Housing Growth in Barry

Yn dod i ben ar 14 Gorffennaf 2025 (2 diwrnod ar ôl)

4 Opsiynau Twf yn y Barri

4.1 Y Barri yw'r dref fwyaf ym Mro Morgannwg gyda phoblogaeth Cyfrifiad 2021 o 53,400, sy'n cyfateb i 41% o boblogaeth gyffredinol Bro Morgannwg.

4.2 Dyma'r unig 'anheddiad allweddol' o fewn yr hierarchaeth aneddiadau yn seiliedig ar boblogaeth, darpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau allweddol, hygyrchedd ac amlder trafnidiaeth gyhoeddus, a chyfleoedd cyflogaeth. Dyma'r lleoliad mwyaf cynaliadwy yn y Fro ac o ganlyniad mae angen i'r Barri ddarparu ar gyfer lefel o dwf tai sy'n gymesur â'i rôl a'i swyddogaeth.

4.3 Ar ben hynny, mae'r Asesiad diweddaraf o'r Farchnad Dai Leol (AFDL) yn dangos bod angen tai fforddiadwy, sef 1,075 o unedau y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf yn y Fro, gyda'r angen uchaf yn y Barri (mwy na 500 o unedau y flwyddyn). Bydd targedu twf i'r ardal farchnad hon yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r angen hwn.

4.4 Mae'r Papur Cefndir Opsiynau Gofodol yn nodi bod y Barri wedi'i gyfyngu gan lifogydd i'r de o'r dref, cyfyngiadau tirwedd i'r gogledd, a'r tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Hyblyg (GMH) i'r dwyrain. O ystyried y cyfyngiadau hyn, mae'r cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy y tu hwnt i ffiniau aneddiadau presennol y dref yn gyfyngedig.

4.5 Er mwyn parchu'r tir sydd wedi'i eithrio yng Ngogledd Ddwyrain y Barri yn y Cynllun Adneuo, mae angen ystyried a oes safleoedd eraill yn ardal y Barri sy'n cael eu hystyried yn addas mewn egwyddor i'w datblygu ac a fyddai'n cyd-fynd â'r strategaeth.

Nifer wedi'u cwblhau ers dechrau cyfnod y cynllun

Comment on Completions since the start of the plan period Sylw

4.6 Mae'r CDLlN yn cwmpasu'r cyfnod 2021-2026. Yn nhair blynedd gyntaf cyfnod y cynllun (2021-22, 2022-23, 2023-24) cwblhawyd cyfanswm o 1,118 o unedau ar safleoedd mawr ledled y Fro. Dros y cyfnod 3 blynedd hwn, cwblhawyd 506 o unedau yn y Barri, yn bennaf ar Lannau'r Barri, ynghyd â sawl ailddatblygiad dan arweiniad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar safleoedd tir llwyd o fewn neu ger canol y dref. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 45% o'r nifer wedi'i gwblhau ar safleoedd mawr.

Ymrwymiadau Presennol

Comment on Existing Commitments Sylw

4.7 Mae nifer o safleoedd mawr (10 neu fwy o anheddau) sydd eisoes â budd caniatâd cynllunio. Mae'r rhain eisoes wedi'u ffactorio yn y cyfrifiad cyflenwad tir tai.

4.8 Roedd y Strategaeth a Ffefrir yn nodi ymagwedd tuag at y safleoedd hyn o 1 Ebrill 2023, ond mae'r tabl isod yn diweddaru hyn i adlewyrchu canfyddiadau gwaith monitro 1 Ebrill 2024. Nid yw'r safleoedd hynny a oedd yn cael eu hadeiladu yn 2023 ond a gwblhawyd erbyn 1 Ebrill 2024 wedi'u cynnwys yn y rhestr gan eu bod wedi'u cynnwys gyda'r ffigur cwblhau uchod.

4.9 Nodir bod 117 o unedau wrthi'n cael eu hadeiladu ar safleoedd mawr yn yr asesiad monitro diwethaf ar 1 Ebrill 2024, gyda llawer o'r rhain yn debygol o gael eu cwblhau erbyn y cyfnod monitro tai nesaf a fydd yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2025.

4.10 Mae un cais cynllunio mawr wedi'i gymeradwyo ers i'r Strategaeth a Ffefrir gael ei chyhoeddi - ailddatblygu Eglwys Fethodistaidd Crossways i gynnwys 15 uned.

Enw'r Safle

Ffynhonnell

Cyfanswm Capasiti Safle

Anheddau wedi'u cwblhau erbyn 1 Ebrill 2024 (wedi'u cynnwys yn y nifer wedi'u cwblhau)

Anheddau yn cael eu hadeiladu 2024

Anheddau heb ddechrau Ebrill 2024

Holm View (Cam 2), Y Barri

Dyraniad CDLl

42

14

28

0

Hayes Wood, The Bendricks

Safle Annisgwyl

53

21

32

0

Clinig Iechyd Colcot, Heol Winston, Y Barri

Safle Annisgwyl

12

0

12

0

81-85, Heol Holltwn (Dan Evans gynt), Y Barri

Safle Annisgwyl

25

0

25

0

Tir yn Coldbrook Road East, Tregatwg, y Barri

Safle Annisgwyl

20

0

20

0

Yr Hen Seidins Rheilffordd, Ffordd y Mileniwm, Y Barri

Safle Annisgwyl

56

0

0

56

Eglwys Fethodistaidd Crossways, y Barri

Safle Annisgwyl

15

0

0

15

Cyfanswm

223

35

117

71

Safleoedd wedi'u dwyn ymlaen

Comment on Rolled Forward sites Sylw

4.11 Mae dau safle heb eu datblygu yn ardal y Barri y bwriedir eu cyflwyno o'r CDLl mabwysiedig ac sy'n cael eu hystyried yn hyfyw ac yn gyflawnadwy o fewn cyfnod y cynllun. Yn gyntaf mae gan y safle i'r gorllewin o Lôn Pencoedtre gapasiti o 135 o unedau ac mae ym mherchnogaeth adran dai y Cyngor, sy'n bwriadu dod â'r safle ymlaen fel rhan o'r trefniant partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro y cytunwyd arnynt yn ddiweddar. Nid yw'r safle yn destun cais cynllunio ar hyn o bryd.

4.12 Mae tir ar gael o hyd yn The Mole on the Waterfront, sydd wedi'i gynnwys o fewn ffin safle strategol y CDLl mabwysiedig, ac mae cais cynllunio hybrid yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer The Mole a'r Doc Rhif 1 cyfagos ar gyfer marina gyda 400 lle, adeilad swyddfa morol, gweithle deorydd a datblygiad preswyl sy'n cynnwys tai tref a fflatiau. Mae'r cynlluniau presennol yn nodi 65 o gartrefi fel rhan o'r cynllun adfywio ehangach hwn.

Enw'r Safle

Ffynhonnell

Cyfanswm Capasiti Safle

Anheddau wedi'u cwblhau erbyn 1 Ebrill 2024 (wedi'u cynnwys yn y nifer wedi'u cwblhau)

Anheddau yn cael eu hadeiladu 2024

Anheddau heb ddechrau Ebrill 2024

Tir i'r gorllewin o Pencoedtre Lane, y Barri

Dyraniad CDLl wedi'i ddwyn ymlaen

135

0

0

135

Tir yn y Mole, Glannau'r Barri

Dyraniad CDLl wedi'i ddwyn ymlaen

65

0

0

65

200

0

0

200

Astudiaeth Capasiti Trefol

Comment on Urban Capacity Study Sylw

4.13 Yn rhan o'r dystiolaeth i greu'r CDLlN, paratowyd Astudiaeth Capasiti Trefol (ACT) i ystyried safleoedd datblygu posibl o fewn anheddiad diffiniedig presennol y Barri. Mae'r ACT wedi dangos nad oes unrhyw safleoedd eraill sy'n addas ar gyfer tai sy'n debygol o ddod ar gael ar dir a ddatblygwyd o'r blaen ar raddfa debyg i'r Glannau, er bod cyfleoedd mewnlenwi ac ailddatblygu a allai fod yn dderbyniol mewn egwyddor fel safleoedd annisgwyl dros gyfnod cynllun y CDLlN.

4.14 Fel rhan o'r papur cyflenwad tir tai a baratowyd i gefnogi'r Strategaeth a Ffefrir, amcangyfrifwyd y byddai'n seiliedig ar dueddiadau blaenorol a chyfleoedd posibl y byddai 40% o'r holl safleoedd mawr (safleoedd heb eu dyrannu o 10 neu fwy o annedd) yn cael eu darparu yn y Barri, sy'n cyfateb i 300 o unedau.

4.15 Mae'r ACT yn nodi nifer o gyfleoedd allweddol ar dir gwag neu sydd wedi'u tan-ddefnyddio sy'n dangos bod capasiti damcaniaethol ar safleoedd yn y Barri i fodloni cyfran gymesur o'r nifer o hap-safleoedd mawr a ganiateir. Mae'r ACT yn glir "nad yw nodi safleoedd o fewn yr Astudiaeth hon yn dod i'r casgliad y byddai ceisiadau cynllunio yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn ffafriol yn awtomatig, ond yn hytrach eu bod mewn ardal lle gallai datblygu fod yn dderbyniol mewn egwyddor. Byddai angen ystyried addasrwydd safleoedd yn y cam cais cynllunio, gan ystyried yr holl ystyriaethau materol."

4.16 Mae'r ACT hefyd yn nodi "byddai'n rhaid asesu safleoedd a nodir yn yr Astudiaeth hon yn erbyn polisi perthnasol ar eu teilyngdod eu hunain, ac nid yw eu cynnwys yn yr Astudiaeth hon yn pwyso'n sylweddol o'u plaid. Yn yr un modd, nid yw absenoldeb safle o'r Astudiaeth hon yn diystyru ei dderbynioldeb i gael ei ddatblygu fel hap-safle."

4.17 Yn unol â'r polisi cynllunio cenedlaethol mae disgwyliad bod dwysedd mewn ardaloedd trefol mor uchel â phosibl ac y dylai safleoedd sydd mewn lleoliadau mwy canolog a hygyrch, gan gynnwys yn agos at nodau trafnidiaeth, ddarparu dwysedd uwch. Felly, bydd disgwyl y bydd mwy o anheddau fesul hectar net yn cael eu darparu yn y Barri na rhai ardaloedd eraill o'r Fro.

4.18 Byddai 260 o anheddau eraill yn cael eu darparu ar safleoedd bach (o lai na 10 annedd). Mae'r astudiaeth capasiti trefol yn awgrymu ei bod yn debyg bod cyflenwad cyson o safleoedd bach i fodloni'r gofyniad hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynnydd anheddau net yn sgil addasu neu is-rannu anheddau presennol neu adeiladau eraill, a hefyd safleoedd mewnlenwi ac ailddatblygiadau tir ac adeiladau sydd wedi'u tanddefnyddio.

4.19 Rhoddwyd ystyriaeth i b'un a oes safleoedd o fewn yr astudiaeth capasiti trefol nad ydynt wedi'u cyflwyno fel safleoedd ymgeisiol ond a allai fod yn dderbyniol mewn egwyddor ac y gellid eu dyrannu yn yr CDLlN i ddisodli'r unedau a gollwyd yng Ngogledd Ddwyrain y Barri. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus ynglŷn â dull o'r fath oherwydd yn gyntaf efallai na fydd gan y safleoedd hyn y wybodaeth ategol angenrheidiol, gan gynnwys gwaith hyfywedd, i dystiolaethu bod dyraniad posibl yn gyflawnadwy. Yn ail, mae angen cyflenwad o hap-safleoedd i gyfiawnhau'r rhagdybiaeth o ganiatáu hap-safleoedd yn y cyfrifiad cyflenwad tir tai. Os dyrannir yr hap-safleoedd hysbys hyn, efallai y bydd angen adolygu'r cyfrifiad rhagdybiaeth hap-safleoedd i lawr. Canlyniad hyn fyddai y gallai fod angen dyraniadau tai ychwanegol i fodloni'r gofyniad tai cyffredinol, a fyddai'n fwy na thebyg yn golygu y byddai angen dod o hyd i safleoedd ychwanegol yn y Barri.

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol

Comment on Call for Candidate Sites Sylw

4.20 Fel rhan o'r broses CDLlN, cyhoeddwyd galwad am safleoedd i dirfeddianwyr, hyrwyddwyr safleoedd a datblygwyr gyflwyno safleoedd posib i'w cynnwys yn yr CDLlN. Cyflwynwyd cyfanswm o 11 o safleoedd ymgeisiol yn ardal y Barri, sy'n cynnwys safleoedd nad ydynt o fewn ffin weinyddol Cyngor Tref y Barri ond a fyddai'n cynrychioli estyniadau swyddogaethol i'r dref. Roedd bron pob safle wedi'u lleoli ar gyrion yr anheddiad, gan adlewyrchu'r cyfleoedd cyfyngedig sy'n bodoli o fewn yr ardal adeiledig bresennol.

4.21 Agorwyd ail alwad am safleoedd ymgeisiol ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir a chyflwynwyd un safle ychwanegol yn ardal y Barri, er bod y safle wedi'i gyflwyno ddwywaith i adlewyrchu dau ddefnydd gwahanol ar gyfer y tir.

4.22 Mae'r rhestr lawn o safleoedd a chanlyniad y broses asesu safleoedd wedi'i chynnwys yn Atodiad 2 a dangosir lleoliad y safleoedd yn Ffigur 1 isod.

Ffigur 1 – Safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd drwy'r alwad am safleoedd

Safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd yn y Barri

4.23 Mae'r safleoedd a ddangosir uchod yn cynnwys:

  • Glas – safleoedd wedi'u hymrwymo – mae 459 yn safle wedi'i gyflwyno o'r CDLl a fabwysiadwyd, ac mae 426 yn safle ymgeisiol sydd bellach wedi cael caniatâd cynllunio.
  • Gwyrdd – safleoedd a ystyriwyd eu bod yn addas i'w hystyried ymhellach ar gam y Strategaeth a Ffefrir, yn amodol ar ystyriaeth fanylach fel rhan o baratoi'r Cynllun Adneuo.
  • Ambr – safleoedd sydd wedi'u dyrannu ar gyfer defnyddiau eraill ar gam y Strategaeth a Ffefrir ond a allai fod yn addas os nad oes angen y dynodiad presennol mwyach.
  • Coch – safleoedd nad ydynt yn addas i'w hystyried ymhellach.
  • Ffin goch – safle a gyflwynwyd fel rhan o'r ail alwad am safleoedd (Tir yn Ffordd y Mileniwm).

4.24 Yr unig safleoedd newydd a ddosbarthwyd fel 'gwyrdd' - yr ystyriwyd eu bod yn addas i'w hystyried ymhellach yng nghyfnod y Strategaeth a Ffefrir - oedd Tir yng Ngogledd Ddwyrain y Barri, (428) a Thir yng Ngogledd Orllewin y Barri (449 Tir yng Weycock Cross). Dewiswyd tir yng Ngogledd Ddwyrain y Barri i fod yn safle allweddol yn y Strategaeth a Ffefrir gan ei fod o raddfa a allai ddarparu cymysgedd priodol a chadarnhaol o ddefnyddiau i greu estyniad trefol cynaliadwy i'r Barri, yn unol ag egwyddorion creu lleoedd. Ystyriwyd hefyd y gallai ddarparu lefel o dai yn gyffredinol a fyddai'n briodol i faint y Barri, yn ogystal â darparu nifer sylweddol o dai fforddiadwy.

4.25 Mae'r holl safleoedd ymgeisiol a fu'n llwyddiannus yn sgil asesiad cam 1 y broses asesu safleoedd ymgeisiol, a'r holl safleoedd wedi'u cyflwyno, hefyd wedi bod yn destun asesiad trwy'r broses Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (ACI). Mae crynodeb o'r dadansoddiad o'r safleoedd o fewn y Barri neu'n gorfforol gyfagos i'r dref wedi'i gynnwys yn Atodiad 3. Gellir dod o hyd i esboniad o'r fethodoleg lawn a'r asesiad o'r safleoedd hynny a gyflwynwyd fel rhan o'r alwad gyntaf am safleoedd yn yr adroddiad ACI Cychwynnol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir, a baratowyd gan Aecom, sef ymgynghorwyr ACI penodedig y Cyngor. Mae Aecom hefyd wedi cynnal yr un asesiad o'r safleoedd newydd a dderbyniwyd fel rhan o'r ail alwad am safleoedd, ac mae'r un safle ychwanegol a gynigir ar gyfer tai wedi'i gynnwys yn y crynodeb.

Gogledd Orllewin y Barri

Comment on Infrastructure Requirements Sylw

Comment on Other RLDP Allocations Sylw

4.26 Fel y nodwyd yn yr adran flaenorol, yr unig safle arwyddocaol arall a ddosbarthwyd fel safle 'gwyrdd' sy'n addas i'w ystyried ymhellach yng nghyfnod y Strategaeth a Ffefrir oedd tir i'r gogledd-orllewin o'r Barri (safle ymgeisiol 449 Tir yn Weycock Cross). Ystyriwyd bod y cyflwyniad safle ymgeisiol 7 ha, sy'n cynnwys 3 parsel cae i'r gorllewin o Pontypridd Road ac i'r de o Port Road, yn addas mewn egwyddor i'w ddatblygu, a'i fod yn unol â'r strategaeth. Dangosir map o'r safle ymgeisiol yn Ffigur 2.

Ffigur 2 - Safle ymgeisiol 449 Tir Weycock Cross (Gogledd Orllewin y Barri)

Safle ymgeisiol 449 - Tir yn Weycock Cross

4.27 Ni chafodd y safle ei ddewis fel dyraniad safle allweddol ar y sail "y byddai'n fwy buddiol mynd i'r afael ag anghenion tai'r Barri'n strategol drwy adnabod Safle Allweddol yng ngogledd-ddwyrain y Barri, a fyddai'n darparu tua 1,500 o anheddau o fewn cyfnod y cynllun a'r tu hwnt. Byddai'r ehangu trefol sylweddol hwn yn y dref yn darparu ystod ehangach o fuddion yn enwedig o ran mynd i'r afael â'r lefelau uchel o dai fforddiadwy sy'n bresennol yn y Barri. O safbwynt creu lleoedd, byddai'n cynnig cymysgedd o ddefnyddiau a gwelliannau i'r seilwaith yn well nag datblygu'r safle hwn llai gyda tua 180 o anheddau. Byddai ond angen ystyried y safle hwn ymhellach os nad yw'r safleoedd allweddol yn ardal y Barri yn mynd yn eu blaen."

4.28 Ystyrir bod Gogledd Orllewin y Barri mewn lleoliad cynaliadwy. Paratowyd mapiau gan Drafnidiaeth Cymru (TC) sy'n dangos amseroedd teithio o orsafoedd allweddol yn y Barri (Y Barri, Dociau'r Barri, Tregatwg) ar droed ac ar gefn beic. Mae'r mapiau isocron hyn yn dangos bod y safle yng Ngogledd Orllewin y Barri ychydig ychydig dros ugain munud o orsaf y Barri ar droed, ne 5-10 munud ar gefn beic. Mae lle dan do i gadw beiciau yng ngorsaf y Barri gyda chamerâu teledu cylch cyfyng.

4.29 Mae'r safle hefyd yn cael ei wasanaethu'n dda gan wasanaethau a chyfleusterau gyda siop fwyd cymdogaeth yn agos at gylchfan Weycock Cross, ac archfarchnad fawr, meddygfa, canolfan gymunedol, tair ysgol gynradd (Cyfrwng Saesneg, Cyfrwng Cymraeg ac Eglwys yng Nghymru) a dwy ysgol uwchradd (Cyfrwng Saesneg a Chymraeg) i gyd wedi'u lleoli o fewn pellter cerdded rhesymol. Mae llwybr teithio llesol ar hyd Port Road West.

4.30 O ran graddfa, mae'r safle ymgeisiol fel y'i cyflwynwyd (180 o unedau) yn sylweddol llai na'r safle allweddol a nodwyd yng Ngogledd-ddwyrain y Barri, sef capasiti i 900 o unedau dros gyfnod y cynllun a hyd at 1,500 i gyd. Fodd bynnag, mae safle ymgeisiol Gogledd Orllewin y Barri yn rhan o ardal fwy o dir sy'n ymestyn tua'r de tuag at Millwood ac tua'r gorllewin tuag at Cwm Ciddy Lane. Mae'r safle mwy yn dir amaethyddol gradd isel ac, ynghyd â'r tir cyfagos a nodwyd fel y safle ymgeisiol, gallai ddarparu ar gyfer 376 o unedau ar safle 18.73 Ha. Dangosir maint y safle mwy o faint yn Ffigur 3.

Ffigur 3 - Map o'r safle arfaethedig yng ngogledd orllewin y Barri

Map o'r safle arfaethedig yng ngogledd orllewin y Barri

4.31 Ystyrir y byddai dyrannu safle mwy o faint ar gyfer tua 376 o unedau yn y lleoliad hwn yn fuddiol mewn sawl ffordd o'i gymharu â safle llai. Yn gyntaf, bydd mynediad at y safle o'r A4226 Port Road West, ac mae'n debyg y bydd angen cyffordd â signalau. Cydnabyddir bod tagfeydd ar gylchfan Weycock ar oriau brig, a bydd angen ceisio cyflawni gwelliannau i gapasiti a llif y gylchfan, sy'n gysylltiedig hefyd â'r gyffordd fynediad newydd. Bydd safle mwy yn debygol o fod yn gallu ariannu gwelliannau mwy sylweddol i'r gyffordd, gan y bydd hyn yn uniongyrchol gysylltiedig ac yn gymesur â'r datblygiad. Ymchwilir i nifer o opsiynau ar gyfer gwella hyn ar hyn o bryd, ochr yn ochr ag Asesiad Trafnidiaeth Strategol, a fydd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y CDLl Adneuo.

4.32 Bydd safle mwy hefyd yn fwy tebygol o gynhyrchu mwy o gyfraniadau ar gyfer rhwymedigaethau cynllunio eraill fel trafnidiaeth gynaliadwy a chyfleusterau cymunedol, a fydd hefyd o fudd i'r ardal ehangach. Yn ogystal, bydd gofyniad i ddarparu rhan o lwybr teithio llesol ar hyd ffryntiad y safle ar Port Road gan fod y cyswllt allweddol hwn wedi'i nodi yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol fel llwybr yn y dyfodol sy'n cysylltu'r Barri â'r Rhws.

4.33 Ar ben hynny, bydd safle mwy yn darparu mwy o gartrefi fforddiadwy yn y rhan o'r Fro gyda'r lefel uchaf o angen. Gallai safle o oddeutu 376 o anheddau ddarparu 113 o gartrefi fforddiadwy newydd, o'i gymharu â 54 o gartrefi fforddiadwy ar y safle llai, yn seiliedig ar y gofyniad o dai fforddiadwy o 30% sydd wedi'i nodi yn yr Astudiaeth Hyfywedd fel un sy'n hyfyw yn yr ardal hon.

4.34 Nid oes unrhyw bryderon ar hyn o bryd ynglŷn â chyflawnadwyedd yr ardal fwy o safbwynt perchnogaeth tir a gellid cyflawni'r safle mwy yn realistig fel rhan o ddatblygiad graddol.

4.35 Yng ngoleuni'r manteision uchod o ddyrannu safle mwy, cynigir dyrannu'r safle fel y dangosir yn Ffigur 3 fel safle allweddol yn yr CDLlN, yn hytrach na'r safle a gynigiwyd yn flaenorol yng Ngogledd Ddwyrain y Barri.

4.36 Cydnabyddir bod y safle wedi'i leoli o fewn 'Lletem Las' fel y'i diffinnir yn y CDLl a fabwysiadwyd, fodd bynnag, mae Lletem Las yn ddynodiad lleol sy'n gwasanaethu sawl diben, gan gynnwys atal cyfuno, rheoli ffurf drefol drwy ehangu ardaloedd trefol dan reolaeth a chynorthwyo i ddiogelu cefn gwlad rhag tresmasu. Yn wahanol i 'Llain Las', y dylid ei warchod am gyfnod hirach na'r cyfnod presennol perthnasol o'r cynllun datblygu, dylid adolygu polisïau lletem las fel rhan o broses adolygu'r cynllun datblygu a gall ardaloedd a gwmpesir gan ddynodiadau lletem las fod yn destun newid lle mae newid mewn blaenoriaethau defnydd tir fel angen tai neu ddatblygiad economaidd. O ganlyniad, mae lle i ddiwygio ffin bresennol y Lletem Las fel rhan o'r CDLlN. Mae angen taro cydbwysedd cynllunio cyffredinol rhwng sicrhau lefel briodol o dwf a diogelu'r cefn gwlad. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal Adolygiad Lletem Las yn unol â methodoleg y cytunwyd arni yn rhanbarthol.

4.37 Paratowyd Uwchgynllun dangosol wedi'i lywio gan ganfyddiadau nifer o astudiaethau allweddol gan gynnwys asesiad ecolegol, strategaeth ddraenio, strategaeth seilwaith gwyrdd ac arfarniad tirwedd. Mae'r Uwchgynllun hwn yn cynnig bod y datblygiad adeiledig yn ymestyn mor bell i'r de â'r patrwm datblygu presennol ar Nant Talwg Way, gyda byffer rhwng unrhyw ddatblygiad a Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur Coedwig Knock Man Down gyda photensial yn rhan ddeheuol y safle ar gyfer gwella bioamrywiaeth a chysylltiadau posibl â Pharc Gwledig Porthceri ac ehangu hynny.

4.38 Mae gofyniad i bob datblygiad gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â safonau cenedlaethol ac mae angen cymeradwyaeth gan Gorff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC). Cynigir cyfres o byllau arafu dŵr yn rhan ganolog y safle i fynd i'r afael â dŵr ffo. Bydd hyn hefyd yn creu ardal agored trwy ganol y safle.

Beth yw eich barn chi am Dir yng Ngogledd-orllewin y Barri sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer 376 o unedau tai?  Sylw

Darparwyd cynllun dangosol ar gyfer Tir yng Ngogledd-orllewin y Barri. Oes gennych unrhyw sylwadau am y dyluniad a'r cynllun ac egwyddorion creu lleoedd allweddol eraill?  Sylw


Ffigur 4 - Uwchgynllun Dangosol

Cynllun darluniadol ar gyfer tir yng Ngogledd Orllewin y Barri

Safleoedd Posibl Eraill yn Ardal y Barri

4.39 Mae dau safle ymgeisiol arall sy'n cael eu dyrannu gyda defnyddiau eraill o fewn y CDLl mabwysiedig. Dangosodd yr asesiad o safleoedd ymgeisiol ar gam y Strategaeth a Ffefrir y byddent dim ond yn cael eu hystyried ymhellach os nad oedd eu hangen mwyach ar gyfer eu defnyddiau a ddyrannwyd. Ystyrir y dylid nodi'r safleoedd canlynol ar gyfer tai, yn ogystal â Gogledd Orllewin y Barri a'r safleoedd a restrir uchod.

Safle 384 Tir yn Hayes Lane, The Bendricks

4.40 Mae'r safle 1.9 Ha hwn wedi'i leoli yn ardal Bendricks yn y Barri, i'r de-ddwyrain o'r Dociau. Mae wedi'i leoli yn union i'r de o gynllun tai diweddar y Cyngor ar Hayes Wood Road ac i'r dwyrain o ddatblygiad diweddar o weithdai bach fel rhan o Ystâd Fasnachu Atlantic. Mae'r safle wedi'i ddyrannu ar gyfer defnydd cyflogaeth B1 neu B8 yn y CDLl a fabwysiadwyd. Rhagwelir pe bai'r safle yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai y gallai ddarparu ar gyfer tua 70 o anheddau.

Ffigru 5 - Tir yn Hayes Lane, The Bendricks

Map o dir yn Hayes Lane

4.41 Ar gam y Strategaeth a Ffefrir daethpwyd i'r casgliad body tir yn Hayes Lane/ Hayes Wood Road "wedi'i ddyrannu ar hyn o bryd ar gyfer cyflogaeth felly bydd addasrwydd y safle yn dibynnu ar asesiad a oes angen y defnydd hwn o hyd yn y lleoliad hwn."

4.42 Mae'r safle wedi'i ystyried fel rhan o'r Adolygiad Tir Cyflogaeth. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod galw cryf am unedau diwydiannol B2 bach a gweithdai hyblyg ac y byddai teilyngdod i barhau i ddiogelu'r safle ar gyfer cyflogaeth gan ei fod yn cynrychioli'r cam rhesymegol nesaf ar gyfer twf Ystâd Fasnachu Atlantic. Yn yr un modd, mae'r astudiaeth yn cydnabod bod gan y tir cyfagos ganiatâd cynllunio ac mae'n cael ei ddatblygu er mwyn darparu tai, a fydd yn effeithio ar natur y defnyddiau cyflogaeth a fyddai'n dderbyniol ar y safle h.y. byddai pryder am ddefnyddiau B2.

4.43 Nid hwn yw'r unig safle cyflogaeth sydd ar gael yn yr ardal gan fod tir gwag a nifer o gyfleoedd ailddatblygu mewn mannau eraill ar Ystâd Fasnachu Atlantic ac yn rhan o Ddociau'r Barri. Mae'r safleoedd eraill hyn yn bellach o ddatblygiad preswyl presennol ac felly byddai ganddynt lai o gyfyngiadau ar y mathau o ddefnyddiau a fyddai'n dderbyniol o safbwynt amwynderau cyfagos.

4.44 Mae cymeriad y rhan hon o The Bendricks wedi newid yn dilyn datblygu dau safle tai gan y Cyngor yn agos at ac o ystyried y cyfyngiad posibl ar y mathau o ddefnydd cyflogaeth a allai feddiannu'r safle, argaeledd tir arall, yr angen sylweddol am dai fforddiadwy yn ardal y Barri a'r angen ehangach i ddod o hyd i safleoedd tai sy'n gymesur â statws y Barri yn yr hierarchaeth aneddiadau, ystyrir y dylid symud y safle hwn yn ei flaen ar gyfer tai yn hytrach na pharhau i'w gadw ar gyfer cyflogaeth.

Beth yw eich barn chi ar Dir yn Hayes Lane, The Bendricks yn cael ei ddyrannu ar gyfer 70 o unedau tai?  Sylw

Safle 487 Tir yn Neptune Road, Glannau'r Barri

4.45 Mae'r safle yn safle tir llwyd gwag, siâp trionglog 0.3 Ha sy'n wynebu Neptune Road. Mae'r safle wedi'i leoli i'r gogledd o Asda Superstore ac i'r dwyrain o dir y rhoddwyd iddo yn ddiweddar ganiatâd cynllunio ar gyfer campws coleg newydd. I'r gogledd-ddwyrain mae gwesty Premier Inn ar hyn o bryd, gyda chanolfan ardal chanol ardal Barry Dockside (sy'n wag i raddau helaeth) i'r dwyrain, a fflatiau uwchben.

4.46 Mae'r safle yn rhan o safle ehangach Glannau'r Barri sydd wedi'i ddatblygu gan Gonsortiwm y Glannau ac sydd wedi'i nodi yn Uwchgynllun y Glannau ac yn y CDLl mabwysiedig fel safle i ddarparu gwesty a swyddfeydd B1 yn rhan o gymysgedd ehangach y safle strategol.

Ffigur 6 - Tir yn Neptune Road, Glannau'r Barri

Map o dir yn Neptune Road

4.47 Mae'r safle yn cael ei hyrwyddo gan berchennog y safle ochr yn ochr â Chymdeithas Tai a rhagwelir y byddai'r safle yn cael ei gyflwyno ar gyfer cynllun tai fforddiadwy 100% sy'n cynnwys fflatiau, gan fod y safle mewn lleoliad hynod gynaliadwy a fyddai'n benthyg ei hun i ddatblygiad dwysedd uchel. Gallai'r safle ddarparu ar gyfer tua 40 o unedau, a fyddai'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r angen sylweddol am dai fforddiadwy yn y Barri.

4.48 Nodwyd ar y cam Strategaeth a Ffefrir: "Ar hyn o bryd mae'r safle wedi'i ddyrannu ar gyfer gwesty a swyddfeydd B1 felly bydd addasrwydd y safle yn dibynnu ar asesiad o p'un a oes angen y defnyddiau hyn sydd wedi'u dyrannu yn y lleoliad hwn o hyd."

4.49 Mae tystiolaeth o angen ystafelloedd gwesty yn y Barri fel rhan o'r cynnig twristiaeth cyffredinol ar gyfer y dref ac Ynys y Barri. Fodd bynnag, mae angen ystyried a dyma'r safle mwyaf priodol ar gyfer y dyraniad parhaus ar gyfer gwesty o ystyried nad yw wedi'i ddwyn ymlaen hyd yma. Yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd cynllunio i westy Premier Inn sydd wedi'i leoli gyferbyn â'r safle, gan ddarparu 21 ystafell wely ychwanegol - cyfanswm o 101 o ystafelloedd gwely. Bydd hyn yn cynyddu capasiti ystafelloedd gwesty yn yr ardal.

4.50 Cyflwynwyd adroddiad marchnata sy'n nodi bod y safle wedi cael ei farchnata'n weithredol trwy ystod o fecanweithiau am gyfnod o ddwy flynedd ac er bod rhywfaint o ddiddordeb cyfyngedig gan un cwmni am westy, ni chafodd hyn ei ddilyn yn y pen draw ar sail hyfywedd. Mae'r adroddiad yn nodi bod y gost o ddarparu ystafell gwesty wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

4.51 O ran llety swyddfa, mae datganiad wedi'i gyflwyno yn dod i'r casgliad bod y farchnad swyddfeydd yn heriol, ac roedd yn annhebygol y byddai datblygiad swyddfa a ariennir gan breifat yn dod ymlaen.

4.52 Mae'n bwysig bod dyraniadau o fewn y CDLlN yn gyflawnadwy ac o ystyried y diffyg diddordeb a'r pryderon am hyfywedd y safle ar gyfer gwesty neu swyddfeydd, rhaid ystyried a fyddai defnyddiau eraill yn fwy priodol. O ystyried yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a'r cyfle y mae'r safle hwn yn ei gynnig i sicrhau 40 yn fwy o gartrefi fforddiadwy, ystyrir y dylid nodi'r safle ar gyfer tai.

Beth yw eich barn chi ar Dir yn Neptune Road, Glannau'r Barri sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer 40 o unedau tai?  Sylw

Gofyniadau Seilwaith

4.53 Cydnabyddir bod gan ddatblygiad tai newydd y potensial i roi pwysau ychwanegol ar isadeiledd yn yr ardal, gan gynnwys y rhwydwaith priffyrdd, trafnidiaeth gynaliadwy a chyfleusterau cymunedol. Fel rhan o'r broses baratoi CDLlN, mae cysylltiad agos yn digwydd rhwng rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddeall effaith bosibl datblygiad newydd ar seilwaith. Pan nad oes digon o gapasiti yn cael ei nodi, bydd yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu'r lliniaru angenrheidiol fel rhan o'r datblygiad a/neu drwy gytundebau Adran 106 i ddarparu darpariaeth ychwanegol. Gallai hyn gynnwys cyfraniadau ariannol i ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol lle bo angen, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol, mannau agored a gwelliannau trafnidiaeth gynaliadwy.

4.54 Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau a gynigir yn y dyfodol yn y Barri a'r Fro ehangach er mwyn eu galluogi i alinio'r galw â chapasiti.

Dyraniadau CDLlN eraill

4.55 Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â safleoedd yn ardal y Barri yn unig o ganlyniad i'r cynnig i gael gwared ar y Tir i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri fel safle allweddol ac yn lle cael safle allweddol newydd yng Ngogledd Orllewin y Barri.

4.56 Fel yr eglurwyd yn yr adran Cefndir uchod, mae'r Cyngor Llawn wedi cymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir fel sail ar gyfer symud ymlaen i'r cam nesaf o baratoi CDLlN, y Cam Adneuo. Roedd hyn yn cynnwys yr egwyddor o ddyrannu'r safleoedd allweddol, canolbwyntio datblygiad yn yr Ardal Twf Strategol a chaniatáu datblygiad dan arweiniad tai fforddiadwy ar raddfa fach mewn mân aneddiadau gwledig cynaliadwy.

4.57 Cynhaliwyd cyfres o weithdai Gwneud Lleoedd safle-benodol ym mis Hydref 2024 ynghylch y safleoedd allweddol yn Sain Tathan, y Rhws a Dinas Powys. Mynychwyd y gweithdai hyn yn dda gan breswylwyr a bydd yr adborth a dderbyniwyd yn helpu i fireinio'r cynigion ar gyfer y safleoedd yn y Cynllun Adneuo. Bydd cyfle pellach i wneud sylwadau ar egwyddor a manylion safle-benodol y safleoedd hyn fel rhan o'r ymgynghoriad Cynllun Adneuo a drefnir ddiwedd 2025/dechrau 2026.

4.58 Yn ogystal, bydd y Cynllun Adneuo yn cynnwys nifer o ddyraniadau llai ar gyfer tai a defnyddiau eraill a bydd partïon â diddordeb yn cael cyfle i wneud sylwadau ar y rhain yn ystod ymgynghoriad y Cynllun Adneuo. Gyda'i gilydd, bydd y safleoedd a nodwyd yn bodloni'r gofyniad am dai.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig