Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir
3.1 Bro Morgannwg yw Awdurdod Unedol mwyaf deheuol Cymru, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Gaerdydd rhwng yr M4 ac Aber Afon Hafren. Mae'n gorchuddio arwynebedd o 33,097 hectar (130 milltir sgwâr) y mae'r rhan fwyaf ohono, tua 85% (28,132 hectar) yn dir amaethyddol.
3.2 Mae'r Fro yn ffinio ag Aber Afon Hafren ag iddi 53 cilomedr o arfordir, y mae 19 cilomedr ohono wedi'i ddynodi'n 'Arfordir Treftadaeth Morgannwg'. Yr awdurdodau lleol cyfagos yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'r gorllewin, Cyngor Caerdydd i'r dwyrain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'r gogledd.
3.3 Roedd poblogaeth y Fro tua 131,900 fel y nodwyd gan Gyfrifiad 2021. Y Barri, y dref fwyaf, yw'r ganolfan weinyddol a hi yw'r brif ganolfan boblogaeth gyda phoblogaeth breswyl o tua 56,600 o bobl yn 2021. Mae 45,300 o bobl eraill yn byw yn y trefi mwy, sef Penarth, Llanilltud Fawr, Dinas Powys a'r Bont-faen. Mae'r boblogaeth sy'n weddill wedi'i gwasgaru ledled pentrefi a phentrefi gwledig llai y Fro.
Patrwm Anheddiad
3.4 Mae patrwm anheddiad Bro Morgannwg wedi'i lunio i raddau helaeth gan dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal a thirwedd amaethyddol pennaf y Fro. Lleolir prif aneddiadau Y Barri a Phenarth ar yr arfordir ac fe'u datblygwyd o amgylch y porthladdoedd, gan wasanaethu'r galw am lo o Gymru, ond datblygwyd aneddiadau fel y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn drefi marchnad sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer amaethyddiaeth leol. I ffwrdd o'r prif ganolfannau, nodweddir y Fro gan gymysgedd o aneddiadau trefol wedi'u lleoli'n bennaf yn ne-ddwyrain y Fro, ac mewn mannau eraill mae'r Fro wledig yn cynnwys pentrefi a phentrefi bach.
3.5 Mae Papur Cefndir Adolygiad Arfarnu Aneddiadau Bro Morgannwg yn categoreiddio aneddiadau'r Fro yn bedwar categori sy'n cynrychioli orau rôl, cymeriad a swyddogaeth yr aneddiadau. Y rhain yw:
Anheddiad Allweddol:Y Barri
Aneddiadau Canolfannau Gwasanaeth: Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Penarth
Prif Aneddiadau:
Dinas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Llandochau (Penarth), Sili, Gwenfô, y Wig a Chroes Cwrlwys
Aneddiadau Gwledig Bach:
Aberddawan (Dwyrain) |
Craig Pen-llin |
Pen-llin |
Aberthin |
Llancarfan |
Llanbedr-y-fro |
Tresimwn |
Llandŵ |
Tresigin |
Tregolwyn |
Llan-faes |
Saint-y-brid |
Corntwn |
Llyswyrny |
Sain Nicolas |
Ewenni |
Aberogwr |
Tre-os |
Fferm Goch |
Pendeulwyn |
Ystradowen |
Pentrefannau ac Aneddiadau Gwledig Llai:
Aberddawan (Gorllewin) |
Llanfihangel |
Llansanffraid-ar-Elái |
Brychdwn |
Llansanwyr |
Sain Dunwyd |
Castell Alun |
Llantriddyd |
Sain Siorys |
Dinas |
Maendy |
Saint Hilari |
Y Ddrôp |
Marcroes |
Llwyneliddon |
Dyffryn |
Llanfihangel-y-pwll |
Eglwys y Santes Fair |
Trefflemin |
Yr As Fawr |
St Mary Hill |
Ffwl-y-mwn |
Moulton |
Sant Y Nyll |
Silstwn |
Norton |
Swanbridge |
Gwern y Steeple |
Pentref Ogwr |
Tair Onen |
Hensol |
Pancross |
The Downs |
Lampha |
Pen-marc |
The Herberts |
Larnog |
Penn Onn |
Tredogan |
Lecwydd |
Pentremeurig |
Trerhingyll |
Llanbydderi |
Porthceri |
Tre-Dodridge |
Llancatal |
Ruthun |
Twyn-yr-Odyn |
Llandochau (Y Bont-faen) |
Southerndown |
Tre-walter |
Llan-gan |
Saint Andras |
Llanddunwyd |
3.6 Ym mhegwn uchaf yr hierarchaeth mae anheddiad allweddol y Barri, sef y mwyaf o drefi'r Fro ac yn ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Wedi'i gydnabod fel canolfan weinyddol y Fro, mae'r Barri yn un o'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy i ganolbwyntio cyfleoedd datblygu newydd o bwys, gyda chysylltiadau rheilffordd ardderchog â Chaerdydd (4 trên yr awr) a Phen-y-bont ar Ogwr (1 trên yr awr ond disgwylir i hyn gynyddu i 2 fel rhan o welliannau Metro). Mae'r Barri yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau strategol gan gynnwys cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac ardaloedd manwerthu sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o nwyddau a chyfleusterau.
3.7 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ardal Dociau'r Barri wedi ei adfywio gryn dipyn gyda datblygiad y cynllun Glan y Dŵr defnydd cymysg ar dir llwyd ger y dociau, a buddsoddiad yn Ynys y Barri, sy'n ganolbwynt ar gyfer twristiaeth.
3.8 Er bod cymeriad aneddiadau'r Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr yn wahanol i'w gilydd o ran eu maint a'u lleoliad, ystyrir eu bod yn chwarae rolau strategol tebyg. Yn ogystal â phoblogaethau preswyl sylweddol, mae'r aneddiadau hyn hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyflogaeth lleol, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy, canolfannau manwerthu sefydledig ac amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau diwylliannol, addysgol a chymunedol. Am y rhesymau hyn, mae'r aneddiadau hyn wedi'u hystyried yn Aneddiadau Canolfannau Gwasanaeth sy'n adlewyrchu eu rôl wrth ddarparu ystod o wasanaethau sy'n gwasanaethu anghenion dyddiol eu trigolion ac yn gweithredu fel hybiau pwysig i'r rhai sy'n byw mewn aneddiadau llai cyfagos.
3.9 Mae prif aneddiadau Dinas Powys, Y Rhws, Sain Tathan, Llandochau (Penarth), Sili, Gwenfô, Y Wig a Chroes Cwrlwys yn ategu rôl Aneddiadau'r Ganolfan Wasanaeth yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn darparu ar gyfer anghenion yr ardaloedd gwledig ehangach cyfagos. Maent yn cynnig sawl gwasanaeth a chyfleuster allweddol, sy'n hanfodol i'w rôl fel cymunedau cynaliadwy, wrth iddynt leihau'r angen i deithio i'r Barri neu Aneddiadau'r Canolfannau Gwasanaeth ar gyfer anghenion o ddydd i ddydd.
3.10 Mae'r grŵp o Aneddiadau Gwledig Bychain wedi'u gwasgaru ledled y Fro ac yn cynnwys ystod fwy cyfyngedig ond pwysig o wasanaethau a chyfleusterau sy'n chwarae rhan weithredol wrth ddiwallu rhai o anghenion sylfaenol trigolion mewn ardaloedd gwledig, gan leihau'r angen i deithio.
3.11 Mae'r haen isaf o aneddiadau yn cynnwys 54 o bentrefi bach ac aneddiadau gwledig llai y Fro. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn cynnwys naill ai grwpiau bach o anheddau neu grwpiau mwy gwasgaredig o eiddo preswyl (yn aml yn cynnwys tai unigol ynysig neu ffermdai ac ysguboriau wedi'u trosi). Fel arfer mae gan y llefydd hyn boblogaethau preswyl llai, yn gyffredinol o dan 100 o drigolion. Er hynny, mae'r aneddiadau yn gyfranwyr pwysig at fywyd cefn gwlad ym Mro Morgannwg a chymeriad cefn gwlad y tu allan i'r prif aneddiadau.
Poblogaeth a Demograffeg
3.12 Rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf (2011 a 2021) cynyddodd poblogaeth Bro Morgannwg 4.4% o tua 126,300 yn 2011 i tua 131,900 yn 2021, a oedd yn fwy na'r newid canrannol ledled Cymru gyfan dros yr un cyfnod (1.4%).
3.13 Bu'r twf mwyaf yn y boblogaeth (2001–2020) yn y grŵp oedran 65–79, gyda chynnydd cyffredinol o bron i 50% (Ffigur 6). Mae'r grŵp oedran 80+ hefyd wedi gweld twf sylweddol, gan gynyddu 38% dros y cyfnod hanesyddol. Mae maint y boblogaeth oedran gweithio (15–64) wedi cynyddu 10%, tra bod y boblogaeth rhwng 0-4 wedi gostwng 2%. Mae heneiddio'r boblogaeth a welwyd ym Mro Morgannwg yn nodwedd anochel o'r newid yn y boblogaeth ledled y DU, wrth i garfannau geni mwy y cyfnod wedi'r rhyfel symud i'r oedrannau ymddeol ac wrth i welliannau mewn gofal iechyd olygu bod pobl yn byw yn hirach.
Ffigur 6: Ffynhonnell: SYG
3.14 Mae data mudo Bro Morgannwg yn dangos bod y cyfnewid poblogaeth mwyaf (mewnfudo ac allfudo) wedi digwydd rhwng y Fro a Chaerdydd gyfagos. Dangosir hyn yn Ffigur 7, sy'n dangos y bu cyfnewid cyson o bobl yn symud rhwng Caerdydd a'r Fro, gyda'r Fro yn gweld cynnydd net yn ei phoblogaeth (cyfartaledd o 717 y flwyddyn) oherwydd mudo o ardaloedd eraill, gan gynnwys llif mudo sylweddol o Gaerdydd. Yn fwy diweddar, ar gyfer y cyfnod 2016-2021, cynyddodd mudo net i'r Fro i 992 o bobl yn flynyddol (Ffigur 7), ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y cynnydd cyfartalog uwch yn y boblogaeth na Chymru a nodwyd yng nghyfrifiad 2021.
Ffigur 7: Ffynhonnell: Adroddiad Demograffeg Edge Analytics
3.15 Mae'r cyfnewid poblogaeth rhwng y Fro a Chaerdydd wedi dylanwadu ar broffil demograffig y ddau awdurdod hefyd. Mae ffigur 8 a 9 yn tynnu sylw at y ffaith y bu mewnlif net i'r Fro ers 2001 ar draws pob grŵp oedran, heblaw'r garfan 15–19 oed, gan fod grwpiau teulu yn arbennig wedi symud i'r Fro o leoedd fel Caerdydd. I'r gwrthwyneb, mae all-lif mawr wedi bod yn gysylltiedig â phobl ifanc yn gadael yr ardal i astudio mewn mannau eraill yn y DU. Adlewyrchir hyn hefyd yn y mewnlif o bobl ifanc 15–19 oed i Gaerdydd.
Ffigur 8: Mudo Net Mewnol Bro Morgannwg - Proffil Oedran (Ffynhonnell SYG)
Ffigur 9: Mudo Net Mewnol Caerdydd - Proffil Oedran Ffynhonnell: SYG
Y Farchnad Dai a'r Angen am Dai
3.16 Mae'r duedd mudo hirdymor o bobl sy'n symud rhwng Caerdydd a'r Fro yn awgrymu bod y Fro a Chaerdydd i ryw raddau yn rhannu marchnad dai fwy na'r farchnad dai leol, ac i raddau llai rhennir hyn hefyd â Phen-y-bont ar Ogwr gyfagos. Mae'r ffactorau hyn yn amlygu pwysigrwydd cydweithio rhwng y Fro a'i chymdogion wrth ystyried materion strategol fel twf tai.
3.17 Mae gan y Fro gost dai uchel gyda phrisiau cyfartalog tai ym mis Ebrill 2023 9.7 gwaith yn fwy ar gyfartaledd nag enillion cyfartalog y gweithle o'i gymharu â'r cyfartaledd rhanbarthol o 7.1[2]. O ran y Fro, mae tystiolaeth o brisiau tai lefel mynediad yn dangos bod y Fro yn cynnwys 4 ardal farchnad dai wahanol, Y Barri, Penarth, Arfordirol a Gwledig.
3.18 O ganlyniad, mae gan Fro angen sylweddol am dai fforddiadwy, gyda'r angen am dai fforddiadwy yn cynyddu'n gyson dros y 10 mlynedd diwethaf, er bod y Fro yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran darparu tai fforddiadwy. Mae asesiad diweddaraf y Cyngor o'r Farchnad Dai Leol (AFDL) yn nodi bod angen 1,205 o dai fforddiadwy y flwyddyn dros gyfnod o 5 mlynedd 2021-2026 ac mae canfyddiadau cychwynnol y diweddariad drafft AFDL (2023) yn nodi bod angen 1,121 o dai fforddiadwy y flwyddyn am y 5 mlynedd nesaf, a 204 o dai fforddiadwy y flwyddyn am y 10 mlynedd ganlynol. Mae'r asesiad yn amlygu mai'r ardaloedd yn y Fro sydd â'r angen mwyaf yw'r Barri a Phenarth, fodd bynnag, mae angen cyffredinol am amrywiaeth o fathau a meintiau o dai fforddiadwy ledled y Fro.
3.19 Disgwylir y bydd yr angen am dai fforddiadwy yn parhau i fod yn broblem fawr i'r CDLlN dros oes y cynllun.
Sipsiwn a Theithwyr
3.20 Ar hyn o bryd nid oes safleoedd Sipsiwn a Theithwyr cyhoeddus yn y Fro, ond mae 3 safle preifat â chaniatâd cynllunio parhaol (5 llain); 1 safle a oddefir (17 llain) a 2 ddatblygiad anawdurdodedig (4 llain). Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod anghenion llety presennol ac yn y dyfodol ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu diwallu drwy ddarparu digon o dir yn y CDLlN ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh) diweddaraf yn nodi bod angen darparu 11 llain ychwanegol dros gyfnod y cynllun (9 llain hyd at 2026, a 2 lain arall erbyn 2036).
Iechyd a Lles
3.21 Yn gyffredinol, ystyrir bod Bro Morgannwg yn ardal gefnog a deniadol o'i chymharu ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'r Fro yn arddangos amrywiaeth economaidd-gymdeithasol sylweddol, gyda rhannau o'r Fro wledig yn cynnwys rhai o'r cymunedau cyfoethocaf yng Nghymru a chymunedau eraill o fewn y 10% uchaf o ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru.
3.22 Mae Mynegeion Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yn dangos mai yn y Barri fu'r cymdogaethau â'r amddifadedd mwyaf yn y Fro yn barhaus, yn bennaf yn y wardiau dwyreiniol. Nododd data diweddaraf MALIC (2019) fod 3 ardal o fewn y 10% uchaf o leoedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (Gibbonsdown 2, Buttrills 2, a Court 3), gydag ardaloedd eraill yn y Barri hefyd yn disgyn o fewn yr 20% uchaf. Yn ogystal, mae pocedi o amddifadedd uchel hefyd yn bresennol mewn ardaloedd ym Mhenarth, Sain Tathan a Llanilltud Fawr.
3.23 Adlewyrchir y gwahaniaethau hyn yn iechyd a lles ein cymunedau. O'u cymharu â rhannau eraill o Gymru, mae trigolion y Fro yn dangos iechyd da ar y cyfan ac mae eu disgwyliad oes cyfartalog ymysg yr uchaf adeg eu geni. Fodd bynnag, mewn ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf mae disgwyliad oes pobl yn sylweddol is, lle mae cyflyrau iechyd hirdymor yn effeithio ar gyfran uwch o bobl.
3.24 Bydd cydnabod yr anghydraddoldebau hyn, sy'n adlewyrchu gwahanol anghenion cymunedol ar lefel cymdogaeth a lleol ym Mro Morgannwg, yn golygu bod angen dulliau pwrpasol sy'n mynd y tu hwnt i gylch gwaith y CDLlN, ond gall y cynllun helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy wella mynediad at gyflogaeth, gwella mannau agored a llwybrau teithio llesol a chefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy ac adfywio.
3.25 Mae mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fater mwy heriol i rai rhannau o'r Fro yn enwedig o ystyried y boblogaeth sy'n heneiddio, a natur wledig y Fro sy'n cyd-fynd â thrafnidiaeth gyhoeddus wael. Wrth baratoi'r CDLlN, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro i nodi materion iechyd a lles yn y dyfodol, megis yr angen i nodi lleoliadau ar gyfer gwasanaethau iechyd newydd yn y newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gymuned.
Addysg
3.26 Mae gan yr ardal ysgolion da a lefelau uchel o gyrhaeddiad addysg gyda 37.3% o'r boblogaeth oedolion (16-64 oed) yn meddu ar NVQ lefel 4 neu uwch. Mae 46 o ysgolion babanod/iau/cynradd, 7 ysgol uwchradd a Choleg y Barri a'r Fro gyda champysau wedi'u lleoli yn y Barri ac Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd. Tra bod nifer o ysgolion newydd yn y Fro wedi eu darparu o dan y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a'r bwriad i ehangu sawl un arall yn ystod cyfnod y cynllun, mewn rhai ardaloedd mae ysgolion yn llawn neu'n agos ati. Wrth baratoi'r CDLlN, bydd y Cyngor yn ystyried anghenion addysgol sy'n deillio o dwf cynlluniedig, yn enwedig o fewn yr ardaloedd hynny lle mae capasiti'n gyfyngedig.
Cysylltedd
3.27 Mae'r ardal yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da sy'n darparu cysylltedd uniongyrchol â'r rhanbarth ehangach. Mae traffordd yr M4 wedi'i lleoli tua gogledd y Fro gan ddarparu cyswllt trafnidiaeth allweddol sy'n rhoi mynediad i ranbarth De-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r awdurdod sy'n gwasanaethu aneddiadau mwyaf y Fro sef Penarth a Cogan, Dinas Powys, Y Barri, Llanilltud Fawr a'r Rhws, gan gysylltu'r awdurdod â Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr a darparu cysylltiadau â phrif reilffordd de Cymru. Mae gan y prif drefi fynediad rhesymol at wasanaethau bysiau lleol hefyd, ond nid yw pentrefi sydd wedi'u lleoli i ffwrdd o goridorau bysiau allweddol yn cael eu gwasanaethu'n dda.
3.28 Mae Maes Awyr Caerdydd ger yr arfordir i'r gorllewin o'r Barri. Cydnabyddir y maes awyr fel porth pwysig ar gyfer busnes a thwristiaeth yn Ne Cymru, felly mae'n chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi'r economi leol a chysylltu De Cymru â chyrchfannau ledled y DU a'r byd. Ers dechrau pandemig y Coronafeirws yn 2020, mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng yn sydyn. Yn 2022, nifer y teithwyr oedd 860,000 (cyrraedd a gadael), sy'n is na'r lefelau cyn y pandemig o 1.65 miliwn yn 2019. Mae manteision agosrwydd i'r maes awyr yn cynnig cyfleoedd sylweddol a dylid manteisio arnynt drwy'r cynllun.
3.29 Mae natur patrymau aneddiadau'r Fro yn golygu bod trigolion yn y prif drefi ac aneddiadau yn gallu cael mynediad gwell at ystod o gyfleusterau trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r Cyngor yn parhau i wella rhwydwaith teithio llesol o fewn a rhwng aneddiadau. Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gyhoeddus gymharol gyfyngedig ar gael yn yr ardaloedd gwledig mwy anghysbell a rhwng ei brif drefi, sy'n cyfyngu ar hygyrchedd i gyfleusterau a gwasanaethau, yn enwedig ar gyfer grwpiau difreintiedig.
3.30 Mae Bro Morgannwg ym Mharth Metro De-ddwyrain Cymru ac mae'r Cyngor yn parhau i geisio gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus i wella seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio newydd, er mwyn hwyluso mwy o hygyrchedd i drigolion y Fro a lleihau tagfeydd yn ystod oriau brig, ar y rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd.
3.31 Mae Porthladd y Barri yn gyfleuster allweddol ar gyfer diwydiant cemegol y rhanbarth, gan drin sympiau hylif ar gyfer cwmnïau mawr ac mae'n trin tua 300,000 tunnell o gargo, gan gyfrannu dros £340 miliwn at yr economi bob blwyddyn ac mae'n ffynhonnell bwysig o gyflogaeth leol.
3.32 Bydd cysylltedd digidol yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth alluogi gweithio ystwyth a hwyluso twf economaidd. Mae data o MALlC 2019 yn rhoi cipolwg ar ansawdd argaeledd band eang ledled Bro Morgannwg. Mae Maes Amgylchedd y MALlC yn cynnwys mesur o'r diffyg band eang ar gyflymder o 30 megabit yr eiliad (mbs), dyma'r cyflymderau nodweddiadol a ddarperir gan gysylltiadau Ffibr i Gabinet. Mae gwahaniaeth mewn cyflymderau lawrlwytho rhwng ardaloedd mwy gwledig a threfol Bro Morgannwg. Mae ACEHI mewn trefi fel y Barri, Penarth a'r Bont-faen yn dangos argaeledd uchel i fand eang ar 30mbs ac mae ACEHI mewn ardaloedd mwy gwledig yn dangos argaeledd gwaeth. Bydd y CDLlN yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith digidol a chyfathrebu i ddiwallu anghenion defnyddwyr a darparwyr ar gyfer cyfnod y cynllun.
Economi a Chyflogaeth
Lle Gwaith a Chymudo
3.33 Mae daearyddiaeth gweithgarwch economaidd o fewn yr awdurdod yn gynyddol amrywiol gyda phobl y Fro yn aml yn byw, gweithio ac ymgymryd â gweithgareddau hamdden o fewn a thu allan i'r awdurdod. Ers pandemig Covid, mae nifer y bobl sy'n gweithio gartref yn cynyddu'n sylweddol, ochr yn ochr â chyfran y gweithlu sy'n cymryd rhan mewn patrymau gwaith hyblyg. Mae data diweddaraf Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 34% o'r gweithlu yn gweithio gartref naill ai'n rhan amser neu'n llawn amser. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio ar draws Bro Morgannwg, gyda'r achosion uchaf o weithio gartref wedi'u lleoli yng nghefn gwlad y Fro, a'r isaf yn y Barri[3].
3.34 Er bod y pellteroedd y mae preswylwyr fel arfer yn eu cymudo yn gymharol fyr, gyda'r mwyafrif o drigolion y Fro (33.8%) yn teithio llai na 10km i'w gweithle, 16% yn cymudo hyd at 30km a 3.5% yn fwy na 30km, mae lefelau cymudo oddi ar gymudo yn parhau i fod yn uchel (Ffigur 10). Mae'r nifer mwyaf o drigolion sy'n teithio y tu allan i'r Fro at ddibenion gwaith yn teithio i Gaerdydd ac yna Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, tra bod cyfran lai yn cymudo i'r Fro o'r awdurdodau cyfagos hyn. O ganlyniad, mae'r briffordd yn profi tagfeydd yn ystod oriau brig.
Ffigur 10: Ffynhonnell: SYG 2011
Strwythur Cyflogaeth
3.35 Cyfran poblogaeth oedran gweithio'r Fro (16-64 oed) yn 2021 oedd 60.3% sydd ychydig yn is na'r cyfartaledd rhanbarthol a chenedlaethol (62% a 61.2% yn y drefn honno).
3.36 Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae nifer y swyddi ym Mro Morgannwg wedi aros yn gyson dros 41,000 ar y cyfan, tra bod y proffil swyddi y mae pobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector wedi newid gyda'r newid mwyaf yn digwydd yn y sectorau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, a gwasanaethau busnes a chymorth, gan adlewyrchu'r duedd ehangach o ran ehangu cyflogaeth mewn swyddfeydd.
3.37 Y sector iechyd sy'n gyfrifol am y nifer mwyaf o weithwyr ym Mro Morgannwg, 8,000 neu 19.5% o gyfanswm y bobl mewn cyflogaeth. Gweithgynhyrchu oedd y diwydiant mwyaf nesaf ym Mro Morgannwg, drwy gyflogi 3,500 neu 8.5 y cant o'r gweithlu. Roedd sectorau swyddfa breifat yn cyfrif am gyfanswm cyfunol o 15.4 y cant, neu 6,300 o weithwyr yn y Fro, o'i gymharu â 16.8 y cant yng Nghymru. Oherwydd amledd uchel y trigolion a gyflogir mewn sectorau proffesiynol, gellir disgrifio'r Fro fel gweithlu medrus, a adlewyrchir yn y ffaith bod cyflog wythnosol cyfartalog y Fro £61 yn fwy na chyflog wythnosol cyfartalog yn y gweithle, sy'n cyfateb i 10% yn fwy[4].
Ffigur 11: Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth, Ionawr 2021 - Rhagfyr 2021 Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, 2022
Twristiaeth
3.38 Mae gan y Fro amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid sy'n defnyddio'r amgylchedd naturiol i wella lles economaidd yr ardal. Mae hyn yn cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Llwybr Arfordir Cymru a chyrchfannau glan môr hirsefydlog; cefn gwlad a pharciau gwledig deniadol; nodweddion hanesyddol unigryw; nifer o weithgareddau awyr agored; a rhwydwaith llwybrau cerdded hirsefydlog.
3.39 Cydnabyddir glan môr Ynys y Barri a Bae Whitmore fel un o'r prif gyrchfannau i dwristiaid ym Mro Morgannwg. Mae'r gyrchfan yn adnabyddus ledled Cymoedd De Cymru, De-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr y mae cyfran uchel o ymwelwyr wedi dod ohonynt yn y gorffennol. Mae prif atyniadau'r gyrchfan yn cynnwys y traeth, Parc Pleser Ynys y Barri, atyniadau llai eraill a nifer o beiriannau chwarae, caffis a bariau. Er y bu'n rhaid wynebu newidiadau mawr yn y farchnad a galwadau bythol gynyddol, mae'r ardal yn dal i ddenu amcangyfrif o 424,000 o ymwelwyr gwerth £17 miliwn i'r economi (STEAM 2019).
3.40 Mae cyfraniad economaidd y sector twristiaeth wedi bod yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ym Mro Morgannwg; fodd bynnag, yn 2020 mae data'n awgrymu bod effaith economaidd y sector wedi gostwng 45.1% o ganlyniad i bandemig Covid a'r cyfyngiadau teithio cysylltiedig a gyd-darodd â gostyngiad o 45.3% yn nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn y sector. Mae data STEAM yn dangos bod nifer yr ymwelwyr dydd wedi gostwng i 1.89 miliwn yn 2020, ond fe wnaeth y niferoedd hyn wella i 4.23 miliwn erbyn 2021. Wrth i'r Fro adfer ar ôl y pandemig, ystyrir y bydd tueddiadau'n cynyddu i'r pwynt lle maent yn cyfateb i'r twf a gafwyd cyn y pandemig ac yn rhagori arno.
Manwerthu
3.41 Mae'r sector manwerthu ym Mro Morgannwg yn cynnwys amrywiaeth o siopau cyfleustra a chymharu sy'n canolbwyntio'n bennaf ar aneddiadau Y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen ac ym mharc manwerthu y tu allan i'r canol yng Nghroes Cwrlwys. Nododd archwiliadau iechyd ar y prif ganol trefi a gynhaliwyd fel rhan o'r Astudiaeth Hamdden Manwerthu a Masnachol (2023) fod Penarth, Y Bont-faen a Llanilltud Fawr yn perfformio'n dda, gyda lefelau is na'r cyfartaledd o unedau gwag yng nghanolfannau'r ardal, tra bod gan ganol tref Heol Holltwn yn y Barri a Chanolfan Ardal y Stryd Fawr nifer uwch na'r cyfartaledd o unedau gwag. Mae angen sicrhau bod polisïau'r dyfodol yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer ystod ehangach o ddefnyddiau a fyddai'n dderbyniol o fewn canol tref, yn unol â'r egwyddor canol trefi yn gyntaf.
3.42 Nododd yr astudiaeth fanwerthu fod Bro Morgannwg yn cadw cyfran iach o wariant ar nwyddau cyfleustra, gydag 86.1% (£273.7 miliwn) o'r holl wariant cyfleustra (eitemau hanfodol bob dydd fel bwyd) gan drigolion y Fro yn cael eu gwario mewn unedau manwerthu yn y Fro. Fodd bynnag, mae llawer o'r gwariant hwn yn digwydd mewn siopau y tu allan i'r canol yn hytrach na chanol trefi. Ar gyfer siopa cymharu (eitemau manwerthu nad ydynt yn cael eu prynu'n aml), mae'r Fro yn cadw ychydig dros hanner (50.3%) o'r holl wariant cymharu (£294.5 miliwn), gyda'r gollyngiadau allan o'r ardal yn cael eu cyfeirio'n bennaf tuag at Gaerdydd.
3.43 Canfu'r astudiaeth fod capasiti gofod llawr cyfleustra rhwng 4,282 metr sgwâr a 5,862 metr sgwâr (yn dibynnu ar y math o weithredwr), sydd oherwydd masnachu siopau presennol uwchben lefelau'r llinell sylfaen. Mewn termau ansoddol, nodwyd bod angen archfarchnad ganolig i fawr yng nghanol trefi Heol Holltwn y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr.
Yr Amgylchedd Naturiol
3.44 Mae'r Fro yn dirwedd iseldir nodedig sy'n cynnwys llwyfandir calchfaen i raddau helaeth, a rennir gan sawl afon gan gynnwys Afon Elái, Afon Ddawan a Waycock. Mae amrywiaeth o ddefnyddiau tir gwledig yn nodweddu'r ardal, a atgyfnerthir gan wrychoedd trwchus, coetiroedd bychain mynych a choed, sy'n creu ymdeimlad o glydwch. Mae'r dirwedd yn dod i ben yn sydyn ar yr Arfordir Treftadaeth gyda chlogwyni fertigol. Wedi'u gwasgaru rhwng y clogwyni mae sawl traeth tywod a graean ar hyd arfordir.
3.45 Mae llawer o dirweddau'r Fro yn cael eu hadnabod drwy ddynodiad am eu safon uchel. Mae un Tirwedd o Ddiddordeb Arbennig ac Eithriadol yn bodoli'n gyfan gwbl o fewn y Fro ac un arall yn rhannol. Mae 6 Ardal Tirwedd Arbennig, ac mae arfordir gorllewinol y Fro yn cael ei gydnabod am ei bwysigrwydd cenedlaethol fel Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
3.46 Mae'r cymysgedd o dirweddau arfordirol a chefn gwlad yn arwain at amrywiaeth fawr o gynefinoedd, rhai ohonynt yn eithaf prin megis y llyn mesotroffig, Pysgodlyn Mawr, yn Hensol a'r morlyn halwynog yn Aberddawan. Mae'r amrywiaeth hon hefyd yn golygu bod arfordir a chefn gwlad y Fro yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid. Mae rhywogaethau prin yn bresennol, gan gynnwys y glöyn byw Brith y Gors Brown, y Pibydd Gwyrdd, Blodyn-ymenyn yr ŷd, y Sarth, y Berdysyn Gwisgi a'r Cardwenynen. Er bod maint llawer o'r cynefinoedd yn gymharol fach, mae rhai yn fwy helaeth, megis rhostir, glaswelltiroedd arfordirol a choetiroedd, ac mae hyd gwrychoedd hynafol ac ymylon caeau âr sy'n llawn rhywogaethau yn sylweddol.
3.47 Fel tirweddau'r Fro, i gydnabod cynefinoedd cyfoethog y Fro, mae llawer o'i hardaloedd wedi'u dynodi am eu gwerth bioamrywiaeth gan ddynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol sy'n golygu ei bod yn un o'r ardaloedd cyfoethocaf o ran bioamrywiaeth a harddwch naturiol yn Ne Cymru. Mae 2 safle yn y Fro wedi'u dynodi'n safleoedd Ewropeaidd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd: Aber Afon Hafren, a nodir fel safle RAMSAR, Ardal Cadwraeth Arbennig, ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig; a Bae Dwnrhefn, sy'n cael ei nodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Cynffig hefyd yn ymestyn i'r Fro yn y Dwyrain. Yn ogystal â'r rhain mae amrywiaeth o ddynodiadau cenedlaethol a lleol, er enghraifft: 27 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig; dros 300 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur; 12 o Safleoedd o Bwysigrwydd Daearegol a Geomorffolegol Rhanbarthol a 3 Gwarchodfa Natur Leol.
3.48 Wrth ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur datganedig, bydd yn bwysig diogelu ardaloedd dynodedig a, lle bo modd, manteisio ar gyfleoedd i greu rhwydweithiau ecolegol newydd.
3.49 Mae'r CDLl mabwysiedig yn nodi lletemau gwyrdd sy'n ceisio atal ymgyfuniad aneddiadau a chadw'r natur agored. Mae methodoleg ranbarthol ar gyfer adnabod lletemau gwyrdd yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd y fethodoleg hon yn cael ei defnyddio i lywio unrhyw ddynodiadau lletem gwyrdd o fewn y CDLlN ar Adnau. Ystyrir hefyd y dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig presennol i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn briodol.
Iaith, Diwylliant, Treftadaeth ac Amrywiaeth
3.50 Mae'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a'i hannog ym mhob cwr o Gymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 11.5% o'r boblogaeth 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, sy'n gynnydd o'i gymharu â Chyfrifiad 2011, lle roedd dim ond 10.8% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn groes i'r duedd a gafwyd ledled Cymru yn gyffredinol, lle mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 19% yn 2011 i 17.8% yn 2021.
3.51 Mae canran y bobl sy'n cofnodi eu bod yn dod o grŵp ethnig nad yw'n wyn wedi cynyddu yng Nghyfrifiad 2021 o'i gymharu â Chyfrifiad 2011, gyda 5.4% yn nodi eu bod yn perthyn i grŵp ethnig heblaw Gwyn, o'i gymharu â 4.4% yn 2011. Nododd Cyfrifiad 2021 fod 2.1% o'r boblogaeth yn nodi eu hethnigrwydd fel 'Asiaidd ac Asiaidd Prydeinig, neu Asiaidd Cymraeg', nododd 0.5% eu bod yn 'Ddu, Du Prydeinig, Du Cymraeg, Caribïaidd neu Affricanaidd', nododd 2.3% eu bod o 'Grwpiau ethnig Cymysg neu Lluosog' a nododd 0.5% eu bod mewn 'grŵp ethnig arall'.
3.52 O ran ei threftadaeth ddiwylliannol, mae gan Fro Morgannwg tua 740 o adeiladau rhestredig, dros 100 o Henebion Cofrestredig, 39 o Ardaloedd Cadwraeth, 18 o ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn y Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol a 2 ardal sydd wedi'u nodi yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru.
3.53 Mae hefyd yn hanfodol i'r cynllun sicrhau bod tai yn y dyfodol yn darparu ar gyfer anghenion llety penodol pobl anabl drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer cynigion byw'n annibynnol fel cynlluniau byw â chymorth a thrwy sicrhau bod tai arbenigol yn rhan o gymysgedd tai ehangach ar safleoedd penodedig a nodwyd. Bydd hefyd yn bwysig i ddatblygiadau newydd fod wedi'u lleoli'n addas a galluogi mynediad hawdd i siopau a chyfleusterau canol trefi a chanolfannau lleol.
Newid yn yr Hinsawdd a Pherygl Llifogydd
3.54 Yn 2019 roedd Bro Morgannwg yn cyfrif am oddeutu 5% o allyriadau carbon Cymru, gydag 8.4 tunnell o CO2 y pen. Mae allyriadau'n lleihau dros amser, fodd bynnag, bydd yn rhaid iddynt leihau'n sylweddol yn ystod cyfnod y cynllun i gyrraedd targedau sero net. Y sectorau sy'n allyrru'r mwyaf o garbon yw diwydiant (57%), trafnidiaeth (21%) a domestig (17%). Mae gan 53% o stoc dai'r Fro sgôr TPY o D neu waeth. Mae 38% o alw trydan y Fro yn cael ei ddiwallu gan gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol, gyda solar PV (84MW) a biomas (45MW) wedi'i osod yn y ddaear yn cyfrannu at hyn.
3.55 Fel awdurdod arfordirol bydd newid hinsawdd yn cael effaith ddramatig ar arfordir y Fro a'r cymunedau o fewn ardaloedd arfordirol oherwydd cynnydd yn lefel y môr a stormydd sy'n golygu bod yr arfordir yn fwy agored i lifogydd ac erydu arfordirol. Hefyd, mae ardaloedd o'r Fro yn agos at ardaloedd sydd eisoes mewn perygl o lifogydd, yn enwedig ardaloedd cyfagos yn y Barri, Dinas Powys a Phenarth. Mae Cofrestr Cymunedau mewn Perygl Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua 5,000 o eiddo preswyl yn y Fro mewn rhywfaint o berygl o lifogydd ar hyn o bryd[5]. Dengys amcanestyniadau cyffredinol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd y bydd glaw amlach a dwysach yn fwy tebygol. Disgwylir y bydd digwyddiadau difrifol fel stormydd 2020 yn dod yn fwy cyffredin gyda mwy o ddifrifoldeb ac amlder llifogydd mewn cartrefi, cymunedau a busnesau. Ar yr un pryd, mae llifogydd arfordirol yn fygythiad cynyddol oherwydd cynnydd cymedrig yn lefel y môr a chynnydd mewn tywydd stormus ac uchder tonnau. Bydd yr effeithiau hyn sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn cynyddu nifer yr eiddo, y seilwaith a'r gwasanaethau allweddol a fydd mewn perygl o lifogydd o bob ffynhonnell.
CWESTIWN 1: NODWEDDION ALLWEDDOL
Mae adran 3 y Strategaeth a Ffefrir yn nodi nodweddion allweddol Bro Morgannwg.
A ydych yn cytuno bod y nodweddion allweddol yn portreadu Bro Morgannwg yn gywir?
[2] Gwybodaeth Hometrack o'r farchnad
[3]https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/bulletins/traveltoworkenglandandwales/census2021