Bro Morgannwg Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036 Y Strategaeth a Ffefrir
2.1 Wrth ddatblygu ei CDLlN, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried unrhyw bolisïau a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chanfyddiadau tystiolaeth dechnegol a ddatblygwyd i gefnogi'r cynllun. Mae elfennau allweddol o'r cyd-destun y mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi'i pharatoi ynddo wedi'u nodi isod.
Deddfwriaeth a Pholisi Cenedlaethol
2.2 Mae'r dogfennau a ystyrir yn yr adran hon yn ddogfennau cenedlaethol sy'n berthnasol ledled Cymru gyfan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf Llesiant)
2.3 Mae'r Ddeddf Llesiant yn cryfhau'r fframwaith ar gyfer gwella llesiant Cymru drwy sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru o ran y saith nod llesiant:
Ffigur 3: Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Ffynhonnell: Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 (Chwefror 2021)
2.4 Mae'r Ddeddf Llesiant yn nodi 'egwyddor datblygu cynaliadwy' ac yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, i weithredu 'mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.' Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd y CDLlN ac mae'n rhan sylfaenol o'r broses Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).
2.5 Mae'r Ddeddf Llesiant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau drwy fabwysiadu 5 ffordd o weithio. Y rhain yw:
- Ystyried y tymor hir.
- Helpu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu.
- Defnyddio dull gweithredu integredig.
- Defnyddio dull gweithredu cydweithredol.
- Ystyried a chynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth.
2.6 Bu'r pum ffordd o weithio yn ganolog i baratoi'r Strategaeth a Ffefrir a byddant yn parhau i fod yn gynhenid i ddatblygu camau diweddarach y broses o baratoi'r CDLlN.
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
2.7 Daeth Deddf Cynllunio (Cymru) (y Ddeddf Cynllunio) i rym ym mis Gorffennaf 2015. Mae'n nodi cyfres o newidiadau deddfwriaethol i ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei bod yn deg, yn wydn ac yn galluogi datblygiad.
2.8 Mae'r Ddeddf Cynllunio yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol ar gyfer paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) a Chynlluniau Datblygu Strategol (CDSau). Cafodd Cymru'r Dyfodol, y FfDC, ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2021, ac fe'i trafodir yn fanwl yn yr adran nesaf. Bwriad CDSau yw darparu fframwaith gofodol rhanbarthol ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn rhanbarth diffiniedig yn y dyfodol. Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru sy'n gyfrifol am baratoi CDS ar gyfer y rhanbarth. Fodd bynnag, nid yw gwaith ffurfiol ar y CDS ar gyfer De-ddwyrain Cymru wedi dechrau eto. Felly mae paratoi'r CDLlN yn mynd rhagddo cyn paratoi'r CDS, er y gwneir pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n gyffredinol â'r CDS datblygol wrth iddo gael ei baratoi. Er gwaethaf hyn, bydd angen adolygu'r CDLlN pan fydd y CDS yn cael ei fabwysiadu.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
2.9 Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (Deddf yr Amgylchedd) yw gwella rheolaeth adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae'n cynnwys dyletswydd bioamrywiaeth uwch sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
2.10 Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd hefyd ofyniad i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lunio Datganiadau Ardal. Mae Bro Morgannwg wedi'i gynnwys yn Natganiad Ardal Canol De Cymru, sydd hefyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
2.11 Dibenion datganiadau Ardal yw darparu'r fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Hysbysir Datganiad Ardal Canol y De gan y 5 thema ganlynol:
- Adeiladu ecosystemau gwydn
- Cysylltu pobl â natur
- Gweithio gyda dŵr
- Gwella ein hiechyd
- Gwella ein hansawdd aer
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
2.12 Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) (Deddf Teithio Llesol) yw hyrwyddo cerdded a beicio fel ffordd o deithio ar gyfer teithiau byr (h.y., i gyrraedd gwaith, ysgol neu siopau a gwasanaethau). Mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, llunio mapiau teithio llesol, ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr a gwella llwybrau a chyfleusterau teithio llesol.
2.13 Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig drwy ddatblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl). Mae MRhTLl Bro Morgannwg yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLlN.
Cymru Fwy Cyfartal - Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (2021)
2.14 Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.
2.15 Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried yr angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y gall polisïau, rhaglenni a gwasanaethau leihau anghydraddoldebau a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol. Gan fod y Ddyletswydd yn berthnasol i ddatblygu polisi strategol, mae'n berthnasol i'r CDLlN. Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn dod o fewn cwmpas yr ACI a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r CDLlN a nodir canfyddiadau'r arfarniad yn nogfennau'r ACI.
Deddf Iechyd Y Cyhoedd (Cymru) 2017
2.16 Mae Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd (AEIau) mewn amgylchiadau penodol. Pan gânt eu cyhoeddi, bydd y rheoliadau'n nodi'r amgylchiadau y mae'n rhaid i gorff cyhoeddus gyflawni AEI; a'r ffordd y mae'n rhaid cynnal AEI.
2.17 Diben AEI yw sicrhau bod effeithiau datblygiad ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn cael eu hystyried a'u trin yn ystod y broses gynllunio a dylid gwneud hyn yn gynnar yn y cynllun datblygu fel bod modd nodi ac ymdrin ag unrhyw effeithiau iechyd perthnasol. Yn hyn o beth, wrth baratoi'r CDLlN mae'r ACI yn ymgorffori AEI yn y fethodoleg arfarnu ac mae'n cynnwys mesurau iechyd a lles penodol.
Cymru'r Dyfodol - Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (Llywodraeth Cymru, Chwefror 2021)
2.18 Cymru'r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yw ein fframwaith datblygu cenedlaethol, sy'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae'n gynllun datblygu ag iddo strategaeth ar gyfer ymdrin â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau datgarboneiddio a gwydnwch yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Dyma'r haen uchaf o gynllun datblygu yng Nghymru ac mae'n canolbwyntio ar atebion i faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi lle mae angen twf a seilwaith o bwys cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio ei gyflawni ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'n darparu cyfeiriad ar gyfer CDSau a CDLlau ac yn cefnogi pennu Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.
2.19 Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 11 o ganlyniadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddatganiad o ble mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i Gymru fod erbyn 2040. Dyma'r canlyniadau:
Cymru lle mae pobl yn byw...
- ac yn gweithio mewn lleoedd cysylltiedig, cynhwysol ac iach.
- mewn lleoedd gwledig llewyrchus lle y gallant gael cartrefi, gwaith a gwasanaethau.
- mewn rhanbarthau nodedig sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol drwy dwf cynaliadwy.
- mewn lleoedd lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
- ac yn gweithio mewn trefi a dinasoedd sy'n ganolbwynt ac yn sbardun i dwf cynaliadwy.
- mewn lleoedd lle y caiff ffyniant, arloesedd a diwylliant eu hyrwyddo.
- mewn lleoedd lle mae teithio yn gynaliadwy.
- mewn lleoedd â seilwaith digidol o'r radd flaenaf.
- mewn lleoedd sy'n rheoli eu hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn lleihau llygredd.
- mewn lleoedd ag ecosystemau bioamrywiol, cadarn a chysylltiedig.
- mewn lleoedd sydd wedi'u datgarboneiddio ac sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
2.20 Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi 18 o bolisïau cenedlaethol sy'n berthnasol ledled Cymru gyfan, a 4 polisi rhanbarthol sy'n berthnasol ledled Rhanbarth y De-ddwyrain. Er y bydd angen mynd i'r afael â'r holl bolisïau yn y CDLlN, mae gan y polisïau canlynol bwysigrwydd arbennig ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir:
Polisi 1 – Ble bydd Cymru'n Tyfu
2.21 Mae Polisi 1 Cymru'r Dyfodol yn nodi tair Ardal Dwf Cenedlaethol, gan gynnwys Ne-ddwyrain Cymru. Mae'r diagram strategaeth ofodol sy'n cefnogi'r polisi hwn yn nodi bod Bro Morgannwg wedi'i lleoli o fewn Ardal Dwf Cenedlaethol y De-ddwyrain, y cyfeirir ato fel 'Caerdydd, Casnewydd, a'r Cymoedd'. Ategir Polisi 1 gan Bolisi 33, sy'n ymwneud yn benodol â Thwf Cenedlaethol Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd.
Polisi 2 – Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol
2.22 Yn nodi'r egwyddorion creu lleoedd allweddol y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar leoliad datblygiad newydd. Mae hyn yn cynnwys creu cymysgedd o ddefnyddiau ac amrywiaeth o fathau o dai a deiliadaethau, adeiladu lleoedd ar raddfa gerdded gyda chartrefi, cyfleusterau lleol, a thrafnidiaeth gyhoeddus o fewn pellter cerdded a sicrhau bod datblygiad yn cael ei adeiladu ar ddwysedd priodol gyda seilwaith gwyrdd wedi'i ymgorffori.
Polisi 6 – Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf
2.23 Mae'n nodi dull canol trefi yn gyntaf o ddarparu cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden a gwasanaeth cyhoeddus newydd sylweddol o fewn canol trefi a dinasoedd. Mae'r testun ategol ar gyfer y polisi hefyd yn dangos bod canol trefi yn lleoliadau priodol ar gyfer cartrefi newydd.
Polisi 7 – Darparu Cartrefi Fforddiadwy
2.24 Ailddatgan dyhead Llywodraeth Cymru i ddarparu lefelau sylweddol o dai fforddiadwy, gan gynnwys drwy'r system gynllunio.
Polisi 8 – Llifogydd
2.25 Yn cefnogi rheoli perygl llifogydd sy'n hwyluso twf economaidd a chenedlaethol cynaliadwy, gan hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur a cheisio sicrhau'r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl o seilwaith rheoli perygl llifogydd.
Polisi 9 – Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd
2.26 Mae Polisi 9 yn gofyn am weithredu tuag at ddiogelu a chreu rhwydweithiau ecolegol cadarn a hyrwyddo seilwaith gwyrdd effeithiol drwy greu lleoedd. Mae'n rhagnodi y dylid cynnwys meysydd presennol a darpar feysydd mewn Cynlluniau Datblygu i hyrwyddo a diogelu'r swyddogaethau a'r cyfleoedd y mae rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd yn eu darparu.
Polisi 10 - Cysylltedd Rhyngwladol
2.27 Mae Porth Strategol yn cael ei nodi ym Maes Awyr Caerdydd i hwyluso cysylltedd rhyngwladol. Bydd angen i'r CDLl gefnogi'r Pyrth Strategol drwy sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'w rhanbarthau priodol a Chymru. Dylid rheoli datblygiadau newydd o amgylch y Pyrth Strategol yn ofalus i sicrhau na pheryglir na chfyngir ar eu gweithrediad.
Polisi 12 - Cysylltedd Rhanbarthol
2.28 Yn nodi bod yn rhaid i ACLlau fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus wrth gynllunio ar gyfer twf ac adfywio. Rhaid i awdurdodau cynllunio integreiddio dyraniadau safleoedd, datblygiadau newydd, a seilwaith â rhwydweithiau teithio llesol a, lle bo hynny'n briodol, sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at eu hehangu a'u gwella. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella a chynyddu trafnidiaeth gynaliadwy yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau yn yr ardal twf cenedlaethol gynllunio twf i wneud y mwyaf o gyfleoedd sy'n deillio o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
Polisi 15 – Fforest Genedlaethol
2.29 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fforest genedlaethol drwy nodi safleoedd a mecanweithiau priodol, gyda tharged i gynyddu gorchudd coetir ledled Cymru o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Bydd y fforest genedlaethol yn cynnwys tair elfen:
- Amgylchedd o ansawdd sy'n cynnwys ecosystemau cysylltiedig, bioamrywiaeth a chynefinoedd, adfer coetir nas rheolwyd yn ddigonol a choetir hynafol;
- Coetir cynhyrchiol;
- Coetir cymunedol.
Polisi 16 – Rhwydweithiau Gwresogi
2.30 Yn nodi'n benodol dref y Barri fel lleoliad ar gyfer ystyried rhwydwaith gwres ardal.
Polisi 33 – Ardal Dwf Genedlaethol - Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd
2.31 Mae'r diagram gofodol rhanbarthol ar gyfer De-ddwyrain Cymru (Ffigur 4 isod) yn amlygu bod Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd, gan gynnwys Bro Morgannwg, yn rhan o ardal dwf genedlaethol. Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol gydnabod yr Ardal Dwf Genedlaethol fel canolbwynt ar gyfer twf economaidd a thai strategol; gwasanaethau a chyfleusterau; gweithgynhyrchu uwch; trafnidiaeth a seilwaith digidol.
Ffigur 4: Rhanbarth De-ddwyrain Cymru
Ffynhonnell: Cymru'r Dyfodol 2040
2.32 Er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau a'r dyheadau rhanbarthol hyn, mae Cymru'r Dyfodol yn cydnabod nad yw'r 10 awdurdod yn y rhanbarth yn bodoli ar wahân i'w gilydd ac wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, y bydd angen i awdurdodau cynllunio "ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a'r rhanbarth ehangach… [gan] sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn yn llewyrchus, ffyniannus ac yn gysylltiedig". Ar gyfer CDLl Bro Morgannwg, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun ystyried sut mae'r dyheadau ar gyfer Bro Morgannwg o ran twf tai a thwf economaidd yn cyd-fynd â'r dyheadau rhanbarthol ehangach a'u cyd-fynd â nhw, yn enwedig rhai Caerdydd gyfagos.
Polisi 36 – Metro'r De-ddwyrain
2.33 Darparu sail polisi rhanbarthol ar gyfer datblygu'r Metro ac ar gyfer datblygiadau sy'n canolbwyntio ar y Metro. Dylai awdurdodau cynllunio gynllunio ar gyfer twf ac adfywio er mwyn achub ar y cyfleoedd sy'n deillio o well cysylltedd rhanbarthol, gan gynnwys nodi cyfleoedd am ddatblygiadau dwysedd uwch, defnydd cymysg a di-gar o amgylch gorsafoedd metro newydd a gwell.
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (2019)
2.34 Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru(CMCC) yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnydd cynaliadwy o'r moroedd. Mae'r cynllun yn cynnwys cynlluniau a pholisïau a fydd yn cefnogi'r weledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel ac amrywiol, yn arwain datblygu cynaliadwy yn y dyfodol ac yn cefnogi twf gofod morol ac adnoddau naturiol ('twf glas').
2.35 Mae'r Cynllun yn nodi polisïau o dan y categorïau canlynol:
- sicrhau economi forol gynaliadwy (twf economaidd cynaliadwy, cydfodolaeth)
- sicrhau cymdeithas gref, iach a chyfiawn (gan gynnwys mynediad i'r amgylchedd morol, llesiant cymunedau'r arfordir, tirweddau a morweddau, llifogydd arfordirol a newid yn yr hinsawdd)
- Byw o fewn terfynau amgylcheddol (ecosystemau morol cydnerth, ansawdd aer a dŵr)
- Hyrwyddo llywodraethu da (effeithiau cronnol, cysondeb ar draws ffiniau ac ar draws cynlluniau)
- Defnyddio gwyddoniaeth gadarn mewn ffordd gyfrifol
2.36 Mae polisïau ategol penodol i sectorau y CMCC yn gweithredu ochr yn ochr â'r polisïau cyffredinol ac yn gosod polisi ar gyfer datblygu a defnyddio ardal y cynllun morol yn y dyfodol gan rai sectorau. Mae hyn yn cynnwys defnyddiau megis agregau ar y glannau ac ar y môr, dyframaeth, carthu, ynni adnewyddadwy morol, porthladdoedd a morgludo, a thwristiaeth a hamdden.
Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 (2021)
2.37 Mae Rhifyn 11 o Bolisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi'r polisïau cynllunio defnydd tir a nodau datblygu cynaliadwy trosfwaol i Gymru, wedi'u diwygio i gyfrannu tuag at nodau llesiant statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae PCC yn nodi rhagdybiaeth o blaid datblygu cynaliadwy ac yn ystyried mai dull a arweinir gan Gynllun yw'r dull mwyaf effeithiol o sicrhau datblygu cynaliadwy drwy'r system gynllunio.
2.38 Mae gan PCC bwyslais cryf ar hyrwyddo creu lleoedd, sy'n cael ei ystyried yn allweddol i gyflawni lleoedd cynaliadwy, darparu datblygiad cymdeithasol gynhwysol a hyrwyddo cymunedau mwy cydlynol. Ystyrir bod creu lleoedd yn ddull cyfannol sy'n 'ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a'r berthynas rhwng safle'r datblygiad a'i gyffiniau ehangach.'
2.39 Ar lefel strategol mae pedair thema sy'n cyfrannu'n unigol at greu lleoedd:
- Dewisiadau Strategol a Gofodol;
- Lleoedd Actif a Chymdeithasol;
- Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus;
- Lleoedd Unigryw a Naturiol
2.40 Mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu "gynnwys strategaeth ofodol fydd yn para oes y cynllun gan lunio patrwm datblygu sy'n gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol", ac y dylid "hyrwyddo cydbwysedd cyffredinol rhwng tai, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau a chyfleoedd gwaith."
Nodiadau Cyngor Technegol (NCTau), Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi
2.41 Bydd y CDLlN yn ystyried y gofynion fel y nodir yn y gyfres o NCTau, Cylchlythyrau a Llythyrau Egluro Polisi, sy'n ymhelaethu ar ystod o faterion polisi cynllunio.
Adeiladu Lleoedd Gwell – Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair: Creu Lleoedd ac adferiad Covid-19 (LlC, Gorffennaf 2020)
2.42 Mae Adeiladu Lleoedd Gwell yn nodi blaenoriaethau polisi cynllunio Llywodraeth Cymru i helpu gyda'r cyfnod o adfer yn dilyn argyfwng y pandemig Covid-19. Mae'n cydnabod y dylai'r system gynllunio fod yn ganolog wrth ystyried materion yr amgylchedd adeiledig a naturiol sydd wedi deillio o'r pandemig. Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y polisïau a'r offer cynllunio presennol allweddol y dylai pob sector eu defnyddio yn adferiad amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Dylai CDLlau fynd ati'n weithredol i gefnogi'r agenda creu lleoedd a nodir yn PCC, gan nodi ei gymeriad, ei gryfderau a'i feysydd y mae angen eu gwella a nodi polisïau ar sut y bydd y meysydd hyn yn cael eu gwella.
2.43 Mae'r ddogfen yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i well lleoedd, creu lleoedd, canlyniadau ansawdd a dylunio da ac yn nodi meysydd polisi y dylid canolbwyntio arnynt wrth ystyried a gweithredu, i weithredu fel catalydd ar gyfer adferiad. Mae'n nodi materion allweddol sy'n dod â meysydd polisi unigol ynghyd i sicrhau y gweithredir yn y modd mwyaf effeithiol. Bydd y CDLlN fel offeryn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi adferiad ar ôl covid ym Mro Morgannwg wrth hefyd gyfrannu at gadernid cymunedau yn y dyfodol.
2.44 Yr 8 mater yw:
- Cadw'n lleol: creu cymdogaethau;
- Teithio llesol: ymarfer corff a dulliau teithio a ailddarganfyddir;
- Adfywio canol ein trefi;
- Lleoedd digidol: rhaff achub yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud;
- Newid arferion gwaith: ein hangen am dir cyflogaeth yn y dyfodol;
- Ailddeffro sector twristiaeth a sector diwylliannol Cymru;
- Seilwaith gwyrdd, iechyd a lles a chydnerthedd ecolegol;
- Gwella ansawdd aer a seinweddau er mwyn sicrhau gwell iechyd a lles.
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021)
2.45 Mae Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi tair blaenoriaeth ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
- Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio.
- Galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth sy'n hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon.
- Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.
2.46 Mae'r Strategaeth yn nodi hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy i lywio penderfyniadau am seilwaith newydd:
Ffigur 5: Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy,
Ffynhonnell: Llwybr Newydd
Datganiadau Argyfwng Hinsawdd a Natur
4.47 Mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol o'r effeithiau y bydd newid yn yr hinsawdd yn eu cael, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'argyfwng hinsawdd' ym mis Ebrill 2019. Gwnaed y cyhoeddiad i dynnu sylw at faint ac arwyddocâd y dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno'n barhaus gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd. Gwnaed y datganiad i anfon arwydd clir na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd dynnu oddi wrth her newid yn yr hinsawdd.
4.48 Cyhoeddwyd datganiad arall ym mis Mehefin 2021 wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng natur. Pwrpas hyn oedd sicrhau cydraddoldeb rhwng camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Pwrpas hyn oedd gosod targedau ar gyfer cyfyngu ar golli bioamrywiaeth, yn debyg i'r rhai sy'n bodoli ar gyfer allyriadau carbon.
Y Cyd-destun Rhanbarthol
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
2.49 Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yn cynnwys deg awdurdod lleol ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Bro Morgannwg. Mae'r awdurdodau lleol hyn yn cydweithio ar brosiectau a chynlluniau â'r nod o adeiladu ar gryfderau sectoraidd y rhanbarth, ei sylfaen sgiliau uchel a thair prifysgol lwyddiannus a chyflymu twf economaidd a chynhyrchiant drwy gyfres o fuddsoddiadau a dargedwyd mewn sgiliau, seilwaith, prosiectau a arweinir gan arloesedd y gellir eu tyfu ar raddfa a sectorau diwydiant a busnesau â blaenoriaeth.Bydd Bargen Ddinesig P-RC yn helpu i roi hwb i dwf economaidd drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, gwella sgiliau, helpu pobl i gael swyddi a rhoi cymorth i fusnesau y mae ei angen arnynt i dyfu. Mae P-RC wedi ariannu nifer o fuddsoddiadau mawr yn y rhanbarth, gan gynnwys prynu hen Orsaf Bŵer Aberdâr yn ddiweddar i hwyluso ei dymchwel, ei hadfer a'i hailddatblygu fel Parc Ynni Gwyrdd.
Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol 2023-2028 P-RC
2.50 Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yn ceisio meithrin economi ranbarthol sy'n fwy, yn decach ac yn wyrddach, gan gynhyrchu twf da a chreu amodau ar gyfer ffyniant cyffredin ar draws y deg awdurdod lleol yn y rhanbarth ac mae'r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol wedi'i baratoi i gefnogi hyn. Mae'r Cynllun yn nodi nifer o heriau ond yn ceisio cyflawni'r uchelgais o fod yn "Brifddinas-Ranbarth Caerdydd falch lle mae pawb wedi'i gysylltu'n lleol ac yn fyd-eang, yn mwynhau cyfleoedd gwaith, busnes a bywyd sydd yn ein gwneud yn lle i wireddu potensial."
2.51 Mae'r Cynllun yn nodi tri maes ffocws – Bod yn Fwy Cystadleuol, Bod yn Fwy Cysylltiedig a Bod yn Fwy Cadarn. Fel rhan o'r thema Bod yn Fwy Cystadleuol, cyfeirir yn benodol at dyfu'r economi werdd drwy fentrau arloesi sy'n canolbwyntio ar dechnolegau gwyrdd a sgiliau'r dyfodol, gan gyfeirio'n benodol at ddatblygu Parc Ynni Gwyrdd yn Aberddawan. Bydd y CDLlN yn chwarae rhan wrth hwyluso tir a datblygu polisïau priodol a fyddai'n cefnogi'r amcanion a'r prosiectau yn y Cynllun.
Metro De Cymru
2.52 Roedd y Metro yn rhan o Fargen Ddinesig wreiddiol P-RC, gyda dros hanner cyfanswm cyllid y Fargen Ddinesig yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygiad y Metro. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru (TC), yn gweithredu'r gwasanaethau rheilffyrdd metro yn y rhanbarth, tra bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am wasanaethau bysiau a theithio llesol. Mae'r Metro yn brosiect uchelgeisiol gyda'r nod o ddarparu rhwydwaith integredig o deithio llesol, bysiau a rheilffyrdd a fydd yn gwella hygyrchedd ac yn gwneud trafnidiaeth gynaliadwy ledled y rhanbarth ac ar ei draws yn haws ac yn gyflymach.
2.53 Ar ben hynny, mae cyllid Metro Plus ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n cefnogi gweithredu Metro De Cymru hefyd, ac mae'r Fro wedi elwa ar gyllid ar gyfer datblygu cyfnewidfa newydd yn Nociau'r Barri.
2.54 Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r gofyniad i CDLlau gynllunio ar gyfer twf a fydd yn manteisio i'r eithaf ar fuddion cyllid y Metro.
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau (2020)
2.55 Lluniwyd y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh) gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (GARhD). Mae NCT Mwynau 1 (paragraff 1.45 yn cyfeirio) yn gosod amcan trosfwaol, sy'n ceisio sicrhau cyflenwad o agregau a reolir yn gynaliadwy sy'n hanfodol ar gyfer adeiladu drwy daro'r cydbwysedd rhwng costau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae'r DTRh wedi'i lunio i helpu i lywio Awdurdodau Lleol unigol yn Ne Cymru ar sut i weithredu'r polisïau cynllunio mwynau hyn wrth lunio eu polisïau a'u dyraniadau CDLl unigol.
Cydweithredu Rhanbarthol
2.56 Nid yw Bro Morgannwg yn bodoli ar wahân i awdurdodau lleol eraill ac mae'n rhyngweithio ag awdurdodau lleol cyfagos yn rhanbarthol ar faterion strategol gan gynnwys paratoi'r CDLl. Mae Bro Morgannwg yn aelod o Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru (GCSDDdC) sy'n cynnwys 10 awdurdod lleol P-RC i ystyried materion polisi a effeithiodd ar y rhanbarth.
2.57 Hyd yma mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cydweithio ag awdurdodau eraill mewn cysylltiad â cyd-ddatblygu tystiolaeth ar gyfer CDLlN a bydd yn parhau i gydweithio ar nifer o brosiectau parhaus. Mae'r prosiectau gorffenedig a pharhaus yn cynnwys:
- Cytuno ar fethodoleg gyffredin ar gyfer Arfarniadau Aneddiadau Cynaliadwy
- Caffael system cronfa ddata ymgynghori ar gyfer y CDLl (Caerffili, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf)
- Methodoleg Arolwg Tir Cyflogaeth
- Asesiad Strategol Rhanbarthol o Ganlyniadau Llifogydd
- Datblygu model hyfywedd datblygu ar gyfer asesiadau hyfywedd safle-benodol a lefel uchel (y 10 awdurdod P-RC ac awdurdodau lleol yn Rhanbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru);
- Methodoleg Ranbarthol i Nodi Lleiniau Glas a Lletemau Glas
- Astudiaeth safle Rhanbarthol o dramwy Sipsiwn a Theithwyr
- Methodoleg gyffredin ar gyfer pennu gwerthoedd trosglwyddo tai fforddiadwy
- Asesiad Trafnidiaeth Strategol gan ddefnyddio Model Trafnidiaeth Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru
2.58 Bydd cydweithio a chysylltu â'r awdurdodau lleol eraill yn rhanbarthol yn parhau wrth i'r CDLlN fynd yn ei flaen gan gynnwys cyd-gomisiynu neu gydweithredu lle bo hynny'n briodol.
Cynlluniau Datblygu Lleol ac Awdurdodau Cynllunio Lleol Cyfagos
2.59 Yr awdurdodau lleol sy'n ffinio â Bro Morgannwg yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'r gorllewin, Cyngor Caerdydd i'r dwyrain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) i'r gogledd. Mae prawf o gadernid 1 'Ydy'r cynllun yn ffitio?' yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddangos ei fod yn gyson â chynlluniau awdurdodau cyfagos.
2.60 Mae CDLlN Pen-y-bont ar Ogwr ar y cam Archwilio ar hyn o bryd. Mae'r Fro a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod mewn cydweithrediad agos ar faterion trawsffiniol drwy baratoi CDLlN Pen-y-bont ar Ogwr, gan arwain at Ddatganiad o Dir Cyffredin, gan nodi na chododd y Fro unrhyw bryderon na gwrthwynebiadau drwy'r broses ymgynghori ffurfiol ynghylch y CDLlN a'i sylfaen dystiolaeth ategol. Bydd y Fro yn parhau i ymgysylltu â Phen-y-bont ar Ogwr wrth i CDLlN y Fro fwrw ymlaen.
2.61 Mae gan Fro Morgannwg a Chaerdydd gyfagos amserlenni tebyg ar gyfer paratoi eu CDLlN, felly mae swyddogion cynllunio o'r ddau awdurdod yn cynnal cyfarfodydd anffurfiol rheolaidd i drafod cynllun newydd y ddau awdurdod yn enwedig mewn cysylltiad â materion trawsffiniol fel tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth. Cyhoeddodd Caerdydd ei Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ymgynghori ym mis Gorffennaf 2023. Paratowyd papur cefndir sy'n esbonio'r berthynas rhwng y ddau awdurdod cyfagos a sut yr ystyrir bod y ddau gynllun yn ategu ei gilydd yn hytrach na chystadlu â'i gilydd.
2.62 Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda RhCT ynghylch y strategaethau ar gyfer eu cynlluniau priodol ac unrhyw faterion trawsffiniol, a bydd y cydweithio hwn yn parhau fel rhan o gamau datblygu cynlluniau yn y dyfodol.
Cyd-destun Polisi Lleol
2.63 Mae'r adran ganlynol yn nodi dogfennau allweddol y Cyngor sydd wedi llywio'r Strategaeth a Ffefrir. Yn ogystal, bydd tystiolaeth allweddol a baratowyd gan y Cyngor megis yr hyn sy'n ymwneud ag angen tai hefyd yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu polisïau a chyfeirir at y sylfaen dystiolaeth hon yn y Strategaeth a Ffefrir.
Cynllun Lles Bro Morgannwg 2023-28
2.64 Fel rhan o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'r Cyngor, ynghyd â phartneriaid sector cyhoeddus fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg, wedi paratoi ei ail Gynllun Lles ar gyfer y Fro, wedi'i lywio gan Asesiad Lles. Mae'r Cynllun Lles yn cwmpasu'r 7 nod llesiant ac yn darparu fframwaith i bob corff sector cyhoeddus gyflawni'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy drwy fabwysiadu'r 5 ffordd o weithio.
2.65 Mae'r Cynllun Lles newydd yn nodi tri Amcan Llesiant newydd a'r meysydd blaenoriaeth y bydd y BGC yn canolbwyntio arnynt, ac mae'r Amcanion yn adlewyrchu'r materion allweddol a'r heriau allweddol a nodwyd yn Asesiad Lles Bro Morgannwg:
- Bro mwy gwydn a gwyrdd - drwy ddeall a gwneud y newidiadau sy'n angenrheidiol fel unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
- Bro mwy actif ac iach – drwy annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy actif a hyrwyddo manteision cofleidio ffordd o fyw iachach.
- Bro decach a mwy cysylltiedig - drwy fynd i'r afael â'r annhegwch sy'n bodoli ledled y Fro, ymgysylltu â'n cymunedau a darparu gwell cyfleoedd a chefnogaeth i wneud gwahaniaeth parhaol.
2.66 Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae'r Cynllun Lles wedi nodi 3 ffrwd waith â blaenoriaeth lle canolbwyntir ar gydweithio:
- Ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur - Mae'r Asesiad Lles yn nodi rhai o'r materion allweddol i'r Fro o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae partneriaid yn cydnabod mai'r ffordd orau o gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar draws ein sefydliadau a'n cymunedau yw trwy gydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried trafnidiaeth, ynni, bwyd, bioamrywiaeth a sut rydym yn defnyddio ein hadeiladau a'n tir.
- Gweithio gyda'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau sy'n profi'r lefelau amddifadedd uchaf - Mae'r Asesiad Lles wedi amlygu'r gwahaniaethau ar draws y Fro a sut mae'r anghydraddoldebau hyn wedi'u gwaethygu gan bandemig Covid-19. Bydd y Cynllun Lles yn canolbwyntio'n benodol ar yr ardaloedd hynny ym Mro Morgannwg y nodwyd eu bod yn fwy difreintiedig gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y cymunedau hyn.
- Bod yn Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn - Rhagwelir y bydd cyfran poblogaeth y Fro rhwng 65-84 oed yn cynyddu. Bydd y Cynllun Lles yn ceisio sicrhau bod y Fro yn well i bobl hŷn ac yn lle gwell i bobl heneiddio, gan ei gwneud yn lle mwy cyfeillgar i bawb a chydnabod cyfraniad pobl hŷn.
Prosiect Sero - Cynllun Her Newid Hinsawdd Cyngor Bro Morgannwg 2021-2030
2.67 Ym mis Chwefror 2020 llofnododd y Cyngor Siarter Argyfwng Hinsawdd gyda BGC y Fro ac mae hwn yn nodi ymrwymiad cyffredin y BGC i arwain drwy esiampl, cymryd camau cadarnhaol a lleihau ei effaith ar y newid yn yr hinsawdd.
2.68 Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero-net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at rôl y CDLl mabwysiedig yn cyfrannu at yr ymrwymiad newid hinsawdd, er enghraifft, sicrhau cyfraniadau cynllunio tuag at gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy a thrwy weithredu polisïau sy'n annog ynni adnewyddadwy.
2.69 Mae'r CDLlN yn rhoi cyfle i'r Cyngor archwilio ffyrdd o ddatblygu ei ymrwymiadau newid hinsawdd i gyfrannu at y broses o wneud Cymru'n genedl carbon isel.
Cynllun Corfforaethol Bro Morgannwg 2020-2025
2.70 Cynllun Corfforaethol Bro Morgannwg yw dogfen strategol allweddol y Cyngor ac mae'n nodi'r fframwaith ar gyfer y gwahanol weithgareddau y mae'r Cyngor yn ymgymryd â nhw. Mae'n ceisio cyflawni ystod eang o ganlyniadau a fesurir yn erbyn 4 amcan lles y cynllun:
- Gweithio gyda, a thros ein cymunedau.
- Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy.
- Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned.
- Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd.
2.71 Ar gyfer pob amcan, mae'r cynllun yn nodi'r camau a gymerir dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd ac fe'i cefnogir gan Gynllun Cyflawni Blynyddol sy'n nodi camau gweithredu manwl pellach. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys agweddau sy'n berthnasol i gynllunio defnydd tir a fydd yn dylanwadu ac yn cyfarwyddo ffocws y CDLl Newydd.
- Gwella lles, gan hyrwyddo trafnidiaeth llesol a chynaliadwy;
- Cefnogi twf economaidd drwy weithio fel rhan o'r Brifddinas-Ranbarth, adfywio, gwella seilwaith a chefnogi canol trefi, twristiaeth a diwydiant;
- Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da;
- Lleihau allyriadau carbon a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd;
- Sicrhau bod datblygiadau'n gynaliadwy, lliniaru eu heffaith a'u hintegreiddio â chymunedau lleol gan ddarparu'r seilwaith angenrheidiol;
- Diogelu a gwella'r amgylchedd adeiledig naturiol a threftadaeth ddiwylliannol;
- Lleihau llygredd, rheoli gwastraff yn effeithiol a lleihau effaith llifogydd.
Cynllun Trafnidiaeth Lleol Bro Morgannwg 2015 - 2030
2.72 Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl) y Cyngor yn ceisio nodi'r mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol sydd eu hangen i sicrhau bod Bro Morgannwg yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir gan Lywodraeth Cymru a'r canllawiau arfer da cyfredol. Mae'r CTLl yn nodi nifer o amcanion byrdymor hyd at 2020 ac yn cynnwys amcanion tymor canolig a thymor hwy hyd at 2030. Mae'r CTLl wedi'i lywio gan gynigion o fewn CDLl mabwysiedig y Cyngor ac mae hefyd yn gyson ag amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
2.73 Wrth nodi cynlluniau, mae'r CTLl yn chwilio am ffyrdd o sicrhau gwell amodau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac annog newid mewn dewisiadau teithio, i ffwrdd o geir meddiannaeth sengl. Mae'r CTLl hefyd yn ceisio mynd i'r afael â thagfeydd traffig drwy sicrhau gwelliannau i'r coridorau priffyrdd strategol i gymudwyr y gallai fod angen iddynt deithio mewn car yn ogystal â darparu seilwaith gwell ar gyfer cludo nwyddau. Mae hefyd yn ceisio mynd i'r afael â blaenoriaethau diogelwch ffyrdd allweddol y Fro. Mae'r CTLl yn cefnogi cynigion ar gyfer Metro Caerdydd a bydd yn llywio gwaith cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol.
Blaengynllun Bioamrywiaeth Bro Morgannwg (2019)
2.74 Mae Blaengynllun Bioamrywiaeth (BGB) Bro Morgannwg yn edrych ar sut mae'r Cyngor yn rheoli ac yn gwella adnoddau naturiol i sicrhau bod bioamrywiaeth a chynaliadwyedd yn cael eu hystyried ym mhob maes gwasanaeth a'u bod yn themâu craidd wrth ddarparu gwasanaethau, gan ddod yn rhan annatod o'r prosesau gwneud penderfyniadau ledled y Cyngor. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i ddangos sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn "ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ei swyddogaethau'n briodol ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau".
2.75 Mae rhan un o'r Blaengynllun yn nodi'r cefndir (gan gynnwys y cyd-destun deddfwriaethol), heriau a chyfleoedd a'r camau gweithredu a'r targedau sydd i'w cyflawni i gyflawni'r nodau hyn. Adroddir ar y camau gweithredu yn y BGB bob tair blynedd yn unol â gofynion statudol a chânt eu hadolygu a'u diweddaru ar ddiwedd pob cyfnod adrodd o 3 blynedd. Bydd yr adolygiad o'r BGB yn cyd-fynd ag un y CDLl ac felly bydd yn darparu tystiolaeth gefndirol allweddol ar gyfer y CDLl newydd ac yn llywio'r adolygiad o bolisïau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth o fewn y Cynllun.
Strategaeth Tai Lleol Bro Morgannwg 2021-26
2.76 Mae'r Strategaeth Dai yn nodi bwriadau'r Cyngor a'i bartneriaid i gyflawni ystod eang o amcanion tai. Mae'r strategaeth yn cynnwys gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Strategaeth tai yn y Fro am y 5 mlynedd nesaf "Bod gan holl breswylwyr Bro Morgannwg hawl i gael tŷ addas o ansawdd da, a'u bod yn gallu byw'n hapus ac yn annibynnol mewn cymunedau bywiog a chynaliadwy"Mae'r weledigaeth wedi'i seilio ar bedwar nod allweddol sy'n ffurfio'r fframwaith y bydd camau'n cael eu gweithredu ynddo.
- Nod 1: Mwy o Gartrefi, Mwy o Ddewis.
- Nod 2: Gwella cartrefi a chymunedau.
- Nod 3: Gwell cyngor a chymorth tai.
- Nod 4: Mynediad cyfartal at dai a gwasanaethau tai.
2.77 Mae cynllun cyflawni yn cyd-fynd â'r Strategaeth, sydd wedi'i osod dros yr un cyfnod â'r strategaeth. Mae'r cynllun cyflawni yn amlinellu ystod o gamau gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyngor a'i bartneriaid, o dan y 4 nod.
Strategaeth Tai Pobl Hŷn Bro Morgannwg
2.78 Strategaeth Tai Pobl Hŷn y Cyngor 'Creu Cartrefi a Chymdogaethau yn Ddiweddarach mewn Bywyd 2022-36' yn gosod gweledigaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg sef: 'Sicrhau'r ansawdd bywyd gorau ar gyfer pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl yn ddiweddarach mewn bywyd. Golyga hyn ddarparu amrywiaeth o lety sy'n galluogi pobl hŷn i fyw bywydau boddhaus a mwynhau iechyd da mewn cartrefi deniadol sy'n diwallu eu hanghenion ac yn caniatáu iddynt gadw eu hannibyniaeth wrth iddyn nhw heneiddio.'
2.79 Mae'r strategaeth yn rhagweld y bydd angen rhyw 1,357 o dai arbenigol dynodedig ar gyfer oedran erbyn 2037, yn dai ymddeol (ar gyfer rhentu cymdeithasol ac i'w gwerthu) a thai â gofal (tai gofal ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol ac i'w gwerthu). Tynnu sylw at bwysigrwydd i'r Cyngor a'i bartneriaid fynd i'r afael ag anghenion tai yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â phoblogaeth sy'n heneiddio drwy ddarparu atebion tai priodol sy'n deillio o boblogaeth hŷn sy'n tyfu. Mae'r strategaeth yn nodi ystod o fecanweithiau cyflawni gan gynnwys y CDLl, yr ystyrir ei fod â rôl allweddol wrth annog darparwyr tai preifat a chymdeithasol i ddatblygu ystod o dai prif ffrwd sy'n addas ac yn ddeniadol i bobl hŷn.
Yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur a Ddatganwyd
2.80 Ym mis Gorffennaf 2019, ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd byd-eang. Ymrwymodd y Cyngor i:
- Leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net cyn targed Llywodraeth Cymru o 2030 a chefnogi'r gwaith o weithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru.
- Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraeth Cymru a'r DU, fel y bo'n briodol, i ddarparu'r pwerau, adnoddau a chymorth technegol mae eu hangen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i gyflawni targed 2030 yn llwyddiannus.
- Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu strategaeth yn unol â'r targed o allyriadau sero net erbyn 2030 ac edrych ar ffyrdd o sicrhau'r buddion lleol gorau posibl o ganlyniad i'r camau hyn mewn sectorau eraill megis cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.
2.81 Wedi'i gysylltu'n agos â datganiad yr argyfwng hinsawdd, ym mis Gorffennaf 2021 cyhoeddodd Cyngor Bro Morgannwg 'argyfwng natur' ac ymrwymodd i darged o ddim colled net o ran bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i barhau i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all ddiogelu bioamrywiaeth Cymru.
Y Siarter Creu Lleoedd a Chynlluniau Creu Lleoedd
2.82 Ym mis Mai 2023, penderfynodd y Cabinet y dylai Cyngor Bro Morgannwg lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru[1]. Datblygwyd y Siarter Creu Lleoedd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae Siarter yn datblygu'r ffocws cynyddol ar greu lleoedd mewn polisïau ac arferion yng Nghymru a'i nod yw rhoi dealltwriaeth gyffredin o'r amrywiaeth o ystyriaethau a wneir wrth greu lleoedd. Cytunodd llofnodwyr y Siarter i hyrwyddo'r egwyddorion canlynol wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol:
- Pobl a'r gymuned
- Lleoliad
- Symud
- Cymysgedd o ddefnyddiau
- Tir y cyhoedd
- Hunaniaeth
2.83 Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn cael eu paratoi ar gyfer y pedair tref yn y Fro (Y Barri, Y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr) sy'n adlewyrchu chwe egwyddor y Siarter Creu Lleoedd. Mae'n bwysig bod cysondeb rhwng Cynlluniau Creu Lleoedd a chynigion a nodwyd yn y CDLl mabwysiedig a'r CDLlN datblygol. Fodd bynnag, mae gan Gynlluniau Creu Lleoedd gylch gwaith ehangach na materion cynllunio defnydd tir, gan gwmpasu'r pethau eraill fel digwyddiadau, gweithgareddau mewn lleoedd a lles cymdeithasol. Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd mabwysiedig yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.