Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 14 Chwefror 2024
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

6. Y Strategaeth a Ffafrir

6.1. Mae strategaeth y CDLN yn nodi ardaloedd eang lle ceir datblygiadau newydd er mwyn cyflawni'r Weledigaeth a'r Amcanion a nodwyd yn gynharach yn y Cynllun. Lluniwyd y strategaeth gan roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:

  • Y cyd-destun lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o ran polisi.
  • Y materion cymdeithaso, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n berthnasol i Fro Morgannwg.
  • Adroddiad Adolygu'r CDLl mabwysiedig.
  • Y materion a nodwyd yn Adroddiadau Monitro Blynyddol y CDLl mabwysiedig.
  • Amrywiaeth o senarios twf poblogaeth, aelwydydd, anheddau a chyflogaeth.
  • Asesiad diweddaraf o'r Farchnad Dai Leol.
  • Yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau.
  • Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac asesiad o'r Opsiynau Amgen.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys yn y Weledigaeth, y Materion a'r Amcanion, Opsiynau'r Strategaeth Ofodol ac Opsiynau Twf; a
  • Thrafodaethau rhanbarthol ar lefel y twf yng nghyd-destun Cymru'r Dyfodol.

6.2. Mae'r deg amcan strategol a nodir yn Adran 4 wedi cael cryn ddylanwad ar ddatblygiad y strategaeth, sy'n ceisio taro cydbwysedd rhwng yr angen am dwf (Amcan 3 - Cartrefi i Bawb, Amcan 9 - Adeiladu Economi Ffyniannus a Gwyrdd) a'r angen i warchod amgylchedd naturiol ac adeiledig unigryw Bro Morgannwg (Amcan 5 - Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd Naturiol, Amcan 6 - Coleddu Diwylliant a Threftadaeth).

6.3. Yn unol â datganiad y Cyngor ynghylch Argyfwng Hinsawdd, mae rôl cynllunio wrth liniaru ac ymaddasu i'r newid hinsawdd (Amcan 1) yn rhan annatod o'r CDLl Newydd. Lle bynnag y bo modd, mae'r strategaeth yn ceisio ffafrio ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen, yn osgoi ardaloedd lle ceir perygl llifogydd ac yn hyrwyddo ystod a dewis o safleoedd tai a chyflogaeth newydd mewn lleoliadau cynaliadwy â mynediad da at gyflogaeth, trafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau cymunedol a siopau (Amcan 8 - Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Egnïol a Chynaliadwy).

6.4. Mae creu lleoedd, drwy greu lleoedd gweithredol, diogel a hygyrch sy'n cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, wrth galon y strategaeth (Amcan 4 – Creu Lleoedd). Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn creu cymunedau a fydd yn gwella llesiant (Amcan 2 - Gwella Iechyd a Llesiant Meddyliol a Chorfforol). Bydd adfywio ac arallgyfeirio canol trefi yn unol ag egwyddorion canol trefi yn gyntaf yn rhan annatod o greu cymunedau bywiog (Amcan 7 - Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog a Chysylltiedig).

6.5. Yn ogystal â hyn, mae'r strategaeth yn cydnabod y manteision economaidd posibl a all ddeillio o hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy briodol (Amcan 10 – Hyrwyddo Twristiaeth Gynaliadwy).

6.6. Mae Strategaeth Twf Cynaliadwy y CDLlN yn cynnwys chwe elfen allweddol, fel a ganlyn:

  1. Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth a gefnogir gan seilwaith priodol i gyd-fynd â safle'r Fro o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  2. Cydleoli tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen i deithio.
  3. Llywio datblygiadau'n bennaf at leoliadau a wasanaethir y dda gan orsafoedd rheilffordd presennol ac arfaethedig y rhan o Fetro De Cymru, ac mewn ardaloedd â chysylltiadau bws da.
  4. Caniatáu datblygiadau graddfa fach yn seiliedig ar dai fforddiadwy mewn aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n gymesur â maint yr anheddiad.
  5. Cefnogi rôl maes awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol.
  6. Caniatáu cyfleoedd adfywio, gan gynnwys yn Aberddawan a Dociau'r Barri.

1. Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth i gyd-fynd â safle'r Fro o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

6.7. I fodloni'r dyheadau sydd wedi'u cynnwys o fewn y Weledigaeth drosfwaol, mae'n ofynnol sicrhau lefel gynaliadwy o dwf, felly bydd y CDLlN yn darparu ar gyfer y canlynol:

  • 8,679 o anheddau i ddarparu gofyniad tai o 7,890 annedd dros gyfnod y cynllun neu 526 y flwyddyn (gan gynnwys 10% ychwanegol ar gyfer hyblygrwydd).
  • Dyraniad o 168 Ha o dir cyflogaeth ar draws ystod o safleoedd fel bo modd dod â 67.8 Ha ymlaen a darparu hyd at 5,338 o swyddi.

6.8. Mae lefel arfaethedig y twf yn seiliedig ar nifer y datblygiadau cyfartalog a gwblheir dros ddeng mlynedd cyntaf y cynllun mabwysiedig (526 o anheddau y flwyddyn). Mae hyn yn adlewyrchu amserlen briodol, sy'n cynnwys cyfnod lle bo nifer fach o ddatblygiadau'n cael eu cwblhau yn dilyn y dirwasgiad economaidd, a'r blynyddoedd ffyniannus mwy diweddar ar ôl mabwysiadu'r CDLl a darparu safleoedd wedi'u dyrannu. Dangoswyd bod y lefel hon o dwf yn gyflawnadwy ac fe'i hystyrir yn ddigon uchelgeisiol i adlewyrchu safle'r Fro yn ardal dwf genedlaethol Cymru'r Dyfodol a mynd i'r afael â'r angen dybryd am dai fforddiadwy, gan fod yn gyflawnadwy ar yr un pryd o fewn cyfyngiadau'r amgylchedd naturiol ac adeiledig.

6.9. Bydd y lefel hon o dwf yn ceisio sicrhau cydbwysedd yn y boblogaeth drwy gryfhau'r poblogaethau oed gwaith ac oed ysgol i wrthbwyso'r boblogaeth sy'n heneiddio. Cyflawnir hyn drwy ddarparu ystod o gyfleoedd tai a chyflogaeth i annog preswylwyr presennol i fyw a gweithio yn y Fro (gan leihau allfudo ac allgymudo) yn ogystal ag annog preswylwyr newydd i fewnfudo, ar yr amod bod hynny ar raddfa sy'n cyd-fynd ag awdurdod cyfagos Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd, yn hytrach na'i bod yn cystadlu â'r rheiny.

6.10. Cydbwysir graddfa'r ddarpariaeth cyflogaeth â lefel y twf yn y boblogaeth er mwyn ceisio lleihau cymudo.

2. Cydleoli tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen i deithio.

6.11. Un o flaenoriaethau allweddol Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yw dod â gwasanaethau at bobl er mwyn lleihau'r angen iddynt ddefnyddio eu ceir. Bydd y strategaeth ofodol yn ceisio lleoli datblygiadau newydd mawr mewn mannau â gwasanaethau a chyfleusterau da, yn unol â chanfyddiadau'r Adolygiad Arfarnu Aneddiadau.

6.12. Mae'n rhaid i lefel y twf a gynigir yn yr aneddiadau fod yn gynaliadwy ac yn y lleoliadau cywir, gan roi sylw i rôl a swyddogaeth aneddiadau, yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau a chapasiti aneddiadau neilltuol i gynnwys twf pellach.

6.13. Mae gan y Fro amryw o barciau busnes a stadau diwydiannol sefydledig yn y Fro sy'n cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth. Mae'r busnesau yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn darparu ystod o swyddi o ansawdd uchel, a rhagwelir y bydd cyfleoedd datblygu pellach yn cael eu darparu yn yr Ardal Fenter. Bydd datblygiadau tai newydd felly'n cael eu targedu at Sain Tathan a'r Rhws, fel cyfleoedd datblygu allweddol, er mwyn manteisio ar eu hagosrwydd at yr Ardal Fenter.

6.14. Er y bydd y cynllun yn ceisio alinio defnydd tir lle bo'n briodol, efallai na fydd hi'n briodol cydleoli gwahanol ddefnyddiau ym mhob ardal, a bydd yn rhaid i gynigion roi sylw i'r cyd-destun lleol. Ceir rhai safleoedd cyflogaeth o fewn y Fro mewn lleoliadau nad ydynt wedi'u gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gynaliadwy, felly ni fyddai'r cynllun yn ceisio hyrwyddo datblygiadau tai newydd na mathau eraill o ddatblygiad graddfa fawr yn y lleoliadau hyn. I'r gwrthwyneb, mae'n bosibl na fydd rhai mathau o gyflogaeth yn briodol mewn ardaloedd preswyl o safbwynt amwynder. Fodd bynnag, lle bo'n briodol, yr egwyddor gyffredinol yw y dylai'r strategaeth ofodol geisio sicrhau bod tai newydd yn cael eu lleoli mewn mannau lle ceir mynediad da at swyddi.

6.15. Mae canol trefi yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ac, yn unol â'r egwyddor canol trefi yn gyntaf sydd wedi'i hymgorffori mewn polisi cynllunio cenedlaethol, dylid hyrwyddo datblygiadau newydd, gan gynnwys datblygiadau tai graddfa fach a datblygiadau defnydd cymysg, yng nghanol trefi. Bydd agosrwydd canol trefi hefyd yn ystyriaeth wrth ddyrannu safleoedd tai priodol o faint mwy, gyda safleoedd o fewn pellter cerdded a beicio i ganolfannau yn cael eu ffafrio, gan y bydd hyn yn lleihau'r angen i deithio.

6.16. Lle bo angen gwella'r seilwaith presennol er mwyn helpu i gynnwys datblygiadau newydd, defnyddir y broses rhwymedigaethau Adran 106 i sicrhau bod seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau'n cael eu sicrhau ar lefel briodol ar sail graddfa, math a lleoliad y datblygiad arfaethedig.

3. Llywio datblygiadau'n bennaf at leoliadau a wasanaethir y dda gan orsafoedd rheilffordd presennol ac arfaethedig y rhan o Fetro De Cymru, ac mewn ardaloedd â chysylltiadau bws da.

6.17. Er bod lleihau'r angen i deithio yn amcan polisi allweddol, cydnabyddir y bydd angen defnyddio dulliau teithio eraill i gwblhau rhai teithiau, yn enwedig oherwydd y berthynas gref â Chaerdydd fel cyrchfan ar gyfer cyflogaeth, manwerthu ac adloniant. Yn unol â'r hierarchaeth trafnidiaeth, mae strategaeth ofodol y CDLlN yn ceisio lleoli datblygiadau mewn mannau a wasanaethir yn dda gan drafnidiaeth gynaliadwy.

6.18. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn croesi rhan ddeheuol y Fro, gan gysylltu Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr ag aneddiadau Penarth a Chogan, Dinas Powys, y Barri, y Rhws a Llanilltud Fawr. Ar hyn o bryd ceir pedwar gwasanaeth yr awr rhwng y Barri a Chaerdydd Canolog a gwasanaeth bob awr rhwng y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, er bod disgwyl i amlder y gwasanaeth hwn gynyddu erbyn 2025. Mae llinellau cangen hefyd i Benarth ac Ynys y Barri. Mae targedu datblygiadau newydd i'r aneddiadau a wasanaethir gan y rhwydwaith rheilffyrdd yn rhan allweddol o'r strategaeth, gan y bydd yn hwyluso teithiau drwy ddulliau heblaw'r car.

6.19. Er mwyn helpu i lywio'r broses o ddewis safleoedd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynhyrchu mapiau isocron amseroedd teithio, sy'n nodi pellteroedd cerdded a beicio bob 5 munud hyd at 20 munud oddi wrth bob un o'r gorsafoedd rheilffordd presennol yn y Fro.

6.20. Cwblhawyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gorsaf newydd yn Sain Tathan yn 2022, a nododd bedwar lleoliad posibl ar gyfer gorsaf newydd i'r de o Sain Tathan. Mae'r orsaf arfaethedig yn cael ei hystyried ar hyn o bryd drwy broses achos busnes Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr orsaf yn gwasanaethu anheddiad preswyl Sain Tathan a'r ardal ehangach, gan gynnwys Ardal Fenter Bro Tathan a Pharc Ynni Gwyrdd arfaethedig Aberddawan.

6.21. Fel y nodwyd yn yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau, mae tref y Bont-faen hefyd yn lleoliad cynaliadwy gyda stryd fawr lewyrchus sy'n cynnwys archfarchnad ac amrywiaeth o siopau, gwasanaethau a chyfleusterau eraill sy'n darparu ar gyfer anghenion bob dydd, gan leihau'r angen i deithio. Mae ganddi hefyd ysgolion cynradd ac uwchradd, canolfan hamdden a chyfleusterau iechyd. Er nad yw'r dref ar linell reilffordd, ceir cysylltiadau bws da rhyngddi ag aneddiadau eraill yn y Fro, yn ogystal â Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

4. Caniatáu datblygiadau graddfa fach yn seiliedig ar dai fforddiadwy mewn aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n gymesur â maint yr anheddiad.

6.22. Mae Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) 2021 yn nodi bod angen 1,205 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf ac mae canfyddiadau cychwynnol y diweddariad drafft LHMA (2023) yn nodi bod angen 1,121 o dai fforddiadwy y flwyddyn am y 5 mlynedd nesaf, a 204 o dai fforddiadwy y flwyddyn am y 10 mlynedd ganlynol. Mae ôl-groniad o angen wedi'i nodi ar draws holl is-ardaloedd y Farchnad ym Mro Morgannwg ac mae'r broblem yn ddifrifol mewn llawer o gymunedau lle cyfyngir ar gyfleoedd i ddatblygu.

6.23. Bydd darparu tai fforddiadwy o fewn prif aneddiadau a mân aneddiadau gwledig, fel y'u diffinnir yn yr hierarchaeth aneddiadau, yn cynnig cyfleoedd i bobl iau a phobl oed gwaith, y mae'n bosib y byddent fel arall yn gorfod symud i ran arall o'r Fro neu i ardal ehangach er mwyn canfod tŷ, i aros o fewn eu cymunedau eu hunain. Bydd hyn yn helpu i gynnal strwythur demograffig cytbwys o fewn yr aneddiadau gwledig llai ac o gymorth i gynnal gwasanaethau a chyfleusterau lleol, gan gynnwys ysgolion.

6.24. Rhan allweddol o'r strategaeth felly fydd caniatáu datblygiadau seiliedig ar dai fforddiadwy o fewn y prif aneddiadau a'r mân aneddiadau gwledig hynny y tu allan i'r Ardal Twf Strategol, ar raddfa sy'n cyd-fynd â maint y gymuned y mae'n ei gwasanaethu, gyda nifer yr anheddau'n ddibynnol ar y cyd-destun lleol. Cynllun 'seiliedig ar dai fforddiadwy' yw cynllun lle byddai angen i isafswm o 50% o'r anheddau fod yn fforddiadwy, er y gallai hyn gynyddu i uchafswm o 100% os yw'r safle'n cael ei gynnig gan ddarparydd tai fforddiadwy.

5. Cefnogi rôl maes awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol.

6.25. Mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod bod Maes Awyr Caerdydd "yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru. Mae'n borth rhyngwladol sy'n cysylltu Cymru â'r byd ac yn sbardun pwysig i economi Cymru." Mae strategaeth y CDLlN felly'n cydnabod pwysigrwydd Maes Awyr Caerdydd o safbwynt economaidd a thrafnidiaeth.

6.26. Mae'r maes awyr o fewn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan. Mae'r Ardal Fenter wedi'i rhannu'n ddau safle – Ardal Ddatblygu Maes Awyr a Phorth Caerdydd, sydd yn union wrth ymyl y maes awyr, a safle Bro Tathan yn Sain Tathan. Bwriedir i'r safleoedd blaenllaw hyn sydd wedi'u lleoli'n strategol ysgogi buddsoddiad mewnol a chyfnerthu rôl Bro Morgannwg ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

6.27. Mae Ardal Ddatblygu Maes Awyr a Phorth Caerdydd yn cynnwys dau safle ar wahân - Parc Busnes y Maes Awyr, i'r gogledd o Port Road, a'r safle cyflogaeth strategol i'r de o Port Road, a elwir yn Model Farm. Ar hyn o bryd mae'r safle gogleddol yn cynnwys Canolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), sy'n rhan o Goleg Caerdydd a'r Fro, ac mae cynlluniau i ehangu'r Ganolfan ymhellach. Yn ôl yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth, mae 61.05 Ha o dir ar gael o hyd ar draws rhannau gogleddol a deheuol y rhan hon o'r Ardal Fenter. Mae apêl am ddiffyg penderfyniad wedi'i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ar gyfer cais cynllunio amlinellol ar gyfer Parc Busnes B1, B2, B8 ar safle'r de (Model Farm). Rhoddir ystyriaeth i ganlyniad yr apêl hon wrth benderfynu ar statws y safle hwn o fewn y CDLlN ar Adnau.

6.28. Mae Bro Tathan wedi derbyn buddsoddiad sylweddol hyd yma, gan gynnwys cwblhad diweddar Heol Fynediad y Gogledd, sy'n cynnig mynediad uniongyrchol i'r Ardal Fenter, gan wella cysylltedd. Mae'r safle hefyd yn elwa ar redfa 1,800m gwbl weithredol a gynhelir gan sifiliaid. Mae nifer o fusnesau adnabyddus, gan gynnwys Aston Martin Lagonda ac eCube Solutions wedi'u lleoli ar y safle. Erys ystod o gyfleoedd datblygu ar safle Bro Tathan ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau gan gynnwys B1, B2 a B8, yn ogystal â chyfle am westy. Yn ôl yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth ceir 51.3 Ha o dir datblygadwy net sy'n debygol yn realistig o fod ar gael o fewn cyfnod y cynllun.

6.29. Bydd y CDLlN yn diogelu tir o fewn yr Ardal Fenter lle bo'n briodol er mwyn cynorthwyo i gefnogi rôl Maes Awyr Caerdydd.

6.30. Cydnabyddir bod tensiwn rhwng amcan newid hinsawdd y CDLlN a'r bwriad i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, ac ystyried bod allyriadau awyrennau yn cyfrannu'n sylweddol at newid hinsawdd yn fyd-eang. Cydnabyddir yr her hon yn Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod maes awyr lleol ar gael yn rhoi cyfle i deithwyr sy'n byw yng Nghymru gael hedfan o safle sy'n nes at adref, gan leihau teithiau a allai fod wedi cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Mae LlC yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a menter Jet Zero, yn ogystal â Maes Awyr Caerdydd, i leihau effeithiau hedfan ar yr amgylchedd.

6. Caniatáu cyfleoedd adfywio, gan gynnwys yng Ngorsaf Bŵer Aberddawan a Dociau'r Barri.

6.31. Bydd y strategaeth yn cydnabod ac yn gwarchod tir yn hen Orsaf Bŵer Aberdâr, fel Parc Ynni Gwyrdd. Ar ôl dymchwel yr orsaf bŵer ac adfer y safle, cynigir y bydd y safle:

  • Yn cefnogi cynhyrchu prosiectau ynni adnewyddadwy a gwyrdd.
  • Yn darparu cyfleuster storio batri i gefnogi'r prosiectau ynni gwyrdd.
  • Yn cynhyrchu clwstwr gweithgynhyrchu di-garbon a fydd yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
  • Yn darparu canolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesi, twf, gwybodaeth a chyfleoedd i'r gymuned ryngweithio â dyfodol di-garbon Cymru.
  • Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal parc ecoleg bio-amrywiol a fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr, gan ddarparu cyfleusterau i'r gymuned leol.
  • Creu'r amodau cywir i gefnogi datgarboneiddio diwydiannol a chyfleusterau giga-waith y dyfodol.

6.32. Mae Aberddawan yn cynnig cyfle unigryw i greu swyddi hyfedr, gan wneud cyfraniad sylweddol ar yr un pryd at liniaru'r newid hinsawdd, yn unol ag amcanion y Cynllun. Cefnogir y cyfle adfywio pwysig hwn drwy fframwaith polisi'r CDLlN, wedi'i lywio gan yr Uwchgynllun sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd.

Dociau'r Barri

6.33. Roedd y strategaeth ar gyfer y CDLl mabwysiedig yn canolbwyntio ar adfywio hen Ddoc Rhif 1, a elwir yn Lannau'r Barri, fel safle strategol defnydd cymysg. Mae'r rhan fwyaf o'r datblygiad preswyl bellach wedi'i gwblhau, a gweddill yr unedau ar Gei'r Dwyrain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

6.34. Ceir cynlluniau i barhau i adfywio'r Glannau yn y dyfodol, gan gynnwys cynnig i greu marina 400 docfa gyda phontynau arnofiol, ynghyd â swyddfa marina, bwyty, gweithdai hybu ac unedau preswyl yn y Mole.

6.35. Yn ogystal â'r cynigion ar gyfer y Mole a'r Marina, mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain wedi nodi cyfleoedd ailddatblygu i'r dyfodol ar dir o fewn eu perchnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Uwchraddio Loc y Fonesig Windsor, a gosod gatiau loc newydd i fodloni anghenion yr holl longau sy'n defnyddio'r Doc.
  • Ailddatblygu Ardal Dwf Creigiau Duon, at ddefnyddiau fel y gadwyn gyflenwi batris, uwchweithgynhyrchu, prosesu mwynau prin o'r ddaear, a gweithgynhyrchu biodanwydd y genhedlaeth nesaf.
  • Hyb Twf Glân y Porthladd a fydd yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu di-garbon.

Ardal Twf Strategol

6.36. Mae'r Strategaeth yn ceisio hyrwyddo datblygiad yn yr Ardal Twf Strategol, ardal sy'n cynnwys y prif ganolfannau poblogaeth a'r aneddiadau trefol a wasanaethir gan ystod o gyfleusterau a gwasanaethau, ac sy'n hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio. O fewn yr Ardal Twf Strategol, mae'r Barri yn anheddiad allweddol, ac aneddiadau canolfan wasanaeth Llanilltud Fawr, Penarth a'r Bont-faen yn cynnig cyfleoedd am dwf cynaliadwy. Mae prif aneddiadau Sili, Dinas Powys, Llandochau (Penarth), y Rhws a Sain Tathan hefyd wedi'u cynnwys o fewn yr Ardal Twf Strategol, gan fod y rhain yn lleoliadau cynaliadwy lle gellir alinio datblygiad preswyl newydd â defnyddiau eraill a lle ceir opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy eisoes neu arfaethedig, i leihau'r ange i deithio yn y car.

Diagram Allweddol

6.37. Mae'r diagram allweddol yn dangos Strategaeth y CDLlN ac yn dangos maint ardal Cyngor Bro Morgannwg ac ardal y CDLlN. Mae'r diagram allweddol hefyd yn dangos yr Ardal Twf Strategol, llwybrau trafnidiaeth strategol, lleoliadau allweddol i'w datblygu yn y dyfodol, hierarchaeth aneddiadau'r cynllun a'r rhyngberthnasau ag awdurdodau lleol cyfagos.

Diagram allweddol Strategaeth a Ffefrir yn dangos yr ardal dwf strategol a'r aneddiadau yn y Fro

Ffigur 12: Diagram Allweddol

CWESTIWN 7: Y STRATEGAETH A FFEFRIR

Mae adran 6 yn nodi Strategaeth a Ffefrir y CDLlN ar gyfer Bro Morgannwg, sy'n cynnwys chwe elfen allweddol ac yn cynnwys Diagram Allwedd y Strategaeth a Ffefrir. A ydych yn cytuno bod y Strategaeth a Ffefrir yn briodol ar gyfer Bro Morgannwg? 

POLISÏAU STRATEGOL

6.38. Mae'r adran hon yn nodi'r polisïau strategol trosfwaol sy'n ymdrin â'r themâu allweddol a nodwyd ac sydd hefyd yn cyfrannu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion. Mae'r polisïau wedi'u trefnu i bedair thema Polisi Cynllunio Cymru:

  • Dewisiadau Strategol a Gofodol
  • Lleoedd Actif a Chymdeithasol
  • Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus
  • Lleoedd Nodweddiadol a Naturiol

DEWISIADAU STRATEGOL A GOFODOL

STRATEGAETH TWF A FFAFRIR

6.39. Mae Polisi SP1 yn pennu lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol yn unol â Strategaeth Twf Cynaliadwy'r CDLlN.

SP1: STRATEGAETH TWF

Bydd CDLlN Bro Morgannwg yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol yn y cyfnod 2021-2036:

Tai
Darparu 7,890 o anheddau erbyn 2036, gan gynnwys isafswm o 2,000 o gartrefi fforddiadwy. Bydd prif ffocws twf tai a chyflogaeth yn y Fro o fewn yr Ardal Twf Strategol fel y'i nodir yn y Diagram Allweddol, a bydd wedi'i lywio'n bennaf at y lleoliadau canlynol a wasanaethir eisoes gan lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ac yn cynnig cyfle i wella cysylltedd trafnidiaeth gynaliadwy:
A. Y Barri
B. Penarth
C. Llanilltud Fawr
D. Y Bont-faen
E. Dinas Powys
F. Y Rhws
G. Sain Tathan
Mewn ardaloedd gwledig, caniateir twf ychwanegol o fewn ffiniau aneddiadau presennol ac ar gynlluniau seiliedig ar dai fforddiadwy mewn lleoliadau cynaliadwy.

Cyflogaeth
Safleoedd cyflogaeth i ddarparu'r gofyniad tir cyflogaeth a nodwyd o 67.8ha a darparu hyd at 5,388 o swyddi. Bydd datblygiad cyflogaeth newydd yn canolbwyntio ar Safleoedd Cyflogaeth Mawr a Phwysig Lleol ac Ardaloedd Cyfleoedd Adfywio Cyflogaeth.

Seilwaith
Darparu'r seilwaith cysylltiedig sydd ei angen i gefnogi'r twf.

HIERARCHAETH ANEDDIADAU

6.40. Er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn digwydd mewn lleoliadau sydd â'r mynediad gorau at ystod eang o wasanaethau, cyfleusterau, a chyfleoedd cyflogaeth, gan leihau'r angen i deithio, dosberthir twf ar sail yr hierarchaeth aneddiadau canlynol. Defnyddiwyd asesiad o faint y boblogaeth, cysylltedd yr anheddiad, ac argaeledd cyflogaeth a gwasanaethau a chyfleusterau eraill, fel y manylir yn Adolygiad Arfarnu Aneddiadau'r Cyngor, yn sail i bennu safle pob anheddiad o fewn yr hierarchaeth.

SP2: HIERARCHAETH ANEDDIADAU

Bydd dosbarthiad eang datblygiad o fewn yr Ardal Twf Strategol wedi'i siapio gan yr hierarchaeth aneddiadau, gan adlewyrchu rôl a swyddogaeth llefydd, a chyfeirio twf at leoliadau a fydd yn cynnig y cyfleoedd mwyaf i ddarparu tai i fodloni'r angen am dai fforddiadwy, seilwaith cymunedol a darpariaeth well o ran trafnidiaeth gynaliadwy.

Hierarchaeth Aneddiadau'r Ardal Twf Strategol:

Anheddiad Allweddol: Y Barri.
Bydd y Barri yn parhau i fod yn ganolbwynt i ddatblygu ym Mro Morgannwg yn y dyfodol. Fel y dref fwyaf yn y Fro, bydd twf yn y dyfodol yn cefnogi ei rôl fel prif dref weinyddol sy'n darparu cysylltiadau trafnidiaeth da, gwasanaethau, cyflogaeth a chyfleusterau manwerthu a hamdden i'w phreswylwyr a'r ardal ehangach.

Aneddiadau Canolfan Wasanaeth: Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth.
Mae'r aneddiadau pwysig hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau sydd hefyd yn gwasanaethu ardal ehangach. Bydd twf yn cefnogi'r rôl hon a lle bydd lefel y datblygiad yn diwallu anghenion lleol yr ardal.

Prif Aneddiadau: Y Rhws, Sain Tathan, Sili, Llandochau, Dinas Powys

Bydd datblygiadau o fewn yr aneddiadau hyn yn adlewyrchu eu rôl gyflenwol mewn perthynas â'r Aneddiadau Allweddol a Chanolfan Wasanaeth, cysylltedd trafnidiaeth ac ardaloedd cyflogaeth.

Ardaloedd y tu allan i'r Ardal Twf Strategol

Prif Aneddiadau: Gwenfô, Y Wig, Croes Cwrlwys

Mân Aneddiadau Gwledig: Ewenni, Corntwn, Saint-y-brid, Tregolwyn, Sain Nicolas, Tresimwn, Fferm Goch, Llanbedr-y-fro, Llandw, Ystradowen, Llanfaes, Pendeulwyn, Aberthin, Llancarfan, Llyswyrni, Graig Penllyn, Aberogwr, Singingstone, Dwyrain Aberddawan, Penllyn, Treoes.

Bydd cymeriad yr aneddiadau, gan gynnwys eu perthynas â'r ardal o gefn gwlad o'u hamgylch a'u gosodiad yn yr ardal honno, yn cael ei warchod a'i wella lle bo modd. Bydd datblygiad yn y Prif Aneddiadau sydd y tu hwnt i ffiniau'r ardal twf strategol, yn ogystal â'r Mân Aneddiadau Gwledig a nodwyd wedi'u cyfyngu i ddefnydd effeithlon a chynaliadwy o adeiladau presennol, cyfleoedd mewnlenwi, cynlluniau tai graddfa fach seiliedig ar dai fforddiadwy, a datblygiadau'n gysylltiedig â mentrau gwledig / amaethyddiaeth.

I ddibenion y polisi hwn, diffinnir datblygiadau graddfa fach seiliedig ar dai fforddiadwy fel datblygiadau sy'n darparu isafswm o 50% o dai fforddiadwy ar safleoedd sy'n cynnwys hyd at 25 o anheddau mewn mân aneddiadau gwledig, neu hyd at 50 o anheddau mewn prif aneddiadau. Disgwylir i fath, graddfa a chymysgedd y tai fforddiadwy adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf, a chynnwys tai arbenigol i bobl hŷn. Ni chymeradwyir cynigion nad ydynt yn bodloni'r isafswm o 50% o dai fforddiadwy.

Ceir ffiniau anheddiad o amgylch yr aneddiadau a nodir yn y hierarchaeth aneddiadau. 'Cefn gwlad' sydd y tu hwnt i'r ffiniau anheddiad diffiniedig hyn, onid yw'r tir hwnnw wedi'i nodi'n benodol i ddibenion eraill yn y cynllun.

6.41. Mae strategaeth twf gofodol y Fro yn darparu'r fframwaith ar gyfer darparu twf a fydd yn cefnogi ac yn adlewyrchu rolau a swyddogaethau amrywiol ei threfi a'i phentrefi ac anghenion cymunedau, wedi'i gysylltu gan ddewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy. Er mwyn cyflawni Creu Lleoedd, mae angen i dwf hefyd barchu graddfa a swyddogaeth lleoedd, diogelu ansawdd yr amgylchedd a gwella cymeriad lleol.

6.42. Mae Polisi SP2 yn nodi'r hierarchaeth aneddiadau ym Mro Morgannwg, gan adlewyrchu Ardal Twf Strategol y Cynllun. O fewn yr Ardal Dwf,mae'r Strategaeth yn cyfeirio twf i'r Aneddiadau Allweddol, yr Aneddiadau Canolfan Wasanaeth a'r Prif Aneddiadau sydd wedi'u lleoli yn yr Ardal Twf Strategol. Yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio cynaliadwy a chefnogi darpariaeth gwasanaeth lleol, ac annog defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy, dylai twf yn y dyfodol hefyd adlewyrchu eu rolau a'u nodweddion perthnasol, yn ogystal â'u cyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol perthnasol.

Aneddiadau'r Ardal Twf Strategol

6.43. Bydd Anheddiad Allweddol y Barri yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd, ac mae wedi'i gydnabod yn y Strategaeth fel un o'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy y dylid llywio cyfleoedd datblygu newydd mawr tuag ato. Gwelwyd twf mawr yn y Barri dros gyfnod y cynllun blaenorol, gan gynnwys drwy ailddatblygiad defnydd cymysg ar Lannau'r Barri, a nodwyd fel safle strategol o fewn y CDLl mabwysiedig hyd at 2026. Erys cyfleoedd datblygu ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau o fewn ardal ehangach Glannau'r Barri ar nifer o safleoedd llai, ond er mwyn bodloni'r angen sylweddol am dai fforddiadwy ac ymateb i safle'r Barri fel Anheddiad Allweddol, mae angen nodi tai ychwanegol yn y dref, wedi'u cefnogi gan ystod o ddefnyddiau cyflenwol eraill.

6.44. Mae aneddiadau Canolfan Wasanaeth y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr oll yn wahanol o ran eu cymeriad, ond mae eu rolau'n debyg. Er enghraifft, mae ganddynt oll boblogaethau preswyl sylweddol, darpariaeth dda o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cyfleoedd cyflogaeth lleol, canol trefi sefydledig ac ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol, addysgol a chymunedol. Mae aneddiadau Canolfan Wasanaeth yn gwasanaethu anghenion dyddiol eu preswylwyr ac yn gweithredu fel canolbwynt pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau llai cyfagos. Mae'r strategaeth felly'n rhagweld y bydd yr aneddiadau hyn hefyd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer twf ym Mro Morgannwg dros gyfnod y Cynllun.

6.45. Diffinnir Dinas Powys, Llandochau (Penarth) a Sili fel Prif Aneddiadau ac maent yn cyflawni rôl sy'n ategu'r aneddiadau allweddol a chanolfan wasanaeth, drwy fodloni anghenion preswylwyr. Maent yn cynnwys amryw o wasanaethau a chyfleusterau allweddol, sy'n hollbwysig i'w rôl fel cymunedau cynaliadwy, ac yn cynnwys gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus da. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys ysgolion cynradd, siopau cyfleustra bach, mannau gwerthu bwyd a diod a chyfleoedd cyflogaeth.

6.46. Mae Sain Tathan a'r Rhws yn lleoliadau allweddol ar gyfer twf cyflogaeth o fewn yr Ardal Twf Strategol. Mae'r ddau anheddiad wedi'u nodi'n Brif Aneddiadau, gan adlewyrchu'r ystod o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael. Byddai twf yn yr aneddiadau hyn yn y dyfodol yn cyd-fynd â'u rolau yn yr ardal dwf ranbarthol ehangach oherwydd eu hagosrwydd at Barthau Menter Bro Athan a Maes Awyr Caerdydd a'r Parc Ynni Gwyrdd arfaethedig yn Aberdâr, yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth presennol, a chynigion ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth yn y dyfodol.

Aneddiadau y tu allan i'r Ardaloedd Twf Strategol

6.47. Mae aneddiadau'r Wig, Gwenfô a Chroes Cwrlwys wedi'u nodi fel Prif Aneddiadau fel rhan o'r Adolygiad Arfarnu Aneddiadau gan fod maint yr aneddiadau a'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael yn gymesur â Phrif Aneddiadau eraill ar raddfa debyg. Er hynny, o fwriad, nid yw'r aneddiadau hynny wedi cael eu cynnwys yn yr Ardal Twf Strategol oherwydd byddai twf ychwanegol sylweddol o fewn yr aneddiadau hyn yn groes i Strategaeth y CDLlN. Yn achos y Wig, mae hyn oherwydd lleoliad gwledig yr anheddiad, a phrinder cyfleoedd i deithio drwy ddulliau eraill heblaw'r car, ar gyfer cyflogaeth ac er mwyn cyrchu gwasanaethau a chyfleusterau.

6.48. Er nad yw Croes Cwrlwys na Gwenfô ar linellau rheilffordd ar hyn o bryd, mae ganddynt wasanaethau bws rheolaidd. Mae cymeriad Croes Cwrlwys wedi newid dros gyfnod y cynllun mabwysiedig, gydag ailddatblygiad hen stiwdios ITV yn rhoi rôl fwy preswyl i'r anheddiad, ochr yn ochr â'i safle fel canolfan fanwerthu ar gyrion y dref. Er bod ystod o ddefnyddiau A1, A3 a D2 yn agos, nid oes ganddo unrhyw gyfleusterau cymunedol gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau gofal iechyd, felly gallai datblygiadau preswyl pellach yn yr ardal hon gynyddu'r defnydd o geir. Ar ben hynny, mae'r papur Opsiynau Gofodol hefyd yn nodi y cyfyngir yn sylweddol ar gyfleoedd datblygu yng Nghroes Cwrlwys a Gwenfô gan bresenoldeb y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (BMV) ar gyrion y ddau anheddiad.

6.49. Mae Mân Aneddiadau Gwledig y Fro hefyd wedi'u nodi y tu allan i'r Ardal Twf Strategol. Mae'r mathau o wasanaethau a chyfleusterau a geir fel arfer yn yr aneddiadau llai hyn y cynnwys mannau addoli, neuaddau cymuned, defnyddiau manwerthu graddfa fach a chyfleusterau hamdden ffurfiol. Mae nifer o'r aneddiadau gwledig llai fel Tregolwyn, Sain Nicolas a Saint-y-brid yn cynnwys ysgolion cynradd sy'n gwasanaethu dalgylch ehangach, tra bo eraill hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol, naill ai oddi mewn neu yng nghyffiniau aneddiadau. Oherwydd y cysylltiadau swyddogaethol hyn rhwng aneddiadau gwledig, mae'n hanfodol sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau presennol yn cael eu diogelu, a galluogi cyfleoedd a fydd yn cefnogi neu'n gwella cyfleusterau.

6.50. Ar wahân i hyn, mae'n hanfodol i'r CDLl sicrhau bod twf yn taro cydbwysedd rhwng cefnogi anghenion cymunedau gwledig ac amcanion cynaliadwyedd ehangach y cynllun, yn enwedig ei gyfraniad tuag at ymateb i'r heriau a achosir gan y newid hinsawdd. Mae Polisi SP2 felly'n nodi'r aneddiadau hynny yr ystyrir bod ganddynt boblogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau digonol i gynnwys twf graddfa fach, heb iddo niweidio eu cymeriad a'u hamgylchedd lleol presennol.

6.51. Yn gyson â pholisi cenedlaethol, o fewn yr aneddiadau hyn bydd tai'r farchnad gyffredinol wedi'u cyfyngu i gyfleoedd o fewn ffiniau anheddiad diffiniedig, gan gynnwys datblygiadau mewnlenwi a thrawsnewid adeiladau presennol. Mewn mannau eraill, bydd datblygiadau tai newydd ar gyrion y pentrefi hyn yn cael eu cyfyngu i dai 'eithriadau gwledig' lle bo tystiolaeth o angen swyddogaethol, ac i ddyraniadau graddfa fach sy'n seiliedig ar dai fforddiadwy (hyd at 25 o anheddau mewn aneddiadau gwledig llai a hyd at 50 o anheddau mewn prif aneddiadau y tu allan i'r ardal twf strategol), lle bydd angen darparu isafswm o 50% o dai fforddiadwy.

6.52. Bydd galluogi elfen o dai marchnad agored o fewn pentrefi gwledig yn cynnig cyfleoedd i ddarparu tai fforddiadwy a thai'r farchnad gan adlewyrchu dyheadau cymunedau gwledig i gynnal a darparu ar gyfer eu hanghenion tai, ac yn cefnogi hyfywedd a chyflawnadwyedd. Yn hyn o beth ni chaniateir cynigion na allant ddarparu isafswm o 50% o dai fforddiadwy.

6.53. Ac ystyried cymeriad amrywiol y pentrefi gwledig a nodir ym Mholisi SP2, wrth ystyried maint yr angen am dai fforddiadwy a gynigir, bydd y Cyngor yn ystyried addasrwydd y cynnig mewn perthynas â gwasanaethau a chyfleusterau presennol, argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus ac effaith y cynnig ar gymeriad a gosodiad y pentref. Yn hyn o beth, dylai cynigion gael eu seilio ar egwyddorion Creu Lleoedd a nodir ym Mholisi SP5, yn hytrach nag ar ddymuniad i gynyddu nifer yr anheddau a nodir yn y polisi hyd yr eithaf.

6.54. Bydd ffiniau aneddiadau'n gallu cael eu llunio o amgylch pob un o'r trefi a'r pentrefi yn hierarchaeth aneddiadau'r CDLlN yn y cam Adneuo, a byddant wedi'u diffinio'n glir ar Fap y Cynigion. Mae ffiniau aneddiadau yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau datblygiad cynaliadwy drwy annog datblygiad o fewn yr aneddiadau cynaliadwy a nodir yn Hierarchaeth y CDLl. Maent hefyd o gymorth i ddiogelu'r ardal o gefn gwlad oddi amgylch rhag datblygiadau amhriodol, yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, drwy amlinellu ehangder datblygiad adeiledig. Mae amlinellu ffiniau aneddiadau felly'n helpu i gefnogi ac atgyfnerthu'r gwaith o gyflawni amcanion a strategaeth y Cynllun ac yn darparu mecanwaith polisi allweddol ar gyfer rheoli twf ym Mro Morgannwg.

TWF TAI

6.55. Nod strategaeth y CDLlN ar gyfer twf tai yw ceisio dod â digon o dai ymlaen i fodloni'r gofyniad tai a nodwyd yn yr opsiwn twf a ffafrir ar gyfer y cynllun dros gyfnod y cynllun, gan sicrhau y darperir cymysgedd briodol ar gyfer y farchnad anghenion cyffredinol a chartrefi fforddiadwy, a thai arbenigol i fodloni anghenion rhai sydd angen tai hygyrch neu wedi'u haddasu.

SP3: GOFYNIAD TAI

Er mwyn bodloni'r gofyniad tai a nodwyd o 7,890 o anheddau, gwneir darpariaeth ar gyfer darparu 8,679 o gartrefi dros Gyfnod y Cynllun, o 2021 i 2036. Cyflawnir hyn drwy ddarparu'r canlynol:

  • 4,457 o anheddau o'r cyflenwad tir presennol
  • 1,603 o anheddau o ddatblygiadau mawr a hapddatblygiadau bach
  • 2,450 i 2,750 o anheddau ar safleoedd allweddol*
  • Dyraniadau tai newydd ychwanegol gan gynnwys datblygiadau seiliedig ar dai fforddiadwy*

*Pennir nifer union yr unedau yng ngham y CDLlN wedi'i Adneuo.

6.56. Mae Polisi SP3 yn nodi gofyniad tai o 7,890 o anheddau (526 uned y flwyddyn) dros gyfnod y cynllun. Gan gynnwys gorswm o 10% er hyblygrwydd ac i sicrhau'r gallu i gyflawni, bydd y cynllun yn darparu ar gyfer 8,679 o anheddau. Bydd y ddarpariaeth hon o dai yn cael ei chyflawni o'r ffynonellau cydrannol a restrir yn Nhabl 2.

6.57. Er mwyn bodloni'r ffigur gofyniad tai hwn, mae'r Cyngor wedi ystyried cyfraniad y cyflenwad presennol o dir, hy, safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio, gan gynnwys yr unedau hynny sy'n cael eu hadeiladu, a safleoedd CDLl mabwysiedig presennol yr ystyrir eu bod yn gyflawnadwy ac yn hyfyw, ac sy'n ategu strategaeth twf gofodol y CDLlN. Mae'r ffigur hwn hefyd yn cynnwys unedau sydd wedi eu cwblhau ar safleoedd mawr a bach dros y 2 flynedd gyntaf o gyfnod y cynllun, sy'n gyfwerth â 785 o anheddau. Gyda'i gilydd byddai'r ffynonellau hyn yn cyfrannu 4,457 o anheddau at fodloni'r gofyniad tai. Mae Atodiad 1 yn rhoi rhestr o'r holl safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio ac Atodiad 2 yn nodi'r safleoedd sy'n gyflawnadwy yn y CDLl mabwysiedig y cynigir eu symud ymlaen.

6.58. Mae ffynhonnell bellach o dai yn deillio o hap-ddatblygiadau, sef safleoedd nad ydynt wedi'u dynodi'n benodol ar gyfer tai, ond a gaiff eu dwyn ymlaen yn unol â'r cynllun datblygu ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill. Dengys dadansoddiad o'r cyflenwad tai dros y 10 mlynedd diwethaf fod hapsafleoedd bach (safleoedd sy'n cynnwys llai na 10 o anheddau) ar gyfartaledd wedi darparu tua 55 o anheddau wedi'u cwblhau bob blwyddyn, a bod hapsafleoedd mawr (10 annedd neu fwy) wedi cyfrannu cyfartaledd o 74 o anheddau'r flwyddyn. Ar ôl ystyried hapsafleoedd mawr presennol o fewn cyflenwad presennol o dir ar gyfer tai, a'r cyfraniad y mae'r ffynonellau hyn eisoes wedi'i wneud yn ystod dwy flynedd gyntaf y CDLlN, rhagamcennir y gallai hapsafleoedd gyfrannu 1,603 o anheddau pellach dros weddill y cynllun.

6.59. Mae Tabl 2 isod yn dod â'r elfennau uchod ynghyd i nodi'r cyflenwad presennol o dai yn erbyn y gofyniad tai, ac yn pennu'r gofyniad tai i'w fodloni yn y dyfodol drwy ddyrannu safleoedd yn y CDLlN. Gyda'i gilydd mae'r ffynonellau hyn yn cyfrannu 6,060 o anheddau tuag at ofyniad tai'r CDLlN o 8,679 o anheddau, gan adael gofyniad tai gweddilliol o 2,619 o anheddau i'w darparu drwy ddyraniadau ychwanegol o fewn y CDLlN.

Tabl 2: Cyflenwad Tai a Gofyniad Tai

Cydran y Cyflenwad

Nifer yr Anheddau

Nodiadau

Darpariaeth Tai

8,679

Gofyniad tai ar gyfer 2021-2036 (7,890 o anheddau + 789 (10%) i gynnwys elfen o hyblygrwydd)

A

Cwblhawyd yn 21/22 a 22/23

785

Yn cynnwys 700 o anheddau ar safleoedd mawr ac 85 o anheddau ar safleoedd bach

B

Unedau sy'n cael eu hadeiladu 1 Ebrill 2023

513

C

Unedau o fewn caniatâd cynllunio

1,449

Yn cynnwys safleoedd sydd â chytundebau A106 yn yr arfaeth lle bo gobaith realistig i'r cytundeb gael ei lofnodi.

D

Safleoedd CDLl wedi'u dwyn ymlaen

1,710

Dim ond y rhai sy'n debygol yn realistig o gael eu datblygu - mae rhai yn destun ceisiadau cynllunio

Cyfanswm y Cyflenwad Presennol (A+B+C+D)

4,457

E

Caniatáu ar gyfer hapsafleoedd mawr (10 annedd neu fwy):

888

(74 annedd y flwyddyn x 12 mlynedd)

Rhagwelir goddefiant o 74 o anheddau y flwyddyn drwy hapsafleoedd mawr dros gyfnod y cynllun. Er mwyn osgoi cyfrif hapsafleoedd mawr sydd eisoes o fewn y cyflenwad tir ddwywaith, mae'r goddefiant hwn wedi'i gymhwyso i 12 o'r blynyddoedd sy'n weddill yn y cynllun 2024-2026.

DD

Caniatáu ar gyfer Hapsafleoedd Bach

(9 annedd neu lai):

715

(55 annedd y flwyddyn x 13 mlynedd)

Mae goddefiant o 55 o anheddau y flwyddyn wedi'i gynnwys, sy'n seiliedig ar gyfartaledd yr anheddau a gwblhawyd ar safleoedd bach dros y 10 mlynedd diwethaf. Cymhwyswyd y goddefiant hwn i'r blynyddoedd sy'n weddill yn y cynllun 2023-2026.

Cyfanswm goddefiant hapsafleoedd

1,603

Gofyniad Gweddilliol (Tir ychwanegol i'w ddyrannu ar safleoedd newydd)

2,619

Darpariaeth tai llai cyfanswm y cyflenwad presennol llai cyfanswm y goddefiant hap-safleoedd


6.60. Ceir rhagor o fanylion am ddadansoddiad y Cyngor o gyflenwad tir Bro Morgannwg ym Mhapur Cefndir Cyflenwad Tir ar gyfer Tai y CDLlN.

DARPARU TAI

6.61. Mae'r Polisïau Strategol SP1 ac SP3 yn nodi'r angen i ddarparu 7,890 o anheddau ychwanegol dros gyfnod y cynllun, ac mae'r cynllun yn cynnwys darpariaeth ychwanegol o 10% i gynnwys elfen o hyblygrwydd fel y gellir cyflawni'r gofyniad, sef cyfanswm o 8,769 o anheddau. Cyflawnir y ffigur hwn drwy'r cyflenwad presennol o dir y manylir arno yn Nhabl 2 plws dyraniad safleoedd allweddol fel y'u rhestrir ym Mholisi SP4 a safleoedd ychwanegol yn seiliedig ar dai fforddiadwy, a nodir yng ngham y Cynllun wedi'i Adneuo, ar ôl cwblhau gwaith asesu manwl pellach.

6.62. Mae Polisi Cynllunio yn pennu dilyniant chwilio er mwyn dyrannu tir, lle rhoddir ystyriaeth yn y lle cyntaf i safleoedd a datblygwyd o'r blaen (tir llwyd) a safleoedd wedi'u tanddefnyddio. Nid oes rhyw lawer o gyfleoedd i ddatblygu tir llwyd ym Mro Morgannwg, felly mae angen targedu datblygiad at y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyrion aneddiadau, lle gellir cael cysylltiadau da â thrafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau a chyfleusterau drwy lwybrau teithio llesol. Bydd y CDLlN yn ceisio dyrannu'r safleoedd hynny sydd yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ac sy'n gallu darparu datblygiad o ansawdd uchel yn unol ag egwyddorion creu lleoedd, ac sy'n ymateb yn gadarnhaol i'r argyfyngau natur a hinsawdd.

6.63. Dewiswyd y Safleoedd Allweddol a nodir ym Mholisi SP4 ar ôl cynnal proses asesu drwyadl aml-gam yn unol â'r Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Drwy'r broses ystyriwyd addasrwydd safleoedd i'w datblygu gan roi sylw i arfarniad cychwynnol o gyfyngiadau ar safleoedd a'r gallu i'w cyflawni, ynghyd â'r graddau y maent yn cydymffurfio â'r Strategaeth a Ffafrir. Ar gam y Strategaeth a Ffafrir, dim ond safleoedd a ystyrir y allweddol er mwyn cyflawni'r strategaeth sydd wedi'u nodi. Mae'r safleoedd allweddol hyn wedi'u lleoli mewn aneddiadau yn haenau uchaf yr hierarchaeth aneddiadau o fewn yr ardal twf strategol, ac maent ar raddfa ddigonol i allu cyflawni'r egwyddorion creu lleoedd yn y ffordd orau gan gynnwys darparu cymysgedd o ddefnyddiau, seilwaith gwyrdd a gwelliannau teithio llesol. Mae'r holl safleoedd allweddol hefyd o fewn 20 munud ar droed neu ar feic i orsafoedd rheilffordd arfaethedig.

SP4: SAFLEOEDD ALLWEDDOL YN SEILIEDIG AR DAI

Er mwyn cyflawni twf strategol y cynllun a chyfrannu at fodloni'r gofyniad tai a nodwyd yn SP3, nodir tir ychwanegol ar gyfer datblygiad preswyl o fewn y lleoliadau allweddol a ganlyn:

Safleoedd Allweddol

Cyfeirnod Safle

Anheddiad

Enw'r Safle

Anheddau a gynigir dros gyfnod y cynllun

SP4 KS1

Y Barri

Tir yng Ngogledd-ddwyrain y Barri

900

SP4 KS2

Dinas Powys

I'r gogledd o Ddinas Powys, oddi ar Heol Caerdydd

250

SP4 KS3

Y Rhws

Tir yn Readers Way

450

SP4 KS4

Sain Tathan

Tir yn Church Farm, Sain Tathan

250-550

SP4 KS5

Sain Tathan

Tir i'r Gorllewin o Sain Tathan

600

2,450 - 2,750

Safleoedd Banc Tir yr Ardal Twf Strategol - Safleoedd Tai Ymrwymedig ac a Ddygwyd Ymlaen

Cyfeirnod

Anheddiad

Enw'r Safle

Statws

Anheddau sy'n Weddill 1 Ebrill 2023

SP4 L1

Y Barri

Tir i'r Gorllewin o Pencoedtre Lane

Dyraniad a ddygwyd ymlaen o'r CDLl Mabwysiedig

135

SP4 L2

Y Bont-faen

Tir yn ymyl Heol Sain Tathan

Cais cynllunio yn disgwyl penderfyniad

105

SP4 L3

Y Bont-faen

Darren Farm

Yn cael ei adeiladu

306

SP4 L4

Llanilltud Fawr

Hen Ysgol Eagleswell

Dyraniad a ddygwyd ymlaen o'r CDLl Mabwysiedig

72

SP4 L5

Llanilltud Fawr

Tir rhwng Ffordd Fynediad newydd y Gogledd a Heol Eglwys Brewis (dwyrain)

Dyraniad a ddygwyd ymlaen o'r CDLl Mabwysiedig

185

SP4 L6

Llanilltud Fawr

Tir wrth ymyl Fferm Froglands

Caniatãd cynllunio (yn amodol ar a106)

90

SP4 L7

Llanilltud Fawr

Tir rhwng Ffordd Fynediad y Gogledd a Heol Eglwys Brewis (gorllewin)

Caniatãd cynllunio (yn amodol ar a106)

140

SP4 L8

Penarth

Tir ar Fferm Cosmeston Uchaf

Cais cynllunio yn disgwyl penderfyniad

576

SP4 L9

Penarth

Tir i'r de o Allt Llandochau / Heol Penarth

Caniatãd cynllunio (yn amodol ar a106)

133

SP4 L10

Y Rhws

Tir i'r gogledd o'r Rheilffordd, (Dwyrain)

Cais cynllunio yn disgwyl penderfyniad

282

SP4 L11

Sain Tathan

Tir yn Burley Place

Dyraniad a ddygwyd ymlaen o'r CDLl Mabwysiedig

80

SP4 L12

Sain Tathan

Tir i'r dwyrain o Eglwys Brewis

Yn cael ei adeiladu

152

SP4 L13

Sili

Tir ar Swanbridge Road

Yn cael ei adeiladu

333

-

-

-

Cyfanswm

2,589


Wrth gyflawni'r gofyniad tai, bydd yn ofynnol i bob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at ddarparu cymysgedd briodol o dai'r farchnad, tai fforddiadwy a llety arbenigol a chefnogi'r newid tuag at fod yn ddi-garbon.

6.64. Er mwyn cyflawni'r gofyniad tai hwn, mae Polisi SP4 yn nodi'r Dyraniadau Tai Allweddol a'r Dyraniadau Ardaloedd Twf Strategol a fydd yn cyfrannu at fodloni'r rhan fwyaf o'r gofyniad tai dros gyfnod y cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys dyraniadau Safleoedd Allweddol newydd a Safleoedd Banc Tir Ardal Twf Strategol a Ymrwymwyd a Safleoedd a Ddygwyd Ymlaen (hy, safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio a/neu safleoedd a ddyrannwyd eisoes sy'n debygol yn realistig o gael eu cyflawni dros gyfnod y CDLlN). Dim ond y safleoedd hynny sy'n gallu cynnwys 50 neu fwy o anheddau sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod gan mai'r rhain fydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol at gyflawni'r strategaeth. Yn ogystal â hyn, ceir safleoedd sy'n elwa ar ganiatâd cynllunio ond nad ydynt edi'u cynnwys yn y rhestr uchod am eu bod yn llai (yn cynnwys llai na 50 o anheddau), neu am eu bod wedi'u lleoli y tu allan i'r Ardal Twf Strategol. Ceir rhestr lawn o'r safleoedd â chaniatâd cynllunio yn Atodiad 1.

6.65. Rhoddir ystyriaeth bellach i'r Safleoedd Allweddol o ran gofynion tai, cyfleusterau cymunedol, trafnidiaeth gynaliadwy a seilwaith ar gyfer pob un o'r safleoedd ym mholisïau safle-benodol SP4 KS1 i SP4 KS5 ac yn Atodiad 3.

6.66. Ar gyfer safleoedd presennol a chanddynt ganiatâd cynllunio o fewn yr Ardal Twf Strategol, disgwylir y cyflawnir dyraniadau'n unol â'u caniatadau cyfredol. Bydd yn ofynnol i ddyraniadau tai presennol y CDLl gydymffurfio â holl bolisïau perthnasol eraill y CDLl presennol hyd nes y caiff y CDLlN ei fabwysiadu. Ar ôl hynny, bydd yn ofynnol i safleoedd gydymffurfio â pholisïau'r CDLlN gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy, teithio llesol, creu lleoedd a dylunio a darparu seilwaith gwyrdd.

Dosbarthiad Gofodol Twf Tai

6.67. Mae'r tabl isod yn crynhoi dosbarthiad gofodol gwahanol gydrannau'r cyflenwad tir ar gyfer tai fel y bônt yn berthnasol i Hierarchaeth Aneddiadau'r CDLlN. Mae'r tabl yn nodi bod 785 o anheddau eisoes wedi'u hadeiladu ers dechrau cyfnod y cynllun ac y bydd y banc tir presennol ar gyfer tai yn cyfrannu at gyfran fawr o'r gofyniad tai a nodwyd. Mae dosbarthiad hap-safleoedd ar draws yr hierarchaeth aneddiadau a ddangosir yn y tabl yn cynrychioli tueddiadau hanesyddol, lle bo'r rhan fwyaf o ddatblygiadau ar hap-safleoedd yn deillio o safleoedd yn Y Barri a Chanolfannau Gwasanaeth y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, ac mae'r ddarpariaeth a ragamcennir yn adlewyrchu'r duedd hon. Ceir rhagor o fanylion am ddadansoddiad y Cyngor o dueddiadau hap-safleoedd ym Mhapur y CDLlN ar y Cyflenwad Tir ar gyfer Tai.

Tabl 3: Dosbarthiad Gofodol y Cyflenwad Tai Presennol (Ebrill 2023)

Cydrannau'r

Cyflenwad Tai

Hierarchaeth Aneddiadau

A

Cyfanswm

Anheddiad Allweddol

Y Barri

Aneddiadau Canolfan Wasanaeth

Prif Aneddiadau yn yr Ardal Twf Strategol

Mân Aneddiadau Gwledig a Phrif Aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol

Pentrefannau ac Aneddiadau Gwledig Llai

Hap-safleoedd Bach

85

33

23

22

5

2

(Hap-safleoedd) Mawr a Dyraniadau

700

268

102

303

27

0

B

Unedau'n cael eu Hadeiladu Ebrill 2023

513

261

99

145

8

0

C

*Unedau â Chaniatâd Cynllunio Heb eu Dechrau (Ebrill 2023)

1449

153

608

561

111

16

D

Safleoedd y CDLl a ddygwyd ymlaen

1710

135

938

637

0

0

E

Dyraniadau Tai Allweddol

2,450-2,750

900

0

1,550 – 1,850

0

0

F

Dyraniadau Tai Ychwanegol a Dyraniadau Seiliedig ar Dai Fforddiadwy

I'W GADARNHAU

I'W GADARNHAU

I'W GADARNHAU

I'W GADARNHAU

I'W GADARNHAU

I'W GADARNHAU

G

Hap-safleoedd mawr (10>)

888

359

272

126

64

67

H

Hap-safleoedd bach ( <10)

715

290

218

102

51

54

I

Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai

2,399

2,260

3,446-3,746

266

139

Cyfanswm y Ddarpariaeth

8,510 – 8,810

6.68. Mae dosbarthiad gofodol y cyflenwad tir ar gyfer tai yn Nhabl 4 yn dangos bod dosbarthiad gofodol tai newydd yn cael ei gyfeirio yn unol â'r strategaeth twf gofodol (SP1), yn benodol at yr aneddiadau yn y Fro sy'n cael eu gwasanaethu orau gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ac sy'n cynnig ystod dda o wasanaethau a chyfleusterau. Mae'r Barri, fel anheddiad allweddol, yn cynnwys cyfran sylweddol o ddatblygiadau newydd sy'n gymesur â'i statws yn yr hierarchaeth a'i nodweddion fel anheddiad cynaliadwy a wasanaethir yn dda gan drafnidiaeth gynaliadwy. Mae'r aneddiadau canolfan wasanaeth hefyd yn cynnwys cyfran briodol. Er bod y gyfran fwyaf o ddatblygiadau wedi'u nodi o fewn y prif aneddiadau o fewn yr ardal twf strategol, dylid nodi bod pum anheddiad yn y categori hwn - Sain Tathan, Y Rhws, Dinas Powys, Llandochau a Sili. Mae'r rhain yn aneddiadau ac ynddynt gyfleoedd cyflogaeth da wrthlaw, yn ogystal â bod ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da ac arfaethedig, gan alinio tai â chyflogaeth. Nodir mai ond cyfran fach o ddatblygiad sy'n debygol o ddigwydd y tu allan i'r ardal twf strategol, gyda pheth o'r datblygiad hwn yn gysylltiedig â cheisiadau cynllunio a ganiatáwyd yn uno â strategaeth fabwysiedig y CDLl.

6.69. Yn y tymor byr, bydd y ddarpariaeth tai'n fwy dibynnol ar gyflawni ymrwymiadau presennol ac ar ddyraniadau'r cynllun mabwysiedig a ddygir ymlaen i'r CDLlN. Fodd bynnag, wrth i gyfnod y cynllun fynd rhagddo, ceir cyfraniad mwy sylweddol o ddyraniadau newydd. Bydd taflwybr tai sy'n nodi'r unedau i'w darparu yn cael ei baratoi i gefnogi'r CDLl wedi'i Adneuo.

Manylion safleoedd allweddol

6.70. Yn dilyn y broses asesu safleoedd ymgeisiol a gynhaliwyd yn sail ar gyfer y Strategaeth a Ffafrir, y safleoedd a nodir fel Safleoedd Allweddol yw'r rhai yr ystyrir eu bod yn cyd-fynd orau ag egwyddorion y Strategaeth a Ffafrir am eu bod wedi'u lleoli'n agos at gysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy, gwasanaethau a chyfleusterau, ac yn safleoedd a ystyrir yn hyfyw ac yn gyflawnadwy, gan roi sylw i gyfyngiadau. Er bod cynlluniau dangosol wedi'u darparu ar gyfer pob safle, bydd gwaith asesu manwl pellach yn cael ei gynnal wrth baratoi am y Cynllun wedi'i Adneuo, gan gynnwys Uwchgynlluniau a rhestr fanwl o ofynion datblygu. Mae'n bosibl y bydd capasiti cyffredinol safleoedd a'r targed tai fforddiadwy yn newid yng ngoleuni'r broses uwchgynllunio a gwaith manwl ar hyfywedd.

SP4 KS1 GOGLEDD DDWYRAIN Y BARRI

Mae tir yng Ngogledd Ddwyrain y Barri wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl. Mae'n cynnwys datblygiad preswyl, cyfleusterau cymunedol gan gynnwys ysgol gynradd, defnyddiau masnachol, seilwaith gwyrdd a chyfleusterau hamdden, a llwybrau teithio llesol gwell. Bydd y safle'n gallu cynnwys hyd at 1,500 o anheddau, a byddai 900 o'r anheddau hynny'n cael eu darparu dros gyfnod y Cynllun.

Bydd yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu'r canlynol:

  • Isafswm o 30% o dai fforddiadwy, yn amodol ar ystyriaeth o hyfywedd.
  • Mesurau ar y safle ac oddi arno i ddarparu cysylltiadau cerdded a beicio deniadol, eglur, diogel, hygyrch ac o ansawdd da at wasanaethau, cyfleusterau a nodau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, gan gynnwys Gorsaf Tregatwg ac ar hyd yr A4231, Heol Gyswllt Dociau'r Barri
  • Darparu canol pentref sy'n cynnwys cymysgedd briodol o ddefnyddiau i'w pennu drwy'r broses uwchgynllunio.
  • Darparu cyfleusterau addysg ar-safle.
  • Gwella seilwaith, gan gynnwys uwchraddio priffyrdd, a mynediad i gerddwyr ac ar feic o Gilbert Lane ac Argae Lane.
  • Darparu a gwella seilwaith gwyrdd a mannau hamdden a chwaraeon priodol ynghyd â gwella bioamrywiaeth i sicrhau budd net bioamrywiaeth.
  • Rhwymedigaethau cynllunio eraill fel bo'r angen yn unol â Pholisi SP12 i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.

Cynllun eglurhaol cychwynnol y safle yng Ngogledd Ddwyrain y Barri. Mae'n dangos ardaloedd a gynigir ar gyfer seilwaith preswyl, cymysg a gwyrdd.

Ffigur 13: SP4 KS1 Tir yng Ngogledd-ddwyrain y Barri - cynllun eglurhaol cychwynnol

SP4 KS2 TIR I'R GOGLEDD O DDINAS POWYS, ODDI AR HEOL CAERDYDD

Mae tir i'r Gogledd o Ddinas Powys wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl cynhwysfawr sy'n cynnwys 250 o gartrefi dros gyfnod y Cynllun.

Bydd yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu'r canlynol:

  • Isafswm o 40% o dai fforddiadwy, yn amodol ar ystyriaeth o hyfywedd.
  • Mesurau ar y safle ac oddi arno i ddarparu cysylltiadau deniadol, eglur, diogel, hygyrch ac o ansawdd da ar feic ac ar droed at wasanaethau a chyfleusterau leol, a nodau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys Gorsaf Eastbrook.
  • Gwella seilwaith, gan gynnwys uwchraddio priffyrdd a mynediad ar droed ac ar feic i Heol Caerdydd.
  • Darparu a gwella seilwaith gwyrdd a mannau hamdden a chwaraeon priodol ynghyd â gwella bioamrywiaeth i sicrhau budd net bioamrywiaeth.
  • Rhwymedigaethau cynllunio eraill fel bo'r angen yn unol â Pholisi SP12 i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.

Cynllun Eglurhaol Cychwynnol Tir i’r Gogledd o Ddinas Powys Mae'n dangos ardaloedd a gynigir ar gyfer seilwaith preswyl a gwyrdd.

Ffigur 14: SP4 KS2 Tir i'r gogledd o Ddinas Powys, Oddi ar Heol Caerdydd, Dinas Powys - cynllun eglurhaol cychwynnol

SP4 KS3 READERS WAY, Y RHWS

Mae tir ar Readers Way, Y Rhws, wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl cynhwysfawr a fydd yn cynnwys 450 o gartrefi dros gyfnod y Cynllun. Bydd yn ofynnol i isafswm o 35% o'r holl gartrefi newydd fod yn fforddiadwy.

Bydd yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu'r canlynol:

  • Isafswm o 35% o dai fforddiadwy, yn amodol ar ystyriaeth o hyfywedd.
  • Mesurau ar y safle ac oddi arno i ddarparu cysylltiadau deniadol, eglur, diogel, hygyrch ac o ansawdd da ar feic ac ar droed at wasanaethau a chyfleusterau lleol, a nodau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys Gorsaf y Rhws.
  • Darparu cymysgedd briodol o ddefnyddiau i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.
  • Gwella seilwaith, gan gynnwys uwchraddio priffyrdd a mynediad ar droed ac ar feic i wasanaethu'r safle.
  • Darparu a gwella seilwaith gwyrdd a mannau hamdden a chwaraeon priodol ynghyd â gwella bioamrywiaeth i sicrhau budd net bioamrywiaeth.
  • Rhwymedigaethau cynllunio eraill fel bo'r angen yn unol â Pholisi SP12 i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.

Cynllun Eglurhaol Cychwynnol Tir yn Readers Way. Mae'n dangos ardaloedd a gynigir ar gyfer seilwaith preswyl, cymysg a gwyrdd.

Ffigur 15:SP4 KS3 Tir yn Readers Way, Y Rhws - cynllun eglurhaol cychwynnol

SP4 KS4 CHURCH FARM, SAIN TATHAN

Mae tir yn Church Farm, Sain Tathan wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rhwng 250 a 550 o gartrefi dros gyfnod y Cynllun. Bydd yn ofynnol i isafswm o 35% o'r holl gartrefi newydd fod yn fforddiadwy.

Bydd yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu'r canlynol:

  • Isafswm o 35% o dai fforddiadwy, yn amodol ar ystyriaeth o hyfywedd.
  • Mesurau ar y safle ac oddi arno i ddarparu cysylltiadau deniadol, eglur, diogel, hygyrch ac o ansawdd da ar feic ac ar droed at wasanaethau a chyfleusterau lleol, a nodau trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Darparu cymysgedd briodol o ddefnyddiau i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.
  • Gwella seilwaith, gan gynnwys uwchraddio priffyrdd a mynediad ar droed ac ar feic i wasanaethu'r safle.
  • Darparu a gwella seilwaith gwyrdd a mannau hamdden a chwaraeon priodol ynghyd â gwella bioamrywiaeth i sicrhau budd net bioamrywiaeth.
  • Rhwymedigaethau cynllunio eraill fel bo'r angen yn unol â Pholisi SP12 i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio. Gall hyn gynnwys cyfraniad at ddarparu gorsaf newydd yn Sain Tathan.

Cynllun eglurhaol cychwynnol Church Farm, Mae'n dangos ardaloedd a gynigir ar gyfer seilwaith preswyl a gwyrdd.
Ffigur 16: SP4 KS4 Tir yn Church Farm, Sain Tathan - cynllun eglurhaol cychwynnol

SP4 KS5 TIR I'R GORLLEWIN O SAIN TATHAN

Mae tir i'r gorllewin o Sain Tathan wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl cynhwysfawr sy'n cynnwys 600 o gartrefi dros gyfnod y Cynllun. Bydd yn ofynnol i isafswm o 35% o'r holl gartrefi newydd fod yn fforddiadwy.

Bydd yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu'r canlynol:

  • Isafswm o 35% o dai fforddiadwy, yn amodol ar ystyriaeth o hyfywedd.
  • Mesurau ar y safle ac oddi arno i ddarparu cysylltiadau deniadol, eglur, diogel, hygyrch ac o ansawdd da ar feic ac ar droed at wasanaethau a chyfleusterau lleol, a nodau trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Darparu cymysgedd briodol o ddefnyddiau i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio.
  • Gwella seilwaith, gan gynnwys uwchraddio priffyrdd a mynediad ar droed ac ar feic i wasanaethu'r safle.
  • Darparu a gwella seilwaith gwyrdd a mannau hamdden a chwaraeon priodol ynghyd â gwella bioamrywiaeth i sicrhau budd net bioamrywiaeth.
  • Rhwymedigaethau cynllunio eraill fel bo'r angen yn unol â Pholisi SP12 i'w pennu drwy'r broses Uwchgynllunio. Gall hyn gynnwys cyfraniad at ddarparu gorsaf newydd yn Sain Tathan.

Cynllun Eglurhaol Cychwynnol Tir i’r Gorllewin o Sain Tathan Mae'n dangos ardaloedd a gynigir ar gyfer seilwaith preswyl, cymysg a gorsaf newydd bosibl a seilwaith gwyrdd.
Ffigur 17: SP4 KS5 Tir i'r gorllewin o Sain Tathan - cynllun eglurhaol cychwynnol

CWESTIWN 8: SAFLEOEDD ALLWEDDOL

Bydd y pum prif safle dan arweiniad preswyl a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir yn helpu i fodloni'r gofyniad tai dros gyfnod y Cynllun. A ydych yn cytuno â'r pum prif safle a nodwyd? (Nodwch pa safle allweddol y mae eich sylwadau'n ymwneud ag ef).

LLEOEDD ACTIF A CHYMDEITHASOL

CREU LLEOEDD

6.71. Mae creu lleoedd yn un o gonglfeini'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru, a'r amcanion datblygu cynaliadwy sy'n sail iddo. Mae'n ddull amlochrog o gynllunio, dylunio a rheoli datblygiadau a mannau newydd, yn ogystal â diogelu a gwella asedau presennol. Yn sylfaenol, mae'n golygu ymateb i gyd-destun lle, drwy ddeall ei esblygiad, ei swyddogaeth a'i effeithiau.

SP5: Creu Lleoedd

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu arddangos yr Egwyddorion Creu Lleoedd canlynol, a fydd yn ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, gan arwain at fuddion gwell i'r ardal leol drwy:
A. Sicrhau dyluniad cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu nodweddion unigryw lleol, cymeriad a hunaniaeth ddiwylliannol;
B. Blaenoriaethu penderfynyddion iechyd a llesiant yn ystod y broses ddylunio;
C. Creu cymysgedd amrywiol o ddefnyddiau a gofodau aml-swyddogaeth;
D. Cyfrannu at dir cyhoeddus bywiog, diogel a chynhwysol sy'n annog teithio llesol ac yn lleihau dibyniaeth ar geir;
E. Integreiddio rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a mannau agored yn strategol i ddatblygiadau, gan sicrhau buddion cymdeithasol ac amgylcheddol;
F. Darparu amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaeth;
G. Lleoli datblygiad yn briodol lle bo cartrefi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn hygyrch ac wedi'u cysylltu'n dda.
H. Datblygu dwyseddau uchel lle bo'n briodol, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir a chefnogi defnyddiau cymysg;
I. Gwarchod a gwella'r Amgylchedd Hanesyddol.

Bydd Datganiadau Creu Lleoedd yn ofynnol ar gyfer pob datblygiad mawr sy'n nodi sut mae'r cynnig yn cydymffurfio ag Egwyddorion Creu Lleoedd.

6.72. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i Siarter Creu Lleoedd Cymru ac yn cydnabod bod Creu Lleoedd yn hanfodol i gyflawni Gweledigaeth y CDLlN. Pwrpas Polisi SP5 yw sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyflawni Creu Lleoedd drwy gymhwyso'r Egwyddorion Creu Lleoedd.

6.73. Diffinnir Creu Lleoedd gan Gomisiwn Dylunio Cymru (CDC) yn y Canllaw Creu Lleoedd (2020) fel "sicrhau bod pob datblygiad neu ymyriad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau y gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu ynddynt". Er mwyn asesu cynigion ar gyfer datblygiadau newydd mae angen mabwysiadu dull cyfannol sy'n ystyried lleoedd yn eu cyfanrwydd yn hytrach na defnyddiau tir unigol neu bob datblygiad yn unigol. Mae creu lleoedd yn ymwneud â'r amgylchedd adeiledig a naturiol ac yn cynnwys ystyriaethau ar lefel uchel, gan gynnwys y newid hinsawdd, hyd at ystyriaethau ar lefel leol fel yr effaith ar gymeriad a hunaniaeth ddiwylliannol leol, gan gynnwys yr effaith ar y Gymraeg.

Diagram yn dangos egwyddorion Creu Lleoedd pobl a'r gymuned; tir cyhoeddus; symud; cymysgedd o ddefnyddiau; lleoliad a hunaniaeth.

Ffigur 18: Egwyddorion Creu Lleoedd
Ffynhonnell: Comisiwn Dylunio Cymru

6.74. Bydd gweithredu'r Egwyddorion Creu Lleoedd yn sicrhau cymaint â phosib o lesiant drwy ddatblygiad cynaliadwy sy'n hyrwyddo ffyrdd iach ac egnïol o fyw. Rhaid hefyd ystyried penderfynyddion iechyd a llesiant, fel y'u nodir o dan bolisi SP12 Iechyd a Llesiant, hefyd yn flaenoriaeth o'r cyfnod dylunio cynnar, a dangos hynny'n glir mewn cynigion datblygu. Bydd safonau dylunio uchel yn creu mannau deniadol â hunaniaeth leol unigryw a thir cyhoeddus bywiog sy'n hygyrch i bawb, wedi'u ffocysu o amgylch canolfannau datblygiad defnydd cymysg sy'n gysylltiedig ac wedi'u gwasanaethu'n dda gan ddarpariaeth teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

6.75. Mae gan y Fro gyfoeth o gymeriad, treftadaeth a harddwch naturiol lleol y mae'n rhaid i ddatblygiadau newydd ei barchu a'i wella. Mae'n rhaid i gynigion datblygu arddangos dyluniadau ystyriol, sy'n gynaliadwy, yn effeithio cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd ac sy'n ymateb yn weledol i'r hyn sydd o'u hamgylch. Yn ogystal â bod yn fywiog a deniadol, rhaid i'r tir cyhoeddus fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Dylai cynigion i wella tir cyhoeddus ystyried mesurau i helpu pobl â nam corfforol neu nam ar y synhwyrau.

6.76. Dylai datblygiadau newydd yn y Fro gyfrannu at leoedd ag amrywiaeth o ddefnyddiau, gwasanaethau a chyfleusterau, lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau. Rhaid i ddatblygiadau tai gynnig amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaeth i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion, a bod mewn lleoliadau cynaliadwy lle ceir mynediad i amrywiaeth o ddefnyddiau. Bydd cymysgedd o ddefnyddiau yn helpu i greu lleoedd sy'n ddeniadol ac yn gynaliadwy; yn cynnig cyfleoedd i bobl, busnes a'r amgylchedd ryngweithio â'i gilydd mewn modd cadarnhaol, ac yn lleihau'r angen i deithio. Bydd datblygu ar ddwysedd uchel yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r tir, yn gwneud y gorau o'r potensial i ddatblygu, yn gwella cysylltedd ac yn annog dulliau teithio llesol.

6.77. Mae mannau aml-swyddogaeth yn cynnwys mannau agored cyhoeddus, strydoedd neu adeiladau defnydd cymysg sy'n cynnig mannau diogel a chroesawgar i bobl ryngweithio, cymdeithasu, gweithio, ymarfer corff neu ymlacio. Dylid integreiddio Seilwaith Gwyrdd i fannau cyhoeddus er mwyn gwella ansawdd gweledol, ychwanegu gwerth amwynder, annog gweithgarwch corfforol a rhyngweithio â natur yn ogystal â systemau draenio cynaliadwy a buddion ecolegol.

6.78. Bydd datblygiad yn cael ei ffafrio lle dangoswyd bod y gymuned wedi'i chynnwys mewn modd ystyrlon. Mae ymgysylltu â phobl, gan roi cyfle iddynt gyfrannu at gynigion datblygu, yn werthfawr er mwyn creu lleoedd, gan ei fod yn creu ymdeimlad o berchnogaeth ac o berthyn ymhlith cymunedau.

6.79. Mae'n rhaid cael Datganiad Creu Lleoedd i gyd-fynd â chynigion datblygu graddfa fawr i ddangos yn glir sut y bydd cynnig am ddatblygiad newydd yn bodloni gofynion creu lleoedd. Bydd Datganiadau Creu Lleoedd yn egluro'r agweddau ar y datblygiad a'r mesurau a gymerwyd i sicrhau bod y cynnig yn gyson â'r Egwyddorion Creu Lleoedd. Dylid cynnwys tystiolaeth i ddangos sut mae pob Egwyddor Creu Lle wedi'i bodloni.

IECHYD A LLESIANT

6.80. Mae iechyd a llesiant ei cymunedau'n dyngedfennol bwysig er mwyn creu lleoedd a datblygiadau hirdymor a chynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Yr hyn sy'n allweddol i'r Cynllun yw sicrhau mynediad at wasanaethau a chyfleusterau o ansawdd da, a bod pobl o bob oed a chefndir yn derbyn y mynediad sydd ei angen arnynt i fyw bywydau llawn, cynhyrchiol a ffyniannus.

6.81. Mae angen ystyried cynllunio ac iechyd gyda'i gilydd mewn dwy ffordd: o ran creu amgylcheddau sy'n cefnogi ac yn annog ffyrdd iach o fyw, ac o ran nodi a sicrhau'r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, a'r system iechyd a gofal ehangach.

SP6 – CREU LLEOEDD A MANNAU IACH A CHYNHWYSOL

Bydd pob datblygiad yn ceisio creu lleoedd iach a chynhwysol sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd ac yn gwella cydlyniant cymdeithasol. Cyflawnir hyn drwy:

A. Sicrhau bod cynigion datblygu yn cael eu dylunio mewn modd sy'n hyrwyddo amgylcheddau iach er mwyn mynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd mewn modd cadarnhaol, yn enwedig mewn ymateb i anghenion iechyd lleol.
B. Sicrhau bod pob lle a datblygiad mor gynhwysol â phosibl, yn gallu ymaddasu i fodloni ystod eang o anghenion cyfnewidiol, ac yn darparu ansawdd bywyd da, lle na chaiff neb ei eithrio.
C. Galluogi cyfleoedd i gael mynediad at ddewisiadau bwyd iach
D. Cefnogi darparu cyfleusterau cymunedol a gofal iechyd newydd a gwell.
E. Diogelu iechyd a llesiant presennol y cyhoedd.

Bydd angen Asesiadau Effaith Iechyd ar gyfer Datblygiadau Mawr er mwyn rhoi ystyriaeth lawn i'w goblygiadau o ran iechyd.

6.82. Mae Polisi SP6 yn ceisio sicrhau bod cynigion datblygu yn hybu iechyd a llesiant. Er bod llawer o gymhlethdodau'n gysylltiedig â hyrwyddo iechyd a llesiant sydd y tu hwnt i gwmpas y system gynllunio, cydnabyddir bod ansawdd amgylchedd ein cynefin, a'r gweithgareddau sy'n digwydd o fewn y mannau hynny, yn cael cryn effaith arnynt. Ym mhenderfynyddion ehangach iechyd (Ffigur 19), gwelir y berthynas a'r ymadwaith rhwng yr amgylchedd adeiledig a llesiant corfforol a meddyliol.

Dau ddiagram yn dangos penderfynyddion ehangach iechyd

Ffigur 19: The Wider Determinants of Health.
Ffynhonnell: Dahlgren and Whitehead (1991) R: Barton and Grant (2006)

6.83. Er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymateb yn briodol i anghenion iechyd a llesiant, ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, dilynir ymagwedd iechyd ym mhob polisi. Drwy hynny, ystyrir y goblygiadau iechyd yn gysylltiedig â phob polisi newydd drwy geisio osgoi canlyniadau iechyd negyddol a gwella'r canlyniadau hynny lle bo modd. Mae hyn yn ymwreiddio iechyd a llesiant fel mater polisi allweddol drwy'r holl bolisïau perthnasol o fewn y cynllun, ac wedi'i danategu gan Bolisi SP6.

6.84. Mannau a Gofodau Iach yw'r rhai sy'n ymgorffori safon uchel o ran dyluniad sy'n ymateb i anghenion iechyd a llesiant pob defnyddiwr a'r egwyddorion creu lleoedd; yn hwyluso lefelau uchel o hygyrchedd amlfoddol ar gyfer pob taith i wasanaethau a chyfleusterau angenrheidiol; darparu seilwaith teithio llesol a mannau agored o ansawdd, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon; darparu seilwaith a mannau gwyrdd i gymdeithasu, gan gynnwys mannau i dyfu bwyd; a llety mewn tai priodol o ansawdd uchel. Bydd sicrhau'r rhain yn gwarantu y rhoddir sylw cadarnhaol i benderfynyddion iechyd yr effeithir arnynt gan agweddau cynllunio.

6.85. Lleoedd cynhwysol yw'r rhai sy'n cynnig mynediad a chyfle cyfartal, gan alluog pawb i gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas ac i bobl aros yn eu cartrefi a'u cymunedau wrth i'w hanghenion newid. Gall addasiadau cymharol fach gael cryn effaith ar allu pobl i fwynhau eu hardal leol, fel cynnwys goleuadau priodol i leihau'r ofn rhag trosedd, darparu mannau i bobl orffwyso a chymdeithasu. Drwy ddylunio'n ofalus gellir sicrhau bod lleoedd y groesawgar i bob cenhedlaeth, gan gael gwared â rhwystrau sy'n atal pobl rhag bodloni eu hanghenion neu fwynhau bywydau heini. Yn hyn o beth, ceir elfennau sylweddol sy'n gorgyffwrdd rhwng iechyd a llesiant a chreu lleoedd, fel y nodir ym Mholisi SP5.

6.86. Cysylltir argaeledd bwyd iach, fforddiadwy lleol ag agweddau gwell at fwyta'n iach ac ymddygiad iachach wrth brynu bwyd, yn ogystal â newid ymddygiad yn gysylltiedig â diet, fel bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau.Mae darparu ardaloedd i dyfu bwyd o fewn datblygiadau newydd yn cynnig cyfle i unigolion a chymunedau gael mynediad at ffrwythau a llysiau ffres, gan gyfrannu at ffyrdd iach o fyw ac annog gweithgarwch corfforol.

Yn ogystal â hynny, gall garddio a thyfu bwyd hefyd gyfrannu at lesiant meddyliol ac at gynhwysiant cymdeithasol, a darparu buddion economaidd, amgylcheddol ac addysgiadol. Yn dibynnu ar y cynnig, gallai cynnwys ardaloedd i dyfu bwyd gyfrannu at y gofyniad i ddarparu mannau agored ar y safle. Darparu rhandiroedd yw'r ffordd fwyaf cyffredin o ddarparu cyfleoedd anffurfiol i gynhyrchu bwyd yn lleol. Fodd bynnag os yw'r cyfleoedd yn brin i ddarparu mannau tyfu bwyd dynodedig yn yr awyr agored, dylid chwilio am atebion creadigol. Gallai mesurau o'r fath gynnwys plannu coed ffrwythau, darparu cynwysyddion a gwelyau uchel o fewn cynlluniau tirlunio, creu mannau tyfu mewn gerddi cymunedol, iardiau mewnol a gerddi to, neu drwy ddefnyddio mannau atodol. Mewn datblygiadau mwy gallai hyn hefyd gynnwys ardaloedd o dir sy'n anaddas i adeiladu arnynt.

6.87. Ceir anghydraddoldebau iechyd ar draws Bro Morgannwg, rhwng gwahanol ardaloedd a hefyd rhwng gwahanol grwpiau o'r boblogaeth. Drwy gydymffurfio â Pholisi SP6 sicrheir y bydd yr anghydraddoldebau iechyd hyn yn derbyn sylw lle bo modd. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru[6], a chyhoeddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymhlith y setiau data sy'n nodi anghydraddoldebau. Dylid defnyddio'r rhain yn sail ar gyfer Asesiadau Effaith Iechyd (AEIau)

6.88. Bydd AEIau yn ystyried sut y bydd datblygiad yn effeithi ar y boblogaeth, gan asesu'r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar iechyd. Ystyriaeth allweddol ynddynt yw sicrhau na fydd datblygiadau arfaethedig yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd. Dylai pob datblygiad sy'n is na'r trothwy ar gyfer cynnal AEI fod wedi'i ddylunio i gael cymaint o effaith ag sy'n bosibl er mwyn hyrwyddo cymunedau iach a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Bryd hynny, lle nodir anghydraddoldebau, dylid esbonio sut y bydd datblygiad arfaethedig yn cyflawni hyn mewn datganiad cynllunio.

6.89. Bydd AEIau yn ofynnol wrth asesu datblygiadau mawr (10 neu fwy o anheddau ac ati) er mwyn ystyried eu goblygiadau o ran iechyd. Mae'r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru wedi llunio Canllawiau ar gwblhau AEIau[7]. Bydd canllawiau pellach ar y gofynion ar gyfer AEIau wedi'u cynnwys mewn Canllawiau Cynllunio Atodol.

6.90. Ffactor pwysig sy'n cyfrannu at ddiet gwael ac iechyd gwael yw dosbarthiad a mynediad at Ddefnyddiau Bwyd a Diod, fel siopau cludfwyd poeth, caffis a bwytai gyda gwasanaeth cludfwyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn ardaloedd o amddifadedd. Mewn rhai lleoliadau, ceir problem lle bydd defnyddiau o'r fath mewn clwstwr gyda'i gilydd, gan ei gwneud hi'n haws cael mynediad at fwydydd nad ydynt yn iach. Rhoddir ystyriaeth felly i reoli amlder defnyddiau o'r fath, ac felly'r mynediad atynt, yng nghanolfannau manwerthu presennol y Fro.

6.91. Rôl arall y CDLlN fydd cefnogi darparu cyfleusterau gofal iechyd, ac er nad yw Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cyfleusterau gofal iechyd yn uniongyrchol, mae gan y Cyngor rôl alluogi allweddol. Drwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gellir cael dealltwriaeth o gapasiti gwasanaethau, newid mewn darpariaeth gwasanaeth a'r angen am gyfleusterau ychwanegol. Gall y CDLlN hyrwyddo hynny a chanfod cyfleoedd am ddarpariaeth newydd a gwell.

6.92. Mewn ymgynghoriad â darparwyr gofal iechyd lleol sy'n darparu cyfleusterau seilwaith iechyd yn y Fro, dylai datblygwyr datblygiadau tai mawr (neu lle ceir effeithiau cronnus yn sgil nifer o ddatblygiadau llai), ystyried a oes angen darparu cyfleusterau gofal iechyd priodol. Dylid ystyried yr angen am gyfleusterau gofal iechyd, neu seilwaith arall sy'n hybu iechyd fel lonydd beicio ar wahân neu gyfleusterau hamdden, yn unol â gofynion datblygiadau newydd. Mae hyn yn arbennig o angenrheidiol ar gyfer safleoedd mawr a allai gael eu cyflwyno fesul cam, lle gallai'r gofynion sy'n cael eu creu gan ddatblygiad newid.

6.93. Mae'n hanfodol hefyd fod cynigion datblygu'n diogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, gan gynnwys y risgiau posibl sy'n deillio o'r newid hinsawdd. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i gynigion datblygu ddangos na fyddant yn achosi effaith annerbyniol ar bobl nac amwynder preswyl, gan gynnwys mathau amrywiol o lygredd.

TRAFNIDIAETH GYNALIADWY

6.94. Mae Bro Morgannwg yn elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth da ar reilffordd a'r ffordd sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i rwydwaith strategol. Fodd bynnag, ceir tagfeydd ar y rhwydwaith yn ystod oriau brig sy'n achosi oedi. Mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith cerdded a beicio i annog pobl i deithio drwy ddulliau llesol (cerdded a beiciau) yn arbennig ar deithiau byrrach oddi mewn i drefi a phentrefi'r Fro a rhyngddynt.

6.95. Rhan allweddol o'n strategaeth yw lleoli datblygiad mewn ardaloedd sy'n gynaliadwy, neu y gellir eu gwneud yn gynaliadwy, drwy annog cymysgedd o ddefnyddiau o fewn datblygiad, gan gyfyngu ar yr angen i deithio, lle bynnag y bo modd, a chynnig dewis gwirioneddol a rhoi'r flaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth teithwyr. Drwy leihau'r ddibyniaeth ar y defnydd o geir preifat, bydd patrymau defnydd tir o'r fath hefyd o gymorth i liniaru bygythiad y Newid Hinsawdd sy'n cynyddu o hyd, drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

SP7: TRAFNIDIAETH GYNALIADWY

To help address the RLDP Vision and Objectives, the Plan encourages a modal shift towards sustainable forms of transport and increasing active travel opportunities. New development must support an enhanced transport network that increases the proportion of journeys being undertaken by sustainable travel modes.

Cyflawnir hyn drwy:

  1.  
    1. Leoli datblygiadau newydd yn briodol mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, lle bo ystod o wasanaethau a chyfleusterau o fewn pellter cerdded a beicio.
    2. Sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu hymgorffori mewn Llwybrau Teithio Llesol sy'n cynnig profiad teithio diogel, cynhwysol a dymunol, yn cyfrannu at waith i'w hehangu ac yn gwella cysylltedd oddi mewn i drefi, pentrefi ac aneddiadau gwledig oddi amgylch, a rhyngddynt.
    3. Sicrhau bod datblygiadau newydd wedi'u dylunio i annog pobl i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel opsiynau eraill yn lle defnyddio car preifat.
    4. Mabwysiadu lefelau priodol o ddarpariaeth i barcio ceir a beiciau, gan adlewyrchu amcanion y cynllun i leihau teithiau mewn ceir yn unol â safonau parcio mabwysiedig y Cyngor.
    5. Gwella hygyrchedd a chysylltedd â chyfleusterau trafnidiaeth gynaliadwy.
    6. Darparu gwasanaethau trafnidiaeth a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus newydd neu well, lle bo'n briodol.
    7. Cefnogi a hyrwyddo darpariaeth Metro De Cymru.
    8. Diogelu hen reilffyrdd i'w defnyddio ar gyfer llwybrau Teithio Llesol presennol a phosibl.
    9. Darparu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer ULEVs mewn lleoliadau priodol.
       
  2. Fel y bo'n briodol, bydd yn ofynnol i gynigion datblygu newydd ddarparu Datganiadau Trafnidiaeth, Asesiadau Trafnidiaeth a Chynlluniau Teithio i sicrhau y darperir dewisiadau teithio a chyfleoedd teithio cynaliadwy.
     
  3. Disgwylir i ddatblygiadau newydd y rhagwelir y byddant yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyfrannu at gapasiti a mesurau lliniaru. Bydd yn ofynnol i gynigion y mae angen seilwaith trafnidiaeth newydd ar eu cyfer wneud cyfraniad ariannol yn gymesur â hynny.

6.96. Yng ngoleuni'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11) a'r targed sydd wedi'i gynnwys yn Llwybr Newydd, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 newydd i gwblhau 45% o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, drwy gerdded neu ar feic erbyn 2040, mae'n hanfodol i'r CDLlN gynnwys polisi strategol uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â dewisiadau teithio cynaliadwy ym Mro Morgannwg.

6.97. Mae Polisi SP7 yn nodi ymagwedd y cynllun i annog defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy, gan nodi y bydd yn ofynnol i bob cynnig datblygu newydd gyfrannu at greu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy, diogel ac integredig sydd wedi'i gysylltu'n dda. Dylid bodloni hyn o fewn a thu allan i'r ardal ddatblygu a dylai cynigion ddangos y bydd y ddarpariaeth o ran trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â chynigion datblygu yn briodol, o ran y dewis o ddulliau teithio a chapasiti'r rhwydwaith priffyrdd i gynnwys teithiau ychwanegol ar gyfer pob dull teithio.

6.98. Dylai teithio llesol fod yn ddewis cyntaf naturiol ar gyfer teithiau bob dydd, felly dylai pob datblygiad newydd roi'r flaenoriaeth i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y camau cynharaf, gan gynnwys esbonio sut mae'r cynnig yn creu cysylltiadau ag ardaloedd presennol, a pha gyfleoedd sydd ar gael i wella cysylltiadau teithio llesol. Dylai datblygwyr allu dangos y bydd y ddarpariaeth o ran trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â chynigion datblygu yn briodol, o ran y dewis o ddulliau teithio a chapasiti'r rhwydwaith priffyrdd i gynnwys teithiau ychwanegol ar gyfer pob dull teithio.

6.99. Mae hi hefyd yn bwysig i ddatblygiadau barchu graddfa a chymeriad presennol yr ardal. Ni ddylai gofynion cerbydau preifat y datblygiad gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd ehangach nac ar amwynder preswylwyr, ee drwy gynhyrchu lefelau annerbyniol o deithiau neu achosi i gerbydau gael eu parcio mewn mannau amhriodol. Dylai datblygwyr allu dangos y bydd y ddarpariaeth o ran trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â chynigion datblygu yn briodol, o ran y dewis o ddulliau teithio a chapasiti'r rhwydwaith priffyrdd i gynnwys teithiau ychwanegol ar gyfer pob dull teithio. Os yw datblygiadau newydd yn debygol o gael effaith andwyol ar y rhwydwaith trafnidiaeth oddi amgylch, bydd yn ofynnol iddynt gyfrannu at fesurau lliniarol a mesurau i wella capasiti.

6.100. Bydd yn rhaid cyflwyno Datganiadau Trafnidiaeth, Asesiadau Trafnidiaeth a Chynlluniau Teithio, fel bo'n briodol, i gefnogi datblygiadau newydd sy'n debygol o effeithio ar drafnidiaeth yn sylweddol, er mwyn sicrhau bod cyfleoedd teithio cynaliadwy yn cael eu cynnig yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae Asesiad Trafnidiaeth yn esbonio'n fanwl sut mae datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio ar drafnidiaeth, ac fe'i cyflwynir i gefnogi cais cynllunio; asesiad lefel is ar gyfer datblygiadau llai yw Datganiad Trafnidiaeth. Strategaethau rheoli hirdymor yw Cynlluniau Teithio, a'u pwrpas yw ymgorffori cynigion teithio cynaliadwy yn y broses gynllunio. Bydd angen eu cyflwyno'n aml pan fo'n ofynnol cyflwyno Asesiad Trafnidiaeth llawn i gefnogi cynnig. Sicrheir bod y Cynllun Teithio yn cael ei weithredu yn rhan o ganiatâd cynllunio.

6.101. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu safonau parcio gofynnol o fewn datblygiadau preswyl er mwyn goresgyn problemau'n gysylltiedig â lefel isel o ddarpariaeth parcio. Wrth bennu'r lefelau parcio cywir, bydd y Cyngor yn ystyried y galw a ragwelir yn sgil y math o dai a gynigir, y meddianwyr tebygol, dyluniad tir y cyhoedd a'r briffordd, datrysiadau dylunio a gynigir ar gyfer parcio ac unrhyw gyfyngiadau lleol.

TAI FFORDDIADWY AC ARBENIGOL

6.102. Mae darparu tai fforddiadwy yn amcan allweddol yn Strategaeth y CDLl, ac mae cryfder cymharol marchnad dai Bro Morgannwg dros y 10 mlynedd diwethaf wedi achosi i lawer o bobl leol ei chael hi'n anodd prynu tŷ addas ar y farchnad agored.

6.103. Mae'r Asesiad diweddaraf o'r Farchnad Dai Leol (2021), a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022, yn nodi bod angen 1,205 o gartrefi fforddiadwy newydd y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 2021-2026. Mae hyn yn cynnwys:

  • 915 o unedau llety rhent cymdeithasol
  • 211 o unedau o dai rhent canolradd
  • 79 o unedau perchentyaeth cost isel

6.104. Mae'r ôl-groniad presennol o angen ymhlith pobl ar y rhestr aros tai yn fwyaf difrifol yn y Barri ac ym Mhenarth/Llandochau, er bod nifer sylweddol ar y rhestr aros yn hol ardaloedd y Fro. Unedau bach un a dwy ystafell wely i'w rhentu'n gymdeithasol ar draws sawl rhan o Fro Morgannwg sydd i gyfrif am y mwyaf o angen am dai fforddiadwy, sy'n adlewyrchu tueddiadau cymdeithas o ran cyfansoddiad aelwydydd a mynychder aelwydydd un person ac aelwydydd sy'n cynnwys cyplau heb blant.

6.105. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd methodoleg newydd ar gyfer paratoi AFDLau gan Lywodraeth Cymru gyda'r gofyniad bod rhaid i CDLlau newydd bellach fod yn seiliedig ar allbynnau AFDLau wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r fethodoleg newydd. Mae gwaith wedi datblygu ar baratoi AFDL wedi'i ddiweddaru gan ddefnyddio'r fethodoleg newydd hon. Fodd bynnag, cyhoeddwyd fersiwn newydd o'r offeryn AFDL a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2023, a ddiweddarodd y data diofyn ac a oedd yn cynnwys wardiau etholiadol newydd Mai 2022. Oherwydd yr amserlenni ar gyfer paratoi'r Strategaeth a Ffefrir, nid oedd yn bosibl cwblhau adroddiad AFDL newydd gan ddefnyddio'r offeryn newydd fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth i lywio'r Strategaeth a Ffefrir. Fodd bynnag, mae adolygiad cychwynnol o allbynnau lefel uchel yr AFDL drafft yn dangos bod lefel yr angen am dai fforddiadwy yn parhau'n uchel. Y bwriad yw cynnwys yr AFDL terfynol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun ar Adnau unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi ei gymeradwyo.

6.106. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r angen a nodwyd, mae'r Cyngor yn rhagweld y bydd y cyflenwad tir presennol a nodwyd yn SP3 ynghyd â dyraniadau newydd yn darparu o leiaf 2,000 o anheddau fforddiadwy drwy'r system gynllunio dros gyfnod y cynllun. Bydd y targed tai fforddiadwy cyffredinol yn dibynnu ar hyfywedd targedau ardal-benodol a dosbarthiad gofodol safleoedd newydd a hap-safleoedd. Bydd felly'n cael ei adolygu ar gyfer y CDLl wedi'i Adneuo i roi ystyriaeth i safleoedd tai ychwanegol sydd i'w dynodi, ac i adlewyrchu tystiolaeth gyfredol ynghylch hyfywedd. Mae manylion y cyfraniadau tai fforddiadwy o'r banc tir tai presennol a'r rhai sy'n deillio o'r hap-safleoedd a ragwelir wedi'u nodi ym Mhapur Cefndir y Cyngor ar y Cyflenwad o Dir ar gyfer Tai.

SP8: TAI FFORDDIADWY AC ARBENIGOL

Disgwylir i'r gofyn preswyl a nodwyd ym Mholisi SP3 gyfrannu at anghenion tai cymunedol sefydledig Bro Morgannwg trwy ddarparu o leiaf 2,000 o unedau preswyl fforddiadwy dros gyfnod y cynllun.

Wrth gyrraedd y targed hwn, bydd y cynllun yn sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn darparu ar gyfer cymysgedd o ddeiliadaethau, mathau a meintiau tai, gan gynnwys llety arbenigol i fodloni anghenion preswylwyr ag anghenion gofal a phoblogaeth sy'n heneiddio, yn unol ag Asesiad Marcio Tai Lleol a Strategaeth Tai Pobl Hŷn diweddaraf y Cyngor.

6.107. Mae Strategaeth Tai Pobl Hŷn y Cyngor, Creu Cartrefi a Chymdogaethau ar gyfer Bywyd Diweddarach 2022-36, yn nodi gweledigaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg, sef: 'sicrhau'r ansawdd bywyd gorau i bobl hŷn fyw mor annibynnol â phosibl yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae hyn yn golygu darparu ystod o lety sy'n galluogi i bobl hŷn fyw bywydau boddhaus a mwynhau iechyd da mewn cartrefi deniadol sy'n diwallu eu hanghenion ac yn caniatáu iddynt gadw eu hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio".

6.108. Mae'r strategaeth yn rhagweld erbyn 2037 y bydd angen tua 1,357 o dai arbenigol a ddynodir yn ôl oed, tai ymddeol (ar gyfer rhent cymdeithasol ac i'w gwerthu) a thai â gofal (tai gofal ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol ac i'w gwerthu). Tynnu sylw at bwysigrwydd y Cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r afael ag anghenion tai yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â phoblogaeth sy'n heneiddio drwy ddarparu atebion tai priodol sy'n deillio o boblogaeth hŷn sy'n tyfu. Er mwyn mynd i'r afael â'r angen hwn a ragwelir, mae'r strategaeth yn nodi ystod o fecanweithiau ar gyfer darparu gan gynnwys y CDLl y gwelir bod ganddo rôl allweddol wrth annog darparwyr tai preifat a chymdeithasol i ddatblygu ystod o dai prif ffrwd sy'n addas ac yn ddeniadol i bobl hŷn.

6.109. Am y rhesymau hyn, mae Polisïau Tai Strategol SP3 ac SP4 yn darparu ar gyfer datblygiadau tai newydd i gynnwys tai arbenigol megis tai pobl hŷn fel rhan o'r gymysgedd gyffredinol â datblygiadau preswyl, gan gynnwys lle ceisir tai fforddiadwy trwy gyfraniadau cynllunio.

6.110. Mae tai i bobl hŷn yn cwmpasu sbectrwm o anghenion, o dai gwarchod (lle mae preswylwyr yn byw bywydau annibynnol yn bennaf wrth rannu rhai cyfleusterau cymunedol) i dai gofal ychwanegol a chartrefi gofal, lle darperir lefel o ofal iechyd personol fel arfer. Yn ogystal â llety sy'n gysylltiedig yn bennaf ag anghenion pobl hŷn, mae mathau eraill o lety wedi'i addasu sy'n darparu ar gyfer anghenion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd. Byddai'r rhain hefyd yn dod o fewn darpariaethau'r polisi hwn.

6.111. Bydd rhagor o fanylion am y mecanweithiau ar gyfer darparu tai arbenigol yn cael eu nodi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy y Cyngor.

SP9: SIPSIWN A THEITHWYR

Bydd tir ar gael i ddarparu llety Sipsiwn a Theithwyr sydd heb eu diwallu a nodwyd yn yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddaraf ar gyfer darparu 11 o leiniau preswyl erbyn 2036.

6.112. Mae'r Ddeddf Tai yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ystyried anghenion llety'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr drwy baratoi Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA). Cwblhawyd y GTAA diweddaraf ym mis Mehefin 2022 ac mae wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Mae'r GTAA wedi nodi bod angen 9 llain preswyl yn y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2026 a 2 lain arall yng ngweddill cyfnod cynllun y CDLl Newydd, gan roi cyfanswm angen o 11 o leiniau tan ddiwedd cyfnod y Cynllun.

6.113. Ar hyn o bryd ceir ceisiadau cynllunio ôl-weithredol mewn perthynas â phedair llain ar draws dau safle, sy'n rhan o'r angen sydd heb ei ddiwallu. Os cymeradwyir y ceisiadau hyn, bydd y ffigur angen heb ei ddiwallu yn cael ei leihau. Efallai y bydd lle hefyd i gynnwys lleiniau ychwanegol yn un o'r safleoedd sydd heb eu hawdurdodi ar hyn o bryd (i ddiwallu'r angen llain ychwanegol wrth i blant y preswylwyr ddod yn oedolion). Byddai hyn yn gwrthbwyso'r angen ymhellach.

6.114. Bydd tir yn cael ei nodi i ddarparu ar gyfer unrhyw lety Sipsiwn a Theithwyr sydd heb ei ddiwallu yn y Cynllun wedi'i Adneuo. Bydd y Cynllun wedi'i Adneuo hefyd yn cynnwys polisi sy'n seiliedig ar feini prawf i asesu ceisiadau am alw newydd neu annisgwyl am lety Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys estyniadau i safleoedd presennol.

6.115. Mae'r GTAA hefyd yn ystyried darpariaeth tramwy, gan gydnabod bod angen mwy o ddarpariaeth tramwy yng Nghymru, ond adnabuwyd nad oedd angen darparu safle tramwy yn y Fro ar sail tystiolaeth gyfredol. Ystyrir bod darpariaeth dramwy yn fater rhanbarthol ac felly mae'n cael ei ystyried yn rhanbarthol drwy Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.

CANOLFANNAU MANWERTHU, MASNACHOL A GWASANAETH

SP10: CANOLFANNAU MANWERTHU, MASNACHOL A GWASANAETH

Dyma Hierarchaeth Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth ym Mro Morgannwg:

Canol Trefi - Heol Holltwn y Barri, Penarth, Y Bont-faen
Mae canol trefi yn darparu (neu â'r potensial i ddarparu) amrywiaeth o siopau, gwasanaethau, busnesau, cyfleusterau diwylliannol, hamdden a chymunedol i gefnwlad sylweddol sy'n cynnwys trefi cyfagos llai neu nifer o faestrefi.

Canolfannau Dosbarth - Stryd Fawr y Barri, Llanilltud Fawr
Mae canolfannau ardal yn darparu (neu â'r potensial i ddarparu) amrywiaeth o siopau, gwasanaethau, busnesau a chyfleusterau cymunedol i gefnwlad sy'n cynnwys pentrefi cyfagos neu rai maestrefi cyfagos.

Canolfannau Pentref a Lleol - Y Barri: Main Street, Tregatwg; Vere Street, Tregatwg; Park Crescent; Ffordd y Barri, ger Tregatwg; Heol Holltwn Uchaf
Dinas Powys: Cardiff Road; Canolfan Bentref Dinas Powys
Penarth: Cornerswell Road
Y Rhws: Fontygary Road
Sain Tathan: The Square
Mae Canolfannau Pentref a Lleol yn darparu (neu â'r potensial i ddarparu) siopau a gwasanaethau hanfodol i gymuned gyfagos gan gynnwys pentrefi a phentrefannau cyfagos.

Canolfannau Cymdogaeth - Y Barri: Bron-y-Môr; Cwm Talwg; Canolfan Gibbonsdown; Park Road Boverton
Dinas Powys: Camms Corner; Castle Court/The Parade
Llanilltud Fawr: Crawshay Drive
Penarth: Pill Street; Tennyson Road
Mae Canolfannau Cymdogaeth yn darparu (neu â'r potensial i ddarparu) siopau a gwasanaethau hanfodol i'w hardal breswyl agos)

Y canolfannau a nodir uchod yw'r lleoliadau a ffefrir ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys manwerthu, hamdden, swyddfa, llety ymwelwyr a chyfleusterau preswyl a chymunedol priodol. Rhaid i gynigion datblygu fod yn unol â rôl ddiffiniedig pob canolfan.

Dylai datblygiad newydd o fewn y Canolfannau Manwerthu, Masnachol a Gwasanaeth gyd-fynd â rôl ddiffiniedig pob canolfan o fewn yr hierarchaeth a chefnogi bywiogrwydd a hyfywedd a chynyddu nifer yr ymwelwyr o fewn y canolfannau.

6.116. Mae rôl canol trefi traddodiadol fel canolfannau manwerthu yn newid a bydd eu hadfywio yn y dyfodol yn cynnwys ail-bwrpasu i greu 'canolfannau manwerthu, masnachol a gwasanaeth' amlbwrpas sy'n diwallu anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Er mwyn cydnabod yr angen i symud i ffwrdd o rôl fanwerthu draddodiadol Canol Trefi ac yn unol â Pholisi Canol Trefi yn Gyntaf Cymru'r Dyfodol, mae Polisi SP9 yn mabwysiadu dull mwy hyblyg o ddefnydd nad yw'n fanwerthu i greu cymysgedd o fanwerthu, masnachol, hamdden, preswyl ac ati. Er mwyn cynnal hyfywedd a bywiogrwydd hirdymor canolfannau manwerthu'r Fro, bydd y cynllun yn ceisio eu galluogi i esblygu i ganolfannau amlswyddogaethol sy'n cynnwys ystod eang o fanwerthu, hamdden a gwasanaethau sy'n gweithredu fel lleoedd a gofod ar gyfer cymdeithasu, gweithio, astudio a mwynhau.

6.117. Bydd cynigion datblygu mewn Canolfannau yn defnyddio'r Egwyddorion Creu Lleoedd ym Mholisi SP5, gan sicrhau bod Canolfannau yn ddeniadol, yn ddiogel ac yn groesawgar. Bydd canolfannau yn hygyrch i bawb ac yn blaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy; byddant yn cael eu gwasanaethu'n dda gan seilwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu ag aneddiadau cyfagos.

6.118. Ystyrir canolfannau fel lleoedd cynaliadwy i fyw a, lle bo'n briodol, gallent gynnwys datblygiadau preswyl newydd ar raddfa fach drwy, er enghraifft, drosi lloriau uchaf. Dylent hefyd gynnwys mannau gwyrdd agored amlswyddogaethol i wella amwynder, ansawdd gweledol a darparu buddion amgylcheddol ac iechyd.

6.119. Mae'r Barri (Heol Holltwn), Penarth a'r Bont-faen wedi'u dynodi'n Ganol Trefi ar frig yr hierarchaeth oherwydd bod ganddyn nifer fawr ac ystod eang o fanwerthu, hamdden a gwasanaethau. Mae Canol Trefi yn chwarae rhan bwysig yn eu darpariaeth manwerthu a gwasanaethau wrth iddynt wasanaethu cymunedau cyfagos ac ehangach, sydd wedi'u cysylltu'n dda gan drafnidiaeth gynaliadwy. Mae ystod a nifer y manwerthu, hamdden a gwasanaethau ac arwyddocâd eu rôl ehangach yn cynyddu wrth i Ganolfannau symud i fyny trwy'r hierarchaeth o Ganolfannau Cymdogaeth, Canol Pentref, Canol Ardal a Chanol y Dref.

6.120. Bydd angen ystyried Polisi SP9 ochr yn ochr â pholisïau manwl sy'n ceisio rheoli manwerthu ymylol ac allan o'r dref.

SP11: ARWYNEBEDD LLAWR MANWERTHU

Dylid cyfeirio arwynebedd llawr manwerthu newydd i'r canol trefi a'r ardal a adnabuwyd ym Mholisi SP10. Mae capasiti ar gyfer rhwng 4,282 a 5,862 metr sgwâr (net) o ofod llawr manwerthu cyfleus newydd ym Mro Morgannwg. Lle mae tystiolaeth o angen meintiol ac ansoddol ac nad oes safleoedd addas ar gael yng nghanol y dref a'r ardal, dilynir y prawf dilyniannol. Lle nodir angen, rhaid i gynigion gydymffurfio â gofynion Polisïau RLDP perthnasol.

6.121. Mae'r ddarpariaeth fanwerthu ym Mro Morgannwg wedi'i chanoli i raddau helaeth yng nghanol tref y Barri a Phenarth, y Bont-faen a Llanilltud Fawr. Nodweddir yr ardaloedd manwerthu hyn gan amrywiaeth o fanwerthwyr lleol a chenedlaethol ac maent yn gwasanaethu dalgylchoedd cymharol eang. Yn ogystal, mae canolfannau lleol a chymdogaeth yn darparu gwasanaeth lleol pwysig ar gyfer eu dalgylch uniongyrchol ac yn darparu cyfleoedd i leihau teithiau mewn car.

6.122. Mae Astudiaeth Manwerthu a Hamdden diweddaraf Bro Morgannwg (Mehefin 2023) yn darparu angen meintiol wedi'i ddiweddaru ac asesiad ansoddol o gyfleustra (bwyd), nwyddau cymharu (dillad, eitemau electronig ac ati) a defnyddiau hamdden canol trefi fel bariau, caffis a bwytai ar draws yr awdurdod. Adnabu'r astudiaeth fod capasiti ansoddol ar gyfer rhwng 4,282 a 5,862 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu bwyd cyfleus a 432 metr sgwâr net a 679 metr sgwâr net o ofod llawr cymhariaeth dros gyfnod y cynllun hyd 2036. Yn ofodol, mae'r astudiaeth yn nodi'r angen posibl am fanwerthu bwyd cyfleus angen ychwanegol yng nghanolfannau manwerthu'r Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, y mae'r adroddiad yn ei argymell a fyddai'n arwain at welliannau posibl ym bywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau hyn, gan gydnabod hefyd angen ansoddol cyffredinol i annog ystod amrywiol o ddefnyddiau ym mhrif ganolfannau manwerthu tref ac ardal y Fro.

6.123. Wrth ystyried cynigion am siopau cyfleustra ychwanegol a chymharu cynigion manwerthu, bydd y Cyngor yn ystyried sut mae cynigion yn cyfrannu at amcanion polisi cenedlaethol "Canol Trefi yn Gyntaf" i gefnogi canolfannau amlswyddogaethol amrywiol sy'n gweithredu y tu hwnt i rôl draddodiadol canolfannau siopa trefi, gan ehangu eu rôl fel lleoedd sy'n cynnig cyfleoedd i gael mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd siopa, masnachol a hamdden yn ogystal â gweithleoedd, addysg, hunaniaeth ddinesig a rhyngweithio cymdeithasol.

SEILWAITH

6.124. Mae sawl math o ddatblygiad yn rhoi gofynion ychwanegol ar wasanaethau a chyfleusterau a fydd yn effeithio ar eu gallu i ddiwallu anghenion y gymuned. Mae'n hollbwysig darparu seilwaith newydd, yn ogystal â diogelu, gwella a defnydd effeithlon o'r seilwaith presennol i sicrhau bod yr holl ddatblygiadau newydd a gynigir o fewn cyfnod y Cynllun yn cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y Cynllun o greu cymunedau cynaliadwy. Felly, mae darparu seilwaith angenrheidiol yn amserol sy'n cefnogi ac yn lliniaru effaith datblygiad newydd yn hanfodol i gefnogi ein Strategaeth Ofodol.

SP12: Rhwymedigaethau Seilwaith a Chynllunio Cymunedol

Lle bo'n briodol ac o ran hyfywedd datblygu, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol newydd a gwell sy'n briodol i raddfa, math a lleoliad datblygiadau arfaethedig drwy ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio. Gall seilwaith cymunedol gynnwys darparu neu wella:

A. Tai fforddiadwy ac arbenigol.
B. Darpariaeth a chyfleusterau addysgol.
C. Seilwaith a chyfleusterau trafnidiaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr, trafnidiaeth gyhoeddus, a thraffig cerbydau.
D. Mannau agored cyhoeddus.
E. Mannau Tyfu Cymunedol fel rhandiroedd
F. Seilwaith gwyrdd.
G. Celf gyhoeddus
H. Cyfleusterau hamdden a chwaraeon.
I. Gwella bioamrywiaeth.
J. Cyfleusterau cymunedol.
K. Cyfleusterau gofal iechyd.
L. Seilwaith gwasanaethau a chyfleustodau, gan gynnwys seilwaith digidol.
M. Diogelu a gwella'r amgylchedd megis atal llifogydd, adfywio canol trefi, rheoli llygredd neu adnewyddu hanesyddol.
N. Cyfleusterau ailgylchu a rheoli gwastraff; a
O. Cyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau cyflenwol gan gynnwys hybiau hyfforddi a gweithio.

Rhaid darparu seilwaith newydd neu well, neu fesurau priodol eraill, mewn modd amserol a chydgysylltiedig i ddiwallu anghenion cymunedau presennol a chynlluniedig cyn y camau datblygu perthnasol neu wrth ddechrau'r camau hynny.

6.125. Mae ansawdd, hygyrchedd ac ystod y seilwaith cymunedol sydd ar gael i ddiwallu anghenion datblygiadau newydd yn hanfodol i greu cymunedau cynaliadwy. Mae Polisi SP12 yn nodi'r gofynion ar gyfer sicrhau bod pob datblygiad newydd ym Mro Morgannwg yn cael eu cefnogi gan wasanaethau a chyfleusterau priodol i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion y gymuned bresennol, i greu cymunedau diogel, cynaliadwy, byw, iach a chymysg. Gall hyn fod drwy welliannau i gyfleusterau presennol neu ddarparu seilwaith newydd.

6.126. Wrth ystyried yr anghenion seilwaith a gynhyrchir o ddatblygiad, bydd hyn yn cael ei ystyried yn erbyn y math o ddatblygiad a gynigir, yr amgylchiadau a'r anghenion lleol sy'n deillio o'r datblygiad a'r hyn y mae'n rhesymol disgwyl i'r datblygwr ei ddarparu gan ystyried y polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei nodi yng Nghanllaw Cynllunio Atodol y Cyngor ar Rwymedigaethau Cynllunio. Yn ogystal, caiff seilwaith cymunedol safle-benodol ei nodi o dan ddyraniadau safle perthnasol a nodir ym Mholisïau 4.1 i 4.5.

6.127. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Cyngor yn annog datblygwyr i ddarparu cyfleusterau a seilwaith ar y safle i wasanaethu meddianwyr y datblygiad yn y dyfodol. Lle mae hyn yn wir, bydd y cyfraniadau 'mewn nwyddau' hyn yn cael eu hystyried wrth gyfrifo swm unrhyw gyfraniadau oddi ar y safle. Pan ystyrir bod datblygiad yn diwallu ei holl anghenion ar y safle ac yn lliniaru ei effeithiau trwy gyfraniadau digonol mewn nwyddau, mae'n annhebygol y gofynnir am unrhyw gyfraniadau ariannol ychwanegol.

6.128. Os ydynt yn bodloni'r profion polisi, (h.y., yn angenrheidiol; yn berthnasol i gynllunio; yn berthnasol i'r datblygiad sydd i'w ganiatáu; y gellir ei orfodi; yn fanwl ac yn rhesymol ym mhob ffordd arall), bydd y Cyngor yn defnyddio amodau cynllunio yn hytrach na Rhwymedigaethau Cynllunio i sicrhau'r seilwaith cymunedol angenrheidiol sydd ei angen o ganlyniad i'r datblygiad (Polisi Cynllunio Cymru a Chylchlythyr 16/2014 'Defnyddio Amodau ar gyfer Rheoli Datblygu').

6.129. Mae cytundebau Adran 106 yn wirfoddol ac mae angen cydweithrediad y datblygwr er mwyn eu cyflawni. Fodd bynnag, pan na fydd datblygwr yn dangos y gall liniaru effeithiau ei ddatblygiad yn ddigonol, naill ai trwy rwymedigaethau cynllunio neu fesurau eraill, mae'n debygol y bydd y cais yn cael ei wrthod.

LLEOEDD CYNHYRCHIOL A MENTRUS

TWF ECONOMAIDD

6.130. Mae'r CDLl yn ceisio ymaddasu i amgylchiadau economaidd newidiol ym Mro Morgannwg a natur newidiol cyflogaeth dros amser drwy ddarparu ystod amrywiol o safleoedd cyflogaeth newydd a diogelu ardaloedd cyflogaeth presennol.

6.131. Er mwyn sicrhau bod digon o dir yn bodoli i ddiwallu anghenion cyflogaeth lleol, comisiynodd y Cyngor Astudiaeth Tir Cyflogaeth (ATC) (2022), i ddarparu asesiad o'r cyflenwad presennol o dir cyflogaeth ac ardaloedd cyflogaeth, ac i nodi anghenion tir cyflogaeth yn y dyfodol dros gyfnod y cynllun yng nghyd-destun rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru.

6.132. Amlygodd yr astudiaeth fod gweithgarwch economaidd y Fro yn bennaf o fewn y sectorau diwydiannol a gweithgynhyrchu, sy'n canolbwyntio'n neilltuol ar tua 3 maes marchnad sef y Barri, Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan (Sain Tathan) a'r Fro Wledig (yn bennaf cynlluniau arallgyfeirio Llanilltud Fawr, y Bont-faen, Llandŵ a chynlluniau arallgyfeirio gwledig llai).

6.133. O ran anghenion tir cyflogaeth yn y dyfodol, mae'r astudiaeth wedi nodi bod angen 67.8ha o dir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun (gan gynnwys byffer hyblygrwydd o 5 mlynedd). Yn dilyn asesiad o dir cyflogaeth presennol yn y Fro, daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod digon o dir cyflogaeth i ddiwallu'r angen dros gyfnod y cynllun, a bod gan y ddarpariaeth hon y potensial i gefnogi tua 5,338 o swyddi ychwanegol dros gyfnod y cynllun.

SP13: TWF CYFLOGAETH

I gefnogi twf swyddi a ffyniant economaidd ar draws Bro Morgannwg dros gyfnod y cynllun ac i ddiwallu anghenion tir cyflogaeth a ragwelir o 67.8 hectar o dir cyflogaeth, a darparu hyd at 5,338 o swyddi, darparu 168 hectar net o dir cyflogaeth ar gyfer B1 (Swyddfa a Diwydiant Ysgafn), B2 (Diwydiannau Cyffredinol) a B8 (Dosbarthu a Storio) darperir defnyddiau cyflogaeth yn y lleoliadau cyflogaeth mawr a lleol canlynol:

Dyraniadau Cyflogaeth Mawr*:

  1. Tir i'r dwyrain o Faes Awyr Caerdydd, y Rhws (16.3 ha net)
  2. Tir i'r de o Port Road (Model Farm), y Rhws (44.75 ha net)
  3. Dwyrain Bro Tathan, Parc Busnes Awyrofod (48.5 ha net)
  4. Tir i'r de o Gyffordd 34, Hensol (29.59 ha net)

Dyraniadau Cyflogaeth Lleol:

  1. Ystâd Fasnachu Iwerydd, y Barri (6.21 ha net)
  2. Parc Windmill, Hayes Road, y Barri (3.6 ha net)
  3. Parc Busnes y Fro, Llandŵ (12.4 ha net)
  4. Tir i'r de o Gyffordd 34 M4 Hensol (Ardal D 6.64 ha net)

Ardaloedd Cyfle Adfywio Cyflogaeth:
Bydd cynigion ar gyfer ailddatblygu a gwella tir ac adeiladau presennol ar gyfer B1, B2 a B8 a chynigion cyflogaeth a seilwaith sy'n gysylltiedig â Charbon Isel a Di-garbon yn cael eu cefnogi yn:

  1. Cyn Orsaf Bŵer Aberddawan
  2. Porthladd Rhif 2, Dociau'r Barri

*Gall defnyddiau oni bai am B ategol ac sy'n cyd-fynd gael eu caniatáu lle y byddai'r rhain yn darparu gwasanaethau cefnogol ar gyfer busnesau presennol a rhai'r dyfodol a'u gweithwyr.

6.134. Mae Polisi SP13 yn nodi'r ddarpariaeth tir cyflogaeth ofodol ar gyfer Bro Morgannwg dros gyfnod y cynllun, sy'n cynnwys hierarchaeth o safleoedd cyflogaeth strategol a lleol sydd wedi'u lleoli'n dda i'r 3 maes allweddol yn y farchnad gyflogaeth a nodwyd yn yr ATC, gan ddarparu hyblygrwydd a dewis i ddiwallu anghenion tir cyflogaeth y Fro dros gyfnod y Cynllun.

6.135. Er mwyn bodloni'r angen tir cyflogaeth a ragwelir o 67.8 hectar net, mae Polisi SP12 yn darparu ar gyfer 168 hectar net, sy'n adlewyrchu'r cyflenwad tir cyflogaeth presennol sydd ar gael yn y Fro ar 1 Ebrill 2021. Mae cyfran fawr o'r cyflenwad presennol wedi'i ganoli yn Ardaloedd Menter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan ac yng Nghyffordd 34 yr M4, gyda thir ychwanegol wedi'i nodi mewn ardaloedd cyflogaeth lleol yn y Barri a Llandŵ.

Dyraniadau Cyflogaeth Mawr

6.136. Mae'r hierarchaeth tir cyflogaeth yn cynnwys pedwar safle strategol - Parc Awyrofod a Busnes Bro Tathan (Sain Tathan), tir i'r dwyrain o Barc Busnes Maes Awyr Caerdydd a thir i'r de o Port Road (Model Farm) sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Ardaloedd Menter Caerdydd a Sain Tathan a thir i'r de o Gyffordd 34. Mae eu safle fel safleoedd cyflogaeth mawr o fewn yr hierarchaeth gyflogaeth yn adlewyrchu eu pwysigrwydd fel meysydd allweddol o gyfleoedd buddsoddi a chyflogaeth yn y Fro.

6.137. Gwelir bod Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygu awyrofod a gweithgynhyrchu uwch, ymchwil a datblygu ac arloesi ym Mro Morgannwg, gan adeiladu ar sylfaen sgiliau Maes Awyr Caerdydd, British Airways Maintenance Cardiff, a datblygiad mwy diweddar yn Ardal Fenter Bro Tathan. Mae eu pwysigrwydd i'r rhanbarth ehangach yn cael ei gydnabod yng Nghymru'r Dyfodol, y Cynllun Cenedlaethol, sy'n nodi bod Maes Awyr Caerdydd yn un o 4 Porth Strategol i Gymru (Polisi 10), gan nodi:

"Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru. Mae'n borth rhyngwladol sy'n cysylltu Cymru â'r byd ac mae'n sbardun pwysig o fewn economi Cymru. Lleolir Maes Awyr Caerdydd o fewn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan sy'n cynnig cyfleoedd i fuddsoddi yn y safle a'r dalgylch. Mae'r Ardal Fenter yn cynnig ystod eang o safleoedd datblygu a llety busnes, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol neu fuddsoddi mewn llety sy'n bodoli eisoes" (Cymru'r Dyfodol, tudalen 82)

6.138. Mae tir i'r dwyrain o Faes Awyr Caerdydd i'r dwyrain o'r Maes Awyr a Pharc Busnes presennol y Maes Awyr ac mae'r A4226 i'r gogledd a Port Road i'r de yn ffinio ag ef. Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r tir hwn, sy'n cael ei ddyrannu fel cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant defnydd cymysg. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor gyda Choleg Caerdydd a'r Fro yn archwilio datblygiad posibl campws newydd Coleg Caerdydd a'r Fro ar gyfer gweithgynhyrchu uwch ar 2.7ha o dir i'r de-ddwyrain o Barc Busnes presennol y Maes Awyr a gallai fod yn gartref i hyd at 2,000 o fyfyrwyr a staff. Mae'r Cyngor am weld gweddill y safle yn cael ei ddatblygu ar gyfer parc busnes masnachol, a allai fod yn gysylltiedig â'r cynigion Model Farm cyfagos ac mae uwchgynllun yn cael ei baratoi ar gyfer hyn ar hyn o bryd.

Map yn dangos maes awyr Caerdydd a pharth datblygu'r porth i'r dwyrain

Ffigur 20: Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Datblygu Porth
Ffynhonnell: SPG Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Datblygu Porth (Rhagfyr 2019)

6.139. Ar hyn o bryd mae tir i'r de o Port Road (Model Farm) y Rhws yn destun apêl am beidio â phenderfynu ar gais cynllunio amlinellol ar gyfer Busnes B1, B2, B8. Os yw'r apêl yn cael ei ganiatáu, rhagwelir y bydd y safle yn darparu 1.7 miliwn troedfedd sgwâr o swyddfeydd Dosbarth B1, B2 a B8, unedau diwydiannol ysgafn a warysau ac unedau dosbarthu, ochr yn ochr â meysydd parcio, tirlunio, seilwaith draenio a gwaith gwella bioamrywiaeth sy'n cynnwys tir ar gyfer ehangu Parc Gwledig Porthceri i'r de (Ffigur 20). Mae agosrwydd y safle at Faes Awyr Caerdydd a Bro Tathan ochr yn ochr â dyheadau Coleg Caerdydd a'r Fro yn y dyfodol yn rhoi'r cyfle i ddatblygu'r ardal yn glwstwr busnes o ansawdd uchel.

6.140. Mae Dwyrain Bro Tathan (Sain Tathan) tua 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd Llywodraeth Cymru. Ers ei ddynodi yn 2013 fel un o 6 Ardal Fenter yng Nghymru mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ym Mro Tathan wedi darparu tua 1,200 o swyddi newydd ac mae wedi gweld adnewyddu hangar ac adeiladau presennol y Weinyddiaeth Amddiffyn, datblygu 32 hectar o dir cyflogaeth (Gogledd Bro Tathan) a ffordd fynediad ogleddol newydd yn ogystal â gwelliannau i'r B4265. Mae Bro Tathan bellach yn gartref i ystod amrywiol o fusnesau mewn sectorau technoleg uchel gan gynnwys ymchwil peirianneg/technoleg (Prifysgol Caerdydd), gwneuthurwr dronau arbenigol, busnes seiberddiogelwch newydd a ffermio fertigol.

6.141. Mae'r 48.5 hectar o dir a ddyrannwyd o dan SP13.3 yn ymwneud â cham nesaf y buddsoddiad ym mharth Dwyrain Bro Tathan y mae Llywodraeth Cymru wedi nodi a fydd yn barod i'w ddatblygu yn 2025. Gan adlewyrchu dyheadau parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu Dwyrain Bro Tathan yn barc busnes defnydd cymysg o ansawdd uchel. Nododd ATC y Cyngor nad oedd cyfleusterau ategol ar gael i'r rhai a gyflogir ym Mro Tathan, yn unol â hynny mae Polisi SP13 yn caniatáu ar gyfer darparu defnyddiau ategol sy'n cyd-fynd i gefnogi'r rhai a gyflogir ym Mro Tathan.

6.142. Yn ogystal â'r tir sydd wedi'i ddyrannu, mae Bro Tathan wedi'i dynodi'n ardal gyflogaeth bresennol, a fydd yn galluogi i ragor o gyfleoedd defnyddiau cyflogaeth gael eu datblygu dros y tymor hwy.

Map yn dangos ardal fenter Bro Tathan
Ffigur 21: Briff Datblygu Bro Tathan Y Porth (Gorffennaf 2020)

6.143. Meddiannir tir i'r de o Gyffordd 34, yr M4 gan Renishaw PLC, a brynodd y safle yn 2011. Mae ei safle strategol ger traffordd yr M4 yn rhoi cyfle i Fro Morgannwg ddatblygu busnesau diwydiannol a logisteg ar raddfa strategol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn 2016 ar gyfer hyd at 151,060 metr sgwâr o ddefnyddiau Dosbarth B1, B2 a B8; Gwesty/Canolfan Hyfforddi Preswyl (Dosbarth C1/C2); a hyd at 1,300 metr sgwâr o ddefnyddiau ategol o fewn Dosbarthiadau A1, A2, A3; ochr yn ochr â 30.5 hectar o seilwaith gwyrdd. Mae'r cynigion (Ffigur 22) yn cynnwys ehangu gweithgynhyrchu presennol Renishaw yn y 40,000 metr sgwâr o warysau (2019/01421/RES, a gymeradwywyd ym mis Mai 2021), a pharc busnes 6.64 ha a fydd yn cyfrannu at ddiwallu anghenion cyflogaeth lleol sydd wedi'u nodi (SP13.8).

Map yn dangos Defnydd Tir y Dyfodol ar dir i'r de o Gyffordd 34, M4
Ffigur 22: Defnydd Tir y Dyfodol tir i'r de o gyffordd 34, M4
Ffynhonnell: Cais cynllunio 2019/01421/RES

Dyraniadau Cyflogaeth Lleol

6.144. Mae dyraniadau cyflogaeth lleol yn cynnwys 28.85 hectar (net) arall o dir ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8 ac fe'u dyrennir i sicrhau bod ystod a dewis priodol o dir ar gael i gefnogi twf economaidd lleol. Yn gyffredinol, mae'r safleoedd hyn wedi'u lleoli o fewn ardaloedd cyflogaeth presennol neu'n gyfagos sy'n cefnogi amrywiaeth o ddefnyddiau cyflogaeth, ac yn darparu cyfleoedd i fentrau bach lleol a busnesau newydd, sy'n galluogi i fusnesau sefydledig ehangu ac maent yn feysydd deniadol ar gyfer buddsoddiad busnesau lleol.

6.145. Mae cynnal a chadw banc tir o safleoedd, yn enwedig lle gellir darparu ar gyfer sectorau twf, yn hanfodol i lwyddiant mentrau a buddsoddiad datblygiad economaidd yr ardal. Felly, ni chaniateir i gynigion ar gyfer defnyddiau amgen ar y dyraniadau safle cyflogaeth strategol a lleol a adnabuwyd ym Mholisi SP13 at ddibenion nad ydynt yn rhai cyflogaeth ddiogelu eu statws fel safleoedd cyflogaeth pwysig.

Ardaloedd Cyfle Adfywio Cyflogaeth

6.146. Mae Polisi SP13 yn dynodi dwy Ardal Cyfle Adfywio Cyflogaeth yng nghyn Orsaf Bŵer Aberddawan a Phorthladd Gweithredol Dociau'r Barri, y mae'r cynllun yn eu hystyried yn ardaloedd pwysig ar gyfer cefnogi amcanion y CDLl ar gyfer Newid Hinsawdd a gwneud economi'r Fro yn fwy Gwyrdd, gan hwyluso'r twf mewn cynhyrchu a busnesau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

6.147. Mae Gorsaf Bŵer Aberddawan wedi'i chaffael gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn dilyn buddsoddiad o £38.4 miliwn a bydd yr hen orsaf bŵer yn cael ei thrawsnewid yn Barc Ynni Gwyrdd, a allai gynnwys:

  • Cynhyrchu prosiectau ynni adnewyddadwy a gwyrdd.
  • Cyfleuster storio batri i gefnogi'r prosiectau ynni gwyrdd.
  • Clwstwr gweithgynhyrchu di-garbon, gan gynnwys cyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
  • Canolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesedd, twf, gwybodaeth a rhyngweithio cymunedol â dyfodol di-garbon Cymru, a
  • Parc ecoleg bioamrywiaeth a fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr, sy'n darparu cyfleusterau i'r gymuned leol.

6.148. Mae Uwchgynllun yn cael ei baratoi ar hyn o bryd gan CCR Energy i lywio'r datblygiad yn y dyfodol. Bydd cam cyntaf yr ailddatblygiad yn golygu dymchwel yr orsaf bŵer a gwaith adfer y disgwylir iddo ddechrau yn 2023 a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i'w gwblhau.

Map o'r awyr yn dangos y cysyniad ar gyfer hwb ynni gwyrdd Aberddawan
Ffigur 23: Cynllun Cysyniadol Canolbwynt Ynni Gwyrdd Aberddawan

6.149. Mae cyfleusterau porthladdoedd yn seilwaith rhanbarthol pwysig ac yn ased economaidd yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru ac maent yn cael eu cydnabod felly yng Nghymru'r Dyfodol sy'n nodi "dylai Cynlluniau Datblygu Lleol ystyried rôl y porthladdoedd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol a sefydlu fframweithiau i gefnogi'r porthladdoedd hyn ac, o bosibl, helpu i'w hehangu". Yn y Fro, mae Dociau'r Barri yn ffynhonnell werthfawr o gyflogaeth leol ac mae wedi bod yn ganolbwynt adfywio i'r Barri gydag ailddatblygu Glannau'r Barri ar gyfer tai, manwerthu a hamdden.

6.150. Mae Doc Rhif 2, Dociau'r Barri, sy'n eiddo i Associate British Ports (ABP) yn cynrychioli'r ail gam wrth adfywio Dociau'r Barri a fydd yn canolbwyntio ar wella rôl economaidd y dociau ar gyfer y dyfodol. Mae dynodio'r ardal yn Ardal Adfywio Cyflogaeth yn adlewyrchu gweledigaeth a dyheadau ABP a gynhwysir yn ei strategaeth hirdymor Future Ports: Barry, sy'n nodi ei hardaloedd cyflogaeth a'i phorthladdoedd gweithredol yn Doc Rhif 2 hyd at 2035, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu'r porthladd o amgylch sectorau carbon isel a di-garbon ochr yn ochr â defnyddiau diwydiannol morol traddodiadol.

Map o'r awyr yn dangos y cynigion ar gyfer Porthladd y Barri
Ffigur 24: Future Ports: Barry Docks Land Use Proposals
Ffynhonnell:
https://www.abports.co.uk/media/up4dk5s3/20220726-abp-barry-port-vision-v1-1-web-format.pdf

6.151. Ymhlith y prosiectau posibl sydd wedi'u nodi o fewn y cynigion y mae ailddatblygu ardaloedd diwydiannol presennol o fewn y porthladd gweithredol ar gyfer clwstwr ynni carbon isel gan gynnwys cynhyrchu ynni gwyrdd, cyfleusterau dal carbon a chynhyrchu hydrogen, yn ogystal â gwella mynediad i'r ffyrdd a'r rheilffyrdd. Er mwyn ymaddasu i newid hinsawdd, bydd angen i ddatblygiadau newydd yn y porthladd hefyd gynnwys mesurau angenrheidiol i fynd i'r afael â pherygl llifogydd.

6.152. Y gobaith yw y bydd y twf yn y sector ynni adnewyddadwy yn Aberddawan a Dociau'r Barri yn creu swyddi medrus newydd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r economi. Yn unol â hynny, mae Polisi SP13 yn cefnogi twf y sectorau hyn ochr yn ochr â chyflogaeth B1, B2 a B8.

TWRISTIAETH

6.153. Mae lleoliad arfordirol a gwledig y Fro, ynghyd â'i diwylliant cyfoethog a'i hamgylchedd hanesyddol yn asedau gwerthfawr ar gyfer twristiaeth a hamdden. Mae atyniadau fel Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Bae Whitmore, Ynys y Barri a Phenarth, yn ogystal â'i lleoliad yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru yn gwneud Bro Morgannwg yn gyrchfan ddeniadol i ymwelwyr dydd, yn ogystal â'r rhai sy'n dymuno aros yn hirach.

6.154. Mae asedau twristiaeth y Fro yn darparu ffynhonnell werthfawr o gyflogaeth leol, gan gyflogi dros 2,000 o bobl a chynhyrchu tua £203 miliwn o wariant ymwelwyr yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

SP14: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Ffefrir cynigion sy'n hyrwyddo Bro Morgannwg fel cyrchfan ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy. Dylai cynigion datblygu gyfrannu at ddelwedd gadarnhaol y Fro fel cyrchfan ddeniadol a chynaliadwy i dwristiaid drwy:

A. Hyrwyddo cyfleoedd i ymwelwyr gymryd rhan mewn mathau o dwristiaeth sy'n cael effaith isel ar yr amgylchedd.
B. Diogelu a gwella atyniadau twristiaeth a chyfleusterau hamdden presennol;
C. Gwella'r economi ymweld, denu buddsoddiad lleol, darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol a chyfrannu at arallgyfeirio gwledig.
D. Cydnabod a diogelu hunaniaeth leol unigryw'r Fro, amgylchedd adeiledig a naturiol fel asedau i dwristiaeth;
E. Darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ymwelwyr, yn enwedig trwy gydol y flwyddyn a thrwy amrywiaeth o lety ymwelwyr sydd wedi'u lleoli'n briodol.

6.155. Mae Polisi SP14 yn ceisio cefnogi'r ddarpariaeth o gyfleusterau twristiaeth newydd a gwell, gan bwysleisio pwysigrwydd gwneud hyn mewn modd cynaliadwy, fel bod yr asedau twristiaeth naturiol ac adeiledig yn cael eu cynnal er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y CDLl yn darparu fframwaith polisi sy'n annog buddsoddiad newydd mewn cyfleusterau twristiaeth a hamdden sydd wedi'u lleoli'n briodol, ac sy'n ceisio diogelu a gwella cyfleusterau presennol, er budd preswylwyr, ymwelwyr a'r economi leol.

NEWID HINSAWDD

SP15: LLINIARU AC YMADDASU I'R NEWID HINSAWDD

Rhaid i bob cynnig datblygu ymateb i heriau newid hinsawdd trwy liniaru ei achosion ac ymaddasu i'w effeithiau.

Bydd achosion newid hinsawdd yn cael eu lliniaru drwy sicrhau cynigion datblygu newydd:

A. Cyfrannu at ddatgarboneiddio yn eu lleoliad, eu dyluniad, eu hadeiladu, eu cymysgedd o ddefnyddiau a, thrwy ddilyn egwyddorion creu lleoedd.
B. Hyrwyddo egwyddorion economi gylchol drwy flaenoriaethu ailddefnyddio adeiladau presennol ac adeiladu adeiladau mwy addasadwy a gwydn.
C. Manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd adnoddau a thechnegau adeiladu cynaliadwy, gan gynnwys dod o hyd i ddeunyddiau yn lleol.
D. Cynnwys egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy, gan ymgorffori technegau adeiladu goddefol lle bo hynny'n bosibl.
E. Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer dal carbon o seilwaith gwyrdd.
F. Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy, yn benodol mewn ardaloedd chwilio lleol, i ddarparu 70% o'r galw trydan a ragwelir erbyn 2036.
G. Hyrwyddo optimeiddio opsiynau cyflenwi a dosbarthu ynni, gan gynnwys darparu rhwydweithiau gwres ardal.

Bydd cynigion datblygu newydd yn ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd drwy:

H. Gael eu cynllunio i ymateb i hinsawdd gynhesach.
I. Hyrwyddo cysgodi ac oeri trefol trwy ddarparu seilwaith gwyrdd.
J. Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd dŵr a lleihau'r effeithiau andwyol ar ansawdd yr adnodd dŵr.
K. Ailgyfeirio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd lle mae perygl llifogydd a sicrhau bod datblygiad newydd yn rheoli dŵr wyneb ffo yn briodol trwy ddefnyddio systemau draenio cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur.
L. Ailgyfeirio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd o erydu arfordirol.

Rhaid i bob cais nodi sut y maent yn lliniaru achosion newid hinsawdd ac ymaddasu i'w effeithiau.

Bydd yn ofynnol i Ddatblygiadau Mawr gael Adroddiadau Ynni hefyd i arddangos cydymffurfiaeth â maen prawf D. Lle cynigir dymchwel adeilad presennol yn hytrach na'i ailddefnyddio, bydd angen Asesiadau Carbon Bywyd Cyfan i sicrhau cydymffurfiaeth â maen prawf B.

6.156. Ni all y broses gynllunio ar ei phen ei hun ymateb i oblygiadau newid hinsawdd a'r Argyfwng Hinsawdd sydd wedi'i ddatgan, ac mae rôl i'w chwarae i bob sector o gymdeithas. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod canlyniadau'r broses yn ymateb i'r goblygiadau hyn lle bo hynny'n bosibl. Mae Polisi SP14 yn ceisio cyflawni hyn drwy sicrhau bod datblygiad newydd yn lliniaru achosion newid hinsawdd ac yn ymaddasu i'w oblygiadau. Yn benodol, bydd yr achosion yn cael eu lliniaru trwy ystyried datblygiad newydd yn sensitif trwy brosesau creu lleoedd a cheisio lleihau allyriadau yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Addasir i'r effeithiau drwy ystyried goblygiadau hinsawdd gynhesach. Bydd hyn yn gofyn am ystyriaeth benodol wrth ddylunio cynlluniau i ystyried a ydynt yn briodol o ystyried mwy o amrywiadau mewn patrymau tywydd, gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol, yn ogystal â lefelau'r môr yn codi.

6.157. Mae Polisi SP14 yn cwmpasu'r prif feysydd lle gall y broses gynllunio liniaru'r achosion ac ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae'r ymatebion i'r goblygiadau'n eang ac yn cwmpasu sawl maes cynllunio, er enghraifft, seilwaith gwyrdd, trafnidiaeth gynaliadwy, a chreu lleoedd. Felly, er bod SP14 yn ymdrin â materion allweddol ar lefel uchel, darperir rhagor o fanylion trwy'r Polisïau Strategol i sicrhau bod y lefel briodol o sylw yn cael ei roi i faterion sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn benodol wir mewn perthynas â hyrwyddo newid moddol a lleoli datblygiadau newydd mewn lleoliadau a fydd yn lleihau'r angen i deithio, sy'n rhan annatod o gyflawni'r Strategaeth a lleihau allyriadau o drafnidiaeth. Mae'r materion yr ymdrinnir â hwy yn benodol gan Bolisi 14 yn cael eu hymestyn isod.

6.158. Bydd yn rhaid i ddatblygiad newydd ystyried a oes cyfleoedd i gyrraedd safonau adeiladu cynaliadwy uwch, gan gynnwys dim carbon, er mwyn ymateb i oblygiadau newid hinsawdd. Mae hyn yn golygu:

  • Lliniaru - Sicrhau bod dyluniad ac adeiladwaith adeiladau newydd yn lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys trwy gymryd camau i leihau'r defnydd o ynni; ac
  • Ymaddasu: Sicrhau bod adeiladau'n wydn i newidiadau a ragwelir i batrymau tywydd, gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Byddai hyn yn cynnwys gwytnwch llifogydd ac ystyried gorboethi.

6.159. Mae Maen Prawf B yn blaenoriaethu ailddefnyddio adeiladau presennol er mwyn cyfrif am eu carbon corfforedig. Fodd bynnag, cydnabyddir nad dyma'r dull mwyaf effeithiol o gyfyngu ar allyriadau carbon bob amser, yn enwedig lle gallai adeilad newydd fod â rhinweddau cynaliadwyedd sylweddol uwch. Felly, gall Asesiadau Carbon Bywyd Cyfan[8] gyfiawnhau pryd y gall fod yn fwy priodol adeiladu adeilad newydd yn seiliedig ar dystiolaeth lle gellir allyrru llai o garbon trwy adeiladu adeilad newydd.

6.160. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gwneud gwaith dichonoldeb i ystyried goblygiadau ei gwneud yn ofynnol i adeiladau newydd fod yn ddi-garbon wrth eu hadeiladu a'u gweithredu. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd y Cyngor yn gallu ystyried yn llawn effeithiau hyfywedd economaidd ei gwneud yn ofynnol i adeiladau newydd fod yn ddi-garbon wrth eu hadeiladu a'u gweithredu. Yn unol â pharagraff 5.8.5 o Bolisi Cynllunio Cymru, byddai'r gwaith hwn yn darparu tystiolaeth gadarn i'r Cyngor fyddai'n ein galluogi i gyflwyno safonau sy'n uwch na'r safonau cenedlaethol a nodir yn Rheoliadau Adeiladu. Pe byddai'r ymyrraeth hon yn cael ei hystyried yn ymarferol, byddai Polisi SP14 yn cael ei ddiweddaru yn y cyfnod Adnau i adlewyrchu gofynion di-garbon, a byddai polisi ategol rhagnodol yn cael ei gynhyrchu.

6.161. Mae Polisi 17 Cymru'r Dyfodol yn nodi bod angen rhoi pwysau sylweddol ar yr angen i gynhyrchu 70% o drydan Cymru erbyn 2030 o ffynonellau adnewyddadwy, yn ogystal ag ymrwymiadau rhyngwladol eraill. Mae asesiad ynni adnewyddadwy wedi'i gwblhau i nodi sut y gall Bro Morgannwg gyfrannu at gyflawni hyn. Mae'r asesiad ynni adnewyddadwy yn cynnwys nodi meysydd chwilio penodol ym Mro Morgannwg, lle mae'r datblygiad ynni adnewyddadwy yn cael ei gyfyngu leiaf. Bydd polisi manwl pellach yn cyfeirio'n uniongyrchol at fanylion y meysydd penodol hyn. Ar ôl nodi'r ardaloedd hyn ac asesu potensial adnoddau Bro Morgannwg, lluniwyd targed heriol ond cyraeddadwy ar gyfer cynhyrchu ynni trydan adnewyddadwy, fel y nodir yn nhestun y polisi. Mae dichonoldeb rhwydwaith gwres yn y Barri hefyd wedi'i ystyried, ac mae darparu hyn, yn ogystal â ffynonellau eraill o ynni gwres adnewyddadwy, yn cael ei hwyluso gan Bolisi SP15. Ochr yn ochr â phartneriaid lleol a rhanbarthol mae Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gynhyrchu ar gyfer Bro Morgannwg. Bydd hyn yn nodi llwybrau ar gyfer datgarboneiddio ein system ynni yn unol â thargedau cenedlaethol. Bydd y dystiolaeth a gynhyrchir o'r gwaith hwn yn llywio'r Cynllun ar Adnau ac yn cyfrannu at bolisi ynddo.

6.162. Mae ardaloedd o fewn y Fro mewn perygl o lifogydd o'r môr a'r afonydd, ac mae dadansoddiad Canlyniadau Llifogydd Strategol wedi'i gynnal mewn cydweithrediad â'r 10 Awdurdod Lleol arall yn ne-ddwyrain Cymru i ystyried hyn. Bydd yn rhaid i gynigion datblygu sicrhau cydymffurfiaeth â TAN15, er mwyn sicrhau nad yw datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau sydd â risg annerbyniol o lifogydd. Dylid defnyddio'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (FMfP) fel ystyriaeth berthnasol i ystyried perygl llifogydd, a disgwylir i TAN15 wedi'i ddiweddaru gael ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r FMfP ddiwedd 2023.

6.163. Yn bennaf, mae'r perygl llifogydd o afonydd wedi'i gyfyngu i ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, mae perygl llifogydd yn bodoli i raddau gwahanol yn y Bont-faen, Dinas Powys a dwyrain y Barri. Dim ond rhai o'r ardaloedd hyn sy'n elwa o fod o fewn Parthau Amddiffyn TAN15, ac mae ardaloedd eraill heb unrhyw amddiffyniad sylweddol. O'r môr, lle mae perygl llifogydd yn bodoli mewn ardaloedd preswyl, sef Marina'r Barri a Phenarth, mae'r rhain wedi'u cynnwys ym Mharthau Amddiffyn TAN15. Mae Dociau'r Barri a Gorsaf Bŵer Aberddawan mewn perygl o lifogydd llanwol ac nid ydynt wedi'u lleoli o fewn Parthau Amddiffyn TAN15. Felly, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth bellach i oblygiadau llifogydd yn y lleoliadau hyn er mwyn i'r datblygiad fod yn dderbyniol.

6.164. Mae arfordir deheuol y Fro yn agored i raddau amrywiol o erydu arfordirol. O ystyried hyn, argymhellir dulliau polisi amrywiol yn y Cynlluniau Rheoli Traethlin perthnasol[9][10] yn dibynnu ar a yw arfordir yn ffinio â thir gwledig neu drefol, a chyd-destun y risg. Lle cynigir datblygiad yn agos at y Map Risg Erydiad[11], Cynlluniau Rheoli Traethlin perthnasol12 a'r Datganiad Ardal[12] ar gyfer Canol De Cymru, dylid osgoi datblygiad lle mae perygl iddo gael ei effeithio gan erydiad arfordirol dros ei oes.

6.165. Fel y nodir ym mharagraff 5.8.4 o Bolisi Cynllunio Cymru, dylai Adroddiad Ynni 'gynnwys argymhellion i'r datblygwr sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a thechnolegau ynni adnewyddadwy priodol y gellid eu hymgorffori yn y datblygiad.' Dylai ceisiadau yn y dyfodol hefyd gynnwys yr ymatebion i'r adroddiadau hyn gan y datblygwr. Bydd paratoi Adroddiadau Ynni ar gyfer datblygiadau mawr yn helpu i nodi sut mae datblygiadau arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion Polisi SP15 ac yn ymateb i oblygiadau newid hinsawdd.

RHEOLI GWASTRAFF CYNALIADWY

6.166. Mae'r prif ffrydiau gwastraff sy'n codi yn y fwrdeistref yn cynnwys gwastraff a gesglir gan awdurdod trefol neu leol (gan gynnwys aelwydydd); masnachol a diwydiannol; adeiladu, cloddio a dymchwel; a pheryglus. Mae rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf yng Nghymru gyda gostyngiad mawr yn y gwastraff sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi a chynnydd mewn ailgylchu.

SP16: RHEOLI GWASTRAFF CYNALIADWY

Bydd rheoli gwastraff cynaliadwy yn cael ei hwyluso gan:

A. Hyrwyddo a chefnogi cyfleusterau, mesurau a strategaethau rheoli gwastraff cynaliadwy ychwanegol yn unol â'r hierarchaeth gwastraff ac egwyddorion gosodiad a hunangynhaliaeth briodol agosaf.
B. Cefnogi'r economi gylchol drwy annog cyn lleied â phosibl o gynhyrchu gwastraff a'r defnydd o ddeunyddiau ailddefnyddio ac ailgylchu yng nghamau dylunio, adeiladu a dymchwel datblygu.
C. Sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer rheoli, didoli, storio a chasglu gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd.

Ystyrir bod y lleoliadau canlynol yn addas ar gyfer datblygu datrysiadau rheoli gwastraff mewn adeiladu:

  • Ystâd Fasnachu Iwerydd.
  • Porthladd Gweithredol Dociau'r Barri;
  • Ystâd Fasnachu Llandŵ.
  • Ar safleoedd diwydiannol B2 a B8 sydd wedi'u dyrannu ac sy'n bodoli eisoes.

Bydd darparu cyfleusterau rheoli gwastraff cynaliadwy awyr agored ar safleoedd diwydiannol Dosbarth B2 neu B8 priodol, safleoedd gweithredol sy'n gweithio mwynau, tir neu adeiladau adfeiliedig neu o fewn cyfadeiladau fferm presennol neu gerllaw hefyd yn dderbyniol lle nad ydynt yn gwrthdaro â defnyddiau cyfagos presennol neu arfaethedig.

6.167. Yn unol â'r strategaeth gwastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', bydd y Cyngor yn ystyried cynigion yn unol â 'hierarchaeth gwastraff,' sy'n rhestru opsiynau atal a rheoli gwastraff yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r amgylchedd. Y flaenoriaeth uchaf yn yr hierarchaeth yw atal gwastraff yn y lle cyntaf. Yn dilyn hyn, os caiff gwastraff ei greu, dylid rhoi blaenoriaeth yn gyntaf i'w baratoi i'w ailddefnyddio, yna ailgylchu, yna adferiad arall (e.e. ynni), ac yn olaf gwaredu (e.e. tirlenwi neu losgi heb adfer ynni).

6.168. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21 ar Wastraff yn nodi y dylid ystyried sut y mae cynigion ar gyfer gwastraff a gwmpesir gan Erthygl 16 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig yn cyd-fynd â'r egwyddor 'gosodiad priodol agosaf'. Mae'r dull hwn yn ei gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei waredu neu ei adfer mewn cyfleusterau priodol yn agos at ble mae'n codi i leihau'r effeithiau amgylcheddol niweidiol sy'n gysylltiedig â chludo gwastraff. Mae darparu rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff yn y Fro a'r rhanbarth ehangach yn hanfodol i hyn ac i sicrhau hunangynhaliaeth.

6.169. Rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i'r economi gylchol o fewn cyd-destun datblygiad newydd, sy'n anelu at gadw defnyddiau, cynhyrchion a chydrannau mewn defnydd cyhyd ag y bo modd. Mae'r dull hwn yn hwyluso arbedion cost ac yn cyd-fynd â'r hierarchaeth gwastraff trwy ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu deunyddiau.

6.170. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi gwastraff fel maes polisi sy'n gofyn am ddull gweithredu cydgysylltiedig fel rhan o'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) a rhoddir ystyriaeth i unrhyw dystiolaeth ranbarthol sy'n dod i'r amlwg fel rhan o'r broses o baratoi'r cynllun. Mae TAN 21 yn cydnabod bod y Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn darparu asesiad strategol o wastraff, ond bydd angen monitro ar sail ranbarthol. Mae'r Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff diweddaraf ar gyfer De-ddwyrain Cymru (Ebrill 2016) yn dod i'r casgliad nad oes angen capasiti tirlenwi ychwanegol yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cynghori y dylid asesu unrhyw gynigion newydd ar gyfer trin gwastraff preswyl pellach yn ofalus i sicrhau nad yw gor-ddarpariaeth yn digwydd yn y rhanbarth. O'r herwydd, nid oes angen penodol wedi'i nodi am gyfleusterau rheoli gwastraff newydd ar lefel ranbarthol ar hyn o bryd.

6.171. Fel yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol dros gasglu a gwaredu gwastraff trefol (aelwyd) ac am reoli cynllunio defnydd tir dros reoli gwastraff. Mae'r Fro yn aelod o Brosiect Gwyrdd, partneriaeth gyda phedwar awdurdod lleol arall (Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd) sydd â chontract hirdymor gyda Viridor Waste Management i drin gwastraff bwrdeistrefol gweddilliol yn y cyfleuster ynni o wastraff Trident Park yng Nghaerdydd. Mae dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC) yn y Fro wedi'u lleoli yn Ystâd Fasnachu Iwerydd yn y Barri ac yn Ystâd Fasnachu Llandŵ yn Llandŵ.

6.172. Mae Ystadau Masnachu Iwerydd a Llandŵ, yn ogystal â phorthladd gweithredol Dociau'r Barri, yn cael eu hystyried yn lleoliadau priodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff mewn adeiladu. Yn Ystâd Masnachu Iwerydd gwelwyd cyfleuster adfer adnoddau yn cael ei ddatblygu'n ddiweddar, yn ogystal â siop ailddefnyddio ar dir ger yr HWRC presennol. Yn unol â Strategaeth Ailgylchu a Rheoli Gwastraff Bro Morgannwg (2022-2032), mae yna gynigion i ddisodli'r HWRC presennol yn Llandŵ gyda chyfleuster modern newydd yn ogystal â datblygu ail siop ailddefnyddio.

6.173. Er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd, mae'r polisi hefyd yn nodi safleoedd cyflogaeth 'diwydiannol cyffredinol' Dosbarth B2 a B8 'storio a dosbarthu', fel lleoliadau a allai fod yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff adeiladu ychwanegol.

6.174. Ar gyfer cyfleusterau awyr agored, mae'r CDLl yn ceisio hwyluso eu darpariaeth drwy'r Polisi trwy nodi lleoliadau addas lle gallai cyfleusterau o'r fath fod yn dderbyniol ac na fyddai'n gwrthdaro â defnyddiau cyfagos.

6.175. Bydd ceisiadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn cael eu hystyried yn erbyn polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol a pholisïau CDLl perthnasol eraill.

MWYNAU

6.176. Mae cynllunio cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol wneud darpariaeth ar gyfer isafswm banc tir o 10 mlynedd ar gyfer cerrig mâl a 7 mlynedd ar gyfer tywod a graean ar y tir drwy gydol 15 mlynedd llawn cyfnod cynllun datblygu, a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o agregau.

SP17: DARPARIAETH MWYNAU GYNALIADWY

Bydd yr angen lleol a rhanbarthol am ddarparu cyflenwad parhaus o fwynau yn cael ei gyflawni drwy:

A. Cynnal o leiaf 10 mlynedd o fanc tir o gerrig mâl drwy gydol cyfnod y cynllun.

B. Ffafrio cynigion sy'n hyrwyddo'r defnydd cynaliadwy o fwynau ac yn annog y defnydd o adnoddau eilaidd ac amgen.

C. Diogelu adnoddau hysbys o dywodfaen, calchfaen, tywod a graean (lle mae'r rhain yn digwydd y tu allan i aneddiadau), rhag datblygiad parhaol a fyddai'n eu sterileiddio yn ddiangen neu'n rhwystro eu hechdynnu yn y dyfodol; a

D. Diogelu pennau rheilffordd i ganiatáu ar gyfer cludo mwynau posibl trwy ddulliau cynaliadwy a chyfleusterau glanfa ar gyfer glanio tywod a graean sydd wedi'u carthu o'r môr lle bo hynny'n briodol.

6.177. Cyhoeddwyd yr 2il Adolygiad o Ddatganiad Technegol Rhanbarthol Mwynau ar gyfer ardal De Cymru gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (SWRAWP) ym mis Medi 2020. Mae Atodiad B o'r RTS yn cynnwys argymhellion ac arweiniad penodol ar gyfer pob Awdurdod Cynllunio Lleol. Diwygiwyd ail adolygiad RTS wedyn gan lythyr eglurhad polisi ym mis Tachwedd 2021, sy'n nodi bod dosraniad Bro Morgannwg yn 17.05 miliwn tunnell o gerrig mâl dros 25 mlynedd. Mae banc tir presennol o 18.73 miliwn tunnell o gerrig mâl (ar 31 Rhagfyr 2016), ac mae pob un ohonynt yn ymwneud â Chalchfaen Carbonifferaidd. Nid oes unrhyw ddosraniad na banc tir ar gyfer tywod a graean a enillwyd o dir. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, o ystyried gwarged bychan cronfeydd cerrig mâl a ganiateir ar hyn o bryd a'r diffyg cynhyrchu tywod a graean ym Mro Morgannwg, nid oes angen nodi dyraniadau pellach yn benodol o fewn y CDLl.

6.178. Mae Bro Morgannwg yn rhan o isranbarth Dinas Caerdydd ynghyd â Phen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r datganiad sefyllfa diweddaraf ar gyfer yr is-ranbarth hwn (Gorffennaf 2022) yn nodi, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau yn y rhanbarth, gan gynnwys Bro Morgannwg, yn gallu bodloni eu dosraniad ar gyfer cerrig mâl, mae diffyg mewn dau awdurdod. Ar hyn o bryd, mae opsiynau yn cael eu hystyried i fynd i'r afael â hyn, ond mae'r RTS2 yn nodi, lle na ellir mynd i'r afael â'r diffyg trwy ddyraniadau neu ganiatâd newydd, y byddai angen cydweithio ag awdurdodau cyfagos yn yr un is-ranbarth er mwyn trosglwyddo'r ddarpariaeth ofynnol i ACLlau eraill. Bydd y sefyllfa hon yn cael ei diweddaru yn y Cynllun wedi'i Adneuo.

6.179. Er nad yw'r Lanfa yn Nociau'r Barri wedi cael ei defnyddio i lanio tywod a graean y môr ers 2005 cydnabyddir bod hwn yn llwybr cyflenwi posibl o dywod ac adnoddau graean i'r rhanbarth. Felly diogelir y safle glanfa ar y Map Cynigion a bydd angen i gynigion yn y dyfodol ystyried yr effaith bosibl ar lanio tywod morol a graean yn Nociau'r Barri. Nid yw diogelu'r lanfa yn atal ei defnydd i lanio nwyddau eraill ac nid yw'n effeithio ar hawliau datblygu a ganiateir. Dylid diogelu pennau rheilffordd hefyd er mwyn darparu ystod lawn o opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy.

LLEOEDD UNIGRYW A NATURIOL

SEILWAITH GWYRDD

6.180. Mae seilwaith gwyrdd yn rhwydwaith o fannau gwyrdd amlswyddogaethol, trefol a gwledig, a all ddarparu ystod eang o fanteision amgylcheddol ac ansawdd bywyd i gymunedau lleol. Mae gan seilwaith gwyrdd rôl i'w chwarae a allai fod yn bwysig wrth liniaru effeithiau digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig tonnau gwres estynedig. Yn ogystal, mae seilwaith gwyrdd yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth ac yn gwneud cyfraniad pwysig i ansawdd yr amgylchedd. Mae mynediad i fannau gwyrdd hardd ac wedi'u cynnal a'u cadw yn dda, fel parciau a gerddi, parciau gwledig ac ardaloedd bywyd gwyllt, yn cefnogi iechyd a lles corfforol a meddyliol.

SP18: SEILWAITH GWYRDD

Bydd cynigion datblygu yn ymgorffori mesurau sy'n diogelu ac yn gwella darpariaeth seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel a gwneud y mwyaf o'i ymarferoldeb. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i gynigion datblygu:

A. Ymgorffori'r seilwaith gwyrdd presennol yn strategol mewn dylunio, gan fanteisio ar gyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno gan asedau presennol a darpar asedau, trwy ddilyn egwyddorion creu lleoedd.
B. Diogelu a gwella cysylltedd rhwng asedau seilwaith gwyrdd.
C. Cyflawni budd net bioamrywiaeth.
D. Diogelu tirweddau sydd wedi'u dynodi am eu harwyddocâd daearegol, naturiol, gweledol, hanesyddol neu ddiwylliannol.
E. Defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur, gan gynnwys yr Adeiladu gyda Safonau Natur, lle bo hynny'n bosibl.
F. Darparu man agored amwynder, sy'n cyflawni ystod eang o rolau.
G. Hwyluso amgylcheddau sy'n hyrwyddo iechyd a lles meddyliol a chorfforol.
H. Hyrwyddo cysgodi ac oeri trefol, systemau draenio cynaliadwy, a rhandiroedd a pherllannau cymunedol.

6.181. Mae'r amrywiaeth eang o dirweddau naturiol, cynefinoedd bioamrywiaeth, mannau gwyrdd, ardaloedd arfordirol a gwledig ochr yn ochr â'r rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn yr ardal yn cael ei ystyried yn un o'r rhesymau pam bod y Fro yn lle mor ddeniadol i fyw ac ymweld ag ef.

6.182. Mae sicrhau gwella bioamrywiaeth, gwytnwch ecosystemau, a sicrhau'r ddarpariaeth seilwaith gwyrdd fwyaf posibl yn hanfodol wrth ymateb i'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur sydd wedi'u datgan. Mae Polisi SP17 yn ceisio cyflawni hyn drwy nodi lle dylai cynigion datblygu amddiffyn, gwella a chynnal seilwaith gwyrdd presennol. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod darpariaeth seilwaith gwyrdd yn gyfannol ac yn cyflawni manteision ystod eang o swyddogaethau.

6.183. Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd wedi'i gwblhau i hwyluso dull cadarn a rhagweithiol o wella bioamrywiaeth, cynyddu gwytnwch ecolegol a gwella canlyniadau llesiant. Mae hwn yn nodi cyfleoedd strategol allweddol lle mae adfer, cynnal a chadw, creu a chysylltu nodweddion a swyddogaethau gwyrdd yn sicrhau'r buddion mwyaf sylweddol. Bydd yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd yn llywio prif gynllunio safleoedd sydd wedi'u dyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, fel rhan o greu'r safleoedd hyn.

6.184. Dylid darllen y polisi hwn ochr yn ochr â SP19 ar Fioamrywiaeth a Gwytnwch Ecosystemau, sy'n ceisio amddiffyn a hyrwyddo cysylltedd. Cyflawnir hyn drwy gadw coridorau bywyd gwyllt presennol a hwyluso cysylltiadau newydd trwy fanteisio ar gyfleoedd safle-benodol. Wrth geisio canfod cyfleoedd, dylid ystyried safle a'i gyd-destun cyfagos. Dylid ystyried y safle hefyd yng nghyd-destun yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

6.185. Mae darparu mannau gwyrdd amlswyddogaethol yn rhan annatod o ddarparu seilwaith gwyrdd cyfannol a bwriad SP17 a'r Asesiad Seilwaith Gwyrdd. Dylai darparu seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol greu mannau cydlynol sydd: yn caniatáu hamdden ac ymlacio; hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol; hwyluso cyfleoedd dysgu; cefnogi cysylltedd a chynefinoedd bywyd gwyllt; rheoli adnoddau dŵr; lliniaru ac ymaddasu i newid hinsawdd; gwella cynhyrchu bwyd lleol; a chefnogi treftadaeth a diwylliant. Gall hefyd chwarae rhan fawr wrth ddenu twf a buddsoddiad economaidd, cynyddu manteision tir ac eiddo, hyrwyddo twristiaeth, a chynyddu cynhyrchiant busnes.

6.186. Gall datrysiadau sy'n seiliedig ar natur fod yn offeryn gwerthfawr wrth greu datblygiadau cynaliadwy a gwydn. Gall ymgorffori nodweddion megis SUDS, plannu coed a mannau gwyrdd naturiol hygyrch, wneud cyfraniad sylweddol at ddarparu seilwaith gwyrdd, cefnogi bioamrywiaeth, lliniaru effeithiau newid hinsawdd a chyfrannu at greu cymunedau mwy byw a chynaliadwy. Mae'r Building with Nature Standards (BwN 2.0) yn darparu fframwaith o Safonau arfer gorau sydd gyda'i gilydd yn diffinio meincnod seilwaith gwyrdd da a sut i'w gyflawni. Mae'r safonau hyn yn feincnod o arfer da a dylid eu cymhwyso i bob datblygiad fel rhestr wirio ansawdd, mewn ffordd sy'n gymesur â natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig.

6.187. Wrth ddarparu seilwaith gwyrdd newydd a gwell mae'n hanfodol cydlynu'r ddarpariaeth seilwaith fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol. Mae Cynllun Seilwaith Gwyrdd y Cyngor yn nodi'r asedau seilwaith gwyrdd a'r gwahanol bartneriaid sy'n ymwneud â darpariaeth mannau gwyrdd. Mae'n cynnwys gweledigaeth, tystiolaeth gefndirol, argymhellion a chynllun gweithredu.

6.188. Bydd datblygiad yn cael ei gyfeirio oddi wrth ardaloedd y nodwyd eu bod â gwerth ecolegol uchel, a bydd cyfyngiadau ar ble y gellir caniatáu twf ym Mro Morgannwg. Ni ddylid ystyried seilwaith gwyrdd ac yn benodol ardaloedd o werth ecolegol uchel fel cyfyngiadau sy'n cyfyngu ar dwf yn unig. Yn hytrach, dylid ei ystyried yn ased seilwaith a all dyfu ei hun, gyda'r pwrpas o gyflymu adferiad natur. Cyflawnir hyn drwy fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y seilwaith gwyrdd presennol a cheisio dylanwadu ar dirfeddianwyr i'w reoli'n strategol gyda gwell darpariaeth mewn golwg. Bydd yr ardaloedd o werth ecolegol uchel a nodwyd yn y CDLl Newydd yn sail i hyn a dylid blaenoriaethu tir sy'n agos at y rhain ar gyfer gwneud y mwyaf o ddarpariaeth, yn unol â'r Strategaeth a nodir yng Nghynllun Seilwaith Gwyrdd y Cyngor.

CADWRAETH NATUR A BIOAMRYWIAETH

6.189. Mae bioamrywiaeth gyfoethog ac amrywiol Bro Morgannwg yn cefnogi ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac yn cyfrannu at gymeriad a naws am le nodedig y Fro. Mae'r asedau hyn yn cynnwys safleoedd ac ardaloedd o bwysigrwydd Ewropeaidd, cenedlaethol a lleol, yn ogystal â thirweddau, coetiroedd ac arfordir helaeth pwysig sy'n cynnwys Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg.

SP19: BIOAMRYWIAETH A GWYTNWCH ECOSYSTEMAU

Bydd bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg yn cael ei warchod, ei gynnal a'i wella. Rhaid i ddatblygiad ddarparu budd net ar gyfer bioamrywiaeth a gwella gwytnwch a chysylltedd ecosystemau. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i'r holl ddatblygiadau:

A. Ddangos y bu budd net cyffredinol i fioamrywiaeth yn gymesur â natur a graddfa'r datblygiad.
B. Sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir gan y DU/Ewrop yn cael eu diogelu yn unol â gofynion statudol.
C. Diogelu cyfanrwydd safleoedd dynodedig statudol ac anstatudol gan sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol.
D. Cael eu cyfeirio oddi wrth ardaloedd o werth ecolegol uchel.
E. Ymgorffori seilwaith gwyrdd ar gamau cynnar dylunio, sy'n diogelu ac yn gwella nodweddion presennol y safle ac yn gwella cysylltedd y rhwydwaith ecolegol.
F. Cynnwys datrysiadau sy'n seiliedig ar natur o fewn datblygu i gefnogi bioamrywiaeth ac adeiladu gwytnwch ecosystemau o fewn y safle a'r ardal ehangach.

Dim ond os gellir dangos bod yr angen am ddatblygiad yn gorbwyso unrhyw niwed a achosir gan ddatblygiad a bod modd darparu mesurau budd bioamrywiaeth net y caniateir datblygiad ar neu sy'n effeithio'n andwyol ar safleoedd eraill nad ydynt wedi'u dynodi neu goridorau bywyd gwyllt gyda gwerth bioamrywiaeth.

6.190. Mae Polisi SP19 Bioamrywiaeth a Gwytnwch Ecosystemau yn cydnabod pwysigrwydd asedau naturiol Bro Morgannwg ac yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu diogelu, eu cynnal a'u gwella nid yn unig oherwydd eu gwerth cynhenid o ran cadwraeth natur, ond hefyd ar gyfer y manteision cymdeithasol, economaidd a chymunedol ehangach y maent yn eu darparu.

6.191. Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd uwch o fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau (Dyletswydd Adran 6) ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth arfer eu swyddogaethau, mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth drwy sicrhau nad yw datblygiad yn achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau a rhaid iddynt ddarparu budd net i fioamrywiaeth.

6.192. Felly, bydd angen datblygu i ddangos y gellir sicrhau budd net ar gyfer bioamrywiaeth. Gellir cyflawni budd net ar gyfer bioamrywiaeth trwy ystod o gamau gweithredu sy'n amrywio o greu cynefinoedd a/neu drefniadau rheoli tymor hir sy'n gwella cynefinoedd diraddiedig presennol ac yn gwella gwytnwch ecosystemau. Rhaid i fuddion fod yn hirdymor, yn fesuradwy, yn amlwg ac yn bennaf ar y safle. Dylid gwella bioamrywiaeth yn dilyn y dull cam-ddoeth o osgoi yn gyntaf, yna lleihau, gyda lliniaru fel dewis olaf ar gyfer digolledu unrhyw effaith negyddol. Lle nad yw'n bosibl cyflawni lliniaru a gwella ar y safle, rhaid darparu iawndal oddi ar y safle i sicrhau budd net bioamrywiaeth.

6.193. Mae rhwydweithiau o gynefinoedd naturiol a seilwaith gwyrdd yn darparu adnodd ecolegol gwerthfawr. Maent yn cysylltu safleoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth ac yn darparu cerrig camu ar gyfer ymfudo, gwasgaru a chyfnewid genetig rhywogaethau o fewn yr amgylchedd ehangach. Er mwyn osgoi darnio ac ynysu cynefinoedd naturiol, dylid diogelu rhwydweithiau o'r fath rhag datblygiad amhriodol a gwella lle bo hynny'n bosibl. Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd y Cyngor yn nodi'r ddarpariaeth seilwaith gwyrdd ym Mro Morgannwg ac mae'n cynnwys gweledigaeth, argymhellion a chynllun gweithredu ynghylch sut y gellir ymestyn a gwella seilwaith gwyrdd yn y Fro.

6.194. Gall dylunio a dewis lleoliad datblygiad newydd yn sensitif gael effaith gadarnhaol ar dreftadaeth adeiledig a naturiol y Fro. Yn yr un modd, bydd angen i ddatblygiadau newydd leihau ei effaith ar systemau naturiol, tirweddau, rhywogaethau a chynefinoedd a, lle bo hynny'n briodol, darparu cyfleoedd ar gyfer creu cynefinoedd newydd neu wella cynefinoedd presennol yn sensitif.

6.195. Cefnogir Polisi SP19 Bioamrywiaeth a Gwytnwch Ecosystemau gan SP11 Rhwymedigaethau Seilwaith a Chynllunio Cymunedol a SP17 Seilwaith Gwyrdd. Mae'r rhain yn gofyn i ddatblygiadau newydd ddarparu seilwaith cymunedol newydd gan gynnwys Seilwaith Gwyrdd a nodweddion sy'n cefnogi gwella bioamrywiaeth ac ymgorffori Seilwaith Gwyrdd yn y drefn honno.

CWESTIWN 9: POLISÏAU STRATEGOL 

Mae'r polisïau strategol yn y Strategaeth a Ffefrir yn ffurfio'r fframwaith ar gyfer gweithredu a chyflawni'r amcanion a nodwyd. Ydych chi'n cytuno â'r polisïau strategol? (Nodwch pa bolisi strategol y mae eich sylwadau'n ymwneud ag ef) 
 

CWESTIWN 10: Sylwadau Pellach

A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol yr hoffech eu gwneud ar y Strategaeth a Ffefrir neu'r dogfennau ategol? 

CWESTIWN 11

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

Atodiad 1 – Cyflenwad Tir Presennol - Safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio gan gynnwys safleoedd sy'n cael eu hadeiladu – 1 Ebrill 2023

Haen Anheddiad

Enw'r Safle a'r Cyfeirnod Cynllunio

Ffynhonnell

Cyfanswm capasiti'r safle

Anheddau sydd heb ddechrau Ebrill 2023

Anheddau sy'n cael eu hadeiladu Ebrill 2023

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Tir o'r enw East Quay, Glannau'r Barri, Y Barri 2019/01393/RES

(Taylor Wimpey)

Dyrniad CDLl (gyda CC)

58

0

30

Anheddiad Allweddol: Y Barri

East Quay, (Tir i'r gorllewin o Cory Way, i'r de o'r doc Graving) 2019/01384/RES (Persimmon)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

62

0

62

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Tir datblygu yn East Quay, Glannau'r Barri - 2019/01385/RES (Barratts)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

56

0

13

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Tir datblygu yn East Quay, Glannau'r Barri (i'r Dwyrain o Cory Way) 2019/01386/RES (United Welsh)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

36

0

36

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Holm View (Cam 1, 11 annedd wedi'u cwblhau) Cam 2 cais am 31 annedd 2022/00397/REG3 (Cyngor Bro Morgannwg)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

42

31

0

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Hayes Wood, The Bendricks 2021/00378/REG3 (Cyngor Bro Morgannwg)

Ar hap

53

41

12

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Clinig Iechyd Colcot, Winston Road, Y Barri 2021/01444/RG3 Cyngor Bro Morgannwg

Ar hap

12

0

12

Anheddiad Allweddol: Y Barri

81-85, Heol Holltwn, Y Barri -cyn Dan Evans 2021/00622/FUL (Hafod)

Ar hap

25

25

0

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Gwesty'r Castell, Jewel Street, Y Barri 2019/01062/FUL(Newydd)

Ar hap

14

0

14

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Clwb Llafur Sea View, Dock View Road, Y Barri 2019/01061/FUL (Newydd)

Ar hap

28

0

28

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Cyn Westy Windsor, Heol Holltwn, Y Barri 2019/01060/FUL (Newydd)

Ar hap

18

0

18

Anheddiad Allweddol: Y Barri

Haydock House, 1, Heol Holltwn, Y Barri 2013/01249/FUL (Hafod)

Ar hap

16

0

16

Anheddiad Allweddol y Barri

Tir yn Coldbrook Road East, Cadoxton 2021/01743/FUL (Cyngor Bro Morgannwg)

Ar hap

20

0

20

Anheddiad Allweddol Y Barri

Cyn Seidiannau Rheilffordd, Ffordd y Mileniwm, Y Barri 2020/00775/OUT yn disgwyl S106 (Hafod)

Ar hap

56

56

0

Canolfan Wasanaeth (Y Bont-faen)

Bloc 6ed Dosbarth y Bont-faen, Aberthin Road 2018/01408/FUL tra'n aros am S106. (Hafod)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

34

34

0

Canolfan Wasanaeth (Y Bont-faen)

Tir i'r gogledd a'r gorllewin o Darren Close, Y Bont-faen 2017/00841/RES – Cam 1 – 169 o unedau
20/RES – Cam 2 – 306 o unedau (Taylor Wimpey)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

475

242

64

Canolfan Wasanaeth (Llanilltud Fawr)

Tir cyfagos i Froglands Farm, Llanilltud Fawr- Tir i'r gogledd o West Camp - Safle B - Eastern Parcel, Llan-faes 2020/00352/OUT yn disgwyl S106 (Gweinidogion Cymru)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

90

90

0

Canolfan Wasanaeth Llanilltud Fawr)

Cam 1 Tir rhwng Ffordd Fynediad Newydd y Gogledd a Heol Eglwys Brewis - Tir i'r Dwyrain o'r B4265 – Safle B - Western Parcel, Llan-faes- 2020/00351/OUT- Cymeradwywyd 140 o anheddau yn disgwyl S106 (Gweinidogion Cymru)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

140

140

0

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

Tir yng nghefn Rhifau 2 i 4, St. Cyres Road, Penarth 2020/01232/RG3 (Cyngor Bro Morgannwg)

Ar hap

14

0

14

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

56a, Windsor Road, Penarth (cyn Monty Smith Ltd) 2018/01420/FUL (X-Stream Properties)

Ar hap

21

0

21

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

Tir ger Oak Court- Cais cynllunio 2022/00294/HYB tai gofal ychwanegol 70 o welyau a 32 llety i bobl hŷn yn disgwyl S106 (Wales and West)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

102

102

0

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

Tir i'r de o Llandough Hill / Penarth Road Cais 2020/01590/HYB yn disgwyl S106

Dyraniad CDLl (gyda CC)

133

133

0

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

Tir i'r gogledd o Leckwith Road 2018/01023/FUL (Hafod)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

40

0

40

Prif Anheddiad(Sain Tathan)

Tir i'r dwyrain o Eglwys Brewis (Tir oddi ar Cowbridge Road) 2019/01408/RES (Barratt David Wilson)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

253

72

80

Prif Anheddiad(Sain Tathan)

Tir oddi ar Gilaston Road, Sain Tathan 2017/01263/FUL

Ar hap

18

18

0

Prif Anheddiad(Sain Tathan)

St. Athan Boys Village, Sain Tathan Cais 2022/00452/RES (JS Construction)

Ar hap

15

15

0

Prif Anheddiad(Y Rhws)

Tir i'r gogledd o Heol y Pentir, Y Rhws 2022/00602/RES (Wales and West)

Ar hap

15

15

0

Prif Anheddiad(Sili)

Cam 1: Tir i'r Gorllewin o Swanbridge Road, Sili (Taylor Wimpey)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

325

118

25

Prif Anheddiad(Sili)

Cam 2: Tir i'r Gorllewin o Swanbridge Road, Silly. Cais 2016/01520 (Taylor Wimpey)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

190

190

0

Mân Anheddiad Gwledig (Bonvilston)

Tir i'r dwyrain o Bonvilston, Cais 2015/00960/FUL (Acorn)

Dyraniad CDLl (gyda CC)

120

72

8

Mân Anheddiad Gwledig (Southerndown)

Dunraven Court, Beach Road, Southerndown 2019/00503/FUL

Ar hap

22

22

0

Mân Wledig - Y Wig

Tir yn St. Brides Road, Y Wig 2021/01081/FUL (Wales and West)

Ar hap

17

17

0

Gwledig Arall (Hensol)

Castell Hensol, Hensol Castle Road, Hensol 2018/00482/HYB

Ar hap

16

16

0

2,536

1,449

513

Cyfanswm Anheddau Ebrill 2023

1,962

Atodiad 2 – Safleoedd sydd wedi'u mabwysiadu yn y CDLl a'u bwrw ymlaen

Haen Anheddiad

Enw'r safle sydd wedi'i ddyrannu

Statws

Cyfanswm capasiti safle ym mis Ebrill 2023

Anheddiad Allweddol (Y| Barri)

Tir i'r gorllewin o Pencoedtre Lane

Dim cais cynllunio ar hyn o bryd – Safle yn rhan o Raglen Tai'r Cyngor

135

Canolfan Wasanaeth (Llanilltud Fawr)

Cyn-Ysgol Gynradd Eagleswell

Dim cais cynllunio ar hyn o bryd – Safle yn rhan o Raglen Cyflenwi Tai'r Cyngor

72

Canolfan Wasanaeth (Llanilltud Fawr)

Tir rhwng Ffordd Fynediad y Gogledd newydd a Heol Eglwys Brewis (dwyrain)

Dim cais cynllunio ar hyn o bryd - Cyflwyno Safle Ymgeisiol

185

Canolfan Wasanaeth (Y Bont-faen)

Tir ger St. Athan Road, Y Bont-faen - Tir rhwng Windmill Lane a St. Athan Road, Y Bont-faen

Cais cynllunio 2022/00958/FUL yn aros am benderfyniad

105

Canolfan Wasanaeth (Penarth)

Tir yn Upper Cosmeston Farm, Lavernock,

Cais cynllunio 2020/01170/OUT yn aros am benderfyniad

576

Prif Anheddiad

(Sain Tathan)

Tir yn Church Farm, Sain Tathan - Dim cais cyfredol

Dim cais cynllunio ar hyn o bryd - Cyflwyno Safle Ymgeisiol

250

Prif Anheddiad(Sain Tathan)

Hen Safle Stadiwm / Tir ger Burley Place, Sain Tathan – Diddordeb gan ddatblygwr

Dim cais cynllunio ar hyn o bryd – Diddordeb gan ddatblygwr

80

Prif Anheddiad(Sain Tathan)

Tir yn Higher End Sain Tathan (Cam 2)

2022/00266/RES - 25 Anheddau Fforddiadwy -cais cynllunio yn aros am benderfyniad

25

Anheddiad Sylfaenol

(Y Rhws)

Tir i'r gogledd o'r Rheilffordd y Rhws (Dwyrain).

Cais 2022/00733/FUL a gyflwynwyd Mehefin 2022 - cais cynllunio yn aros am benderfyniad

282

CYFANSWM

1,710

Atodiad 3 – Safleoedd Tai Allweddol

Anheddiad Allweddol – Y Barri

A3.1 Yn ystod cyfnod y CDLl mabwysiedig, mae cyfran sylweddol o dai newydd a chyfleusterau cysylltiedig a gynigiwyd ar gyfer y Barri wedi cael eu datblygu ar safle adfywio tir llwyd mawr ar Lannau'r Barri, a nodwyd fel safle strategol defnydd cymysg yn y CDLl. Mae'r rhan tai o'r cynllun hwn bellach bron â chael ei chwblhau, er bod cyfleoedd datblygu o hyd ar y Glannau at ddefnydd arall, yn cynnwys tir a nodwyd ar gyfer campws coleg posibl.

A3.2 Paratowyd Astudiaeth Capasity Trefol (ACT) i ystyried safleoedd datblygu posibl o fewn anheddiad diffiniedig presennol y Barri. Mae'r ACT wedi dangos nad oes unrhyw safleoedd eraill sy'n addas ar gyfer tai sy'n debygol o ddod ar gael ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ar raddfa debyg i'r Glannau, er bod nifer o gyfleoedd mewnlenwi ac ailddatblygu a allai fod yn dderbyniol mewn egwyddor fel safleoedd annisgwyl dros gyfnod cynllun y CDLlN. Felly, er mwyn i'r Barri ddarparu ar gyfer lefel o dwf sy'n gymesur â'i safle fel Anheddiad Allweddol yn hierarchaeth aneddiadau (fel y nodir ym Mhapur Cefndir Adolygiad yr Arfarniad Aneddiadau) bydd angen ystyried estyniad cynaliadwy i'r anheddiad.

A3.3 Mae'r Papur Cefndir Opsiynau Gofodol yn nodi bod y Barri wedi'i gyfyngu gan lifogydd i'r de o'r dref, cyfyngiadau tirwedd i'r gogledd, a'r tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Hyblyg (GMH) i'r dwyrain. O ystyried y cyfyngiadau hyn, mae'r cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy y tu hwnt i ffiniau aneddiadau presennol y dref yn gyfyngedig.

A3.4 Drwy'r broses asesu safle ymgeisiol, nodwyd safle allweddol i'r Gogledd Ddwyrain o'r Barri (SP4 KS1) ar ardal o dir amaethyddol isel yn bennaf. Gallai'r safle 71.1 hectar ddarparu hyd at 1,500 o anheddau, er y rhagwelir mai dim ond 900 o anheddau y byddai disgwyl iddynt gael eu darparu o fewn cyfnod cynllun y CDLlN hyd at 2036. Byddai gofyniad am o leiaf 30% o dai fforddiadwy (300 o unedau), gyda'r safle'n gwneud cyfraniad pwysig wrth ddarparu tai fforddiadwy yn un o'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.

A3.5 Yn unol â'r strategaeth twf cynaliadwy, byddai datblygu'r raddfa a gynigir yn y lleoliad hwn yng Ngogledd Ddwyrain y Barri yn caniatáu i dai newydd gyd-fynd â chyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau i leihau'r angen i deithio. Byddai'r safle arfaethedig yn cwmpasu amrywiaeth o ddefnydd yn cynnwys ysgol gynradd a chanolfan bentref newydd gyda defnydd fel caffis, unedau manwerthu a gweithdai/unedau cydweithio. Mae adeilad porth hefyd yn cael ei gynnig wrth fynedfa'r safle, a allai ymgorffori sawl defnydd sydd nid yn unig yn gwasanaethu'r safle ond hefyd Ystâd Pentref Pencoedtre gerllaw. Yn ogystal â'r cymysgedd o ddefnydd ar y safle, mae archfarchnad eisoes wedi'i lleoli wrth y fynedfa ac mae ysgol uwchradd wedi'i lleoli'n uniongyrchol i'r de. Bydd angen rhoi ystyriaeth bellach i'r hyn sydd yn gwmpas ac yn gymysgedd ymarferol a phriodol o ddefnydd amhreswyl.

A3.6 Elfen allweddol arall o'r strategaeth yw bod y datblygiad yn canolbwyntio ar leoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan orsafoedd rheilffyrdd presennol ac arfaethedig ac mewn ardaloedd sydd â chysylltiadau bws da. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gwasanaethu'r Barri yn dda gyda phedair gorsaf a 4 gwasanaeth yr awr i Gaerdydd. Mae mapiau isochrone amser teithio a baratowyd gan Trafnidiaeth Cymru yn dangos bod y safle hwn ar hyn o bryd o fewn cylch 15 munud i orsaf Tregatwg a bod y rhan fwyaf deheuol o'r safle o fewn taith gerdded 20 munud.

A3.7 Cydnabyddir bod y safle gerllaw Ffordd Gyswllt Dociau'r Barri yr A4231. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i ddarparu gwelliannau Teithio Llesol sylweddol i wella cysylltedd â'r ardal gyfagos. Byddai hyn yn cynnwys darparu lôn i gerddwyr a lôn feicio ar yr A4321, gan gysylltu â'r llwybr Teithio Llesol presennol ar hyd Port Road i'r gogledd a chylchfan Heol Caerdydd i'r de. Byddai gwelliant o'r fath yn cynnig buddion sylweddol o ran darparu llwybrau Teithio Llesol sy'n gwasanaethu'r dref a rhwydwaith Teithio Llesol ehangach. Ar ben hynny, mae gwelliannau arfaethedig i ddarparu llwybrau cerdded a beicio diogel o'r safle i orsaf Tregatwg trwy'r ardal breswyl bresennol, ac yn yr orsaf ei hun lle cynigir parcio beiciau yn ddiogel a mynediad gwell i gerddwyr i'r ardal.

A3.8 Byddai gwelliannau i'r priffyrdd sy'n gysylltiedig â datblygu'r safle yn cynnwys cael gwared ar y gylchfan wrth fynedfa'r safle (Gilbert Lane) a gosod cyffordd signalau yn ei lle, gyda chroesfannau i feicwyr a cherddwyr yn cael blaenoriaeth, fydd yn gwella cysylltedd â'r ystâd dai gyferbyn trwy ddulliau teithio cynaliadwy. Yn ogystal, cynigir dolen fysiau i wasanaethu'r safle, gan gysylltu â gwasanaethau presennol yn y Barri lle bo hynny'n ymarferol.

A3.9 Mae'r safle'n ffinio â dwy ardal Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA yng Nghoedydd y Barri. Bydd y SoDdGA yn cael eu gwarchod trwy glustogi priodol. Mae cyfle penodol yn bodoli i wella cysylltedd ecolegol rhwng lleiniau SoDdGA Coedydd y Barri sydd wedi eu gwahanu ar hyn o bryd, i'r gogledd o'r safle. Mae de'r safle yn wlyptiroedd yn bennaf ac mae hyn yn rhoi cyfle sylweddol ar gyfer seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol, yn cynnwys rheoli dŵr, gwelliannau i fioamrywiaeth ac ymgysylltu â gofod amwynder cyhoeddus. Yn ogystal, bydd angen i'r safle ddarparu seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol, yn cynnwys caeau chwarae.

A3.10 Mae cynllun cyd-destun wedi'i gynnwys yn Ffigur A1 a chynllun eglurhaol cychwynnol lefel uchel wedi'i nodi yn Ffigur 14. Bydd hyn yn cael ei fireinio drwy'r broses uwch-gynllunio ac yn ystod cyfnod Blaendal, bydd manylion pellach, yn cynnwys yr egwyddorion allweddol ar gyfer creu lleoedd ar gyfer pob safle, yn cael eu diffinio.

Tir yng Nghynllun Cyd-destun Gogledd Ddwyrain y Barri yn dangos ffin y safle mewn perthynas â'r anheddiad presennol
Ffigur A1 Cynllun Cyd-destun Tir Gogledd Ddwyrain y Barri
Aneddiadau Canolfan Wasanaeth – Y Bont-faen, Penarth, Llanilltud Fawr

A3.11 Mae aneddiadau y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr i gyd wedi cael eu nodi fel aneddiadau canolfan wasanaeth, wedi ei lywio gan yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau, sy'n adlewyrchu eu rôl yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n gwasanaethu anghenion dyddiol eu preswylwyr ac yn gweithredu fel hybiau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau llai, cyfagos. Mae Penarth a Llanilltud Fawr yn cael eu gwasanaethu'n dda gan y rhwydwaith rheilffyrdd, gyda Phenarth â 3 gorsaf (Penarth, Heol Dingle a Cogan). Nid oes gan y Bont-faen orsaf ond mae ganddi gysylltedd bysiau da â Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr ac fe'i hystyrir yn anheddiad cynaliadwy iawn gydag amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau.

A3.12 Mae gan bob un o'r Aneddiadau Canolfan Wasanaeth ddyraniadau CDLl mabwysiedig mawr sydd naill ai'n cael eu hadeiladu neu sy'n debygol yn realistig o gael eu datblygu o fewn cyfnod cynllun y CDLlN. Yn y Bont-faen, mae'r dyraniad yn Fferm Darren, sy'n cynnwys 475 o anheddau, yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Ni fwriedir i'r datblygiad gael ei gwblhau tan sawl blwyddyn i mewn i gyfnod y cynllun. Bydd y safle hwn, ynghyd â dau safle tai arall sydd wedi eu dyrannu yn y dref sy'n amodol ar geisiadau cynllunio neu'n aros i gytundeb Adran 106 gael ei lofnodi, yn darparu'r rhan fwyaf o farchnad a thai fforddiadwy y dref yn y dyfodol. O ganlyniad, ni ystyrir bod angen dyraniadau 'allweddol' mwy pellach ar y dref. Gall datblygiadau ar raddfa lai mewn lleoliadau cynaliadwy fod yn dderbyniol os nodir angen am ddefnydd o'r fath.

A3.13 Mae safle Fferm Cosmeston Uchaf ym Mhenarth yn allweddol i dwf yr anheddiad ar gyfer y farchnad a thai fforddiadwy yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'r safle 576 o anheddau a ddyrannwyd yn destun cais cynllunio ac ystyrir yn realistig y bydd yn cael ei gyflwyno. Gan fod y safle yn eiddo i Lywodraeth Cymru, bydd yn darparu 50% o dai fforddiadwy. Yn ogystal, mae sawl cynllun llai naill ai gyda chaniatâd cynllunio neu'n cael eu hadeiladu ym Mhenarth. Oherwydd ei leoliad arfordirol a chyfyngiadau eraill, mae cyfleoedd datblygu yn gyfyngedig. Ystyriodd yr Astudiaeth Capasiti Trefol safleoedd posibl yn ardal Penarth ac er bod nifer o safleoedd y gellid eu cyflwyno o bosibl fel safleoedd annisgwyl ar raddfa gymharol fach, nid oes cyfleoedd arwyddocaol eraill yn y dref.

A3.14 Dyrennir tir ar gyfer tai rhwng ffordd fynediad y gogledd a Heol Eglwys Brewis, a fyddai'n gwasanaethu marchnad dai Llanilltud Fawr. Mae'r safle'n cynnwys tair llain, y mae gan ddwy ohonynt ganiatâd cynllunio ar gyfer tai, (yn aros am a106) ac ystyrir ei fod yn realistig y bydd y drydedd yn cael ei chyflwyno. Gyda'i gilydd, byddai'r tair llain yn darparu 415 o anheddau, sy'n safle sy'n gymesur â rôl tref Llanilltud Fawr.

Prif Aneddiadau yn y Coridor Twf Strategol

A3.15 Mae prif aneddiadau Dinas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Llandochau (Penarth) a Sili wedi'u nodi yn yr ardal twf strategol ac felly maent yn ardaloedd lle gallai lefelau datblygu cynaliadwy fod yn dderbyniol.

Dinas Powys

A3.16 Dinas Powys yw'r anheddiad sy'n cael ei wasanaethu orau o'r prif aneddiadau o ran y rhwydwaith rheilffyrdd gyda gorsafoedd yn Eastbrook a Dinas Powys, a gorsaf Cogan hefyd o fewn pellter cerdded rhesymol. Mae'r anheddiad yn sgorio'n uchel yn yr Adolygiad Arfarnu Aneddiadau oherwydd nifer y gwasanaethau a'r cyfleusterau yn yr ardal.

A3.17 Mae tir wedi'i nodi i fod ar safle allweddol i'r Gogledd o Ddinas Powys (SP4 KS2). Mae'r safle yn 12.7 hectar a gallai gynnwys hyd at 250 o anheddau, gydag o leiaf 40% o dai fforddiadwy.

A3.18 Byddai'r safle'n cyd-fynd â'r strategaeth, gan fod mapiau Trafnidiaeth Cymru yn dangos bod gorsaf Eastbrook yn daith gerdded o 10 fan bellaf o'r safle. Mae ganddo gysylltiad da hefyd â gwasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth, gydag ysgolion cynradd, meddygfa a darpariaeth fanwerthu leol wedi'u lleoli yn y pentref ac Ysbyty Llandochau yn agos at y safle. Byddai mynediad i'r safle oddi ar gyffordd newydd â signalau o Heol Caerdydd, fydd yn golygu bod angen ail-drefnu'r ffordd i ymgorffori lôn aros a chysylltiadau Teithio Llesol gwell. Bydd angen cysylltiadau Teithio Llesol o'r safle i orsaf Eastbrook, ysgolion lleol a chysylltiadau â chyfleusterau yng Nghaerdydd.

A3.19 Cynigir coridor seilwaith gwyrdd aml-swyddogaethol trwy ogledd y safle a byddai dyrannu'r tir hwn yn rhoi cyfle i wella'r cynefinoedd ecolegol presennol a chreu rhai newydd, sy'n amgylchynu'r safle. Byddai cyflwyno cynefinoedd amrywiol hefyd yn cael ei gyflawni trwy ddarparu SDCau.

A3.20 Mae cynllun cyd-destun wedi'i gynnwys yn Ffigur A2 a chynllun eglurhaol cychwynnol lefel uchel wedi'i nodi yn Ffigur 15. Bydd hyn yn cael ei fireinio drwy'r broses uwch-gynllunio.

Tir yng Nghynllun Cyd-destun Gogledd Dinas Powis yn dangos ffin y safle mewn perthynas â'r anheddiad presennol
Ffigur A2 Cynllun Cyd-destun Tir i'r Gogledd o Ddinas Powys

Y Rhws

A3.21 Mae prif anheddiad y Rhws mewn safle da ar linell rheilffordd Bro Morgannwg gyda gorsaf bresennol mewn lleoliad canolog yn y pentref, yn cynnig cysylltiadau bob awr (ddwywaith yr awr cyn bo hir) â'r Barri, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

A3.22 Mae gan y Rhws nifer o gyfleusterau, yn cynnwys dwy ysgol gynradd a siopau manwerthu lleol, ac mae hefyd yn lleoliad lle y gellid alinio tai â chyfleoedd cyflogaeth presennol ac yn y dyfodol, o ystyried bod y safle yn agos i Faes Awyr Caerdydd a'r Ardal Fenter, yn ogystal â Pharc Ynni Gwyrdd arfaethedig Aberddawan.

A3.23 Mae cynllun 450 o anheddau wedi ei nodi ar dir ar Readers Way ar safle 29.3 hectar, gydag o leiaf 35% o dai fforddiadwy. Bydd y safle yn un preswyl yn bennaf gyda photensial ar gyfer elfen o ddefnydd cymysg. Ar hyn o bryd mae'r safle o fewn taith gerdded 20 munud i'r orsaf a bydd cysylltiadau teithio llesol yn cael eu gwella i gysylltu'r safle â'r ardal ehangach.

A3.24 Cydnabyddir bod y safle'n agos at redfa'r maes awyr felly er mwyn lliniaru unrhyw faterion amwynder, mae'r uwchgynllun yn cynnig tai ar ran orllewinol y safle, gyda'r rhan ddwyreiniol yn gyfan gwbl ar gyfer gwelliannau seilwaith gwyrdd, gan roi cyfle i gyflawni amlswyddogaeth a chysylltedd cryf. Yn amlwg, mae hyn yn cynnwys darparu lle ar gyfer tyfu bwyd. Nodir defnydd cymysg arall ar raddfa fach hefyd.

A3.25 Mae Pwll Readers Way yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) wedi'i leoli 50 metr i'r de o'r safle. Mae cyfleoedd yn bodoli i wella cysylltedd o'r nodwedd hon i'r ddarpariaeth seilwaith gwyrdd well ar hyd ffin ddwyreiniol y safle.

A3.26 Mae cynllun cyd-destun wedi'i gynnwys yn Ffigur A3 a chynllun eglurhaol cychwynnol lefel uchel wedi'i nodi yn Ffigur 16. Bydd hyn yn cael ei fireinio drwy'r broses uwch-gynllunio.

Tir yn Readers Way, Cynllun Cyd-destun y Rhws yn dangos ffin y safle mewn perthynas â'r anheddiad presennol
Ffigur A3 Cynllun Cyd-destun Tir yn Readers Way, y Rhws

Sain Tathan

A3.27 Mae'r CDLl mabwysiedig yn nodi Sain Tathan fel Ardal Cyfle Strategol, gan gydnabod y cyfleoedd sy'n deillio o Ardal Fenter Bro Tathan a datblygiad Ffordd Fynediad y Gogledd ochr yn ochr â thai i gefnogi'r rôl hon. Mae Bro Tathan wedi llwyddo i ddenu nifer o fusnesau sy'n darparu cyflogaeth, ac mae nifer o safleoedd tai a ddyrannwyd wedi cael eu cyflwyno.

A3.28 Mae'r strategaeth CDLlN yn parhau i geisio alinio tai a chyflogaeth a chyda'r potensial datblygu sy'n parhau ym Mro Tathan, yn ogystal â Pharc Ynni Gwyrdd arfaethedig Aberddawan, mae Sain Tathan yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r strategaeth.

A3.29 Mae'r Strategaeth a Ffefrir hefyd yn ceisio canolbwyntio'r datblygiad o amgylch nodau trafnidiaeth gynaliadwy allweddol. Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gorsaf yn Sain Tathan, sy'n nodi y gallai gorsaf newydd gael ei lleoli yn Sain Tathan, yn amodol ar waith ymchwilio pellach. Byddai dyrannu dau safle allweddol yn agos at y safle a ffefrir ar gyfer gorsaf yn helpu i gefnogi'r achos busnes trwy sicrhau bod digon o fàs critigol o bobl yn byw ger yr orsaf i'w chefnogi.

A3.30 Mae dau safle preswyl yn bennaf wedi'u nodi fel safleoedd allweddol yn Sain Tathan, gan adlewyrchu ei botensial i alinio swyddi a thai. Mae tir ar Church Farm (SP4 KS4) yn cynnwys tir i'r dwyrain o'r anheddiad, sy'n cael ei ddyrannu yn y CDLl mabwysiedig ar gyfer tai, ynghyd â llain gyfagos o dir. Gyda'i gilydd, rhagwelir y bydd y safle 24.6 hectar hwn yn darparu rhwng 250 a 550 o anheddau. Bwriedir cael mynediad i'r safle oddi ar Gileston Road.

A3.31 Mae darparu ardal fawr o seilwaith gwyrdd yn ne-ddwyrain y safle, yn rhoi cyfle sylweddol am amlswyddogaeth ac mae'n cynnwys yn ddangosol y cysylltedd Teithio Llesol o Sain Tathan i'r mynediad i safle Parc Ynni Gwyrdd Aberddawan. Byddai dyrannu'r safle hwn yn rhoi cyfle i wella'r cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd, sy'n amgylchynu'r safle. Byddai cyflwyno cynefinoedd amrywiol hefyd yn cael ei gyflawni trwy ddarparu SDCau.

A3.32 Cynigir yr ail safle allweddol ar dir i'r gorllewin o Sain Tathan (SP4 KS5). Mae'r safle 28 hectar hwn yn cael ei gynnig ar gyfer cynllun preswyl yn bennaf. Yn ogystal, nodir llain ychwanegol o dir o fewn yr un perchnogaeth sydd wedi'i leoli i'r dwyrain fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer yr orsaf arfaethedig, ochr yn ochr â defnydd masnachol.

A3.33 Mae angen darparu tirlunio sensitif i ategu'r asedau treftadaeth i'r gogledd o'r safle. Byddai dyrannu'r safle hwn yn rhoi cyfle i wella'r cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd, sy'n amgylchynu'r safle. Mae angen darparu ardal fawr o seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol yng ngogledd ddwyrain y safle, yn cynnwys caeau chwarae a chysylltedd Teithio Llesol i Sain Tathan.

A3.34 Bydd gofyn i'r ddau safle ddarparu o leiaf 35% o dai fforddiadwy. Rhoddir ystyriaeth hefyd i'r ffordd y gall darparu safleoedd newydd yn Sain Tathan gyfrannu at anghenion addysgol yn ardal Gorllewin y Fro.

A3.35 Mae cynlluniau cyd-destun wedi'u cynnwys yn Ffigur A4 ac A5 a chynlluniau dangosol cychwynnol lefel uchel wedi'u nodi yn Ffigur 17 a 18. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu mireinio drwy'r broses uwch-gynllunio.

Sili

A3.36 Mae'r CDLl mabwysiedig yn dyrannu safle tai sylweddol sy'n cynnwys 515 o anheddau ar draws dau gyfnod. Mae gan y ddau gam y fantais o ganiatâd cynllunio ac ar 1 Ebrill 2023, nid oedd 308 o unedau wedi cael eu cychwyn. Bydd darparu tai ar y safle hwn yn cefnogi rôl Silly fel prif anheddiad.

Llandochau (Penarth)

A3.37 Yn ddiweddar, cymeradwywyd caniatâd cynllunio (yn aros am a106) ar safle rhwng Llandochau a Phenarth ac mae safle arall a ddyrannwyd o 40 o anheddau yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y safleoedd presennol hyn yn cefnogi rôl Llandochau fel prif anheddiad.

Tir yn Church Farm, Cynllun Cyd-destun Sain Tathan i yn dangos ffin y safle mewn perthynas â'r anheddiad presennol
Ffigur A4 Cynllun Cyd-destun Tir ar Church Farm Sain Tathan

Tir i’r Gorllewin o Gynllun Cyd-destun Sain Tathan yn dangos ffin y safle mewn perthynas â'r anheddiad presennol
Ffigur A5 Cynllun Cyd-destun Tir i'r Gorllewin o Sain Tathan


[7]Canllawiau AEIau Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru: HIA_Tool_Kit_V2_WEB-1.pdf (phwwhocc.co.uk).

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig