Housing Growth in Barry
2 Cefndir
2.1 Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i reoli tir a datblygiad dros y tymor hir. Mae'r CDLl yn nodi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Bro Morgannwg ac yn nodi ble a sut y dylai datblygu ddigwydd yn y dyfodol.
2.2 Mabwysiadwyd CDLl presennol Bro Morgannwg ym mis Mehefin 2017, ac mae'n cwmpasu'r cyfnod 2011-2026. Mae angen adolygu'r CDLl yn rheolaidd a dechreuodd y gwaith yn ffurfiol ym mis Mai 2022 ar CDLl Newydd (CDLlN) a fydd yn disodli'r CDLl presennol. Unwaith y bydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol, bydd yn cwmpasu'r cyfnod 2021-2036.
2.3 Bydd y CDLlN cynnwys dyraniadau safle ar gyfer gwahanol ddefnyddiau tir, fel tai a chyflogaeth, a pholisïau i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, diogelu'r amgylchedd, a sicrhau dyluniad o ansawdd uchel. Pan gaiff ei fabwysiadu gan y Cyngor, bydd y CDLlN yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio.
2.4 Cam allweddol yn y broses CDLlN yw paratoi 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun, sy'n cynnwys Gweledigaeth, themâu ac amcanion allweddol ar gyfer y Fro dros y 15 mlynedd nesaf, gan adnabod lefel briodol o dwf poblogaeth, tai a chyflogaeth wedi'i lywio gan sylfaen dystiolaeth eang a'r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol. Mae'r Strategaeth a Ffefrir hefyd yn nodi dosbarthiad gofodol y twf hwnnw ac yn nodi dyraniadau allweddol a pholisïau strategol a fydd yn helpu i gyflawni'r Strategaeth.
2.5 Roedd Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 10 wythnos rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2024. Roedd y Strategaeth yn ceisio hyrwyddo datblygiad mewn Ardal Twf Strategol, ardal sy'n darparu ar gyfer prif ganolfannau poblogaeth ac aneddiadau trefol sy'n cael eu gwasanaethu gan ystod o gyfleusterau a gwasanaethau ac sy'n hygyrch gan ddulliau trafnidiaeth, gan gynnwys rheilffordd Bro Morgannwg. O fewn yr Ardal Twf Strategol, mae'r Barri fel anheddiad allweddol, ac aneddiadau canolfannau gwasanaeth Llanilltud Fawr, Penarth a'r Bont-faen, yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy. Mae prif aneddiadau Sili, Dinas Powys, Llandochau (Penarth), Y Rhws a Sain Tathan hefyd wedi'u cynnwys yn yr Ardal Twf Strategol, gan fod y rhain yn lleoliadau cynaliadwy lle gellir cynllunio datblygiadau preswyl newydd i gyd-fynd â defnyddiau eraill a lle mae opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy presennol ac arfaethedig i leihau'r angen i deithio mewn car.
2.6 Ym mis Medi 2024 bu'r Cyngor llawn yn ystyried Strategaeth a Ffefrir y CDLlN, a chytunwyd y dylai'r Strategaeth a Ffefrir fynd ymlaen i fod yn sail i'r Cynllun Adnau, y cam nesaf o baratoi'r cynllun. Mae'r Strategaeth yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- Darparu lefel gynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth wedi'i gefnogi gan seilwaith priodol i gyd-fynd â safle'r Fro ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Cydgynllunio lleoliadau tai, cyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau newydd i leihau'r angen am deithio.
- Canolbwyntio datblygiadau mewn lleoliadau sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan orsafoedd rheilffyrdd presennol ac arfaethedig fel rhan o gynllun Metro De Cymru ac mewn ardaloedd sydd â chysylltiadau bws da.
- Caniatáu ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach ar gyfer tai fforddiadwy yn bennaf mewn aneddiadau y tu allan i'r Ardal Twf Strategol ar raddfa gymesur â maint yr anheddiad.
- Ategu rôl Maes Awyr Caerdydd fel porth strategol ar gyfer cysylltedd rhyngwladol.
- Caniatáu ar gyfer cyfleoedd adfywio, gan gynnwys yn Aberddawan a Dociau'r Barri.
2.7 Elfen allweddol o'r strategaeth yw lefel y twf a gynigir dros gyfnod y cynllun. Mae gofyniad tai o 7,890 o anheddau newydd wedi'i nodi gyda hyblygrwydd pellach o 10% yn cael ei ychwanegu at hyn rhag ofn y methir â chyflawni rhai cynlluniau. Gall cyfran sylweddol o'r gofyniad tai gael ei ddiwallu gan y cyflenwad tir tai presennol (safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio a safleoedd y gellir eu cyflawni o'r CDLl mabwysiedig) a hefyd hap-safleoedd (safleoedd heb eu dyrannu sy'n dod ar gael i'w datblygu), ond mae angen nodi safleoedd tai newydd hefyd.
2.8 Nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir 5 safle allweddol newydd ar safleoedd cynaliadwy o fewn yr ardal twf strategol. Er mwyn dyrannu safle, rhaid dangos ei fod yn unol ag egwyddorion creu lleoedd, a hefyd ei fod yn ariannol hyfyw a chyflawnadwy o fewn cyfnod y cynllun. Mae safle cyflawnadwy yn un sydd yn gyffredinol heb gyfyngiadau, neu lle gellir dangos y gellir goresgyn unrhyw rwystrau rhag ei gyflawni. Bydd natur y cyfyngiadau yn wahanol o safle i safle, ond un o'r ystyriaethau sy'n gyffredin i bob safle yw perchnogaeth tir.
2.9 Fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Adneuo, mae gwaith pellach yn cael ei wneud i ddeall a mynd i'r afael â'r cyfyngiadau safle-benodol pob safle.
2.10 Y safle allweddol mwyaf yw Tir yng Ngogledd-ddwyrain y Barri a gafodd ei gynnwys yn y Strategaeth a Ffefrir fel y prif ffocws ar gyfer twf yn ardal y Barri yn y dyfodol. Esbonnir cefndir y safle a phryderon cyflawnadwyedd, yn benodol yn ymwneud â pherchnogaeth tir, yn yr adran nesaf.