Draft Retail and Town Centre Development SPG
4. Y Cyd-destun o ran Deddfwriaeth a Pholisi
4.1.1. Mae'r adrannau a ganlyn yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol a pholisi mewn perthynas â chynllunio manwerthu ac ystyried cynigion datblygu newydd yng Nghanol Trefi a Chanolfannau Ardal, Canolfannau Lleol a Chanolfannau Cymdogaeth Bro Morgannwg.
4.2. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
4.2.1. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn trafod gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, cydweithio'n well â phobl, cymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd gydweithredol at waith. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith o dan amrywiaeth o benawdau. Gall darparu ystod a dewis priodol o safleoedd ac eiddo cyflogaeth gyfrannu at gyflawni'r Nodau Llesiant a ganlyn:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar raddfa fyd-eang.
4.2.2. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gymryd camau rhesymol wrth arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r amcanion llesiant a nodir uchod. Lluniwyd y CCA hyn yn rhan o ddyletswydd y Cyngor a'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy', fel y nodir yn y Ddeddf, ac maent wedi ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu anghenion hwythau.
4.3. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd)
4.3.1. Mae'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) yn nodi defnyddiau tir ac adeiladau ac yn eu gosod mewn categorïau amrywiol a elwir yn ddosbarthiadau defnydd. Nid yw'r Gorchymyn yn cynnwys rhestr ddiffiniol o'r holl wahanol fathau o ddefnydd tir ac adeiladau, ond mae'n rhoi categorïau bras er mwyn galluogi datblygwyr a phenderfynwyr i ddeall pa ddosbarth defnydd a ddylai fod yn berthnasol.
4.3.2. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi syniad o'r mathau o ddefnyddiau a fyddai'n perthyn i'r dosbarthiadau defnydd manwerthu sydd wedi'u cynnwys o dan Ran A o Atodlen 1 y Gorchymyn:
- A1 Siopau - Siopau, warysau manwerthu, siopau trin gwallt, ymgymerwyr, asiantaethau teithio a thocynnau, swyddfeydd post (ond nid swyddfeydd didoli), siopau anifeiliaid anwes, bariau brechdanau, ystafelloedd arddangos, siopau hurio domestig, sychlanhawyr a threfnwyr angladdau.
- A2 Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol - Gwasanaethau ariannol fel banciau a chymdeithasau adeiladu, gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd a meddygol) gan gynnwys asiantaethau eiddo a chyflogaeth a swyddfeydd betio.
- A3 Bwyd a diod - Ar gyfer gwerthu bwyd a diod i'w bwyta ar y safle - bwytai, bariau byrbryd a chaffis, lleoedd yfed a siopau cludfwyd.
4.3.3. Os bydd rhywun yn ansicr pa ddosbarth defnydd sy'n berthnasol i adeilad neu barsel tir, dylai wirio hanes cynllunio'r safle a chanfod y caniatâd cynllunio diweddaraf a gymeradwywyd ac y gweithredwyr yn ei sgil ar y safle. Gellir canfod hyn drwy ddefnyddio Cofrestr Cynllunio'r Cyngor y ceir mynediad ati ar dudalen we'r Cyngor. Os ceir unrhyw broblemau wrth bennu dosbarth defnydd presennol tir neu adeiladau, cysylltwch â'r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir yn Adran 10 o'r CCA hyn am gyngor pellach.
4.4. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd)
4.4.1. Gellir gwneud rhai mathau o fân newidiadau i dir ac adeiladau heb fod angen caniatâd cynllunio. Gelwir y rhain yn hawliau datblygu a ganiateir ac maent wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd). Mewn perthynas â chynigion sy'n ymwneud â mathau tebyg o ddosbarthiadau defnydd efallai na fydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd yr adeilad neu'r tir. Er enghraifft, gellid newid siop trin gwallt i siop esgidiau heb ganiatâd gan fod y defnyddiau hyn oddi mewn i'r un 'dosbarth', a gellid newid bwyty i siop neu asiant tai gan fod y Gorchymyn Dosbarth Defnydd yn caniatáu i'r math hwn o newid ddigwydd heb fod angen caniatâd cynllunio.
4.4.2. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu allanol sy'n gysylltiedig â newid defnydd, fel hysbysebion newydd ar gyfer y defnydd newydd.
4.4.3. O ran newid defnydd sy'n perthyn i ddefnyddiau manwerthu Dosbarth A, mae'r tabl canlynol yn dangos lle byddai newid defnydd yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir:
Tabl1: Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer Defnydd Manwerthu
Defnydd Presennol |
Newid Defnydd a Ganiateir |
A2 (gwasanaethau proffesiynol ac ariannol) lle bo gan eiddo ffenestr arddangos ar lefel y ddaear |
A1 (siop) |
A3 (bwyd a diod) |
A1 neu A2 |
Sui Generis - Ystafelloedd arddangos ceir yn unig |
A1 Siop |
A1 neu A2 |
A1 gydag un fflat uwchben |
A2 |
A2 gydag un fflat uwchben |
4.4.4. Mewn rhai ardaloedd o'r wlad, mae hawliau datblygiad a ganiateir yn fwy cyfyngedig. Os yw'r tir neu'r adeilad wedi'i leoli mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, neu Safle Treftadaeth y Byd bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith nad oes angen cais arnoch mewn ardaloedd eraill. Mae cyfyngiadau ychwanegol hefyd os yw adeilad wedi'i ddynodi'n adeilad rhestredig. Yn ogystal, gallai'r defnydd presennol fod wedi'i ganiatáu yn amodol ar ddileu hawliau datblygiad a ganiateir sy'n golygu y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newidiadau uchod. Mewn rhai achosion, mae'r defnydd wedi'i gyfyngu i ddefnyddiwr penodol neu gyfyngiadau eraill, o ganlyniad mae'n bwysig bod datblygwyr yn deall hanes cynllunio adeilad neu dir yn llawn cyn ymgymryd â mathau o ddatblygiad a ganiateir.
4.4.5. Os oes ansicrwydd ynghylch y defnydd presennol, ac a yw hawliau datblygu a ganiateir wedi'u dileu, cysylltwch â'r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd o dan Adran 10 o'r CCA hyn.
Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Coronafeirws Covid-19 - Hawliau Datblygu a Ganiateir Dros Dro i Gefnogi Busnesau
4.4.6. Mewn ymateb i effaith niweidiol cyfyngiadau Covid-19 ar y sector manwerthu, llaciodd Llywodraeth Cymru reolaethau cynllunio dros dro ar gyfer datblygiadau a ganiateir drwy ddiwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Daeth y diwygiadau i'r Gorchymyn i rym rhwng 30 Ebrill 2021 a 2 Ionawr 2022.
4.4.7. Cyn y pandemig, cydnabu Llywodraeth Cymru fod angen cynyddol i arallgyfeirio canolfannau manwerthu a masnachol er mwyn iddynt allu addasu i gyd-fynd â thueddiadau manwerthu'r dyfodol, a pharhau i fodloni anghenion eu cymunedau lleol. Roedd yr angen hwn i arallgyfeirio'n fwy nag erioed yn sgil effeithiau COVID-19. Yn y tymor byr, ceisiodd Llywodraeth Cymru hwyluso newidiadau defnydd dros dro i alluogi busnesau i dreialu defnyddiau amgen o fewn canol trefi am gyfnod byr. Drwy hyn, bwriadwyd iddynt dreialu defnyddiau amgen a chael adborth cychwynnol ynghylch a fyddai'r busnes newydd yn debygol o fod yn llwyddiannus gan osgoi'r gost a'r oedi'n gysylltiedig â chyflwyno cais cynllunio.
4.4.8. Nid oedd y newidiadau defnydd dros dro ond yn gysylltiedig â safleoedd yng nghanol trefi a ddiffinnir o dan bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol. O ran CDLl Bro Morgannwg, mae Polisi MG12 - Hierarchaeth Manwerthu yn nodi'r canolfannau manwerthu lle'r oedd y datblygiadau a ganiateir yn berthnasol. Manylir ar y datblygiadau a ganiateir dros dro a oedd wedi'u cynnwys yn y diwygiad i'r Gorchymyn yn y tabl isod:
Tabl2: Hawliau Datblygu a Ganiateir Dros Dro mewn Canol Trefi
Rhan 4A |
Defnydd Presennol (o fewn canol trefi yn unig) |
Newid a Ganiateir |
Dosbarth C |
Dosbarth defnydd A1 (siopau) |
|
Dosbarth D |
Dosbarth defnydd A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) |
|
Dosbarth E |
Dosbarth defnydd A3 (bwyd a diod) |
|
4.4.9. Cafodd pob newid a weithredwyd ei ganiatáu am gyfnod o chwe mis, gan ddechrau ar ddyddiad dechrau'r datblygiad, ac roedd yn ofynnol i'r newidiadau hynny ddod i ben ar 29 Ebrill 2022, neu cyn hynny, oni roddwyd caniatâd cynllunio i gadw'r defnydd hwnnw. Roedd caniatâd i ddychwelyd i ddefnydd gwreiddiol yr adeilad ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod o chwe mis. Er mwyn sicrhau bod effeithiau'r newid defnydd a ganiateir wedi'u cofnodi'n briodol, roedd yn rhaid i ddatblygwyr hysbysu'r Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch y newid defnydd dros dro cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
4.4.10. Dylid nodi na fyddai datblygiad yn cael ei ganiatáu pe bai'r defnydd A3 a gynigiwyd fyddai gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle; neu pe bai'r defnydd a gynigiwyd yn Ddosbarth B1(c) (hy, ar gyfer unrhyw broses ddiwydiannol). Gall y mathau hyn o ddefnydd greu effeithiau cynllunio y byddai angen eu hystyried ymhellach drwy gyflwyno cais cynllunio, ee effeithiau sŵn ar breswylwyr cyfagos.
4.4.11. Fodd bynnag, er nad oedd y newidiadau hyn ond yn weithredol hyd ddiwedd mis Ebrill 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad rhwng 16 Tachwedd 2021 ac 15 Chwefror 2022 ar gynnig i'w gwneud yn barhaol. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn.
4.5. Cymru'r Dyfodol: Cynllun Datblygu Cenedlaethol 2040
4.5.1. Mae Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040,yn nodi fframwaith datblygu cenedlaethol strategol Llywodraeth Cymru ac yn adeiladu ar amcanion allweddol Polisi Cynllunio Cymru. Mae'n amlinellu strategaethau Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, gan ddarparu datblygiadau o ansawdd yn y mannau cywir am y rhesymau cywir, cyflawni nodau datgarboneiddio a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, meithrin ecosystemau cryf, a gwella iechyd a llesiant cymunedau.
4.5.2. Mae'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol yn amlinellu nifer o bolisïau strategol y mae'n rhaid i gynnig datblygu eu hystyried, ac a ddefnyddir gan benderfynwyr yn sail wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio. Ystyrir bod y polisïau strategol canlynol yn berthnasol i gynigion manwerthu ym Mro Morgannwg:
Polisi 2 – Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol
"Dylai tyfu ac adfywio trefi a dinasoedd wneud cyfraniad cadarnhaol at greu lleoedd cynaliadwy sy'n cefnogi bywydau egnïol ac iach, gyda chymdogaethau trefol cywasgedig a cherddedadwy, sydd wedi'u trefnu o amgylch canolfannau defnydd cymysg a thrafnidiaeth gyhoeddus ac wedi'u hintegreiddio â seilwaith gwyrdd."
Polisi 6 – Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf
"Rhaid lleoli cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd sylweddol yng nghanol trefi a dinasoedd. Dylai fod ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, a hynny i'r dref neu'r ddinas gyfan ac allan ohoni, a, lle y bo'n briodol, y rhanbarth ehangach.
Rhaid defnyddio dull dilyniannol o weithredu er mwyn llywio'r gwaith o ddod o hyd i'r lleoliad gorau ar gyfer y datblygiadau hyn a dylent gael eu nodi mewn Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol."
Mae'r dull 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' yn rhoi iechyd a bywiogrwydd canol trefi wrth wraidd penderfyniadau lleoli. Mae hefyd yn sicrhau ei bod hi'n hawdd i ddefnyddwyr gyrraedd cyfleusterau a gwasanaethau drwy gerdded, beicio a/neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae egwyddor 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' wedi hen ymsefydlu mewn polisi cynllunio mewn perthynas â datblygiadau manwerthu. Fodd bynnag, gall gwaith cynllunio da ein helpu i ailystyried dyfodol canol trefi a dinasoedd, sy'n symud i ffwrdd o'u rolau manwerthu traddodiadol. Mae effaith COVID-19 ar y sector manwerthu yn sbardun pellach i wneud canol trefi yn fwy amlswyddogaethol. Mae canol trefi yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig i gymunedau ac yn gynyddol yn datblygu i fod yn breswylfannau, yn ganolfannau gweithgarwch cymunedol a diwylliannol, yn ffocws i wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg, ac yn lleoliad ar gyfer mannau cydweithio newydd. Maent yn fwy nag ardaloedd manwerthu dynodedig.
- Polisi 33 – Ardal Dwf Genedlaethol – Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd
4.6. Polisi Cynllunio Cymru
4.6.1. Ym Mholisi Cynllunio Cymru (PCC) (Argraffiad 11), nodir y blaenoriaethau a'r ystyriaethau cenedlaethol o ran datblygiadau masnachol a manwerthu newydd, ac ar gyfer rheoli newid o fewn canolfannau masnachol a manwerthu presennol. Dyma'r prif ddatganiadau yn PCC sy'n berthnasol i gynnwys y CCA hyn:
Defnyddiau Cymysg a Phrif Ardaloedd Siopa ac Ardaloedd Siopa Eilaidd
4.6.2. Mae Polisi Cynllunio Cymru'n hyrwyddo defnyddiau A1 o fewn canolfannau manwerthu dynodedig fel y defnydd sy'n sail i'r ardaloedd hyn. Fodd bynnag, cydnabyddir "Er y dylai manwerthu (defnyddiau A1) fod yn sail i ganolfannau manwerthu a masnachol, dim ond un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at eu bywiogrwydd yw hyn." (PCC, para 4.3.30, 2021).
4.6.3. Gwahaniaethir rhwng gwahanol ardaloedd o fewn canolfannau manwerthu, lle nodir yn PCC "Un o nodweddion arferol prif ardaloedd siopa yw cyfran uchel o ddefnyddiau manwerthu A1, ac er mwyn eu dynodi mae angen deall dosbarthiad y defnyddiau presennol mewn canolfan a rhoi ystyriaeth ofalus i rôl canolfan a'i pherthynas â strategaeth fanwerthu'r ardal. Fel arfer, mae ardaloedd siopa eilaidd yn cynnwys defnyddiau cymysg, er enghraifft, siopau, caffis a bwytai, sefydliadau ariannol a gwasanaethau eraill a chyfleusterau cymunedol." (PCC, para 4.3.31, 2021). Mae ACLlau yn dynodi'r gwahanol ardaloedd hyn yn eu CDLl, gan gynnwys tystiolaeth i gefnogi dyraniad yr ardaloedd o fewn y canolfannau.
4.6.4. Mae gwahanol nodweddion y Prif Ardaloedd a'r Ardaloedd Eilaidd a ddiffinnir yn PCC yn galluogi polisïau'r CDLl i annog amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau mewn canolfannau manwerthu. Nodir yn PCC "Nodweddir canolfannau bywiog a hyfyw gan amrywiaeth o weithgarwch a defnydd a ddylai gyfrannu at les a llwyddiant canolfan, gan leihau'r angen am deithio hefyd. Dylai cynlluniau datblygu gynnwys polisïau sy'n disgrifio'r mathau o ddefnydd sy'n debygol o fod yn dderbyniol mewn prif ardaloedd siopa ac ardaloedd siopa eilaidd." (PCC, para 4.3.33, 2021)
4.6.5. Gall gwahanol ddefnyddiau masnachol fod yn briodol o fewn canolfannau a dylai ACLlau ystyried y modd y gall "defnyddiau hamdden ac adloniant a bwyd a diod fod o fudd i ganolfannau manwerthu a masnachol, a thrwy roi sylw digonol i ddiogelu amwynderau, gallant gyfrannu at economi lwyddiannus gyda'r nos."(PCC, para.4.3.34, 2021) Ar ben hyn, mae PCC yn cefnogi "datblygiadau defnydd cymysg, sy'n cyfuno manwerthu ag adloniant, bwytai a, lle bo hynny'n briodol, preswyl" (PCC, para 4.3.34, 2023) o fewn canolfannau manwerthu a all hyrwyddo canolfannau prysur a fydd o fudd i economi'r dydd a'r nos.
4.6.6. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod hi'n "bosibl y bydd angen agwedd hyblyg at gynllunio er mwyn sicrhau amrywiaeth o ddefnyddiau a gweithgareddau. Os nad oes modd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng defnydd a gweithgareddau, dylai awdurdodau cynllunio ystyried gwneud newidiadau i'r defnyddiau derbyniol mewn prif ardaloedd neu ardaloedd eilaidd, neu i ffiniau'r ganolfan fanwerthu a masnachol." (PCC, para 4.3.35, 2021). I sicrhau bod canolfannau manwerthu yn iach "Dylai awdurdodau cynllunio asesu perfformiad canolfannau manwerthu a masnachol ac effeithiolrwydd polisïau cynlluniau datblygu drwy fonitro eu hiechyd. Dylent ddefnyddio'r strategaeth yn eu cynllun datblygu i reoli newid a gweithredu os oes angen mynd i'r afael â hyn." (PCC, para.4.3.36, 2021). Os yw dirywiad economaidd yn effeithio ar ganolfan fanwerthu a masnachol, gallai pwyslais ar gadw defnyddiau A1 mewn eiddo naill ai mewn prif ardal neu ardal eilaidd, a fu'n wag am gyfnod o amser, danseilio hyfywedd a bywiogrwydd canolfan am eu bod yn gwneud y lle'n ddiolwg neu'n creu blaenau siop gwag. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried sut gall defnyddiau nad ydynt yn A1 chwarae mwy o ran mewn cynyddu amrywiaeth a lleihau nifer yr unedau gwag.
4.6.7. Mewn perthynas â CCAau, nodir yn PCC y dylent "fod o gymorth i reoli canolfannau manwerthu a masnachol lle bo'n briodol. Gall rheolaeth o'r fath, sy'n cynnwys gwella a hyrwyddo, fod yn ffactor pwysig wrth sicrhau bywiogrwydd, hyfywedd, a dengarwch canolfannau manwerthu. Gall mesurau rheoli hefyd gyfrannu at sicrhau amgylchedd diogel lle nad oes unrhyw droseddu. Mae partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r sector preifat yn hanfodol i lwyddiant strategaethau rheoli o'r fath." (PCC, para 4.3.39, 2021)
4.6.8. Mewn perthynas ag ardaloedd manwerthu llai, fel siopau lleol a phentref sydd y tu allan i ganolfannau manwerthu dynodedig, mae PCC yn cydnabod bod "siopau lleol a siopau pentref, a thafarndai, yn cyflawni swyddogaeth bwysig yn y gymuned leol yn aml, a gall y broses o'u colli gael effaith andwyol, mewn lleoliadau gwledig yn benodol." (PCC, para 4.3.30, 2021)
4.7. Adeiladu Lleoedd Gwell - Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair (Gorffennaf 2020)
4.7.1. Cyhoeddwyd Adeiladu Lleoedd Gwell gan Lywodraeth Cymru i esbonio eu hymateb i Greu Lleoedd ac adferiad Covid-19.
4.7.2. Mae'r ddogfen Adeiladu Lleoedd Gwell yn esbonio'r dull y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ei roi ar waith wrth i'r wlad ymadfer ar ôl y pandemig, gan nodi'r blaenoriaethau polisi a'r camau gweithredu mwyaf perthnasol i helpu gyda'r adferiad. Nodir yn y ddogfen "Dylai ein canolfannau ddod yn lleoedd lle mae amrywiaeth o ddefnyddiau manwerthu, cyflogaeth, masnachol, cymunedol, hamdden, iechyd a'r sector cyhoeddus yn dod ynghyd i greu gweithgarwch er mwyn eu gwneud yn hyfyw fel cyrchfannau poblogaidd unwaith eto. Gallai mannau cydweithio lleol, hyblyg hefyd fod yn elfen newydd hollbwysig i gynyddu mannau gweithio. Mae defnyddiau preswyl hefyd yn allweddol i hyfywedd canolfannau, ar yr amod nad ydynt yn cyfyngu ar y gweithgareddau masnachol sy'n mynd rhagddynt a bod seinweddau yn cael eu hystyried.
Awgryma tystiolaeth na fydd defnyddiau manwerthu traddodiadol mor gyffredin a bydd y galw am fannau manwerthu newydd yn fach iawn ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, felly bydd angen adolygu prif ardaloedd manwerthu fel mater o frys. Mae'n rhaid i hyn fod yn realistig a pheidio â chael ei wneud gan ddisgwyl y bydd deiliaid manwerthu yn dychwelyd yn y niferoedd a welwyd cyn y pandemig. Dylai polisïau afresymol ac anhyblyg gael eu herio drwy broses y cynllun datblygu, gan y bydd angen llawer mwy o syniadau creadigol i ailddychmygu ac ailbwrpasu'r ardaloedd hyn." (Adeiladu Lleoedd Gwell, t.18, 2020).
4.7.3. Er y bydd angen mynd i'r afael â'r Strategaeth Manwerthu a amlinellir yn Adeiladu Lleoedd Gwell mewn CDLl diwygiedig, mae'n debygol y cyflwynir hynny erbyn 2024/25. Oherwydd y graddfeydd amser sy'n gysylltiedig â phroses y CDLl mae'n hollbwysig bod penderfynwyr yn ymateb y hyblyg i gynigion cynllunio, "rhaid i'r system gynllunio ymateb i'r sefyllfa hon drwy sicrhau y gall ein canolfannau manwerthu a masnachol weithredu mor hyblyg â phosibl" (Adeiladu Lleoedd Gwell, t. 18, 2020).
4.7.4. Mae PCC hefyd yn cyfeirio at Adeiladu Lleoedd Gwell, gan nodi "Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae cynllunwyr yn ei chwarae wrth lunio ein cymdeithas ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid iddynt gynllunio ar gyfer ein blaenoriaeth o amgylch creu lleoedd, datgarboneiddio a llesiant. Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn dechrau nodi camau gweithredu i gyflawni hyn ac y mae'n rhaid i ni adeiladu arnynt; bydd adolygiadau o Bolisi Cynllunio Cymru yn y dyfodol yn ein galluogi i integreiddio'r gwaith hwn ymhellach. Mae gan bawb ran i'w chwarae i sicrhau y bydd cymunedau yfory yn elwa o graffter y presennol." (PCC, para 2.2.23, 2021).
4.8. Nodyn Cyngor Technegol 4: Datblygiadau Manwerthu a Masnachol
4.8.1. Mae Nodyn Cyngor Technegol 4: Datblygiadau Manwerthu a Masnachol (Tachwedd 2016) yn esbonio'r polisi a'r canllawiau cenedlaethol ynghylch newid defnydd mewn Prif Ardaloedd ac Ardaloedd Eilaidd Manwerthu a Masnachol.
4.8.2. Mewn perthynas â chanolfannau manwerthu sy'n tanberfformio, cynghorir yn TAN4 "pan fydd perfformiad canolfan manwerthu a masnachol yn wael, o ganlyniad efallai i amodau economaidd lleol neu genedlaethol, a bod ffryntiadau'n dod i gael eu nodweddu gan gyfraddau uchel o fusnesau gwag, dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried mabwysiadu strategaeth fwy hyblyg. Dylai awdurdodau cynllunio lleol benderfynu ai cyfyngu ar newid defnydd o ddefnyddiau A1 i rai heblaw A1 mewn prif ardaloedd yw'r strategaeth fwyaf effeithiol. Yn yr amgylchiadau hyn gall gormod o bwyslais ar ddefnyddiau A1 yn unig gael effaith andwyol ar ragolygon y ganolfan i fod yn fywiog a hyfyw, gan ei gwneud yn fwy agored i ddirywio. Dylai awdurdodau cynllunio lleol edrych ar y rôl bositif y gallai defnyddiau heblaw A1 fel bwyd a diod, ariannol a gwasanaethau eraill eu cynnig i brif ardaloedd a rhai eilaidd. Hefyd, dylid cydnabod y rôl y gallai defnyddiau preswyl eu chwarae i helpu canolfannau. Er nad yw defnydd preswyl yn debygol o fod yn briodol ar lefel y llawr isaf mewn prif ardaloedd, gall defnydd preswyl ar loriau uwch ychwanegu at fywiogrwydd a hyfywedd canolfannau, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chyfrannu at economïau dydd a min nos canolfannau" (TAN4. para. 9.2, 2016).
4.8.3. Yn y canolfannau hyn mae'n bwysig bod penderfynwyr yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg wrth ystyried manteision defnyddiau heblaw A1 mewn canolfannau. Nodir yn TAN4 " Mae hyblygrwydd i ehangu neu gyfangu prif ardaloedd a rhai eilaidd ac i ganiatáu newid defnydd i ddenu buddsoddiad ac i amrywio ystod y busnesau yn hanfodol mewn canolfannau sy'n dirywio neu sydd mewn perygl o ddirywio. Mewn canolfannau mwy sy'n fwy amrywiol ac sydd mewn sefyllfa gryfach i wrthsefyll dirywiad yn yr economi gall ymagwedd fwy cyfyngol at newid defnydd fod yn briodol o hyd. Fodd bynnag, mewn canolfannau llai mae'n bosibl na fyddai hyn yn wir ac y gallai ymagwedd fwy cyfyngol at newid defnydd weithio yn erbyn cyfleoedd i gryfhau canolfan trwy fwy o amrywiaeth." (TAN4, para.9.3, 2016)
4.8.4. Mae angen taro cydbwysedd rhwng yr ymagwedd hyblyg a gymhwysir mewn canolfannau sy'n tanberfformio a dealltwriaeth penderfynwyr y gall "dosbarthiadau defnydd unigol gynnwys mathau dymunol ac annymunol o weithgarwch a all gael effaith gronnus negyddol pan fyddant wedi'u clystyru â'i gilydd. Gellir defnyddio amodau cynllunio i sicrhau bod y datblygiad mwyaf priodol yn cael ei ganiatáu o fewn dosbarth defnydd." (TAN4, para 9.4, 2016). Yn ogystal â hynny, "gall newidiadau defnydd greu crynodiadau newydd o ddefnyddiau sengl, fel busnesau tecawê, lle gall effeithiau cronnus achosi problemau lleol. Dylai cynigion o'r fath gael eu hasesu yn erbyn polisïau'r cynllun datblygu, yn ôl eu cyfraniad at arallgyfeirio yn y ganolfan manwerthu a masnachol ac yn ôl yr effeithiau cronnus ar faterion fel parcio ac amwynderau preswyl lleol." (TAN4, para 9.7, 2016)
4.8.5. Mae unedau gwag parhaus neu hirdymor mewn canolfannau manwerthu yn broblem o safbwynt dengarwch a hyfywedd economaidd canolfannau. Dylai ACLlau roi ystyriaeth bositif i "unedau dros dro" a allai fod yn "opsiwn positif yn y tymor byr i leihau effaith eiddo gwag. Mae uned dros dro ar gael ar brydles dymor byr trwy gytundeb â'r landlord ac os yw siopau o'r fath yn llwyddo gallant arwain at denantiaeth dymor hir. Er bod unedau dros dro'n cael eu defnyddio ar gyfer siopau gan amlaf, gallant gael eu defnyddio i ddibenion eraill hefyd, er enghraifft, orielau celf a phrosiectau cymunedol. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried defnyddio canllawiau cynllunio atodol i ddisgrifio'r mathau o ddefnyddiau dros dro sy'n debygol o fod yn dderbyniol mewn canolfannau manwerthu a masnachol a sut y gellir eu rheoli, os bydd angen, trwy'r system gynllunio." (TAN4, para.9.5, 2016).
