Draft Retail and Town Centre Development SPG

Daeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022

5. Datblygiadau Manwerthu y Tu Allan i Ganolfannau Manwerthu

5.1.1. Yn ôl PCC: "Mae'n rhaid i'r system gynllunio: hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol trefol a gwledig hyfyw fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fyw, gweithio, siopa, cymdeithasu a chynnal busnes; cynnal a gwella bywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch canolfannau manwerthu a masnachol" (gweler paragraff 4.3.3).

5.1.2. Mae hierarchaeth manwerthu Bro Morgannwg yn cynnwys canol trefi a chanolfannau ardal, lleol a chymdogaeth a nodir ym Mholisi MG12, ac yn eithrio unrhyw barciau manwerthu ar gyrion canol y dref, neu'r tu allan i'r dref o fewn Bro Morgannwg. Mae Polisi MG13 yn pwysleisio egwyddor polisi cenedlaethol mai ein canolfannau manwerthu presennol yw'r lleoliad gorau ar gyfer datblygiadau manwerthu a datblygiadau tebyg, lle gellir eu cyrraedd yn rhwydd ar drafnidiaeth gynaliadwy a lle gall defnyddiau o'r fath ategu'r naill a'r llall i atgyfnerthu rôl a swyddogaeth aneddiadau cynaliadwy. Gan hynny, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddangos bod angen am ddarpariaeth fanwerthu ar gyrion canol y dref, neu'r tu allan i'r dref, ac na fyddai'n cael effaith annerbyniol ar y prif ganolfannau manwerthu.

5.1.3. Dyma leoliadau ardaloedd manwerthu presennol ar gyrion canol tref neu'r tu allan i'r dref ym Mro Morgannwg:

Ar Gyrion Canol Tref

  • Y Barri: Glannau'r Barri; Palmerston; Pencoedtre; Parc Highlight
  • Penarth: Ffordd Terra Nova

Y Tu Allan i'r Dref

  • Parc Manwerthu Croes Cwrlwys, Croes Cwrlwys
  • Parc Manwerthu Teras Brooklands, Croes Cwrlwys
  • Parc Manwerthu Valegate Croes Cwrlwys
  • Parc Manwerthu Heol Penarth

POLISI MG13 – ARDALOEDD MANWERTHU AR GYRION TREFI A'R TU ALLAN I DREFI

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu newydd ar safleoedd newydd neu ardaloedd manwerthu presennol mewn lleoliadau ar gyrion trefi a'r tu allan i drefi, gan gynnwys newid defnydd, estyniadau, uno neu isrannu unedau presennol neu ddiwygiadau i amodau cynllunio presennol mewn perthynas â gwerthu nwyddau'n cael eu caniatáu dim ond yn yr achosion canlynol:

  1. lle gellir dangos bod angen ychwanegol am y cynnig na ellir ei ddarparu mewn canolfan fanwerthu tref neu ardal bresennol, a
  1. lle na fyddai'r cynnig, boed yn unigol neu'n gronnol gyda datblygiadau eraill y rhoddwyd caniatâd iddynt yn ddiweddar neu y mae caniatâd iddynt yn yr arfaeth ar hyn o bryd, yn cael effaith annerbyniol ar fasnach, trosiant, bywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau tref, ardal, lleol neu gymdogaeth

5.1.4. Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu newydd mewn ardaloedd manwerthu ar gyrion a'r tu allan i'r dref yn cael eu rheoli'n llym yn unol â pholisi cenedlaethol, er mwyn cefnogi canolfannau manwerthu sydd wedi'u sefydlu eisoes yn yr hierarchaeth manwerthu.

5.1.5. Mae Polisi MG13 yn nodi'r meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i asesu cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu newydd mewn lleoliadau ar gyrion trefi a'r tu allan i drefi yn unol â pholisi cenedlaethol. Mae'n gymwys i'r holl gynigion sy'n creu arwynebedd llawr manwerthu ychwanegol, gan gynnwys newid defnydd, estyniadau, isrannu / uno unedau presennol, lledloriau ac amrywiadau i amodau cynllunio perthnasol.

5.2. Dangos Angen Ychwanegol am Ddarpariaeth Manwerthu

5.2.1. Mae TAN 4 yn pwysleisio'r angen i ddatblygiadau manwerthu y tu allan i ganolfannau manwerthu ddangos angen ychwanegol. Nid yw'n rhagnodi'r fethodoleg ar gyfer asesu'r angen am ddarpariaeth manwerthu ond mae'n cynghori y dylai datblygwyr sicrhau bod asesiadau'n cael eu paratoi mewn modd clir, rhesymegol a thryloyw, gan ddefnyddio tystiolaeth gadarn a realistig.

5.2.2. Mae asesiadau angen meintiol fel arfer yn cynnwys:

  • Lefelau a dosbarthiad presennol y boblogaeth, a'r rhagolygon o hynny
  • Rhagolygon o wariant ar gyfer dosbarthiadau penodol o nwyddau sydd i'w gwerthu, o fewn categorïau bras nwyddau cymhariaeth a hwylustod, a ddarperir yn yr ardal ddaearyddol isaf bosibl i adlewyrchu amgylchiadau lleol.
  • Data dwysedd gwerthiant ar gyfer darpariaeth manwerthu bresennol a'r dyfodol, sy'n realistig ac wedi'u meincnodi yn erbyn datblygiadau manwerthu tebyg yn yr ardal; a
  • Dalgylchoedd ar gyfer canolfannau a siopau unigol sy'n adlewyrchu maint a graddfa'r datblygiad a thynfa debygol cynllun neilltuol.

5.2.3. Lle dangosir angen ychwanegol, bydd angen i ddatblygwyr brofi na ellir ei ddiwallu o fewn canolfan fanwerthu tref neu ardal bresennol, drwy gadw at y lleoliad a ffafrir yn y prawf cymalog ar gyfer defnyddiau manwerthu, hamdden a defnyddiau eraill ategol:

  • Yn gyntaf, o fewn canolfannau manwerthu a masnachol a nodir yn yr hierarchaeth manwerthu lle bo safleoedd addas, adeiladau addas i'w trawsnewid, ar gael. Mae'n rhaid i'r cais cynllunio fod ar raddfa briodol mewn perthynas â rôl a swyddogaeth y ganolfan.
  • Os nad oes unrhyw safleoedd addas ar gael mewn canolfannau manwerthu a masnachol, dylid ystyried lleoliadau ar gyrion canol y dref, gan ffafrio safleoedd tir llwydd sydd â chysylltiadau da, neu a fydd â chysylltiadau da, â'r ganolfan bresennol, ac yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Dim ond pan fydd canolfannau manwerthu a masnachol a lleoliadau ar gyrion canol y dref wedi'u hystyried a'u canfod yn anaddas y gellir ystyried opsiynau y tu allan i ganol y dref oddi mewn, ac wedyn oddi allan, i ardal anheddiad. Yn achos safleoedd y tu allan i ganol y dref dylid ffafrio safleoedd tir llwyd sy'n cael eu gwasanaethu gan, neu a fydd yn cael eu gwasanaethu gan, ddewis o ddulliau teithio, ac sy'n agos at ganolfan fanwerthu a masnachol sefydledig.

5.2.4. Lle bo datblygwr yn ffafrio safle datblygu ar gyrion canolfan fanwerthu a masnachol, neu'r tu allan iddi, bydd angen i'r datblygwr gyflwyno tystiolaeth i esbonio pam na all safleoedd neu adeiladau posibl o fewn y ganolfan gynnwys ffurf, graddfa a dyluniad datblygiad a gynigir. Bydd disgwyl i ddatblygwyr fod yn rhesymol hyblyg o ran hyn gan roi sylw i egwyddorion cynllunio ehangach fel cynaliadwyedd a hygyrchedd. Yn ôl TAN 4: "Dylai datblygwyr a manwerthwyr fod yn hyblyg ac arloesol o ran fformat, dyluniad a maint y datblygiad arfaethedig ac ynglŷn â faint o ofod parcio fydd ei angen, gan addasu'r rhain i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol."

5.3. Asesiad Effaith Manwerthu

5.3.1. Yn ogystal â dangos angen a bod y prawf cymalog ar gyfer lleoliad wedi'i gymhwyso, bydd yn rhaid i ddatblygwyr ddangos na fyddai eu cynigion ar gyfer manwerthu mewn lleoliad ar gyrion neu'r tu allan i ganolfan yn cael effaith annerbyniol ar fasnach, trosiant, bywiogrwydd na hyfywedd y canolfannau trefol, ardal, lleol neu gymdogaeth, boed hynny'n unigol neu'n gronnus ar y cyd â datblygiadau eraill diweddar neu a gynigiwyd ac a ganiatawyd.

5.3.2. Mae PCC yn cydnabod y gall datblygiadau manwerthu y tu allan i ganolfannau manwerthu a masnachol dynodedig effeithio ar fywiogrwydd a hyfywedd canolfan. Gall effeithiau sy'n deillio o ddatblygiad o'r fath, boed yn unigol neu'n gronnus, gynnwys newidiadau mewn trosiant a'r gallu i fasnachu, y dewis i brynwyr, patrymau traffig a theithio, nifer yr ymwelwyr, yn ogystal ag effeithio ar strategaethau i adfywio canolfannau a safleoedd manwerthu presennol neu arfaethedig a ddyrannwyd yn y cynllun datblygu. Pwrpas yr asesiad effaith manwerthu yw ystyried y materion hyn a phenderfynu a yw'r datblygiadau hyn yn debygol o greu canlyniadau andwyol.

5.3.3. Ar gyfer ceisiadau a gynigir ar gyrion neu'r tu allan i ganolfannau manwerthu a masnachol dynodedig, mae Polisi Cynllunio Cymru yn pennu trothwy o 2,500 metr sgwâr neu fwy o arwynebedd llawr gros lle bydd angen asesiad effaith manwerthu. Ar gyfer ceisiadau cynllunio manwerthu llai, nodir y bydd angen i awdurdodau cynllunio benderfynu a oes angen cynnal asesiad, er enghraifft pe bai cynnig llai yn gallu cael effaith sylweddol ar ganolfan. Caiff y rhain eu hasesu fesul achos, a dylai datblygwyr ofyn am gyngor cyn ymgeisio i gael rhagor o wybodaeth am ofynion penodol yn gysylltiedig ag union leoliad, graddfa a ffurf y datblygiad a gynigir.

5.3.4. Lle rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad manwerthu newydd ar gyrion a'r tu allan i ganolfan, gellir gosod amodau i reoli natur a graddfa'r gweithgarwch manwerthu i leihau unrhyw effaith bosibl ar y canolfannau manwerthu sy'n bodoli eisoes o fewn yr hierarchaeth manwerthu.

5.4. Siopau Bach ac Angen Lleol

5.4.1. Nod Polisi MG 13 yw cadw a gwella bywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch canolfannau tref, ardal, lleol a chymdogaeth, yn ogystal â hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a phatrymau teithio cynaliadwy. O ran hyn, bydd cynigion am siopau bach sy'n gwasanaethu cymdogaeth leol neu bentref gwledig, a siopau fferm, yn cael eu ffafrio y tu allan i ganolfannau manwerthu presennol.

5.4.2. Ar ben hyn, mae'r CDLl yn cydnabod pwysigrwydd siopau cymdogaeth leol, ac mae Polisi MD5 yn nodi y caniateir datblygiadau o fewn ffiniau anheddiad os na fydd hynny'n arwain at golled annerbyniol o ran cyfleusterau cymunedol, a allai gynnwys siop leol, swyddfa bost neu dafarn.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig