Draft Economic Development, Employment Land and Premises SPG
3. Statws y Canllaw
3.1. Dim ond polisïau'r Cynllun Datblygu all gael y statws arbennig a roddir gan Adran 38(6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, sy'n ei gwneud yn ofynnol, "wrth wneud unrhyw benderfyniad o dan y Deddfau Cynllunio, yr ystyrir y cynllun datblygu ac y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â'r cynllun oni bai bod ystyriaeth berthnasol yn nodi fel arall." Yn ôl Llywodraeth Cymru gallai CCA fod yn ystyriaeth berthnasol ar yr amod ei fod yn gyson â'r CDLl. Bydd y pwys a roddir iddo'n cynyddu os yw'n unol â pholisïau'r CDLl ac wedi bod yn destun ymgynghoriad.
3.2. Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011-2026 yn ffurfio haen lefel awdurdod lleol fframwaith y cynllun datblygu, a 'Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040' yw'r cynllun datblygu cenedlaethol. Mae'r CCA hwn yn ategu'r polisïau a geir yn y cynlluniau datblygu, a bydd yn berthnasol i benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio o ran datblygiad newydd ym Mro Morgannwg.
3.3. Cymeradwywyd y CCA gan y Cabinet fel drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 29ain Medi 2022 (cyfeiriwch at Rif Cofnod C80). Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CCA yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio perthnasol yn y dyfodol ym Mro Morgannwg.