Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 14 Chwefror 2024

5. Opsiynau'r Strategaeth Ofodol a Thwf

5.1. Prif ddiben y strategaeth a ffafrir yw creu darlun clir o lefel y twf a dosbarthiad gofodol datblygiad ym mro morgannwg, er mwy cyflawni'r weledigaeth a'r amcanion dros gyfnod y cynllun.

5.2. Mae ystyried opsiynau gofodol realistig yn rhan bwysig o'r gwaith o baratoi'r CDLlN. Bydd angen i bob opsiwn gofodol roi ystyriaeth i ddeddfwriaeth, polisi cynllunio cenedlaethol a strategaethau lleol a rhanbarthol. Ar ben hyn, mae'n rhaid i'r Cynllun roi ystyriaeth i nodweddion, asedau a phroblemau penodol o fewn Bro Morgannwg, a cheisio llywio datblygiad er mwyn ymateb i hynny. Mae'n rhaid i'r strategaeth gyflawni'r Weledigaeth a'r Amcanion.

Opsiynau'r Strategaeth Ofodol

5.3. Gan fod y Cyngor eisoes wedi mabwysiadu CDLl, mae Strategaeth bresennol y CDLl wedi cael ei hasesu ochr yn ochr â thair strategaeth amgen, er mwyn penderfynu a yw'n parhau i fod yn briodol o fewn y cyd-destun polisi cyfredol. Dyma'r pedwar opsiwn sydd wedi cael eu hystyried ar gyfer y strategaeth.

  • Opsiwn 1 – Parhau â Strategaeth Twf y CDLl mabwysiedig.
  • Opsiwn 2 – Twf Gwasgaredig.
  • Opsiwn 3 – Twf â Ffocws.
  • Opsiwn 4 – Twf Cynaliadwy sy'n Canolbwyntio ar Drafnidiaeth.

5.4. Ystyrir bod y pedwar opsiwn gofodol yn realistig, ond y byddent yn arwain at wahanol ffyrdd o ddosbarthu twf tai a mathau eraill o ddatblygiad. Mae dadansoddiad o bedwar opsiwn y strategaeth ofodol wedi'i gynnwys yn y Papur Cefndir Opsiynau Gofodol. Mae'r papur hwn yn ystyried manteision ac anfanteision pob opsiwn gofodol, gan gynnwys y graddau y mae pob opsiwn gofodol yn cydymffurfio â Dyfodol Cymru. Mae pob un o'r opsiynau strategaeth hefyd wedi cael eu hystyried yn rhan o'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.

5.5. Ceir rhai materion polisi cynllunio allweddol y mae'n rhaid eu hymgorffori ym mha bynnag opsiwn strategaeth a ddewisir gan eu bod yn rhan annatod o unrhyw strategaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Defnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen yn y lle cyntaf cyn safleoedd maes glas.
  • Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy liniaru ac ymaddasu.
  • Hyrwyddo egwyddorion creu lle.
  • Hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a newid dulliau teithio.
  • Gwneud y gorau o gyfleoedd i wella seilwaith gwyrdd.
  • Ymateb i'r argyfwng natur drwy fudd net bioamrywiaeth.

5.6. Ar ôl dadansoddi'r opsiynau, ac yn dilyn adborth o'r sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ystyrir mai'r Opsiwn Twf sy'n Canolbwyntio ar Drafnidiaeth yw'r opsiwn mwyaf priodol gan mai dyna sy'n cyd-fynd orau â gofynion polisi Dyfodol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru a Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, drwy leoli datblygiad mewn mannau cynaliadwy yn bennaf, gan leihau'r angen i deithio ac annog defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy. Bydd yr opsiwn hwn hefyd yn ystyried capasiti aneddiadau i gynnwys datblygiadau, yn hytrach na thargedu datblygiadau i safleoedd o faint neu leoliad penodol yn yr hierarchaeth aneddiadau.

5.7. Yn dilyn y broses ymgysylltu, roedd ffocws y strategaeth wedi'i fireinio, fel ei fod nid yn unig yn ceisio lleoli safleoedd mewn lleoedd â gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus da, ond hefyd yn targedu datblygiadau mewn mannau sy'n lleihau'r angen deithio yn y lle cyntaf, drwy gydleoli tai mewn lleoedd â chyfleoedd cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol. Mae'r Strategaeth Twf Cynaliadwy hon hefyd yn ymateb i'r angen dybryd am dai fforddiadwy, drwy leoli datblygiadau'n bennaf mewn ardaloedd lle ceir y mwyaf o angen. Mae'r strategaeth hefyd yn caniatáu datblygiadau tai fforddiadwy ar raddfa fach mewn aneddiadau gwledig llai lle bo'n briodol er mwyn ymateb i'r angen am dai fforddiadwy mewn cymunedau ledled y Fro.

5.8. Ceir esboniad manylach o gydrannau'r Strategaeth Twf Cynaliadwy yn yr adran Trosolwg o Strategaeth a Ffafrir y CDLlN.

CWESTIWN 5: OPSIYNAU STRATEGAETH OFODOL  

Mae'r Cyngor wedi ystyried pedwar opsiwn strategol ar gyfer lle y dylid lleoli datblygiadau newydd dros gyfnod y Cynllun. A ydych yn cytuno â'r 'Opsiwn Twf sy'n Canolbwyntio ar Drafnidiaeth Gynaliadwy' fel sail i elfen ofodol y Strategaeth a Ffefrir? 

Opsiynau Twf

5.9. Un o brif swyddogaethau'r CDLl Newydd yw sicrhau bod digon o dir ar gael ym Mro Morgannwg i fodloni'r gofynion o ran tai a chyflogaeth yn y dyfodol, dros oes y cynllun. Mae'r gofynion hyn yn dibynnu ar nifer y bobl, felly mae lefel y boblogaeth y bydd yn rhaid darparu ar ei chyfer yn y dyfodol yn ystyriaeth allweddol yn y cynllun.

5.10. Wrth baratoi'r CDLlN, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried ystod o senarios twf poblogaeth er mwyn cynorthwyo i nodi lefel y twf o ran tai a chyflogaeth a ddarperir dros gyfnod y cynllun. Gan hynny, comisiynwyd Edge Analytics gan y Cyngor i lunio papur technegol (Tystiolaeth Ddemograffig Bro Morgannwg Chwefror 2023) i ddarparu ystod o dystiolaeth ynghylch twf y boblogaeth, tai a chyflogaeth yn sail ar gyfer y CDLlN a oedd ar ddod. Mae'r adroddiad yn adeiladu ar amcanestyniadau aelwydydd a phoblogaeth Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â senarios demograffig, a senarios yn seiliedig ar anheddau a chyflogaeth.

5.11. I ategu'r dystiolaeth ddemograffig, comisiynodd y Cyngor Astudiaeth Tir Cyflogaeth (ATC, Hydref 2022) i nodi'r gofynion o ran tir cyflogaeth yn y Fro. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, roedd yr ATC yn ystyried amryw o senarios yn seiliedig ar dueddiadau i nodi'r angen dros oes y cynllun, ac yn nodi'r tir cyflogaeth y byddai ei angen ar gyfer pob opsiwn. Argymhellai'r ATC y dylai'r Cyngor fabwysiadu darpariaeth tir cyflogaeth yn seiliedig ar ddefnydd yn y gorffennol, a olygai fod angen darparu 67.80ha o dir â chapasiti i gynnal 5,338 o swyddi dros gyfnod y cynllun.

5.12. Mae Tabl 1 yn crynhoi'r 12 opsiwn twf a ystyriwyd gan y Cyngor ac yn cynnwys y gofynion tai a thwf sy'n deillio o'r rhagdybiaethau ym mhob un. Rhoddir esboniad llawn o'r senarios a ystyriwyd ym Mhapur Cefndir Opsiynau Twf y Cyngor[ii].

Tabl 1: Opsiynau Twf a ystyriwyd gan y Cyngor

Senario

Newid 2021-2036

Cyfartaledd y flwyddyn

Newid i'r boblogaeth

Newid i'r boblogaeth %

Newid i aelwydydd

Newid i aelwydydd %

Mudo net

Anheddau

Cyflogaeth

5M yn seiliedig ar anheddau

19,048

13.9

10,062

16.9

1,360

698

493

PG-5M

16,923

12.4

9,187

15.4

1,222

637

426

AdTC yn seiliedig ar gyflogaeth

13,224

9.8

7,599

12.9

1,020

527

341

LlC-2018-POBUCHEL

13,127

9.7

7,500

12.7

938

520

292

10M yn seiliedig ar anheddau

13,154

9.7

7,587

12.8

1,009

526

325

AdTC yn seiliedig ar gyflogaeth (CR 1-1)

10,719

7.9

6,548

11.1

869

454

341

LlC-2018

9,787

7.3

6,214

10.6

851

431

243

PG-Tymor Hir

8,561

6.3

5,705

9.6

739

396

210

PG-10M

8,519

6.3

5,695

9.6

741

395

197

LlC-2018-POBISEL

5,172

3.8

4,559

7.8

759

316

191

OE yn seiliedig ar gyflogaeth

2,402

1.8

3,041

5.2

367

211

25

LlC-2014

13

0.0

2,182

3.9

64

151

-126


5.13. Er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid, cafodd yr opsiynau eu rhannu i gategorïau twf uchel, canolig ac isel.

  • Twf uchel: 550 i 700 o anheddau y flwyddyn a 400 i 500 o swyddi newydd y flwyddyn, (senarios PG-5M a 5M yn seiliedig ar anheddau).
  • Twf canolig: 400 i 550 o anheddau y flwyddyn a 240 i 350 o swyddi newydd y flwyddyn (LlC-2018, AdTC yn seiliedig ar Gyflogaeth (CR 1-1), 10M yn seiliedig ar Anheddau, LlC-2018-POBUCHEL, a senarios AdTC yn seiliedig ar gyflogaeth).
  • Twf isel: 150 i 400 o anheddau'r flwyddyn, a gostyngiad o 125 o swyddi i gynnydd o 210 o swyddi'r flwyddyn (LlC-2014, OE yn seiliedig ar Gyflogaeth, LlC-2018-POBISEL, senarios PG-10M, PG-Tymor hir)

5.14. Fel yr eglurir yn y Papur Cefndir Opsiynau Twf, cafwyd cefnogaeth tuag at lefel ganolig o dwf wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ystyrir hyn yn briodol am y rhesymau canlynol:

  • Byddai nifer y swyddi sy'n gysylltiedig â'r cynnydd yn y boblogaeth yn cyd-fynd ag argymhellion yr ATC ynghylch nifer y swyddi y byddai eu hangen, gan leihau'r angen i gymudo.
  • Ym mhob opsiwn, byddai'r boblogaeth 65+ oed yn cynyddu, ond byddai'r lefel hon o dwf hefyd yn sefydlogi'r poblogaethau oed gwaith ac oed ysgol dros gyfnod y cynllun, yn wahanol i'r opsiwn twf poblogaeth isel, lle byddai gostyngiad cyffredinol yn y grwpiau oedran hyn. Byddai poblogaeth oed gwaith ac oed ysgol sefydlog yn cefnogi twf economaidd ac yn helpu i sicrhau cymunedau cytbwys sy'n ffynnu, lle mae gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol fel ysgolion yn parhau i fod yn hyfyw.
  • Ar gyfer y lefel hon o dwf byddai angen dyrannu lefel gymedrol o anheddau newydd, a fydd yn cynyddu cyfleoedd i sicrhau tai fforddiadwy drwy gytundebau Adran 106, a darparu dyraniadau ychwanegol sy'n seiliedig ar dai fforddiadwy. Bydd hyn o gymorth i fynd i'r afael â'r angen sylweddol am dai fforddiadwy a nodwyd ar draws y Fro. O dan yr opsiynau twf isel, ni fyddai angen dyrannu unrhyw safleoedd tai newydd ychwanegol gan fod digon o dir o fewn y cyflenwad presennol i fodloni'r gofynion tai. Byddai cyfleoedd i ddarparu tai fforddiadwy felly'n brin.
  • Byddai lefel ganolig o dwf yn cyd-fynd â'r dyheadau ar gyfer Bro Morgannwg o fewn ardal dwf genedlaethol Cymru'r Dyfodol, a nodir fel ffocws ar gyfer twf economaidd a thai strategol. Dylai lefel y twf yn y cynllun fod yn ddigon uchelgeisiol i gefnogi hyn, gan ategu'r twf yng Nghaerdydd - a nodir yn Dyfodol Cymru fel prif anheddiad y rhanbarth - heb gystadlu â'r twf hwnnw, Ystyrir na fyddai twf isel, sef peidio dyrannu unrhyw safleoedd newydd ar gyfer tai na chyflogaeth, yn gyson â'r hyn y mae'r ardal dwf genedlaethol yn ceisio'i gyflawni. I'r gwrthwyneb, gallai lefel o dwf y tu hwnt i'r hyn a gyflawnwyd yn realistig yn y gorffennol, fel sy'n ofynnol yn y senarios twf uchel, greu goblygiadau o ran lefel y twf y gallai ALlau eraill ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ei chynnwys.
  • Ystyrir bod digon o gapasiti yn y Fro i gynnwys lefel ganolig o dwf y gellir ei ddarparu mewn lleoliadau cynaliadwy ac mewn modd sy'n amddiffyn ardaloedd mwyaf gwerthfawr yr amgylchedd naturiol ac adeiledig i raddau priodol.

5.15. Er mwyn ymateb i Amcanion y CDLlN, yn enwedig darparu 'Cartrefi i Bawb' ac 'Adeiladu Economi Ffyniannus a Gwyrdd,' ystyrir y byddai'r sylfaen dystiolaeth yn cefnogi twf tuag at ben uchaf yr ystod 'ganolig' gan y byddai hyn yn cynyddu'r potensial i ddarparu tai fforddiadwy hyd yr eithaf, ac yn creu'r gyfatebiaeth orau rhwng y cynnydd i'r boblogaeth oed gwaith a'r gofynion cyflogaeth.

5.16. Yr opsiwn Twf a Ffafrir yw'r Senario 10 mlynedd yn seiliedig ar anheddau, sy'n seiliedig ar y gyfradd adeiladu flynyddol gyfartalog yn 10 mlynedd cyntaf y cynllun mabwysiedig (526 o anheddau'r flwyddyn neu 7,890 dros oes y cynllun). Gan fod yr opsiwn hwn yn adlewyrchu'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ystyrir ei fod yn realistig ac yn gyflawnadwy ac yn ddigon uchelgeisiol, ac ystyried safle'r Fro o fewn yr ardal dwf genedlaethol.

CWESTIWN 6: OPSIYNAU TWF

Wrth baratoi'r Strategaeth a Ffefrir, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried ystod o senarios twf yn y boblogaeth er mwyn helpu i adnabod lefel y twf tai a chyflogaeth a gaiff ei ddarparu dros gyfnod y Cynllun.

  1. A ydych yn cytuno â'r opsiwn twf tai a ffefrir, y 'senario 10 mlynedd a arweinir gan anheddau' sy'n nodi gofyniad tai o 7,890 o anheddau dros gyfnod y cynllun (526 annedd y flwyddyn)? 
     
  2. A ydych yn cytuno ag argymhelliad darpariaeth tir cyflogaeth y Cyngor o 67.8ha dros gyfnod y Cynllun? 
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig