Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol Cam 2

Daeth i ben ar 14 Chwefror 2024
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Rhagair

Yn unol â Chytundeb Cyflawni a gymeradwywyd gan y Cyngor, gwahoddwyd tirfeddianwyr, datblygwyr, a phartïon eraill â diddordeb i enwebu 'Safleoedd Ymgeisiol' ar gyfer cynhwysiant posibl o fewn Cynllun Datblygu Lleol newydd Bro Morgannwg (RLDP), sy'n dod i'r amlwg, fel rhan o'r cam paratoi cyn-adneuo. Cafodd yr alwad am Safleoedd Ymgeisiol ei chynnal rhwng 20 Mehefin 2022 a 13 Rhagfyr 2022. Pwrpas cam y Safle Ymgeisiol yw sicrhau, os caiff tir ei ddyrannu ar gyfer datblygu yn yr CDLlN, bod safleoedd yn realistig a chyflawnadwy o fewn cyfnod y Cynllun, hyd at 2036.

Mae'n bwysig nodi, ar hyn o bryd, nad yw cynnwys safle yng Nghofrestr Safle Ymgeiswyr ynawgrymu y bydd safle'n cael ei ddyrannu o fewn yr CDLlN sy'n dod i'r amlwg, ac nid yw'n awgrymu unrhyw ffafriaeth gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch ei rinweddau.

Defnyddiwyd y wybodaeth a ddarparwyd ar y Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol (sydd wedi'i gwirio gan Swyddogion y Cyngor), ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol a gyflwynwyd, i asesu safleoedd i'w cynnwys o bosib o fewn y cynigion cyn-adneuo a/neu'r CDLl adneuo. Mae'r asesiad hwn hefyd yn cynnwys Arfarniad Cynaliadwyedd o'r safleoedd hynny.

Mae mynegai o'r Safleoedd Ymgeisiol yn dilyn y rhagair hwn. Mae'r safleoedd yn cael eu categoreiddio fel rhai sy'n pasio neu'n methu Asesiad Cam 1 a 2, fel y'i diffinnir gan y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Yna rhestrir y safleoedd yn nhrefn yr wyddor fesul Anheddiad. Mae'r Gofrestr ei hun yn darparu map lleoliad o'r safle, ynghyd â gwybodaeth gyfyngedig yn cynnwys: pam mae wedi pasio/methu'r Asesiad Cam 1 a 2, y defnydd presennol a'r defnydd arfaethedig o'r safle, maint y safle a rhif adnabod unigryw y safle. Mae manylion y broses asesu lawn a ddefnyddir i ystyried cyflwyniadau Safle Ymgeisiol ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/Living/Planning/Policy/RLDP/VOGC-Candidate-Site-Assessment-Methodology.pdf

Fel rhan o'r ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir, mae gan bartïon â diddordeb gyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma yn https://valeofglamorgan.oc2.uk/cy/document/30.

Sylwch mai asesiad cychwynnol yw hwn ar hyn o bryd ac efallai y bydd statws safleoedd yn newid yng ngoleuni gwybodaeth ychwanegol.

Bydd unrhyw geisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno ar Safleoedd Ymgeisiol yn parhau i gael eu hasesu yn y ffordd arferol o dan bolisïau perthnasol Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig Bro Morgannwg, hyd nes y cânt eu disodli gan y CDLlN.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig