Draft Retail and Town Centre Development SPG
6. Datblygu o Fewn Canolfannau Manwerthu
6.1 Polisi MG14 - Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Tref ac Ardal
6.1.1 Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bro Morgannwg 2011-2026 yn cynnwys y polisi canlynol ar gyfer cynigion am ddefnyddiau heblaw A1 o fewn canolfannau manwerthu:
POLISI MG14 - DEFNYDDIAU HEBLAW A1 MANWERTHU MEWN CANOLFANNAU MANWERTHU TREF AC ARDAL
Bydd cynigion ar gyfer defnyddiau heblaw A1 manwerthu ar lefel y llawr gwaelod yn y canolfannau tref ac ardal yn cael eu caniatáu yn yr achosion canlynol:
- lle na fyddent yn arwain at fwy na 35% o ddefnydd manwerthu heblaw A1 manwerthu o fewn y prif ffryntiad siopa;
- lle na fyddent yn arwain at fwy na 50% o ddefnydd manwerthu heblaw A1 manwerthu o fewn y ffryntiad siopa eilaidd;
- lle na fyddent yn creu crynhoad gormodol o ddefnyddiau heblaw A1 manwerthu o fewn y ganolfan;
- lle maent yn ategu cymeriad y ganolfan bresennol, yn dwyn budd i'r economi ddydd ac yn cynnal blaen siop deniadol; a
- lle na fyddent yn atal defnydd neu ailddefnydd buddiol o loriau uwch.
O fewn ffiniau'r canolfannau manwerthu tref ac ardal, bydd cynigion ar gyfer trosi uned at bresennol ar lefel y llawr gwaelod yn ddefnydd heblaw A1 yn cael eu caniatáu dim ond lle gellir dangos bod yr uned wedi cael ei marchnata'n briodol ac na fyddai'r defnydd arfaethedig yn cael unrhyw effaith annerbyniol ar rôl a swyddogaeth y ganolfan fanwerthu.
6.1.2 Mae hyn yn berthnasol i'r canolfannau manwerthu a ganlyn (gweler y mapiau yn Atodiad 5 y CDLl):
- Canol trefi: Y Barri
- Canolfannau ardal: Stryd Fawr Y Barri / Broad Street, Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, a Phenarth
6.2 Polisi MG15 - Defnyddiau Heblaw A1 Manwerthu mewn Canolfannau Manwerthu Lleol a Chymdogaeth
POLISI MG15 - DEFNYDDIAU HEBLAW A1 MANWERTHU MEWN CANOLFANNAU MANWERTHU LLEOL A CHYMDOGAETH
Mewn canolfannau manwerthu lleol, bydd cynigion ar gyfer defnyddiau manwerthu heblaw A1 yn cael eu caniatáu yn yr achosion canlynol:
- Lle na fyddent yn achosi i ganran y defnyddiau heblaw A1 manwerthu fynd i tu hwnt i 50%;
- Lle dangosir trwy farchnata gweithredol a phriodol nad yw'r defnydd presennol yn hyfyw mwyach o safbwynt economaidd; a
- Lle na fyddai'r cynnig yn arwain at orgrynhoad o ddefnyddiau heblaw A1 a fyddai'n anffafriol i fywiogrwydd, dengarwch a hyfywedd y ganolfan leol.
Mewn canolfannau manwerthu cymdogaeth, bydd cynigion ar gyfer defnyddiau heblaw A1 manwerthu yn cael eu caniatáu lle dangosir na fyddai'r defnydd newydd yn cael effaith annerbyniol ar fywiogrwydd, dengarwch a hyfywedd y ganolfan trwy'r canlynol:
- Gorgrynhoad o ddefnyddiau heblaw a1 manwerthu;
- Creu ffryntiad ffenestri marw; neu
- Effaith annerbyniol ar amwynder defnyddiau cyfagos.
6.2.1 Yn unol â hierarchaeth manwerthu'r Cynllun mae hyn yn ymwneud â'r canolfannau manwerthu a ganlyn:
Canolfannau lleol
- Y Barri: Y Stryd Fawr, Tregatwg; Stryd Vere, Tregatwg; Park Crescent; Heol y Barri, ger Tregatwg; Heol Holton Uchaf
- Dinas Powys: Heol Caerdydd; Canol pentref Dinas Powys
- Penarth: Heol Cornerswell
- Y Rhws: Heol Ffont-y-gari
- Sain Tathan: Y Sgwâr
Canolfannau cymdogaeth
- Y Barri: Bron-y-Môr; Cwm Talwg; Canolfan Gibbonsdown; Heol y Parc
- Trebefered
- Dinas Powys: Cornel Camms; Cwrt y Castell/Y Parêd
- Ffont-y-gari: Heol Adenfield
- Llanilltud Fawr: Crawshay Drive
- Penarth: Pill Street; Heol Tennyson
6.2.2 Mae'r polisïau hyn yn cydnabod rhan bwysig defnyddiau manwerthu A1 o ran creu bywiogrwydd a gweithgarwch mewn canolfannau manwerthu. Maent yn dueddol o fod yn ddefnyddiau sy'n denu nifer fawr o gwsmeriaid drwy gydol y dydd, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ganolfan a chydweithio i ategu profiad manwerthu'r ganolfan. Nod cyffredinol y polisïau, drwy geisio cynnal cyfran fawr o ddefnyddiau A1, yw sicrhau bywiogrwydd, dengarwch a hyfywedd canolfannau manwerthu. O fewn y canolfannau hyn, dylai cynigion datblygu am ddefnyddiau heblaw A1 sicrhau na cheir unrhyw effaith annerbyniol ar rôl na swyddogaeth y ganolfan fanwerthu. Mae'r cyngor isod yn esbonio sut y gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r polisi.
6.2.3 Mae testun ategol Polisi MG14 yn egluro, i ddibenion Polisi MG14, bod defnyddiau anfanwerthol yn cynnwys A2, A3 a B1 yn ogystal â defnyddiau eraill nad ydynt yn A1 gan nodi "O fewn yr ardaloedd hyn bydd yr ystod a chymysgedd o ddefnyddiau'n cael eu rheoli'n ofalus i sicrhau bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad parhaus y canolfannau manwerthu. Er y gall defnyddiau anfanwerthol megis gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2), allfeydd bwyd a diod (A3), a swyddfeydd (Dosbarth B1) gyfrannu at amrywiaeth canolfan fanwerthu a chynhyrchu mwy o ymwelwyr, gall toreth o ddefnyddiau o'r fath hefyd gael effaith negyddol ar fywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad hirdymor y ganolfan gan wasgaru eiddo manwerthu a gwanhau'r craidd manwerthu" (CDLl, t.74, 2017).
6.2.4 Os bydd cynnig yn ymwneud â newid defnydd o ddefnydd masnachol presennol nad yw'n A1 i ddefnydd masnachol arall nad yw'n A1 (er enghraifft, o swyddfa A2 i gaffi A3), ni fyddai'r datblygiad yn effeithio ar gyfran gyffredinol y defnyddiau A1 yn y ganolfan (gweler MG14 (1-3) ac MG15 (1)).
6.2.5 Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal arolygon manwerthu blynyddol sy'n cofnodi dosbarth defnydd yr unedau masnachol mewn canolfannau, eu swyddogaeth ac a ydynt wedi'u meddiannu neu'n wag. Mae'r arolygon yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gael dealltwriaeth well o fywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch canolfannau manwerthu yn yr ardal, gan gynnwys cyfran y defnyddiau A1 oddi mewn iddynt. Mae'r arolygon ar gael ar gais. Bydd dadansoddi'r wybodaeth hon yn cynorthwyo datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ystyried a yw cynigion yn creu crynodiad annerbyniol o ddefnyddiau heblaw A1.
6.2.6 Mae angen i gynigion ar gyfer defnyddiau heblaw A1 ategu cymeriad y ganolfan bresennol, bod o fudd i economi'r dydd, a chynnal blaen siop deniadol. Bydd hyn yn atal defnyddiau fel defnyddiau preswyl neu swyddfeydd B1 ar y llawr gwaelod, ond yn ffafrio defnyddiau sy'n ategu prif rôl a swyddogaeth canolfannau manwerthu.
6.2.7 Ym Mholisïau MG14 ac MG15 (2) y CDLl, mae'n ofynnol i gynigion i newid unedau A1 presennol yn ddefnydd heblaw A1 ddangos bod yr uned wedi cael ei marchnata'n briodol. Dylai ymgeiswyr gyflwyno adroddiad marchnata ar gyfer ceisiadau o'r fath sy'n amlinellu'r canlynol:
- Manylion y defnydd presennol, neu ddefnydd presennol y safle / eiddo os yw'n wag;
- Am ba mor hir y mae'r uned wedi bod yn wag (os yw'n berthnasol);
- Manylion y strategaeth farchnata a ddefnyddiwyd a'i hyd, gan gynnwys y math o ddefnydd y cafodd yr uned ei marchnata ar ei gyfer, y pris/telerau'r contract, unrhyw gymhellion a gynigiwyd, manylion y safle/yr eiddo, gan gynnwys ei gyflwr, copïau o hysbysebion a osodwyd;
- Manylion ynghylch maint y diddordeb yn yr uned yn ystod y cyfnod marchnata - dylai hyn gynnwys nifer yr ymholiadau, y mathau o ddefnyddiau a geisiwyd gan ddarpar brynwyr ac, os oedd yn hysbys, y rheswm dros beidio holi ymhellach ar ôl ymholiad cychwynnol.
6.2.8 I ddangos bod y strategaeth farchnata yn ystyrlon ac yn realistig, fel isafswm dylai'r strategaeth farchnata a ddilynwyd:
- Fod wedi'i chynnal am gyfnod marchnata parhaus o 12 mis;
- Cynnwys pris gwerthu / rhentu sy'n adlewyrchu cyflwr y farchnad ar gyfer defnydd cyfredol a chyflwr y safle / eiddo. Os oes angen gwaith trosi/atgyweirio helaeth ar adeilad neu safle, dylai'r pris fod yn seiliedig ar yr adeilad neu'r safle cyn i'r gwaith hwnnw gael ei gyflawni, oni fwriedir cyflawni'r gwaith cyn cwblhau'r trafodiad. Ni ddylai'r pris gynnwys unrhyw werthoedd yn gysylltiedig â ddefnyddiau preswyl neu ddefnyddiau heblaw A1 eraill posibl.
- Cynnwys marchnata 'gweithredol' ar y safle, rhestru ar wefannau marchnata priodol, defnyddio asiant eiddo lleol / rhanbarthol i farchnata'r safle, gan gynnwys anfon y manylion yn uniongyrchol at fusnesau a dargedir, a hysbysebu mewn deunydd darllen marchnata priodol.
- Dylai ymgeiswyr fod yn barod i gynnig yr eiddo neu'r safle ar sail lesddaliadol a rhydd-ddaliadol er mwyn ehangu apêl a helpu i ganfod beth yw lefel y diddordeb.
6.2.9 Os yw uned wedi bod yn wag am gyfnod sylweddol (12 mis o leiaf) gallai hyn ddangos nad oedd y defnydd blaenorol yn hyfyw yn y lleoliad, os ceir tystiolaeth farchnata briodol i gefnogi hynny. Bydd unedau gwag fel arfer yn cael effaith andwyol ar ddengarwch, bywiogrwydd a hyfywedd ariannol y ganolfan fanwerthu. Bydd y Cyngor felly'n rhoi ystyriaeth i hyn wrth ystyried ceisiadau i newid defnydd a fyddai'n cynnal gweithgarwch masnachol yn y ganolfan fanwerthu ond na fyddai'n ddefnydd A1.
6.2.10 Mae angen i gynigion am ddefnyddiau heblaw A1 ddangos na fyddent yn cael unrhyw effaith annerbyniol ar rôl na swyddogaeth y ganolfan fanwerthu. O ran hyn, byddai'r ystyriaethau'n cynnwys:
- Proffil o'r cwsmer / defnydd o'r eiddo ac a fyddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ganolfan
- Oriau gweithredu / defnydd sy'n adlewyrchu swyddogaeth ehangach y ganolfan drwy gydol y dydd / gyda'r nos ac ar y penwythnos
- Blaen y siop a hysbysebu - dylai cynigion gynnwys ffryntiadau 'gweithredol' sy'n ychwanegu at dir cyhoeddus y ganolfan
- Effeithiau allanol – traffig, tagfeydd, cerbydau gwasanaethu, sŵn, llygredd, ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Darparu cyflogaeth neu wasanaethau lleol
- Galluogi defnydd buddiol o'r lloriau uwch er budd y ganolfan fanwerthu ehangach
- Bodloni angen cymdeithasol y ceir tystiolaeth ohono nad yw wedi'i fodloni eisoes yn yr ardal leol (ee, gwasanaethau gofal plant, gofal iechyd, gweithgareddau hamdden ac ati).
Newidiadau i'r Farchnad ac Ymateb Hyblyg
6.2.11 Mae'r polisïau a esboniwyd uchod yn dangos dymuniad y Cyngor i gynnal swyddogaeth manwerthu canolfannau tref, ardal, lleol a chymdogaeth ym Mro Morgannwg, a bydd hyn yn parhau i fod yn fan cychwyn wrth ystyried ceisiadau am ddefnyddiau heblaw A1 yn y canolfannau hyn. Fodd bynnag, mae polisi cenedlaethol yn Cymru'r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru a chyhoeddiadau eraill Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ymateb mewn modd mwy hyblyg i effeithiau'r farchnad ac i atgyfnerthu rôl a swyddogaeth canol trefi fel calon cymunedau trefol cynaliadwy. Yn ôl PCC: "Er y dylai manwerthu (defnyddiau A1) fod yn sail i ganolfannau manwerthu a masnachol, dim ond un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at eu bywiogrwydd yw hyn" (gweler paragraff 4.3.30).
6.2.12 Gan hynny, o dan y CCA hyn, bydd y Cyngor yn mabwysiadu dull mwy hyblyg o gymhwyso Polisïau MG14 ac 15 i roi ystyriaeth i holl effeithiau unigol y cynigion a rhoi pwyslais ar y manteision y gellir eu sicrhau yn sgil defnyddiau eraill heblaw A1 a all fod o fudd i fywiogrywdd a hyfywedd cyffredinol ein canolfannau manwerthu.
6.2.13 Mae TAN4 yn esbonio sefyllfaoedd lle ystyrir ei bod yn dderbyniol ymdrin yn hyblyg â chynigion am ddefnyddiau heblaw A1 mewn canolfannau manwerthu, gan nodi "...pan fydd perfformiad canolfan manwerthu a masnachol yn wael, o ganlyniad efallai i amodau economaidd lleol neu genedlaethol, a bod ffryntiadau'n dod i gael eu nodweddu gan gyfraddau uchel o fusnesau gwag, dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried mabwysiadu strategaeth fwy hyblyg. Dylai awdurdodau cynllunio lleol benderfynu ai cyfyngu ar newid defnydd o ddefnyddiau A1 i rai heblaw A1 mewn prif ardaloedd yw'r strategaeth fwyaf effeithiol. Yn yr amgylchiadau hyn gall gormod o bwyslais ar ddefnyddiau A1 yn unig gael effaith andwyol ar ragolygon y ganolfan i fod yn fywiog a hyfyw, gan ei gwneud yn fwy agored i ddirywio. Dylai awdurdodau cynllunio lleol edrych ar y rôl bositif y gallai defnyddiau heblaw A1 fel bwyd a diod, ariannol a gwasanaethau eraill eu cynnig i brif ardaloedd a rhai eilaidd." (TAN4, para.9.2, 2016). Bydd perfformiad canolfan wedi'i seilio ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael, fel yr Arolwg Manwerthu Blynyddol.
6.2.14 Yn 'Adeiladu Lleoedd Gwell: Creu Lleoedd a'r Adferiad Covid-19', mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod effeithiau diweddar y farchnad ar ganolfannau manwerthu: "Awgryma tystiolaeth na fydd defnyddiau manwerthu traddodiadol mor gyffredin a bydd y galw am fannau manwerthu newydd yn fach iawn ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, felly bydd angen adolygu prif ardaloedd manwerthu fel mater o frys. Mae'n rhaid i hyn fod yn realistig a pheidio â chael ei wneud gan ddisgwyl y bydd deiliaid manwerthu yn dychwelyd yn y niferoedd a welwyd cyn y pandemig. Dylai polisïau afresymol ac anhyblyg gael eu herio drwy broses y cynllun datblygu, gan y bydd angen llawer mwy o syniadau creadigol i ailddychmygu ac ailbwrpasu'r ardaloedd hyn."(t.18, 2020).
6.2.15 Ar ben hynny, mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod rôl canol trefi fel mannau a all fodloni mwy nag anghenion manwerthu yn ei Bolisi 'Canol Trefi yn Gyntaf', sy'n nodi bod angen lleoli cyfleusterau masnachol, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus newydd sylweddol o fewn canol trefi, yn ogystal â chyfleusterau manwerthu. Mae'r dull 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' yn rhoi iechyd a bywiogrwydd canol trefi wrth wraidd penderfyniadau lleoli. Mae hefyd yn sicrhau ei bod hi'n hawdd i ddefnyddwyr gyrraedd cyfleusterau a gwasanaethau drwy gerdded, beicio a/neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
6.2.16 Mae egwyddor 'Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf' wedi hen ymsefydlu mewn polisi cynllunio mewn perthynas â datblygiadau manwerthu. Fodd bynnag, gall gwaith cynllunio da ein helpu i ailystyried dyfodol canol trefi a dinasoedd, sy'n symud i ffwrdd o'u rolau manwerthu traddodiadol. Mae effaith COVID-19 ar y sector manwerthu yn sbardun pellach i wneud canol trefi yn fwy amlswyddogaethol. Mae canol trefi yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig i gymunedau ac yn gynyddol yn datblygu i fod yn breswylfannau, yn ganolfannau gweithgarwch cymunedol a diwylliannol, yn ffocws i wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg, ac yn lleoliad ar gyfer mannau cydweithio newydd. Maent yn fwy nag ardaloedd manwerthu dynodedig.
6.2.17 O ganlyniad i hyn, oherwydd y cyd-destun cenedlaethol presennol ac effeithiau parhaus Covid-19 ar y sector manwerthu fe'i hystyrir yn rhesymol ac yn briodol i benderfyniadau Rheoli Datblygu fabwysiadu agwedd hyblyg at gynigion newid defnydd os ystyrir y byddai'r cynnig o fudd i'r ganolfan ac yn cyfrannu at fywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch y ganolfan.
6.2.18 I adlewyrchu'r angen am hyblygrwydd mewn canolfannau manwerthu, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiwygiadau dros dro yn ddiweddar i'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) i roi mwy o hyblygrwydd ar gyfer newidiadau o fewn canol trefi. Mae'r newid hwn i'r ddeddfwriaeth yn caniatáu newid defnydd dros dro o A1 i A1, A3, B1, D1 a D2 o fewn canolfannau manwerthu am gyfnod o 6 mis, heb fod angen derbyn caniatâd cynllunio gan yr ACLl. Yn ystod y chwe mis arbrofol, gellir gofyn am ganiatâd cynllunio, a bydd gan yr awdurdod cynllunio lleol sylfaen dystiolaeth i asesu effaith y defnydd amgen. Os gellir dangos yn ystod y cyfnod dros dro na fyddai'r defnydd yn cael rhyw lawer o effaith o safbwynt cynllunio, neu fod modd rheoli'r effeithiau drwy osod amodau, bydd y Cyngor yn rhoi pwyslais ar fanteision cadw defnydd arall o safbwynt cymdeithasol ac economaidd, ac o safbwynt adfywio yn gyffredinol.
6.2.19 O dan y CCA hyn, sy'n adeiladu ar Bolisi 6 Cymru'r Dyfodol yn ogystal â pholisïau cynharach y CDLl, bydd holl agweddau ceisiadau cynllunio am ddefnyddiau heblaw A1 mewn canolfannau manwerthu yn cael eu hystyried, gan roi sylw i'r manteision amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd neu ddiwylliannol ehangach y maent yn eu cynnig i'r ganolfan.
6.2.20 Bydd cynigion sy'n creu cyfle am gymysgedd o ddefnyddiau ategol yn cael eu hystyried yn ffafriol yn unol â'r egwyddorion Creu Lleoedd a nodir yn Cymru'r Dyfodol. Er y gallai defnyddiau heblaw A1 fod yn israddol i'r brif swyddogaeth / defnydd manwerthu gallant helpu i greu cyrchfan a allai gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r defnyddiau A1 presennol o fewn y Ganolfan Fanwerthu.
Ymagwedd Gymalog at Ddefnyddiau Heblaw A1
6.2.21 Wrth gymhwyso'r egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf a gymeradwyir ym Mholisi 6 Cymru'r Dyfodol a mabwysiadu agwedd fwy hyblyg at ddefnyddiau heblaw A1 mewn canolfannau manwerthu na'r cyfarwyddyd llym a geir ym mholisïau MG14 ac 15, mae'n briodol mabwysiadu ymagwedd gymalog at gynigion o'r fath. Mae hyn yn golygu y rhoddir ffafriaeth i ddefnyddiau heblaw A1 a chanddynt rôl, swyddogaeth ac effaith debyg i ddefnyddiau A1 yn hytrach na defnyddiau eraill, fel defnyddiau preswyl, sydd yn wahanol iawn o ran eu cymeriad a'u pwrpas, ac a allai danseilio cynaliadwyedd hirdymor canolfannau manwerthu drwy leihau gweithgarwch yn ystod y dydd neu gael gwared â ffryntiadau 'gweithredol'.
6.2.22 Os ystyrir bod modd cyfiawnhau defnyddiau heblaw A1 am y rhesymau a nodir yn y CCA hyn, dylid ffafrio'r mathau canlynol o ddefnyddiau oherwydd gallant ategu prif rôl a swyddogaeth canolfannau manwerthu:
- A2 Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol - Gwasanaethau ariannol fel banciau a chymdeithasau adeiladu, gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd a meddygol) gan gynnwys asiantaethau eiddo a chyflogaeth a swyddfeydd betio.
- A3 Bwyd a diod - Ar gyfer gwerthu bwyd a diod i'w bwyta ar y safle - bwytai, bariau byrbryd a chaffis, lleoedd yfed a siopau cludfwyd.
- B1 Busnes – swyddfa, ymchwil a datblygu neu broses ddiwydiannol sy'n ddefnydd y gellir ei gyflawni mewn unrhyw ardal breswyl heb amharu ar amwynder yr ardal honno
- C1 - Gwestai a hosteli
- D1 - Sefydliadau amhreswyl - ee, gwasanaethau iechyd neu feddygol, crêche, meithrinfa ddydd, oriel, amgueddfa, llyfrgell gyhoeddus, neuadd arddangos, man addoli.
- D2 – Ymgynnull a hamdden – ee sinema, neuadd gyngerdd, neuadd bingo neu gasino, chwaraeon dan do neu awyr agored neu hamdden
- Defnyddiau sui generis sy'n debyg o ran natur i ddefnyddiau manwerthu
6.2.23 Nid yw hyn yn golygu y bydd y defnyddiau hyn yn cael caniatâd cynllunio yn awtomatig, boed hynny'n amodol neu'n ddiamod, oherwydd bydd angen i ddatblygiadau fodloni ystyriaethau polisi eraill fel dyluniad, effaith ar amwynder cyfagos, effeithiau amgylcheddol, traffig, tagfeydd a pharcio. Yn ogystal â hynny, bydd angen ystyried cyd-destun a chyflwr presennol y ganolfan fanwerthu i sicrhau nad yw lluosogedd o fath neilltuol o ddefnydd (fel siop bwyd tecawê A3) yn tanseilio rôl a swyddogaeth gyffredinol y ganolfan fanwerthu.
6.2.24 Gall defnyddiau preswyl wneud canolfannau manwerthu yn fwy byw, yn enwedig gyda'r nos pan fydd defnyddiau A1 traddodiadol o bosib wedi cau. Fodd bynnag, dylid eu lleoli mewn ardaloedd cyfagos y tu allan i'r prif ffryntiadau siopa craidd / ffryntiadau siopa eilaidd neu ar loriau uwch neu isloriau, yn hytrach nag ar y llawr gwaelod / yn wynebu'r stryd. Bydd manteision defnydd preswyl ar loriau uwch mewn canolfannau manwerthu yn cael eu cydnabod wrth ystyried llacio safonau parcio a mannau amwynder, yn enwedig mewn lleoliadau â mynediad da at opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy a chyfleusterau lleol, gan gynnwys mannau agored.