Candidate Site Submission

Daeth i ben ar 13 Medi 2022
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Bro Morgannwg 2021-2036

Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol

Nid yw'r weithred o gyflwyno safle ymgeisiol yn rhoi unrhyw sicrwydd y caiff y safle ei ddyrannu yn y CDLl Newydd. Bydd y Cyngor yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen cyflwyno safle i gynnal asesiad manwl o'r safle. Gellir gweld y fethodoleg asesu safleoedd a ddefnyddir i asesu'r safleoedd ymgeisiol a gyflwynir ar-lein, ac yn y lleoliadau canlynol yn ystod oriau agor arferol:

  • Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
  • Llyfrgell y Barri
  • Llyfrgell y Bont-faen
  • Llyfrgell Llanilltud Fawr
  • Llyfrgell Penarth 

Rhaid llenwi ffurflen safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob safle a gyflwynir. Os cynigir defnyddiau amgen ar gyfer yr un safle, bydd angen cyflwyno ffurflen safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob defnydd. Caniateir llungopïo'r ffurflen hon os oes angen. 

Mae'r ffurflen safle ymgeisiol yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn cynnal asesiad trylwyr. Mae hi felly'n bwysig eich bod yn llenwi pob rhan o'r ffurflen. Bydd angen ichi hefyd ddarparu map o'r safle ymgeisiol er mwyn gallu cofrestru'r cyflwyniad.

Mae'r holl wybodaeth a geisir ar y ffurflen ar gael i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi darparu mynediad at offeryn mapio ar-lein a fydd o gymorth ichi lenwi rhai rhannau o'r ffurflen safle ymgeisiol. Mae'r symbol  ar y ffurflen ac yn y nodiadau canllaw yn golygu bod yr wybodaeth ofynnol ar gael drwy'r offeryn mapio.

Mae'r Cyngor wedi paratoi nodiadau canllaw er mwyn cynorthwyo hyrwyddwyr i lenwi'r ffurflen safle ymgeisiol. 

Bydd yr 'Alwad' am safleoedd ymgeisiol yn cael ei chynnal rhwng 20 Mehefin 2022 - 13 Medi 2022. Dylid dychwelyd  ffurflenni safle ymgeisiol erbyn 13 Medi 2022. 

Mae'n well gan y Cyngor i safleoedd ymgeisiol gael eu cyflwyno'n electronig drwy'r porthol ar-lein ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, bydd hefyd yn derbyn safleoedd ymgeisiol a gyflwynir drwy ddulliau eraill.

Mae'r ffurflen safle ymgeisiol ar gael mewn fformatau eraill ar gais, ee, Saesneg, print bras.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth.

Ar 25 Mai 2018, daeth y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) i rym gan osod cyfyngiadau newydd ar y modd y gall sefydliadau ddal a defnyddio eich data personol, a diffinio eich hawliau mewn perthynas â'r data hynny. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelir inni yn cael ei phrosesu'n unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd. 

Bydd yr holl safleoedd ymgeisiol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar ffurf cofrestr safleoedd ymgeisiol, ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion safleoedd ymgeisiol hefyd yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel bo modd asesu'r safleoedd hynny yn rhan o broses y CDLl Newydd. Ni chynhwysir unrhyw wybodaeth bersonol yn rhan o hyn.
Bydd manylion cyswllt yr holl hyrwyddwyr safleoedd a'u hasiantwyr (lle bo'n briodol) yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata CDLl Newydd y Cyngor.  Bydd y Cyngor yn gohebu â'r holl randdeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall.

Sylwer: Er mwyn i safle gael ei ystyried fel Safle Ymgeisiol bydd yn rhaid iddo fodloni un o'r trothwyon canlynol ar gyfer safleoedd:

Ar gyfer datblygiad preswyl - Mae trothwy maint safle gofynnol o 0.3 ha neu 10 annedd, ar ddwysedd o 30 annedd yr hectar [net] o leiaf. Mewn 'lleoliadau trefol' priodol e.e. canol tref y Barri bydd y Cyngor yn ceisio isafswm dwysedd o 50 annedd yr hectar [net] yn unol â'r egwyddorion strategol ar gyfer creu lleoedd yng Nghymru'r Dyfodol.

Ar gyfer datblygiadau amhreswyl - Mae'n rhaid i adeilad gynnwys isafswm o 1,000m² o arwynebedd llawr, neu mae'n rhaid i'r safle gynnwys isafswm o 1ha o arwynebedd gros.

Nid oes trothwy gofynnol ar gyfer safleoedd sy'n ceisio diogelu defnyddiau tir cyfredol neu gynnig safleoedd llety i sipsiwn a theithwyr, defnyddiau cymunedol, mannau gwyrdd, a defnyddiau seilwaith

Ni fydd safleoedd ymgeisiol sy'n is na'r trothwyon hyn yn cael eu derbyn i ddibenion yr ymarfer hwn. Os bydd safle'n cael ei gynnig ar gyfer cymysgedd defnyddiau ddatblygiad, dylid defnyddio'r trothwy sy'n cyfateb i'r prif fath o ddatblygiad.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig