Draft Retail and Town Centre Development SPG
3. Statws y Canllawiau
3.1. Dim ond polisïau'r Cynllun Datblygu a all gael y statws arbennig a roddir yn sgil Adran 38(6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, sy'n cynnwys y gofyniad "os dylid rhoi ystyriaeth i'r cynllun datblygu wrth wneud unrhyw benderfyniad o dan y Deddfau Cynllunio, dylid penderfynu'n unol â'r cynllun onid yw ystyriaethau o bwys yn nodi fel arall." Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y gallai CCA fod yn ystyriaeth o bwys ar yr amod eu bod yn gyson â'r CDLl, a bydd y pwyslais a roddir arno yn fwy os yw'n gyson â pholisïau'r CDLl ac wedi bod yn destun ymgynghoriad.
3.2. Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011-2026 yw'r haen lefel awdurdod lleol o fewn fframwaith y cynllun datblygu, a 'Cymru'r Dyfodol - Cynllun Cenedlaethol 2040' yw'r cynllun datblygu cenedlaethol. Mae'r CCA yn ategu'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau datblygu, a byddant yn berthnasol er mwyn penderfynu ynghylch ceisiadau ac apeliadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd ym Mro Morgannwg.
3.3. Cymeradwywyd y CCA gan y Cabinet fel drafft i'r cyhoedd ymgynghori arno ar Medi 29ain 2022 (gweler cofnod Rhif. C80). Ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu, bydd y CCA yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ynghylch ceisiadau ac apeliadau cynllunio perthnasol ym Mro Morgannwg yn y dyfodol.