Draft Economic Development, Employment Land and Premises SPG
5. Cynigion ar gyfer Datblygiadau Cyflogaeth Newydd – Ystyriaethau Allweddol
5.1.1. Mae'r CDLl yn croesawu cynigion cyflogaeth newydd am y buddion y maen nhw'n eu darparu i'r economi leol. Mae Polisi CDLl MD14 – Cynigion Cyflogaeth Newydd yn cefnogi cynigion ar gyfer defnyddiau cyflogaeth dosbarth B1, B2 a B8 a defnyddiau ategol cyflenwol ar safleoedd cyflogaeth presennol a dyranedig. Mewn mannau eraill, mae Polisi MD14 hefyd yn caniatáu defnyddiau cyflogaeth newydd: lle mae'r rhain o fewn neu'n agos at aneddiadau cynaliadwy lle mae'r cynnig yn ategu ei leoliad a'i ddefnyddiau cyfagos; fel rhan o fusnes menter wledig neu arallgyfeirio fferm; neu lle mae natur y cynnig yn golygu bod angen i'w leoliad liniaru ei effaith ar amwynder.
5.1.2. Yn ogystal, mae'r polisïau canlynol yn cynnig y prif fframwaith polisi y bydd cynigion ar gyfer datblygu cyflogaeth newydd yn cael eu hasesu yn ei erbyn i sicrhau eu bod yn darparu datblygiadau pwrpasol sydd wedi'u cynllunio'n dda ac sy'n diogelu amwynder ac amgylchedd yr ardal gyfagos:
- MD2 - Dylunio Datblygiad Newydd
- MD7 - Diogelu'r Amgylchedd
- MD20 - Asesu Cynigion Rheoli Gwastraff
5.1.3. Archwilir rhai themâu allweddol ymhellach yn y canllawiau isod.
5.2. Dylunio Da a Chreu Lleoedd
5.2.1. Mae creu lleoedd yn ymwneud â chreu lleoedd gwych i fyw, gweithio, ymweld a threulio amser ynddynt. Bydd hyn yn aml yn dechrau gydag ymgysylltu h.y. ymgysylltu'n greadigol â phobl sy'n byw, gweithio a threulio amser mewn ardal (yn ogystal â grwpiau defnyddwyr y dyfodol) o gychwyn prosiect i wrando, gweld a deall lle yn weithredol er mwyn llywio dewisiadau dylunio. Rhaid i ddatblygwyr gyflwyno adroddiad Ymgynghori Cyn Cais (YCC) ar gyfer unrhyw ddatblygiad "mawr" (h.y. arwynebedd safle o 0.5 hectar neu fwy, neu lle mae'r gofod llawr newydd yn fwy na 1000 metr sgwâr) sy'n nodi sut y cynhaliwyd ymgynghoriad cymunedol a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddyluniad y cysyniad ar gyfer y datblygiad.
5.2.2. Mae Polisi MD2 Dylunio Datblygiadau Newydd yn ceisio creu lleoedd iach, cynaliadwy a lleol-unigryw o ansawdd uchel ac yn nodi'r egwyddorion allweddol y dylai datblygwyr eu hystyried o ran dyluniad, amwynderau a hygyrchedd a fydd yn cyfrannu ar y cyd at amgylcheddau deniadol, diogel a hygyrch. Yn benodol, dylai cynigion datblygu:
- Fod o safon dylunio uchel sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gyd-destun a chymeriad yr amgylchedd naturiol ac adeiledig amgylchynol ac yn amddiffyn nodweddion presennol sydd o ddiddordeb treflun a thirlun;
- Ymateb yn briodol i gyd-destun a chymeriad lleol adeiladau cymdogol o ran defnydd, math, ffurf, maint, cymysgedd, a dwysedd;
- Lle y bo'n briodol, darparu ardaloedd newydd neu well o dir cyhoeddus, yn enwedig mewn lleoliadau allweddol megis canol trefi, prif lwybrau a chyffyrdd;
- Hyrwyddo'r broses o greu amgylcheddau iach a gweithgar a lleihau'r cyfle am drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. […];
- Darparu amgylchedd diogel a hygyrch ar gyfer pob defnyddiwr, gan roi blaenoriaeth i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth leol;
- Peidio â chael unrhyw effaith annerbyniol ar ddiogelwch ar y priffyrdd neu achosi neu waethygu tagfeydd traffig presennol i raddau annerbyniol;
- Lle y bo'n briodol, cadw a gwella safon a mynediad at fannau agored presennol a chyfleusterau cymunedol;
- Diogelu amwynderau cyhoeddus a phreswyl presennol, yn enwedig parthed preifatrwydd, edrych drosodd, diogelwch, sŵn ac aflonyddwch;
- Darparu mannau agored cyhoeddus, mannau amwynder preifat a llefydd parcio yn unol â safonau'r cyngor;
- Ymgorffori tirweddu sensitif, gan gynnwys cadw a gwella, lle y bo'n briodol, nodweddion tirwedd presennol a diddordebau bioamrywiaeth;
- Darparu cyfleusterau a lle digonol ar gyfer casglu, compostio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff ac archwilio cyfleoedd i ymgorffori deunyddiau neu gynnyrch a ailddefnyddir neu sy'n ailgylchadwy mewn adeiladau neu strwythurau newydd; a
- Lliniaru achosion newid hinsawdd drwy leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr eraill sy'n gysylltiedig â gwaith dylunio, adeiladu, defnyddio ac, yn y pen draw, dymchwel, a chynnwys nodweddion sy'n cynnig addasiad effeithiol i effeithiau newid hinsawdd heddiw a fory, a gwydnwch yn eu herbyn.
5.2.3. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall datblygiad busnes fod ar sawl ffurf a bod dyluniad a chynllun safleoedd yn gallu dibynnu ar anghenion y defnyddiwr yn ogystal â'r ymateb dylunio i'r safle. Felly, nid yw'n bosibl nac yn ddymunol i fod yn gyfarwyddol am ddylunio. Serch hynny, dylid cymhwyso egwyddorion dylunio allweddol a nodir ym mholisi MD2 i ddatblygiadau cyflogaeth newydd.
5.2.4. Dylai'r datganiadau dylunio a mynediad, lle bo angen, roi digon o fanylion mewn perthynas â dylunio ochr yn ochr â sut mae cynigion yn mynd i'r afael â materion cynllunio allweddol sydd wedi'u hamlinellu yn y Canllaw Cynllunio Atodol hwn a rhai eraill perthnasol.
5.3. Cyd-destun a Chymeriad
5.3.1. Mae meini prawf 1 a 2 Polisi CDLl MD2 yn nodi pa mor bwysig yw hi i ddatblygiad newydd ymateb i gyd-destun a chymeriad yr amgylchedd cyfagos o ran defnydd, math, ffurf, maint, cymysgedd, a dwysedd. Bydd hyn yn dechrau gydag arfarniad o gyd-destun a chymeriad y dylid ei fynegi'n glir yn y Datganiadau Dylunio a Mynediad a gyflwynir i gefnogi ceisiadau cynllunio.
5.3.2. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw mewn partneriaeth â Chomisiwn Dylunio Cymru sy'n amlinellu sut i ymgymryd â dadansoddiad effeithiol o'r safle i gyflawni ymateb dylunio priodol (https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-09/site-context-analysis-guide.pdf) a allai gynorthwyo gyda'r broses hon.
5.3.3. Mae creu lleoedd yn gofyn am ymateb gwybodus a beirniadol i safleoedd a'u cyd-destun. Dim ond trwy ymateb ystyriol i gyd-destun y gallwn greu lleoedd sy'n lleol unigryw, yn defnyddio adnoddau'n gyfrifol, yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan y safle, yn goresgyn heriau topograffi a hinsawdd ac yn cofleidio ysbryd lle. Mae gan bob tirwedd benodol ei rhinweddau unigryw ei hun - ei thopograffi, daeareg, microhinsawdd, hanes, diwylliannau ac arwyddion gweithgarwch dynol ei hun - sy'n galw am ymateb unigryw sy'n benodol i le. Bydd angen i ddatblygwyr ddangos sut y gwnaethant ymgymryd â'r dadansoddiad hwn a sut y maent wedi cynllunio datblygiad priodol o ganlyniad i hynny.
5.3.4. Bydd angen i ddatblygwyr nodi cyfyngiadau safle o fewn y safle a'r cyffiniau, gan roi sylw penodol i gadw a diogelu nodweddion naturiol sensitif fel coed, cynefinoedd, cyrsiau dŵr; ac asedau hanesyddol pwysig fel adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth neu adnoddau archeolegol. Dylai'r ymateb dyluniadol wneud y gorau o botensial y safle, er enghraifft, sicrhau bod cymaint o gysylltiadau / cyfleoedd teithio llesol ar gael, cydnabod potensial solar, lleihau gwastraff trwy'r gwaith adeiladu drwy ymateb yn briodol i lefelau'r safle.
5.3.5. Dylai cynllun a dyluniad unedau diwydiannol ystyried amgylchoedd lleol. Dylai dyluniad ac edrychiad adeiladau ystyried sut y gallant gyfrannu at wella tir cyhoeddus, yn enwedig lle maent yn weladwy o leoliadau cyhoeddus fel prif ffyrdd neu dirweddau ehangach. Dylai ymddangosiad, cynllun a chyfeiriadedd adeiladau newydd, tra'n bodloni swyddogaeth y busnes, hefyd adlewyrchu ei amgylchoedd.
5.4. Tir Cyhoeddus a Thirweddu
5.4.1. Gall datblygiad masnachol arwain at fwy o alw am - a defnyddio o - fannau agored cyhoeddus gan y bydd gweithwyr yn tueddu i ddefnyddio'r gofodau hyn yn ystod seibiannau cinio neu cyn ac ar ôl gwaith. Gall darparu mannau agored deniadol hefyd gyfrannu at iechyd a lles y gweithlu yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth. Mae seilwaith gwyrdd a glas mewn datblygiad yn darparu manteision amgylcheddol eraill gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer datrysiadau draenio cynaliadwy, rheoli gwres a dal carbon.
5.4.2. Mae Polisi CDLl MD2 yn cydnabod pwysigrwydd tir cyhoeddus o ansawdd wrth sicrhau datblygiadau wedi'u cynllunio'n dda. Dylai datblygiadau cyflogaeth newydd ddarparu ardaloedd newydd neu well o dir cyhoeddus lle bo hynny'n briodol i hyrwyddo amgylcheddau iach ac actif ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr yn y dyfodol (cyfeiriwch at feini prawf 3 a 4). Dylai datblygiadau, lle bo hynny'n briodol, warchod a gwella ansawdd - a mynediad i - fannau agored presennol a/neu ddarparu gofod agored cyhoeddus newydd.
5.4.3. Mae Polisi MD3 (Darpariaeth ar gyfer Mannau Agored) yn nodi: "Lle nodir angen am fan agored cyhoeddus, bydd gofyn i ddatblygiadau masnachol newydd mawr, lle bo'r arwynebedd llawr a grëir yn fwy na 1000 m2 neu'r safle'n 1 hectar neu fwy, ddarparu man agored cyhoeddus ar gymhareb o 16 m2 fesul cyflogai cyfwerth ag amser llawn. Er mwyn creu lleoedd cynaliadwy bydd gofyn i fannau agored fel arfer gael eu darparu ar y safle fel rhan o gynigion datblygu newydd. Lle nad yw'n ymarferol neu'n ddymunol gwneud darpariaeth ar y safle, bydd angen darpariaeth briodol oddi ar y safle neu gyfraniadau ariannol ar gyfer gwella cyfleusterau presennol yn lle darparu man agored cyhoeddus ar y safle."
5.4.4. Wrth gynllunio ardaloedd tir cyhoeddus o fewn datblygiadau cyflogaeth, dylai'r rhain ymgorffori tirlunio sensitif, gan gynnwys cadw a gwella, lle bo hynny'n briodol, nodweddion tirwedd presennol a buddiannau bioamrywiaeth. Mae'n hanfodol i ddyluniad a gosodiad unedau masnachol ystyried defnyddio tirlunio i leihau'r effeithiau posibl y gall gwasanaethu, parcio neu fannau storio gwastraff eu cael ar amwynder defnyddiau tir cyfagos os na chânt eu cynllunio'n iawn.
5.4.5. Gall elfennau tirwedd ddarparu ymdeimlad dymunol o le a chymeriad i'r datblygiad arfaethedig. Yn ogystal â chadw nodweddion presennol, dylai'r strategaeth dirwedd gynnig plannu brodorol ychwanegol i ddarparu ymdeimlad cryf o le ac i feddalu graen trefol adeiladau, ffyrdd a iardiau gwasanaeth sy'n aml yn gysylltiedig â datblygiadau masnachol.
5.4.6. Mae tirlunio meddal (gwyrdd a glas) yn darparu cynefin bioamrywiaeth pwysig, diddordeb gweledol, gwytnwch posibl i achosion a chanlyniadau newid hinsawdd yn ogystal â gwella lles gweithwyr ac ymwelwyr â'r datblygiad. Rhaid ei ystyried ar y cychwyn, gyda strategaethau a chynlluniau tirlunio yn cael eu cyflwyno ar y cam cais cynllunio cychwynnol yn hytrach na chael eu rheoli gan gyflwr fel ôl-ystyriaeth. Yn yr un modd, bydd disgwyl i ddatblygwyr ddangos darpariaeth hirdymor (isafswm 20 mlynedd) ar gyfer cynnal a chadw tirlunio ardaloedd o dir cyhoeddus.
5.5. Bioamrywiaeth
5.5.1. Mae Maen Prawf 10 o Bolisi MD 2 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiad newydd ymgorffori tirweddu sensitif, gan gynnwys cadw a gwella, lle y bo'n briodol, nodweddion tirwedd presennol a diddordebau bioamrywiaeth. Felly, dylai cynigion cyflogaeth newydd ystyried seilwaith gwyrdd presennol a chyfleoedd i ymgorffori nodweddion tirwedd hwn a nodweddion tirwedd newydd o fewn y cynnig. Mae hyn yn cynnwys cadw coed a gwrychoedd ar safle neu'n gyfagos, os ydynt wedi'u gwarchod ai peidio. Lle na ellir osgoi gwaredu coed neu os yw hyn yn cael ei wneud cyn cyflwyno cais, bydd angen plannu newydd yn unol â Chanllaw Cynllunio Atodol Coed, Gwrychoedd, Coetiroedd a Datblygiad y Cyngor.
5.5.2. Bydd angen i ddatblygwyr gynnal arolygon safle priodol ar ddechrau eu dyluniad cysyniad er mwyn nodi asedau bioamrywiaeth pwysig ar y safle neu o amgylch y safle sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynigion datblygu. Bydd rhagdybiaeth bob amser yn erbyn datblygiad sy'n debygol o niweidio safle neu rywogaethau gwarchodedig. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion hefyd pan fydd pwysigrwydd cynnig datblygu yn drech na'r gwerth cadwraeth ac mewn achosion o'r fath, yr amcan bob amser fydd sicrhau bod gwerth cadwraeth natur y safle neu rywogaethau gwarchodedig yn cael eu cadw a, lle y bydd modd, eu gwella.
5.5.3. Mae Canllaw Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth a Datblygu y Cyngor yn rhoi arweiniad ychwanegol ar sut i ymgorffori mesurau i wella bioamrywiaeth o fewn datblygiadau.
5.6. Teithio Llesol a Hygyrchedd
5.6.1. Mae Polisi CDLl MD 2 yn gofyn i ddatblygiadau newydd ddarparu amgylchedd diogel a hygyrch i bob defnyddiwr, gan roi blaenoriaeth i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus heb gael unrhyw effaith annerbyniol ar ddiogelwch priffyrdd nac achosi neu waethygu tagfeydd traffig presennol i raddau annerbyniol (cyfeiriwch at feini prawf 5 a 6).
5.6.2. Bydd lleoliad, maint, gosodiad a dyluniad datblygiad newydd yn cael dylanwad uniongyrchol ar y ffordd o deithio y bydd cyflogeion ac ymwelwyr yn ei defnyddio i deithio i ac o'r safle. Rhaid i ddatblygiadau newydd ddarparu'r cyfle i annog pobl i newid eu harferion teithio tuag at ddulliau teithio llesol a chynaliadwy er mwyn osgoi defnyddio cerbydau modur preifat yn ddiangen i deithio i ac o'r datblygiad. Ar ben hynny, cydnabyddir bod unigolion yn fwy tebygol o newid eu harferion teithio pan fyddant yn gwneud newid sylweddol i'w ffordd o fyw megis dechrau swydd newydd, felly mae cynigion cyflogaeth gyda chyfleusterau da ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar batrymau teithio.
5.6.3. Un ffordd o ddylanwadu ar ymddygiad teithio yw drwy fabwysiadu a gweithredu cynllun teithio gweithle, sy'n rhoi cyfleoedd i gyflogwyr a gweithwyr fabwysiadu mentrau teithio cynaliadwy a all fod o fudd economaidd i sefydliad neu unigolion.
5.6.4. Mae Cynllun Teithio'n becyn o fesurau sy'n anelu at reoli anghenion trafnidiaeth a theithio tymor hir safle neu sefydliad yn effeithiol gyda'r nod penodol o wella mynediad i'r safle drwy bob dull teithio. Bydd Cynllun Teithio llwyddiannus yn gwella'r dewis o ran teithio, yn lleihau effeithiau trafnidiaeth ar yr amgylchedd lleol ac yn cynyddu hygyrchedd y safle yn gyffredinol. Gall Cynllun Teithio fynd i'r afael â theithiau i ac o'r gwaith a hefyd deithio busnes, rheoli fflydoedd, trefniadau ymwelwyr a danfoniadau. Mae pob Cynllun Teithio wedi'i deilwra at anghenion a nodweddion penodol y safle a/neu sefydliad.
5.6.5. Fel arfer bydd gofyn i Gynllun Teithio gael ei baratoi ar gyfer y defnydd masnachol a busnes canlynol, ond mae'r Cyngor yn annog mabwysiadu Cynllun Teithio ar gyfer cynigion o unrhyw faint:
- Busnes > 2,500 m2 arwynebedd llawr gros
- Diwydiant 5,000 m2 arwynebedd llawr gros
- Dosbarthu a warysau > 10,000 m2 arwynebedd llawr gros
5.6.6. Er mwyn cynorthwyo cyflogwyr i ddatblygu Cynllun Teithio, mae'r Cyngor wedi paratoi canllaw manwl ar baratoi Cynlluniau Teithio sy'n cynnwys templed Cynllun Teithio safonol a phecyn cymorth sy'n rhoi enghreifftiau o fesurau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin. Mae mwy o fanylion am y gofynion wedi'u nodi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cynlluniau Teithio'r Cyngor.
5.7. Darpariaeth Parcio
5.7.1. Mae parcio ceir yn ddylanwad mawr ar ddewis trafnidiaeth. Os oes llefydd parcio ceir ar gael mae pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio ceir preifat dros ffurfiau mwy cynaliadwy ar drafnidiaeth. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu safonau parcio ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau tir gan gynnwys datblygiad swyddfa, masnachol a diwydiannol; nodir y rhain yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Safonau Parcio'r Cyngor. Mae'r rhain yn nodi'r uchafswm lefelau parcio (yn hytrach na'r lleiafswm) ar draws Bro Morgannwg gan adlewyrchu lleoliad a hygyrchedd ar gyfer ystod o ddatblygiadau. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys safonau ar gyfer darparu cyfleusterau parcio beiciau a all helpu i leihau'r galw am barcio ceir ochr yn ochr â mabwysiadu Cynlluniau Teithio yn y gweithle.
5.7.2. Wrth ystyried gofynion parcio cynigion cyflogaeth bydd y Cyngor yn ystyried nifer o ffactorau o ran y datblygiad a'i leoliad. Gall y rhain gynnwys:
- Hygyrchedd i ac o'r gwasanaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Argaeledd bysus preifat, tacsis a rhannu ceir.
- Cyfrannau perthnasol dalgylchoedd llafur llawn-amser / rhan-amser / lleol.
- Hygyrchedd drwy gerdded neu feicio i nwyddau a gwasanaethau bob dydd.
- Creu Cynllun Teithio y cytunwyd arno, wedi'i ategu gan fuddsoddiad ariannol ac ymrwymiad staff priodol.
- Darpariaeth parcio bresennol a phosibl yn y dyfodol, symiau traffig a thagfeydd ar strydoedd sydd ger y datblygiad.
- Effeithiau posibl ar y briffordd / diogelwch cyhoeddus.
- Hygyrchedd i ac argaeledd mannau parcio ceir cyhoeddus a/neu breifat yn yr ardal.
5.7.3. Mae'r Cyngor yn cydnabod mai cyfran fach iawn o'r cerbydau ar ein ffyrdd sy'n Gerbydau Allyriadau Isel Iawn neu Gerbydau Hybrid Trydan (ULEV a PHEV) ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae technoleg newydd wedi golygu bod cerbydau trydan yn dod yn fwy poblogaidd a rhagwelir y bydd eu defnydd a'u poblogrwydd yn cynyddu ymhellach ochr yn ochr â datblygiadau newydd mewn technoleg a mentrau'r llywodraeth.
5.7.4. Er mwyn annog pobl i ddewis y cerbydau hyn a chynyddu nifer a lledaeniad daearyddol seilwaith gwefru ULEV, mae'r CCA Safonau Parcio (yn ogystal â Pholisi 12 Cymru'r Dyfodol) yn ei gwneud yn ofynnol darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EVCP) o fewn cynigion datblygu amhreswyl newydd ar o leiaf 10% o'r cyfanswm parcio angenrheidiol ar gyfer y cynnig. Er enghraifft, os yw'r gofyniad parcio ar gyfer datblygiad yn 20 lle bydd angen i ddau o'r 20 lle ddarparu ar gyfer seilwaith EVCP. Mae'r trothwyon ardal ddatblygu wedi'u hatgynhyrchu isod:
Trothwyon ar gyfer Mynediad Parcio Gwefru Cerbydau Trydan |
|
Defnydd |
Trothwy |
Busnes |
>2,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr gros |
Diwydiant |
>5,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr gros |
Dosbarthu a warysau |
>10,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr gros |
5.8. Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
5.8.1. Mae Polisi CDLl MD 2 (10) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau newydd liniaru achosion newid hinsawdd trwy leihau carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill sy'n gysylltiedig â'u dylunio, eu hadeiladu, eu defnyddio a'u dymchwel yn y pen draw, ac yn cynnwys nodweddion sy'n cynnig addasiadau effeithiol i - a gwydnwch yn erbyn - effeithiau newid hinsawdd presennol a'r rhai a ragwelir.
5.8.2. Mae dylunio adeiladau, a'r gofodau rhyngddynt, i liniaru eu cyfraniad at - a'u gallu i wrthsefyll - canlyniadau newid hinsawdd yn allweddol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd. Dylai datblygiad newydd fod yn barod ar gyfer hafau cynhesach, sychach a gaeafau gwlypach hinsawdd y dyfodol.
5.8.3. Bydd ystyried effaith amgylcheddol y deunyddiau a ddefnyddir i adeiladu datblygiad newydd yn allweddol i sicrhau cynaliadwyedd ar draws ei gylch bywyd cyfan.
5.8.4. Mae ymateb i'r hyn a ddysgwyd o ddadansoddiad o'r safle hefyd yn bwysig o safbwynt cynaliadwyedd. Os deallwyd y topograffi a'r hinsawdd, gall y dylunydd ddefnyddio strategaethau dylunio goddefol i leihau galw ynni ac allyriadau carbon y datblygiad. Bydd datblygiad sydd wedi'i leoli, ei gyfeirio a'i gyfansoddi'n ofalus yn gwneud defnydd o'r adnoddau naturiol o'r haul, y gwynt, y ddaear a'r awyr. Yna mae'r galw am wres, oeri a goleuadau trydan mecanyddol yn cael ei leihau, sy'n golygu nad oes angen gwasanaethau adeiladu uwch-dechnoleg cymhleth.
Technolegau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel
5.8.5. Mae PCC (paragraff 5.8.7) yn amlygu rôl y diwydiant datblygu wrth gyfrannu at newid hinsawdd, gan ddatgan y "Dylai datblygwyr ystyried gofynion y dyfodol ar gyfer gostwng carbon mewn adeiladau newydd wrth ddylunio eu cynlluniau, yn sgil newidiadau i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru; gan fod yn ystyriol o'r ffaith y bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn sicrhau bod agweddau dylunio o'r gofynion yn cael eu hystyried mor gynnar â phosib".
5.8.6. Mae Polisi MD19 (Cynhyrchiant Carbon Isel ac Ynni Adnewyddadwy) yn cefnogi cynigion sy'n ymgorffori mesurau sy'n cyfrannu tuag at leihau eu heffaith ar newid hinsawdd. Dylai datblygwyr geisio sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni drwy gydol eu dyluniad.
5.8.7. Drwy fabwysiadu technegau adeiladu sy'n lleihau'r defnydd o ynni neu ddibyniaeth ar systemau gwresogi neu oeri confensiynol, a thrwy ymgorffori technolegau ynni adnewyddadwy, gall datblygiadau newydd gofleidio'r her newid hinsawdd. Mae CCA Ynni Adnewyddadwy y Cyngor yn cynnwys cyngor ar sut i ystyried ynni adnewyddadwy mewn cynigion datblygu.
Rhwydweithiau Gwres Lleol ac Ardal
5.8.8. Rhwydweithiau gwres yw un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o leihau allyriadau carbon o wresogi, gan gyflenwi gwres o ffynhonnell ganolog trwy rwydwaith o bibellau tanddaearol sy'n cario dŵr poeth ac osgoi'r angen am foeleri unigol neu wresogyddion trydan mewn adeiladau unigol. Unwaith y bydd mewn lle, gellir defnyddio gwres a fyddai fel arall yn mynd i wastraff, megis gwres gwastraff o brosesau diwydiannol.
5.8.9. Mae Polisi 16 (Rhwydweithiau Gwres) Cymru'r Dyfodol yn cydnabod y rôl y gall rhwydweithiau gwres ei chwarae wrth gyfrannu at nodau newid hinsawdd cenedlaethol, ac mae angen datblygiad masnachol mawr o 10,000 metr sgwâr neu fwy o arwynebedd llawr i ystyried y potensial i ymgorffori rhwydwaith gwres o fewn y datblygiad. Yn unol â hynny, dylai ceisiadau ar gyfer datblygiad o'r fath baratoi Uwchgynllun Ynni i bennu ai rhwydwaith gwres yw'r opsiwn cyflenwi ynni mwyaf effeithiol ac, ar gyfer prosiectau ymarferol, cynllun ar gyfer ei weithredu.
5.8.10. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ymarfer er mwyn cynorthwyo datblygwyr i ystyried opsiynau ar gyfer mabwysiadu technolegau carbon isel ac ynni adnewyddadwy yn eu cynigion datblygu, gan gynnwys gwresogi ardal (Canllaw Ymarfer: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Adeiladau).
Gofynion Draenio Cynaliadwy (SDCau)
5.8.11. Mae llifogydd dŵr wyneb yn broblem ddifrifol, ac fe'i nodwyd yn Strategaeth Genedlaethol LlC ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol fel un o'r prif achosion llifogydd. Mae'r effaith ar ddinasyddion, cymunedau a'r gost i economi Cymru yn sylweddol. Mae'r perygl o lifogydd ar gynnydd oherwydd newid hinsawdd a threfoli. Yn benodol, mae llifogydd lleol, oherwydd gorlwytho systemau draenio a charthffosydd sy'n gyfyngedig o ran maint, yn peri pryder cynyddol. Gall dŵr wyneb ffo fod yn ffynhonnell bwysig o lygredd gwasgaredig. Mae'r niwed posibl i'n dŵr daear a'n hafonydd o ddŵr wyneb ffo llygredig yn cynyddu gyda phob datblygiad newydd.
5.8.12. O 7 Ionawr 2019, mae angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) ar gyfer dŵr wyneb ar bob datblygiad newydd lle mae'r ardal adeiladu yn 100 metr sgwâr neu fwy. Rhaid i'r SDC gael ei dylunio a'i hadeiladu yn unol â Safonau SDCau Statudol fel y'u cyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru a rhaid i gynlluniau SDCau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCDC), cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
5.8.13. Rhaid cyflwyno cais sy'n dangos cydymffurfiaeth â Safonau SDCau Statudol ar gyfer dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw a gweithredu systemau dŵr wyneb sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd i'r Cyngor fel y CCDC. Gellir cyflwyno ceisiadau i'r CCDC am benderfyniad naill ai'n uniongyrchol fel cais annibynnol neu ochr yn ochr â'r cais cynllunio drwy'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) (cais cyfunol). Mae'n bwysig nodi na ddylid cychwyn ar waith adeiladu â goblygiadau draenio oni bai bod y system ddraenio ar gyfer y gwaith wedi ei chymeradwyo gan y CCDC.
5.8.14. Ar gyfer pob datblygiad newydd, bydd y CCDC yn ceisio gostyngiad neu arafiad sylweddol o ran cyfeintiau dŵr wyneb sy'n cyrraedd carthffosydd cyhoeddus a systemau cyfunedig fel rhan o'r nod o sicrhau sefydlogrwydd a gwydnwch systemau draenio mewn ffordd gynaliadwy.
Rheoli Gwastraff Cynaliadwy
5.8.15. Mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau. Mae'n datgan: "Rydym yn dibynnu ar adnoddau naturiol o ansawdd uchel i danio ein diwydiannau, darparu ein bwyd, ein haer glân a'n dŵr a chreu swyddi a chyfoeth. Mae'n rhaid i ni reoli'r defnydd o'n hadnoddau naturiol yn ofalus a sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'u defnydd a'u cyfraniad i gymdeithas drwy economi gylchol gref."
5.8.16. Dylai cynigion datblygu leihau gwastraff yn ystod y gwaith adeiladu drwy gyrchu deunyddiau'n gynaliadwy a dylunio adeiladau mewn ffordd sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos drwy eu cyflwyniadau sut maen nhw wedi archwilio cyfleoedd i ymgorffori deunyddiau neu gynhyrchion ailddefnyddiedig neu ailgylchadwy mewn adeiladau neu strwythurau newydd yn unol â Pholisi CDLl MD2.
5.8.17. Pan fyddant yn weithredol, mae gan ddatblygiadau cyflogaeth y potensial i gynhyrchu symiau sylweddol o wastraff. Felly, dylai datblygiadau newydd ddarparu cyfleusterau a gofod digonol ar gyfer casglu, compostio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff (cyfeiriwch at Bolisi CDLl MD 2).
5.9. Diogelu'r Amgylchedd
5.9.1. Pan gynigir defnyddiau masnachol a diwydiannol newydd mae'n bwysig sicrhau nad yw cynigion yn arwain at effeithiau annerbyniol ar yr amgylchedd neu ar weithrediadau ac amwynder defnyddiau presennol gerllaw. Yn unol â hynny, mae Polisi CDLl MD7 (Diogelu'r Amgylchedd) yn mabwysiadu dull rhagofalus o ran cynigion datblygu i sicrhau yr arddangosir na fyddant yn arwain at effaith annerbyniol ar bobl, amwynder preswyl, eiddo a/neu'r amgylchedd naturiol.
5.9.2. Gall llygredd o bob math achosi niwed sylweddol i iechyd pobl, bioamrywiaeth, ansawdd bywyd ac amwynder preswyl. Mae Polisi CDLl MD7 Diogelu'r Amgylchedd yn nodi'r gofynion i bob datblygiad newydd, gan gynnwys defnyddiau masnachol a diwydiannol, ystyried effeithiau tebygol eu cynigion. Wrth benderfynu pa mor addas yw'r cynigion, bydd y Cyngor hefyd yn ystyried cydnawsedd y cynnig â'r cyffiniau a'r effaith debygol y byddai'r cynnig yn ei gael ar ddefnyddwyr neu ddefnyddiau cyfagos.
5.9.3. Felly, bydd gofyn i bob cynnig datblygu nodi effeithiau posibl a sut y bydd unrhyw effeithiau'n cael eu lliniaru neu eu lleihau i lefelau derbyniol. Pan fydd datblygiad yn cael ei gymeradwyo, defnyddir amodau i reoli unrhyw effeithiau a allai fod yn annerbyniol, a lle bo hynny'n briodol, fonitro effeithiau'r datblygiad.