4.9. Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011-2026
4.9.1. Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig (CDLl) Bro Morgannwg 2011 - 2026 yn cynnwys y polisïau cynllunio lleol canlynol sy'n ymdrin â datblygiadau manwerthu newydd.
- Polisi SP6 – Manwerthu
- Polisi MG12 – Hierarchaeth Manwerthu
- Polisi MG13 – Ardaloedd Manwerthu ar Gyrion Trefi a'r Tu Allan i Drefi
- Polisi MG14 – Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Tref ac Ardal
- Polisi MG15 – Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Lleol a Chymdogaeth
4.9.2. Roedd data monitro Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLl yn dangos nad yw rhai canolfannau manwerthu yn bodloni nac yn agos at eu trothwyon defnydd A1 y cyfeirir atynt ym Mholisïau MG14 ac MG15 y CDLl, sy'n adlewyrchu'r pwysau yn y farchnad am ddefnyddiau heblaw A1.
4.9.3. Mae'r AMBau yn dangos mai ond Canolfan Fanwerthu Penarth a'r prif ffryntiad yng Nghanolfan Fanwerthu'r Bont-faen sy'n cynnwys defnyddiau A1 digonol i adlewyrchu trothwyon polisi'r CDLl.
4.9.4. Mae'r CCA hyn yn ceisio trafod a chadarnhau sut y dylid cymhwyso Polisïau MG14 ac MG15 y CDLl, ac esbonio sut y dylai penderfynwyr gyflwyno elfen o hyblygrwydd, yn dibynnu ar ystyriaethau cyd-destunol y cynnig dan sylw.
4.10. Canllawiau Cynllunio Atodol
4.10.1. Mae'r CCAau canlynol yn arbennig o berthnasol i'r canllawiau hyn, a dylid eu darllen ar y cyd â'r ddogfen hon. Mae'r holl CCAau ar gael ar y tudalennau CDLl ar wefan y Cyngor.
4.10.2. Mae'r CCA Safonau Parcio yn esbonio beth yw gofynion parcio y Cyngor ar gyfer datblygiadau newydd a newid defnydd. Mae'r CCA yn berthnasol i gerbydau masnachol, ceir, beiciau modur a beiciau. Y mae hefyd yn cyfeirio at gynlluniau teithio (a drafodir yn fanylach mewn CCA Cynllun Teithio ar wahân) yn ogystal â'r angen i ddarparu pwyntiau gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.
4.10.3. Mae'rCCA Rhwymedigaethau Cynllunio- yn cadarnhau ymhle, ar gyfer beth, pryd a sut y ceisir rhwymedigaethau cynllunio, er mwyn cynorthwyo'r Cyngor i greu cymunedau cynaliadwy sy'n cynnig manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae'r canllawiau hyn yn cynnig cyngor ynghylch rhwymedigaethau cynllunio i ategu'r polisïau yn CDLl Bro Morgannwg.
4.10.4. Mae gan y Cyngor hefyd set o Gynlluniau Rheoli ac Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth a fydd yn berthnasol i gynigion datblygu mewn Ardaloedd Cadwraeth, sy'n cynnwys rhai o ganolfannau trefi a manwerthu Bro Morgannwg.