Housing Growth in Barry

Yn dod i ben ar 14 Gorffennaf 2025 (2 diwrnod ar ôl)

1 Cyflwyniad

1.1 Yn ddiweddar, ymgynghorodd y Cyngor ar Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i lywio lefel a dosbarthiad gofodol datblygiadau newydd, gan gynnwys tai. Fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir nodwyd pum safle allweddol ar gyfer tai yn bennaf, gan gynnwys safle allweddol i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri. Er mwyn i safleoedd gael eu cynnwys fel rhan o gam nesaf y broses, y Cynllun Adneuo, rhaid dangos bod safleoedd yn gyflawnadwy h.y. nid oes unrhyw rwystrau rhag datblygu a fyddai'n eu hatal rhag dod ymlaen o fewn cyfnod y cynllun. Ar hyn o bryd mae pryderon ynglŷn â chyflawnadwyedd y safle i Ogledd-ddwyrain y Barri a'i allu i gyflawni'r manteision disgwyliedig yn unol ag egwyddorion creu lleoedd, ac felly mae angen ailystyried gwneud hwn yn un o safleoedd allweddol y CDLlN.

1.2 Y Barri yw'r anheddiad mwyaf a mwyaf cynaliadwy ym Mro Morgannwg a dyma'r ardal lle y mae'r angen am dai fforddiadwy ar ei uchaf. Felly, mae'n briodol ac yn angenrheidiol i'r Barri ddarparu ar gyfer twf tai ychwanegol. Mae'r papur ymgynghori hwn felly yn ystyried yr opsiynau ar gyfer mwy o dai yn y Barri ac yn ceisio barn trigolion ar yr opsiynau twf hyn fel rhan o ymarfer ymgynghori cyhoeddus.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig