Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir
1.1 Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i reoli tir a datblygiad yn y tymor hir, gan nodi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer yr ardal, ac yn nodi ble a sut y dylid datblygu yn y dyfodol.
1.2 Mabwysiadwyd CDLl presennol Bro Morgannwg ym mis Mehefin 2017, ac mae'n cwmpasu'r cyfnod 2011-2026. Ar ôl mabwysiadu'r CDLl, mae'n ofynnol i'r Cyngor fonitro perfformiad y cynllun yn flynyddol, ac ar ôl 4 blynedd cynnal adolygiad o'r cynllun i ystyried a oes angen diweddaru neu ddisodli ei CDLl. Cynhaliwyd adolygiad o'r CDLl mabwysiedig ym mis Mehefin 2021 a ddaeth i'r casgliad bod angen llunio CDLl Newydd (CDLlN) oherwydd newidiadau i gynllunio cenedlaethol ac uchelgeisiau a dyheadau newydd y Cyngor, megis mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Dechreuwyd y gwaith ar y CDLlN yn ffurfiol ym mis Mai 2022 a fydd yn disodli'r CDLl mabwysiedig presennol ar ôl ei fabwysiadu a bydd yn cwmpasu'r cyfnod 2021-2036.
1.3 Bydd y CDLlN yn nodi ble a sut y bydd datblygiadau newydd yn digwydd yn y cyfnod hyd at 2036. Bydd yn cynnwys dyraniadau safle ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, fel tai a chyflogaeth, a pholisïau i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur datganedig, diogelu'r amgylchedd, a sicrhau dyluniad o ansawdd uchel. Pan gaiff ei fabwysiadu gan y Cyngor, bydd y CDLl yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio.
Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl?
1.4 Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cam ymgynghori statudol cyntaf yn y broses o baratoi CDLlN ac, yn unol â Rheoliadau'r CDLl, mae'n destun ymgynghoriad cyhoeddus statudol chwe wythnos.
1.5 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r cyfeiriad strategol arfaethedig y bydd y Cyngor yn ei gymryd wrth reoli datblygiad ym Mro Morgannwg hyd at 2036. Mae'n nodi Gweledigaeth, amcanion strategol, a strategaeth ofodol eang y Cyngor, gan gynnwys lefel twf strategol a dosbarthiad gofodol eang twf ledled Bro Morgannwg, fel y dangosir isod:
Ffigur 1: Dadansoddiad o'r Strategaeth a Ffefrir
1.6 Nid y Strategaeth a Ffefrir yw'r CDLlN terfynol ac felly nid yw'n cynnwys yr holl bolisïau, cynigion defnydd tir na seilwaith y bydd eu hangen i gefnogi datblygiad. Bydd y manylion hyn yn cael eu nodi yn y CDLlN ar Adnau a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau 2025.
1.7 Wrth ddatblygu ei Strategaeth a Ffefrir, mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i nodi'r materion allweddol y dylai'r CDLlN eu hystyried ac wrth ddatblygu'r Weledigaeth a'r Amcanion a'r Dewisiadau Twf a Gofodol a Ffefrir.. Mae Ffigur 2 yn dangos gwahanol gamau paratoi'r CDLlN a safle'r Ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLlN o fewn y camau amrywiol wrth baratoi'r cynllun. Mae amserlen paratoi'r CDLlN llawn a'r Strategaeth Cynnwys y Gymuned wedi'u nodi yn y Cytundeb Cyflenwi cymeradwy sydd ar gael ar wefan y Cyngor.
Ffigur 2: Camau Paratoi CDLlN
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o'r Strategaeth a Ffefrir
1.8 Yn unol â gofynion statudol, mae paratoi'r Strategaeth a Ffefrir wedi bod yn ddarostyngedig i a'i lywio gan Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI). Mae'r ACI yn cyflawni'r gofynion a'r dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), Asesiad Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (ALlCD), Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (AEI), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) ac Asesiad o'r Effaith ar Y Gymraeg (AEYG).
1.9 Nod yr ACI yw asesu i ba raddau y bydd polisïau cynllunio datblygol yn helpu i gyflawni amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y CDLlN. Cyhoeddir ACI y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft fel dogfen ar wahân. Mae'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft hefyd wedi ei sgrinio o dan yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Mae'r ddwy ddogfen yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLlN ac maent ar gael ar wefan y Cyngor.
1.10 Cynhaliwyd yr asesiadau hyn mewn modd integredig a'u defnyddio fel offer llunio cynlluniau i lywio'r Strategaeth a Ffefrir sy'n caniatáu craffu ar oblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pob elfen o'r Strategaeth ac i fynd i'r afael ag unrhyw ansicrwydd, materion neu ofynion lliniaru a nodwyd yn ystod y prosesau asesu effaith. Bydd y broses ailadroddol hon yn parhau i fod yn rhan annatod o waith paratoi cynllun y Cyngor o'i CDLlN.
Dogfennau Ategol Eraill
1.11 Yn eistedd ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir mae nifer o bapurau tystiolaeth gefndir sy'n darparu ffynonellau gwybodaeth allweddol sydd wedi llywio'r strategaeth. Cyhoeddwyd y dogfennau hyn ar wahân ac maent ar gael ar wefan y Cyngor.
1.12 Maent yn canolbwyntio'n fanylach ar rai o'r materion allweddol sydd o bwys arbennig i Fro Morgannwg ac felly i'r CDLlN. Dylid eu darllen ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft, gan mai dim ond eu prif ganfyddiadau a amlygir yn nogfen y Strategaeth a Ffefrir oherwydd y swm sylweddol o ddata a gwybodaeth gefndirol sydd ynddynt.
Dweud Eich Dweud ar y Strategaeth a Ffefrir
1.13 Byddai'r Cyngor yn croesawu eich barn ar Strategaeth a Ffefrir Ddrafft y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac i chi gael cyfle i chi ddweud eich dweud ar ddyfodol ardal y cynllun.
1.14 Bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn digwydd rhwng 6 Rhagfyr 2023 a 14 Chwefror 2024. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 23:59 ar 14 Chwefror 2024. Ni fydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad ac amser cau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried.
1.15 Mae'r Strategaeth a Ffefrir a'r holl ddogfennau ategol ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor ac mae copïau o'r Strategaeth a Ffefrir wedi'u rhoi yn holl lyfrgelloedd y Cyngor a'r Ganolfan Ddinesig.
Sut i Gyflwyno Sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft
1.16 Gellir gwneud sylwadau ar ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft yn y ffyrdd canlynol.
- Defnyddio ein porth ymgynghori ar-lein:
Mae'r Cyngor yn annog i bob ymateb i'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft gael ei wneud drwy ei borth ymgynghori ar-lein, sy'n cynnwys elfennau i'ch helpu i wneud sylwadau, yn ogystal â'r gallu i gadw ac adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad cyn ei gyflwyno'n derfynol.
I gyflwyno ymateb ar-lein i'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft, bydd angen i chi sefydlu cyfrif a dilyn y Cyfarwyddiadau sydd ar gael ar y wefan. Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio'r system ymgynghori ar-lein i ddarllen dogfennau a gyhoeddir gan y Cyngor a naill ai gwneud sylwadau yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus neu weld sylwadau a wnaed gan bobl eraill.
https://valeofglamorgan.oc2.uk/cy/
- E-bost: Llenwch y ffurflen ymgynghori sydd ar gael ar dudalen we'r Cyngor yn www.valeofglamorgan.gov.uk/ldp a'i hanfon i: LDP@bromorgannwg.gov.uk
- Post: Gallwch argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen sylwadau i'r tîm CDLl yn: Tîm CDLl, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfa'r Dociau, Heol yr Isffordd, y Barri CF63 4RT
1.17 Mae ffurflen sylwadau ymgynghoriad y Strategaeth Ddrafft a Ffefrir ar gael mewn fformatau eraill ar gais, e.e. Cymraeg, print bras. Cysylltwch â Thîm y CDLl yn LDP@valeofglamorgan.gov.uk neu'r cyfeiriad uchod.
Beth fydd yn Digwydd Ar Ôl yr Ymgynghoriad?
1.18 Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion sy'n dod i law yn ofalus. Bydd Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cael ei baratoi, a fydd yn nodi pwy yr ymgynghorwyd â nhw, y prif faterion a godwyd a sut mae'r sylwadau hyn wedi dylanwadu ar gam nesaf y gwaith o baratoi'r cynllun – y CDLlN ar Adnau.
1.19 Yn dilyn ymgynghoriad ar y CDLlN ar Adnau, bydd y Cyngor hefyd yn ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir a bydd paratoadau yn cael eu gwneud i'r cynllun gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a fydd yn trefnu penodi Arolygydd Cynllunio annibynnol i gynnal archwiliad cyhoeddus.
1.20 Yn dilyn yr archwiliad bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi adroddiad yn argymell newidiadau sydd angen eu gwneud i'r CDLl. Os yw'r Arolygydd o'r farn nad yw'r Cynllun yn gadarn yn sylfaenol, ni fydd yn cael ei argymell i'w fabwysiadu. Bydd casgliadau'r Arolygydd yn gyfrwymol ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, rhaid i'r Cyngor dderbyn y newidiadau a mabwysiadu'r CDLl fel y'i diwygiwyd.
1.21 Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CDLl Newydd yn disodli'r CDLl presennol a fabwysiadwyd yn 2017 a bydd yn dod y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.