Draft Retail and Town Centre Development SPG

Daeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

1. Cyflwyniad

1.1. Mae agosrwydd a mynediad rhwydd y sector manwerthu ym Mro Morgannwg at Ganol Dinas Caerdydd, sef y prif atyniad manwerthu o fewn y rhanbarth, yn dylanwadu'n gryf arno, ac mae'n cynnig cymysgedd ac amrywiaeth eang o siopau hwylustod a chymhariaeth. Ym Mro Morgannwg, mae'r ddarpariaeth o ran siopa wedi'i lleoli i raddau helaeth yng Nghanol Tref y Barri, ac yng Nghanolfannau Manwerthu Ardal Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr. Mae Canol Tref y Barri yn darparu amrywiaeth eang o ddefnyddiau manwerthu, gwasanaeth, cyflogaeth a hamdden, sy'n bodloni mwy nag anghenion lleol. Nodweddir y ddarpariaeth manwerthu yn y canolfannau ardal gan amrywiaeth fanwerthwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr gwasanaeth sy'n gwasanaethu dalgylchoedd lleol yn bennaf. Yn rhannau eraill o Fro Morgannwg, mae manwerthwyr annibynnol llai yn cynnig gwasanaethau hwylustod beunyddiol pwysig i'r ardal yn union o amgylch y canolfannau lleol a chymdogaeth. Mae'r prif Barc Manwerthu y tu allan i ganol y dref yng Nghroes Cwrlwys, ar ymyl dwyreiniol Bro Morgannwg yn agos at brif dref a chanolfannau ardal y Barri, Penarth a'r Bont-faen, ac yn effeithio arnynt, ac yn atyniad manwerthu o bwys yn ei hawl ei hun.

1.2. Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Bro Morgannwg 2011 – 2026 ar 28 Mehefin 2017 ac mae'n darparu'r fframwaith polisi lleol ar gyfer penderfyniadau cynllunio ym Mro Morgannwg. Ym Mholisi MG12 nodir yr hierarchaeth fanwerthu a ganlyn:

Canol trefi: Y Barri

Canolfannau ardal: Y Barri (Y Stryd Fawr/Broad Street), Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth

Canolfannau lleol: Y Barri: Y Stryd Fawr, Tregatwg; Stryd Vere, Tregatwg; Park Crescent; Heol y Barri, ger Tregatwg; Heol Holton Uchaf, Dinas Powys: Heol Caerdydd; Canol pentref Dinas Powys, Penarth: Cornerswell Road, Y Rhws: Heol Ffont-y-gari, Sain Tathan: Y Sgwâr

Canolfannau cymdogaeth: Y Barri: Bron-y-Môr; Cwm Talwg; Canolfan Gibbonsdown; Heol y Parc, Trebefered, Dinas Powys: Cornel Camms; Cwrt y Castell/Y Parêd, Ffont-y-gari: Adenfield Way, Llanilltud Fawr: Crawshay Drive, Penarth: Pill Street; Heol Tennyson

1.3. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yn rhoi arweiniad pellach ar gymhwyso polisïau manwerthu'r CDLl, sy'n ceisio gwarchod bywiogrwydd, dengarwch a hyfywedd y canolfannau manwerthu dynodedig, yn unol â'r ymagwedd a amlinellwyd mewn polisi cynllunio cenedlaethol.

1.4. Ers paratoi'r CDLl, mae nifer o newidiadau wedi cael eu cyflwyno yng nghanolfannau manwerthu'r Fro, yn deillio o'r heriau economaidd parhaus o flaen busnesau a chymunedau lleol. Mewn rhai canolfannau mae hyn wedi creu gostyngiad yn nifer yr unedau manwerthu traddodiadol A1 a chynnydd yn nifer yr unedau gwag hirdymor.

1.5. Mae Cymru'r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol yn rhoi pwyslais cryfach ar yr egwyddor o roi 'Canol y Dref yn Gyntaf'. Mae'n cydnabod bod angen inni ailfeddwl am ddyfodol canol trefi a dinasoedd, sy'n symud oddi wrth eu rolau manwerthu traddodiadol tuag at leoedd mwy aml-swyddogaeth. Mae canol trefi yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig i gymunedau ac yn gynyddol yn datblygu i fod yn breswylfannau, yn ganolfannau gweithgarwch cymunedol a diwylliannol, yn ffocws i wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg, ac yn lleoliad ar gyfer mannau cydweithio newydd.

1.6. Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo ymgeiswyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau wrth ystyried newidiadau defnydd penodol mewn canolfannau manwerthu a datblygiadau eraill yng nghanol trefi, yn unol â pholisïau'r CDLl mabwysiedig, Cymru'r Dyfodol ac yng ngoleuni ystyriaethau perthnasol eraill, i sicrhau bod ein canolfannau manwerthu yn gynaliadwy yn tymor hir.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig