Draft Retail and Town Centre Development SPG
7. Canllawiau Dylunio Blaenau Siop
7.1.1 Mae Bro Morgannwg yn cynnwys ystod eang o Ganolfannau Manwerthu Tref, Ardal, Lleol a Chymdogaeth sydd wedi profi llawer o newidiadau dros y blynyddoedd diwethaf wrth i'r canolfannau hyn addasu i gyd-fynd ag anghenion a gofynion newidiol.
7.1.2 Blaen y siop yw rhan fwyaf gweladwy unrhyw uned fanwerthu, ac mae dyluniad deniadol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod unedau'n cyfrannu at ddengarwch canolfannau manwerthu ledled Bro Morgannwg. Mae angen caniatâd cynllunio o dan Atodlen 2, Rhan 42, Dosbarth A, Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 ar gyfer gosod/creu blaenau siopau newydd, neu newid neu amnewid blaenau siopau presennol. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r egwyddorion dylunio allweddol y dylid eu hystyried a'u mabwysiadu wrth ddylunio blaen siop newydd, neu adnewyddu blaen siop, yn dibynnu ar ei gyd-destun.
7.1.3 Er bod gan bob canolfan ei nodweddion ei hun, ceir nifer o egwyddorion dylunio da y gellir eu dilyn wrth ddylunio cynigion datblygu ar gyfer blaenau adeiladau. Er enghraifft, cadw neu wella nodweddion gwreiddiol blaen y siop, neu osgoi newidiadau sy'n creu ffryntiadau diflas neu ffenestri marwaidd.
7.1.4 Mae gan y Cyngor ganllawiau hirsefydlog ar arfer da wrth ddylunio y dylai ymgeiswyr a darpar ddatblygwyr gyfeirio atynt wrth ddatblygu eu cynigion.
7.1.5 Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig y Cyngor yn cynnwys polisïau dylunio sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynigion datblygu greu lleoedd sydd o ansawdd da, yn iach, yn gynaliadwy ac yn unigryw yn lleol (gweler Polisi MD2: Dyluniad Datblygiadau Newydd). Ar ben hynny, mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau a datblygwyr fynd i'r afael ag amcanion creu lleoedd cynaliadwy a sicrhau'r canlyniadau cynllunio cenedlaethol.
7.1.6 Os oes eu hangen, dylai Datganiadau Cynllunio, a Datganiadau Dylunio a Mynediad, esbonio sut mae'r cynigion wedi ystyried y canllawiau dylunio hyn i sicrhau dyluniad o ansawdd uchel a mynd i'r afael ag amcanion creu lleoedd cynaliadwy a osodwyd mewn polisi cenedlaethol.
7.2 Cyd-destun Polisi Dylunio
Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg (2011 – 2026)
7.2.1 Mae Polisi MG12 yn trafod hierarchaeth canolfannau manwerthu ym Mro Morgannwg ac yn nodi mai canolfannau tref ac ardal y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth fel y prif ardaloedd siopa. Nodir Croes Cwrlwys, sy'n ffinio â Chaerdydd, hefyd ym Mholisi MG13, fel un o'r prif barciau manwerthu y tu allan i'r dref yn y Fro.
7.2.2 Mae Polisi MG14 yn trafod defnyddiau heblaw A1 (manwerthu) mewn canolfannau tref ac ardal, ac o dan faen prawf 4 yn amlygu y dylent barhau i ategu cymeriad y ganolfan bresennol, drwy gynnal blaen siop deniadol sy'n cyfrannu at wella hyfywedd a dengarwch canolfannau manwerthu. Gall ffryntiadau marw amharu ar gymeriad masnachol a bywiog canolfannau manwerthu tref, ardal a'r tu allan i drefi. Mae materion ac ystyriaethau tebyg yn berthnasol i ddefnyddiau heblaw A1 mewn canolfannau manwerthu lleol a chymdogaeth, fel y nodir ym Mholisi MG15.
Polisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 11 (Chwefror 2021)
7.2.3 Mae Pennod 3, Dewisiadau Strategol a Gofodol, yn Argraffiad 11 Polisi Cynllunio Cymru yn cynnwys egwyddorion dylunio da ac yn cydnabod bod hynny'n creu lleoedd cynaliadwy y gall pawb mewn cymdeithas eu mwynhau. Mae'r polisi yn nodi y dylai dyluniadau ymateb mewn modd priodol i gyd-destun a chymeriad ardal, er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyriol o'r hyn sydd o'u hamgylch. Gellir cymhwyso hyn i ddyluniad blaen siop i'r graddau mai dyna ran fwyaf gweladwy a dylanwadol y stryd fawr. Mae ffryntiad gweithredol wedi'i ddylunio'n dda yn creu ardal siopa â'i hunaniaeth ei hun, ac yn hollbwysig er mwyn sicrhau dengarwch canolfannau tref ac ardal ym Mro Morgannwg.
Nodyn Cyngor Technegol 12 Llywodraeth Cymru (Dylunio)
7.2.4 Mae Nodyn Cyngor Technegol 12 (Dylunio) gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd arfarnu cyd-destun ardal, i sicrhau bod dyluniadau newydd yn ymateb yn dda i drefluniau lleol. Wrth wneud hynny, rhaid i ddyluniadau greu argraff weledol briodol o'r adeilad a'r strydlun ehangach drwy roi sylw i'r deunyddiau, y lliwiau, y goleuo, y gweadau a'r arddulliau a ddefnyddir.
Cymru'r Dyfodol, Cynllun Datblygu Cenedlaethol 2040
7.2.5 Mae Polisi 6, Canol Trefi yn Gyntaf, Cymru'r Dyfodol yn rhoi'r flaenoriaeth i iechyd canolfannau tref a'u gallu i oroesi drwy gynnig ffocws clir ar gyfer datblygiadau masnachol, manwerthu, iechyd, hamdden addysg a gwasanaethau dinesig newydd sy'n anghynaliadwy yn y rhan fwyaf ardaloedd maestrefol. Mae'r polisi hwn hefyd yn anelu i sicrhau bod canolfannau tref yn gallu tyfu ac adfywio, sy'n cynnwys creu tir cyhoeddus diogel a deniadol, gyda ffryntiadau gweithredol ar hyd y strydoedd.
7.3 Egwyddorion Dylunio Bras
7.3.1 Mae siopau'n creu ffryntiad gweithredol ar hyd y stryd fawr. Os bydd ardaloedd siopa â ffasadau gwag a ffryntiadau anweithredol yn rheolaidd, ystyrir fel arfer eu bod yn brin o gymeriad. Gan hynny, dylai'r holl unedau manwerthu sydd wedi'u meddiannu neu'n wag fod wedi'u dylunio'n dda, i gefnogi hyfywedd canolfannau tref ac ardal ledled Bro Morgannwg.
7.3.2 Egwyddorion Allweddol:
- Dylai dyluniad blaenau siop newydd neu wedi'u hadnewyddu, ymateb yn briodol i'r cyd-destun lleol ac i gymeriad yr ardal siopa gyfagos yn nhermau eu cyfansoddiad a'r lliwiau, y ffurf, y goleuo, y deunyddiau, y raddfa a'r gweadau a ddefnyddir.
- Dylai dyluniad blaenau siop newydd neu bresennol wella ansawdd y strydlun.
- Dylai blaenau siop mewn ardaloedd cadwraeth, a strydluniau sydd wedi'u cadw'n dda, fod wedi'u dylunio i gadw a gwella cymeriad hanesyddol y dreflun.
- Dylid defnyddio deunyddiau cynaliadwy i adeiladu blaenau siop newydd a phresennol lle bynnag y bo modd.
Blaenau Siop Traddodiadol
7.3.3 Blaenau siop traddodiadol yw'r rhai mwyaf cyffredin yn ardaloedd cadwraeth Bro Morgannwg, gan gynnwys ym Mhenarth, y Bont-faen, ac yn rhan isaf canol tref Llanilltud Fawr. Mae Stryd Fawr y Barri hefyd wedi'i chydnabod am ei chymeriad hanesyddol. Yn yr ardaloedd siopa hyn, dylai blaenau siop newydd neu wedi'u hadnewyddu fod yn seiliedig ar gynseiliau clasurol sydd wedi aros yn debyg ers y 1700au. Mae'r blaenau siop hyn yn tueddu i fod yn fanylach ac wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau traddodiadol, fel pren a metelau yn hytrach na phlastig. Yr hyn sy'n nodweddu blaenau siop traddodiadau yw eu natur unffurf glasurol, ac maent fel arfer yn cynnwys y rhannau canlynol:
Dangosyn 1: Agweddau Dylunio Blaenau Siop Traddodiadol
Ffasgia
7.3.4 Y ffasgia yw'r rhan lle mae enw'r siop yn cael ei arddangos. Dylai maint y ffasgia fod yn gymesur â dyluniad blaen y siop a hyd yr holl adeilad. Roedd blaenau siop traddodiadol yn aml yn gogwyddo ymlaen ac wedi'u cynnwys o fewn bracedi consol.
Cornis
7.3.5 Dyma fath o fowldin sy'n gorffen blaen y siop ac yn creu rhaniad llorweddol rhwng blaen y siop a lloriau uwch yr adeilad. Yn draddodiadol mae'r cornis wedi'i wneud o bren.
Pyst ffenestr
7.3.6 Dyma elfen fertigol sy'n gwahanu ac yn aml yn cynnal ffenestri, drysau neu baneli ar flaen siop.
Trawslath
7.3.7 Bar llorweddol yw hwn, yn draddodiadol wedi'i wneud o bren, ar draws ffenestr blaen siop. Gall hefyd wahanu drws oddi wrth y ffenestr linter uwchben.
Ffenestri siop
7.3.8 Dylai maint ac arddull ffenestri, y bariau gwydro, y pyst ffenest a'r trawslathau fod ar yr un raddfa ac yn gymesur â gweddill blaen y siop a'r adeilad yn ei gyfanrwydd. Dylai patrwm a'r modd y rhennir y darnau o wydr gyd-fynd yn dda â'r lloriau uwch ac unrhyw adeiladau cyffiniol.
- Cynhaliwr ffenestr
- Mae'r cynhaliwr yn creu sylfaen gadarn ar gyfer blaen y siop ac yn diogelu ffenestr y siop ac elfen waelod blaen y siop rhag difrod, a hefyd yn sgrinio lloriau diolwg. Y mae hefyd yn helpu i greu cyswllt llorweddol ag adeiladau cyffiniol.
- Pilastr
- Bob ochr i'r cynhaliwr ffenestr ceir pilastrau, sy'n golofnau fflat neu addurnedig sy'n diffinio lled blaen y siop ac yn amgáu ffrâm y ffenestr.
- Plinth
- Dyma floc sgwâr neu hirsgwar sydd fel arfer wedi'i leoli ar waelod y pilastr.
- Consol neu Gorbel
- Yn draddodiadol, ar ben y pilastrau ceir bracedi consol, neu gorbelau, plaen neu wedi'u haddurno sy'n cynnal unrhyw ffasgia bargodol.
Blaenau Siop Modern
7.3.9 Bydd blaenau siop cyfoes yn aml i'w cael ar strydluniau lle ceir elfen lai o gadwraeth, ac yn aml ar strydluniau o natur fasnachol iawn, fel Heol Holton yn y Barri neu yn rhannau o ganol tref Llanilltud Fawr. Bydd rhai blaenau siop yn cynnwys llawer o nodweddion dylunio blaen siop traddodiadol. Fodd bynnag, ar yr amod eu bod wedi'u hadeiladu drwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy a'u bod yn ymateb yn dda i gyd-destun a chymeriad y strydlun, gellir ystyried dyluniadau amgen fel blaenau siop di-ffrâm yn briodol.
7.4 Dylunio Blaen Siopau
Deunyddiau
7.4.1 Dylai'r deunyddiau sy'n gorffen blaenau siop newydd neu wedi'u hadnewyddu ategu gweadau a thonau'r adeilad uwchlaw a, lle bo hynny'n addas, adeiladau cyfagos. Yn gyffredinol, dylid sicrhau bod cyn lleied ag sy'n bosibl o ddeunyddiau'n cael eu defnyddio i orffen blaen y siop, fel nad ydynt yn gwrthdaro â'r adeiladau cyffiniol na chymeriad cyffredinol y stryd. Dylid defnyddio deunyddiau cynaliadwy a chanddynt lefel isel o allyriadau ymgorfforedig a chylch oes byr lle bynnag y bo modd, i sicrhau cyn lleied â phosib o effaith ar yr amgylchedd, ond dylid osgoi plastigau, rhai metelau a deunyddiau anghynaliadwy tebyg lle bo modd.
Traddodiadol
7.4.2 Pren yw'r deunydd gorau ar gyfer blaenau siop traddodiadol. Mae'n ddeunydd amlbwrpas a gwydn, sy'n ei wneud yn opsiwn deniadol a chost-effeithiol. Gellir ei saernïo'n fanwl, ei fowldio i greu gwahanol siapiau, a thrwy ailbaentio'n unig gellir ei ailwampio neu ei addasu, heb amharu ar gymeriad yr holl adeilad. Hefyd, os caiff ei gynnal yn rheolaidd, gall pren gadw am amser hir, gan osgoi'r duedd sydd gan lawer o orffeniadau modern i ddyddio'n sydyn.
7.4.3 Mae alwminiwm yn opsiwn mwy modern ac iddo lai o waith cynnal o'i gymharu â phren. Er nad yw'n ddeunydd traddodiadol, gellir ystyried gorffeniad gorchudd powdr yn dderbyniol. Fodd bynnag, gall alwminiwm naturiol neu wedi'i drin ddangos ôl y tywydd yn ofnadwy, ac maen annhebygol y bydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer blaenau siop newydd neu wedi'u hadnewyddu. Nid yw plastigau ychwaith yn briodol ar adeiladau hŷn fel arfer, ac fe'u hystyrir yn anghynaliadwy. Er bod rhai blaenau siop sy'n blastig yn bennaf i'w cael yn ardaloedd o'r Bont-faen, Penarth, Llanilltud Fawr a Stryd Fawr y Barri, dylai unrhyw flaenau siop traddodiadol newydd neu wedi'u hadnewyddu osgoi gorffeniadau plastig.
Modern
7.4.4 Yn nodweddiadol, caiff blaenau siop cyfoes eu gorffen ag amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau. Mae hyn yn cynnwys alwminiwm, teils, gwenithfaen caboledig, rendr, plastigau a phren wedi'i baentio. Mae'r rhestr o ddeunyddiau'n helaeth, ac ar yr amod bod blaen y siop yn cael ei orffen hyd at ansawdd uchel, yn ymateb yn dda i'r hyn sydd o'i amgylch ac wedi'i adeiladu drwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, gellir ystyried dyluniadau cyfoes neu amgen yn briodol.
Lliw
7.4.5 Mae lliw yn fanylyn sy'n cael effaith sylweddol ar ymddangosiad blaen siop, a gall effeithio'n sylweddol ar strydlun ehangach. Gellir defnyddio lliw i dynnu sylw at elfennau pwysig yn y dyluniad, neu i atgyfnerthu agweddau penodol fel mowldinau a llythrennau eraill. Fodd bynnag, dylid cyfyngu i'r eithaf ar nifer y lliwiau a ddefnyddir o fewn cynllun unigol.
7.4.6 Yn ogystal â hynny, dylid osgoi deunydd â gorffeniadau sgleiniog adlewyrchol, neu liwiau rhy lachar ym mhob lleoliad. Lliwiau niwtral sy'n cael llai o effaith weledol ar y stryd ac ar yr adeilad yw'r opsiwn a ffafrir.
Ffasgia
7.4.7 Y ffasgia yw'r toriad gweledol rhwng ffenestr y siop a lloriau uwch yr adeilad. Dylai fod wedi'i ddylunio'n dda i sicrhau ei fod yn ychwanegu at ansawdd blaen y siop, gan hysbysebu'r busnes ar yr un pryd. Gall ffasgia amlwg, rhy fawr ac anneniadol greu argraff wael ar yr ardal siopa ehangach.
7.4.8 Fel rheol, ni ddylai dyfnder y ffasgia fod yn fwy nag 20% o uchder cyffredinol blaen y siop. Ni ddylai pwynt uchaf y ffasgia fod yn uwch na lefel llawr y llawr cyntaf uwchben.
Ffasgiau traddodiadol
7.4.9 Mae ffasgiau bocs, sy'n ymestyn allan o wyneb yr adeilad, yn debygol o fod yn amhriodol yn y rhan fwyaf o leoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd cadwraeth ac ar strydluniau mwy traddodiadol, am eu bod yn ymddangos yn glogyrnaidd ac yn tynnu oddi ar ymddangosiad blaen y siop. Yn lle hynny, dylai ffasgiau fod wedi'u gosod o fewn blaen y siop a'i ffrâm, yn hytrach na chreu'r argraff mai ychwanegiad diweddarach wedi'u gosod ar ben y gwreiddiol yr ydynt.
Dangosyn 2: Dyluniad Ffasgia Traddodiadol
✓ Yes | Dyma ddyluniad traddodiadol, lle bo'r ffasgia wedi'i osod o fewn blaen y siop a'i ffrâm. |
7.4.10 Ni ddylai blaenau siop traddodiadol fod yn ehangach nag amgylchynau'r uned fanwerthu wreiddiol, a lle bo siop yn meddiannu dwy uned neu fwy drws nesaf i'w gilydd, dylai pob uned gael ffasgia ar wahân, gyda dyluniad cyffredin i greu cyswllt gweledol rhyngddynt Gall blaenau siop sy'n rhychwantu sawl adeilad dynnu oddi ar ansawdd y stryd fawr, am eu bod yn cael gwared â'r nodweddion gwreiddiol ac yn dirywio rhythm yr unedau a'r hyn sy'n gwahaniaethu'r naill uned oddi wrth y llall.
Dangosyn 3: Enghraifft o Flaen Siop Traddodiadol wedi'i Ddylunio'n Dda
✓ Yes | Yn y llun uchod gwelir blaen siop traddodiadol sydd wedi'i ddylunio'n dda ar Stryd Fawr y Bont-faen. Mae'r dyluniad wedi cadw natur unigol yr adeiladau gwreiddiol. |
Dangosyn 4: Enghraifft o Flaen Siop Amhriodol ar gyfer Lleoliad Traddodiadol
╳ No | Uchod ceir blaen siop yn y Barri sy'n rhychwantu amryw o unedau gwreiddiol, a fyddai'n ymddangos yn gwbl anghydnaws â strydlun hanesyddol wedi'i chadw'n dda, fel Stryd Fawr y Bont-faen. |
Ffasgiau Modern
7.4.11 Mae llawer o flaenau siop modern yn efelychu dyluniadau traddodiadol. Yn yr achosion hynny, mae'r ffasgia yn parhau i fod yn anhepgor, a dylid ei osod felly o fewn blaen y siop a'i ffrâm. Fodd bynnag, cydnabyddir bod rhai o'r blaenau siop mwyaf cyfoes yn ddi-ffrâm, sydd felly'n golygu cael gwared â'r ffasgia yn gyfan gwbl o'r dyluniad a gosod arwyddion mewnol. Ar yr amod bod blaen y siop yn ymateb yn dda i gyd-destun yr ardal siopa ehangach, ac nad yw oddi mewn i ardaloedd cadwraeth dynodedig nac ar strydluniau hanesyddol, gellid ystyried bod dyluniad di-ffrâm heb unrhyw ffasgia yn briodol.
7.4.12 Yr enghreifftiau gorau o flaenau siop mawr modern yw'r rhai sy'n cadw'r gofod gwreiddiol rhwng pob uned gyffiniol. Fodd bynnag, mewn lleoliadau masnachol iawn, fel Heol Holton yn y Barri, mae gan rai manwerthwyr ffryntiadau cyfun eisoes sy'n rhychwantu amryw o unedau cyffiniol. Er bod y dyluniadau hyn yn llai deniadol ar y cyfan, cydnabyddir nad ydynt yn niweidio'r strydlun mewn rhai cyd-destunau, ac yn dibynnu ar gymeriad yr adeilad sy'n eu cynnwys. . Ar ben hynny, mae siopau mewn unedau mwy a adeiladwyd yn y 1960au, y 70au a'r 80au yn aml yn cynnwys ffasgiau mwy nag adeiladau hŷn, a gellir ystyried hyn yn briodol ar strydluniau o'r cyfnod ar ôl y rhyfel.
Dangosyn 5: Enghraifft o Flaen Siop Modern wedi'i Ddylunio'n Dda
✓ Yes | Uchod ceir enghraifft o flaen siop modern wedi'i ddylunio'n dda ar Heol Holton, y Barri, lle mae modd adnabod yr uned drwy ddyluniad unedig a rennir rhwng amryw o ffasgiau helaeth gyda gofod chyfartal rhwng y pilastrau. |
Ffenestri
Traddodiadol
7.4.13 Gall ffenestri gwydr mawr heb unrhyw trawslath na physt ffenestri i rannu'r ffryntiad ymddangos yn anghymesur â gweddill yr adeilad ac yn anghydnaws â'r strydlun, yn enwedig os oes pwyslais cryf ar y llorweddol. Gan hynny, dylid rhannu cwareli mawr o wydr yn adrannau llai, i ychwanegu manylion a chryfhau'r dyluniad, a gwella cymesuredd cyffredinol blaen y siop.
7.4.14 Mewn unedau cornel traddodiadol, lle bo blaen y siop yn lapio o amgylch cornel yr adeilad, dylid cadw'r ffenestri gwreiddiol. Ni ddylai'r ffenestr sy'n wynebu'r stryd ochr eilaidd fod wedi'i gorchuddio na'i llenwi, oherwydd byddai hynny'n creu ffryntiad marw. Yn lle hyn, dylid eu cadw i wella a chadw ymddangosiad esthetig yr adeilad a chymeriad y strydlun ehangach.
Modern
7.4.15 Nodweddir dyluniadau modern yn aml gan ffryntiadau gwydrog mawr, yn enwedig mewn dyluniadau di-ffrâm. Ar yr amod bod y dyluniadau hynny'n cydweddu â chyd-destun yr ardal siopa ehangach, ac nad ydynt yn achosi i unrhyw fanylion hanesyddol gael eu tynnu o'r adeilad y maent yn berthnasol iddo, gellir eu tybio'n briodol.
Cynhalwyr ffenestr a philastrau
Traddodiadol
7.4.16 Mae cynhalwyr ffenestr yn rhan annatod o'r blaen siop traddodiadol, am eu bod yn creu cydbwysedd o ran cymesuredd, yn cynnal y ffenestri ac yn creu sylfaen gadarn weledol i'r adeilad. Mae pilastrau hefyd fel arfer yn cynnwys manylion cain ac yn creu rhaniad rhwng blaen y siop ac unedau cyffiniol. Dylent felly fod yn nodwedd gryf o ran eu dimensiwn a'u strwythur, a lle bo cynhalwyr ffenestr a philastrau'n bresennol ar flaen siop traddodiadol, dylid eu cadw. Os yw'r cynhalwyr ffenestr wedi'u tynnu ymaith, dylid gosod rhai newydd yn eu lle.
Dangosyn 6: Enghraifft o Gynhalwyr Ffenestr a Philastrau Traddodiadol
✓ Yes | Yn fan hyn, mae cynhalwyr ffenestr a philastrau ar y naill ochr a'r llall i flaen y siop yn ychwanegu manylion ac yn creu dyluniad cytbwys. |
7.4.17 Gellir defnyddio pilastrau i guddio pibellau draenio a osodir y tu ôl iddynt. Yn yr achosion hyn, dylid gofalu i sicrhau na chaiff y pilastr ei ddifrodi mewn unrhyw ffordd. Yn ogystal â hynny, os yw pibellau draenio yn nodweddion allanol, ni ddylent guddio amgylchynau carreg na manylion y pilastr.
Modern
7.4.18 Mae'r rhan fwyaf o ddyluniadau modern hefyd yn cynnwys cynhalwyr ffenestr a philastrau, i greu sylfaen i flaen y siop ac i wahanu'r siop yn weledol oddi wrth unedau cyffiniol. Er gwaethaf hynny, cydnabyddir bod rhai dyluniadau cyfoes yn ddi-ffrâm neu'n cynnwys cynhalwyr ffenestr a philastrau llawer culach nag a ddefnyddir ar flaenau siop traddodiadol. Fodd bynnag, fel sy'n wir ym mhob agwedd ar y dyluniad, mae'n bwysig i flaen y siop ymateb yn dda i gyd-destun a chymeriad yr adeilad a'r ardal siopa ehangach.
Dangosyn 7: Enghraifft o Flaen Siop Modern sy'n cynnwys Cynhalwyr Ffenestr
✓ Yes | Dengys y llun uchod blaen siop fodern gyda chynhalwyr stondin a ystyrir yn dderbyniol yn ei gyd-destyn. |
Bleindiau a Chanopïau
7.4.19 Gall canopïau a bleindiau ychwanegu lliw i'r strydlun a bod yn gysgod i gerddwyr. Cânt eu hymgorffori'n amlach yn nyluniad blaenau siop traddodiadol yn hytrach na rhai modern, ac os ydynt wedi'u dylunio'n ddeniadol, gall rhythm y bleindiau ar hyd stryd ychwanegu at ei chymeriad. Fodd bynnag, mae'n bwysig iddynt fod yn briodol i'r adeilad unigol ac ni ddylai eu dyluniad/eu dyfnder na'u ffurf greu strwythur sy'n ymddangos yn anghydnaws â'r strydlun. Gan hynny, bydd rhinweddau ychwanegu bleindiau neu ganopïau at flaenau siop traddodiadol yn cael eu hystyried yn ofalus ar gyfer pob uned unigol.
7.4.20 Egwyddorion Allweddol:
- Dylid gosod canopïau'n is na lefel y llawr cyntaf, naill ai uwch ben neu o dan y ffasgia.
- Nid yw bleindiau plastig yn briodol, a dylid eu hosgoi. Oherwydd eu hymddangosiad, y ffaith bod tywydd gwael yn eu gwisgo, a'r hysbysebu ar fleindiau plastig 'gwlyb yr olwg', maent yn opsiwn gwael o gymharu â bleindiau traddodiadol.
- Dylid bodd tynnu canopïau yn ôl yn llwyr.
- Dylai'r blwch bleind fod wedi'i ddylunio'n rhan o flaen y siop ac wedi'i guddio o'r golwg.
- Dylai lliw canopi fod yn gyson â thema liwiau gyffredinol blaen y siop ac ategu hynny.
- Ni ddylid gosod canopïau ar draws pilastrau na ffrâm blaen y siop.
Dangosyn 8: Enghraifft o Ganopïau wedi'u Dylunio'n Dda
✓ Yes | Mae'r ffotograffau uchod yn dangos cyfres o ganopïau wedi'u dylunio'n dda ar hyd Stryd Fawr y Barri, sy'n cyfrannu at gymeriad masnachol y stryd ac yn cydymffurfio â'r prif egwyddorion uchod. |
Goleuo
7.4.21 Dylid cyfyngu ar oleuadau ar unrhyw hysbysebion blaen siop i arwydd y ffasgia, a lle bo'n briodol ar un arwydd ymestynnol neu grog.
Traddodiadol
7.4.22 Mae'n well goleuo arwyddion ffasgia 'yn allanol' (yn amodol ar dyluniad y bwlb golau) neu drwy ddefnyddio golau eurgylch mewnol cynnil, yn hytrach na goleuo'r holl ffasgia yn fewnol.
7.4.23 Yn aml, goleuadau cafn wedi'u gorffen â chwfl, i gyd-fynd â lliw cefndir y ffasgia, yw'r math mwyaf priodol o oleuadau allanol. Gall sbotoleuadau neu oleuadau gwddf alarch fod yn briodol hefyd. Lle cynigi goleuadau allanol, dylai'r rheiny fod yn gynnil ac mor fach ag sy'n bosibl.
Dangosyn 9: Enghraifft o Oleuadau Gwddf Alarch a Goleuadau Cafn
✓ Yes | Uchod ceir enghreifftiau o oleuadau gwddf alarch mewn cyd-destun traddodiadol |
Modern
7.4.24 Dewis arall deniadol yn lle arwyddion wedi'u goleuo â goleuadau allanol yw arwyddion â 'golau eurgylch'. Mae'r rhain yn cynnwys llythrennau neu symbolau unigol sy'n sefyll allan o arwynebedd ac wedi'u goleuo o'r tu ôl, i greu effaith eurgylch o amgylch y llythrennau neu'r logo. Os cânt eu dylunio'n dda, gall arwyddion 'golau eurgylch' ychwanegu at ansawdd blaen siop cyfoes, o fewn amgylchedd siopa modern.
Dangosyn 10:
✓ Yes | Uchod ceir enghraifft o arwydd 'golau eurgylch' modern a ystyrir yn un sy'n ychwanegu at ansawdd blaen y siop. |
7.5 Hysbysebion
7.5.1 Mae hysbysebu allanol yn bwysig ar gyfer gweithgarwch masnachol mewn lleoliadau traddodiadol a modern, a gall fod ar amrywiaeth o ffurfiau. Gall hysbysebion wedi'u dylunio'n dda a arddangosir ar adeiladau wella ymddangosiad cyffredinol ardal siopa. Yn yr un modd, gall hysbysebion difeddwl, rhy fawr neu wedi'u lleoli'n wael dynnu oddi ar yr eiddo a'r ardal y mae'r siop ynddi. Oherwydd hynny, mae angen taro cydbwysedd rhwng bodloni anghenion masnachol hysbysebu a gwarchod amwynder a chymeriad yr ardal oddi amgylch.
Arwyddion ymestynnol a chrog
7.5.2 Gall arwyddion ymestynnol sydd wedi'u dylunio'n dda fywiogi'r strydlun, yn ogystal â chynnig lle ychwanegol i hysbysebu ar flaen siop traddodiadol neu fodern. Dylid lleoli'r arwydd ar lefel y ffasgia neu'n is na hynny, gan ganiatáu 2.1 metr o leiaf rhwng y pafin a'r ymyl isaf.
7.5.3 Dylid cyfyngu arwyddion ymestynnol i un fesul siop, ac mae'n well fel arfer eu lleoli'n agos at y pilastrau gan bwysleisio rhaniad yr unedau siop. Yn gyffredinol, tybir bod arwyddion bocs ymestynnol yn amhriodol. Mae arwyddion braced crog a phlatiau ymestynnol yn ffurfiau ar hysbysebu sy'n llawer mwy deniadol ac urddasol. Isod ceir dwy enghraifft o arwydd ymestynnol (ar y chwith) ac arwydd crog (ar y dde).
Dangosyn 11: Enghreifftiau o Arwyddion Ymestynnol
Arwyddion ar Ffenestri a Drysau
7.5.4 Dylid gofalu i sicrhau bod cyn lleied ag sy'n bosibl o arwyddion yn cael eu gosod ar ardaloedd y ffenestri a drysau. Bydd gormod o sticeri a phosteri yn y ffenestri yn tynnu oddi ar flaen y siop drwy ymddangos yn anniben felly dylid eu hosgoi.
7.6 Diogelwch Blaen y Siop
7.6.1 Dylid ystyried mesurau diogelwch blaen y siop yn llawn yng ngham dylunio cychwynnol y datblygiad, er mwyn sicrhau bod dengarwch a bywiogrwydd y strydlun yn cael ei gadw neu ei wella. Mae'r Cyngor yn cydnabod ei bod yn bwysig diogelu eiddo busnes. Fodd bynnag, mae angen taro cydbwysedd rhwng materion diogelu siopau a sicrhau nad yw hynny'n amharu ar harddwch adeiladau na'r strydlun ehangach. Ar ben hynny, dylid integreiddio mesurau diogelwch yn llwyddiannus i'r dyluniad cyffredinol, waeth a yw'r cynigion yn trafod blaen siop newydd neu bresennol, mewn lleoliad traddodiadol neu fodern.
7.6.2 Rhwyllau codadwy mewnol neu gaeadau rholio tyllog neu latis, wedi'u gosod y tu ôl i ffenestr y siop ac wedi'u gorchuddio â phowdr lliw neu blastig, yw'r opsiwn a ffafrir ar gyfer pob math o flaen siop. Mae'r math hwn o system caead yn creu mesur diogelwch sy'n weladwy, ond nad yw'n amharu ar wedd allanol y siop.
Dangosyn 12: Enghraifft o Gaeadau Amgen
✓ Yes | Uchod ceir enghreifftiau o gaeadau latis mewnol sy'n diogelu blaen y siop, ond hefyd yn sicrhau y cedwir delwedd gadarnhaol ohoni y tu allan i'r oriau agor. |
7.6.3 Mae'n bosibl yr ystyrir bod caeadau diogelwch allanol sy'n rhychog, yn cynnwys llawer o dyllau neu batrwm latis yn dderbyniol ar gyfer blaenau siop modern, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf canlynol:
- Mae gorchudd y caead naill ai wedi'i guddio'n fewnol neu mewn man priodol y tu ôl i'r ffasgia.
- Nid yw'r traciau'n rhy amlwg.
- Mae'r pilastrau, y cornisau, y ffasgiau a'r nodweddion eraill ar flaen y siop yn parhau i fod yn weladwy.
Dangosyn 13: Enghraifft o Gaead Latis Allanol
✓ Yes | Dyma enghraifft o gaead latis allanol, sy'n diogelu'r blaen siop modern hwn, gan ei alluogi i barhau i fod yn weladwy ar y stryd. |
7.6.4 Ni cheir defnyddio caead solet ar flaenau siop traddodiadol, a dylid ei osgoi hefyd mewn cyd-destunau modern. Mae hyn oherwydd pan fydd y caeadau'n cael eu rholio i lawr, maen nhw'n creu ffryntiad marw ac yn gorchuddio nodweddion diddorol a deniadol yr adeilad a blaen y siop. Maent hefyd yn denu fandaliaeth a gallant amharu ar ddiogelwch y siop, gan na fydd tresmaswyr yn cael eu gweld ar ôl iddynt dorri i mewn i'r adeilad.
Dangosyn 14: Enghraifft o Gaeadau Anaddas
╳ No | Uchod ceir caead solet wedi'i fandaleiddio sy'n creu ffryntiad marw ac yn difrodi ansawdd cyffredinol yr adeilad ac yn tynnu oddi ar yr amgylchedd siopa ehangach. |
7.7 Gorchudd y caead
7.7.1 Ni chaniateir gorchuddion dros fecanwaith y caead os ydynt yn estyn allan o flaen y siop, gan eu bod oherwydd eu natur yn ymddangos yn hyll. Yn lle hynny, dylid gosod gorchudd y caead yn fewnol y tu mewn i'r siop neu mewn cilfach y tu ôl i'r ffasgia, fel bo modd i fwrdd y fasgia fod yn wastad a blaen y siop.
Dangosyn 15: Gorchudd y Caead
Mathau derbyniol o flwch caead. Ar y Chwith: Blwchcaead mewnol, caead y tu mewn i ffenestr siop (yr opsiwn a ffefrir). Ar y Dde: Blwch caead wedi'i leoli y tu ôl i ffasgia, caead allanol.
7.8 Opsiynau Amgen yn Lle Caeadau Diogelwch
7.8.1 Er ein bod yn cydnabod y gallai deiliaid siopau fod eisiau caeadau, gall rhai dyluniadau traddodiadol ymgorffori mesurau diogelwch eraill llwyddiannus sy'n sicrhau diogelwch gan gynnal estheteg. Mae'r rhain yn cynnwys:
Cynhalwyr ffenestr
7.8.2 Yn ogystal â chynnal blaen y siop, gall cynhalwyr ffenestr atal difrod gan unrhyw un sy'n cicio'r siop neu gan wrthrychau a deflir neu a gaiff eu rholio tuag at y siop.
Dangosyn 16: Chynhalwyr Ffenestr
Mae rhes o sawl siop yn Y Bont-faen, oll â chodwyr stondinau ar gyfer strwythur, cydbwysedd, ac amddiffyniad rhag difrod.
Gatiau Metel
7.8.3 Yn gyffredinol, mae gatiau dur neu haearn gyr i gau bylchau drws y tu allan i oriau fel arfer yn ffordd dda o sicrhau diogelwch, heb orfod gosod caeadau rholio hyll.
Dangosyn 17: Gatiau Metel
Enghraifft dda o fynedfa giât fetel, tu allan i'r oriau agor.
Rheiliau Parhaol neu Sefydlog
7.8.4 Gall codi rheiliau lefel isel o ddur neu haearn gyr helpu i ddiogelu blaen y siop rhag cael ei ddifrodi mor hawdd.
Dangosyn 18: Rheiliau Sefydlog
Enghraifft o reiliau lefel isel i ddiogelu'r siop.
Ffenestri Rhanedig
7.8.5 Mae osgoi ffenestri mawr sydd ond yn cynnwys un neu ddau gwarel o gwydr yn allweddol i gryfhau blaen y siop. I sicrhau diogelwch, dylid rhannu ffenestri ac atgyfnerthu'r fframiau.
Dangosyn 19: Ffenestri Rhanedig
Mae'r ddwy siop gyfagos wedi rhannu'r ffenest tua'r brig, gan ychwanegu at gryfder ffryntiad y siop.
Caeadau Pren Symudadwy neu Sefydlog
7.8.6 Weithiau ystyrir caeadau pren yn briodol, ond dylid bod yn ofalus i osgoi creu ffryntiad marw.
Rhwyllau Symudadwy
7.8.7 Weithiau ystyrir bod defnyddio rhwyllau'n briodol, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r lliwiau a'r gweadau a ddefnyddir.
7.9 Pryd mae Angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer Mesurau Diogelwch Blaen Siop?
7.9.1 Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob math o gaeadau diogelwch allanol. Mewn amgylchiadau lle bydd math gwahanol o gaead yn cael ei osod yn lle caeadau diogelwch allanol presennol, bydd gwedd allanol yr eiddo yn newid felly bydd angen caniatâd cynllunio fel arfer. Yn amodol ar y dyluniad, caeadu diogelwch mewnol yn unig yw'r eithriad i hyn ac nid oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer fel arfer.
7.9.2 Mae'n bwysig nodi ei bod hi'n debygol y gwrthodir caniatâd cynllunio ar gyfer caeadau sydd wedi'u dylunio'n wael, hyd yn oed os oes enghreifftiau tebyg eisoes i'w cael yn yr ardal leol.
7.10 Mynediad
7.10.1 Rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i fynediad i unrhyw adeiladau sy'n hygyrch i'r cyhoedd wrth ddylunio blaenau siopau newydd neu adnewyddu blaenau siop, fel sy'n ofynnol yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, 1995. Rhaid achub ar bob cyfle i sicrhau ei bod yn bosibl i bob aelod o'r cyhoedd gael mynediad i'r adeilad ac o amgylch yr adeilad.
7.10.2 Dylai pob dyluniad gydymffurfio â safonau cyfredol y Rheoliadau Adeiladu lle bo'n berthnasol. Ceir rhagor o fanylion gan ein Hadran Rheoli Datblygu
7.11 Parciau Manwerthu ar Gyrion a'r Tu Allan i'r Dref
7.11.1 Mae amryw o barciau manwerthu ar gyrion a'r tu allan i'r dref o fewn Bro Morgannwg sydd wedi'u rhestru yn y testun ategol i Bolisi MG13. Y parc mwyaf a phwysicaf yw Croes Cwrlwys sydd hefyd yn rhannol oddi mewn i ffiniau gweinyddol Cyngor Caerdydd. Er bod blaenau siop parciau manwerthu yn tueddu i fod yn llawer mwy ac yn fwy cyfoes nag unedau llai yng nghanol y dref, mae'r un egwyddorion yn berthnasol o ran dyluniad.
7.11.2 Egwyddorion dylunio allweddol:
- Dylai'r dyluniad ymateb yn briodol i gyd-destun a chymeriad yr ardal gyfagos o ran y lliwiau, ffurf, goleuo, deunyddiau, graddfa a'r gwead a ddefnyddir.
- Dylid defnyddio deunyddiau cynaliadwy i adeiladu blaenau siop lle bynnag y bo modd.
Dangosyn 20: Enghraifft o Ddyluniad Ffryntiad Parc Manwerthu
✓ Yes | Llun o Barc Manwerthu Glannau'r Barri a geir uchod. Er ei fod yn cyferbynnu â dyluniad blaenau siop traddodiadol a modern a geir yng nghanol trefi, caniateir mwy o hyblygrwydd yn y dyluniad mewn lleoliad ar gyrion canol y dref, ac yn yr achos hwn ystyrir ei fod yn ymateb yn briodol i gyd-destun yr ardal ehangach. |
7.12 Blaenau Siop Gwag
7.12.1 Os bydd siop yn cael ei gadael yn wag am gyfnod sylweddol, dylid cymryd gofal wrth ystyried sut i adael y ffryntiad. Mae blaenau siopau sydd naill ai â byrddau drostynt neu sydd wedi'u gorchuddio â chaeadau rholio solet yn creu ffryntiad marw, sy'n tynnu oddi ar ansawdd y strydlun, a gall hefyd amharu ar ymddangosiad parciau manwerthu ar gyrion a'r tu allan i'r dref. Er ei bod yn anochel y bydd unedau gwag yn golygu llai o oruchwyliaeth naturiol ac ardaloedd siopa tawelach, dylai perchnogion siopau ac adeiladau ystyried sut y gellir cadw elfen o fywyd yn ffryntiad yr eiddo ar ôl i'r deiliaid ymadael.
7.12.2 Er mwyn sicrhau bod y stryd fawr ac ardaloedd siopa eraill yn parhau i fod yn gyrchfannau deniadol i siopwyr, dylai blaenau siop barhau i fod yn weladwy. Gallai ffenestri gael eu gorchuddio â sticeri finyl â lluniau arnynt, i greu'r argraff bod tenant newydd ar fin meddiannu'r adeilad. Fel arall gellid defnyddio palisau deniadol ac arnynt waith celf i orchuddio blaen y siop, neu mewn rhai achosion gellid defnyddio blaen y siop i arddangos nwyddau/hysbysebion busnesau cyfagos. Dylid gweithredu'r opsiwn mwyaf priodol, drwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy lle bo modd.
7.12.3 Dylai unedau a adeiledir o'r newydd ac sy'n wag hefyd gynnwys sticeri finyl ac/neu waith celf, os yw'n debygol y byddant yn wag am gyfnod sylweddol. Fel arall, gallent hefyd edrych yn ddiolwg.
Dangosyn 21: Ffryntiad Anaddas ar Siop Wag
╳ No | Uchod ceir siop wag ar Heol Holton, Y Barri. Mae'r caead rholio solet yn creu ffryntiad marw diolwg. Byddai sticer neu balisau celf yn gwneud y strydlun yn fwy diddorol, ac yn gwella'r argraff a gaiff rhywun o'r amgylchedd siopa. |
7.12.4 Mae'n bosibl y bydd 'Hysbysiad Tir Blêr' yn cael ei gyflwyno i flaenau siop gwag sy'n cael effaith niweidiol ormodol ar ansawdd y strydlun, o dan Adran 2015 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Byddai'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu feddiannydd yr uned/adeilad unioni'r sefyllfa o fewn cyfnod penodol. Gallai peidio cydymffurfio a'r hysbysiad adael y perchennog yn agored i'w erlyn.