Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 14 Chwefror 2024

4. THEMÂU, GWELEDIGAETH AC AMCANION ALLWEDDOL Y CDLlN

THEMÂU ALLWEDDOL

4.1 Rôl y CDLlN yw darparu fframwaith polisi a fydd yn mynd i'r afael â'r materion defnydd tir y mae Bro Morgannwg yn eu hwynebu. O ystyried cyd-destun a nodweddion uchod y Fro, gan gynnwys materion allweddol ym maes polisi cenedlaethol a chynlluniau a strategaethau lleol a rhanbarthol eraill, yn ogystal ag adborth a gafwyd gan ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth baratoi'r cynllun, nodwyd y Themâu Allweddol canlynol.

Themâu Allweddol y CDLlN

 Lliniaru ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

Blaenoriaethu addasu i a lliniaru Newid yn yr Hinsawdd, gan sicrhau bod datblygiadau a defnydd tir yn y Fro yn ymateb i'r achosion ac yn wydn i effaith Newid yn yr Hinsawdd.

 Gwella Iechyd Meddyliol a Chorfforol a Llesiant

Gwella iechyd a lles ein trigolion trwy feithrin cymunedau llesol, iach ar gyfer byw, gweithio ac ymweld â nhw ac sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol-economaidd mewn modd cynaliadwy.

 Cartrefi i Bawb

Mae angen i'r cyflenwad tai allu ymateb i boblogaeth gynyddol yr awdurdod ond rhaid iddo hefyd fod yn briodol o ran math, deiliadaeth a lleoliad. Yn ogystal, rhaid cael darpariaeth ddigonol o dai fforddiadwy er mwyn darparu ar gyfer y rhai sydd mewn angen.

 Creu Lleoedd

Hwyluso'r gwaith o ddatblygu cymunedau addasadwy, hygyrch, cysylltiedig iawn sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth, cynnig ystod gynaliadwy o wasanaethau a chyfleusterau ac sydd â seilwaith digonol. .

 Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

Gwarchod a gwella ansawdd, cysylltedd a gwydnwch amgylchedd naturiol a seilwaith rhwydwaith gwyrdd / glas y Fro a gwneud y gorau o'r cyfleoedd i ymdrechu i gyflawni budd bioamrywiaeth net. Rhaid rheoli adnoddau naturiol, mwynau a gwastraff mewn ffordd gynaliadwy ym Mro Morgannwg er mwyn sicrhau effeithlonrwydd adnoddau, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

 Cofleidio Diwylliant a Threftadaeth

Cadw a gwella asedau diwylliannol a threftadaeth yr awdurdod, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd a gyflwynir gan y Fro o ran ei hamgylchedd adeiledig a naturiol, ei hunaniaeth ddiwylliannol a'r Gymraeg.

 Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog a Chysylltiedig

Meithrin datblygiad cymunedau sydd wedi'u cysylltu'n dda, sy'n gydlynus a sicrhau bod yr holl brosesau ymgysylltu mor gynhwysol â phosibl, gan ganiatáu i bawb sy'n dymuno rhannu eu barn drwy gydol proses y CDLlN i wneud hynny.

 Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy

Hyrwyddo ac annog defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio, yn enwedig dulliau teithio llesol, tra'n lleihau'r angen i deithio ar yr un pryd.

 Adeiladu Economi Lewyrchus a Gwyrdd

Hwyluso twf economaidd ledled yr awdurdod, gan sicrhau amrywiaeth a dewis o safleoedd cyflogaeth lleol a strategol a chyfleoedd gwaith mewn ymateb i anghenion cyflogaeth. Dylai'r cyfleoedd hyn allu addasu i newid a meithrin twf gweithlu medrus iawn.

4.2 Mae datblygiad elfennau craidd y Strategaeth a Ffefrir, sef y Weledigaeth, amcanion a pholisïau strategol a nodir yn yr adrannau canlynol wedi'u llunio gan y themâu allweddol hyn.

CWESTIWN 2: THEMÂU ALLWEDDOL

Nodwyd y Themâu Allweddol yn Adran 4 y Strategaeth a Ffefrir gan ystyried nodweddion allweddol y Fro, y cyd-destun polisi cenedlaethol a lleol ac adborth rhanddeiliaid a’r rhain sy’n siapio elfennau craidd y Strategaeth a Ffefrir. A ydych yn cytuno bod y naw thema yn cwmpasu’n briodol y materion sydd angen eu hystyried?

GWELEDIGAETH (2021 - 2036)

4.3 Mae gan y CDLlN rôl hanfodol i'w chwarae wrth hyrwyddo a darparu cymunedau cynaliadwy, bywiog a chynhwysol. Mewn ymateb i'r materion strategol ac allweddol, mae Gweledigaeth y CDLlN ynghyd â'r 10 amcan strategol yn trosi'r ffordd y bydd y Cyngor, drwy gynllunio defnydd tir, yn sicrhau bod datblygiad yn y dyfodol yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r materion allweddol hyn yn y Fro ac yn cefnogi'r cyfleoedd, a'r uchelgeisiau ar gyfer Bro Morgannwg dros oes y cynllun.

4.4 Mae Gweledigaeth y CDLlN yn edrych ymlaen at 15 mlynedd hyd at 2036 ac yn dangos sut y bydd twf yn cyfrannu at wneud y Fro yn lle iachach, cysylltiedig a chynaliadwy lle mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo. Mae'n pennu'r cyfeiriad cyffredinol a ddisgrifir yn fanylach mewn amcanion gofodol mwy penodol, ac yn ffurfio'r cysylltiad rhwng y weledigaeth lefel uchel a'r strategaeth twf gofodol a'r polisïau strategol.

Gweledigaeth CDLIN Bro Morgannwg

Erbyn 2036 : 
Bydd y Cyngor wedi cyflawni ei darged o fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae wedi mabwysiadu technegau arloesol a defnyddio adnoddau yn effeithlon i liniaru ei effaith ar yr amgylchedd, ac mae prosiectau di-garbon enghreifftiol gan gynnwys ysgolion a rhwydweithiau gwresogi ardal wedi'u gweithredu. Mae datblygu Parc Ynni Gwyrdd Aberddawan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu Bro Morgannwg fel canolfan ranbarthol ar gyfer arloesi ym maes ynni adnewyddadwy a gwyrdd a gweithgynhyrchu di-garbon. Mae'r holl ddatblygiadau ym Mro Morgannwg bellach wedi eu hadeiladu i'r safonau uchaf o ran dylunio a pherfformiad amgylcheddol, gan ymgorffori mesurau i liniaru ac addasu i effeithiau Newid yn yr Hinsawdd.

Mae Bro Morgannwg yn lle iach a chynhwysol i bawb, gyda mynediad teg at wasanaethau a chyfleusterau, yn gorfforol a digidol. Mae'r trigolion yn falch o lle maen nhw'n byw a gallant gael y cartrefi sydd eu hangen arnynt. Mae twf tai wedi darparu cartrefi sy'n darparu ar gyfer pawb, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy a thai pobl hŷn; gan gyfrannu tuag at gymunedau amrywiol a chydlynus lle gall trigolion gynnal eu hannibyniaeth.

Drwy greu lleoedd, mae lleoedd a gofodau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gymdeithasol gynhwysol. Mae datblygiadau yn parchu cymeriad lleol ac mae'r ymdeimlad o le yn cael ei werthfawrogi gan drigolion ac yn cyfrannu'n gadarnhaol tuag at iechyd a lles. Cyflawnwyd gwelliannau cadarnhaol wrth leihau bwlch yr anghyfartaledd o ran ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd i drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf drwy well mynediad at gyflogaeth, addysg, hyfforddiant, gwasanaethau a buddsoddiad yn yr amgylchedd adeiledig.

Mae'r Fro yn mwynhau rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas cysylltiedig, aml-swyddogaethol a hygyrch, gan ddarparu ystod o fanteision hamdden ac iechyd gwell o fewn a rhwng trefi, pentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae mwy o drigolion yn cymryd rhan mewn ffyrdd o fyw iach a llesol. Mae buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd wedi cynhyrchu budd bioamrywiaeth net gyda chreu cynefinoedd newydd, gwell cysylltedd a Phlannu yn darparu storio carbon a chyfrannu at wytnwch ac addasu yn wyneb Newid yn yr Hinsawdd.

Mae'r Fro'n parhau i fod yn rhywle lle mae diwylliant ac amrywiaeth pobl, a rhinweddau unigryw ei chymunedau, yn cael eu cydnabod a'u gwarchod.

Mae creu lleoedd yn cefnogi ymdeimlad cryf o gymuned ac wedi cyfrannu at wella ansawdd bywyd pob cenhedlaeth. Mae trigolion ac ymwelwyr yn gallu cyrchu cyfleusterau lleol a lleoedd cynhwysol i gyfarfod a chwarae ynddynt. Bydd datblygiadau newydd yn parchu cymeriad lleol y Fro, gan warchod ei hamgylchedd hanesyddol, naturiol ac adeiledig eithriadol. Mae treftadaeth hanesyddol bwysig y Fro yn parhau i gael ei gwarchod a'i gwella.

Mae Rhaglen Twf ac Adfywio'r Cyngor ar gyfer y Barri wedi llwyddo i drawsnewid y dref. Mae'r dref a chanolfannau manwerthu lleol yn lleoedd bywiog, tra bod y marina newydd yng Nglannau'r Barri ac adfywio Ynys y Barri yn cynnig twristiaeth gydol y flwyddyn. Mae amrywiaeth o gynlluniau ardaloedd cyhoeddus wedi gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol drwy'r dref.

Mae trefi'r Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth yn ganolfannau gwasanaeth cynaliadwy bywiog a deniadol sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau a chyfleusterau i'w trigolion a'r rhai sy'n byw mewn pentrefi cyfagos. Mae canol trefi wedi addasu i adlewyrchu newidiadau mewn ymddygiad manwerthu a bellach yn gweithredu fel canolfannau aml-ddefnydd sy'n darparu mannau manwerthu, hamdden, hamddena, cymunedol a chyflogaeth.

Mae twf o fewn aneddiadau gwledig wedi darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn cefnogi cymunedau aml-genhedlaeth cytbwys sy'n cyfrannu at fywiogrwydd yr ardal wledig. Trwy fuddsoddi mewn teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, a chysylltedd band eang mae'r fro wledig yn gefn gwlad byw a gweithiol sy'n cefnogi rhwydwaith o gymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus.

Mae cyflawni Metro De-ddwyrain Cymru yn golygu bod Bro Morgannwg bellach wedi'i chysylltu'n dda gan system drafnidiaeth integredig sy'n cefnogi twf economaidd. Mae gan gymunedau fynediad at gysylltedd trafnidiaeth gwell yn lleol ac yn rhanbarthol, gyda thwf economaidd a thai yn cael ei ddarparu'n gynaliadwy er budd cymunedau. Mae rhwydweithiau teithio llesol gwell o fewn a rhwng trefi a phentrefi wedi creu cymdogaethau bywiog a hygyrch i drigolion sy'dd wedi eu cysylltu â'u haneddiadau gwledig cyfagos.

Mae gan y Fro economi leol ffyniannus gyda sylfaen fusnes gytbwys ac amrywiol. Mae twf cyflogaeth newydd ym Mharthau Menter Bro Tathan a Maes Awyr Caerdydd wedi denu buddsoddiad mewnol gan fusnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth ac uwch-dechnoleg, gan greu cyflogaeth a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae gan y Fro weithlu medrus sy'n gallu ymaddasu. Mae darparu safleoedd cyflogaeth strategol a lleol, ochr yn ochr â chyfleoedd i fusnesau gwledig, arallgyfeirio amaethyddol a chysylltedd digidol, wedi galluogi busnesau i dyfu a ffynnu ac mae wedi cyfrannu at ostyngiad mewn cymudo allan o'r ardal.

Drwy fuddsoddi'n gryf mewn twristiaeth, hamdden, hamddena ac isadeiledd gwyrdd, mae Bro Morgannwg yn gyrchfan ymwelwyr gydol y flwyddyn. Mae rheoli sensitif a chynaliadwy ar ei hasedau adeiledig a naturiol gan gynnwys yr Arfordir Treftadaeth, Parciau Gwlad, traethau, cefn gwlad a threftadaeth hanesyddol wedi galluogi twristiaeth i ffynnu. Mae'r Fro yn denu ymwelwyr o bell ac mae twristiaeth yn ffynhonnell bwysig o gyflogaeth leol, buddsoddiad, ac yn hwylusydd arallgyfeirio gwledig.

CWESTIWN 3: GWELEDIGAETH

Mae Gweledigaeth CDLlN Bro Morgannwg yn nodi sut fydd y CDLlN yn cyfrannu at wneud y Fro yn lle iachach, cysylltiedig a chynaliadwy lle mae pobl eisiau byw a gweithio dros gyfnod y Cynllun. Ydych chi'n cytuno â Gweledigaeth y CDLlN?

AMCANION STRATEGOL

4.5 Mae'r 10 amcan strategol isod yn ehangu weledigaeth y CDLl yn 9 thema allweddol ar gyfer Bro Morgannwg. Mae'r amcanion hyn nid yn unig yn adlewyrchu polisi cynllunio cenedlaethol, ond hefyd dyheadau'r Cyngor a rhanddeiliaid allweddol ac yn dangos sut y bydd y CDLl yn helpu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd.

Amcan 1 - Lliniaru ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

  • Sicrhau'r defnydd effeithlon o adnoddau naturiol, hyrwyddo technegau dylunio ac adeiladu cynaliadwy o fewn datblygiadau newydd. Cefnogi mwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, gan gynnwys cynlluniau gwresogi ardal a rhai wedi'u harwain gan y gymuned.
  • Annog datblygiad sy'n lleihau'r angen i deithio mewn car ac annog pobl i arfer teithio llesol a defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer.
  • Sicrhau bod yr holl ddatblygiadau a seilwaith newydd yn wydn o ran effeithiau yn deillio o Newid yn yr Hinsawdd yn y dyfodol. Cyfeirio datblygiadau i ffwrdd o ardaloedd sy'n dueddol o wynebu risg llifogydd ac ymgorffori mesurau rheoli dŵr, a mesurau gwella bioamrywiaeth ac addasu.

Amcan 2 - Gwella Iechyd Meddyliol a Chorfforol a Llesiant

  • Sicrhau bod pob man yn cynnig amgylcheddau cynhwysol a hygyrch ar gyfer pob oedran sy'n hwyluso rhyngweithio â natur a phobl eraill, a mynediad at gyfleusterau gofal iechyd angenrheidiol. Galluogi preswylwyr i gymryd rhan mewn ffyrdd o fyw actif, drwy ddarparu mynediad cyfleus i fannau agored a llwybrau teithio llesol ar gyfer hamdden, hamddena a gwaith.
  • Galluogi darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac adfywio lleol sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol.

Amcan 3 - Cartrefi i Bawb

  • Sicrhau bod pob datblygiad preswyl newydd yn darparu tai o safon uchel sy'n cynnwys y cymysgedd, y ddeiliadaeth a'r math o gartrefi cywir sy'n ymateb i anghenion newidiol poblogaeth y Fro. Mae hyn yn cynnwys cartrefi sy'n fforddiadwy, hygyrch ac addasadwy i bobl o bob oed a sy'n mynd i'r afael ag anghenion llety hysbys holl gymunedau'r Fro drwy bob cyfnod o'u bywydau.

Amcan 4 - Creu Lleoedd

  • Drwy greu lleoedd, sicrhau y bydd y pob datblygiad yn cyfrannu'n gadarnhaol tuag at greu ymdeimlad o le. Bydd yr holl ddatblygiadau newydd wedi'u lleoli'n briodol ac yn cyfrannu tuag at greu lleoedd llesol, diogel, a hygyrch sy'n cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau. Bydd cymeriad y cymunedau presennol yn cael eu diogelu a'u gwella drwy ddatblygu lleoedd sy'n parchu arbenigrwydd lleol a'u lleoliad presennol.
  • Hwyluso darpariaeth seilwaith cymunedol hygyrch sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion y gymuned, gan gynnwys iechyd o ansawdd uchel, addysg, hyfforddiant, a chyfleusterau a mannau cymunedol diwylliannol, cymdeithasol a hamdden.

Amcan 5 – Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

  • Sicrhau bod pob datblygiad yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu rhwydwaith o seilwaith gwyrdd, diogelu cynefinoedd naturiol ac ansawdd pridd a helpu i wrthdroi'r argyfwng natur drwy ddarparu budd bioamrywiaeth net lleol.
  • Blaenoriaethu tir llwyd a ddatblygwyd yn flaenorol ar gyfer datblygiadau newydd, gan gyfeirio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth natur a diogelu'r amgylchedd naturiol sensitif rhag datblygiad amhriodol.

Amcan 6 - Cofleidio Diwylliant a Threftadaeth

  • Cydnabod gwerth treftadaeth adeiledig y Fro drwy wreiddio creu lleoedd yn y broses Gynllunio, er mwyn sicrhau bod cynigion datblygu yn amddiffyn amgylchedd adeiledig hanesyddol y Fro rhag newidiadau niweidiol. Sicrhau bod datblygiadau newydd yn gwarchod a gwella rhinweddau deniadol asedau hanesyddol y Fro, yn ymateb yn briodol i'r cyd-destun unigryw lleol a sicrhau safonau dylunio uchel.
  • Cynnal a gwella cyfleusterau diwylliannol y Fro, a lle bo'n briodol sicrhau cyfleoedd ar gyfer cyfoethogi diwylliannol, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, o fewn datblygiadau newydd, yn yr amgylchfyd cyhoeddus a thrwy ddarparu gofodau ac adeiladau cymunedol aml-bwrpas.

Amcan 7 - Meithrin Cymunedau Amrywiol, Bywiog, a Chysylltiedig

  • Hwyluso adfywiad ffisegol, economaidd, a chymdeithasol, gan adlewyrchu anghenion a dyheadau cymunedau lleol, drwy ddarparu cartrefi newydd, cyflogaeth, a chysylltedd trafnidiaeth gwell.
  • Galluogi arallgyfeirio o ran defnydd o fewn canolfannau masnachol a gwasanaeth lleol i gynnig cymysgedd o ddefnyddiau manwerthu, hamdden, masnachol a chymunedol. Gwella teithio llesol a chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus o fewn a rhwng trefi ac aneddiadau cyfagos.
  • Darparu ar gyfer cymunedau gwledig hanfodol a bywiog tra'n gwarchod cefn gwlad trwy sicrhau twf mewn lleoliadau cynaliadwy, sy'n gysylltiedig â'r Hierarchaeth Aneddiadau, ochr yn ochr â darparu seilwaith ategol.

Amcan 8 - Hyrwyddo Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy

  • Sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu cyfeirio at leoliadau sy'n hygyrch neu'n gallu bod yn hygyrch drwy ddewis o ddulliau teithio, gan gynnwys cerdded, beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynyddu'r cyfleoedd i breswylwyr deithio'n llesol, drwy ymgorffori cyfleusterau teithio llesol ac annog newid moddol tuag at fwy o ddefnydd ar drafnidiaeth gynaliadwy.
  • Dod o hyd i gyfleoedd i wneud y mwyaf o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth leol sy'n deillio o Fetro De-ddwyrain Cymru er mwyn cryfhau cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn lleol ac yn rhanbarthol, darparu rheolaeth dros y rhwydwaith priffyrdd, a chynnig dewisiadau diogel ac effeithiol ar gyfer cerdded a beicio ochr yn ochr â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus well.

Amcan 9 - Adeiladu Economi Ffyniannus a Gwyrdd

  • Darparu ar gyfer amrywiaeth a dewis o dir cyflogaeth o ansawdd da a chefnogi seilwaith i alluogi busnesau lleol i ehangu. Creu cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad a galluogi economi'r Fro i ymateb i newidiadau mewn patrymau gwaith a chyflogaeth yn y dyfodol.
  • Hyrwyddo Parth Menter Bro Tathan, Maes Awyr Caerdydd ac Aberddawan, fel meysydd cyflogaeth strategol pwysig, gan alluogi darparu swyddi medrus o safon uchel, hyfforddiant a chyfleoedd addysg.
  • Cefnogi arallgyfeirio'r economi wledig, gan alluogi cyfleoedd i ddarparu safleoedd cyflogaeth a busnes o fewn aneddiadau gwledig a hwyluso'r twf mewn mentrau gwledig.
  • Hwyluso twf twristiaeth gynaliadwy, gan gydnabod ei gyfraniad at les economaidd y Fro. Galluogi gwell hamdden, hamddena, gweithgarwch economaidd, arallgyfeirio, a datblygu cynaliadwy.

Amcan 10 – Hyrwyddo Twristiaeth Gynaliadwy

  • Creu cyrchfan dwristiaeth ddeniadol gyda delwedd bositif i Fro Morgannwg, gan annog datblygu cynaliadwy a chyfleusterau o safon i gyfoethogi profiad ymwelwyr a phreswylwyr.

CWESTIWN 4: AMCANION STRATEGOL 

Mae'r deg amcan strategol yn dangos sut y bydd y CDLlN yn cyfrannu tuag at fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ym Mro Morgannwg. A ydych yn cytuno â'r amcanion strategol? (Nodwch pa rai o'r amcanion y mae eich sylwadau'n ymwneud â nhw). 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig