Housing Growth in Barry
3 Tir rhwng y B4231 a Lôn Argae, i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri
3.1 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi safle 71.1 hectar i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri ar ardal o dir amaethyddol gwerth isel yn bennaf. Ar adeg paratoi'r Strategaeth a Ffefrir ystyriwyd y gallai'r safle ddarparu hyd at 1,500 o anheddau gyda 900 o'r anheddau hyn yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfnod y cynllun hyd at 2036. Oherwydd ei raddfa, fe'i cynhwyswyd yn y Strategaeth a Ffefrir fel safle allweddol gyda'r cyfeirnod SP4 CA1.
3.2 Yn unol â'r strategaeth twf cynaliadwy, ystyrir y byddai datblygu'r raddfa a gynigir yn y lleoliad hwn yng Ngogledd Ddwyrain y Barri yn caniatáu i dai newydd gyd-fynd â chyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau i leihau'r angen i deithio. Fel y'i dangosir gan fapiau isocron amser teithio Trafnidiaeth Cymru, mae'r safle o fewn beic 10-15 munud i orsaf Tregatwg, gyda gwasanaeth pedwar trên yr awr i Gaerdydd, ac mae rhan ddeheuol y safle o fewn 20 munud ar droed i'r orsaf.
3.3 Cydnabyddir bod y safle yn gyfagos i'r A4231 Ffordd Gyswllt Dociau'r Barri ac felly byddai'n ofynnol cyflawni gwelliannau sylweddol i Deithio Llesol i wella cysylltedd â'r ardal gyfagos, gan gynnwys i orsaf Tregatwg.
3.4 O ystyried maint y datblygu sydd wedi'i gynnig, rhagwelir y byddai'r safle arfaethedig yn cwmpasu amrywiaeth o ddefnydd yn cynnwys ysgol gynradd a chanolfan bentref newydd gyda defnyddiau fel caffis, unedau manwerthu a gweithdai/unedau cydweithio. Byddai hyn yn gwasanaethu nid yn unig yr ystâd ei hun ond byddai hefyd o fudd i Ystâd Bentref Pencoedtre cyfagos, sydd â gwasanaethau a chyfleusterau cyfyngedig.
3.5 Fel y manylir yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, ar gam y Strategaeth a Ffefrir derbyniodd y safle nifer fawr o sylwadau yn gwrthwynebu'n bennaf egwyddor y datblygiad. Derbyniwyd cynrychiolaeth allweddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gododd bryderon am raddfa'r datblygiad yng Ngogledd Ddwyrain y Barri a'r agosrwydd at Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coetiroedd y Barri, oherwydd y potensial ar gyfer mynediad cyhoeddus anawdurdodedig a heb ei reoli gan arwain at ddifrod i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Roedd hyn wedi cael ei brofi mewn mannau eraill yn SoDdGA Coetiroedd y Barri yng Ngorllewin Pencoedtre. Cynghorodd CNC fod lle i leihau ardal ddatblygedig y safle a galluogi dyluniad cynaliadwy sy'n lleihau'r potensial ar gyfer effeithiau ar y SoDdGA, wrth gynnal, gwella a rheoli'r cynefinoedd pwysig sydd wedi'u cadw a'u creu ar y safle. Er y byddai'n bosibl adolygu'r cynllun darluniadol i gynnwys byffer priodol ar gyfer SoDdGA, nodir y bydd hyn yn effeithio ar ardal ddatblygadwy'r safle ac felly ar nifer yr anheddau ac o bosibl defnyddiau eraill y gellid eu lletya.
3.6 Er gwaethaf yr uchod, mae cyflawnadwyedd yn ffactor pwysig wrth gyfiawnhau cynnwys safle ac mae perchnogaeth safle yn rhan annatod o hyn. Mae'r safle yng Ngogledd Ddwyrain y Barri o dan reolaeth sawl perchennog tir gwahanol. Er bod datganiadau o fwriad i ryddhau'r safle i'w ddatblygu wedi cael eu derbyn gan y Cyngor ar gyfer nifer o'r parseli datblygu, wrth i'r cynllun fynd rhagddo, mae angen sicrwydd pellach gan yr holl bartïon ar ffurf tystiolaeth briodol, megis penawdau telerau wedi'u llofnodi, sy'n dangos ymrwymiad gan y tirfeddianwyr priodol bod cytundeb cyffredin ar ddarparu'r safle. Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu'n rhagweithiol â hyrwyddwyr y safle a chynrychiolwyr tirfeddianwyr trwy gydol y broses. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth wedi'i dderbyn ynghylch cytundeb llawn tirfeddiannwr i roi digon o hyder y gellir cyflwyno safle o'r raddfa a ragwelwyd yn wreiddiol o fewn cyfnod y cynllun. Bydd treulio mwy o amser yn ceisio datrys y materion hyn yn arwain at oedi sylweddol i amserlen yr CDLlN.
Comment on Section 3 - Land between the B4231 and Argae Lane, North East of Barry Sylw
3.7 Er y gellid darparu safle llai sy'n cynnwys llai o dirfeddianwyr, byddai hyn yn arwain at ddatblygiad llai o faint na fyddai'n gallu lletya'r cymysgedd arfaethedig o ddefnyddiau sy'n cael eu hystyried yn hanfodol dan egwyddorion creu lleoedd effeithiol ar y safle hwn, ac a fyddai'n cydfynd yn wael â'r patrwm anheddu presennol. Hefyd, byddai'n fwy heriol cyflawni'r gwelliannau teithio llesol sy'n angenrheidiol i leihau dibyniaeth ar geir yn y lleoliad.
3.8 O ystyried y materion wedi'u nodi uchod, cynigir felly beidio â chynnwys tir yng ngogledd-ddwyrain y Barri fel dyraniad yn y Cynllun Adneuo.