Draft Economic Development, Employment Land and Premises SPG
4. Cyd-destun Polisi Cynllunio a Deddfwriaeth
4.1. Deddfwriaeth
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015)
4.1.1. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn gwneud i'r cyrff cyhoeddus a nodir yn y Ddeddf feddwl yn fwy am y tymor hir, gweithio gyda phobl a chymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cydweithredol at waith. Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant o dan amrywiaeth o benawdau. Gall darparu ystod a dewis priodol o safleoedd cyflogaeth gyfrannu at gyflawni'r nodau canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
4.1.2. Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar y Cyngor i gymryd camau rhesymol i arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r nodau llesiant a nodwyd uchod. Paratowyd y CCA hwn fel rhan o ddyletswydd y Cyngor a'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy', fel y nodir yn y Ddeddf, ac mae wedi ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
4.2. Polisi Cynllunio Cenedlaethol
Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 (Chwefror 2021)
4.2.1. Mae Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yn nodi fframwaith datblygu cenedlaethol strategol Llywodraeth Cymru ac mae'n adeiladu ar amcanion allweddol Polisi Cynllunio Cymru. Mae'n amlinellu strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, darparu datblygiadau o ansawdd yn y lleoedd cywir am y rhesymau cywir, cyflawni datgarboneiddio ac ymwrthedd hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles cymunedau.
4.2.2. O ran datblygu economaidd, mae Cymru'r Dyfodol yn pwysleisio'r angen i dwf economaidd yn y dyfodol alinio â datgarboneiddio economi Cymru a chefnogi arloesedd, entrepreneuriaeth a datblygiad sgiliau a chyflogaeth o ansawdd uchel.
4.2.3. Mae'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol yn amlinellu nifer o bolisïau strategol y mae'n rhaid i gynnig datblygu eu hystyried a byddant yn llywio sut y mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n dod i benderfyniadau cynllunio. Mae'r polisïau strategol canlynol yn cael eu hystyried yn debygol o fod yn berthnasol i gynigion sy'n gysylltiedig â chyflogaeth ym Mro Morgannwg:
- Polisi 1 – Ble fydd Cymru'n tyfu,
- Polisi 2 – Llywio Twf Trefol ac Adfywio – Creu Lleoedd Strategol,
- Polisi 5 – Cefnogi'r economi wledig,
- Polisi 6 – Canol Trefi yn Gyntaf,
- Polisi 13 – Cefnogi Cyfathrebu Digidol,
- Polisi 16 – Rhwydweithiau Gwres,
- Polisi 33 – Ardal Dwf Genedlaethol - Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd.
Polisi Cynllunio Cymru (PCC) Argraffiad 11 (Chwefror 2021)
4.2.4. Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) Argraffiad 11 (Chwefror 2021) yn nodi nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir yng Nghymru ar draws amrywiaeth o bynciau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'n dangos y dylai'r system gynllunio greu lleoedd cynaliadwy sy'n ddeniadol, yn gymdeithasol, yn hygyrch, yn actif, yn ddiogel, yn groesawgar, yn iach, ac yn gyfeillgar (cyfeiriwch at baragraff 2.3).
4.2.5. Mae PPC yn trosi'r nodau llesiant yn 5 egwyddor cynllunio – Tyfu Ein Heconomi mewn Modd Cynaliadwy; Defnyddio Adnoddau yn y Ffordd Orau; Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach; Creu a Chynnal Cymunedau; Mwyhau Diogelu Amgylcheddol, a Chyfyngu ar Effaith Amgylcheddol.
4.2.6. Mae'r egwyddor 'Tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy' yn nodi'r rôl sydd gan y system gynllunio wrth hwyluso datblygiad economaidd:
"Dylai'r system gynllunio alluogi datblygiadau sy'n cyfrannu at les economaidd hirdymor, gan wneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol a chynllunio ar gyfer seilwaith a gwasanaethau cefnogol newydd. Rhaid i gymunedau, llywodraeth genedlaethol a lleol, busnesau, a'r trydydd sector weithio gyda'i gilydd i bennu golwg hirdymor, gan integreiddio a chysoni blaenoriaethau drwy fwy o gydweithio i sicrhau buddion economaidd cynaliadwy i bawb yn unol â'r nodau llesiant." (cyfeiriwch at PPW Ffigur 4, Tudalen 17)
4.2.7. Mae Adran 5, Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus yn nodi'r mesurau y dylai ACLlau eu mabwysiadu wrth gyflawni eu swyddogaethau blaengynllunio a rheoli datblygu i gefnogi'r economi. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod digon o dir cyflogaeth i ddiwallu anghenion cyflogaeth yn y dyfodol ar lefel leol a strategol, cyfarwyddo defnyddiau cyflogaeth i'r lleoliadau mwyaf priodol, a darparu fframwaith ar gyfer diogelu safleoedd cyflogaeth presennol sy'n cael eu colli i ddefnyddiau di-gyflogaeth amhriodol.
Nodiadau Cyngor Technegol (NCT)
4.2.8. Mae Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 23 Datblygu Economaidd (2014) yn rhoi cyngor ar gynllunio ar gyfer datblygu economaidd, yr economi wledig a sut i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn cynlluniau datblygu ac wrth wneud penderfyniadau. Mae'n cynghori y dylai awdurdodau cynllunio lleol osgoi rhyddhau tir / safleoedd cyflogaeth presennol ar gyfer defnydd arall lle mae tystiolaeth gref o'r angen am Ddefnyddiau Dosbarth B yn y dyfodol. Oherwydd y gwerthoedd tir cymharol isel sy'n gysylltiedig â thir cyflogaeth (o gymharu â defnyddiau eraill sy'n cystadlu, fel tai a manwerthu), mae'n gyffredinol anodd disodli tir cyflogaeth ar ôl ei golli i ddefnyddiau amgen.
4.2.9. Wrth ystyried cynigion di-gyflogaeth ar dir a nodwyd ar gyfer defnyddiau cyflogaeth, mae NCT 23 (cyfeiriwch at baragraff 4.6.9) yn argymell y dylai awdurdodau cynllunio lleol ond ystyried hyn pan fo un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol:
- "nid yw'n argoeli y cânt eu hail-feddiannu i'w diben blaenorol;
- mae'r farchnad benodol y mae'r safle yn rhan ohoni wedi ei gorgyflenwi;
- mae'r defnydd cyflogaeth presennol yn cael effaith annerbyniol ar amwynderau neu'r amgylchedd;
- nid yw'r ailddatblygiad arfaethedig yn peryglu'n ormodol safleoedd cyflogaeth cyfagos sydd i'w cadw;
- mae blaenoriaethau eraill, megis yr angen am dai, yn cymryd blaenoriaeth dros ystyriaethau economaidd mwy cyfyng; a/neu
- Mae tir o ansawdd cystal neu well yn cael ei ryddhau yn rhywle arall, hyd yn oed os nad yw hwn o fewn ffiniau'r awdurdod cynllunio lleol."
4.2.10. Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio (2016) - yn rhoi canllawiau a chyngor ychwanegol ar alluogi dylunio da yn y system gynllunio. Mae'r cyd-destun dylunio yn unigol i bob cynnig, fodd bynnag, mae yna feysydd eang y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gynnig sy'n cael eu hamlinellu yn NCT 12. Mae adran 5.12 yn nodi'r egwyddorion dylunio allweddol sy'n berthnasol i Ardaloedd Cyflogaeth a Masnachol:
- Mae dylunio ardaloedd cyflogaeth yn bwysig, oherwydd gall dylunio o ansawdd uchel ychwanegu gwerth i eiddo masnachol, cefnogi delwedd busnesau modern ac annog buddsoddiad pellach. Mae ystyriaeth gynnar i'r angen i gofleidio safonau amgylcheddol uchel, dyheadau carbon isel a lleihau'r angen am adeiladau sy'n cael eu hoeri'n artiffisial yn creu cyfleoedd i ddatblygu opsiynau carbon isel ac ynni adnewyddadwy a rennir.
- Yn aml gall adeiladau cyflogaeth newydd mawr wneud datganiad beiddgar o'u pwrpas. Mae cydnabod ymarferoldeb safleoedd busnes yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y meddiannydd. Fodd bynnag, gall dylunio cadarn, deunyddiau o ansawdd uchel, hyblygrwydd cynllun allanol a mewnol a thriniaeth dirwedd briodol, megis ffurfiau daear neu blannu, helpu i integreiddio safleoedd busnes newydd i'w hamgylchoedd, lleihau'r angen i oeri adeiladau'n artiffisial a galluogi trawsnewidiadau haws i feddianwyr dilynol. Mewn llawer o achosion, gall nodweddion gwasanaeth a chyfleustod agored gyda manylion dychmygus ddarparu elfennau o ddiddordeb mewn ffasadau sydd fel arall yn blaen. Mae'r angen i ystyried y prosesau cynnal a chadw adeiladau a thirwedd unwaith y bydd y datblygiad wedi'i gwblhau hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn parhau i fod yn integredig.
- Lle caiff adeiladau cyflogaeth eu grwpio gyda'i gilydd, mae graddfa ddigonol o blannu a ffurfiau daear yn hanfodol i amsugno'r rhan fwyaf o'r adeilad, y cylchrediad ategol a'r ardaloedd parcio. Dylai cyfleoedd i leihau'r galw am ynni trwy fabwysiadu ynni adnewyddadwy neu dechnoleg carbon isel fel cynlluniau gwresogi ardal, gan gynnwys Gwres a Phŵer Cyfunol sy'n rhedeg ar danwydd carbon isel, gael eu gwireddu. Byddai defnyddiau cyflogaeth cymysg yn gwella dichonoldeb a hyfywedd cynlluniau o'r fath a dylid cymryd gofal er mwyn osgoi creu ystadau ynysig. Dylid ymdrechu i gyflwyno delwedd gadarnhaol, eangfrydig drwy sicrhau bod adeiladau allweddol o fewn y datblygiad yn wynebu ffyrdd ac yn helpu i wella cysylltedd. Gall lletya parcio o fewn cynlluniau iard helpu i leihau effaith weledol gyffredinol mannau parcio. Dylid ymgorffori llwybrau ar wahân, diogel a deniadol ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a chyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd cyfundrefnau cynnal a chadw ysgafn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd meddiannaeth gymysg.
- Lle maent wedi'u lleoli'n agos at ddefnyddiau eraill, bydd angen i safleoedd cyflogaeth llai, yn enwedig, fod yn gysylltiedig agosach o ran graddfa ac ymddangosiad i'w cyd-destun. Ni ddylai hyn olygu cuddio eu pwrpas ond ei fynegi mewn ffordd sy'n adlewyrchu neu'n ategu'r lleoliad. Mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig mewn ardaloedd adfywio a gwledig, bydd trosi adeiladau presennol at ddibenion cyflogaeth yn briodol. Ond hyd yn oed yn yr ardaloedd hyn gall hefyd fod lle i adeiladau newydd o ymddangosiad priodol.
4.2.11. Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth (Mawrth 2007) - yn rhoi canllawiau ar gyflawni system cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth integredig a chynaliadwy.Er mwyn cyflawni patrwm datblygu mwy cynaliadwy, mae NCT 18 yn rhoi arweiniad manwl ar leoliad datblygu, parcio, a chynllun datblygiad. O ran cyflogaeth a datblygiadau masnachol, mae'r NCT yn nodi y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol geisio sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i bawb ac annog dulliau teithio cynaliadwy. Mae'r NCT yn annog defnyddio rhwymedigaethau cynllunio i weithredu cynlluniau teithio a sicrhau darpariaeth parcio beiciau a chyfleusterau newid.
4.2.12. Mae NCT 21 (2014) yn nodi'r ystyriaethau lleoliadol ar gyfer darparu cyfleusterau rheoli gwastraff, ac mewn perthynas â safleoedd cyflogaeth ac adeiladu mae'r NCT yn nodi:
- [...] mae llawer o safleoedd cyflogaeth cyffredinol ac ardaloedd diwydiannol mawr yn debygol o fod yn lleoliadau addas ar gyfer cyfleusterau gwastraff ond bydd hyn yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau lleol, gan gynnwys natur defnyddwyr presennol a'r strategaeth a fabwysiadwyd ar gyfer safleoedd cyflogaeth penodol.
- Disgwylir y gellir darparu cyfleusterau ar gyfer ailgylchu ac ailweithgynhyrchu yn briodol ar lawer o safleoedd cyflogaeth cyffredinol, ar yr amod bod mynediad a thrafnidiaeth addas ar gael, fodd bynnag, gallai fod rhesymau safle-benodol dros leoli'r rhain mewn mannau eraill.
- Ni fydd rhai cyfleusterau gwastraff, fel rhesgompostio agored, yn addas mewn ardaloedd adeiledig, ac efallai y byddant yn fwy priodol mewn lleoliadau gwledig.
4.2.13. Yn hyn o beth mae'r CDLl yn nodi'r safleoedd cyflogaeth a ystyrir yn fwyaf addas ar gyfer cydleoli cyflogaeth (Polisi SP8 Rheoli Gwastraff Cynaliadwy) a chyfleusterau rheoli gwastraff ac yn nodi meini prawf penodol ar gyfer penderfynu ar gynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd (Polisi MD 20 Asesu Cynigion Rheoli Gwastraff).
4.3. Polisi Cynllunio Lleol
4.3.1. Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Mabwysiedig Bro Morgannwg (2011-2026) yn darparu'r fframwaith polisi cynllunio ar gyfer rheoli defnydd a datblygu tir o fewn yr awdurdod. Mae'r Strategaeth CDLl yn ceisio hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth newydd a gwell mewn lleoliadau cynaliadwy, a hefyd yn adlewyrchu dyheadau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd. Mae'r CDLl yn cynnwys deg amcan strategol sy'n nodi cyd-destun cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a chyfeiriad polisi'r Cynllun yn gyffredinol. Mae'r amcanion a'r polisïau canlynol o berthnasedd i'r CCA hwn:
Cynnal cymunedau cynaliadwy ym Mro Morgannwg a'u datblygu ymhellach, gan ddarparu cyfleoedd byw, dysgu, gweithio a chymdeithasu i bawb.
Lleihau'r angen i drigolion Bro Morgannwg deithio i fodloni eu hanghenion bob dydd a darparu mwy o ffurfiau cynaliadwy ar drafnidiaeth.
Meithrin datblygiad economi leol amrywiol a chynaliadwy sy'n bodloni anghenion Bro Morgannwg a Rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru.
4.3.2. Er mwyn cefnogi'r economi ranbarthol leol ac ehangach, mae'n hanfodol bod y Cyngor yn sicrhau bod amrywiaeth a dewis o dir a safleoedd ar gael i annog mewnfuddsoddiad a chefnogi anghenion busnesau lleol nawr ac yn y dyfodol. Mae'r polisïau cyflogaeth CDLl felly yn ceisio mynd i'r afael â hyn ac wedi eu llywio gan yr Astudiaeth Tir a Safleoedd Cyflogaeth (2013).
4.3.3. Mae Polisi CDLl SP1 - Cyflawni'r Strategaeth yn cynnwys 8 maen prawf sy'n nodi mewn termau eang sut y bydd y strategaeth CDLl yn cael ei chyflwyno dros gyfnod y cynllun. Mae Maen Prawf 2 yn arbennig o berthnasol i'r CCA sy'n nodi y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy "hyrwyddo amrywiaeth o safleoedd cyflogaeth y bwriedir iddynt fodloni anghenion Bro Morgannwg a'r Brifddinas-ranbarth ehangach" (CDLl, t.38, 2017).
4.3.4. Mae Polisi CDLl SP2 - Safleoedd Strategol yn nodi 3 safle strategol sy'n cyfrannu at hyrwyddo cyfleoedd datblygu ac adfywio o fewn yr ardaloedd penodol a nodir o fewn y strategaeth. Mae Glannau'r Barri a Sain Tathan wedi'u dyrannu ar gyfer defnydd cymysg ac mae tir ger Maes Awyr Caerdydd wedi'i ddyrannu ar gyfer defnydd cyflogaeth yn unig.
4.3.5. Mae Polisi CDLl SP5 - Gofynion Cyflogaeth yn mesur faint o dir sy'n cael ei ddyrannu yn y CDLl at ddefnydd cyflogaeth (492 ha) i ddiwallu'r anghenion cyflogaeth rhanbarthol a lleol. Mae mwyafrif y tir a ddyrannwyd (tua 438ha) i'w weld ar y tri safle cyflogaeth strategol ym Mharc Busnes Awyrofod Sain Tathan, Tir ger Maes Awyr Caerdydd a Thir i'r de o Gyffordd 34 (Hensol) yr M4. Mae'r dyraniadau strategol hyn yn mynd i'r afael â'r angen cyflogaeth rhanbarthol a'u bwriad yw diwallu anghenion penodol y diwydiannau dosbarthu awyrofod, gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a logisteg. Yn ôl canfyddiadau Astudiaeth Tir a Safleoedd Cyflogaeth y Cyngor (2013), rhagamcanwyd bod yr angen cyflogaeth lleol yn tua 53ha. Dylid nodi bod y CDLl yn dyrannu tua 55 hectar o dir cyflogaeth ar safleoedd cyflogaeth lleol ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8 sy'n cynnwys clustog gyflenwi 5 mlynedd i ganiatáu hyblygrwydd dros gyfnod y Cynllun. Ynghyd â'r dyraniadau strategol mae'r CDLl yn darparu amrywiaeth o dir cyflogaeth i ateb y galw lleol a rhanbarthol.
4.3.6. Polisi CDLl SP8 - Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Cynaliadwy – Yn nodi'r safleoedd cyflogaeth ym Mro Morgannwg sy'n cael eu hystyried y mwyaf priodol ar gyfer cydleoli cyfleusterau rheoli gwastraff a fyddai'n tanseilio prif rôl y safleoedd a nodwyd fel ffynonellau pwysig o dir a safleoedd cyflogaeth; sef Ystâd Fasnachu'r Iwerydd, y Porthladd Gweithredol a'r Dociau yn y Barri, ac Ystâd Fasnachu Llandŵ ger y Bont-faen. Yn ogystal, mae'r polisi yn caniatáu i gyfleusterau gwastraff gael eu datblygu ar safleoedd cyflogaeth presennol a dyranedig addas fel y nodwyd ym Mholisi MG9 Dyraniadau Cyflogaeth.
4.3.7. Mae Polisi CDLl MG9 – Dyraniadau Cyflogaeth yn dyrannu cyfanswm o 492.24 hectar (gros) o dir ar gyfer defnydd cyflogaeth i ddiwallu'r angen cyflogaeth lleol a rhanbarthol. Mae dau o'r safleoedd cyflogaeth strategol wedi'u dyrannu i fanteisio ar yr Ardal Fenter ac yn darparu'n benodol ar gyfer anghenion y diwydiant awyrofod a gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg. Mae'r safle strategol arall (sy'n cael ei feddiannu gan Renishaw ar hyn o bryd) yn cynnig cysylltedd da ac yn fwyaf addas ar gyfer logisteg, gweithgynhyrchu a dosbarthu. Mae'r tri safle strategol hefyd yn cael eu hystyried o dan bolisïau ar wahân, MG 10 (Ardal Fenter Sain Tathan - Maes Awyr Caerdydd) ac MG 11 (Tir i'r De o Gyffordd 34 yr M4). Mae'r dyraniadau cyflogaeth lleol (54.68 hectar gros) yn ceisio sicrhau bod ystod a dewis priodol o dir ar gael i gefnogi twf economaidd lleol yn ystod cyfnod y Cynllun.
4.3.8. Mae Polisi CDLl MD14 – Cynigion Cyflogaeth Newydd yn cefnogi cynigion ar gyfer defnyddiau cyflogaeth dosbarth B1, B2 a B8 a defnyddiau ategol cyflenwol ar safleoedd cyflogaeth presennol a dyranedig. Rhaid i ddefnyddiau ategol ategu swyddogaeth ehangach y safle cyflogaeth a pheidio ag effeithio ar gyfanrwydd y safleoedd hyn, neu leihau cyflenwad tir cyflogaeth yn annerbyniol. Ar ddyraniadau cyflogaeth strategol a lleol, mae Polisi CDLl MD15 – Diogelu Safleoedd Cyflogaeth a Ddyrannwyd yn cyfyngu ar ddefnyddiau di-gyflogaeth i rai o fân natur ategol.
4.3.9. Mae Polisi CDLl MD16 - Diogelu Safleoedd Cyflogaeth Presennol yn nodi safleoedd cyflogaeth lleol presennol sy'n darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr yn agos at le mae pobl yn byw ac yn cefnogi twf economaidd. Mae math ac ansawdd y safleoedd cyflogaeth presennol a nodwyd o dan Bolisi MD16 yn amrywio o fusnes ac ystadau diwydiannol pwrpasol i safleoedd agored a ddefnyddir ar gyfer storio a dosbarthu. Mae'r rhain wedi'u lleoli'n bennaf mewn safleoedd cyflogaeth hirsefydlog a geir yn bennaf o fewn ac yng nghyffiniau'r trefi mwy sy'n gwasanaethu de-ddwyrain y Fro, sef y Barri a Phenarth, ac yn Ystadau Masnachu a Diwydiannol Llandŵ sy'n bennaf yn gwasanaethu ardal orllewinol wledig yr awdurdod. Mae'r map yn Atodiad 1 yn dangos lleoliad y safleoedd cyflogaeth presennol mwy, ynghyd â thir a ddyrannwyd o fewn y CDLl mabwysiedig i gefnogi twf economaidd yn y dyfodol. Yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, yn ogystal â'r safleoedd a restrir, mae Polisi MD16 yn ceisio atal colli pob safle cyflogaeth sydd yn - neu a arferai - gael ei ddefnyddio at ddefnydd cyflogaeth er mwyn cefnogi economi leol amrywiol.
4.3.10. Mae Polisi CDLl MD17 - Menter Wledig yn hyrwyddo arallgyfeirio ar ffermydd a mentrau gwledig yn y Fro wledig.
4.3.11. Mae Polisi CDLl MD20 - Asesiad o Gynigion Rheoli Gwastraff yn nodi meini prawf y caiff yr holl geisiadau ar gyfer trin, prosesu, storio a dosbarthu gwastraff eu hasesu yn eu herbyn, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyfleusterau rheoli gwastraff newydd ac estyniadau i weithrediadau presennol, gan gynnwys cynigion sydd wedi'u lleoli ar safleoedd a nodir o dan y polisïau a nodwyd yn flaenorol, SP8 ac MG9.
4.4. Canllaw Cynllunio Atodol
4.4.1. Mae'r CCAau canlynol yn arbennig o berthnasol i'r canllawiau hyn a dylid eu darllen ar y cyd â'r ddogfen hon. Mae pob CCA ar gael ar dudalennau'r CDLl ar wefan y Cyngor.
4.4.2. Mae'r CCA Ardal Ddatblygu Maes Awyr Caerdydd a'r Porth wedi ei baratoi i roi eglurder ar sut y bydd cynigion datblygu yn y lleoliad strategol hwn yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau bod datblygiad cynaliadwy cynhwysfawr o ansawdd uchel yn cael ei gyflawni.
4.4.3. Mae'r CCA Trosi ac Adnewyddu Adeiladau Gwledig yn cydnabod manteision caniatáu i adeiladau gwledig gael eu trosi at ddefnyddiau amgen gan gynnwys defnydd busnes. Gall defnyddiau o'r fath ddarparu cyfleoedd cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y Fro wledig ac arwain at fudd sylweddol i'r economi a'r gymuned leol.
4.4.4. Mae'r CCA Safonau Parcio yn nodi gofynion parcio'r Cyngor ar gyfer datblygiadau newydd a newidiadau defnydd. Mae'r CCA yn ymwneud â cherbydau masnachol, ceir, beiciau modur, a beiciau. Mae hefyd yn cyfeirio at gynlluniau teithio (sy'n cael eu trafod yn fanylach mewn CCA Cynllun Teithio ar wahân) yn ogystal â'r angen am ddarpariaeth ar gyfer pwyntiau gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.
4.4.5. Mae'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio yn egluro ble, beth, pryd a sut y ceir rhwymedigaethau cynllunio, er mwyn cynorthwyo'r Cyngor i greu cymunedau cynaliadwy sy'n rhoi budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae'r canllaw hwn yn cynnig cyngor ar rwymedigaethau cynllunio i gefnogi'r polisïau yn CDLl Bro Morgannwg.
4.4.6. CCA Bioamrywiaeth a Datblygu - yn cynnig arweiniad i gynorthwyo datblygwyr i fodloni dull rhagweithiol y Cyngor o gyflawni amgylchedd naturiol o safon uchel. Mae hyn yn cynnwys amlinellu'r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno'r Cyngor i gefnogi cais cynllunio i ddangos bod bioamrywiaeth wedi ei ystyried yn briodol fel rhan o gynnig datblygu.
4.4.7. CCA Coed, Gwrychoedd, Coetiroedd a Datblygu - yn cynnwys canllawiau'n ymwneud â sut y dylid ystyried llystyfiant presennol o fewn cynigion datblygu ac yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu coed presennol a'u hintegreiddio o fewn dyluniad cynigion datblygu.