5.9.4. Dylai ymgeiswyr ystyried yr egwyddor 'cyfrwng newid' sy'n nodi: "mae busnes neu unigolyn sy'n gyfrifol am gyflwyno newid yn gyfrifol am reoli'r newid hwnnw. Yn ymarferol, er enghraifft, mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i ddatblygwr sicrhau y gellir dod o hyd i atebion i fynd i'r afael ag ansawdd aer neu sŵn o seilwaith, busnesau neu leoliadau sy'n bodoli eisoes gerllaw a'u gweithredu fel rhan o'r gwaith o sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol" (PCC, para.6.7.5). Mae hyn yn golygu bod y datblygwr yn gyfrifol am sicrhau bod y cynnig yn cynnwys atebion priodol i fynd i'r afael â materion fel ansawdd aer neu sŵn o ddefnyddiau presennol cyfagos i wneud y datblygiad yn dderbyniol.
5.10. Rhwymedigaethau Cynllunio
5.10.1. Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried yr angen am rwymedigaethau cynllunio i ddarparu seilwaith angenrheidiol i gefnogi a lliniaru effeithiau datblygiad newydd. Mae manylion y mathau o seilwaith y gellir eu ceisio wedi'u nodi ym Mholisi MD4 Seilwaith Cymunedol a Rhwymedigaethau Cynllunio a'r Canllaw Cynllunio Atodol ar Rwymedigaethau Cynllunio, ac yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Cyngor yn annog datblygwyr i ddarparu cyfleusterau a seilwaith ar y safle i wasanaethu meddianwyr y datblygiad yn y dyfodol.
5.10.2. Mae Polisi MD4 yn nodi'r math o rwymedigaethau cynllunio y gellir eu ceisio, yn dibynnu ar natur a graddfa'r cynnig. Mewn perthynas â chynigion cyflogaeth gallai'r rhain gynnwys:
- Seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau;
- Mannau agored cyhoeddus, celf gyhoeddus a chyfleusterau hamdden;
- Seilwaith gwasanaeth a chyfleustodau;
- Diogelu a gwella'r amgylchedd;
- Cyfleusterau rheoli ailgylchu a gwastraff; a
- Chyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau cyflenwol gan gynnwys hyfforddiant.
5.10.3. Y trothwy ar gyfer rhwymedigaethau cynllunio fel arfer yw cynigion cyflogaeth newydd gyda gofod llawr o fwy na 1000 metr sgwâr neu lle mae arwynebedd y safle'n 1 hectar neu fwy.
5.11. Cyflogaeth, Hyfforddiant a Chaffael Lleol
5.11.1. Gall datblygiadau newydd wneud cyfraniad sylweddol at les economaidd y gymuned leol a chynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth i sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl i'r ardal. Yn hyn o beth mae'n rhaid i ddatblygwyr ystyried cyfleoedd i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r gweithlu a busnesau lleol. Er enghraifft, mae cam adeiladu datblygiad newydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth leol, prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith, tra bod datblygiadau masnachol hefyd yn dod â chyfleoedd cyflogaeth, prentisiaeth a phrofiad gwaith newydd i drigolion yn ystod y cam gweithredol.
5.11.2. Gall y Cyngor hefyd geisio sicrhau mesurau cyflogaeth a hyfforddiant drwy rwymedigaethau a/neu amodau cynllunio i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant neu fentrau cadwyn gyflenwi lleol. Er enghraifft, bydd gofyn i ddatblygwyr ymrwymo i Strategaeth Recriwtio Llafur i gynnwys mesurau gyda'r nod o hwyluso'r mynediad gorau sydd ar gael i bobl i'r cyfleoedd cyflogaeth sy'n deillio o adeiladu a gweithredu datblygiad, megis darparu 'siop swyddi' leol.
5.11.3. Dylai datblygwyr hefyd roi'r cyfle i fusnesau lleol elwa ar gamau adeiladu a gweithredol datblygiadau newydd trwy hyrwyddo a hysbysebu cyfleoedd tendro yn lleol yn ogystal â strategaethau caffael lleol pwrpasol eraill.
5.12. Isrannu Safleoedd Cyflogaeth Presennol
5.12.1. Mae astudiaeth tir cyflogaeth y Cyngor (2013) yn nodi prinder safleoedd bach i safleoedd canolig (hyd at 98m.sg) sydd wedi'u hanelu at fusnesau newydd a thwf. Yn unol â hynny, bydd y Cyngor yn cefnogi isrannu safleoedd mwy sy'n cael eu tanddefnyddio i safleoedd dosbarth B1, B2 neu B8 llai. Gall isrannu hefyd helpu i nodi safleoedd gwag nad oes fawr o ddiddordeb ynddynt yn y farchnad; materion hyfywedd, neu i wneud gwell defnydd o ofod llawr a danddefnyddir / dros ben.
5.12.2. Os cynigir isrannu safle presennol, byddai'r Cyngor yn ddiofyn yn ffafrio defnyddiau dosbarth B ar gyfer unrhyw unedau newydd. Mewn achosion lle cynigir defnyddiau dosbarth ar wahân i ddosbarth B, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyfiawnhau hyn yn unol â'r meini prawf a nodir ym Mholisi MD16, a archwilir ymhellach isod.