yw'r eiddo wedi'i leoli mewn Ardal Gadwraeth mae meini prawf ychwanegol yn berthnasol:

  • rhaid i'r cyfanswm arwynebedd tir a gwmpesir gan adeiladau sydd wedi'u lleoli dros 20 metr o unrhyw wal o'r anedd-dŷ beidio â bod yn fwy na 10 metr sgwâr;
  • ni ddylai unrhyw ran o'r adeilad gael ei leoli ar dir rhwng wal sy'n rhan o weddlun ochr yr anedd-dŷ presennol a'r rhan o ffin cwrtil yr anedd-dŷ sy'n wynebu'r wal honno.

7.6.5. Un o'r prif ystyriaethau wrth benderfynu a yw cynnig yn bodloni'r meini prawf datblygiad a ganiateir a nodir o dan Ddosbarth E yw a yw'n cael ei ystyried yn gysylltiedig â mwynhad o'r anhedd-dy. O dan ddatblygiad a ganiateir, ni all y defnydd arfaethedig o'r adeilad allanol gynnwys llety byw hunangynhwysol ar wahân (h.y. rhandy preswyl) na defnyddio adeilad allanol fel prif lety byw, megis ystafell wely, ystafell ymolchi, neu gegin. Yr ystyriaeth allweddol yw: pe bai defnyddio gofod yn sylfaenol i weithrediad cyffredin yr annedd o ddydd i ddydd, ni fyddai'n gysylltiedig ond yn rhan o'r prif lety.

7.7. Unedau Byw / Gwaith

7.7.1. Mae tueddiadau diweddar yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gweithio gartref a gallai hyn greu mwy o alw am unedau byw / gwaith. Mae polisi cynllunio cenedlaethol Cymru yn cefnogi datblygiadau defnydd cymysg gan eu nodi fel mathau cynaliadwy o ddatblygiad sy'n lleihau'r angen i gymudo i'r gwaith. Mewn perthynas ag unedau byw/gwaith mae PCC yn nodi "Dylai polisïau datblygu a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) gefnogi datblygiadau defnydd cymysg, gan gynnwys unedau byw/gwaith a safleoedd masnachol hyblyg, lle mae'r rhain yn briodol" (PCC, para.5.4.14).

7.7.2. Nid yw polisi cenedlaethol yn diffinio beth yw uned byw/gwaith. Y rheswm am hyn yw nad yw byw/gwaith yn gategori hawdd i'w ddiffinio ac fe'i defnyddir yn fwy fel syniad cysyniadol yn hytrach na therm cyfraith gynllunio manwl gywir. Mae unedau byw/gwaith fel arfer yn gymysgedd o ddefnyddiau C3 a B1 sydd wedi'u cynnwys o fewn un eiddo, ond mae'n bosibl y bydd defnyddiau eraill yn gydnaws â defnydd preswyl. Mae'n annhebygol y bydd defnyddiau B2 a B8 yn gydnaws â defnyddiau preswyl oherwydd eu heffaith debygol ar amwynder preswyl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad byw/gwaith. Gallai defnyddiau eraill fel A1 ac A2 hefyd gynnwys agweddau preswyl ond ystyrir y gall y rhain gael eu cwmpasu'n briodol mewn mannau eraill gan bolisïau cynllunio manwerthu.

7.7.3. Mae rhagdybiaeth polisi o blaid cynigion unedau byw/gwaith yn PCC. Fodd bynnag, rhaid i ddatblygwyr ddangos bod y defnydd cyflogaeth arfaethedig a'r defnydd preswyl C3 yn gydnaws â'i gilydd o fewn yr un uned ac o fewn y cyd-destun ehangach. Cefnogir hyn gan PCC sy'n nodi "Er y gall cyflogaeth a defnyddiau preswyl fod yn gydnaws, dylai awdurdodau cynllunio roi sylw i agosrwydd a chydweddiad anheddau arfaethedig i ddefnyddiau diwydiannol a masnachol presennol i sicrhau nad yw cyfleoedd amwynder preswyl a datblygu economaidd yn cael eu cyfaddawdu'n ormodol." (PCC, para.5.4.15, 2021).

7.7.4. Bydd angen i ofynion parcio ar gyfer unedau byw/gwaith ystyried anghenion y deiliad preswyl a'r busnes arfaethedig. Er y gall natur unedau byw/gwaith leihau'r angen i deithio mewn ceir preifat yn dibynnu ar leoliad y datblygiad arfaethedig efallai y bydd angen elfen o barcio i breswylwyr o hyd. Ar ben hynny, yn dibynnu ar y defnydd cyflogaeth arfaethedig, gallai fod gofynion parcio ychwanegol megis lle i ddarparu ar gyfer danfoniadau a/neu barcio cwsmeriaid, gall hyn fod yn ddibynnol ar leoliad y cynnig a'i agosrwydd at ddulliau teithio amgen megis trafnidiaeth gyhoeddus neu ddarpariaeth teithio llesol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig