Draft Economic Development, Employment Land and Premises SPG

Daeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

2. Cwmpas a Phwrpas y Canllaw

2.1. Mae'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) hwn wedi'i baratoi i gefnogi'r polisïau cyflogaeth allweddol sydd wedi'u cynnwys o fewn y CDLl mabwysiedig er mwyn helpu i ddiogelu ei nodau a'i amcanion gan gynnwys:

Amcan CDLl 1 - Cynnal cymunedau cynaliadwy ym Mro Morgannwg a'u datblygu ymhellach, gan roi cyfleoedd byw, dysgu, gweithio a chymdeithasu i bawb.

Amcan CDLl 8: Meithrin datblygiad economi leol amrywiol a chynaliadwy sy'n bodloni anghenion Bro Morgannwg a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru.

2.2. Mae'r CCA hwn yn cynnig cyngor ynghylch sut y bydd cynigion datblygu'n cael eu hystyried ym Mro Morgannwg er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r manteision economaidd a ragwelir tra'n lliniaru eu heffeithiau ar yr amgylchedd a chymunedau lleol. Mae'r canllaw hefyd yn egluro'r amgylchiadau pan fyddai'r Cyngor yn ystyried caniatáu ailddatblygu tir a safleoedd cyflogaeth presennol ar gyfer defnydd amgen neu gynigion amgen sy'n hwyluso'r gwaith o gyflawni defnyddiau cyflogaeth. Mae hefyd yn rhoi canllaw ar y dystiolaeth angenrheidiol y mae'n ofynnol i ymgeiswyr ei chyflwyno ar gyfer cynigion sy'n cynnwys defnydd ar wahân i gyflogaeth ar safleoedd cyflogaeth sy'n bodoli eisoes neu sydd wedi'u dyrannu.

2.3. Mae'r map cynigion CDLl yn nodi'r safleoedd cyflogaeth mwy sefydledig ym Mro Morgannwg sydd wedi'u rhestru ym Mholisi MD16 - Diogelu Safleoedd Cyflogaeth Presennol. Fodd bynnag, dylid nodi bod y polisi yn berthnasol i'r holl safleoedd cyflogaeth gan gynnwys eiddo busnes bach ledled Bro Morgannwg.Yn unol â hynny, mae cwmpas y CCA hwn yn ymestyn i bob safle sydd wedi'i ddosbarthu fel defnydd cyflogaeth (gweler paragraff 2.4 isod), gan gynnwys unedau gwag a ddefnyddiwyd ddiwethaf at ddefnydd cyflogaeth.

2.4. At ddibenion Polisïau CDLl MD15 ac MD16, diffinnir 'defnyddiau cyflogaeth' fel y rhai sy'n dod o fewn Dosbarth Defnydd 'B' fel y'i diffinnir yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) fel a ganlyn:

  • B1 Busnes - Swyddfeydd (ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn dosbarth A2 fel asiantau tai, banciau, broceriaid yswiriant ac ati), ymchwil a datblygu cynhyrchion a phrosesau, diwydiant ysgafn;
  • B2 Diwydiant Cyffredinol - prosesau diwydiannol ar wahân i rai sy'n dod o fewn dosbarth B1 megis gweithgynhyrchu a pheirianneg (gan eithrio dibenion llosgi, triniaeth gemegol neu dirlenwi neu wastraff peryglus);
  • B8 Storio neu ddosbarthu, megis warysau cyfanwerthu, canolfannau dosbarthu, storfeydd, a hefyd yn cynnwys storio awyr agored e.e. masnachwyr adeiladu.

2.5. Fodd bynnag, gall y diffiniad dosbarth defnydd llym hwn anwybyddu defnyddiau eraill sy'n darparu'r un manteision datblygu economaidd â defnyddiau 'B1, B2 a B8' ac sy'n gofyn am fathau tebyg o safleoedd neu leoliad i weithredu'n effeithiol. Felly, yn ogystal â'r rhain, mae defnyddiau sui generis eraill o gymeriad tebyg a/neu ategol i ddefnyddiau cyflogaeth a fyddai'n dderbyniol mewn egwyddor ar safleoedd cyflogaeth presennol a dyranedig yn cael eu hystyried yn y canllaw hwn (cyfeiriwch at baragraff 6.3).

2.6. Mae tueddiadau diweddar yn awgrymu y bydd mwy o staff swyddfa'n gweithio gartref am rywfaint neu'r cyfan o'u hwythnos waith a fydd yn arwain at ganlyniadau anochel i'r galw am lety swyddfa a fydd yn cael ei ystyried ymhellach fel rhan o Adolygiad CDLl yn y dyfodol ac wrth i fwy o dystiolaeth am dueddiadau gael ei chasglu. O ganlyniad, bydd y CCA yn amlinellu'r ystyriaethau cynllunio posibl sy'n gysylltiedig â gweithio gartref. Yn ogystal, gallai'r cynnydd mewn gweithio gartref arwain at fwy o alw am unedau byw / gwaith sy'n gyfuniad o ddefnyddiau B1 ac C3. Felly, nod y CCA yw nodi sut y bydd cynigion ar gyfer datblygiad byw / gwaith yn cael eu hystyried mewn penderfyniadau rheoli datblygu ym Mro Morgannwg.

2.7. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), yn 2021 roedd 9,455 o fentrau busnes ym Mro Morgannwg, yn gweithredu ar draws ystod o sectorau cyflogaeth, gyda nifer ohonynt yn cael eu hystyried yn fusnesau micro yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. O ran cyflogaeth, dangosodd data diweddaraf SYG fod mwyafrif trigolion Bro Morgannwg wedi'u cyflogi yn y sectorau 'gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd' (30%), ac yna 23.7% mewn 'cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a chyflogaeth yn ymwneud â bwyd', 7.9% yn y sector 'adeiladu', a 9.5% mewn 'gweithgynhyrchu'. Er bod llawer o'r Fro orllewinol yn wledig, mae nifer y bobl a gyflogir yn y sector amaethyddol yn gymharol fach (yn 2018 roedd 0.01% o bobl wedi'u cyflogi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, o gymharu â 2.8% yn genedlaethol). Felly, er bod trigolion y Fro wedi'u cyflogi mewn ystod o sectorau gan gynnwys defnydd nad yw'n ddosbarth B a diwydiannau gwasanaeth fel manwerthu a lletygarwch, twristiaeth, gweinyddu ac amaethyddiaeth, bydd ystyriaethau polisi eraill yn berthnasol i'r mathau hyn o ddefnyddiau ac nid ydynt wedi'u cwmpasu gan y 'polisïau cyflogaeth' yn y CDLl na'r canllaw cynllunio atodol hwn.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig