Draft Retail and Town Centre Development SPG
2. Pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol
2.1. Lluniwyd y ddogfen CCA hon i ategu polisïau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011-2026, er mwyn helpu i sicrhau ei nodau a'i amcanion, gan gynnwys:
Amcan 6: Atgyfnerthu bywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch canolfannau siopa tref, ardal, lleol a chymdogaeth Bro Morgannwg.
2.2. Bwriedir iddi gynorthwyo ymgeiswyr sy'n llunio cynigion yng nghanolfannau manwerthu Bro Morgannwg i fodloni gofynion polisïau manwerthu a dylunio'r Cynllun, yn ogystal ag ystyried polisi cenedlaethol.
2.3. Mae'n rhoi cyngor ynghylch sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â chynigion am ddatblygiadau manwerthu y tu allan i ganolfannau manwerthu'r Fro. Y mae hefyd yn rhoi cyngor pellach ynghylch cymhwyso polisïau MG14 (Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Tref ac Ardal) ac MG15 (Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Lleol a Chymdogaeth) y CDLl, lle bydd cynigion datblygu yn golygu colli uned fanwerthu A1 bresennol neu wag.
2.4. Mae'r CCA hefyd yn rhoi canllawiau ar ddyluniad blaen siop ar gyfer cynigion sy'n cynnwys addasu ffasadau mewn canolfannau manwerthu dynodedig, er mwyn helpu i fodloni polisïau dylunio'r CDLl.